Corporate report

Briff Gwybodaeth CThEM: Adnewyddu credydau treth

Updated 24 July 2014

Mae CThEM yn talu credydau treth i 4.6* miliwn o gartrefi ar draws y DU. Caiff yr arian ar gyfer pob cartref ei seilio ar yr wybodaeth maent yn ei rhoi i ni. Mae hawlwyr yn rhoi manylion i ni ynghylch amgylchiadau ac incwm y cartref ar ddechrau’r flwyddyn dreth a rhaid iddynt roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau allweddol yn ystod y flwyddyn. Mae’r briff hwn yn rhoi gwybodaeth ar sut y dylai pobl roi gwybod i ni am newidiadau yn eu hamgylchiadau a’r pwysigrwydd o adnewyddu eu credydau treth.

1. Credydau treth

Mae dau fath o gredydau treth a gall pobl hawlio’r naill neu’r llall, neu’r ddau, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

Mae Credyd Treth Plant yn cynnal teuluoedd sydd â phlant, pa un a ydynt mewn gwaith neu beidio.

Mae Credyd Treth Gwaith ar gyfer pobl sy’n gweithio ac ar incwm isel, pa un a ydynt yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig. Gall y rheiny sydd â phlant dderbyn, o bosib, help gyda chostau gofal plant.

2. Hysbysu ynghylch newidiadau

Y newidiadau mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar daliadau credydau treth yw’r rheiny sy’n ymwneud ag incwm, gofal plant, oriau gwaith a’r nifer o bobl yn y cartref - yn arbennig os yw’r hawliwr yn dechrau byw gyda phartner. Mae gan hawlwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i roi gwybod am rai newidiadau o fewn mis o’r dyddiad pan ddigwyddodd y newid. Mae’r mathau o newid y dylent eu datgan, a pha bryd a sut i’w datgan, ar gael ar y dudalen ‘changes that affect your tax credits’.

3. Adnewyddu credydau treth

Byddwn, rhwng mis Ebrill a mis Mehefin bob blwyddyn, yn anfon pecyn adnewyddu blynyddol sy’n cynnwys manylion ynghylch incwm ac amgylchiadau’r cartref, a’r taliadau am y flwyddyn dreth flaenorol. Mae pob pecyn adnewyddu yn dweud yn union beth sydd angen i’r hawliwr ei wneud. Bydd hawlwyr yn derbyn un ai:

Amlen wen A4 - rhaid iddynt wirio eu hysbysiad adolygu blynyddol yn ofalus ac adnewyddu eu datganiad blynyddol erbyn 31 Gorffennaf. Wrth adnewyddu rhaid i hawlwyr roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau. Eleni, gall cwsmeriaid lenwi eu datganiad blynyddol a rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau un ai ar dudalennau gwe credydau treth yn GOV.UK neu drwy’r app CThEM ar ffôn symudol (rhaid i gwsmeriaid sydd yn derbyn datganiad blynyddol gyda’r cod ‘TC 603 D 2’ neu sydd am newid manylion eu banc adnewyddu dros y ffôn neu drwy’r post).

Amlen frown A5 - rhaid iddynt wirio eu hysbysiad adolygu blynyddol yn ofalus a chysylltu â ni dim ond os oes unrhyw gywiriadau neu newidiadau i amgylchiadau’r cartref. Fel arall, nid oes angen iddynt gysylltu â ni gan y caiff eu cais ei adnewyddu’n awtomatig.

Mae llawer o hawlwyr yn ei gadael tan y funud olaf cyn adnewyddu eu credydau treth a gall ein llinellau ffôn fod yn hynod o brysur. Yn 2013, bu bron i dair miliwn o alwadau ffôn i Linell Gymorth Credydau Treth yn y ddau ddiwrnod cyn y dyddiad cau ar 31 Gorffennaf. Mae’r gofyn uchel yn rhoi mwy o bwysau ar ein llinellau ffôn. Rydym, eleni, yn anfon negeseuon testun SMS at hawlwyr i’w hatgoffa i adnewyddu eu cais cyn y dyddiad cau. Rydym yn cynghori hawlwyr i adnewyddu’n gynnar er mwyn osgoi’r rhwystredigaeth o orfod aros ar y ffôn, neu i ddefnyddio dull arall fel postio’r cais neu ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein - sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

4. Gwirio ceisiadau

Mae hawlwyr a’u partner (os oes un) yn gyfrifol am wirio a sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch eu hamgylchiadau yn ein meddiant. Os na wnânt roi gwybod i ni, o fewn yr amser penodol, am unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau mae yna risg sylweddol y bydd tandaliad neu ordaliad yn dilyn.

Rydym yn gwirio’r wybodaeth a roddir gan hawlwyr. Mae’n bosib y caiff hawlwyr 30 diwrnod i ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais. Caiff eu taliadau eu hatal os na fyddant yn darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen.

5. Gordaliadau

Os nad yw’r wybodaeth sydd yn ein meddiant yn gywir neu’r un ddiweddaraf, gall hawlwyr dderbyn gormod o arian a fydd yn golygu gordaliad y bydd yn rhaid iddynt ei dalu’n ôl i CThEM. Gall hawlwyr gymryd camau i osgoi dyled o ganlyniad i ordaliadau drwy: rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i’w hamgylchiadau neu gywiriadau i’w gwybodaeth gwirio’n fanwl unrhyw wybodaeth ynghylch eu cais a anfonwn atynt
rhoi gwybod i ni am unrhyw daliadau a dderbyniant nad ydynt yn cyd-fynd â’u hysbysiad o ddyfarniad o gredydau treth. adnewyddu eu cais am gredydau treth cyn 31 Gorffennaf, os bydd angen iddynt wneud hynny.

Rydym yn casglu gordaliadau credydau treth drwy wneud didyniadau o geisiadau cyfredol neu, os nad yw hynny’n bosib, yn uniongyrchol oddi ar yr hawliwr. Ceir mwy o wybodaeth ar dudalen ‘tax credits overpayments’.

6. Twyll

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn onest ac ond yn hawlio’r hyn y mae ganddynt yr hawl iddo, mae yna leiafrif bach sy’n ceisio twyllo’r system fudd-daliadau’n fwriadol. Rydym yn ymroddedig i dargedu twyll ym mhob cais am gredydau treth ac mae rheolau caeth mewn grym i amddiffyn y taliadau hyn. Gall y rheiny a wnaiff geisiadau ffug wynebu ymchwiliad, erlyniad a hanes o droseddu.

7. I gael mwy o wybodaeth

Ceir mwy o wybodaeth ar dudalenau ‘tax credits’ GOV.UK.

*Ffynhonnell: Child and Working Tax Credits Statistics, Finalised Annual Awards 2012-13