Canllawiau statudol

Gorfodi Deddf Ifori 2018 a sancsiynau sifil

Diweddarwyd 6 June 2022

Mae’r canllawiau statudol hyn yn esbonio’r fframwaith gorfodi a’r sancsiynau sifil sy’n berthnasol pan fydd rhywun yn troseddu o dan Ddeddf Ifori 2018.

Mae Deddf Ifori 2018 yn gwahardd pobl rhag delio mewn ifori. Mae’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig (DU). Mae hyn yn cynnwys unrhyw offerynnau statudol a wneir o dan y Ddeddf.

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i unrhyw un sy’n delio mewn ifori, neu i unrhyw un sy’n achosi neu’n trefnu i rywun arall ddelio mewn ifori neu’n ei helpu i wneud hynny. Mae’n cynnwys:

  • unrhyw aelod o’r cyhoedd
  • busnesau a’u gweithwyr, megis cyfarwyddwr, rheolwr, partner neu ysgrifennydd
  • aelodau o sefydliad lle bydd yr aelodau’n rheoli ei swyddogaethau
  • pobl sydd am fewnforio ifori i’r DU neu ei allforio oddi yma

1. Troseddau a gorfodi

Mae trosedd o dan Ddeddf Ifori 2018 yn berthnasol i bobl sy’n gwerthu ac i bobl sy’n prynu eitem ifori, yn ogystal ag i unrhyw un sy’n ymwneud â delio mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, os byddwch chi’n trefnu i werthu eitem ifori, yn hysbysebu eitem ifori neu’n cadw eitem ifori mewn siop i’w gwerthu.

Mae delio yn cynnwys:

  • prynu ifori
  • gwerthu ifori neu gadw ifori i’w werthu
  • llogi ifori neu gadw ifori i’w logi
  • cynnig neu drefnu i brynu, gwerthu neu logi ifori
  • allforio ifori o’r DU i’w werthu neu i’w logi
  • mewnforio ifori i’r DU i’w werthu neu i’w logi

O dan Ddeddf Ifori 2018, ystyr ifori yw ifori sydd wedi dod o ysgithryn neu ddant eliffant. Mae’n bosibl y caiff y diffiniad ei ddiwygio gan reoliadau yn y dyfodol i gynnwys rhywogaethau eraill. Oni allwch chi brofi’n wahanol, cymerir yn ganiataol bod eitemau sydd wedi’u gwneud o ifori wedi’u gwneud o ifori eliffant.

Os ydych yn gwybod neu’n amau, neu y dylech fod wedi gwybod neu amau, mai ifori yw’r eitem, ei bod wedi’i gwneud o ifori neu ei bod yn cynnwys ifori, byddwch yn troseddu wrth ei phrynu neu ei gwerthu. Os ydych chi wedi troseddu, fe allech wynebu sancsiynau sifil neu erlyniad troseddol.

Eitemau ifori wedi’u heithrio

Mae 5 categori o eitemau ifori a all fod wedi’u heithrio o’r gwaharddiad, os byddant yn bodloni meini prawf penodol:

  • eitemau cyn-1918 ac iddynt werth a phwysigrwydd artistig, diwylliannol neu hanesyddol eithriadol
  • mân-luniau portreadau cyn-1918
  • eitemau cyn-1947 nad ydynt ond yn cynnwys ychydig o ifori
  • offerynnau cerdd cyn-1975
  • eitemau sydd wedi’u caffael gan amgueddfeydd cymwys

Os bydd gennych eitem ifori sydd, yn eich barn chi, yn perthyn i un o’r categorïau eithrio, cewch wneud cais i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) am un o’r rhain:

  • tystysgrif eithrio ar gyfer eitemau cyn-1918 ac iddynt werth a phwysigrwydd artistig, diwylliannol neu hanesyddol eithriadol
  • cofrestru eitemau eithriedig eraill

Pwerau gorfodi ac ymchwilio

Mae gorfodi sancsiynau sifil y Ddeddf Ifori yn cael ei reoleiddio gan APHA ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Yn y canllawiau hyn, ystyr ‘ni’ fydd APHA neu barti arall sy’n gweithredu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

Mae llawer o bartïon yn ymwneud â gorfodi Deddf Ifori 2018 gan gynnwys yr heddlu, swyddogion tollau a gwasanaethau erlyn. Mae gan yr heddlu, swyddogion tollau a swyddogion sifil achrededig (ACOs) bwerau penodol i ymchwilio i chi ac i weithredu os nad ydych yn cydymffurfio neu os byddant yn amau nad ydych yn cydymffurfio.

Gall yr heddlu a swyddogion tollau:

  • stopio a chwilio pobl neu gerbydau a chwilio eiddo
  • mynd ar fwrdd llongau neu awyrennau a’u chwilio
  • gwneud cais am warant chwilio
  • archwilio ac atafaelu eitemau
  • gofyn ichi ddarparu unrhyw ddogfennau perthnasol, archwilio a chymryd y dogfennau hynny Penodir ac awdurdodir ACOs gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Ar ôl i’r ACO eich hysbysu, caiff wneud y canlynol:
  • mynd i mewn i eiddo i asesu cydymffurfiaeth
  • mynd i mewn i eiddo lle bydd sail resymol dros amau bod tystiolaeth berthnasol
  • cynnal archwiliadau
  • gofyn ichi ddarparu unrhyw ddogfennau perthnasol, archwilio a chymryd y dogfennau hynny
  • atafaelu a chadw eitemau perthnasol

Pan fyddwn yn dod o hyd i dystiolaeth sy’n berthnasol i drosedd, byddwn yn ystyried a yw’n briodol erlyn ynteu a yw’r mater yn addas i gael ei drin drwy sancsiwn sifil. Lle na fydd nac erlyn na sancsiynau sifil yn briodol efallai y byddwn yn penderfynu rhoi rhybudd ar ffurf cyngor.

Os bydd y drosedd yn cwmpasu sawl gwlad, byddwn yn ceisio sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gydlynu o’r cam cynharaf posibl, fel mai dim ond un ymchwiliad ac erlyniad sy’n digwydd.

Mae’r canllawiau hyn yn ychwanegol at bolisi gorfodi cyffredinol Defra.

Sancsiynau sifil

Bydd trosedd lai difrifol yn fwy tebygol o arwain at sancsiynau sifil, yn hytrach nag at achos troseddol. Dyma ambell ffactor a allai olygu bod trosedd yn llai difrifol ond nid yw’r rhestr hon yn cynnwys pob peth:

  • trosedd tro cyntaf
  • trosedd untro
  • trosedd ar raddfa fechan
  • trosedd sy’n ymwneud ag eitem isel ei gwerth
  • dim bwriad o dwyllo
  • gwerthwr preifat unigol
  • unigolyn diamddiffyn yn cyflawni’r drosedd
  • dibynnu ar gyngor trydydd parti neu broffesiynol

Bydd y sancsiwn sifil a roddir i chi yn dibynnu ar ddifrifoldeb, amgylchiadau, natur (math, bwriad a graddfa) ac effaith y drosedd a’r hyn y gellir ei wneud i unioni’r sefyllfa.

Gall y math o gosb sifil a gewch ddibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys:

  • gwerth gwerthu’r eitem ifori a fasnachwyd
  • ai unigolyn ynteu busnes ydych chi
  • faint o fai sydd arnoch chi
  • pa mor aml yr ydych chi wedi troseddu o dan Ddeddf Ifori 2018
  • a oedd yn fwriad gennych dwyllo
  • sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau
  • sicrhau eich bod yn cydymffurfio yn y dyfodol
  • eich rhwystro chi ac eraill rhag cyflawni troseddau eraill

Bydd sancsiynau sifil yn gymesur â’r drosedd a’u bwriad yw:

  • mynd i’r afael â’r diffyg cydymffurfio mewn da bryd
  • lleihau’r tebygolrwydd o ddiffyg cydymffurfio yn y dyfodol
  • lleihau unrhyw niwed sy’n gysylltiedig â’r diffyg cydymffurfio
  • galluogi gorfodaeth gynyddol i sicrhau cydymffurfiaeth

Mae 3 sancsiwn sifil o dan y Ddeddf:

  1. Ymrwymiadau gorfodi.
  2. Hysbysiadau atal.
  3. Cosbau ariannol hyd at £250,000.

Os byddwch wedi cyflawni mân drosedd a bod modd unioni’r sefyllfa’n hawdd, efallai y rhoddir cyngor ichi (ar lafar neu’n ysgrifenedig) i’ch atgoffa bod angen ufuddhau i’r gyfraith. Er enghraifft, os byddwch chi wedi gwneud un camgymeriad gweinyddol yn unig.

Nid yw hyn yn eich atal rhag wynebu sancsiynau sifil neu achosion troseddol yn y dyfodol am yr un fân drosedd neu os bydd tystiolaeth ddiweddarach yn dangos bod y drosedd yn fwy difrifol.

Os anfonir cyngor atoch, caiff ei anfon ar ffurf llythyr cynghori. Byddwn yn cadw’r llythyr hwn ar ein ffeil. Bydd APHA yn cadw cofnodion swyddogol o’ch hanes cydymffurfio yn dystiolaeth. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw gyngor ynghylch mân drosedd a roddir ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Mewn ambell achos efallai y bydd 2 neu fwy o bobl yn gysylltiedig â throsedd. Er enghraifft, gall gwerthu un eitem ifori gynnwys troseddau gan un o’r canlynol:

  • prynwr
  • gwerthwr
  • rhywun sydd wedi hwyluso’r gwerthiant
  • trydydd parti’n rhoi cyngor

Byddwn yn ystyried rhan pob un yn y drosedd. Gall y sancsiynau sifil neu achosion troseddol fod yn wahanol ar gyfer pob unigolyn.

Os bydd rhywun wedi dibynnu ar gyngor trydydd parti byddwn hefyd yn ystyried eu rhan hwythau mewn unrhyw drosedd a gyflawnwyd.

Erlyniadau troseddol

O dan rai amgylchiadau, efallai y byddwch yn wynebu erlyniad troseddol. Er enghraifft, os bydd y drosedd yn rhy ddifrifol inni roi sancsiwn sifil neu os byddwch yn gwadu’r drosedd a’ch rhan chi ynddi.

Dyma rai o’r ffactorau a allai olygu bod trosedd yn fwy difrifol, ond gall fod ffactorau eraill hefyd:

  • troseddu ar raddfa fawr (gan gynnwys gwerth, maint ac amlder y troseddu)
  • mewnforio i’r DU neu allforio o’r DU
  • cyflawni mwy nag un drosedd
  • troseddau’n parhau dros gyfnod hwy
  • troseddu gan fusnes
  • ceisio celu’r drosedd neu’ch gweithgaredd anghyfreithlon
  • ar bwy mae’ch gweithredoedd wedi effeithio neu pwy maent wedi’u niweidio
  • parhau i dorri’r gyfraith ar ôl wynebu camau gorfodi eraill
  • peidio â chydymffurfio â hysbysiad atal
  • rhwystro swyddog o’r heddlu, swyddog tollau neu ACO - yn yr cyswllt hwn, gallech wynebu carchar, dirwy neu’r ddau

Gallwn ystyried unrhyw un o’r canlynol cyn penderfynu a ydym am gychwyn achos troseddol:

  • effaith neu effaith bosibl y drosedd ar yr amgylchedd, ar bobl neu ar anifeiliaid
  • eich ymateb i gyngor ac arweiniad blaenorol
  • faint yr ydych wedi elwa, yn ariannol neu mewn unrhyw ffordd arall

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth a bydd ffactorau perthnasol eraill yn cael eu hystyried wrth benderfynu pa gosb sy’n briodol.

Dyma’r mathau o erlyn troseddol y gallech eu hwynebu ac fe allent gynnwys un neu fwy nag un o’r rhain:

  • dirwy
  • dedfryd o garchar
  • unrhyw sancsiynau eraill sydd ar gael i’r llysoedd

Bydd erlyniadau troseddol yn cael eu cynnal gan:

Gall y Cwnsler Cyffredinol yng Nghymru hefyd gynnal erlyniadau.

Byddwn yn dilyn y gweithdrefnau erlyn hyn wrth benderfynu a ddylid cyflwyno achos ar gyfer erlyniad troseddol.

2. Ymrwymiadau gorfodi

Os bydd gennym sail resymol dros amau eich bod wedi troseddu, efallai y cewch gynnig ymrwymiad gorfodi i unioni’r sefyllfa.

Cytundeb rhyngoch chi ac APHA fydd ymrwymiad gorfodi a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol ichi gymryd camau penodol o fewn cyfnod penodol, er mwyn:

  • atal y troseddu ar y cyfle cynharaf
  • adfer y sefyllfa i’r sefyllfa a fyddai wedi bodoli pe na bai’r drosedd wedi’i chyflawni (os oes modd)
  • sicrhau nad fydd y drosedd yn parhau nac yn digwydd eto

Efallai y byddwn yn gofyn ichi ystyried ymrwymiad gorfodi. Os ydym wedi ysgrifennu atoch, rhaid i chi ymateb o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad pan anfonwyd yr hysbysiad ysgrifenedig atoch.

Gallwch hefyd awgrymu ymrwymiad gorfodi inni ei ystyried.

Rhaid i ymrwymiad gorfodi gynnwys:

  • y dyddiad y daeth y drosedd i ben, neu’r dyddiad y daw i ben (pa un bynnag yw’r cynharaf)
  • manylion pob gweithred ar eich rhan neu bob cam y byddwch yn ei gymryd
  • y dyddiad y byddwch yn cwblhau pob gweithred neu gam

Mae ymrwymiadau gorfodi yn fwy tebygol o fod yn dderbyniol os byddwch chi wedi:

  • dangos parodrwydd i ddad-wneud y trafodiad - er enghraifft, ad-dalu’r arian a enillwyd wrth werthu’r eitem ifori
  • atal y drosedd ac unrhyw gamau cysylltiedig

Os byddwch yn cydymffurfio’n llwyr â holl delerau’r ymrwymiad gorfodi:

  • ni fyddwn yn mynd ar drywydd euogfarn am drosedd o dan Adran 12 o Ddeddf Ifori 2018 gyda golwg ar y drosedd yr ydych wedi’i chyflawni
  • ni fyddwn yn eich cosbi’n ariannol am y drosedd yr ydych wedi’i chyflawni

Cynnig a derbyn

Bydd cynigion ymrwymiadau gorfodi yn cael eu hystyried fesul achos. Byddwn yn penderfynu:

  • a yw’r cynnig yn cynnwys digon o fanylion am y drosedd ac unrhyw gamau y byddwch yn eu cymryd i atal y drosedd honno
  • a yw’r cyfnod penodedig a’r ymrwymiad gorfodi arfaethedig yn gymesur, yn briodol ac yn ymarferol, ac ystyried natur, difrifoldeb ac amgylchiadau’r drosedd
  • a ddylid derbyn gwrthgynnig neu wneud gwrthgynnig a dibynnu ar eich parodrwydd i dderbyn unrhyw wrthgynnig - byddwn yn penderfynu pa bryd i atal y broses gwrthgynnig
  • a ydych chi wedi gwneud y cynnig fel ymateb di-oed a rhagweithiol i’r drosedd
  • a yw’r ymrwymiad yn gymesur ac ystyried unrhyw ddiffyg cydymffurfio blaenorol o dan Ddeddf Ifori 2018, gan gynnwys sancsiynau sifil neu erlyniad blaenorol
  • a oes tystiolaeth o ymrwymiad cadarnhaol i’r camau gweithredu arfaethedig ac, os busnes sydd dan sylw, a yw’r ymrwymiad hwn yn amlwg ar lefel briodol o’r busnes
  • a ydym yn credu ei bod yn debygol y byddwch yn cadw at eich ymrwymiad, gan ystyried eich cynnig ymrwymo a gwybodaeth o unrhyw ffynhonnell arall
  • a yw’r camau gweithredu arfaethedig er mwyn mynd i’r afael â’r drosedd i bob golwg yn ddigonol i sicrhau na fydd y drosedd yn parhau
  • a yw’r camau gweithredu arfaethedig i atal troseddu yn y dyfodol (lle bo hyn yn berthnasol) yn ddigonol
  • a yw’r camau a gynigir yn ddigonol i adfer y sefyllfa (os oes modd) i’r sefyllfa a fyddai wedi bodoli pe na bai’r drosedd wedi’i chyflawni

Cawn naill ai dderbyn neu wrthod cynnig ar gyfer ymrwymiad gorfodi.

Fel arfer byddwn yn penderfynu a ydym am dderbyn ymrwymiad gorfodi o fewn 28 diwrnod inni dderbyn cynnig. Mae’n bosibl y bydd oedi wrth benderfynu os byddwn yn teimlo bod angen casglu rhagor o wybodaeth i lywio ein penderfyniad. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn ceisio rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau.

Mae’r enghreifftiau isod yn dangos sut y gallem fynd ati i ddelio â throsedd. Nid yw hyn er hynny’n golygu y bydd yr un peth yn digwydd ym mhob achos. Byddwn yn ystyried y ffeithiau a’r amgylchiadau sy’n berthnasol i bob achos penodol ac mae’n bosibl y byddwn yn penderfynu cymryd camau gwahanol.

Enghraifft o ymrwymiad gorfodi am drosedd tro cyntaf

Mae rhywun wedi hysbysebu bod offeryn cerdd cyn-1975 ar werth. Nid yw’r eitem wedi’i chofrestru ac mae’n cynnwys llai nag 20% o ifori. Dylai’r unigolyn fod wedi gwybod bod yr eitem yn cynnwys ifori a bod angen ei chofrestru o dan adran 10 o’r Ddeddf. Mae’r unigolyn yn cynnig ymrwymiad gorfodi i APHA i dynnu’r eitem oddi ar y farchnad ar unwaith nes ei bod wedi’i chofrestru’n briodol.

Yn ein barn ni, mae’r cynnig ymrwymiad gorfodi yn ymateb rhagweithiol ac rydym yn fodlon bod hynny’n ymateb cymesur i’r drosedd tro cyntaf hon. Anfonir llythyr yn derbyn y cynnig at yr unigolyn.

Enghraifft o wrthod cynnig ymrwymiad gorfodi

Mae busnes wedi cofrestru eitem ifori ac yn hysbysebu ei bod ar werth o dan yr eithriad ar gyfer eitemau cyn-1947 sy’n cynnwys ychydig iawn o ifori o dan adran 7 o’r Ddeddf (rhaid i ganran yr ifori fod yn llai na 10% o’r cyfan). Wrth ei harchwilio, mae’n amlwg nad yw’r eitem yn bodloni’r eithriad ifori llai na 10%, nac unrhyw eithriad arall. Mae cynrychiolydd busnes yn cynnig ymrwymiad gorfodi inni.

Credwn fod angen casglu rhagor o wybodaeth i lywio ein penderfyniad. Wrth gael rhagor o wybodaeth sylweddolir bod y busnes hwn wedi troseddu o’r blaen o dan y Ddeddf. Rydym yn gwrthod y cynnig ar y sail bod y camau a gynigir i atal troseddu yn y dyfodol i bob golwg yn annigonol er mwyn sicrhau na fydd y drosedd yn digwydd eto. Rydym yn gosod cosb ariannol ar y busnes o unrhyw swm hyd at yr uchafswm sef £250,000.

Amrywiad

Os bydd angen i chi amrywio’r camau gweithredu sydd wedi’u rhestru yn yr ymrwymiad gorfodi neu newid y cyfnod a bennwyd i’w cwblhau, dim ond os byddwn yn cytuno i hynny y cewch chi wneud hyn.

Cawn naill ai dderbyn neu wrthod cais am amrywio ymrwymiad gorfodi. Ar gyfer gwrthgynigion, byddwn hefyd yn penderfynu ar yr amserlen a’r penderfyniad i atal y broses gwrthgynnig.

Os bydd angen ichi amrywio’r ymrwymiad neu os na allwch gwblhau’r ymrwymiad gorfodi o fewn y cyfnod a bennwyd, o dan rai amgylchiadau efallai y byddwn yn penderfynu estyn y cyfnod. Er enghraifft, os byddwch chi’n sâl. Rhaid ichi egluro eich sefyllfa a manylion y cais am gael amrywio’r ymrwymiad i APHA naill ai drwy e-bost at ivoryce@apha.gov.uk neu drwy’r post at:

Tîm Cydymffurfiaeth a Gorfodaeth Ifori
Canolfan Masnach Ryngwladol – Bryste
Horizon House
Deanery Road
Bryste
BS1 5AH

Os yw’n amhosibl ichi gydymffurfio â’r ymrwymiad gorfodi oherwydd digwyddiadau sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth, rhaid i chi (neu unrhyw un arall sy’n gweithredu ar eich rhan) esbonio’r rheswm dros hynny a’i anfon atom. Er enghraifft, os byddwch chi yn yr ysbyty neu mewn damwain car.

Ar ôl ystyried eich cais am amrywio’r ymrwymiad byddwn naill ai:

  • yn estyn y cyfnod ar gyfer cydymffurfio
  • yn amrywio telerau’r ymrwymiad
  • yn gwrthod eich cais

Byddwn yn rhoi gwybod ichi am ein penderfyniad o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y cawsom eich cais am amrywio. Os credwch ei bod bellach yn amhosibl i chi gydymffurfio’n llwyr neu’n rhannol â’r ymrwymiad, rhaid i chi roi gwybod inni am hyn:

  • yn ysgrifenedig
  • gan nodi manylion y telerau nad ydych wedi cydymffurfio â hwy
  • gan ddweud pam y credwch ei bod yn amhosibl ichi gydymffurfio’n llwyr neu’n rhannol â’r ymrwymiad
  • a hyn cyn diwedd unrhyw gyfnod a bennwyd yn yr ymrwymiad ar gyfer cydymffurfio

Os credwn eich bod wedi rhoi digon o resymau a gwybodaeth i ddangos ei bod yn amhosibl ichi gydymffurfio â thelerau llawn yr ymrwymiad gorfodi, efallai y byddwn yn penderfynu:

  • estyn y cyfnod
  • amrywio’r telerau
  • eich trin fel petaech wedi cydymffurfio
  • gwrthod eich cais

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod ichi am ein penderfyniad o fewn 28 diwrnod inni gael eich cais ysgrifenedig.

Gwneud cynnig, gwrthgynnig neu ofyn am amrywiad

Defnyddiwch y ffurflen cynnig ymrwymiad gorfodi i wneud y canlynol:

  • cynnig ymrwymiad gorfodi
  • gwneud gwrthgynnig
  • gofyn am amrywiad i ymrwymiad gorfodi

Os byddwn yn derbyn eich cynnig, eich gwrthgynnig neu’ch cais am amrywiad, byddwn yn rhoi gwybod ichi am hynny. Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod ichi am ein penderfyniad o fewn 28 diwrnod inni gael eich cynnig, eich gwrthgynnig neu’ch cais am amrywiad.

Os byddwn yn dweud mai dim ond os byddwch yn newid eich cynnig y byddwn yn ei dderbyn, rhaid ichi ymateb o fewn 28 diwrnod inni anfon yr hysbysiad atoch chi. Rhaid i’ch ateb gynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • cynnig diwygiedig
  • cadarnhad na fyddwch yn cynnig ymrwymiad arall eto

Byddwn yn rhoi gwybod i chi sut yr ydym yn meddwl delio â’r drosedd. Er enghraifft:

  • ein bod wedi penderfynu gwrthod eich cynnig neu’ch cynnig diwygiedig
  • eich bod wedi rhoi gwybod inni na fyddwch yn gwneud cynnig arall
  • nad ydych wedi gwneud cynnig neu gynnig diwygiedig erbyn y dyddiad cau
  • y bydd angen inni ymchwilio ymhellach i’r drosedd honedig

Os byddwn yn gwrthod eich cynnig neu’ch cynnig diwygiedig, byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad pan gawsom eich cynnig.

Os byddwch wedi rhoi gwybod inni na fyddwch yn gwneud cynnig arall, byddwn yn anfon yr hysbysiad atoch o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad pan gawsom eich hysbysiad.

Os nad ydych wedi gwneud cynnig neu gynnig diwygiedig erbyn y dyddiad cau, byddwn yn anfon yr hysbysiad atoch 30 diwrnod ar ôl y dyddiad diwethaf inni ysgrifennu atoch.

Os bydd ymrwymiad gorfodi yn cynnwys ad-dalu arian a enillwyd drwy ddelio eitem ifori, rhaid i’r cytundeb nodi:

  • y byddwch yn dychwelyd yr arian a wnaethoch drwy ddelio’r eitem ifori
  • pa bryd y byddwch chi’n talu
  • i bwy y byddwch chi’n talu’r arian
  • sut y byddwch chi’n talu

Os bydd yr ymrwymiad gorfodi yn cynnwys atal unrhyw weithgareddau sydd wedi’u gwahardd, rhaid i’r cytundeb nodi:

  • pa bryd y byddwch yn cymryd camau i atal y gweithgaredd
  • erbyn pryd y byddwch chi’n rhoi’r gorau i’r gweithgaredd
  • unrhyw beth y mae angen ichi ei wneud cyn gweithredu

Monitro cydymffurfio ag ymrwymiad

Er mwyn inni allu monitro eich cydymffurfio â’r ymrwymiad gorfodi, efallai y byddwn yn gofyn i chi neu i rywun arall am y canlynol:

  • gwybodaeth i fonitro’r camau yr ydych wedi cytuno i’w cymryd fel rhan o’r ymrwymiad gorfodi
  • gwybodaeth i fonitro unrhyw eitemau perthnasol yr ydych yn eu hysbysebu
  • mynediad i’ch safle i’w archwilio

Os bydd angen inni fynd i mewn i eiddo, ni fydd hyn yn cynnwys eiddo a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf yn gartref i chi neu i rywun arall. Byddwn yn rhoi gwybod ichi am hyn ac yn gwneud yn siŵr bod yr ymweliad yn digwydd ar adeg resymol.

Fel rhan o archwiliadau i fonitro eich cydymffurfio, pan fyddwn ymweld â’ch eiddo, efallai y byddwn:

  • yn archwilio, yn mesur neu’n tynnu llun unrhyw beth y tybiwn ei fod neu y gallai fod yn berthnasol
  • yn gofyn ichi gyflwyno unrhyw ddogfen neu gofnod sydd ym meddiant neu dan reolaeth y person y tybiwn eu bod neu’n debygol o fod yn berthnasol
  • yn cymryd copïau neu ddetholiadau o unrhyw ddogfen neu gofnod perthnasol y deuir o hyd iddo yn yr eiddo
  • yn monitro hysbysebu unrhyw eitem berthnasol

Tystysgrif cydymffurfio

Mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi tystysgrif cydymffurfio os byddwn yn penderfynu bod y naill neu’r llall o’r isod yn berthnasol:

  • rydych wedi cydymffurfio â’r ymrwymiad gorfodi
  • rydym wedi cytuno eich bod wedi cydymffurfio, hyd yn oed os nad ydych wedi cydymffurfio’n llwyr â’r ymrwymiad gorfodi

Mae’n rhaid i chi neu unrhyw berson arall ddarparu digon o wybodaeth inni allu penderfynu a ydych wedi dilyn yr holl gamau y cytunwyd arnynt yn yr ymrwymiad gorfodi o fewn yr amserlen y cytunwyd arni.

Cewch wneud cais am dystysgrif cydymffurfio unrhyw bryd. I wneud cais am dystysgrif cydymffurfio, bydd angen i chi ddefnyddio’r ffurflen tystysgrif cydymffurfio ag ymrwymiad gorfodi. Anfonwn y ffurflen hon atoch pan ysgrifennwn i dderbyn eich cynnig.

Byddwn yn penderfynu a ddylid cyhoeddi tystysgrif cydymffurfio ai peidio.

Efallai y byddwn yn ystyried gwybodaeth:

  • sydd wedi’i chynnwys yn eich cais
  • a gafwyd wrth fonitro ac archwilio
  • o unrhyw ffynonellau eraill

Cyfle i roi rhagor o wybodaeth

Os byddwn yn meddwl nad ydych wedi cydymffurfio’n llwyr â thelerau’r ymrwymiad gorfodi, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod ichi ac yn dweud sut nad ydych wedi cydymffurfio’n llwyr yn ein golwg ni.

Bydd gennych 28 diwrnod o’r dyddiad yr ysgrifennwyd atoch i gyflwyno rhagor o wybodaeth i ddangos sut yr ydych wedi cydymffurfio.

Derbyn tystysgrif cydymffurfio

Os byddwn yn fodlon eich bod wedi cydymffurfio â thelerau’r ymrwymiad gorfodi, byddwn yn rhoi tystysgrif cydymffurfio ichi. Byddwn yn dweud wrthych o fewn 28 diwrnod inni gael y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • eich ffurflen wedi’i chwblhau a hysbysiad derbyn
  • rhagor o wybodaeth wedi’i chyflwyno

Os byddwch wedi cwblhau’r holl gamau gweithredu a nodir yn yr ymrwymiad gorfodi, ni fyddwn yn eich cosbi’n ariannol ac ni fyddwch yn wynebu erlyniad troseddol am y drosedd honno.

Gwrthod tystysgrif cydymffurfio

Os byddwn yn meddwl nad ydych wedi cydymffurfio â thelerau’r ymrwymiad gorfodi, byddwn yn dweud wrthych o fewn 28 diwrnod inni gael y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • eich ffurflen wedi’i chwblhau a hysbysiad derbyn
  • rhagor o wybodaeth wedi’i chyflwyno

Os byddwch yn methu â chwblhau’r camau gweithredu, naill ai’n rhannol neu’n llwyr, efallai y byddwch yn wynebu cosbau sifil pellach neu achos troseddol.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi sut y bwriadwn ddelio â’r drosedd.

Hawl i apelio

Os byddwn yn penderfynu peidio â rhoi tystysgrif cydymffurfio i chi, bydd gennych yr hawl i apelio. Bydd eich hawl i apelio yn cael ei hegluro ochr yn ochr â’r penderfyniad.

Os dim ond yn rhannol yr ydych wedi cydymffurfio â’r ymrwymiad gorfodi, efallai y byddwch yn wynebu cosbau sifil pellach neu achos troseddol. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwn yn ystyried y ffaith eich bod wedi cydymffurfio’n rhannol cyn inni benderfynu gosod unrhyw sancsiynau sifil pellach neu ystyried achos troseddol.

Gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol

Os byddwch wedi rhoi unrhyw wybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn inni, byddwn yn ymdrin â chi fel pe na baech wedi cydymffurfio â’r ymrwymiad gorfodi.

Gallwn ddirymu tystysgrif cydymffurfio os cafodd ei chyhoeddi ar sail gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol. Os caiff y dystysgrif cydymffurfio ei dirymu, bydd hynny’n cael ei drin fel pe na baech wedi cydymffurfio â’r ymrwymiad gorfodi.

Byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y cawsom ragor wybodaeth gan ddweud wrthych sut y bwriadwn ddelio â’r drosedd.

3. Hysbysiadau atal

Bydd hysbysiad atal yn eich gwahardd rhag cyflawni gweithgaredd neu weithgareddau penodol a fyddai, yn ein barn resymol ni, yn golygu y byddech chi’n troseddu neu’n debygol o droseddu o dan adran 12 o Ddeddf Ifori 2018.

Byddwn yn cyflwyno hysbysiad atal ysgrifenedig i chi gyda’r nod o roi terfyn ar drosedd barhaus neu o atal troseddu yn y dyfodol.

Bydd hysbysiad atal yn nodi:

  • pam y cyhoeddwyd yr hysbysiad
  • unrhyw weithgareddau gwaharddedig
  • unrhyw gamau y mae’n rhaid ichi eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad
  • unrhyw gamau y mae’n rhaid i chi eu cymryd cyn ichi allu parhau â’r gweithgaredd a nodir yn yr hysbysiad
  • canlyniadau peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad atal
  • eich hawliau i apelio

Efallai na fyddwn yn cyflwyno hysbysiad atal os byddwch eisoes:

  • wedi cymryd camau priodol i fynd i’r afael â’r diffyg cydymffurfio
  • wedi cael cosb ariannol am yr un drosedd
  • wedi talu cosb ariannol am yr un drosedd

Os bydd y drosedd yn un barhaus, efallai y byddwn yn cyflwyno hysbysiad atal yng nghyswllt parhau â’r drosedd ar ôl ichi gael cosb ariannol.

Weithiau, mae’n bosibl y bydd hysbysiad atal yn gwahardd gweithgaredd penodol nes ichi gymryd camau penodol i wneud un neu’r ddau o’r canlynol:

  • rhoi’r gorau i’r diffyg cydymffurfio parhaus
  • atal diffyg cydymffurfio yn y dyfodol

Tystysgrifau cwblhau

Os byddwn yn fodlon eich bod wedi cydymffurfio â’r hysbysiad atal, byddwn yn rhoi tystysgrif cwblhau ichi. O dan rai amgylchiadau, fodd bynnag, bydd yr hysbysiad atal yn parhau mewn grym. Er enghraifft, os na fydd eich eitem yn gallu bodloni unrhyw un o’r meini prawf eithrio.

Bydd hysbysiad atal yn parhau mewn grym nes ichi gwblhau’r holl gamau gofynnol a’ch bod wedi cael tystysgrif cwblhau. Ar ôl i chi gwblhau’r camau gweithredu a nodir yn yr hysbysiad atal, gallwch wneud cais am dystysgrif cwblhau unrhyw bryd.

Byddem fel rheol yn disgwyl i chi wneud cais am dystysgrif cwblhau o fewn 28 diwrnod ichi gwblhau’r camau angenrheidiol neu erbyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad atal, os bydd hwnnw’n ddiweddarach.

I wneud cais am dystysgrif cwblhau, rhaid i chi ddefnyddio’r Cais am Dystysgrif Cwblhau - Hysbysiad Atal. Byddwn yn anfon y ffurflen hon atoch fel rhan o’r hysbysiad atal.

Byddwn yn penderfynu o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad y byddwn yn derbyn eich cais a ydym am roi tystysgrif cwblhau ai peidio a byddwn yn rhoi gwybod ichi am hynny yn ysgrifenedig.

Mae’n drosedd cyflwyno gwybodaeth anwir er mwyn cael tystysgrif cwblhau.

Derbyn tystysgrif cwblhau

Os byddwn yn penderfynu eich bod wedi cydymffurfio â’r hysbysiad atal, byddwn yn rhoi tystysgrif cwblhau ichi. Ar ôl ichi gael y dystysgrif cwblhau, ni fydd yr hysbysiad atal yn berthnasol mwyach.

Os byddwch yn parhau i weithredu’n anghyfreithlon neu’n gweithredu’n anghyfreithlon eto, byddwn yn ystyried cosbau sifil pellach neu erlyniadau troseddol. Bydd hyn yn berthnasol hyd yn oed os byddwch chi wedi cydymffurfio i ddechrau ac wedi cael tystysgrif cwblhau.

Gwrthod tystysgrif cwblhau

Os byddwn yn penderfynu peidio â rhoi tystysgrif cwblhau i chi, bydd gennych yr hawl i apelio. Bydd eich hawl i apelio yn cael ei egluro ochr yn ochr â’r penderfyniad.

Peidio â chydymffurfio

Mae’n drosedd i unrhyw un y cyflwynir hysbysiad atal iddo beidio â chydymffurfio ag ef. Os na fyddwch chi’n cydymffurfio â hysbysiad atal, bydd hynny’n cael ei weld yn fater difrifol ac fe ystyrir cychwyn achos troseddol.

Yng Nghymru a Lloegr, os na fyddwch chi’n cydymffurfio â hysbysiad atal, gall hyn arwain at un neu’r ddau o’r canlynol:

  • carchar am gyfnod o hyd at 6 mis
  • dirwy

Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, os na fyddwch chi’n cydymffurfio â hysbysiad atal, gall hyn arwain at un neu’r ddau o’r canlynol:

  • carchar am gyfnod o hyd at 6 mis
  • dirwy hyd at lefel 5 ar y raddfa safonol

Enghreifftiau: hysbysiadau atal

Mae’r enghreifftiau’n dangos ambell ffordd o ymdrin â throsedd. Ond nid yw hyn yn golygu y bydd yr un peth yn digwydd ym mhob achos. Byddwn yn ystyried y ffeithiau a’r amgylchiadau sy’n berthnasol i bob achos penodol ac fe allem benderfynu cymryd camau gwahanol.

Enghraifft o hysbysiad atal ar gyfer eitem sydd heb ei chofrestru

Bydd rhywun yn hysbysebu eitem ifori ar werth: portread bychan cyn-1918 a’i arwynebedd yn llai na 320 centimetr sgwâr. Nid yw’r eitem wedi’i chofrestru o dan adran 10 o’r Ddeddf.

Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno hysbysiad atal yn gwahardd yr unigolyn rhag parhau i hysbysebu’r eitem neu rhag cwblhau gwerthiant nes bod yr eitem wedi’i chofrestru o dan adran 10 o’r Ddeddf.

Pan fydd y camau yn yr hysbysiad atal wedi’u cwblhau, caiff yr unigolyn wneud cais am dystysgrif cwblhau.

Enghraifft o hysbysiad atal ar gyfer eitem sydd heb ei heithrio

Mae rhywun yn hysbysebu bod eitem ifori ar werth a honno’n eitem sydd wedi’u gwahardd. Nid yw’r eitem yn gallu bodloni unrhyw un o’r meini prawf eithrio.

Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno hysbysiad atal yn gwahardd yr unigolyn rhag gwerthu’r eitem.

4. Cosbau ariannol

Mae cosb ariannol yn golygu y bydd gofyn talu swm hyd at £250,000. Gall cosb ariannol fod yn fwy priodol os yw sancsiynau sifil blaenorol wedi methu â sicrhau bod rhywun yn cydymffurfio.

Efallai y byddwn yn rhoi cosb ariannol ichi os byddwn yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol:

  • eich bod wedi cyflawni trosedd berthnasol
  • bod swm y gosb arfaethedig yn adlewyrchu’n briodol faint o fudd ariannol a gafwyd yn sgil y drosedd

Rhaid i fusnesau a chymdeithasau anghorfforedig (fel clwb, cymdeithas neu grŵp) dalu cosb ariannol o gronfeydd y busnes neu’r gymdeithas.

Efallai y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn llai tebygol o orfodi cosb ariannol o dan yr amgylchiadau hyn:

  • hon oedd eich trosedd gyntaf
  • mân drosedd o dan Ddeddf Ifori 2018 oedd hi
  • y gallwch roi tystiolaeth eich bod yn barti diniwed i’r drosedd
  • y gallwch roi tystiolaeth eich bod wedi cael eich twyllo’n fwriadol

Os trosedd gyntaf neu fân drosedd oedd hi, mae’n rhaid inni hefyd fod yn fodlon eich bod eisoes wedi cymryd camau priodol i sicrhau:

  • nad yw’r drosedd yn parhau nac yn digwydd eto
  • bod y sefyllfa’n cael ei hadfer, cyn belled ag y bo modd, i’r sefyllfa a fyddai wedi bodoli pe na bai’r drosedd wedi’i chyflawni

Os un drosedd sydd dan sylw ond bod honno’n parhau dros sawl diwrnod, yn gyffredinol, byddem yn rhoi un gosb yn hytrach na chyfres o gosbau ariannol.

Os cawsoch eich twyllo’n fwriadol gan rywun arall, efallai y byddwn yn ystyried erlyn yr unigolyn hwnnw. Gallai hyn olygu bod modd gwneud gorchymyn iawndal i chi fel dioddefwr. Er enghraifft, pan fydd prynwr yn siŵr ei fod wedi dilyn camau diwydrwydd dyladwy cyn prynu a’i fod wedi’i dwyllo gan y gwerthwr.

Ni allwn roi cosb ariannol:

  • os byddwch wedi cytuno i ymrwymiad gorfodi ac wedi cydymffurfio ag ef
  • os byddwn eisoes wedi cyflwyno hysbysiad atal i chi
  • os na fyddwn bellach yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol eich bod wedi cyflawni’r drosedd, ar ôl ystyried eich ymateb i’r hysbysiad o gynnig
  • os byddwn yn credu nad yw swm y gosb ariannol arfaethedig yn adlewyrchu’n briodol y budd ariannol a gawsoch yn sgil y drosedd, ar ôl ystyried eich ymateb i’r hysbysiad o gynnig neu ar ôl inni gael gwybodaeth newydd

Os byddwn yn credu nad yw’r swm yn adlewyrchu’n briodol y budd ariannol a gawsoch yn sgil y drosedd, efallai y byddwn yn penderfynu dileu’r hysbysiad cosb ariannol cyntaf ac yn cyflwyno hysbysiad cynnig newydd gyda chosb ariannol wahanol sy’n uwch neu’n is.

Cyfrifo cosb ariannol

Byddwn yn penderfynu ar swm y gosb ariannol. Gall y gosb ariannol fod yn unrhyw swm hyd at yr uchafswm sef £250,000.

Byddwn yn cyfrifo swm y gosb ariannol ar sail:

  • yr effaith mae’r drosedd wedi’i chael - mae hyn yn cynnwys i ba raddau yr ydych wedi tanseilio Deddf Ifori 2018 a’i hamcanion
  • yr hyn sydd ei angen i’ch atal chi ac eraill rhag troseddu yn y dyfodol
  • gwerth yr eitem ifori ac unrhyw fudd ariannol a gawsoch yn sgil delio

Rhesymol a chymesur

Byddwn yn cyfrifo lefel y gosb ariannol sy’n rhesymol ac yn gymesur, ar sail natur, difrifoldeb ac amgylchiadau’r drosedd.

Mae ‘rhesymol’ yn golygu y byddai rhywun cyffredin, rhesymol yn meddwl bod swm y gosb ariannol arfaethedig yn briodol ar gyfer y drosedd a gyflawnwyd.

Mae ‘cymesur’ yn golygu bod perthynas glir rhwng swm y gosb ariannol arfaethedig a:

  • gwerth yr eitem ifori, gan gynnwys faint yr ydych chi’n debygol o fod wedi’i ennill yn ariannol yn sgil ei ddelio
  • i ba raddau y mae’ch trosedd wedi tanseilio Deddf Ifori 2018

Tystiolaeth a gwybodaeth

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth er mwyn inni allu penderfynu a yw’n briodol rhoi cosb ariannol a chyfrifo’r swm y dylech ei dalu. Byddwn yn gofyn ichi am dystiolaeth fel rhan o’r broses ymchwilio, er mwyn inni allu cyfrifo faint o fudd ariannol a gawsoch chi yn sgil y drosedd.

Os credwn nad oes digon o wybodaeth i gyfrifo’r budd ariannol, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn ichi ddarparu rhagor o ddogfennau. Os na allwch neu os nad ydych yn fodlon helpu gyda hyn, yna efallai y byddwn yn cyfrifo swm y gosb yn seiliedig ar y wybodaeth sydd eisoes ar gael.

Os byddwn yn ystyried rhoi cosbau ariannol i 2 neu fwy o bobl am yr un drosedd, byddwn yn ystyried pob un ar wahân. Os byddwn yn ystyried rhoi cosbau ariannol i gorfforaeth a swyddog sy’n gweithio i’r gorfforaeth honno, byddwn yn ystyried y corff corfforaethol a’r swyddog ar wahân.

Yn gyffredinol ni fyddwn yn rhoi cyfres o gosbau ariannol:

  • os bydd un drosedd barhaus wedi digwydd dros sawl diwrnod
  • os bydd un gosb yn briodol

I benderfynu ar swm y gosb ariannol, efallai y byddwn yn ystyried:

  • unrhyw gamau a gymerwyd yn ddi-oed i unioni’r diffyg cydymffurfio a’i effeithiau
  • a gafwyd datgeliad gwirfoddol di-oed a chyflawn mewn perthynas â’r diffyg cydymffurfio
  • i ba raddau y mae rhywun ar fai a ffactorau niwed, wrth bennu difrifoldeb y drosedd
  • a oedd bwriad o dwyllo
  • pa mor ddifrifol oedd y troseddu
  • a gyflawnwyd mwy nag un drosedd
  • a geisiwyd celu’r gweithgaredd
  • a oes hanes o gydymffurfio
  • a gyflawnwyd y drosedd gan unigolyn ynteu gan gorfforaeth
  • am faint mae’r troseddu wedi bod yn digwydd
  • a gafwyd unrhyw fudd ariannol yn anghyfreithlon
  • a oes ffioedd yn ddyledus yng nghyswllt y gofyniad cyfreithiol i gofrestru eitem eithriedig (lle bo’n berthnasol)
  • sefyllfa ariannol unigolyn neu fusnes a’i allu i dalu’r gosb ariannol
  • a yw cyfanswm y gosb ariannol yn rhesymol ac yn gymesur â’r ymddygiad troseddol

Hysbysiad cynnig ar gyfer cosb ariannol

Cyn inni roi cosb ariannol, byddwn yn cyflwyno hysbysiad cynnig i chi. Bydd yr hysbysiad cynnig yn nodi:

  • y rheswm dros y gosb ariannol arfaethedig
  • swm y gosb ariannol arfaethedig
  • esboniad o’r broses benderfynu ynghylch y swm sydd i’w dalu
  • yr opsiwn o wneud taliad rhyddhau i derfynu eich atebolrwydd am y taliad ariannol
  • os byddwch yn penderfynu talu’r taliad rhyddhau, am faint y bydd yn rhaid ichi ei dalu a beth fydd yn digwydd os gwnewch chi hynny
  • gwybodaeth am eich hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig a gwrthwynebu’r gosb ariannol arfaethedig – bydd hyn hefyd yn dweud erbyn pryd y bydd yn rhaid ichi wneud hynny
  • o dan ba amgylchiadau y byddwn o bosibl yn dewis peidio â gorfodi’r gosb ariannol

Cyfle i derfynu atebolrwydd

Cewch gyfle i derfynu eich atebolrwydd drwy dalu taliad rhyddhau. Bydd y swm y bydd yn rhaid i chi ei dalu yn cael ei nodi yn yr hysbysiad cynnig. Bydd y swm y bydd yn rhaid i chi ei dalu i derfynu eich atebolrwydd yn is na’r gosb ariannol arfaethedig neu’n gyfwerth â hi.

Os byddwch am derfynu eich atebolrwydd, rhaid i chi dalu’r taliad rhyddhau erbyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad cynnig. Ni fydd hyn yn hwy na 28 diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y cawsoch chi’r hysbysiad cynnig. Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau inni dderbyn taliad.

Ni fyddwch yn cael hysbysiad cosb ariannol nes bod y terfyn amser wedi mynd heibio ar gyfer talu’r taliad rhyddhau i derfynu eich atebolrwydd.

Os byddwch yn terfynu eich atebolrwydd, ni roddir cosb ariannol i chi ac ni fydd modd ichi gael eich dyfarnu’n euog am yr un drosedd.

Os byddwch wedi terfynu eich atebolrwydd:

  • ni allwn gyflwyno hysbysiad atal i chi mewn perthynas â’r un drosedd
  • byddwn yn cyhoeddi manylion y drosedd a’r taliad rhyddhau yn ein hadroddiad am ddefnyddio sancsiynau sifil o dan Ddeddf Ifori 2018 - mae hyn yn ofyniad cyfreithiol

Os na fyddwch yn terfynu eich atebolrwydd byddwn yn rhoi’r gosb ariannol drwy gyflwyno hysbysiad cosb ariannol gan nodi’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu.

Hawl i gyflwyno sylwadau

Bydd gennych yr hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig a gwrthwynebu’r gosb ariannol arfaethedig. Gallwch gynnwys unrhyw beth y credwch sy’n berthnasol i’r drosedd honedig.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch sylwadau a’ch gwrthwynebiadau ysgrifenedig erbyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad cynnig. Ni fydd hyn yn hwy na 28 diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y cawsoch yr hysbysiad cynnig.

Ni chewch gyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau os ydych eisoes wedi dewis talu taliad rhyddhau. Rhaid i chi ysgrifennu at APHA gyda’ch sylwadau neu wrthwynebiadau trwy anfon e-bost at ivoryce@apha.gov.uk neu drwy’r post at:

Tîm Cydymffurfiaeth a Gorfodaeth Ifori
Canolfan Masnach Ryngwladol – Bryste
Horizon House
Deanery Road
Bryste
BS1 5AH

Pan fydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau wedi mynd heibio, byddwn yn ystyried:

  • gwybodaeth berthnasol a gyflwynwyd gennych
  • gwybodaeth berthnasol a dibynadwy a dderbyniwyd o unrhyw ffynhonnell arall (er enghraifft tystiolaeth o ymchwiliad)

Ar ôl ystyried y wybodaeth newydd hon, os byddwn yn penderfynu nad yw’n briodol rhoi cosb ariannol byddwn yn eich hysbysu’n ysgrifenedig am ein penderfyniad.

Ar ôl inni ystyried eich sylwadau a’ch gwrthwynebiadau, efallai y byddwn yn dal i benderfynu rhoi’r gosb ariannol. Os bydd hyn yn digwydd, cewch gyfle arall i derfynu eich atebolrwydd am y gosb ariannol arfaethedig. Bydd gennych 28 diwrnod i dalu’r taliad rhyddhau o’r dyddiad y byddwn yn eich hysbysu ein bod wedi ystyried eich sylwadau a’ch gwrthwynebiad ond yn dal i fwriadu rhoi cosb ariannol ichi.

Ar ôl derbyn gwybodaeth newydd, efallai y byddwn yn penderfynu ei bod yn briodol tynnu’r hysbysiad cynnig gwreiddiol yn ôl a chyflwyno hysbysiad cynnig newydd. Efallai y byddwn yn penderfynu gwneud hyn ar sail y canlynol:

  • sylwadau a gwrthwynebiadau
  • amgylchiadau fel salwch neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth
  • gwybodaeth berthnasol nad oedd ar gael inni cyn inni gyflwyno hysbysiad cynnig ichi

Gall yr hysbysiad cynnig newydd gynnwys swm newydd ar gyfer y gosb ariannol a therfynu eich atebolrwydd os credwn nad yw’r symiau gwreiddiol yn adlewyrchu’n briodol swm yr enillion ariannol yn sgil y drosedd.

Bydd gennych hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig am yr hysbysiad cynnig newydd gan nodi’ch gwrthwynebiadau a’ch esboniadau. Mae’n rhaid i chi esbonio’r rheswm pam nad oedd y wybodaeth ar gael cyn hyn ac anfon hwn trwy e-bost at ivoryce@apha.gov.uk neu drwy’r post at:

Tîm Cydymffurfiaeth a Gorfodaeth Ifori
Canolfan Masnach Ryngwladol – Bryste
Horizon House
Deanery Road
Bryste
BS1 5AH

Os byddwn yn derbyn eich sylw byddwn yn eich hysbysu’n ysgrifenedig ac yn anfon hysbysiad cynnig newydd.

Rhoi cosb ariannol

Os byddwn yn penderfynu rhoi cosb ariannol, rhaid inni gyflwyno hysbysiad i chi.

Bydd hysbysiad cosb ariannol yn cynnwys:

  • y rheswm dros y gosb ariannol arfaethedig
  • swm y gosb ariannol
  • sut y gallwch chi dalu
  • erbyn pryd mae’n rhaid ichi dalu
  • eich hawl i apelio
  • beth fydd yn digwydd os na fyddwch chi’n talu’r gosb ariannol

Bydd gennych o leiaf 28 diwrnod i dalu’r gosb ariannol o’r dyddiad y byddwch yn derbyn yr hysbysiad i’w thalu, ond efallai y caniateir mwy o amser ichi dalu a dibynnu ar yr amgylchiadau.

Talu cosb ariannol

Rhaid i chi dalu’r swm yn yr hysbysiad cosb ariannol o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau o’r diwrnod y cawsoch yr hysbysiad. Mae’n bosibl y byddwn yn pennu cyfnod hwy na 28 diwrnod os credwn ei fod yn briodol.

Os byddwch yn darparu tystiolaeth briodol, efallai y byddwn yn ystyried caniatáu:

  • estyn y cyfnod ar gyfer talu
  • talu mewn rhandaliadau o fewn amserlen benodol

Gall tystiolaeth briodol gynnwys gwybodaeth am:

  • eich asedau, eich incwm a’ch gwariant
  • trosiant blynyddol busnes

Rhaid ichi wneud y cais yn ysgrifenedig gan gynnwys tystiolaeth a chyn y terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer talu’r gosb. Rhaid i chi anfon eich cais a thystiolaeth drwy e-bost at ivoryce@apha.gov.uk neu drwy’r post at:

Tîm Cydymffurfiaeth a Gorfodaeth Ifori
Canolfan Masnach Ryngwladol – Bryste
Horizon House
Deanery Road
Bryste
BS1 5AH

Os na fyddwch yn talu cosb ariannol byddwn fel rheol yn cychwyn achos llys i adennill y ddyled a chostau cysylltiedig.

Byddwn yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu pan fyddwn wedi derbyn eich taliad.

Enghreifftiau: cosbau ariannol

Mae’r enghreifftiau’n dangos ambell ffordd o ddelio â throsedd. Ond nid yw hyn yn golygu y bydd yr un peth yn digwydd ym mhob achos. Byddwn yn ystyried y ffeithiau a’r amgylchiadau sy’n berthnasol i bob achos penodol ac mae’n bosibl y byddwn benderfynu cymryd camau gwahanol.

Enghreifftiau o gosb ariannol am werthu eitem anghyfreithlon

Mae rhywun wedi gwerthu eitem ifori sydd wedi’i gwahardd ac sydd wedi’i cham-gofrestru gan honni ei bod yn cydymffurfio ag un o’r categorïau eithrio. Nid yw’r eitem yn gallu bodloni unrhyw un o’r meini prawf eithrio.

Fel rhan o’r ymchwiliadau gofynnir am dystiolaeth i ddeall sut y gwnaeth yr unigolyn elwa’n ariannol o’r drosedd. Mae’r dystiolaeth hon yn cynnwys gofyn am werth yr eitem a werthwyd.

Yna byddwn yn cyflwyno hysbysiad cynnig i’r person yn manylu ar y gosb ariannol arfaethedig a’r opsiwn o dalu taliad rhyddhau. Gall y gosb ariannol fod yn unrhyw swm hyd at yr uchafswm sef £250,000.

Ni fydd atebolrwydd yn cael ei derfynu ac fe gyflwynir hysbysiad cosb ariannol iddo.

Enghraifft o derfynu atebolrwydd am gosb ariannol

Wrth archwilio safle busnes bydd ACO yn dod o hyd i sawl eitem o ifori ar werth sydd heb eu cofrestru. Bydd yr holl eitemau yn bodloni un o’r eithriadau o dan adran 10 o Ddeddf Ifori 2018.

Bydd cynrychiolydd y busnes yn mynd ati rhag blaen i dynnu’r eitemau oddi ar y farchnad gan ddweud y bydd yn cymryd y camau angenrheidiol i’w cofrestru.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyflwyno hysbysiad cynnig i’r person. Bydd hwnnw’n cynnwys manylion y gosb ariannol arfaethedig hyd at swm o £250,000 a’r opsiwn o dalu taliad rhyddhau, gan roi cyfle i’r busnes derfynu ei atebolrwydd.

Mae’r busnes yn awyddus i derfynu ei atebolrwydd ac felly mae’n talu’r taliad rhyddhau o fewn yr amserlen benodedig. Ni ellir rhoi cosb ariannol iddo.

5. Herio ac apelio

Byddwn yn rhoi’r manylion ichi am eich hawliau i apelio.

Bydd gennych hawliau statudol i apelio:

  • yn erbyn rhoi hysbysiad atal
  • yn erbyn rhoi cosb ariannol, gan gynnwys swm y gosb
  • yn erbyn penderfyniad i beidio â rhoi tystysgrif cydymffurfio ar gyfer ymrwymiad gorfodi
  • yn erbyn penderfyniad i beidio â rhoi tystysgrif cwblhau ar gyfer hysbysiad atal
  • ynghylch dychwelyd eitemau a atafaelwyd

Nid yw’r canllawiau hyn yn ymdrin â’r broses apelio ar gyfer:

  • gwrthod neu ddirymu tystysgrif eithrio ar gyfer eitem cyn-1918 yr honnir ei bod o werth artistig, diwylliannol neu hanesyddol eithriadol o uchel (manylion llawn o dan Adran 5 o Ddeddf Ifori 2018)
  • penderfyniad ynghylch fforffedu eitemau a atafaelwyd (manylion llawn o dan Adran 31 o Ddeddf Ifori 2018)

Os byddwch am apelio yn erbyn sancsiwn sifil a roddwyd o dan Ddeddf Ifori 2018, bydd eich achos yn cael ei drin gan Siambr Rheoleiddio Cyffredinol y Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Eich hawliau i apelio

Cewch apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf am 4 rheswm gwahanol:

  1. Apelio yn erbyn ein penderfyniad i beidio â rhoi tystysgrif cydymffurfio i chi ar gyfer cwblhau ymrwymiad gorfodi.
  2. Apelio yn erbyn hysbysiad atal.
  3. Apelio yn erbyn ein penderfyniad i beidio â rhoi tystysgrif cwblhau i chi ar gyfer hysbysiad atal.
  4. Apelio yn erbyn hysbysiad sy’n rhoi cosb ariannol.

Ymrwymiadau gorfodi: tystysgrif cydymffurfio

Cewch apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn ein penderfyniad i beidio â rhoi tystysgrif cydymffurfio ichi ar gyfer cwblhau camau y cytunwyd arnynt fel rhan o ymrwymiad gorfodi.

Cewch apelio yn erbyn ein penderfyniad os byddwch yn meddwl ei fod:

  • yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
  • yn anghywir o dan y gyfraith
  • yn annheg neu’n afresymol

Bydd yr ymrwymiad gorfodi, a’ch dyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio ag ef, yn parhau i fod yn berthnasol nes bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi penderfynu ynghylch eich apêl.

Hysbysiadau atal

Cewch apelio yn erbyn hysbysiad atal os byddwch yn meddwl:

  • ei fod yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
  • ei fod yn anghywir o dan y gyfraith
  • ei fod yn afresymol
  • bod unrhyw gam a nodir yn yr hysbysiad yn afresymol
  • nad ydych wedi cyflawni’r drosedd neu na fyddech wedi cyflawni trosedd o’r fath hyd yn oed pe na bai’r hysbysiad atal wedi’i gyflwyno.

Bydd yr hysbysiad atal, a’ch dyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio ag ef, yn parhau i fod yn berthnasol oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf:

  • yn gohirio’r hysbysiad atal er mwyn ystyried eich apêl
  • yn penderfynu gwrthdroi’r hysbysiad atal yn seiliedig ar eich apêl

Hysbysiadau atal: tystysgrifau cwblhau

Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn ein penderfyniad i beidio â rhoi tystysgrif cwblhau i chi am gymryd y camau neu’r camau penodedig mewn hysbysiad atal.

Cewch apelio yn erbyn ein penderfyniad os byddwch yn meddwl:

  • ei fod yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
  • ei fod yn anghywir o dan y gyfraith
  • ei fod yn annheg neu’n afresymol

Bydd yr hysbysiad atal, a’ch dyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio ag ef, yn parhau i fod yn berthnasol oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn gohirio’r hysbysiad atal i ystyried eich apêl.

Cosbau ariannol

Cewch apelio yn erbyn hysbysiad sy’n rhoi cosb ariannol os byddwch yn meddwl:

  • ei fod yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
  • ei fod yn anghywir o dan y gyfraith
  • bod swm y gosb yn afresymol
  • bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall

Cewch wneud cais i’r Tribiwnlys ohirio’r gofyniad i dalu’r gosb, fel na fydd yn rhaid i chi ei thalu nes bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi penderfynu.

Proses apelio a phwerau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf

Mae’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorff annibynnol a bydd yn gwrando ar y sawl sy’n gwneud yr apêl a sylwadau APHA cyn iddo benderfynu.

Mae Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys Haen Gyntaf) (Siambr Rheoleiddio Cyffredinol) (2009) (OS 2009/1976) yn nodi llawer o agweddau ar weithdrefn tribiwnlysoedd. Mae hyn yn cynnwys:

  • sut y dylech gyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf
  • sut y bydd y partïon yr effeithir arnynt yn cael eu hysbysu am yr apêl
  • dogfennau penodol sydd eu hangen ar y Tribiwnlys Haen Gyntaf
  • erbyn pryd mae’n rhaid apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf

I apelio, rhaid i chi anfon hysbysiad o apêl i Siambr Rheoleiddio Cyffredinol y Tribiwnlys Haen Gyntaf. Cewch apelio yn erbyn y canlynol:

  • hysbysiad ynghylch sancsiwn sifil
  • penderfyniad ysgrifenedig i beidio â rhoi tystysgrif cwblhau neu dystysgrif cydymffurfio

Mae’n rhaid i chi apelio o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad pan anfonwyd ein hysbysiad neu ein penderfyniad atoch.

Dim ond apeliadau yn erbyn sancsiynau sifil y mae’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn ymdrin â hwy ac nid troseddau.

Pwerau Tribiwnlys Haen Gyntaf: hysbysiadau atal a chosbau ariannol

Ar gyfer apeliadau yn erbyn hysbysiadau atal a chosbau ariannol caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf wneud y canlynol:

  • gwrthod cais i ohirio hysbysiad atal neu gosb ariannol
  • cyfarwyddo APHA i ohirio’r hysbysiad atal neu’r gosb ariannol nes bydd penderfyniad ynghylch yr apêl
  • cyfarwyddo APHA i ohirio’r hysbysiad atal neu’r gosb ariannol am y cyfnod a bennir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf
  • tynnu hysbysiad atal yn ei ôl neu ei gadarnhau
  • tynnu cosb ariannol yn ei hôl neu ei chadarnhau
  • amrywio unrhyw weithgareddau a nodir yn yr hysbysiad atal
  • amrywio unrhyw gamau y mae angen i chi eu cymryd a nodir yn yr hysbysiad atal
  • amrywio swm y gosb ariannol y mae’n rhaid i chi ei dalu
  • amrywio’r telerau ar gyfer gwneud y taliad, megis estyn y cyfnod ar gyfer talu neu ganiatáu i chi dalu mewn rhandaliadau
  • rhoi sancsiwn sifil gwahanol yn lle’r sancsiwn sifil gwreiddiol
  • cyfeirio yn ôl atom y penderfyniad ynghylch a ddylid cadarnhau hysbysiad atal neu roi cosb ariannol, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw

Os caiff y penderfyniad ei gyfeirio yn ôl atom, byddwn yn ailystyried penderfyniad y Tribiwnlys Haen Gyntaf, ond byddai gennym hawl i benderfynu’n wahanol.

O dan rai amgylchiadau, efallai na fyddwn yn gwrthwynebu hysbysiad ynghylch apêl a anfonwyd at y Tribiwnlys Haen Gyntaf. Bydd yr apêl yn cael ei thrin fel pe bai o’ch plaid chi ac ni fydd angen i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ei chlywed.

Os byddwn yn penderfynu peidio â gwrthwynebu apêl, byddwn yn eich hysbysu o’r camau yr ydym yn eu cymryd o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau ar y dyddiad pan hysbyswyd y Tribiwnlys na fyddem yn ei gwrthwynebu.

Pwerau Tribiwnlys Haen Gyntaf: tystysgrifau

Ar gyfer apeliadau yn erbyn penderfyniad i wrthod rhoi tystysgrif cydymffurfio ymrwymiad gorfodi neu dystysgrif cwblhau hysbysiad atal, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf wneud y canlynol:

  • mynnu ein bod yn rhoi tystysgrif cwblhau neu dystysgrif cydymffurfio
  • cadarnhau ein penderfyniad i beidio â rhoi tystysgrif cydymffurfio neu dystysgrif cwblhau
  • cyfeirio yn ôl atom y penderfyniad ynghylch a ddylid cyhoeddi tystysgrif cydymffurfio neu dystysgrif cwblhau, neu unrhyw fater sy’n berthnasol i’r penderfyniadau hynny.

Os caiff y penderfyniad ei gyfeirio yn ôl atom, byddwn yn ailystyried penderfyniad y Tribiwnlys Haen Gyntaf, ond byddai gennym yr hawl i lynu wrth ein penderfyniad gwreiddiol neu benderfynu’n wahanol.

6. Cyhoeddi adroddiad ynghylch defnyddio sancsiynau sifil

O dan Ddeddf Ifori 2018 mae’n rhaid inni gyhoeddi adroddiad am sut yr ydym wedi defnyddio sancsiynau sifil. Rhaid i’r adroddiad gynnwys yr achosion a ganlyn:

  • achosion lle y derbyniwyd ymrwymiad gorfodi
  • achosion lle y rhoddwyd hysbysiad atal
  • achosion lle y rhoddwyd cosb ariannol
  • achosion lle y rhyddhawyd rhywun rhag cosb ariannol

Lle y cytunwyd ar ymrwymiad gorfodi, byddwn yn cyhoeddi:

  • enw a manylion unrhyw fusnes perthnasol
  • telerau’r ymrwymiad
  • y cyfnod ar gyfer cwblhau’r ymrwymiad
  • unrhyw dystysgrif cydymffurfio a roddwyd
  • unrhyw fater neu wybodaeth berthnasol arall

Nid oes yn rhaid inni gynnwys unrhyw wybodaeth yn yr adroddiad a fyddai yn ein barn ni:

  • yn amhriodol
  • yn anghyfreithlon
  • yn amharu ar ymchwiliadau neu achosion cyfredol

Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gynnwys yn yr adroddiad wybodaeth oddi wrth:

  • yr heddlu
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Y Procuradur Ffisgal
  • y PPSNI

Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi gwybodaeth am erlyniadau troseddol.

Cyhoeddir yr adroddiad ar ffurf rhestr a gaiff ei diweddaru o bryd i’w gilydd, o leiaf unwaith y flwyddyn.

Byddwn yn adrodd am dystysgrifau cydymffurfio a roddir ar ôl i bobl gydymffurfio ag ymrwymiad gorfodi. Os caiff tystysgrif cydymffurfio ei rhoi ar ôl adrodd y tro cyntaf am yr ymrwymiad gorfodi, bydd manylion y dystysgrif cydymffurfio yn cael eu hychwanegu y tro nesaf y caiff y cyhoeddiad ei ddiweddaru.

Byddwn yn adrodd am dystysgrifau cwblhau a gyhoeddir ar ôl i bobl gydymffurfio â hysbysiad atal. Os caiff tystysgrif cydymffurfio ei rhoi ar ôl inni adrodd y tro cyntaf am yr hysbysiad atal bydd manylion y dystysgrif cydymffurfio yn cael eu hychwanegu y tro nesaf y caiff y cyhoeddiad ei ddiweddaru.

7. Hysbysiadau adennill costau gorfodi

Mae hysbysiad adennill costau gorfodi (ECRN) yn ein galluogi i godi tâl am y costau a ddaw i’n rhan wrth roi hysbysiad atal neu gosb ariannol hyd at yr adeg pan fyddwn yn rhoi’r hysbysiad atal neu’r gosb ariannol. Nid ydym yn bwriadu cyflwyno ECRNs i ddechrau, ond byddwn yn dal i gadw golwg ar hyn. Os byddwn yn penderfynu dod â darpariaethau perthnasol y Ddeddf i rym, byddwn yn cyhoeddi canllawiau pellach.