Canllawiau

Parthau Buddsoddi: Dogfen Dechnegol (Cymru)

Diweddarwyd 6 Rhagfyr 2024

Yn berthnasol i Gymru

  1. Trosolwg

Mae gan Lywodraeth y DU gynllun uchelgeisiol ar gyfer twf a ffyniant, sydd â’r nod sylfaenol o hybu potensial y DU i feithrin cryfderau mewn diwydiannau allweddol i gefnogi blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol ym mhob rhan o’r wlad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynlluniau ar gyfer economi gryfach, decach a gwyrddach i Gymru yn Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach. Mae hyn yn cynnwys pedwar maes blaenoriaeth cenedlaethol, sy’n llywio polisi economaidd a’r broses gyflawni yng Nghymru.

Yng Nghymru, mae’r rhaglen Parthau Buddsoddi wedi cael ei chynllunio i roi adnoddau i bartneriaid rhanbarthol y gallant eu defnyddio gyda hyblygrwydd ac ymreolaeth i ddatblygu cryfderau mewn diwydiannau allweddol, hybu potensial Cymru a’r Deyrnas Unedig i arloesi, gyda phwyslais cryf ar waith teg a chynaliadwyedd. Mae’r rhaglen hon yn ymrwymedig i gefnogi datganoli ar bob lefel – gan rymuso partneriaid rhanbarthol yng Nghymru i sbarduno twf mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. I gael rhagor o fanylion, cyfeiriwch at bolisi a nodyn methodoleg Parthau Buddsoddi Cymru.

Disgwylir i bartneriaid rhanbarthol yng Nghymru sicrhau y caiff cynigion eu llunio mewn ffordd sy’n rhoi gwerth am arian[footnote 1] ac sy’n sicrhau atebolrwydd i’w rhanddeiliaid rhanbarthol eu hunain. Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r sail dros hyn. Bydd hyn yn gofyn am ddull gweithredu cyfannol a hyblyg a rhaid iddo gael ei wreiddio mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, trefniadau llywodraethu rhanbarthol a rhanbarthol, sefydliadau ymchwil a’r sector preifat ac undebau llafur, er mwyn gwireddu potensial ein dinasoedd a’n rhanbarthau.

Mae’r ddogfen hon yn nodi canllawiau pellach i’r cyrff rhanbarthol yn y lleoedd hyn ynglŷn â sut y bydd cynigion Parthau Buddsoddi yn cael eu cyflawni yng Nghymru yn unig. Er bod y ddogfen hon yn adlewyrchu polisi cyfredol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae’r ddwy lywodraeth yn cadw’r hawl i ddiwygio’r polisi hwn ac felly i addasu safbwyntiau a nodwyd yn y ddogfen hon neu eu tynnu’n ôl ar unrhyw adeg.

  2. Y Broses Gyd-ddatblygu

Egwyddorion cyd-ddatblygu

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i weithio’n agos gyda phartneriaid rhanbarthol yng Nghymru – yn benodol drwy drefniadau llywodraethu Cyd-bwyllgorau Corfforedig – i ddatblygu cynigion Parthau Buddsoddi. Bydd y Parthau Buddsoddi yn broses a arweinir yn rhanbarthol ac a gynhelir mewn partneriaeth â lleoedd gyda chytundeb Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Caiff y broses ei llywio gan yr egwyddorion canlynol:

  • Proses a arweinir yn rhanbarthol: Caiff y Parthau Buddsoddi eu harwain yn rhanbarthol, ac ar bob cam cyd-ddatblygu cynigir hyblygrwydd ac ymreolaeth i bob lle nodi a dewis y cyfuniad gorau o ymyriadau ar gyfer ei gynnig.

  • Partneriaeth: bydd y broses gyd-ddatblygu yn un wirioneddol iteraidd ac yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â’r sectorau preifat a cyhoeddus er mwyn sicrhau bod ansawdd, uchelgais ac effaith Parthau Buddsoddi o’r safon uchaf bosibl. Bydd y ddwy lywodraeth yn pennu’r paramedrau a’r meini prawf, yn rhoi cefnogaeth a her er mwyn sicrhau bod cynlluniau yn wirioneddol strategol, ac yn nodi cyfleoedd i gysoni â pholisïau a buddsoddiadau ehangach y llywodraethau. Dylai pob dull gweithredu gael ei sbarduno gan wybodaeth rhanbarthol am gryfderau, cyfleoedd ac anghenion y sylfaen arloesi a’r amgylchedd busnes presennol.
  • Arweinyddiaeth Rhanbarthol: er mwyn cefnogi’r broses o symleiddio cyllid, caiff dull cyd-ddatblygu ei fabwysiadu a bydd y broses o gytuno ar gynigion yn gymesur ac yn seiliedig ar feini prawf. Drwy hyn bydd lleoedd yn cael yr hyblygrwydd i lunio a chyflawni eu cynigion, a rhoi’r sicrwydd angenrheidiol i’r ddwy lywodraeth bod cynigion o ansawdd uchel ac y gellir eu cyflawni ar yr un pryd. Byddwn yn pennu meini prawf eang ond clir ac yn cytuno ar allbynnau a chanlyniadau penodol ac yn dwyn lleoedd i gyfrif am eu cynnydd yn eu herbyn.

Camau porth

Bydd y broses gyd-ddatblygu yn cael ei strwythuro ar sail pyrth thematig a fydd yn cwmpasu elfennau craidd cynnig gan Barth Buddsoddi. Bydd y pyrth yn canolbwyntio ar bum thema:  

  • Pennu gweledigaeth – a fydd yn cwmpasu gweledigaeth gyffredinol y cynnig.
  • Sector a daearyddiaeth economaidd – cytuno ar sector cynradd (a sector eilaidd os yw’n gymwys) y Parth Buddsoddi a sut a ble y bydd y rhain yn tyfu clwstwr/clystyrau busnes sy’n bodoli eisoes. Dylai’r Weledigaeth ddangos dealltwriaeth y Parth o’r ffordd y mae’n bwriadu ymdrin yn fras ag ymyriadau treth a gwariant hyblyg a gwneud penderfyniadau, ac adolygu tystiolaeth bod y meini prawf wedi cael eu bodloni.
  • Llywodraethu – cytuno ar y strwythur llywodraethu a’r prosesau sicrwydd ar gyfer cynllunio’r Parth Buddsoddi, ei gymeradwyo a’i roi ar waith ac adolygu tystiolaeth bod y meini prawf wedi cael eu bodloni.
  • Ymyriadau – cytuno ar y cyfuniad penodol o ymyriadau ac ysgogwyr sydd i’w defnyddio a ble, gan sicrhau cysylltiad rhesymol rhwng y weledigaeth a’r cyfleoedd allweddol a’r heriau a nodwyd, y portffolio o ymyriadau a ddewiswyd ac allbynnau, a chanlyniadau canolraddol a chyffredinol ymyriadau ac adolygu tystiolaeth bod y meini prawf wedi cael eu bodloni.
  • Cyflawni – cytuno ar y model neu’r modelau cyflawni, gan gynnwys unrhyw ffyrdd o gyflawni ymyriadau cynllunio, cofrestr o ryngddibyniaethau a risgiau, pennu llinell amser a’r proffiliau ariannol terfynol, ac adolygu tystiolaeth bod y meini prawf wedi cael eu bodloni.

Meini prawf ar gyfer cynigion

Mae’r meini prawf ar gyfer cynigion yn nodi’r hyn y bydd disgwyl i Barth Buddsoddi ei ddangos ar gam pob porth a’r hyn y bydd angen i bob parti gytuno arno er mwyn i’r cynigion symud i’r porth nesaf. Bydd hyn yn sicrhau y caiff y cynnig cyffredinol ei ddatblygu i safon briodol, er mwyn sicrhau bod y polisi yn cyflawni’r canlyniadau a ddatganwyd yn ei gylch ac yn sicrhau gwerth am arian. Mae’r meini prawf wedi cael eu llunio yn seiliedig ar sawl egwyddor:  

  • Maent yn seiliedig ar y dystiolaeth o’r hyn sy’n gyfystyr â chlystyrau cynaliadwy, llwyddiannus ac ecosystemau arloesi rhanbarthol cadarn.
  • Maent yn ymestynnol er mwyn sicrhau bod holl gynigion Parthau Buddsoddi mor gadarn â phosibl ac y gallant gyflawni eu potensial.
  • Caiff cynigion sy’n cynnwys cymhellion sy’n ymwneud â threthi datganoledig ac a gedwir yn ôl eu hasesu ar wahân o ran pa mor dda y maent yn cyflawni yn erbyn amcanion y Parth Buddsoddi a’r ffocws sectoraidd. Bydd angen i gynigion gyfiawnhau pam mae angen pob ymyriad a sut y cyfrifir am unrhyw effeithiau negyddol a’u lliniaru.

Ar gyfer canllawiau atodol ar gadw ardrethi annomestig gweler Atodiad B a chanllawiau atodol ar gymhellion treth gweler Atodiad C.

Cymeradwyo

Mae’r rhaglen Parthau Buddsoddi yng Nghymru yn cael ei chyflawni ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sef yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a Thrysorlys EF. Fel y cyfryw, bydd angen i gynigion terfynol gael eu cymeradwyo, gan gynnwys y fframwaith sy’n rhoi sicrwydd y bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cydymffurfio â’r holl drefniadau llywodraethu perthnasol sy’n ymwneud â chyflawni, gan gynnwys gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Rheoli Cymorthdaliadau, gan bob Gweinidog perthnasol yn y ddwy lywodraeth.

  • Mae’r meini prawf ar gyfer cynigion, a sut y byddwn yn asesu cynigion (gweler Atodiad A) wedi’u rhannu’n bum cam, un ar gyfer pob un o themâu’r pyrth a nodir uchod.
  • Mae’r broses hon wedi cael ei llunio i lywio cyd-ddatblygu mewn ffordd resymegol sy’n cynnig lle i drafod. Ar bob cam, yr her fydd, ‘Beth yw’r cynnig, pam, a beth mae’n ei wneud?’
  • Bydd pob cam yn cynnwys adolygu’r cynigion yn erbyn y dystiolaeth a’r meini prawf a, lle y bo’n berthnasol, bydd hyn yn cynnwys ceisio safbwyntiau adrannau gwahanol o’r llywodraeth, lle mae’r ymyriadau arfaethedig o ran sector neu bolisi yn ymwneud â’u meysydd polisi.
  • Dylai corff atebol y Cyd-bwyllgor Corfforedig (neu’r awdurdod rhanbarthol arweiniol, yn dibynnu ar strwythurau y cytunwyd arnynt yn rhanbarthol) ar gyfer pob Parth Buddsoddi geisio cymeradwyaeth ar lefel briodol ar bob cam er mwyn sicrhau atebolrwydd a chefnogaeth drwy’r Cyd-bwyllgor Corfforedig cyfan sydd o fewn cwmpas ymyriad y Parth Buddsoddi a phartïon eraill â diddordeb.
  • Ni fydd cynnig yn symud ymlaen i’r porth nesaf nes bod cam blaenorol y cynnig wedi bodloni’r gofynion angenrheidiol, a bod cytundeb rhwng yr holl bartïon.
  • Fel yr amlinellir ym mhrosbectws y polisi, mae’r ddwy lywodraeth yn cadw’r hawl i beidio â bwrw ymlaen â chynigion os nad oes modd dod i gytundeb a dim ond ar ddiwedd y broses a’r pum cam i gyd y caiff cynigion eu cymeradwyo’n ffurfiol ac yn llawn.
  • Mae’r broses o gymeradwyo cynigion yn amodol ar gytuno ar gynlluniau cyflawni cyn y caiff cyllid ei ryddhau.
  • Er mwyn cydnabod y bydd Parthau Buddsoddi yn cael eu harwain yn rhanbarthol, bydd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cytuno ar y cynigion terfynol i’w cymeradwyo gan y ddwy lywodraeth.

Meini prawf ar gyfer arian cyfatebol

Dylai pob cynnig gynnwys ryw elfen o arian cyfatebol oddi wrth y sector preifat, y trydydd sector a llywodraeth rhanbarthol e.e. prifysgolion, elusennau. Os nad oes unrhyw arian cyfatebol wedi cael ei sicrhau yn erbyn ymyriad, byddem yn disgwyl i resymeg glir gael ei nodi. Disgwyliwn y bydd pob cynnig gan Barth Buddsoddi yn cael arian cyfatebol llawn neu rannol ar ffurf buddsoddiad gan y sector preifat a chydgyllido gan gyrff cyhoeddus eraill lle y bo’n berthnasol. Rydym yn gofyn i Gyd-bwyllgorau Corfforedig fynd ymhellach gyda phartneriaid lle bynnag y bo modd, yn enwedig pan fydd eu hymyriadau yn canolbwyntio ar themâu megis cymorth i fusnesau, ymchwil ac arloesedd a seilwaith rhanbarthol i sicrhau cefnogaeth gydgysylltiedig. Ar yr amod bod cynigion yn bodloni gofynion penodol a bod pob parti yn cytuno arnynt, mae’r rhaglen yn cynnig amlen gyllido gyffredinol o £160m i bob Parth Buddsoddi. Os bydd cynigion yn cynnwys cymhellion treth, bydd angen i’r rhain gael eu didynnu o’r £160m. Yna, byddai angen i bob Parth Buddsoddi geisio o leiaf 60% o arian cyfatebol am weddill y cyllid. Mae ardrethi annomestig a gedwir y tu allan i’r amlen gyllido gyffredinol oherwydd bwriedir iddi fod yn refeniw newydd ei gynhyrchu o ganlyniad i’r camau a gymerwyd gan y Parth Buddsoddi, yn hytrach na gostyngiad treth.

Er mwyn rhoi sbardun i’r gydberthynas gadarn a chadarnhaol â busnesau y bwriedir i Barthau Buddsoddi ei chreu, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig sicrhau cefnogaeth partneriaid yn y sector cyhoeddus, gan greu dull gweithredu a rennir ac a ysgogir gan ganlyniadau. Dylai rhanbarthau fod yn uchelgeisiol o ran y ffynhonnell o arian cyfatebol, er enghraifft, osgoi’r defnydd o unrhyw ardrethi annomestig y disgwylir eu cadw a fyddai’n deillio o gynnig fel ffynhonnell o arian cyfatebol. Fel rhan o’r broses o ddatblygu cynigion Parthau Buddsoddi, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi’n glir pa ymyriadau arfaethedig a fydd yn cael arian cyfatebol, ar ba raddfa ac os nad ydynt yn ei gael, pam felly.

3. Canlyniadau ac Allbynnau

Amcanion Parthau Buddsoddi

Bydd Parthau Buddsoddi yn cefnogi datblygiad a thwf clystyrau er mwyn gwella’r gallu i arloesi’n rhanbarthol, denu buddsoddiadau a chefnogi twf a chyflogaeth yn y sector preifat ac, yn ei dro, dwf economaidd. Bydd hyn yn helpu i hybu cynhyrchiant a thwf rhanbarthol drwy annog a meithrin gallu cadwyni cyflenwi rhanbarthol, a bydd dull cyfannol yn sicrhau mai’r gweithlu a chymunedau rhanbarthol fydd yn cael manteision y twf a’r buddsoddiad hwnnw.

Nid amcanion ar eu pen eu hunain yw’r rhain, a byddant yn cefnogi ein huchelgeisiau cyffredinol a rennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan gynnwys helpu i gyflawni’r Genhadaeth Economaidd yn Strategaeth Arloesi Cymru Llywodraeth Cymru:

  • Economi sy’n arloesi i sicrhau twf, yn cydweithio rhwng sectorau i ddod o hyd i atebion i heriau cymdeithas, yn mabwysiadu technolegau newydd ar gyfer effeithlonrwydd a chynhyrchiant, yn defnyddio adnoddau’n gymesur ac yn rhoi cyfle i ddinasyddion rannu cyfoeth drwy waith teg.

Cyflwyno’r model rhesymeg rhanbarthol (llifau o A i F)

Mae’r model rhesymeg rhanbarthol a awgrymir isod yn nodi’r fframwaith ar gyfer sut y dylai ymyriadau mewn Parthau Buddsoddi gysylltu a llifo. Mae’n cyflwyno meini prawf ar gyfer cynyddu cynhyrchedd ac yn cysylltu â busnesau a rhanbarthau cynhyrchiol cefnogol fel y’i nodwyd yn Strategaeth Arloesi Cymru, y dylai ymyriadau yn rhesymol eu gwella fel rhan o gyflawni amcanion y rhaglen.

A – Cyflwr presennol y clwstwr a dargedir mewn sector â blaenoriaeth (sy’n nodi’r cyfyngiadau cyfrwymol a’r cyfleoedd yn y rhanbartholiad daearyddol a ddewisir)

Cyflwr Presennol: Cyfyngiadau neu gyfleoedd heb eu gwireddu o ran:  

  • Cyfalaf dynol – er enghraifft, y sgiliau sydd ar gael a’r farchnad lafur rhanbarthol
  • Cyfalaf ffisegol – er enghraifft, mynediad i fangreoedd arbenigol priodol, seilwaith trafnidiaeth a’r angen am offer a chyfarpar newydd
  • Cyfalaf anniriaethol – er enghraifft, cyfleoedd i ddatblygu technolegau, cyfarpar, prosesydd neu gadwyni cyflenwi
  • Cyfalaf ariannol – er enghraifft, argaeledd buddsoddi uniongyrchol o dramor, cyllid banc, cyllid ecwiti preifat

B – Mewnbynnau Rhanbarthol (mewnbynnau cyffredinol megis cyllid ac adnoddau eraill a fydd yn cael eu darparu yn y rhanbartholiad daearyddol a ddewisir)

  • Mewnbwn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
  • Mewnbwn llywodraeth rhanbarthol
  • Mewnbwn anllywodraethol

C – Gweithgareddau Rhanbarthol (ymyriadau sy’n cael eu cyflawni yn y rhanbartholiad daearyddol a ddewisir.Dylid hefyd gyfrif am ymyriadau y tu allan i Barthau Buddsoddi)

  • Gweithgareddau Parthau Buddsoddi:
    • gwariant hyblyg
    • ymchwil ac arloesedd
    • sgiliau
    • seilwaith rhanbarthol
    • cymorth i fusnesau
    • cynllunio a datblygu
  • Pecyn o Gymhellion Cyllidol Dewisol:
    • Rhyddhad Treth Trafodion Tir
    • Rhyddhad ardrethi annomestig
    • Ardrethi annomestig a gedwir
    • lwfans cyfalaf uwch
    • lwfans strwythurau ac adeiladau uwch
    • rhyddhad cyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr
  • Gweithgareddau y tu allan i Barthau Buddsoddi
    • er enghraifft, Ardaloedd Menter, Bargeinion Dinas a Thwf, prosiectau arloesedd, Porthladdoedd Rhydd, cynlluniau sgiliau rhanbarthol, seilwaith/gweithgarwch sero net ac ati

D – Allbynnau Awgrymedig Rhanbarthol (allbynnau ymyriadau Parthau Buddsoddi yn y rhanbartholiad daearyddol a ddewisir. Os bydd allbynnau ymyriadau Parthau Buddsoddi yn wahanol i ymyriadau y tu allan i Barthau Buddsoddi, dylid cyfrif am hyn)

  • Allbynnau rhanbarthol Parthau Buddsoddi – allbynnau uniongyrchol disgwyliedig ymyriadau y disgwylir iddynt gael eu gwireddu yn ystod oes y rhaglen 5 mlynedd, er enghraifft:
    • nifer y cyfranogwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau hyfforddiant sydd ar gael
    • nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru i fod yn brentisiaid
    • nifer y busnesau sy’n cael cymorth anariannol
    • nifer y busnesau sy’n cael grantiau
  • Allbynnau rhanbarthol y tu allan i Barthau Buddsoddi (os ydynt yn wahanol) – gwelliannau disgwyliedig o ganlyniad i ymyriadau, er enghraifft:
    • nifer y gweithgareddau masnach sy’n ymwneud â phorthladd rhydd, rhyngweithio â Bargeinion Dinas a Thwf, prosiectau arloesedd, cynlluniau sgiliau rhanbarthol, seilwaith/gweithgarwch sero net ac ati.

E – Canlyniadau Canolraddol Awgrymedig Rhanbarthol (effaith ymyriadau’r Parth Buddsoddi yn y rhanbartholiad daearyddol a ddewisir ar ganlyniadau uniongyrchol rhanbarthol, sy’n gysylltiedig â’r chwe chyfalaf.Dylai ymyriadau y tu allan i Barthau Buddsoddi gael eu cysylltu â chanlyniadau canolraddol Parthau Buddsoddi)

  • Gwelliant mewn Cyfalaf Ffisegol, er enghraifft:
    • mwy o arwynebedd llawr ar gael
    • mwy o safleoedd a wasanaethir ar gael
    • mwy o fuddsoddi mewn offer a pheiriannau
  • Gwelliant mewn Cyfalaf Anniriaethol, er enghraifft:
    • mwy o amser i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion ymchwil a datblygu
    • busnesau yn ymgymryd â mwy o weithgarwch ymchwil a datblygu
    • mwy o wariant o hyfforddiant penodol
  • Gwelliant mewn Cyfalaf Dynol, er enghraifft:
    • mwy o ddysgwyr yn cofrestru â rhaglenni sgiliau perthnasol
    • mwy o ddysgwyr yn dysgu mwy o sgiliau a / neu yn ennill cymwysterau newydd
  • Gwelliant mewn Cyfalaf Ariannol, er enghraifft:
    • denu buddsoddiad gan farchnadoedd a’r sector preifat
    • cynnydd o ran maint cylchoedd buddsoddi

F – Canlyniadau Rhanbarthol (effaith ymyriadau Parth Buddsoddi yn y rhanbartholiad daearyddol a ddewisir ar ganlyniadau rhanbarthol, sy’n gysylltiedig â chanlyniadau cenedlaethol a RENNIR.)

  • Hwb i gynhyrchiant yn ardal y Cyd-bwyllgor Corfforedig
  • Cynnydd mewn enillion gwirioneddol i weithwyr hyfedr a gweithwyr â lefel isel o sgiliau yn ardal y Cyd-bwyllgor Corfforedig
  • Cwmnïau yn y clwstwr yn dod yn fwy cystadleuol yn rhyngwladol
  • Technolegau newydd y mae galw amdanynt yn rhyngwladol
  • Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr ar sail rhanbarthol, genedlaethol neu ryngwladol a mwy o allu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd

Datganiad o fwriad, sy’n llywio’r ymyriadau a ddewisir gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig, yw canlyniadau rhanbarthol hirdymor y Parth Buddsoddi. Mae’n mynegi’r hyn y disgwyliwn i Barthau Buddsoddi ei wireddu yn eu rhanbarth yn y pen draw, a) os cânt eu creu’n dda ynddynt eu hunain a, b) os cânt eu hategu neu eu mwyhau gan weithgarwch arall nad yw’n gysylltiedig â’r Parth Buddsoddi mewn rhanbarth fel rhan o strategaeth economaidd ranbarthol ehangach. Ni fyddwn yn gofyn i ranbarthau roi amcanestyniadau ar gyfer y rhain.

Yna, fel rhan o’r broses o ddatblygu eu cynnig ar gyfer Parth Buddsoddi a’u model rhesymeg, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi yn eu hymateb i’r meini prawf a’r templed ategol pa ymyriadau (gweithgareddau) y byddant yn ymgymryd â nhw gyda’r cyllid hyblyg sydd ar gael, a pha allbynnau ar lefel ymyriad a chanlyniadau canolraddol y bydd pob un o’r ymyriadau hyn yn eu sicrhau. Cyhoeddir yr allbynnau ar lefel ymyriad a’r canlyniadau yn y ‘fframwaith canlyniadau’ a bydd angen i ranbarthau ddewis o leiaf un (ond nid pob un oni bai bod pob un yn gymwys) o Atodiad D.

Bydd angen i Gyd-bwyllgorau Corfforedig nodi’n glir sut y bydd arian cyhoeddus yn cael ei wario a’r allbynnau a’r canlyniadau cysylltiedig y maent yn disgwyl eu sicrhau. Bydd y manylion hyn yn sail dros fonitro cynnydd a dwyn Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn atebol am gyflawni. Pan fydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ymgorffori safleoedd treth a/neu ardrethi annomestig a gedwir fel ymyriad, bydd disgwyl iddynt nodi pa ganlyniadau (cyflogaeth, gwerth tir a buddsoddi busnes) a gaiff eu sicrhau. Pan fydd ymyriadau lluosog yn datgloi safle cyflogaeth, bydd angen i Gyd-bwyllgorau Corfforedig yn nodi nifer y swyddi sy’n gysylltiedig â’r grŵp hwn o ymyriadau.

Bydd yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig gynnwys o leiaf un allbwn ac un canlyniad fesul ymyriad fel y’i nodwyd yn y fframwaith ymyriadau. Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried unrhyw adroddiadau ar ganlyniadau ychwanegol gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig. Felly, efallai y bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn nodi canlyniadau pellach sy’n ymwneud ag effaith eu hymyriadau yn y Parth Buddsoddi sy’n gysylltiedig â chanlyniadau cenedlaethol a rennir gan y ddwy lywodraeth.

Bydd allbynnau a chanlyniadau sydd wedi’u diffinio’n glir yn helpu i lunio model rhesymeg cydlynol ar lefel ranbarthol ac yn golygu y gall Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddangos sut mae’r ymyriadau a ddewiswyd ganddynt yn cyfrannu at effeithiau hirdymor y rhaglen Parthau Buddsoddi ledled y DU yn ogystal â’r uchelgeisiau cenedlaethol a rennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Diweddaru’r fframwaith allbynnau a chanlyniadau yn y dyfodol

Bydd strategaeth Monitro a Gwerthuso ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn llywio pa rai o’r allbynnau a’r canlyniadau hyn sydd eu hangen ar gyfer yr elfennau o’r rhaglen Parthau Buddsoddi sy’n ymwneud ag adrodd a rheoli perfformiad. Bydd y strategaeth Monitro a Gwerthuso yn cadarnhau pa allbynnau/canlyniadau sydd eu hangen at ddibenion adrodd. Caiff y strategaeth Monitro a Gwerthuso ei defnyddio wrth ddatblygu cynlluniau cyflawni manwl sy’n cynnwys allbynnau, canlyniadau, a dangosyddion ar gyfer ymyriadau lle. Caiff hyn ei ddefnyddio i gytuno ar y cerrig milltir cyflawni yn y cytundeb cyllid grant cyn bod cyllid yn cael ei ryddhau, a ddisgwylir ar hyn o bryd yn y flwyddyn ariannol 2025/26. Rydym yn cydnabod y gall y fath bethau i’w cyflawni ddatblygu wrth i’r rhaglen gyflawni a bydd disgwyl i ranbarthau dynnu sylw at hyn drwy broses rheoli newid y rhaglen. Caiff hyn ei nodi’n fanylach mewn iteriad diweddarach o’r ddogfen dechnegol hon. 

Ymyriadau

Mae’r adran hon yn nodi themâu gwahanol ymyriadau, eu hamcanion, a’r mathau o gyfalaf y disgwylir iddynt eu sicrhau. Yr amcanion a’r cyfalafau hyn sy’n pennu’r fframwaith ar gyfer yr allbynnau a’r canlyniadau yn y fframwaith a atodir yn Atodiad D.

SGILIAU

Rhaglen sgiliau arbenigol â ffocws sectoraidd lle nad yw anghenion y farchnad lafur ranbarthol, fel y’i nodwyd yn y Parth Buddsoddi, yn cael eu diwallu gan y rhaglenni presennol. Bydd hyn yn ystyried yr angen cynyddol am y sgiliau a ystyriwyd yng Nghynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, ymyriadau sector-benodol neu gyllid ar gyfer uno’r system brentisiaethau yn rhanbarthol rhwng darparwyr a busnesau. Mae’n rhaid i gynlluniau Parthau Buddsoddi ddangos sut y caiff ymyriadau eu targedu at anghenion penodol a sut y maent yn deall y farchnad lafur ranbarthol. Dylai ymyriadau fod yn gyson â blaenoriaethau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol fel y’u pennir gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol. Rydym yn disgwyl ymyriadau o ran sgiliau i sicrhau canlyniadau canolraddol cyfalaf dynol wrth i fwy o gyflogeion a phobl yn y farchnad lafur ranbarthol symud i gymwysterau uwch.

SEILWAITH RHANBARTHOL

Prosiectau gwella seilwaith rhanbarthol penodol (megis y rhai sydd wedi’u cynnwys mewn Bargeinion Dinesig a Thwf, cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, cynlluniau seilwaith digidol) sy’n gysylltiedig â chyfleoedd buddsoddi busnes penodol neu i ddatgloi safleoedd penodol. Er enghraifft, cynlluniau i wella cysylltedd i gefnogi gallu’r farchnad lafur ranbarthol i fanteisio ar ofod labordy gwell a’i ddefnyddio. Rydym yn disgwyl gweld ymyriadau seilwaith yn datgloi canlyniadau cyfalaf ffisegol wrth i safleoedd a datblygiadau gael eu datgloi ac wrth i fynediad i gyflogeion rhanbarthol gael ei wella drwy’r gweithgareddau hyn ac mewn ffyrdd sy’n ein helpu i symud i economi sero net.

YMCHWIL AC ARLOESEDD

Cyllid ar gyfer ymchwil a datblygu i helpu i gyflwyno marchnadoedd newydd ar y farchnad, cryfhau gweithgarwch masnacheiddio, gwella niferoedd, symleiddio prosesau, a chefnogi arloesedd. Rydym yn disgwyl gweld yr ymyriadau hyn yn sicrhau (yn dibynnu ar y ffocws) cyfuniad o ganlyniadau canolraddol cyfalaf anniriaethol, ffisegol a dynol, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, gallai canlyniadau canolraddol ffisegol gael eu sicrhau drwy fuddsoddiadau ymchwil a datblygu mewn gofod a chyfarpar labordy. Dylai grantiau ymchwil a datblygu i noddi rhwydweithiau sectoraidd a rhannu gwybodaeth sicrhau canlyniadau anniriaethol. Bydd buddsoddiadau i gefnogi cymwysterau PhD a chymwysterau arbenigol eraill hefyd yn cyfrannu at welliannau cyfalaf dynol ochr yn ochr â gweithgarwch arloesol.

CYMORTH BUSNES

Adeiladu ar gymorth sector-benodol wedi’i deilwra i egin fusnesau, cwmnïau deillio a busnesau sy’n manteisio ar gryfderau a chyfleusterau ymchwil rhanbarthol (megis Canolfannau Catapwlt), lle maent yn ychwanegol ac yn ategol i’r arlwy cenedlaethol neu bresennol. Fel ymyriadau ymchwil a datblygu, bydd ymyriadau cymorth busnes hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau canolraddol cyfalaf anniriaethol, ffisegol neu ddynol (neu gyfuniad o fwy nag un o’r rhain).

Canllawiau pellach:

  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi sylw i gysoni ac ymgysylltu â gweithgareddau a darpariaeth cymorth busnes arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU a fyddai’n berthnasol i fusnesau yn y Parth Buddsoddi. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, gwasanaethau masnach/allforio/mewnfuddsoddi Llywodraeth Cymru a’r Adran Busnes a Masnach, rhwydwaith y DU Banc Busnes Prydain, Banc Datblygu Cymru, Porth Busnes, Busnes Cymru, timau Arloesi a Rhanbarthol LlC, Innovate UK i gefnogi busnesau arloesol, cymorth sector-benodol megis Made Smarter, sef mentrau digidol yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg a ddarperir yn rhanbarthol.
  • Ni ddylai ymyriadau ddyblygu’r cymorth sydd eisoes ar gael ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu rhanbarthol, er enghraifft ni ddylai cyllid sbarduno ddyblygu rhaglenni Banc Busnes Prydain na’r cymorth a gynigir gan Fanc Datblygu Cymru neu gyngor gan Busnes Cymru.
  • Dylai Parthau Buddsoddi gydweithio ag Ardaloedd Menter perthnasol yng Nghymru a gwasanaethau Busnes Cymru, gan mai’r rhain yw’r ddau brif bwynt mynediad cenedlaethol a rhanbarthol a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer busnesau sy’n ceisio cyngor ac arweiniad, er mwyn cynnull a symleiddio’r ecosystem cymorth busnes i fusnesau a darparwyr yn eu hardaloedd.

CYNLLUNIO

Mae’n rhaid i ddatblygiadau fod yn unol â Cymru’r Dyfodol: Cynllun Datblygu Cenedlaethol 2024 a Chynlluniau Datblygu Rhanbarthol a fabwysiadwyd. Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig geisio cyflymu gwaith ar Gynlluniau Datblygu Strategol ochr yn ochr â gwaith ar Gynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol i sicrhau bod Parthau Buddsoddi yn cael yr effaith fwyaf bosibl.Dylent fabwysiadu arferion gorau a dilyn dulliau cynllunio arloesol lle y byddai gweithgareddau yn ychwanegu gwerth. Gallai’r rhain gynnwys sefydlu timau â ffocws ar brosiectau, gan gynnwys timau cymwysiadau mawr, uwchgynllunio rhagweithiol, defnyddio protocolau cynllunio neu gytundebau prosesu a chysoni â gweithdrefnau cydsynio lle y bo’n briodol. Dylai ymyriadau cynllunio gyfrannu at ganlyniadau canolraddol ffisegol wrth i safleoedd datblygu gael eu datgloi’n gyflymach (ac o ansawdd uwch) a thrwy hynny gyflymu’r broses gynllunio.

Rhagwelir y bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig o bosibl yn dewis defnyddio eu cyllid craidd ar gyfer Parth Buddsoddi i gefnogi’r arlwy cynllunio hwn.

 4. Sicrwydd a Risg

Atebolrwydd

Cyd-bwyllgor Corfforedig y Parth Buddsoddi, neu’r awdurdod lleol arweiniol perthnasol, sy’n gyfrifol am gyflawni’r Parth Buddsoddi yn effeithiol yn unol â’r manylion a nodir mewn cynigion y cytunwyd arnynt ac a gymeradwywyd. Bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn atebol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am wario a rheoli arian cyhoeddus. Mae’r Swyddog Atebol ar gyfer cyllid Llywodraeth y DU yn rhan o’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol sy’n gyfrifol am drosglwyddo cyllideb i Lywodraeth Cymru, yn unol â manylion a amlinellir mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Yn unol â Safonau Swyddogaethol Grantiau’r Llywodraeth gan Swyddfa’r Cabinet, bydd y sicrwydd ar gyfer y rhaglen Parthau Buddsoddi yn cyd-fynd ag egwyddorion y tair lefel sicrwydd, y cyfeirir atynt fel y tair llinell amddiffyn. Bydd y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am roi grantiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig. Fel y cyfryw, bydd unrhyw grantiau yn cydymffurfio â Chynnig Grant Llywodraeth Cymru.

Y sawl sy’n derbyn y grant fydd y corff atebol a nodir gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig a chaiff cyllid ei ddyrannu drwy Lythyr Cynnig Grant a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. 

Y llinell amddiffyn gyntaf

Dylai’r llinell amddiffyn gyntaf fod ar lefel rheolaeth weithredol lle yr ymgymerir â’r cyfrifoldeb rheoli. Y sawl sy’n derbyn y grant fydd y corff atebol a nodir gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig a bydd arian yn cael ei ddyrannu trwy Lythyr Cynnig Grant a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Darperir y llinell amddiffyn gyntaf gan Brif Swyddog Cyllid y corff atebol (swyddog A.151) gan ei fod yn gweithredu ar lefel rheolaeth weithredol wrth dderbyn y cyllid. Felly, bydd y Prif Swyddog Cyllid yn gyfrifol am ddarparu arian cyhoeddus yn briodol, gyda phriodoldeb, rheoleidd-dra, a gwerth am arian. 

Cydnabyddir bod y ddeddfwriaeth ehangach a’r rheoliadau sy’n llywodraethu gwaith rhanbarthol gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn aeddfed a bod dyletswyddau statudol a rheolau eisoes yn bodoli sy’n rheoli defnyddio arian cyhoeddus. Fel y cyfryw, dylid defnyddio ymagwedd gymesur at sicrwydd a rheoli perfformiad ar gyfer Parthau Buddsoddi yng Nghymru sy’n ychwanegu at drefniadau llywodraethu sydd eisoes yn bodoli yn lleol (Awdurdod Lleol) ac yn rhanbarthol (Cyd-bwyllgor Corfforedig). 

Defnyddir trefniadau adrodd a gynhelir gan gyrff atebol i sicrhau tystiolaeth o effeithiolrwydd y llinell amddiffyn gyntaf. Bydd yn ofynnol i’r Prif Swyddog Cyllid a enwebwyd:

  • ddarparu cadarnhad ysgrifenedig bod gwiriadau angenrheidiol yn cael eu cynnal i sicrhau bod gan ddyraniad cyllid y Cyd-bwyllgor Corfforedig a’r ymyriadau penodol i raglen brosesau ar waith i sicrhau bod eu materion ariannol yn cael eu gweinyddu’n briodol o ran y rhaglen gyllido, a bod y rhain wedi’u sefydlu, yn effeithiol ac yn cael eu defnyddio. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i weinyddiaeth ariannol a thryloywder llywodraethu; ac

  • ymateb yn uniongyrchol i gwestiynau sy’n ymdrin â llywodraethu a thryloywder ar gyfer pob agwedd ar reoli grant eu Parth Buddsoddi, gan gynnwys caffael, gwrthdaro buddiannau, rheoli cymorthdaliadau, gwrth-dwyll, a risg. 

Yr ail linell amddiffyn

O ystyried natur ddatganoledig y gronfa, caiff yr ail linell amddiffyn ei llywio gan fframwaith Cymru a’r egwyddorion ar gyfer rheoli adnoddau cyhoeddus yn gyfrifol ac er budd y cyhoedd, sef Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru [footnote 2], sy’n cyd-fynd â Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Cyflawnir hyn gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig neu Lywodraeth Leol ac mae’n cyd-fynd â natur ddatganoledig y rhaglen wrth geisio sicrwydd y bydd gweithgarwch y Parth Buddsoddi yn cael ei gynnal yn unol â dyletswyddau statudol y corff atebol a phrosbectws y polisi.

Dylai llywodraethau gydlynu er mwyn dwyn gwahanol ddadansoddiadau ynghyd ar sail gyffredin i ddeall sefyllfa gyllidol gyffredinol awdurdodau lleol, a risgiau a chyfleoedd penodol. Bydd hyn yn cefnogi ac yn rheoli unrhyw risg sy’n dod i’r amlwg wrth gyflawni’r Parthau Buddsoddi. 

Mae gweithgarwch archwilio hefyd yn allweddol wrth roi gwybodaeth ariannol gywir a dibynadwy i awdurdodau lleol er mwyn iddynt gynllunio a rheoli eu gwasanaethau a’u cyllid yn effeithiol. Mae archwilio lleol hefyd yn sicrhau bod trefniadau ariannol awdurdodau lleol, gan gynnwys p’un a yw gwerth am arian yn cael ei gyflawni, yn dryloyw i drethdalwyr, ac yn hwyluso sicrwydd i’r sector cyhoeddus. 

Mae’r strwythur annibynnol hwn yn goruchwylio gwaith Prif Swyddog Cyllid y Cyd-bwyllgor Corfforedig ymhellach, y mae ei sicrwydd a’i waith yn hanfodol i gyflawni’r Parthau Buddsoddi. Os bydd risgiau neu bryderon sicrwydd yn codi o’r Ail Linell Amddiffyn, fe allai llywodraethau gynnal archwiliad bwrdd gwaith ychwanegol o gyflawni Parth Buddsoddi, trwy ymgysylltu â’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. 

Bydd yr Ail Linell Amddiffyn hon yn cael ei hadolygu’n barhaus, wrth i’r ddwy lywodraeth ddatblygu amcanion y rhaglen i wella tryloywder, y wybodaeth a’r cymhellion sydd ar gael i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn lleol. 

Y drydedd linell amddiffyn

Dylai’r drydedd linell amddiffyn gael ei chynnal gan gorff archwilio annibynnol neu gorff annibynnol/allanol addas i sicrhau barn wrthrychol am effeithiolrwydd llywodraethu, rheoli risg a rheolaethau mewnol. Dylai’r farn hon ymdrin â’r llinell amddiffyn gyntaf a’r ail linell amddiffyn. 

Gall Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth roi sicrwydd annibynnol yn seiliedig ar risg ynglŷn â dylunio a gweithredu rheolaethau o fewn y trefniadau ar gyfer y Parthau Buddsoddi a chysylltu â thimau archwilio mewnol ar draws llywodraethau, fel y bo’n briodol. Bydd cwmpas ac amseriad y sicrwydd hwn yn cael ei drafod rhwng llywodraethau a Chyd-bwyllgorau Corfforedig yn rhan o’r dulliau safonol o wario arian cyhoeddus.

Llywodraethu Cyllid

Ar hyn o bryd, disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Llythyr Cynnig Grant i’r Corff Atebol yn y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn flynyddol. Bydd y llythyr grant yn cael ei dderbyn gan un o swyddogion perthnasol y Cyd-bwyllgor Corfforedig a Swyddog(ion) Adran 151, a fydd yn ei lofnodi. Bydd amseriad derbyn grantiau Parth Buddsoddi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cael ei gytuno gan y ddwy lywodraeth yn flynyddol. Bydd amseriad dosbarthu’r grant i drydydd partïon perthnasol yn cael ei bennu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Mae aelod-awdurdodau lleol a thrydydd partïon yn gyfrifol yn unigol ac ar y cyd am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r trefniadau adrodd a llywodraethu a gynhwysir yn y Llythyr Cynnig Grant Parth Buddsoddi blynyddol a fydd yn cael ei rannu ar yr adeg briodol.

Bydd gwerth y grant a ddosberthir i bob prosiect wedi’i seilio ar y gwariant cymwys gwirioneddol (yn unol â rheolau cyfrifyddu cyfalaf) ar ddiwedd pob blwyddyn. Bydd y swm a delir yn adlewyrchu hyd at 100% o’r gwariant cymwys a gafwyd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig hyd at yr adeg honno. Lle y bo’n bosibl, dylai’r corff atebol ddosbarthu’r grant Parth Buddsoddi cyfan yn yr un flwyddyn ariannol ag y’i derbynnir.

Risg a Materion

Bydd cyflawni’r Parth Buddsoddi yn cael ei reoli gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig a thrydydd partïon yn unol â’r gofynion a amlinellir yn y cynigion. Mae’n hollbwysig bod yr holl risgiau sy’n berthnasol i gyflawni’r Parthau Buddsoddi a chanlyniadau cytunedig yn llwyddiannus yn cael eu hamlygu, eu gwerthuso a’u rheoli mewn modd tryloyw, cyson a systematig.

Dylid adrodd am unrhyw faterion trwy drefniadau llywodraethu cytunedig. Pan fydd materion heb eu datrys o hyd a/neu lle yr ystyrir bod cynnydd, cyflawniad neu berfformiad yn annigonol, mae’n rhaid bod llwybr clir ar gyfer uwchgyfeirio, ac mae’n rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel y bo’n briodol. Dylid cynnal ymarfer gwersi a ddysgwyd ar gyfer pob mater arwyddocaol sy’n codi.

  5. Adrodd, Monitro a Rheoli Perfformiad

Adrodd

Mae Parthau Buddsoddi wedi cael eu cynllunio i rymuso rhanbarthau a ddewiswyd yng Nghymru i arwain y gwaith o lunio a chyflwyno eu cynnig. Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gofyn am adroddiadau ffurfiol bob chwe mis, a ddylai gael eu llywio gan adroddiadau misol mewnol a reolir gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Er mwyn ein helpu i ddeall cynnydd, byddwn hefyd yn gofyn i gyrff atebol ddatblygu a mabwysiadu Cynllun Cyflawni Blynyddol a baratoir yn ystod C4 sy’n ystyried perfformiad ac yn disgrifio gweithgarwch / gwariant disgwyliedig yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

Bydd cyrff atebol yn cyflwyno un adroddiad bob chwe mis, fel y’i nodir yn y Llythyr Cynnig Grant gan Lywodraeth Cymru. Bydd Rhan 1 yn cynnwys y cwestiynau canlynol:  

  • gwariant hyd yma yn erbyn allbynnau/canlyniadau a rhagamcan yn erbyn pob ymyriad
  • crynodeb ar lefel prosiect o dan bob ymyriad, gan gynnwys rhanbartholiad, disgrifiad, faint y mae’n ei gostio, ei statws o ran cyflawni
  • crynodeb o gynnydd sy’n defnyddio gradd Coch, Oren, Gwyrdd (COG) gyffredinol i nodi’r cynnydd a’r duedd (gan ddefnyddio cwymplenni). Hefyd, crynodeb naratif byr diweddaru (hyd at 250 o eiriau)
  • rhagamcan o danwariant/gorwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (cyfansymiau cyfalaf a refeniw)
  • rhagolwg er mwyn rhoi naratif sy’n tynnu sylw at unrhyw brosiectau newydd, digwyddiadau, astudiaethau achos a chyfleoedd ar gyfer ymweliadau gweinidogol ar y cyd (hyd at 200 o eiriau)

Bydd Rhan 2 yn asesu a yw’r cyrff atebol wedi rhoi digon o wybodaeth a sicrwydd i wario cyllid grant. Dylai cynlluniau bob chwe mis grynhoi:   

  • faint o gyllid sydd wedi’i neilltuo a phroffil y gwariant hwnnw
  • faint o gyllid sydd wedi’i ddyrannu, ond heb ei neilltuo i brosiectau a phroffil y gwariant hwnnw
  • cynllun ar gyfer dyrannu cyllid heb ei ddyrannu, cerrig milltir allweddol o ran amseriad ceisiadau, neilltuo cyllid a phroffiliau gwariant.
  • rheoli risg, er enghraifft, cadarnhad bod cynlluniau ar waith i reoli risgiau sy’n gysylltiedig â llif prosiectau ac adnoddau
  • cynnydd disgwyliedig a wneir yn erbyn set o allbynnau/canlyniadau Parthau Buddsoddi

Mae’n rhaid i adroddiadau gael eu cymeradwyo gan Brif Swyddog Cyllid y Cyd-bwyllgor Corfforedig (swyddog A.151).

Mae cyllid a chymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dibynnu ar b’un a yw’r Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi darparu gwybodaeth ddigonol a thystiolaeth o gynnydd yn erbyn ei gynigion. Fodd bynnag, os bydd adroddiadau a gyflwynir gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig ynglyn â gwariant a chyflawni yn achosi pryder, ac nid oes modd lleddfu’r pryder hwn drwy ddeialog, cytundeb na chamau gweithredu, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cadw’r hawl i wneud addasiadau priodol i daliadau, gan eu gwneud fesul cam o bosibl, a gallant atal taliadau yn gyfan gwbl.

Mae’r cwestiynau y bydd y cyrff atebol yn ymateb iddynt yn eu hadroddiadau bob chwe mis yn fwriadol o eang, yn unol ag egwyddorion ymreolaeth ranbarthol, prosesau gwneud penderfyniadau ac atebolrwydd. Mae’r prif ddull o reoli perfformiad yn un cymesur lle mai dim ond yr wybodaeth sydd ei hangen i ddeall cynnydd a chyflawni dyletswyddau mewn perthynas â’r defnydd priodol o arian cyhoeddus y gofynnir amdani.

Beth fyddwn yn ei wneud gyda’r data a ddarperir?

Bwriedir i’r cwestiynau a’r data y gofynnir i gyrff atebol eu darparu gofnodi gwybodaeth at dri diben:  

  • goruchwylio’r Parthau Buddsoddi yng Nghymru ar lefel rhaglenni er mwyn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, y Swyddog(ion) Cyfrifyddu, Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU, ynglŷn â’r cynnydd sy’n cael ei wneud y ogystal â rhoi diweddariadau perthnasol i’r Senedd a Senedd y DU.
  • helpu i werthuso’r rhaglen, y nodir ei hegwyddorion yn yr adran ar fonitro a gwerthuso ac yr ymhelaethir arnynt yn y strategaeth werthuso;
  • monitro arian Parthau Buddsoddi sy’n cael ei wario ar y blaenoriaethau a’r ymyriadau priodol, a bod yr allbynnau a’r canlyniadau a sicrheir yn unol â’r disgwyliadau a nodir mewn cynigion y cytunwyd arnynt â’r llywodraeth.

Bydd angen i gyrff atebol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig graffu ar yr holl ffurflenni data a gyflwynir a’u cymeradwyo drwy eu trefniadau llywodraethu y cytunwyd arnynt. 

Rheoli perfformiad a phroses newid

Mae’r adran ganlynol yn nodi’r broses i Gyd-bwyllgor Corfforedig wneud newidiadau i’w gynigion a’i ddyletswyddau i hysbysu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â newidiadau. Mae’r rhain yn sefyll ochr yn ochr â dyletswyddau statudol presennol cyrff atebol a’r rheolau ynglŷn ag arian cyhoeddus.

Ffactorau sy’n sbarduno newid

Bydd gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig rywfaint o hyblygrwydd o ran newid blaenoriaethau a chynlluniau rhanbarthol yn unol â’r cyfrifoldebau a ddirprwywyd iddo. Mae hyn yn golygu mai dim ond pan fydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i gynigion y bydd angen cymeradwyaeth ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bwriedir nodi rhagor o fanylion am y trothwy ar gyfer newidiadau sylweddol a’r broses o geisio cymeradwyaeth gan y ddwy lywodraeth, maes o law, a fydd yn adlewyrchu’r prosesau llywodraethu ym mhob Cyd-bwyllgor Corfforedig.

Cwestiynau i’w hateb gan gyrff atebol fel rhan o’r broses newid

Gofynnir y cwestiynau canlynol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig wrth ystyried unrhyw newidiadau sylweddol:  

  • A yw Prif Swyddog Cyllid y Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi dilyn y trefniadau llywodraethu y cytunwyd arnynt i gytuno bod y newid yn angenrheidiol ac yn gyflawnadwy?
  • A oes tystiolaeth bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn fodlon ar y cais am newid, ac yn deall effeithiau a goblygiadau gwneud y newid dan sylw?

Bwriedir nodi rhagor o fanylion ynglŷn â fformat y data hyn a sut y cânt eu casglu oddi wrth Gyd-bwyllgorau Corfforedig maes o law ar ôl trafod â phob Cyd-bwyllgor Corfforedig er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu ei strwythurau llywodraethu, cyn y terfyn amser adrodd ffurfiol cyntaf.

Bwriedir i ethos a chynllun y rhaglen Parthau Buddsoddi roi hyblygrwydd a chyfrifoldeb i Gyd-bwyllgorau Corfforedig am y broses gyflawni gyffredinol. Fodd bynnag, ni fydd y naill lywodraeth na’r llall yn ystyried unrhyw geisiadau yn ystod y flwyddyn i gynyddu swm y cyllid refeniw (RDEL) a lleihau swm y cyllid cyfalaf (CDEL) a ddefnyddir yn ystod y flwyddyn honno. Disgwylir ar hyn o bryd mai Llywodraeth Cymru fydd yn rhoi’r llythyrau cynnig grant blynyddol i gyrff atebol a fydd yn nodi dyraniad o RDEL a CDEL. Ni ellir troi cyllid CDEL yn gyllid RDEL; ond, er mwyn rhoi hyblygrwydd, gellir cynyddu swm y CDEL drwy droi RDEL yn CDEL.

  6. Gwerthuso

Mae gwerthuso yn ganolog i’r broses o ddysgu gwersi a all wella’r ffordd y caiff prosiectau eu llunio a’u cyflawni yn y dyfodol. Mae’r bennod hon yn nodi cwmpas arfaethedig y broses werthuso genedlaethol a rhanbarthol a disgwyliadau ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig i gefnogi gwerthuso a dysgu o’r fath.

Cwmpas gwerthuso proses yn genedlaethol

Mae angen cynnal gwerthusiadau o broses er mwyn deall sut mae cynllun a threfniadau cyflawni rhaglen wedi gweithio’n ymarferol. Mae hyn yn dibynnu ar wybodaeth monitro ac adrodd, a ategir gan ymgysylltu â’r rhai sy’n cyflawni’r rhaglen. Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau / Llywodraeth Cymru fydd yn arwain y gwaith gwerthuso a byddant yn dibynnu ar gefnogaeth lleoedd i roi data ac ymgysylltu â gweithgareddau gwerthuso.

Cwmpas arfaethedig y gwerthusiadau cenedlaethol o effaith a gwerth am arian

Mae’r rhaglen Parthau Buddsoddi yn cynnig cyfle unigryw i werthuso’r hyn sy’n gweithio o ran ymchwil, arloesedd, a buddsoddi busnes. Caiff cwmpas y gwerthusiad ei bennu ar ôl cwblhau astudiaeth ddichonoldeb. Gall astudiaeth ddichonoldeb ddod i’r casgliad y dylid cynnal gwerthusiad o effaith Parthau Buddsoddi a allai ganolbwyntio ar asesu amrywiaeth eang o allbynnau, canlyniadau, ac effeithiau drwy ddefnyddio dulliau cymysg. Byddai gwerthusiad o effaith yn asesu effeithiau a chanlyniadau Parthau Buddsoddi p’un a yw’r effeithiau hyn yn fwriadol ai peidio. Hoffem gasglu tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio ac yn amodol ar astudiaeth ddichonoldeb, mae’n bosibl y caiff asesiad o werth am arian ei gynnal hefyd er mwyn dangos y gydberthynas rhwng costau a manteision Parthau Buddsoddi.

Gofynion ar leoedd

Disgwylir i leoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau a gydgysylltir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau / Llywodraeth Cymru i werthuso’r rhaglen. Gallai hyn gynnwys hwyluso mynediad i safleoedd, nodi rhanddeiliaid ar gyfer timau astudio a/neu gymryd rhan mewn grwpiau ffocws neu gyfweliadau. Bydd yn ofynnol i bob lle gyflwyno data monitro i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau / Llywodraeth Cymru a’u contractwyr yn unol â’r canllawiau, ni waeth a yw’n dewis cynnal ei werthusiad rhanbarthol ei hun ai peidio. Mae proses symleiddio yn mynd rhagddi ar hyn o bryd, er mwyn cydgrynhoi, lleihau a safoni gweithgareddau monitro a gwerthuso. Caiff amlder a manylion y dangosyddion sy’n gysylltiedig â gweithgarwch Parthau Buddsoddi eu llywio gan allbynnau’r ymarfer symleiddio hwn.

Dylai trefniadau monitro a gwerthuso ar gyfer grantiau cyffredinol hefyd ystyried y gofynion a nodir yn y llythyrau dyfarnu grant.

Gwerthuso rhanbarthol

Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau / Llywodraeth Cymru fydd yn arwain y gwerthusiad ar lefel y rhaglen, a fydd yn edrych ar y rhaglen. Caiff lleoedd eu hannog i gynnal eu gwerthusiadau eu hunain er mwyn eu helpu i ddeall ymhellach yr hyn sy’n gweithio yn eu hardal rhanbarthol, a pham. Mae gwerthuso yn ganolog i’r broses o ddysgu gwersi a all wella’r ffordd y caiff prosiectau eu llunio a’u cyflawni yn y dyfodol. Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau / Llywodraeth Cymru yn argymell yn gryf y dylai’r sawl sy’n cael grant gynnal gwerthusiadau rhanbarthol oherwydd y ddealltwriaeth werthfawr y gallant ei chynnig, ond nid yw’n orfodol i leoedd gynnal gwerthusiadau. Pan fydd lleoedd yn cynnal gwerthusiadau, cânt eu hannog i rannu allbynnau a data’r gwerthusiad â’r adran, ac i gyhoeddi canfyddiadau. Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau / Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu ac yn coladu dangosyddion safonol ar gyfer allbynnau a chanlyniadau y bydd lleoedd am eu defnyddio o bosibl at ddibenion gwerthuso pan fyddant wedi cael eu datblygu. Dylai cynlluniau ar gyfer gwerthuso prosiectau fod yn gymesur â maint y prosiect.

Astudiaeth ddichonoldeb a strategaeth monitro a gwerthuso fanwl

Caiff union gwmpas y gwerthusiad cenedlaethol ei gadarnhau ar ôl i astudiaeth ddichonoldeb gael ei chynnal, sy’n asesu a yw gwerthusiadau cadarn o effaith a gwerth am arian yn ddichonadwy, ac os felly, y dulliau methodolegol a’r setiau data mwyaf priodol i gynnal y rhain. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb a bydd y canfyddiadau yn cyfrannu at ddatblygu Strategaeth Gwerthuso Parthau Buddsoddi gyffredinol, a gaiff ei chyhoeddi ar GOV.UK.

Bydd y strategaeth yn amlinellu nodau ac amcanion y polisi, y cwestiynau y bydd y gwerthusiadau yn eu hateb, a’r ffordd y bydd yr adran yn gwerthuso a yw’r polisi ynglŷn â Pharthau Buddsoddi wedi cyflawni’r amcanion a ddymunir, a sut. Bydd y strategaeth hefyd yn cynnwys y Ddamcaniaeth Newid, sy’n dangos sut y disgwylir i bolisi’r Parthau Buddsoddi fynd rhagddo o’r cam gweithredu hyd at yr allbynnau, y canlyniadau, a’r effeithiau a ddymunir. Bydd y Ddamcaniaeth Newid yn llywio dull gwerthuso’r Parthau Buddsoddi ac yn cynnig cwestiynau ychwanegol a rhagosodiadau i’w profi.

Nid yw’r canllawiau hyn yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol ac ni ddylid eu defnyddio ar eu pen eu hunain wrth lunio cymorthdaliadau. Dylai’r rhai sy’n gyfrifol am roi cymorthdaliadau bob amser sicrhau eu bod yn deall yn llawn y gofynion o ran rheoli cymorthdaliadau a bodloni eu hunain bod eu polisïau neu eu prosiectau yn cydymffurfio â nhw.Dylai awdurdodau cyhoeddus hefyd geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain os ydynt yn ansicr o’u rhwymedigaethau cyfreithiol neu gyfreithlondeb cymhorthdal neu gynllun arfaethedig.

  7. Rheoli Cymorthdaliadau

Mae’n rhaid i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ystyried a fydd cynigion Parthau Buddsoddi yn cynnwys rhoi cymhorthdal ac, os felly, a fydd angen cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 a rhwymedigaethau rhyngwladol y DU ar reoli cymorthdaliadau, gan gynnwys Fframwaith Windsor.

O dan Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ystyried egwyddorion rheoli cymorthdaliadau a sicrhau bod eu cymhorthdal neu eu cynllun yn gyson â’r egwyddorion hynny cyn rhoi cymhorthdal unigol neu lunio cynllun cymorthdalu. Dylai awdurdodau cyhoeddus ddefnyddio’r templed asesu egwyddorion rheoli cymorthdaliadau i sicrhau bod eu cymorthdaliadau a’u cynlluniau cymorthdalu yn gyson ag egwyddorion rheoli cymorthdaliadau.

Nid yw’r canllawiau hyn yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol ac ni ddylid eu defnyddio ar eu pen eu hunain wrth lunio cymorthdaliadau. Dylai’r rhai sy’n gyfrifol am roi cymorthdaliadau bob amser sicrhau eu bod yn deall yn llawn y gofynion o ran rheoli cymorthdaliadau a bodloni eu hunain bod eu polisïau neu eu prosiectau yn cydymffurfio â nhw. Dylai awdurdodau cyhoeddus hefyd geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain os ydynt yn ansicr o’u rhwymedigaethau cyfreithiol neu gyfreithlondeb cymhorthdal neu gynllun arfaethedig.

  8. Caffael

Ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban, mae’n rhaid i’r holl wariant sy’n gysylltiedig â’r rhaglen gael ei asesu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad arfaethedig yn cydymffurfio â Deddf Caffael 2023 (sy’n disodli Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ac yn dilyn cyfansoddiadau rhanbarthol a rheolau, prosesau a gweithdrefnau grantiau, fel y bo’n berthnasol.

Y Cyd-bwyllgorau Corfforedig sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar y dull gweithredu mwyaf buddiol a sicrhau bod ymyriadau Parthau Buddsoddi yn cael yr effaith fwyaf posibl yn eu rhanbarth, megis cymhwyso egwyddorion Creu Cyfoeth Cymunedol. Dylai’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig achub ar unrhyw gyfle i gynnal cystadlaethau ar gyfer gweithgareddau cyllid grant, comisiynu, a chaffael, neu ddefnyddio timau mewnol i gyflawni amcanion os yw eu Prif Swyddog Cyllid wedi cael sicrwydd y bydd cydymffurfiaeth â safonau gofynnol a’r rhwymedigaethau cyfreithiol wrth gyflawni’r rhaglen hon.

  • Cyfansoddiad yr Awdurdod, gan gynnwys unrhyw reolau, prosesau neu weithdrefnau rhanbarthol ynglŷn â Grantiau / Contractau
  • Deddf Caffael 2023 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau neu ddeddfwriaeth ddilynol sy’n disodli’r naill ddeddf neu’r llall.
  • pob deddfwriaeth arall sy’n gymwys i weithgarwch a gynhelir, megis Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, IR35 (Deddfwriaeth Cyfryngwyr), Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022
  • Safon Swyddogaethol Grantiau’r Llywodraeth gyda ffocws penodol ar gydymffurfiaeth yn y meysydd canlynol:
    • Asesiad Risg o Dwyll – tudalennau 15-19
    • Diwydrwydd Dyladwy – tudalennau 20-24

Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig hefyd ystyried a gweithredu’r canlynol lle bynnag y bo modd:  

  • cynaliadwyedd a mesurau gwyrdd mewn cynlluniau caffael, sy’n gyson a’r cynllun ymaddasu cenedlaethol ar gyfer newid yn yr hinsawdd
  • Gwaith teg, sy’n gyson â’r dull gweithredu a nodir yn y Canllaw i waith teg; LLYW. CYMRU
  • cyhoeddi’r llif o gontractau arfaethedig ymlaen law er mwyn rhoi hyder a sicrwydd i fusnesau rhanbarthol fuddsoddi mewn datblygu sgiliau a bod yn barod i gystadlu wrth i gontractau gael eu hysbysebu.
  • cydweithio â rhanddeiliaid eraill sy’n rheoli buddsoddiad a gwariant arfaethedig arall y tu allan i’r rhaglen Parthau Buddsoddi. Gallai cydweithio o’r fath ystyried dulliau o sicrhau nad yw gallu na sgiliau busnesau rhanbarthol yn cael eu llethu o ganlyniad i gyfnodau pan fo galw mawr am wasanaethau, cyflenwadau a/neu waith tebyg
  • trefniadau caffael arloesol, gan gynnwys ystyried gwerth cymdeithasol (neu ganllyniadau Llesiant yng Nghymru) wrth gaffael a strategaethau i ymgysylltu â busnesau yn yr economi sylfaenol
  • mentrau, canllawiau a pholisïau’r DU megis y Llawlyfrau Cyrchu ac Ymgynghoriaeth, y Llawlyfr Adeiladu, y Llawlyfr Allanoli a chanllawiau’r llywodraeth ar Gynllunio Datrysiadau, neu ddeunyddiau cyfatebol yng Nghymru, er enghraifft y Cod Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gweithlu yng Nghymru.

Y Cyd-bwyllgor Corfforedig a’i gorff atebol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y safonau gofynnol a nodir uchod yn cael eu cymhwyso’n gymesur, eu monitro, a’u cynnal drwy gydol cyfnod grant y Parthau Buddsoddi.

Pan fydd awdurdodau nad ydynt yn contractio yn rhan o’r gwaith o gyflawni prosiectau Parthau Buddsoddi, dylent fabwysiadu’r fath bolisïau a gweithdrefnau ag sy’n ofynnol er mwyn sicrhau gwerth am arian wrth gaffael nwyddau neu wasanaethau a ariennir gan y rhaglen. Dylai hyn gynnwys mabwysiadu’r gweithdrefnau gofynnol canlynol oni bai bod trothwyon gwahanol wedi cael eu cymeradwyo’n fewnol drwy broses lywodraethu fewnol briodol y corff atebol a’i Brif Swyddog Cyllid:  

  • os bydd y contract yn werth £0 - £2,499 yna’r weithdrefn ofynnol yw ei ddyfarnu’n uniongyrchol
  • os bydd y contract yn werth £2,500 - £24,999 yna’r weithdrefn ofynnol yw tri dyfynbris neu brif ysgrifenedig a geisir oddi wrth gyflenwyr perthnasol nwyddau, gwaith a / neu wasanaethau
  • os bydd y contract yn werth dros £25,000 yna’r weithdrefn ofynnol yw proses dendro ffurfiol

Bydd cyrff atebol yn gyfrifol am sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau hyn yn cael eu cymhwyso gan awdurdodau nad ydynt yn contractio fel y bo’n briodol, eu bod yn cael eu monitro a bod adroddiadau yn cael eu cyflwyno arnynt.

Asesiad Risg o Dwyll

Bydd cyrff atebol yn gyfrifol am sicrhau bod twyll yn ystyriaeth allweddol yn yr holl weithgarwch gwario a bod y safonau gofynnol canlynol yn cael eu cyflawni:  

  • bodloni’r Safon Swyddogaethol Grantiau ar Asesiad Risg o Dwyll – tudalennau 15-19
  • cynnal asesiadau risg o dwyll ar lefel sy’n briodol i bob prosiect unigol yn dibynnu ar risg
  • sicrhau bod gwariant y Parthau Buddsoddi yn cael ei wneud yn unol â pholisi a gweithdrefn atal twyll awdurdod effeithiol, a thrwy ymgysylltu â chydweithwyr sy’n arbenigo yn y maes hwn.
  • sicrhau y caiff y dystiolaeth a’r data perthnasol i atal twyll eu casglu fel rhan o broses diwydrwydd dyladwy a gynhelir cyn rhyddhau cyllid
  • rhoi gofynion adrodd a monitro ar waith a fydd yn nodi achosion o afreoleidd-dra neu faterion wrth ddefnyddio cyllid y gellir ymchwilio iddynt ymhellach
  • storio a ffeilio’r holl waith a wneir ar yr Asesiad Risg o Dwyll os bydd unrhyw faterion neu ofynion archwilio yn codi.

Diwydrwydd Dyladwy

Bydd cyrff atebol yn gyfrifol am sicrhau bod proses gymesur o ddiwydrwydd dyladwy yn cael ei chymhwyso at holl wariant y Parthau Buddsoddi a bod y safonau gofynnol canlynol yn cael eu cyflawni:  

  • bodloni’r Safon Swyddogaethol Grantiau ar Ddiwydrwydd Dyladwy – tudalennau 20-24
  • ymgymryd â phroses diwydrwydd dyladwy ar lefel sy’n briodol i bob prosiect unigol yn dibynnu ar risg
  • sicrhau bod proses diwydrwydd dyladwy Parthau Buddsoddi yn cael ei chynnal yn unol â rheolau a gweithdrefnau awdurdod effeithiol drwy dimau sy’n arbenigo yn y maes hwn
  • sicrhau y cyflwynir adroddiadau ar feysydd allweddol diwydrwydd dyladwy yn cael eu nodi ar gyfer prosiectau rydych yn buddsoddi ynddynt a’u bod yn cael eu monitro
  • storio a ffeilio’r holl waith a wneir ar ddiwydrwydd dyladwy os bydd unrhyw faterion neu ofynion archwilio yn codi.
  • Yng Nghymru, y gofynion monitro ac atebolrwydd yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

  9. Cydraddoldebau

Ym Mhrydain Fawr, mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus wrth arfer eu swyddogaethau roi sylw dyladwy i’r angen i wneud y canlynol: dileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan neu o dan y Ddeddf; hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn ei rhannu; meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn ei rhannu. 

Mae’n ofynnol i gyrff atebol ym Mhrydain Fawr gydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus wrth gyflawni eu dyletswyddau sy’n ymwneud â’r Parthau Buddsoddi.

Fel rhan o ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, bydd Llywodraeth y DU yn cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar lefel rhaglenni ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gan ei gwneud yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig gynnal asesiad o effaitth Parthau Buddsoddi ar gydraddoldeb ar lefel rhanbarth ar ôl i gynigion gael eu pennu’n derfynol ac ar ôl i’r mathau o ymyriadau i’w cyflawni ar gyfer pob rhanbarth ddod yn hysbys. Bydd cyrff atebol yn gyfrifol am gydymffurfio â dyletswyddau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus eu hunain.

  10. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) yn rhoi’r cyd-destun y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig, arfer eu swyddogaethau oddi mewn iddo. Mae’n rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ddefnyddio eu hadnoddau a sicrhau bod eu trefniadau llywodraethu yn effeithiol gyda’r nod o wneud y cyfraniad mwyaf posibl at nodau llesiant cenedlaethol Cymru.

Mae’n rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig hyrwyddo ac ymgymryd â datblygu cynaliadwy drwy ystyried eu heffaith hirdymor, a thrwy fonitro ac asesu’r graddau y maent yn cyflawni eu hamcanion llesiant mewn perthynas â chydweithio, cynnwys eraill, a mabwysiadu dull integredig.

Mae’n ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig yng Nghymru gydymffurfio â’r Ddeddf wrth gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â’r Parthau Buddsoddi. Wrth ystyried sut mae Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi sylw dyladwy i ganllawiau statudol y Ddeddf.

  11. Brandio

Mae brandio a chyhoeddusrwydd yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau bod y rhaglen Parthau Buddsoddi yn cael ei hyrwyddo’n effeithiol. Bydd rhan o hyn yn cydnabod agenda bolisi ehangach Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, er enghraifft Cenhadaeth Economaidd a Strategaeth Arloesi Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae’r gofynion yn ymwneud â’r holl ddeunyddiau cyfathrebu a dogfennau ar gyfer y cyhoedd ynglŷn â gweithgarwch a ariennir, gan gynnwys deunydd argraffedig a chyhoeddiadau, hyd at ddeunyddiau digidol ac electronig. Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithgarwch paratoi sy’n gysylltiedig â’r rhaglen.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau pellach ar y gofynion hyn.

  12. Dyletswyddau Statudol

Yn unol â’r gofynion presennol sydd arnynt, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig a thrydydd partïon perthnasol sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ddyletswyddau statudol perthnasol, er enghraifft Mesur y Gymraeg (Cymru 2011, Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy’n ymwneud â bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau ac adran 5(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 sy’n ymwneud â strategaethau tlodi plant.

 13. Proffil Cyllido Dangosol

25/26 26/27 27/28 28/29 29/30 30/31 31/32 32/33 33/34 34/35 Cyfanswm
CDEL 19.2 19.2 19.2 19.2 19.2 19.2 19.2 19.2 19.2 19.2 192
RDEL 12.8 12.8 12.8 12.8 12.8 12.8 12.8 12.8 12.8 12.8 128
Cyfanswm 32 32 32 32 32 32 32 32 32 32 320

Rydym yn deall y bydd angen cymorth ariannol ar Barthau Buddsoddi i weinyddu’r broses gyllido. Ar hyn o bryd, disgwylir y bydd pob corff atebol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn gallu defnyddio hyd at 4% o’r amlen gyllido lawn (ymyriadau treth a gwariant hyblyg) yn awtomatig er mwyn ymgymryd â threfniadau gweinyddu cyllid angenrheidiol, megis asesu prosiectau, contractio, monitro a gwerthuso a pharhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid. Pan fydd Parth Buddsoddi yn gwario llai na 4% o’r cyllid ar weinyddiaeth, caiff y balans ei gadw ar gyfer gwariant ar ymyriadau.

Er mwyn sefydlu’r gronfa mae’n bosibl y bydd angen mwy o gyllideb weinyddol yn y flwyddyn gyntaf nag mewn blynyddoedd diweddarach. Mae hyn yn dderbyniol ar yr amod na fydd y gyllideb yn fwy na’r ganran gyffredinol (4%) dros y cyfnod cyllido llawn. Bydd unrhyw wariant yr eir iddo cyn rhyddhau cyllid ar fenter y corff atebol ei hun, a bydd y ffordd y telir amdano yn amodol ar drefniadau rhanbarthol ar ôl rhyddhau cyllid. Unwaith y bydd y cyllid wedi’i ryddhau, gellir gwneud hawliad ôl-weithredol am unrhyw wariant gweinyddol yr aed iddo hyd yn hyn.

Yn unol â’r Prosbectws Polisi ynghylch Parthau Buddsoddi, caiff gwariant hyblyg ei rannu’n 40:60 rhwng gwariant adnoddau (RDEL) a gwariant cyfalaf (CDEL), i’w ddefnyddio mewn portffolio o ymyriadau yn seiliedig ar gyfleoedd pob clwstwr;

Atodiad A: Meini Prawf ar gyfer Cynigion Parthau Buddsoddi

Dull gweithredu

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r meini prawf y byddai disgwyl i gynnig gan Barth Buddsoddi eu dangos ar bob porth cyn bod pob parti yn dod i gytundeb y gall y cynnig symud i’r cam nesaf. Mae’r meini prawf wedi cael eu llunio ar sail nifer o egwyddorion:

  • mae’r meini prawf yn cael eu datblygu’n seiliedig ar y dystiolaeth o’r hyn sy’n gyfystyr â chlystyrau cynaliadwy, llwyddiannus ac ecosystemau arloesi rhanbarthol cadarn
  • mae’r meini prawf yn ymestynnol er mwyn sicrhau bod pob cynnig Parth Buddsoddi mor gadarn â phosibl, sy’n rhoi cyfle i’r llywodraethau weithio gyda Chyd-bwyllgor Corfforedig yn unol ag ysbryd cyd-ddatblygu
  • caiff pob porth ei lunio yn ôl meini prawf cysylltiedig penodol, a fydd yn golygu, os na chânt eu bodloni, fod cynnydd yn cael ei atal dros dro ar gam y porth hwnnw er mwyn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fireinio’r cynnig i safon briodol.

Drwy’r cyfan, byddwn yn ystyried yr ymatebion a roddir i gwestiynau ar y cyd â chydweithwyr ehangach yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel y bo’n briodol, a all arwain at ofyn am newidiadau neu ddiwygiadau i atebion a roddir.

1. yn seiliedig ar ddealltwriaeth y ddwy lywodraeth o’r sector, y clwstwr, a’i heriau/cyfleoedd
2. er mwyn sicrhau bod Parthau Buddsoddi mor gyson â phosibl â strategaethau a buddsoddiadau ehangach Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, nodi cyfleoedd i fynd ymhellach neu ystyried a yw’r opsiynau arfaethedig yn ddichonadwy i ymdrin â’r materion sy’n codi
3. sbarduno buddsoddiad gan y sector preifat ac arloesi gan sefydliadau ymchwil yn briodol

Bydd yr wybodaeth hon, ochr yn ochr â’r atebion a roddir gan y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn helpu i lywio’r brosees cyd-ddatblygu ac arfarnu.

Fel y nodwyd eisoes, ni fydd unrhyw gynnig gan Barth Buddsoddi yn cael ei gymeradwyo ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU nes bod y broses gyd-ddatblygu wedi dod i ben yn llwyr, ac rydym yn cadw’r hawl i wrthod cynnig gan Barth Buddsoddi hyd yn oed ar ôl iddo fynd drwy’r holl byrth.

Byddem yn ystyried ymgysylltu â gweinidogion yn ffurfiol yn ddiweddarach drwy roi diweddariad ar drafodaethau a nodi a ydym yn credu y bydd cytundeb yn annhebygol mewn da bryd cyn y flwyddyn ariannol 2024-25.

Wrth i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ystyried y meini prawf a nodir yn yr Atodiad hwn, dylent gadw mewn cof mai’r corff atebol fydd yn gwbl atebol i’r llywodraeth am sicrhau llwyddiant holl ymyriadau polisi’r Parth Buddsoddi y mae’n dewis eu gwneud drwy arlwy’r Parth Buddsoddi. Os nad oes gan y corff atebol bŵer uniongyrchol dros ysgogwyr penodol, mae’n rhaid iddo roi trefniadau priodol a chadarn ar waith sy’n ei alluogi i sicrhau bod ysgogwyr polisi yn cael eu defnyddio yn unol â bwriad y polisi.

O ran cyllid grant, bydd hyn yn golygu bod y corff atebol yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac yna’n comisiynu a /neu’n caffael ymyriadau i gefnogi twf ei glwstwr sectoraidd.

Os bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig yn dewis cynnig safleoedd treth, bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i’r corff atebol weithio gyda phartneriaid i ddenu buddsoddiad i’r safleoedd a sicrhau bod yr holl fuddsoddiad ar y safle yn briodol ac yn gyson â sector(au) y Parth Buddsoddi ac amcanion ehangach y polisi. Mae’n rhaid bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gallu dangos gallu i sicrhau hyn.

Os bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig yn dewis cynnig safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig, bydd hyn yn golygu bod angen i’r corff atebol weithio gyda’r awdurdodau rhanbarthol perthnasol i sicrhau bod unrhyw dwf mewn ardrethi annomestig o gymharu â’r llinell sylfaen y cytunwyd arni, a chan ystyried effaith dadrhanbartholi, yn cael ei ddefnyddio i gefnogi twf ei glwstwr sectoraidd yn unig, ei fod yn cael ei lywio gan strategaeth glir i ailfuddsoddi, a bod penderfyniadau ynglŷn â’r defnydd o ardrethi annomestig a gedwir yn cael eu gwneud mewn ffordd briodol a thryloyw sy’n galluogi’r Cyd-bwyllgor Corfforedig i barhau i fod yn gyfrifol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am raglen gyffredinol y Parth Buddsoddi.

Cadwyn Resymeg (Damcaniaeth Newid)

Amlinellir isod ddamcaniaeth newid strategol ar lefel lle.

Mae’r meini prawf wedi cael eu llunio i gyd-fynd yn fras â’r gwahanol adrannau o’r gadwyn resymeg. Mae hyn yn golygu y dylai’r cynnig terfynol gysylltu’n glir â’r cyfyngiadau neu’r cyfleoedd heb eu gwireddu mewn lle, a ddylai lywio’r allbynnau, a’r canlyniadau y mae Cyd-bwyllgor Corfforedig yn dewis eu cyflawni.

  • Bydd gwybodaeth o Borth 1 yn bwydo i mewn i Gadwyn 1 a Chadwyn 2
  • Bydd gwybodaeth o Borth 3 a Phorth 4 yn bwydo i mewn i Gadwyn 3 a Chadwyn 4
  • Bydd gwybodaeth o Borth 4 yn bwydo i mewn i Gadwyn 1 a Chadwyn 2

Templed bras ydyw. Mae’n:

  • dangos sut mae’r wybodaeth a gesglir yn y pyrth yn creu’r rhesymeg dros ymyriadau ar lefel lle,
  • rhoi templed i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig gwblhau eu model rhesymeg ar gyfer eu rhanbarth penodol eu hunain fel rhan o Borth 4.

Cadwyn 1 – Disgrifiwch gyflwr presennol y clwstwr a dargedir yn y sector â blaenoriaeth

  • Cryfderau presennol y sector â blaenoriaeth a ddewiswyd gennych
  • Cryfderau presennol yr eco-system ehangach
  • rhyngweithio ag ymyriadau polisi byw eraill a’r Parth Buddsoddi

Cadwyn 2 – Nodwch y cyfyngiadau y mae’r clwstwr presennol yn eu hwynebu a’r cyfleoedd heb eu gwireddu

  • Y cyfyngiadau i hybu potensial twf y sector(au)
  • Y cyfleoedd heb eu gwireddu i hybu potensial twf y sector(au)

Cadwyn 3 – Ymyriadau arfaethedig i leddfu cyfyngiadau neu fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd heb eu gwireddu

  • Y rhestr o’r ymyriadau arfaethedig a sut maent yn dod ynghyd i fynd i’r afael â’r cyfyngiadau a’r cyfleoedd ar gyfer twf
  • Sut y bydd y sefydliadau ymchwil rhanbarthol yn cefnogi ymyriadau ac amcanion y Parth Buddsoddi
  • Rôl Parth Buddsoddi i dyfu buddsoddiad a chymorth y sector preifat i hyrwyddo amcanion y rhaglen
  • Sut y gall safleoedd sgiliau/cynllunio/treth ac ardrethi annomestig fynd i’r afael â chyfyngiadau neu gyfleoedd heb eu gwireddu, a chyfrannu at y canlyniadau a ddymunir yn y pen draw o ganlyniad i’r rhaglen Parthau Buddsoddi.
  • Sut mae’r ffocws sectoraidd a daearyddiaeth ymyriadau Parthau Buddsoddi yn cefnogi amcanion cyffredinol y rhaglen Parthau Buddsoddi

Cadwyn 4 – Daearyddiaethau arfaethedig ar gyfer ymyriadau

  • Cysoni ymyriadau ychwanegol y tu allan i’r Parth Buddsoddi â chynigion y Parth Buddsoddi er mwyn sicrhau eu bod yn gydlynol ac yn ategu ei gilydd

Cadwyn 5 – Allbynnau

  • Nodi’r allbynnau a ddisgwylir ar gyfer pob ymyriad, sy’n gysylltiedig â’r canlyniadau canolraddol
  • Bydd angen pennu metrig ar gyfer pob allbwn.

Cadwyn 6 – Canlyniadau canolraddol

  • Nodi’r canlyniadau canolraddol a ddisgwylir ar gyfer pob ymyriad er mwyn gwella’r chwe chyfalaf. Bydd hyn yn cynnwys o leiaf un o’r canlynol:
    • cyfalaf dynol, er enghraifft, cynnydd yn nifer y bobl sy’n meddu ar sgiliau arbenigol i weithio mewn sector â blaenoriaeth, cynnydd mewn cyflogaeth yn y clwstwr, cyflogau gwirioneddol cyfartalog uwch i weithwyr â lefel isel o sgiliau a gweithwyr hyfedr
    • cyfalaf ffisegol, er enghraifft, cynnydd mewn arwynebedd m2 ar gyfer cynhyrchu neu ymchwil a datblygu yn y sector
    • cyfalaf anniriaethol, er enghraifft, nifer y patentau newydd a grëir, gwerth amcangyfrifedig y technolegau a ddatblygir
    • cyfalaf ariannol, er enghraifft, buddsoddi mewn offer a pheiriannau newydd, Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor

Cadwyn 7 – Canlyniadau terfynol (effaith)

  • Cysoni â’r canlyniadau canolraddol â’r canlyniadau economaidd rhanbarthol cyffredinol (a’r canlyniadau economaidd cenedlaethol), sef:
    • hybu cynhyrchiant yn y rhanbarth
    • cynnydd mewn enillion gwirioneddol i weithwyr hyfedr a gweithwyr â lefel isel o sgiliau yn y rhanbarth
    • cwmnïau yn y clwstwr yn dod yn fwy cystadleuol yn rhyngwladol
    • technolegau newydd y mae galw amdanynt yn rhyngwladol
    • Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr ar sail rhanbarthol, genedlaethol neu ryngwladol a mwy o allu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd
    • Bydd angen pennu metrig ar gyfer pob canlyniad terfynol

Porth 1: Cyfarfod Gweledigaeth a Chychwyn

Nid oes unrhyw feini prawf yn gysylltiedig a’r cam hwn. Bydd disgwyl i Gyd-bwyllgorau Corfforedig nodi eu gweledigaeth ar gyfer eu Parth Buddsoddi fel y gall Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddeall ar y cyd y syniadaeth gynnar ynglŷn â’r sector neu’r ddau sector yr hoffai ei gefnogi neu eu cefnogi a’r ymyriadau yr hoffai ymgymryd â nhw drwy’r arlwy polisi.

Porth 2: Sector a Daearyddiaeth

Ar gam y porth hwn, disgwylir i Gyd-bwyllgorau Corfforedig nodi’r sector(au) â blaenoriaeth y maent yn bwriadu ei gefnogi neu eu cefnogi drwy eu Parth Buddsoddi, natur y cryfder rhanbarthol hwn, daearyddiaeth y clwstwr presennol a dargedir, ac yna ddiffinio ffocws gofodol cydlynol ar gyfer y Parth Buddsoddi. Dadansoddi’r broses o ddewis lle: presenoldeb clystyrau â blaenoriaeth yn ardaloedd Parthau Buddsoddi (gwnaethom ddefnyddio data’r SYG/Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth ar gyflogaeth mewn diwydiannau a ddiffiniwyd gan godau Dosbarthiad Diwydiannol Safonol a chyniferyddion rhanbartholiadau); cryfder sefydliadau ymchwil-ddwys (gwnaethom ddefnyddio grantiau prifysgol a phresenoldeb data canolfannau catapwlt); a chrynodiad o weithwyr hyfedr mewn ardaloedd (gwnaethom ddefnyddio data’r SYG/Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth ar gyflogaeth gwybodaeth-ddwys fel % o gyfanswm y gyflogaeth)

Mae hefyd yn gofyn am wybodaeth am safleoedd treth a/neu gadw ardrethi annomestig (o ystyried ei bod yn amhosibl dewis cadw ardrethi annomestig heb gynigion treth eraill) er mwyn deall sut y maent yn gyson â’r clwstwr presennol a’r ffocws gofodol arfaethedig.

Caiff safleoedd treth/cadw ardrethi annomestig arfaethedig eu hasesu’n fanylach ar gam y porth Ymyriadau.

Cwestiwn ynglŷn â’r Sector

  • Pa sector â blaenoriaeth y bydd eich Parth Buddsoddi yn ei gefnogi a pham mae’n gryfder? (500 o eiriau)
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi’r sector â blaenoriaeth y maent yn bwriadu ei gefnogi drwy eu Parth Buddsoddi, o’i ystyried yn erbyn opsiynau eraill, gyda thystiolaeth i ddangos ei fod yn gryfder rhanbarthol sylweddol. Os na fydd data ar gael, gall Cyd-bwyllgorau Corfforedig gyflwyno’r data a/neu’r data procsi gorau sy’n addas at y diben, gydag esboniad clir ynglŷn â pham y cafodd y data eu cyflwyno sut y maent wedi cael eu dehongli. Bydd angen i unrhyw gynigion i gefnogi mwy nag un sector â blaenoriaeth gyflwyno achos eithriadol a dangos tystiolaeth gref bod y sectorau a’r cadwyni cyflenwi yn croestorri fel rhan o glwstwr economaidd cydlynol a phenodol yn yr ardal. Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig wneud y canlynol:
    • rhoi eglurhad ansoddol o natur a chryfder y sector yn y rhanbarth, gan gynnwys y sylfaen fusnes bresennol, o BBaChau i gwmnïau mawr a’r cadwyni cyflenwi ehangach
    • rhoi tystiolaeth o sylfaen arloesi sy’n bodoli eisoes, er enghraifft, prifysgolion, sefydliadau ymchwil a thechnoleg, cyfleusterau ymchwil y sector cyhoeddus gyda chryfderau yn y sector â blaenoriaeth
    • rhoi trosolwg o faint y cyfle a’r potensial ar gyfer twf yn y dyfodol. Er enghraifft, gallai hyn ddisgrifio’r gweithgareddau sy’n ychwanegu gwerth sylweddol y mae’r sector yn eu cyflawni neu dystiolaeth o’r galw cynyddol am nwyddau a/neu wasanaethau’r sector
    • disgrifio sut y bydd ffocws y Parth Buddsoddi yn helpu i gyflawni ymrwymiadau Cymru a’r DU o ran yr hinsawdd

Pan fydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cynnig cefnogi clwstwr lle mae mwy nag un sector yn gorgyffwrdd, dylent esbonio a rhoi tystiolaeth ynglŷn â sut mae’r sectorau croestoriadol yn ffurfio rhan o un clwstwr economaidd cydlynol, er enghraifft:

  • dangos cysylltiadau economaidd drwy gadwyni cyflenwi a rennir, mewnbynnau neu dechnolegau arbenigol i gefnogi’r sector â blaenoriaeth
  • yr angen am sgiliau cyffredin
  • cydrhanbartholi ffisegol rhwng cwmnïau yn y sectorau hynny

Dyllai’r disgrifiad ansoddol gael ei ategu gan y data rhanbarthol canlynol, gan ddefnyddio data procsi cadarn addas lle y bo’n briodol:  

  • nifer y cwmnïau a’u cyfradd twf yn y sector ar hyn o bryd, dros y 10 mlynedd diwethaf, yn y rhanbarth
  • cyflogaeth bresennol a thwf mewn cyflogaeth yn y sector, dros y 10 mlynedd diwethaf, yn y rhanbarth, maint y cwmnïau yn y sector, gyda thrafodaeth os nad yw’n fanwl gywir
  • cyfanswm y refeniw a gynhyrchir gan y sector ar gyfer y rhanbarth, dros y 10 mlynedd diwethaf, yn y rhanbarth
  • Er mwyn symud ymlaen, dylai Cyd-bwyllgor Corfforedig roi tystiolaeth glir i ddangos bod y sector â blaenoriaeth a ddewiswyd ganddo yn gryfder rhanbarthol gwirioneddol, ochr yn ochr â dealltwriaeth fanwl o’r cryfder hwnnw a ategir gan unrhyw ddata sydd ar gael. Rydym yn disgwyl i hyn gyd-fynd â strategaethau diwydiannol rhanbarthol, cynlluniau economaidd a strategaethau perthnasol eraill (e.e. sector-benodol) sy’n bodoli eisoes.Dylai cynigion sy’n canolbwyntio ar glystyrau sy’n cefnogi mwy nag un sector â blaenoriaeth roi manylion am bob sector. Bydd y llywodraethau yn ystyried ar y cyd a yw’r dystiolaeth a roddir ar groestoriad sectorau yn gredadwy ac yn realistig ac yn cyflwyno achos eithriadol.

Cwestiwn 1 ynglŷn â’r Clwstwr

  • Disgrifiwch y clwstwr economaidd presennol y bydd eich Parth Buddsoddi yn ei gefnogi a chryfderau’r eco-system ehangach (500 o eiriau)
  • Rydym yn disgwyl i Gyd-bwyllgorau Corfforedig roi disgrifiad credadwy o’r clwstwr, ei gyfranogwyr ehangach a’i ddaearyddiaeth economaidd. Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ystyried sut mae’r clwstwr yn cyd-fynd â blaenoriaethau a buddsoddiadau cenedlaethol a rhanbarthol ehangach.

Fel rhan o hyn, gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gynnwys trafodaeth benodol am y rhanbartholiad, gan gyfeirio at y math o fanylion isod:

  • cadwyni cyflenwi’r clwstwr
  • angorau gwybodaeth
  • rhanbartholiad gweithwyr
  • sut mae’r clwstwr yn cyd-fynd â blaenoriaethau ehangach a buddsoddiadau canolog / rhanbarthol

Gallai hyn gynnwys gwybodaeth feintiol, er enghraifft: 

  • gofod masnachol a/neu ddiwydiannol a gafodd ei greu neu ei ddatblygu, ac unrhyw dir a ailddatblygwyd
  • mathau o weithwyr a gyflogir gan gwmnïau yn y clwstwr bwriadedig
  • cyflogau gwirioneddol cyfartalog presennol yn y clwstwr bwriadedig, i weithwyr â lefel isel o sgiliau a gweithwyr hyfedr
  • ymchwil sy’n gysylltiedig â’r clwstwr mewn sefydliadau ymchwil partner
  • partneriaethau ymchwil presennol sy’n gysylltiedig â’r clwstwr mewn sefydliadau ymchwil partner
  • patentau cyfredol a grëwyd gan gwmnïau a sefydliadau ymchwil mewn cysylltiad â’r clwstwr
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddisgrifio ecosystem clwstwr presennol sy’n gallu cynnal y Parth Buddsoddi arfaethedig a thwf clwstwr cynaliadwy. Bydd y ddwy lywodraeth yn ystyried a yw’r ateb:
    • yn cyd-fynd â strategaethau, blaenoriaethau, a buddsoddiadau ehangach y llywodraeth
    • yn gredadwy ac yn realistig wrth ddisgrifio’r cysylltiad rhwng y sector, y clwstwr, a’i ddaearyddiaeth
    • yn ddigon mawr neu â ffocws digonol i gefnogi amcanion y rhaglen

Cwestiwn 2 ynglŷn â’r Clwstwr

  • Beth yw’r cyfyngiadau neu’r cyfleoedd heb eu gwireddu a allai hybu potensial twf y clwstwr o fynd i’r afael â nhw? (500 o eiriau)
  • Dylai hyn gynnwys ystyriaeth o un o’r canlynol o leiaf, mewn cysylltiad â’r sector a’r clwstwr:
    • cyfyngiadau neu gyfleoedd heb eu gwireddu o ran cyfalaf dynol – er enghraifft, y sgiliau sydd ar gael a’r farchnad lafur ranbarthol
    • cyfyngiadau neu gyfleoedd heb eu gwireddu o ran cyfalaf ffisegol – er enghraifft, mynediad i fangreoedd arbenigol priodol, seilwaith trafnidiaeth a’r angen am offer a chyfarpar newydd
    • cyfyngiadau neu gyfleoedd heb eu gwireddu o ran cyfalaf anniriaethol – er enghraifft, cyfleoedd i ddatblygu technolegau, cyfarpar, prosesau, neu gadwyni cyflenwi newydd
    • cyfyngiadau neu gyfleoedd heb eu gwireddu o ran cyfalaf ariannol – er enghraifft, argaeledd buddsoddi uniongyrchol o dramor, cyllid banc, cyllid ecwiti preifat
    • cyfleoedd i helpu i bontio i nwyddau a gwasanaethau carbon isel economaidd yn y rhanbarth

Gallai’r dystiolaeth ansoddol gynnwys astudiaethau achos lle y bo’n briodol.Dylid rhoi tystiolaeth feintiol. Mae’n rhaid iddi gefnogi’r cyfyngiad(au) neu’r cyfle(oedd) heb ei wireddu/eu gwireddu a nodwyd. Er enghraifft, gallai’r rhain gynnwys:

  • y cymysgedd sgiliau presennol sydd ar waith
  • tystiolaeth o ddiffyg cyfatebiaeth neu brinder sgiliau
  • partneriaethau ymchwil fesul ymchwilydd
  • cymarebau rhwng partneriaethau ymchwil rhanbarthol a rhai rhanbarthol
  • tystiolaeth o heriau neu gyfleoedd posibl i godi cyllid, gan gynnwys buddsoddi uniongyrchol o dramor.
  • methiannau’r farchnad sy’n gysylltiedig â thir llwyd / argaeledd digon o dir masnachol hyfyw
  • Er mwyn symud ymlaen, dylai Cyd-bwyllgor Corfforedig ddangos tystiolaeth bod ganddo ymdeimlad clir a chredadwy o’r heriau a’r cyfleoedd heb eu gwireddu, sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r sector/clwstwr. Dylent fod yn seiliedig ar o leiaf un o’r pedair enghraifft o gyfalafau ac yn gysylltiedig â’r Genhadaeth Economaidd a Strategaeth Arloesi Cymru, a nodwyd yn y dystiolaeth ac a ategwyd gan yr wybodaeth ansoddol a meintiol berthnasol sydd ar gael. Bydd y llywodraethau yn ystyried a oes modd i’r fath heriau/cyfleoedd heb eu gwireddu gael eu gwireddu’n realistig drwy arlwy polisi’r Parth Buddsoddi.

Cwestiwn ynglŷn â Daearyddiaeth

  • Beth yw ffocws gofodol arfaethedig eich Parth Buddsoddi?(500 o eiriau)
  • Dylai’r atebion ddisgrifio ffocws gofodol arfaethedig y Parth Buddsoddi, gan gyfeirio at ecosystem a rhwystrau/cyfleoedd y clwstwr. Dylent hefyd nodi sut y bydd hyn yn cefnogi:
    • Cydgrynhoi - gallai’r mathau o gymorth rydych yn eu trafod gynnwys:
      • cydweithio rhwng busnesau wrth gyfnewid syniadau newydd, arferion gorau a chreu cadwyni cyflenwi rhanbarthol
      • paru busnesau â gweithwyr â’r sgiliau cywir a chynyddu cyfleoedd i bobl yn y rhanbarth
      • annog y defnydd o adnoddau a rennir, megis cyfleusterau a labordai, i ddiwallu anghenion busnesau
      • cysylltedd trafnidiaeth
    • Canlyniadau Cenedlaethol a Rennir
      • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi tystiolaeth gredadwy y gall eu ffocws gofodol chefnogi’r uchelgeisiau a nodwyd yn Cenhadaeth Economaidd: Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach Llywodraeth Cymru.
      • Gallai hyn fod yn gysylltiedig â gwybodaeth feintiol megis wrth ystyried rhanbartholiad
        • gweithwyr prin eu sgiliau (canran yr oedolion heb gymwysterau neu gymwysterau lefel isel; canran yr oedolion yn ôl y cymhwyster gorau ar gyfer unrhyw lefelau cymhwyster perthnasol eraill;
        • cyflog wythnosol gros canolrifol; canran yr oedolion sy’n ennill y cyflog byw gwirioneddol neu’n uwch;
        • disgwyliad oes iach;
        • ·         amddifadedd lluosog.
  • Er mwyn symud ymlaen, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi’n glir ffocws gofodol eu Parth Buddsoddi a sut y bydd yn cefnogi cydgrynhoi a chanlyniadau cenedlaethol a rennir. Bydd y llywodraethau yn ystyried hyn yn seiliedig ar  gydlyniaeth economaidd daearyddiaeth y Parth Buddsoddi arfaethedig.

Dangosyddion cynnar o ymyriadau treth

  • Faint o safleoedd treth rydych yn eu cynnig a ble rydych yn bwriadu rhanbartholi’r safleoedd treth hynny? (Map a hyd at 500 o eiriau)
  • Ar y cam hwn, bydd disgwyl i Gyd-bwyllgorau Corfforedig gadarnhau nifer y safleoedd treth y maent am eu cynnig, a gallent ystyried yr ymyriadau y byddant yn eu cyflawni gyda’r cyllid hyblyg sy’n weddill yn unol â hynny. Gellid rhoi’r manylion am y safleoedd treth fel rhestr sy’n nodi’n glir:
    • enw’r safle arfaethedig
    • ei hectarau arfaethedig
    • pob cod post a gaiff ei gynnwys yn y safleoedd treth
    • sut mae’r safle(oedd) treth arfaethedig yn bodloni’r meini prawf o ran tanddatblygu
    • Pwy yw’r perchnogion tir a beth yw statws cynllunio’r safle?
  • Ochr yn ochr ag unrhyw godau post, gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddarparu mapiau yn unol â’r canllawiau treth.
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gadarnhau a yw’r perchnogion tir a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cefnogi cynnig eich Parth Buddsoddi a sut y byddant yn sicrhau’r cytundebau angenrheidiol. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn am ragor o wybodaeth wrth i’r cynnig symud yn ei flaen a chyn dynodi/rhyddhau cyllid. Cyfeiriwch at brosbectws y polisi Parth Buddsoddi a’r canllawiau treth ar wahân.
  • ·         Gall Cyd-bwyllgorau Corfforedig gynnig hyd at dri safle treth fel rhan o’u Parth Buddsoddi, hyd at 600 hectar. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer safleoedd treth:
    • sy’n cynnwys mwy na thri safle i gyd
    • lle mae cyfanswm hectarau’r holl safleoedd gyda’i gilydd yn fwy na 600 hectar
    • sydd ar dir a ystyrir yn dir datblygedig.
    • nad ydynt yn bodloni’r meini prawf o ran maint a siâp
    • nad ydynt yn rhoi manylion perchnogion y safle a’i statws cynllunio

Ochr yn ochr ag unrhyw godau post, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddarparu mapiau yn unol â’r canllawiau blaenorol.

Arwydd cynnar o safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig

  • Faint o safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig (hyd at ddau ar y mwyaf) rydych yn eu cynnig a ble rydych yn bwriadu rhanbartholi’r safleoedd hynny?(Map a hyd at 500 o eiriau)
  • Dylid rhoi’r manylion am y safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig fel rhestr sy’n nodi’n glir:
    • enw’r safle(oedd) arfaethedig
    • nifer arfaethedig hectarau’r safle/safleoedd
    • sut mae’r safle(oedd) arfaethedig lle y cedwir ardrethi annomestig yn bodloni’r meini prawf o ran tanddatblygu
    • pob cod post a gaiff ei gynnwys yn y safle(oedd) lle y cedwir ardrethi annomestig – pan fydd rhan o god post yn cael ei gynnwys, dylid tynnu sylw at hyn, a rhoi amcangyfrif o gyfran ardal y cod post hwnnw sydd o fewn y safle lle y cedwir ardrethi annomestig a gynigir
    • y perchennog/perchnogion a statws cynllunio’r safle
    • rhestr o’r holl hereditamentau sy’n bodoli ar hyn o bryd ar y safleoedd arfaethedig

Eglurwch y rhyngweithiad rhyngddo ac unrhyw safleoedd treth arfaethedig. Os yw’r cynnig yn cynnwys safleoedd treth a safleoedd cadw ardrethi busnes ardrethi busnes nad ydynt yn gyffiniol, byddem yn disgwyl esboniad clir am y rhesymeg y tu ôl i hynny a sut mae lleoedd yn disgwyl denu busnesau i’r safle. Cyfeiriwch at brosbectws polisi Ardaloedd Buddsoddi a chanllawiau NDR ar wahân.

Ni fydd y llywodraethau yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig:

  • sy’n cynnwys mwy na dau safle i gyd
  • sy’n gyfuniad o safleoedd dros 600 hectar o faint
  • sydd ar dir a ystyrir yn dir datblygedig
  • nad ydynt yn bodloni’r meini prawf o ran maint a siâp

Ochr yn ochr ag unrhyw godau post, dylid cynnwys mapiau yn unol â’r canllawiau blaenorol.

Arwydd cynnar o ymyriadau cynllunio

  • Sut y bydd eich arlwy cynllunio yn helpu i gyflymu hynt cynnig y Parth Buddsoddi? (500 o eiriau)
  • Nododd y prosbectws polisi y dylai Parthau Buddsoddi gynnig arlwy cynllunio credadwy ac uchelgeisiol i gyflymu’r broses ddatblygu sydd ei hangen i gefnogi’r clwstwr a dargedir.Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi ar y cam hwn:
    • y cynnig/arlwy cynllunio ar gyfer y Parth Buddsoddi
    • sut y gall y cynigion cynllunio gyflymu’r broses ddatblygu bresennol neu gyflwyno datblygiadau newydd, gan gynnwys manylion ynglŷn â sut y caiff hyn ei gyflawni.
    • lle mae’r gwaith cynllunio yn debygol o ddigwydd a sut mae’n ymwneud â fframweithiau perthnasol eraill e.e., Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040, Polisi Cynllunio Cymru a chynlluniau datblygu rhanbarthol a fabwysiadwyd.
    • yr awdurdodau cynllunio rhanbarthol a fydd yn gyfrifol am benderfyniadau cynllunio a pha awdurdodau rhanbarthol y bydd yn eu cwmpasu.
    • materion cynllunio hysbys allweddol (er enghraifft, gofynion seilwaith, cyfyngiadau amgylcheddol, heriau o ran perchnogaeth tir, yr angen i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd).
    • esbonio’r statws cynllunio presennol, gan gynnwys statws mewn perthynas â’r cynllun datblygu rhanbarthol.
    • esbonio’r anghenion cynllunio ar gyfer y datblygiad disgwyliedig.
    • manylion ynglŷn â sut y caiff yr anghenion datblygu hyn eu diwallu, gan gynnwys pa opsiynau a ystyriwyd.
    • esbonio’r camau a gymerwyd (neu arfaethedig) i ymgysylltu â chymunedau rhanbarthol i ystyried sut y bydd cynigion yn cynnal a gwella, lle y bo modd, ansawdd yr ardal rhanbarthol lle y rhanbartholir y cynnig.
    • esbonio sut y bydd unrhyw ofynion perthnasol ar gyfer asesiad amgylcheddol yn helpu i liniaru unrhyw effeithiau andwyol. Byddai’n ddefnyddiol hefyd pe bai ceisiadau yn nodi a fu unrhyw ymgysylltu cynnar ag asiantaethau allweddol fel rhan o hyn.
    • rhoi tystiolaeth o drafodaethau cynnar ag awdurdodau cynllunio ar y defnydd posibl o adnoddau cynllunio sy’n seiliedig ar le.

Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig hefyd roi manylion am berchnogion tir a’r statws cynllunio uwch presennol.Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig fynd ati i sicrhau bod cydgysylltu rhwng Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, ar y camau cynharaf o’r broses cyllido a chynllunio.

  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gynnwys y manylion canlynol er mwyn symud ymlaen i’r porth nesaf neu esbonio erbyn pryd y byddant yn gallu eu darparu:
    • y safleoedd datblygu mawr o fewn y Parth Buddsoddi neu sy’n gysylltiedig ag ef
    • sut mae’r cynnig cynllunio hwn yn cyflymu’r broses ddatblygu sydd ei hangen i gefnogi’r clwstwr, y tu hwnt i’r cynlluniau presennol
    • statws mewn perthynas â chynlluniau datblygu perthnasol

Pan fydd angen gofynion cynllunio, bydd yn rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig sicrhau bod cysylltiadau perthnasol ag awdurdodau cynllunio rhanbarthol, ochr yn ochr â Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040, Polisi Cynllunio Cymru, Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r cynllun datblygu rhanbarthol a fabwysiadwyd.

Cwestiwn ynglŷn â Buddsoddiad Preifat

  • Sut y bydd cynnig y Parth Buddsoddi yn helpu i sicrhau buddsoddiad preifat ychwanegol?(500 o eiriau)
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi ym mha ffordd y mae gan y clwstwr y maent yn ei gefnogi gryfderau sylweddol presennol y gellir adeiladu arnynt, tystiolaeth o fuddiant masnachol a chyfleoedd masnachol posibl sydd yn yr arfaeth a’r potensial i helpu i ddenu buddsoddiad. Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gyfeirio at unrhyw gyfleoedd buddsoddi arfaethedig allweddol, gan gynnwys rhestr o fusnesau, tenantiaid angori a gwybodaeth am faint y buddsoddiad posibl sy’n dod i law. Gallai hyn gynnwys unrhyw wybodaeth y gellir ei darparu am amseriadau posibl buddsoddiadau, er enghraifft, pryd y byddai sefydliad yn gwneud y gwariant cyntaf o bosibl, a phryd y gallai wedyn symud i ardal. Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ystyried sut y byddant yn:
    • meithrin cwmnïau sy’n gystadleuol yn rhyngwladol
    • creu technolegau newydd y byddai galw mawr amdanynt (yn y wlad hon ac yn rhyngwladol)
    • denu swm sylweddol o fuddsoddiad preifat domestig neu fuddsoddiad uniongyrchol o dramor, gan gynnwys tenantiaid angori

Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gynnwys cyfeiriad at ddangosyddion posibl, megis:

  • llif cyfalaf i mewn i’r clwstwr/sector yn y rhanbarth
  • cynhyrchion y sector/clwstwr y gellir eu hallforio
  • a oes gan y sector/clwstwr hanes o gynhyrchu eiddo deallusol allforiadwy
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi manylion i ddangos bod cryn ddiddordeb yn y sector preifat yn y clwstwr a dargedir, gyda chysylltiad penodol â’r sector(au) arweiniol. Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi rhestr o gyfleoedd busnes a buddsoddi sy’n gysylltiedig â’u sector/clwstwr.

Asesiad Strategol

  • Sut y bydd y Parth Buddsoddi yn rhyngweithio ag ymyriadau polisi byw eraill? (250 o eiriau)
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig wneud y canlynol:
    • cynnwys tystiolaeth o sut maent wedi ystyried ymyriadau polisi cysylltiedig presennol yn yr ardal wrth ddewis rhanbartholiad daearyddol ymyriadau
    • cynnig trafodaeth ansoddol am gyfatebolrwyddau a chamau i gefnogi ychwanegedd a lliniaru risgiau dadrhanbartholi
  • Er mwyn symud ymlaen, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi sut maent yn sicrhau bod y Parth Buddsoddi arfaethedig yn ystyried dadrhanbartholi posibl a’i fod wedi’i gynllunio i fod yn ychwanegol ac yn ategol i ymyriadau eraill.

AMCANION

  • Gyda’i gilydd, sut y bydd ffocws sectoraidd a daearyddiaeth cymorth ymyriadau Parth Buddsoddi yn cefnogi amcanion cyffredinol y rhaglen Parthau Buddsoddi?(500 o eiriau)
  • Rydym yn disgwyl i Gyd-bwyllgorau Corfforedig roi naratif credadwy ynglŷn â sut mae’r clwstwr a ddewiswyd yn briodol i gefnogi amcanion arfaethedig y rhaglen. Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig hefyd gynnwys y data meintiol sydd ar gael er mwyn tanlinellu sut y gall cefnogi’r clwstwr gefnogi’r amcanion a gwneud yn siŵr eu bod yn cefnogi ychwanegedd. Er enghraifft:
    • enillion cyfartalog presennol yn y clwstwr bwriadedig
    • gofod masnachol a/neu ddiwydiannol a gafodd ei greu neu ei ddatblygu, ac unrhyw dir a ailddatblygwyd
    • mathau o weithwyr a gyflogir gan gwmnïau yn y clwstwr bwriadedig
    • cyflogau gwirioneddol cyfartalog presennol yn y clwstwr bwriadedig, i weithwyr â lefel isel o sgiliau a gweithwyr hyfedr
    • ymchwilwyr sy’n gysylltiedig â’r clwstwr mewn sefydliadau ymchwil partner
    • partneriaethau ymchwil presennol sy’n gysylltiedig â’r clwstwr mewn sefydliadau ymchwil partner
    • patentau cyfredol a grëwyd gan gwmnïau a sefydliadau ymchwil mewn cysylltiad â’r clwstwr
  • Er mwyn symud ymlaen, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi’n glir sut y gall y clwstwr sectoraidd a ddewiswyd ganddynt gefnogi amcanion y rhaglen. Dylai hyn gynnwys, o leiaf, sut y bydd y Parth Buddsoddi yn gwneud o leiaf un o’r canlynol:
    • hybu cynhyrchiant yn y rhanbarth
    • cynnydd mewn enillion gwirioneddol i weithwyr hyfedr a gweithwyr â lefel isel o sgiliau yn y rhanbarth
    • gwella gallu cwmnïau yn y clwstwr i gystadlu yn rhyngwladol
    • technolegau newydd y mae galw amdanynt yn rhyngwladol
    • Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr ar sail rhanbarthol, genedlaethol neu ryngwladol a mwy o allu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd

Cydlofnodi gan sefydliadau ymchwil

  • O ystyried ffocws eich Parth Buddsoddi, pa sefydliad(au) ymchwil a fydd yn cydlofnodi cynnig eich Parth Buddsoddi? (250 o eiriau)
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi sefydliad(au) ymchwil i gydlofnodi’r ddogfen, gan amlinellu pam mae/maent yn briodol i wneud hynny yn seiliedig ar y sector â blaenoriaeth, anghenion y clwstwr a’r ardal ehangach.
  • Er mwyn symud i’r Porth nesaf, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi ac enwi’r sefydliad(au) ymchwil partner sy’n cydlofnodi â nhw.

Porth 3: Llywodraethu

Cwestiwn 1 ynglŷn â Llywodraethu

  • Nodwch a yw’r strwythur llywodraethu a fydd yn goruchwylio’r Parth Buddsoddi yn bodoli ai peidio? (750 o eiriau)
  • Os nad yw:
    • nodwch y strwythurau llywodraethu arfaethedig a rhowch fanylion ynglŷn â sut y bydd hyn yn cyflawni amcanion y Parth Buddsoddi. Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddangos tystiolaeth o strwythurau dros dro wrth i’r strwythurau arfaethedig gael eu datblygu
    • pan fyddant yn sefydlu trefniadau llywodraethu newydd, gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi pam mae angen trefniadau llywodraethu newydd, cerrig milltir clir y gellir eu cyflawni o ran eu sefydlu ac aelodaeth ac amlder arfaethedig cyfarfodydd yn ystod y broses o lunio a chyflawni’r rhaglen
  • Os felly:
    • rhoi dogfennaeth i ddangos tystiolaeth o’r strwythur presennol, yr aelodaeth a sut y bydd yn gallu ystyried sector penodol ac ystyriaethau arloesi’r Parth Buddsoddi
    • os ydynt yn defnyddio strwythur llywodraethu sy’n bodoli eisoes, gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi’r aelodaeth bresennol, prawf o’i hanes o gyflawni a sut mae wedi cael ei addasu neu’n cyflwyno profiad o’r sector/clwstwr
    • mae’n rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig sicrhau bod strwythurau llywodraethu yn manteisio ar yr arbenigedd sydd ei angen i dyfu eu clwstwr, gyda chysylltiad clir â’r sector â blaenoriaeth a’i anghenion
    • dylai’r strwythur llywodraethu arfaethedig ymgysylltu â’r sefydliadau ymchwil, eco-system arloesi a gallai ystyried sut i gynnwys partneriaid eraill, megis:
      • busnesau sector-benodol
      • busnesau cadwyn gyflenwi
      • sefydliadau ymchwil ehangach, er enghraifft, Canolfannau Catapwlt
      • cyrff clwstwr
      • darparwyr addysg a sgiliau, arbenigwyr a darparwyr cyflogaeth
  • Er mwyn symud ymlaen, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig fod wedi rhoi trefniadau llywodraethu cadarn ar waith neu wedi llunio cynllun clir y gellir ei gyflawni i ffurfio trefniadau llywodraethu newydd. Byddai angen cefnogi hyn gan dystiolaeth pe gofynnid am hynny. Bydd y llywodraethau yn ystyried a yw’r strwythurau llywodraethu yn ymgysylltu’n briodol ag arbenigedd ar y clwstwr gan y sector, sefydliadau ymchwil ehangach a rhanddeiliaid.

Cwestiwn 2 ynglŷn â Llywodraethu

  • Beth yw strwythur y tîm o ran llunio a chyflwyno cynnig y Parth Buddsoddi? (500 o eiriau, ynghyd â ffeil)
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi’r trefniadau rheoli arfaethedig o ran cynllunio a chyflwyno’r Parth Buddsoddi. Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddisgrifio’r atebolrwydd a’r sicrwydd a fydd ar waith er mwyn cynllunio a chyflwyno’r Parth Buddsoddi. Os bydd hyn yn defnyddio strwythurau sy’n bodoli eisoes, gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig fanylu ar y trefniadau yma. Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi’r dystiolaeth ganlynol:
    • uwch swyddog cyfrifol a enwyd ar gyfer y Parth Buddsoddi, a rhestr o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau’r swyddog hwnnw ar bob cam o’r Parth Buddsoddi
    • manylion y tîm arfaethedig i oruchwylio’r Parth Buddsoddi a disgrifiad ohono, gan gynnwys llinell amser ar gyfer penodiadau neu fanylion am strwythurau presennol os ydynt eisoes ar waith

Gellid darparu hyn mewn un o sawl fformat:

  • siart sefydliadol
  • rhestr o rolau a chyfrifoldebau
  • os cynigir safleoedd treth neu safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig, dylai gynnwys manylion penodol am y ffordd y cânt eu rheoli yn y dyfodol
  • Er mwyn symud ymlaen i’r porth nesaf, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi’r dystiolaeth y gofynnir amdani, a gaiff ei hystyried yn seiliedig ar ba mor gredadwy ydyw.

Cwestiwn 3 ynglŷn â Llywodraethu

  • Sut y bwriedir ymgysylltu â sefydliadau ymchwil perthnasol a rhanddeiliaid eraill a’u cynnwys fel rhan o drefniadau llywodraethu’r Parth Buddsoddi?(500 o eiriau)
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi sut y bydd sefydliadau partner yn bwydo i mewn i’r broses o gynllunio a chyflwyno’r Parth Buddsoddi.Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am weithio gyda’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig i sicrhau bod cynlluniau clir yn gysylltiedig â chynigion a’u bod yn ymgysylltu â sefydliadau perthnasol, er mwyn ystyried pa gymorth uniongyrchol y gallant ei gynnig o ran cynnig gan Barth Buddsoddi. Gallai cynigion ystyried sut y gellid eu defnyddio i sicrhau’r cymorth uniongyrchol y gallant ei gynnig o ran cynnig gan Barth Buddsoddi.
  • Dylai cynigion llywodraethu gynnwys ymgysylltu â sefydliadau ymchwil a rhanddeiliaid eraill y tu hwnt i gydlofnod y sefydliad ymchwil a ddisgrifir uchod yn unig. Dylai trefniadau llywodraethu’r rhaglen sicrhau eu bod yn chwarae rôl hirdymor i lywio’r broses o gyflawni a chynnig eu hadnoddau eu hunain.

Cwestiwn 4 ynglŷn â Llywodraethu

  • Sut y byddwch yn ymgysylltu â’r awdurdodau cynllunio wrth i chi ddatblygu a chyflwyno’r arlwy cynllunio fel rhan o’r Parthau Buddsoddi? (250 o eiriau)
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig esbonio sut maent wedi ymgysylltu â’r awdurdodau cynllunio hyd yn hyn a sut mae hyn wedi llywio’r broses o gynllunio cynnig y Parth Buddsoddi a sut y bydd yn ei gwneud yn bosibl i’w gyflawni yn y dyfodol.Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig hefyd nodi sut maent wedi ymgysylltu â Chynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol.
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ymgysylltu â’r awdurdodau cynllunio rhanbarthol a rhoi tystiolaeth bod unrhyw ofynion cynllunio yn sicrhau cysondeb â’r cynlluniau presennol, gan gynnwys Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 a chynlluniau datblygu rhanbarthol a fabwysiadwyd
  • Er mwyn symud ymlaen, dylai cynigion Parthau Buddsoddi wneud y canlynol:
    • dangos tystiolaeth o ymgysylltu â’r awdurdodau cynllunio perthnasol
    • dangos bod eu hawdurdod cynllunio yn cefnogi’r cynnig cynllunio a geisir
    • disgrifio’r trefniadau llywodraethu sydd ar waith i weithio gyda’r awdurdodau cynllunio perthnasol yn y dyfodol
  • Bydd y llywodraethau yn ystyried hyn ar y cyd, yn seiliedig ar ddichonoldeb o gymharu â’r atebion ar gam Porth 2.

Cwestiwn 5 ynglŷn â Llywodraethu

  • A ydych yn bwriadu defnyddio unrhyw gyfryngau cyflawni arbenigol, er enghraifft, corfforaethau datblygu neu gyfryngau cyflawni arbennig corfforaethol, megis Adfywio Trefol, neu gynlluniau datblygu ar y cyd? Gallai atebion gyfeirio at Gwestiwn 5 ynglŷn â Llywodraethu ac arwydd cynnar o ymyriadau treth (250 o eiriau)
  • Cwestiwn ydym/nac ydym yw hwn
    • Os mai ‘ydym’ yw’r ateb, gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi ai cyfrwng cyflawni sy’n bodoli eisoes ynteu un newydd ydyw. Os yw’n un newydd, llinell amser a cherrig milltir y broses o’i ffurfio. Os yw’n bodoli eisoes, sut y bydd yn ymgorffori arlwy cynllunio’r Parth Buddsoddi yn ei drefniadau llywodraethu a’i waith presennol a’i reoli.
    • Os ‘nac ydym’ yw’r ateb, gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi pam y maent o’r farn nad ydynt yn addas ar gyfer cynnig eu Parth Buddsoddi a sut y byddant yn rheoli’r broses o gyflwyno arlwy cynllunio’r Parth Buddsoddi yn lle hynny.
    • Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Chyd-bwyllgorau Corfforedig i ddeall y cyfryngau cyflawni arbenigol sydd ar gael iddynt ac yn ystyried ai nhw sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni nodau cynllunio a datblygu’r Parth Buddsoddi ochr yn ochr ag amcanion eraill.

Cadw Ardrethi Annomestig

  • Dim ond os bydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi dewis yr opsiwn o gadw ardrethi annomestig y bydd angen cwblhau’r canlynol. Cadarnhewch eich bod wedi ymgysylltu â’r awdurdodau rhanbarthol o fewn y safle(oedd) (hyd at ddau fesul Parth Buddsoddi) a’u bod:

i. wedi gweld ac wedi cydsynio i’r cynnig hwn (Do/Naddo)
ii. wedi deall y bydd yr awdurdod rhanbarthol yn dal i fod yn gyfrifol am gasglu ardrethi annomestig yn ei ardal (Do/Naddo)
iii. wedi cydsynio i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig, sy’n cadarnhau nodweddion allweddol y cytundeb i gadw ardrethi annomestig mewn perthynas â’r Parth Buddsoddi. (Do/Naddo)
iv. wedi drafftio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhyngddo ef a’r corff atebol sy’n manylu ar y trefniadau hyn ynglŷn â sut y caiff penderfyniadau ar ddefnyddio ardrethi annomestig a gedwir eu gwneud mewn ffordd briodol a thryloyw sy’n ei gwneud yn bosibl i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ddal i fod yn gyfrifol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y defnydd a wneir ohonynt yn unol â nodau’r Parth Buddsoddi (Do/Naddo)
v. wedi cydsynio i unrhyw dwf mewn ardrethi annomestig gael ei gadw o ganlyniad i fuddsoddi’r safle yn ôl yn y rhaglen yn unol ag amcanion cyffredinol y Parth Buddsoddi (Do/Naddo)

  • Ar gyfer cwestiynau (i), (ii) a (iii), cwestiwn do neu naddo ydyw. Ar gyfer cwestiwn (iv), rhowch fanylion ynghylch pwy fydd yn gyfrifol am ailfuddsoddi’r arian a gasglwyd o gadw ardrethi annomestig. Gallai hyn gynnwys manylion ynglŷn â pha drefniadau a fydd yn sail i hynny rhwng y Cyd-bwyllgor Corfforedig a’r aelodau sy’n rhan o’r bartneriaeth. Gallai’r trefniadau hyn ystyried sut y caiff penderfyniadau ar ddefnyddio ardrethi annomestig a gedwir eu gwneud mewn ffordd briodol a thryloyw sy’n ei gwneud yn bosibl i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ddal i fod yn gyfrifol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y defnydd a wneir ohonynt yn unol â nodau’r Parth Buddsoddi.
  • Gallai’r disgrifiad o’r trefniadau gynnwys sut y bydd y strategaeth ailfuddsoddi yn cefnogi’r Parth Buddsoddi dros oes y safle(oedd) lle y cedwir ardrethi annomestig.

Cwestiwn 6 ynglŷn â Llywodraethu

  • A ydych wedi nodi unrhyw risgiau twyll allweddol a allai effeithio ar y broses o gyflwyno’r Parth Buddsoddi a pha brosesau rydych wedi’u rhoi ar waith i’w lliniaru? (500 o eiriau)
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig wneud y canlynol:
    • rhoi manylion ynglŷn â sut y byddant yn nodi, lliniaru, a rheoli’r risg bosibl o dwyll
    • ymdrin ag unrhyw risgiau allweddol cychwynnol a nodwyd
    • llunio cynllun i ddatblygu fframwaith rheoli risg ar gyfer y ddwy lywodraeth erbyn dechrau 202 cyn i’r taliad cyntaf gael ei wneud
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddarparu cynllun llawn ar gyfer lliniaru risg, yn seiliedig ar yr ymyriadau cynnar y maent yn eu hystyried, er enghraifft, risgiau i gomisiynu gwasanaethau, safleoedd treth neu safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig. Mae’r llywodraethau yn disgwyl i hwn gael ei ddiweddaru wrth i gynnig y Parth Buddsoddi gael ei iteru, fel rhan o’r gwaith cynllunio cyflawni.

Cwestiwn 7 ynglŷn â Llywodraethu

  • Nodwch fanylion sut rydych wedi mynd ati i ymgysylltu ag Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd. (500 o eiriau)
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi manylion ynglŷn â sut y maent wedi ymgysylltu ag aelodau o Senedd Cymru a Senedd y DU. Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi manylion ynglŷn â sut yr ymgysylltwyd â nhw, er enghraifft:
    • ysgrifennu at eu haelodau etholedig
    • cynnal sesiynau briffio gyda’u haelodau etholedig ar ddatblygiad eu Parth Buddsoddi
    • os yw’n ymestyn dros ardal fawr, gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig wahodd pob aelod etholedig dros y rhanbarth i grŵp ymgysylltu a gynullir

Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi’r adborth o’r grŵp ymgysylltu hwnnw. Gallai hyn gynnwys manylion penodol am unrhyw rai nad ydynt yn cefnogi cynigion y Parth Buddsoddi a’u rhesymau dros eu gwrthwynebu.

  • Rydym yn disgwyl i gynigion ddangos bod ymgysylltu o’r fath wedi digwydd dros yr ardal y mae’r Parth Buddsoddi yn effeithio arni. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cadw’r hawl i drafod ymhellach ag aelodau etholedig o ran eu hadborth.

Porth 4: Ymyriadau

Mae’r porth hwn yn casglu gwybodaeth am yr ymyriadau er mwyn sicrhau ein bod yn hyderus y byddant yn rhoi hwb gwirioneddol i’r economi ranbarthol a bod unrhyw welliannau yn ychwanegol ac nad ydynt, yn syml, yn arwain at ddadrhanbartholi gweithgarwch o ran arall o’r rhanbarth neu’r DU. 

Canllawiau ar arian cyfatebol

Nododd y prosbectws polisi y dylai pob cynnig gynnwys rhyw elfen o arian cyfatebol gan y sector preifat, y trydydd sector a llywodraeth rhanbarthol. Os nad oes unrhyw arian cyfatebol wedi’i sicrhau yn erbyn ymyriad, byddai’r llywodraethau yn disgwyl i resymeg glir gael ei nodi.

Rydym yn disgwyl y bydd pob cynnig gan Barth Buddsoddi yn cael arian cyfatebol llawn neu rannol ar ffurf buddsoddiad gan y sector preifat, benthyciad gan gyngor a chydgyllido gan gyrff cyhoeddus eraill lle y bo’n berthnasol. Rydym yn annog yn gryf y dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig fynd ymhellach gyda phartneriaid lle bynnag y bo modd, yn enwedig pan fydd eu hymyriadau yn canolbwyntio ar themâu megis cymorth i fusnesau, ymchwil ac arloesedd a seilwaith rhanbarthol. Rydym yn disgwyl arian cyfatebol o 60% o leiaf.

Fel rhan o’r broses o ddatblygu cynigion Parthau Buddsoddi, bydd y llywodraethau yn disgwyl deall pa ymyriadau arfaethedig a fydd yn cael arian cyfatebol, ar ba raddfa ac os nad ydynt yn ei gael, pam felly.  Mae’r llywodraethau hefyd yn annog Cyd-bwyllgorau Corfforedig i weithio gyda phartneriaid rhanbarthol ehangach yng Nghymru er mwyn sicrhau bod amodoldeb ehangach yn cael ei ystyried lle y bo modd.

Bydd disgwyl i Gyd-bwyllgorau Corfforedig roi manylion am eu cynlluniau i sicrhau arian cyfatebol ar gam cynnig y Parth Buddsoddi. Wrth iddynt symud ymlaen i gyflwyno eu cynigion a chynllunio eu prosiectau yn seiliedig ar eu hymyriadau cymeradwy, dylent ddechrau comisiynu ymyriadau mewn ffordd sy’n unol â’r uchelgeisiau a nodwyd ganddynt. Mae’r llywodraethau yn disgwyl diweddariad ar hyn cyn cymeradwyo’r cynigion yn derfynol a rhyddhau cyllid.

Canllawiau ar Reoli Cymorthdaliadau

O dan Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ystyried egwyddorion rheoli cymorthdaliadau a sicrhau bod eu cymhorthdal neu eu cynllun yn gyson â’r egwyddorion hynny cyn rhoi cymhorthdal unigol neu lunio cynllun cymorthdalu. Dylai awdurdodau cyhoeddus ddefnyddio’r templed asesu egwyddorion rheoli cymorthdaliadau i sicrhau bod eu cymorthdaliadau a’u cynlluniau cymothdalu yn gyson ag egwyddorion rheoli cymorthdaliadau.

Naratif ymyriadau

  • Sut mae’r pecyn o ymyriadau arfaethedig yn dod ynghyd i fynd i’r afael â’r cyfyngiadau a’r cyfleoedd o ran twf ar gyfer y clwstwr a nodwyd ar gam Porth 2?(1000 o eiriau)
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig wneud y canlynol:
    • dangos bod ymyriadau’r Parth Buddsoddi yn sicrhau allbynnau a chanlyniadau a fydd yn helpu i ychwanegu at y gweithgarwch ymchwil a datblygu, cynhyrchiant ac arloesedd sydd eisoes yn digwydd yn y rhanbarth.
    • nodi strategaeth gydlynol ynglŷn â ffocws gofodol y Parth Buddsoddi a gallai sicrhau bod yr ymyriadau yn gysylltiedig â’r heriau a’r cyfleoedd penodol a ddisgrifiwyd ar gam Porth 2.
    • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi esboniad ysgrifenedig byr o’r ffordd y mae eu hymyriad yn creu gwerth cymdeithasol na fyddai wedi bodoli yn absenoldeb yr ymyriad hwnnw.
    • cyfeirio at y nodweddion isod fel canllaw ar gyfer asesu graddau’r ychwanegedd ar gyfer pob un o’r ymyriadau.
      • nodweddion ychwanegedd isel
        • dadrhanbartholi – mae’r ymyriad yn arwain at fwy o weithgarwch economaidd neu les cymdeithasol mewn un ardal ond yn achosi llai o weithgarwch cyfatebol mewn ardal arall
        • diffrwythedd – byddai’r canlyniadau sy’n deillio o’r ymyriad wedi digwydd hyd yn oed heb yr ymyriad penodol
        • gollyngiad – nid yw effeithiau cadarnhaol yr ymyriad yn ymestyn yn sylweddol y tu hwnt i’r ardal a dargedir
        • cyfnewid – mae cwmnïau neu ddiwydiannau yn cyfnewid un math o lafur neu weithgarwch am un arall heb gynyddu cyflogaeth nac allbwn yn gyffredinol.
      • nodweddion ychwanegedd uchel
        • dadrhanbartholi – mae’r ymyriad yn cynhyrchu cynnydd net mewn gweithgarwch economaidd neu les cymdeithasol heb ymdrechion dadrhanbartholi sylweddol
        • diffrwythedd – mae’r ymyriad yn sicrhau canlyniadau na fyddent wedi digwydd yn absenoldeb yr ymyriadau penodol
        • gollyngiad – mae’r ymyriad yn creu effeithiau goferu i bob diben sy’n cael effaith gadarnhaol ar ranbarthau neu gymunedau cyfagos
        • cyfnewid – mae’r ymyriad mewn gwirionedd yn creu swyddi
    • nodi sut y byddant yn defnyddio’r ymyriadau i gefnogi canlyniadau cenedlaethol a rennir
    • llunio model rhesymeg, gan ddefnyddio’r templed a ddarperir, sy’n nodi’r cyfyngiadau a’r cyfleoedd heb eu gwireddu o ran ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau canolraddol penodol, a sut maent yn cysylltu â chanlyniadau ar lefel lle yn y tymor hwy
    • nodi’n glir y risgiau o ran dadrhanbartholi, a goblygiadau effeithiau goferu negyddol pob ymyriad, gyda naill ai:
      • dull arfaethedig o fonitro a lliniaru dadrhanbartholi neu effeithiau goferu negyddol o’r fath
      • sut mae dadrhanbartholi gweithgarwch i ardal yn cynnig manteision o ran sicrhau twf economaidd neu gydgrynhoi
  • Yn yr ateb i’r cwestiwn hwn, bydd y llywodraethau yn ystyried ar y cyd sut mae rhanbarthau yn ymdrin â’r pwyntiau canlynol:
    • esboniad uniongyrchol, clir a chredadwy o’r cysylltiad rhwng eu heriau a’r pecyn arfaethedig o ymyriadau
    • sut mae’r pecyn o ymyriadau yn rhyngweithio i gynyddu buddsoddiadau a swyddi a chefnogi’r amcanion cyffredinol o hybu cynhyrchiant a thwf economaidd
    • sut y bydd yr ymyriadau yn helpu i wireddu manteision ychwanegol a rhoi gwybodaeth ddigonol am ychwanegedd eu pecyn arfaethedig o ymyriadau
    • sut mae’r Parth Buddsoddi yn cyfrannu at ganlyniadau polisi cenedlaethol a rennir
    • risgiau a nodwyd o ran dadrhanbartholi a goblygiadau effeithiau goferu negyddol pob ymyriad, dull arfaethedig o fonitro a lleddfu dadrhanbartholi/goblygiadau negyddol o’r fath, neu sut mae unrhyw achos o ddisodli gweithgarwch i ardal yn cynnig manteision o ran canlyniadau cenedlaethol a rennir

Rhyngweithio rhwng ymyriadau a pholisïau ehangach

  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig esbonio sut maent yn cysoni ymyriadau ychwanegol y tu allan i’r Parth Buddsoddi â chynigion y Parth Buddsoddi er mwyn sicrhau eu bod yn gydlynol ac yn ategu ei gilydd (500 o eiriau)
  • Rhestrwch ymyriadau cysylltiedig a allai ryngweithio â chynigion y Parth Buddsoddi:
    • rhaglenni trafnidiaeth mawr a fydd yn cael effaith yn yr ardal, a sut mae’r rhain wedi cael eu cofnodi yn y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol.
    • seilwaith rhanbarthol megis cynlluniau tai ac adfywio
    • unrhyw ymyriadau o ran y farchnad lafur ranbarthol neu gyflogaeth
    • cynlluniau economaidd rhanbarthol a chenedlaethol ehangach
    • strategaethau cludo llwythi rhanbarthol, rhanbarthol neu genedlaethol ehangach

Trafodaeth am gyfatebolrwyddau rhwng ymyriadau, a dewisiadau wedi’u gweithredu a wnaed i gefnogi’r cyfatebolrwyddau hyn.

  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi lle y gall ymyriadau gyd-fynd â nodau Parthau Buddsoddi neu lle y gall nodau Parthau Buddsoddi fanteisio i’r eithaf ar ymyriadau presennol sy’n gysylltiedig ag amcanion y rhaglen.Bydd y llywodraethau yn ystyried yr y cyd a yw’r rhestr arfaethedig yn manteisio i’r eithaf ar gynnig y Parth Buddsoddi yn briodol.

Crynodeb o ymyriadau

  • Cwblhewch y ddogfen atodedig.
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gwblhau dogfen sy’n cwmpasu’r manylion canlynol:
    • ymyriadau a ddewiswyd, sy’n cyfateb i faint eu cronfa gyllido hyblyg
    • proffil gwariant yr ymyriadau hynny dros gyfnod o 10 mlynedd: blynyddoedd ariannol 25/26, 26/27, 27/28, 28/29, 29/30, 30/31, 31/32, 32/33, 33/34 a -34/35 (mae’n bosibl na fydd angen i ymyriadau ymestyn dros y cyfnod llawn o 10 mlynedd)
    • yr allbynnau a’r canlyniadau sy’n gysylltiedig â phob un o’r ymyriadau hyn, gan gynnwys y blynyddoedd y disgwylir iddynt gael eu cyflawni ynddynt
    • yr arian cyfatebol yn erbyn pob ymyriad – os na chafwyd unrhyw arian cyfatebol, esboniad pam mae hyn wedi’i gyfiawnhau
    • disgrifiad byr (50 o eiriau) o’r hyn y bwriedir i’r ymyriad ei wneud

Caiff rhestr lawn o allbynnau a chanlyniadau eu cyhoeddi.

  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gwblhau’r daenlen: Dylent gynnwys y proffil cyllido llawn ar gyfer y cyfnod o 10 mlynedd, pan fydd gwerth amcangyfrifedig eu safleoedd trethi arfaethedig wedi cael ei ddisgowntio.Dylai pob ymyriad gynnwys allbynnau a chanlyniadau disgwyliedig cyffredinol yn eu herbyn (gan gynnwys unrhyw allbynnau/canlyniadau y disgwylir iddynt ymddangos ar ôl cyfnod o 10 mlynedd). Bydd y llywodraethau yn ceisio deall maint yr ymyriadau arfaethedig ac unrhyw syniadaeth gynnar gan y Cyd-bwyllgorau Corfforedig ar brosiectau posibl. Yn benodol:
    • a yw’r proffiliau gwariant yn realistig ac yn gredadwy
    • a yw’r allbynnau a’r canlyniadau yn gyflawnadwy ond yn uchelgeisiol o’u cymharu â faint o gyllid sy’n cael ei ddefnyddio
    • a yw lefel yr arian cyfatebol yn briodol

Wrth gwblhau ymyriadau sy’n ymwneud adfer tir, gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi manylion ynglŷn â gwerth presennol y tir, gwerth a ragwelir, amcangyfrif o werth yn y dyfodol a’r math o dir.

Ymyriadau a arweinir gan sefydliadau ymchwil

  • Sut y bydd sefydliadau ymchwil yn cefnogi ymyriadau ac amcanion ehangach y Parth Buddsoddi?(500 o eiriau)
  • Dylai’r sefydliad ymchwil sy’n cydlofnodi, o leiaf, nodi’r cynlluniau gwaith clir y bydd yn eu cyflawni i gefnogi ac ategu ymyriadau arfaethedig y Parth Buddsoddi, a’r effaith fesuradwy y mae’n disgwyl i’r cynlluniau hyn, gyda’i gilydd, ei chael ar weithgarwch a arweinir gan y sefydliad ymchwil yn y Parth Buddsoddi. Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ystyried:
    • sut mae’r cymorth a ddisgrifir yn cysylltu â’r Parth Buddsoddi yn benodol neu’n helpu i ymateb i’r heriau a ddisgrifir yn fwy cyffredinol ar gam Porth 2
    • sut y gallai ymyriadau cyflenwol sicrhau’r allbynnau a’r canlyniadau mwyaf posibl a ddisgrifir ym model rhesymeg y lle

Gallai hyn gynnwys ond nid yw’n gyfyngedig i’r enghreifftiau isod:

  • cydweithrediadau ymchwil â busnesau yn y clwstwr
  • cynnal ymchwil newydd neu ychwanegol sy’n cefnogi sector ac amcanion eu Parth Buddsoddi
  • diwygio telerau ac amodau ynglŷn â’r ffordd y mae prifysgolion yn cymryd rhan mewn cwmnïau allgynhyrchu (er enghraifft, drwy gyflwyno telerau cyffredin ar eiddo deallusol ac ecwiti) er mwyn sicrhau’r llif mwyaf posibl o gwmnïau allgynhyrchu newydd
  • ymrwymiad i gefnogi’r cynnydd mewn gofod labordy, yn ogystal â mannau cynhyrchiol eraill sy’n berthnasol i’r diwyddiannau presennol
  • cymorth i ddenu talent ryngwladol i’r brifysgol a hwyluso eu trefniadau pontio
  • llunio partneriaethau â BBaChau, llywodraeth rhanbarthol, a sefydliadau ymchwil eraill i arddangos y potensial ar gyfer buddsoddi a denu buddsoddwyr mwy o faint
  • llunio partneriaethau â rheoleiddwyr a rhanddeiliaid (er enghraifft, Partneriaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol) i greu meinciau profi ar gyfer technolegau newydd yn y sector a dargedir
  • ymrwymiad i wario drwy BBaChau rhanbarthol sy’n gysylltiedig â’r sector lle bynnag y bo modd
  • ymrwymiad i roi cymorth i fabwysiadu a lledaenu technoleg, a/neu gymorth busnes a rheoli i BBaChau rhanbarthol yn y clwstwr
  • ymrwymiad i ffurfio a chryfhau partneriaeth â busnesau rhanbarthol mawr, er mwyn eu helpu i fabwysiadu mwy o dechnoleg ac arferion arloesol

Gallai sefydliadau ymchwil a Chyd-bwyllgorau Corfforedig hefyd ystyried lle y gallant fynd ymhellach o ran y cymorth hwn i’r Parth Buddsoddi, a manylu ar y cymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, asiantaethau neu gyrff hyd braich a allai helpu i wireddu’r uchelgeisiau hyn.

  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig, o leiaf, fod wedi paratoi cynlluniau clir, gyda llwybrau tuag at eu rhoi ar waith a amlinellwyd gan y sefydliadau ymchwil sy’n cydlofnodi ac sy’n gysylltiedig â’r Parth Buddsoddi.

Rôl y sector preifat

  • Sut y byddwch yn sicrhau bod busnesau yn eich ardal, sy’n gysylltiedig â’r clwstwr a dargedir, yn cefnogi amcanion y Parth Buddsoddi? (500 o eiriau)
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig feddwl am y ffordd y gallai busnesau angori posibl a BBaChau cynrychioliadol sy’n cael cymorth o bosibl, drwy’r arlwy treth neu arlwy cymorth ehangach y Parth Buddsoddi, ddarparu cyllid ychwanegol neu ymyriadau ychwanegol i gefnogi amcanion y Parth Buddsoddi. Gall Cyd-bwyllgorau Corfforedig hefyd ystyried amodoldeb gyda busnesau, er enghraifft, lle y gallai busnesau sy’n gysylltiedig â’r sector ddarparu cynlluniau prentisiaeth neu gynlluniau camu ymlaen yn y gwaith ar gyfer eu gweithlu presennol yn gyfnewid am ymyriadau yn y Parth Buddsoddi sy’n canolbwyntio ar sgiliau. Helpu i ddatgloi tir i’w ddatblygu lle y bo angen neu roi arbenigedd i sefydliadau yn y clwstwr.Ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl i Gyd-bwyllgorau Corfforedig nodi cynllun clir i sicrhau cefnogaeth y sector preifat, ymrwymiad a rennir ac amodoldeb lle y bo modd. Gallai hyn gynnwys unrhyw ymrwymiadau sydd wedi’u gwneud eisoes gan bartneriaid yn y sector preifat i gefnogi amcanion y Parth Buddsoddi.
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi sut y maent yn bwriadu manteisio ar rôl y sector preifat.Mae’n rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig roi tystiolaeth o ymgysylltu â’r sector preifat. Gall hyn fod ar ffurf:
    • llythyrau o gefnogaeth
    • cofnodion cyfarfodydd ymgysylltu
    • negeseuon e-bost gyda rhanddeiliaid

Rôl arian cyfatebol

  • Nodwch gynllun i sicrhau arian cyfatebol i gefnogi cynnig y Parth Buddsoddi. (500 o eiriau)
  • Yn unol â’r prosbectws polisi, gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ymdrechu i sicrhau arian cyfatebol yn unol â’r ymyriadau a ddisgrifir yn gynharach yn yr adran hon. Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi:
    • sut y maent yn bwriadu sicrhau arian cyfatebol yn erbyn pob ymyriad
    • y ffynhonnell/ffynonellau arfaethedig o arian cyfatebol
    • faint o arian cyfatebol y maent yn disgwyl ei sicrhau a beth fyddai’r llinell amser
    • os nad ydynt yn cynnig arian cyfatebol, pam felly
  • Bydd y ddwy lywodraeth yn disgwyl gweld bod lefel yr arian cyfatebol yn briodol i’r ymyriadau a ddisgrifir ac yn unol â’r canllawiau ar arian cyfatebol a gyhoeddir ochr yn ochr â’r meini prawf hyn.

Ymyriadau o ran sgiliau

  • Dim ond os ydych wedi dewis Ymyriadau o ran Sgiliau y dylid cwblhau’r canlynol.Sut y bydd ymyriadau o ran sgiliau yn mynd i’r afael â chyfyngiadau neu gyfleoedd heb eu gwireddu, ac yn cyfrannu at y canlyniadau a ddymunir yn y pen draw o dan y rhaglen Parthau Buddsoddi? (500 o eiriau)
  • Os yw rhanbarthau wedi gwneud ymyriadau o ran sgiliau, dylent esbonio’n glir sut maent:
    • yn ymwneud yn benodol â’r sector
    • yn ystyried y farchnad lafur ranbarthol
    • yn targedu bylchau presennol mewn sgiliau
    • yn hwyluso mynediad at swyddi cyflog gwirioneddol uchel i’r rhai â lefelau isel a chanolig o sgiliau
    • yn angenrheidiol y tu hwnt i’r ddarpariaeth sgiliau genedlaethol a rhanbarthol bresennol

Yng Nghymru, wrth ystyried darpariaeth sgiliau bosibl, dylai buddsoddiadau geisio cefnogi gwaith y Cynlluniau Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol. Dylid hefyd esbonio sut mae’n ategu Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net Llywodraeth Cymru a’r Datganiad Polisi ar Brentisiaethau a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

  • Dylai cynlluniau Parthau Buddsoddi ddangos sut y caiff ymyriadau eu targedu at anghenion penodol a sut y maent yn deall y farchnad lafur ranbarthol.

Ymyriadau cynllunio

  • Pan fydd angen gofynion cynllunio, bydd yn rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig sicrhau bod pob datblygiad yn gwbl unol â Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040, Polisi Cynllunio Cymru a chynlluniau datblygu rhanbarthol a fabwysiadwyd
  • Nodwch sut y bydd ymyriadau cynllunio yn mynd i’r afael â chyfyngiadau a chyfleoedd heb eu gwireddu, ac yn cyfrannu at y canlyniadau a ddymunir yn y pen draw o dan y rhaglen Parthau Buddsoddi? (500 o eiriau)
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi arlwy cynllunio credadwy ac uchelgeisiol er mwyn cyflymu’r broses ddatblygu sydd ei hangen i gefnogi’r clwstwr. Bydd y llywodraethau yn disgwyl i bartneriaid weithio gyda’i gilydd i symleiddio prosesau cydsyniad cynllunio, er mwyn cefnogi’r broses o gyflawni datblygiad yn gyflym. Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gynnwys pwynt cyswllt unigol i fuddsoddwyr er mwyn cefnogi gweithgarwch ymgysylltu rhagweithiol ac adeiladol ar faterion cynllunio. Pan fydd Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi gwneud ymyriadau cynllunio, gallent nodi sut mae’r ymyriadau hyn:
    • yn cysylltu’n uniongyrchol/anuniongyrchol â’r weledigaeth ar gyfer cynllunio a nodwyd ar gam Porth 2
    • sut mae’r ymyriadau wedi cefnogi datblygiadau er mwyn cyflwyno uchelgeisiau’r Parthau Buddsoddi
    • sut mae hyn yn defnyddio neu’n manteisio ar gryfderau presennol y sector a’r angor gwybodaeth
    • sut y gall ymyriadau cynllunio helpu i wireddu cyfleoedd megis mynediad i waith, manteision goferu ac atyniad i fuddsoddwyr
    • yn cyd-fynd â phrosiectau seilwaith rhanbarthol neu genedlaethol
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gynnwys ymyriadau cynllunio sy’n gredadwy ac sy’n helpu i gyflymu datblygiadau neu gyflwyno datblygiadau ychwanegol i gefnogi’r Parth Buddsoddi.

Ymyriadau nad ydynt ar y rhestr ddewisiadau

  • Ble y cânt eu defnyddio – Sut y bydd ymyriadau pwrpasol eraill yn mynd i’r afael â chyfyngiadau neu gyfleoedd heb eu gwireddu, ac yn cyfrannu at y canlyniadau a ddymunir yn y pen draw o dan y rhaglen Parthau Buddsoddi? (500 o eiriau)
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddarparu’r manylion canlynol mewn cysylltiad ag unrhyw ymyriadau pwrpasol y maent yn dymuno eu gwneud:
    • beth fydd yr ymyriad yn ei wneud
    • pam mae’n bwysig mynd i’r afael â chyfyngiadau neu gyfleoedd heb eu gwireddu yn y Parth Buddsoddi
    • pam nad oes modd mynd i’r afael â’r cyfleoedd hyn drwy ymyriadau eraill a restrir
    • pam mae’r ymyriad yn rhoi gwerth am arian, gan sicrhau y rheolir dadrhanbartholi priodol ac ychwanegol
    • yr allbynnau a’r canlyniadau y maent am eu sicrhau
    • sut y bydd yr ymyriad yn cyd-fynd â’r ddamcaniaeth newid

Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gynnwys yn y ddogfen excel yn yr un fformat ag ymyriadau sydd ar y rhestr ddewisiadau.

  • Os na all Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddarparu’r manylion canlynol ar gyfer ymyriadau pwrpasol, ni fyddant yn cael eu derbyn. Bydd y llywodraethau yn ystyried a ydynt yn briodol i ddatrys yr heriau a ddisgrifir. Bydd angen i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ddangos rhesymau wedi’u nodi’n glir dros yr angen am yr ymyriad, a’r rheswm pam na ellir cyflawni hyn drwy ymyriadau eraill o blith y dewisiadau polisi safonol. Bydd angen dangos tystiolaeth glir o effeithiolrwydd yr ymyriad hwn, gan ddefnyddio enghreifftiau blaenorol a thystiolaeth academaidd lle y bo’n briodol. Bydd angen i’r allbynnau a’r canlyniadau gael eu diffinio’n benodol a bydd angen dangos bod y rhain yn gyson â’u model rhesymeg.

Cwestiwn 1 ynglŷn ag ymyriadau sy’n ymwneud â safleoedd treth

  • Nid oes angen i chi gwblhau’r canlynol os nad ydych wedi dewis cyflwyno cymhellion treth. Ble y cânt eu defnyddio – sut y bydd safleoedd treth yn mynd i’r afael â chyfyngiadau neu gyfleoedd heb eu gwireddu, ac yn cyfrannu at y canlyniadau a ddymunir yn y pen draw o dan y rhaglen Parthau Buddsoddi? (500 o eiriau)
  • Amlinellwch hyn, gan gynnwys pam mae angen rhyddhadau treth, drwy ddefnyddio’r data gorau sydd ar gael a dadansoddiad ar gyfer pob safle arfaethedig. Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi safleoedd treth sydd â chysylltiad cydlynol â’r cynnig cyffredinol ar gyfer eu Parth Buddsoddi ac sy’n cefnogi buddsoddiad newydd ac ychwanegol gan y sector preifat sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r clwstwr a dargedir ganddynt. Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi manylion am y safle, a’i fynediad i seilwaith angenrheidiol, er enghraifft, trafnidiaeth (o ran y darpar weithlu a chludo llwythi), cyfleustodau, digidol a thai. Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ystyried a oes modd datrys y rhain o fewn y llinell amser gyllido. Mae’n rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig roi unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am y gwerth ychwanegol y maent yn disgwyl iddo gael ei greu gan y safle treth, o ran:
    • swyddi ychwanegol
    • buddsoddiad cyfalaf ychwanegol
    • faint o arian sy’n cael ei wario ar godi adeiladau masnachol newydd neu ar adeiladau sy’n bodoli eisoes (a’u maint yn ddelfrydol) a gaiff eu hehangu o fewn y Parth Buddsoddi
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig wneud y canlynol:
    • esbonio’n glir pam mae safleoedd treth yn helpu i gefnogi’r cyfleoedd ac ymateb i’r heriau a ddisgrifir ar gam Porth 2
    • dangos gweledigaeth glir a chyflawnadwy ar gyfer y safle treth, gyda chryn dipyn o ddiddordeb gan y sector preifat
    • peidio â chreu pwysau ar seilwaith heb lwybr tuag at eu datrys
    • rhoi gwybodaeth sy’n nodi’r allbynnau a’r canlyniadau sy’n deillio o safleoedd treth, yn unol â’r fformat excel

Cwestiwn 2 ynglŷn ag ymyriadau sy’n ymwneud â safleoedd treth

  • Nid oes angen i chi gwblhau’r canlynol os nad ydych wedi dewis cyflwyno cymhellion treth. Sut y bydd yr arlwy treth yn helpu i sicrhau bod datblygiadau ychwanegol yn cael eu cynnig ar y safle(oedd) arfaethedig, na fyddent wedi cael eu cynnig fel arall? (500 o eiriau)
  • Wrth ateb y cwestiwn hwn, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ystyried sut y bydd yr arlwy treth yn helpu i fynd i’r afael â methiant presennol pob un o’u safleoedd arfaethedig ar y farchnad drwy gefnogi datblygiadau ychwanegol neu helpu i gyflymu datblygiad posibl. Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig amlinellu sut maent yn mynd i gyfrif am unrhyw effeithiau negyddol o ganlyniad i’r cynnig ar gyfer safle treth a’u lliniaru, gan gynnwys dadrhanbartholi ac effeithiau mwy cyffredinol ar fasnach a buddsoddi’r DU a masnach a buddsoddi rhyngwladol. Gall Cyd-bwyllgorau Corfforedig gyflwyno mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys:
    • dadansoddiad o’r bwlch o ran hyfywedd ar gyfer pob safle
    • disgrifiad o heriau/anawsterau mynych a brofwyd ar y safle a sut y bydd yr arlwy treth yn helpu i fynd i’r afael â’r rhain, gyda thystiolaeth feintiol ategol
    • gwaith modelu masnachol neu gyfraddau enillion mewnol
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi sut mae cynnig y Parth Buddsoddi yn mynd i’r afael â’r methiant presennol ar y farchnad o ran datblygiadau ar y safle(oedd) treth penodol.

Cwestiwn 3 ynglŷn ag ymyriadau sy’n ymwneud â safleoedd treth

  • Nid oes angen i chi gwblhau’r canlynol os nad ydych wedi dewis cyflwyno cymhellion treth. Sut y caiff y safle treth arfaethedig ei ddefnyddio o fewn y 10 mlynedd nesaf?(500 o eiriau)
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi rhestr o’r busnesau a’r cwmnïau sydd â diddordeb yn y safle a gwybodaeth. Gallai atebion i’r cwestiwn hwn ymdrin â’r canlynol:
    • rhestr o fusnesau, buddsoddiadau, a sefydliadau y mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gobeithio eu denu i’r safle treth, faint o fuddsoddiad posibl a ddisgwylir a pha mor hyderus ydynt y cânt eu denu
    • sut mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn rhagweld y bydd pob rhyddhad treth sydd ar gael fel rhan o arlwy’r Parth Buddsoddi yn cael ei ddefnyddio ar bob safle treth dros amser, gan nodi bod y rhaglen yn para am 10 mlynedd.
    • yn seiliedig ar hynny, dealltwriaeth o ba bryd y gall y buddsoddiad cynharaf sy’n gymwys i gael rhyddhad treth ddigwydd

Defnyddiwch yr adran hon i ddisgrifio pa waith/os o gwbl y mae angen ei wneud i baratoi’r safle, er enghraifft, ei gysylltu â chyfleustodau, seilwaith trafnidiaeth neu adfer tir.

  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddangos gweledigaeth glir a chyflawnadwy ar gyfer y safle treth, gyda chryn dipyn o ddiddordeb gan y sector preifat. Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddisgrifio’r dadansoddiad o’r arian a arbedwyd y maent yn disgwyl i’r rhyddhadau treth ei sicrhau.

Cwestiwn 4 ynglŷn ag ymyriadau sy’n ymwneud â safleoedd treth

  • Nid oes angen i chi gwblhau’r canlynol os nad ydych wedi dewis cyflwyno cymhellion treth. Sut y bydd eich cynnig ar gyfer safle treth yn bodloni’r meini prawf o ran tanddatblygu? (Dylech gynnwys codau post llawn terfynol gyda hyn) (500 o eiriau)
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddisgrifio’n fanwl unrhyw adeilad a gweithgarwch ar safleoedd treth arfaethedig, gan gynnwys cyflogaeth bresennol a buddsoddiad sydd eisoes wedi’i gynllunio. Os bydd y cynnig ar gyfer safle yn cynnwys unrhyw dir gwag, gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi amcangyfrif o gyfran y safle arfaethedig sy’n dir gwag ar hyn o bryd.
  • Rhowch godau post llawn (pan gynigir cynnwys rhan o god post, tynnwch sylw at hyn a rhowch amcangyfrif o gyfran ardal y cod post hwnnw sydd o fewn eich cynnig ar gyfer safle treth).

ardrethi annomestig Safle(oedd) lle y cedwir ardrethi annomestig

  • Nid oes angen i chi gwblhau’r canlynol os nad ydych wedi dewis cyflwyno cymhellion cadw ardrethi annomestig. Lle y caiff eu defnyddio – sut y bydd mesurau cadw ardrethi annomestig sy’n rhan o bolisi Parth Buddsoddi yn mynd i’r afael â chyfyngiadau neu gyfleoedd heb eu gwireddu ar gyfer twf clwstwr ac yn cyfrannu at y canlyniadau a ddymunir yn y pen draw o dan y rhaglen Parthau Buddsoddi? (500 o eiriau)
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ystyried cadw ardrethi annomestig wrth iddynt ystyried ble i rhanbartholi unrhyw safle(oedd) treth posibl, gyda swyddogion y llywodraeth ar gael i gynnig cymorth ac arweiniad o hyd wrth i benderfyniadau gael eu cwmpasu a’u gwneud.
  • CJCs should use the best available data and analysis for each proposed site to complete this section and could use this section to describe what work (if any) needs to be done to prepare the site, for example, connecting it to utilities, transport infrastructure or land remediation.
  • Ni chaiff Cyd-bwyllgorau Corfforedig fwrw ymlaen â chynnig oni bai eu bod yn esbonio’n glir pam mae’r safle(oedd) lle y cedwir ardrethi annomestig yn cefnogi’r cyfleoedd ac yn ymateb i’r heriau a ddisgrifir ar gam Porth 2. Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddangos gweledigaeth glir a chyflawnadwy ar gyfer y safle lle y cedwir ardrethi annomestig. Ni chaiff safleoedd sy’n creu pwysau ar seilwaith heb lwybr clir tuag at eu datrys eu derbyn.

ardrethi annomestig Ymyriadau safle(oedd) lle y cedwir ardrethi annomestig

  • Nid oes angen i chi gwblhau’r canlynol os nad ydych wedi dewis cyflwyno cymhellion cadw ardrethi annomestig. Sut y byddwch yn sicrhau bod datblygiadau yn cael eu dwyn yn eu blaen ar eich safle arfaethedig lle y cedwir ardrethi annomestig? (500 o eiriau)
  • Wrth ateb y cwestiwn hwn, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi sut y byddant yn dwyn datblygiadau yn eu blaen ar y safle(oedd) arfaethedig lle y cedwir ardrethi annomestig.
  • Gallai hyn gynnwys disgrifiad o heriau/anawsterau mynych a brofwyd ar y safle a sut y bydd y trefniadau cadw ardrethi annomestig, arlwy ehangach y Parth Buddsoddi, neu unrhyw ymyriadau polisi eraill yn helpu i fynd i’r afael â’r rhain.
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi sut y byddant yn dwyn datblygiadau yn eu blaen ar y safle(oedd) lle y cedwir ardrethi annomestig, gan nodi sut y byddant yn defnyddio ymyriadau’r Parth Buddsoddi neu ymyriadau ehangach i alluogi hyn.

Cwestiwn 1 ynglŷn â chadw ardrethi annomestig

  • Nid oes angen i chi gwblhau’r canlynol os nad ydych wedi dewis cyflwyno cymhellion cadw ardrethi annomestigSut y caiff y safle arfaethedig lle y cedwir ardrethi annomestig ei ddefnyddio o fewn y 25 mlynedd nesaf? (500 o eiriau)
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig amlinellu rhagamcan ariannol o ba bryd y maent yn disgwyl i incwm ardrethi annomestig gynyddu dros y llinell sylfaen y cytunwyd arni a sut y maent yn disgwyl i hyn gynyddu wedi hynny.
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig amlinellu a ydynt yn bwriadu benthyca yn erbyn y refeniw hwn, a sut.
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi rhestr o fusnesau, buddsoddiadau, a sefydliadau y maent yn gobeithio eu denu i’r safle lle y cedwir ardrethi annomestig, faint o fuddsoddiad posibl a ddisgwylir (gan gynnwys eiddo ychwanegol sydd yn yr arfaeth ac amcangyfrif o’r cynnydd ym meddiannaeth eiddo sy’n bodoli eisoes) a pha mor hyderus ydynt y byddant yn eu denu.
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am y gwerth ychwanegol y maent yn disgwyl iddo gael ei greu drwy ailfuddsoddi’r arian o ganlyniad i gadw ardrethi annomestig, o ran:
    • swyddi ychwanegol
    • buddsoddiad cyfalaf ychwanegol
    • faint o arian sy’n cael ei wario ar godi adeiladau masnachol newydd neu ar adeiladau sy’n bodoli eisoes (a’u maint yn ddelfrydol) a gaiff eu hehangu o fewn y Parth Buddsoddi
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi ffigur canrannol, ochr yn ochr ag esboniad o’r ffordd yr amcangyfrifwyd y ganran hon, ar gyfer yr effaith dadrhanbartholi ddisgwyliedig yn seiliedig ar werthusiad economaidd o’r cymysgedd datblygu disgwyliedig a achosir gan fuddsoddiad yn y Parth Buddsoddi. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn ac yna bydd y ffigur terfynol y cytunwyd arno yn gymwys i’r safle treth arfaethedig cyfan.
  • Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddisgrifio’r dadansoddiad manwl o incwm ardrethi annomestig y disgwylir ei gadw dros y 25 mlynedd nesaf. Dim ond os bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o’r farn bod hyn yn swm realistig a chyflawnadwy y byddant yn mynd rhagddynt.

Cwestiwn 2 ynglŷn â chadw ardrethi annomestig

  • Nid oes angen i chi gwblhau’r canlynol os nad ydych wedi dewis cyflwyno cymhellion cadw ardrethi annomestig. Disgrifiwch y strategaeth ailfuddsoddi ar gyfer ardrethi annomestig a gedwir a sut y bydd yn cefnogi’r Parth Buddsoddi. (500 o eiriau)
  • Gallech nodi’n glir:
    • sut mae’r strategaeth ailfuddsoddi ar gyfer ardrethi annomestig a gedwir a ddisgrifir ar gam y porth hwn yn gyson â’r cyfleoedd a’r heriau a ddisgrifir ar gam Porth 2
    • sut y bydd y dull gweithredu arfaethedig yn galluogi corff atebol y Parth Buddsoddi i fod yn atebol am y defnydd o arian cyhoeddus
    • sut y caiff penderfyniadau ar ailfuddsoddi ardrethi annomestig a gedwir eu gwneud
  • Ni fydd y llywodraethau yn derbyn cynnig i gadw ardrethi annomestig oni bai bod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn nodi’n glir sut y caiff incwm ardrethi annomestig a gedwir ei ailfuddsoddi i gefnogi amcanion y Parth Buddsoddi. Bydd y llywodraethau yn ystyried ar y cyd a yw’r strategaeth ar gyfer ailfuddsoddi ardrethi annomestig a gedwir a ddisgrifiwyd yn gredadwy ac yn uchelgeisiol. Mae hyn yn cynnwys ystyried a yw’r ateb a roddwyd yn helpu i ymateb mewn ffordd ystyrlon i’r heriau a nodwyd ar gam Porth 2 ac sy’n ymwneud â’r trefniadau llywodraethu a ddisgrifiwyd ar gam Porth 3.

Cwestiwn 3 ynglŷn â chadw ardrethi annomestig

  • Nid oes angen i chi gwblhau’r canlynol os nad ydych wedi dewis cyflwyno cymhellion cadw ardrethi annomestig. A yw eich safleoedd arfaethedig lle y cedwir ardrethi annomestig yn gorgyffwrdd â threfniadau eraill i gadw mwy o ardrethi annomestig fel Porthladdoedd Rhydd neu Gyllid Cynyddrannol Treth? - Ydynt/Nac ydynt
  • Cwestiwn Ydynt/Nac ydynt yw hwn.
  • Ni fydd y llywodraethau yn derbyn safleoedd sy’n cynnig gorgyffwrdd.

Cwestiwn 4 ynglŷn â chadw ardrethi annomestig

  • Nid oes angen i chi gwblhau’r canlynol os nad ydych wedi dewis cyflwyno cymhellion cadw ardrethi annomestig. Sut y bydd eich cynnig ar gyfer safle yn bodloni’r meini prawf o ran tanddatblygu? Rhaid i chi gynnwys codau post llawn terfynol gyda hwn. (500 gair)
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi rhestr lawn o’r holl hereditamentau sydd ar y safleoedd arfaethedig ar hyn o bryd.
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddisgrifio’n fanwl unrhyw adeilad a gweithgarwch sy’n bodoli eisoes ar y safleoedd arfaethedig, gan gynnwys cyflogaeth bresennol a buddsoddiad sydd eisoes wedi’i gynllunio.
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi codau post llawn (pan gynigir cynnwys rhan o god post, gellid tynnu sylw at hyn, a rhoi amcangyfrif o gyfran ardal y cod post hwnnw o fewn eich safle arfaethedig).
  • Ni fydd safleoedd nad ydynt yn bodloni’r meini prawf o ran tanddatblygu yn cael eu derbyn. Ni fydd safleoedd lle nad yw codau post llawn wedi cael eu darparu yn cael eu derbyn.

Ystyriaethau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig nodi eu hystyriaeth o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a’r asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb wrth lunio cynnig eu Parth Buddsoddi.
  • Bydd disgwyl i Gyd-bwyllgorau Corfforedig nodi’r ystyriaeth o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus wrth lunio ymyriadau eu cynigion ac wrth roi eu cynllun buddsoddi ar waith, gan gynnwys wrth ddewis prosiectau.
  • Ni all cynigion nad ydynt yn nodi sut y byddant yn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus gael eu hariannu gan y naill lywodraeth na’r llall.

Ystyriaethau hinsoddol ac amgylcheddol Sero Net erbyn 2050

  • Sut y bydd rhanbartholiad eich ymyriadau arfaethedig yn rhyngweithio â’r amgylchedd cyfagos? (250 o eiriau)
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddefnyddio’r cwestiwn hwn i nodi sut mae rhanbartholiad eu hymyriadau arfaethedig yn rhyngweithio â’r amgylchedd cyfagos, er enghraifft, unrhyw risg o lifogydd, niwed posibl i gynefinoedd llawn bywyd gwyllt, ansawdd dŵr, bioamrywiaeth?Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig ddefnyddio’r cwestiwn hwn i esbonio sut maent wedi cyfrif am hyn wrth ddewis rhanbartholiadau, megis drwy gyfeirio at y canlynol:
    • risg llifogydd
    • niwed posibl i gynefinoedd llawn bywyd gwyllt
    • ansawdd dŵr, bioamrywiaeth
  • Bydd y llywodraethau yn ystyried rhyngweithio’r Parth Buddsoddi arfaethedig â gweithgareddau sy’n bodoli eisoes a gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi tystiolaeth o’r ffordd y mae’r Parth Buddsoddi yn helpu i’w gwella, neu os nad ydynt yn eu gwella, rheoli a lliniaru effeithiau negyddol.

Ystyriaethau hinsoddol ac amgylcheddol Sero Net erbyn 2050

  • Dangoswch sut y byddant yn cefnogi ymrwymiadau cyfreithiol Cymru i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050, a’r rhai a bennwyd gan bartneriaid rhanbarthol yng Nghymru, a chyflawni’r targedau amgylcheddol newydd sy’n gyfreithiol gyfrwymol ac yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd. (500 o eiriau)
  • Disgrifiad ansoddol o’r ffordd y bydd y cynigion yn cefnogi targedau cyfreithiol gyfrwymol ar fioamrywiaeth, ansawdd dŵr, ansawdd aer a gwastraff. Gallai hyn gynnwys cyfeirio at y canlynol:
    • lleihad cyffredinol mewn carbon ar y safle a /neu’r ardal effaith ehangach
    • Swyddi Gwyrdd a grëwyd
    • adeiladau wedi’u datgarboneiddio os bwriedir adfywio safle sy’n bodoli eisoes (neu safon adeiladu carbon isel os bwriedir adeiladu o’r newydd)
    • faint o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir
  • Rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ddangos sut y byddant yn cefnogi ymyriadau cyfreithiol Cymru i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050, a’u hymrwymiadau eu hunain, targedau amgylcheddol sy’n gyfreithiol gyfrwymol a sut y maent wedi ystyried yr angen am y gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.

Porth 5: Cyflawni

Bydd meini prawf ar y cam hwn yn sicrhau bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn dangos eu bod yn gallu cyflwyno’r Parth Buddsoddi a rheoli’r risg sy’n gysylltiedig â chyflawni yn effeithiol. O ganlyniad, disgwylir y byddwn hefyd yn gofyn am ddiweddariad pellach ar hynt y broses gyflawni a gwaith cynllunio gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig cyn rhyddhau cyllid ar gyfer 2025/26 (yn amodol ar adolygu a chytuno ar gynigion).

Cwestiwn 1 ynglŷn â Chyflawni

  • Beth yw’r strwythur cyflawni a’i linell amser gysylltiedig? (500 o eiriau a lle i un ffeil)
  • Mae’n esbonio’r strwythur cyflawni a’r llinell amser gysylltiedig yn gywir. Byddem yn disgwyl i’r llinell amser hon fod yn un lefel uchel ac yn destun gwaith mireinio a manylu cyn i gyllid gael ei ryddhau yn 2025/26. Rhaid i hyn gynnwys un o’r cynhyrchion canlynol:
    • Siart Gannt
    • llinell amser
    • cynrychioliad graffigol amgen ar gyfer llinell amser y broses gyflawni

Os yw Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi dewis bwrw ymlaen â’r arlwy treth, rhaid  hefyd amlinellu’n benodol sut y maent yn bwriadu cyflawni eu cynnig ar gyfer safle treth?

Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried y strwythur cyflawni arfaethedig i weld a yw’n argyhoeddiadol ac yn realistig. Byddwn yn seilio’r farn hon ar hanes blaenorol o gyflawni a gwybodaeth ehangach am broses gyflawni’r Cyd-bwyllgor Corfforedig a’i aelodau.

Cwestiwn 2 ynglŷn â Chyflawni

  • Pa risgiau sy’n gysylltiedig â chyflawni’r ymyriadau a gynigiwyd gennych yn effeithiol? (500 o eiriau)
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig amlinellu pa risgiau a nodwyd ganddynt i ddechrau gan eu bod wedi ystyried y sector y maent wedi dewis canolbwyntio arno a’r ddaearyddiaeth y maent wedi penderfynu gweithredu ymyriadau oddi mewn iddi.
  • Rhaid i hyn gynnwys disgrifiad o unrhyw risgiau cychwynnol a nodwyd gennych, a allai gynnwys, er enghraifft:
    • risgiau i wireddu manteision disgwyliedig sy’n gysylltiedig â safleoedd treth neu safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig
    • risgiau o ganlyniad i gomisiynu a chyflawni ymyriadau cyllido a ddewiswyd
    • risgiau ehangach sy’n gysylltiedig â rhyngddibyniaethau rhanbarthol a chenedlaethol
  • Byddwn yn ystyried yr adran hon ar y sail bod y risgiau a nodir gan Gyd-bwyllgor Corfforedig yn ymddangos yn rhesymegol ac yn ystyriol iawn. Bydd y llywodraethau yn asesu ar y cyd a yw Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi nodi risgiau yn briodol ar y cam hwn ac wedi’u hystyried yn ddigon manwl er mwyn cynnig mesurau lliniaru effeithiol. Byddwn yn ystyried strategaethau cenedlaethol ehangach a gwybodaeth i ystyried a yw’r risgiau yn ystyried rhyngddibyniaethau ehangach yn briodol, er enghraifft, polisïau a strategaethau cenedlaethol.

Cwestiwn 3 ynglŷn â Chyflawni

  • Sut y byddwch yn rheoli’r risgiau hyn ac yn eu lliniaru? Pa gynlluniau wrth gefn rydych yn eu cynnig? (500 o eiriau)
  • Gallai Cyd-bwyllgorau Corfforedig gyflwyno eu strategaeth ar gyfer rheoli risg, gan nodi o leiaf:
    • y ffordd y caiff y risgiau hyn eu lliniaru a’r ffordd y caiff ymddangosiad risgiau eraill ei reoli.
  • Bydd y llywodraethau yn ystyried risgiau ar y cyd ac a yw’r mesurau lliniaru a nodwyd yn gyflawnadwy ac yn fanwl. Bydd hyn yn cynnwys ystyried a oedd y mesurau arfaethedig i liniaru risgiau yn ddigonol yn seiliedig ar ffactorau gan gynnwys:
    • effaith y polisi cenedlaethol ehangach
    • y berthynas rhwng y risgiau a’r heriau a’r cyfleoedd a ddisgrifiwyd ar gam Porth 2 a Phorth 4
    • a yw’r dull rheoli risg a ddisgrifiwyd yn gallu cael ei gyflawni gan y strwythurau llywodraethu a nodwyd ar gam Porth 3.
    • y dull cyffredinol o ymdrin ag atebolrwydd a sicrwydd at ddibenion risg

Cwestiwn 4 ynglŷn â Chyflawni

  • Cadarnhewch y byddant yn coladu data i roi’r wybodaeth sydd ei hangen i gynnal gwerthusiad cenedlaethol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. (Byddant/Na fyddant)
  • Byddant/Na fyddant
  • Bydd y llywodraethau yn rhoi amodau a safonau i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig o ran casglu a chofnodi data er mwyn cynnal gwerthusiad cenedlaethol o’r Parthau Buddsoddi. Bydd Canllawiau Technegol yn nodi gofynion monitro a gwerthuso’r rhaglen.

Atodiad B: Canllawiau Atodol – Arlwy Cadw Ardrethi Annomestig mewn Parthau Buddsoddi yng Nghymru

Yr arlwy cadw ardrethi annomestig mewn Parthau Buddsoddi

Fel rhan o’r rhaglen gyffredinol o ymyriadau, mae’r llywodraethau yn cynnig y gallu i gyrff atebol nodi hyd at ddau safle o fewn parth. O fewn y parth hwnnw bydd yr awdurdod rhanbarthol perthnasol (yn amodol ar adolygu a chytuno ar gynigion) yn gallu cadw at 50% o unrhyw dwf mewn ardrethi annomestig yn y dyfodol uwchlaw llinell sylfaen y cytunwyd arni, gan ystyried effaith dadrhanbartholi, am 25 mlynedd, o’r adeg y dynodir y safle.

Wrth lunio cynigion ar gyfer Parthau Buddsoddi, bydd angen i’r corff atebol ddangos sut y bydd y gallu i gadw ardrethi annomestig yn:

(i) darparu ar gyfer twf economaidd rhanbarthol yn y rhanbarth
(ii) cefnogi strategaethau rhanbarthol presennol sydd â ffocws ar dwf
(iii) cefnogi’r sector â blaenoriaeth o fewn y Parth Buddsoddi
(iv) rhoi gwerth am arian i’r llywodraeth

Mae’n rhaid bod safleoedd arfaethedig wedi’u tanddatblygu (gweler isod) ac nad ydynt yn ymestyn dros fwy na 600 hectar dros hyd at ddau safle. Mae’n rhaid i gynigion gael eu cyflwyno ar y cyd â’r awdurdod rhanbarthol, neu’r awdurdodau rhanbarthol, o ystyried eu cyfrifoldeb am gasglu ardrethi annomestig, a chadw unrhyw ardrethi annomestig, yn eu hardal. Bydd angen i’r awdurdod rhanbarthol a’r corff atebol, fel rhan o’r Cyd-bwyllgor Corfforedig, weithio gyda’i gilydd i ddatblygu strategaeth ailfuddsoddi gadarn ar gyfer y ffrwd refeniw.

Dylai’r corff atebol hefyd ystyried sut y gall ddefnyddio tâl chwyddo mewn ardrethi annomestig i dalu am gostau benthyca ar gyfer seilwaith (lle y bo’n berthnasol);  ailfuddsoddi yn safle(oedd) treth y Parth Buddsoddi er mwyn cynhyrchu rhagor o dwf; neu wrthbwyso effeithiau disgwyliedig dadrhanbartholi gweithgarwch economaidd rhanbarthol o ardaloedd difreintiedig.

Bwriedir i’r awdurdod rhanbarthol neu’r awdurdodau rhanbarthol y mae safle(oedd) treth y Parth Buddsoddi wedi’u rhanbartholi ynddo neu ynddynt gadw’r twf mewn ardrethi annomestig ar gyfer yr ardal honno uwchlaw llinell sylfaen y cytunwyd arni ac o ystyried effaith dadrhanbartholi, yn unol â phrif raglen cadw ardrethi annomestig Llywodraeth Cymru. Caiff hyn ei warantu am 25 mlynedd, sy’n rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar awdurdodau rhanbarthol i fenthyca i fuddsoddi mewn gweithgarwch adfywio a seilwaith a fydd yn cefnogi twf pellach. Dylid defnyddio derbyniadau a gadwyd i dalu am gostau benthyca (lle y bo’n berthnasol); neu eu hailfuddsoddi yn y Parth Buddsoddi i gynhyrchu rhagor o dwf.

Dylai ymgeiswyr fanylu ar gostau cyflawni eu cynnig, a dylai hyn gael ei rannu yn ôl y flwyddyn ariannol hyd y gellir. Dylai cerrig milltir cyflawni allweddol hefyd gael eu hadlewyrchu yn ymatebion ymgeiswyr fel rhan o’u cynllun gweithredu. Dylai cynigion hefyd fanylu ar gymorth cymunedol, ac unrhyw ryngddibyniaethau allweddol.

Er mwyn sicrhau y caiff adnoddau yn yr economi rhanbarthol eu defnyddio’n briodol, dylai cynigion Parthau Buddsoddi adeiladu ar bartneriaethau a chynlluniau sy’n bodoli eisoes ac ychwanegu atynt, ac ategu’r strategaethau presennol megis Strategaethau Economaidd Rhanbarthol, Cynlluniau Datblygu Rhanbarthol, cynlluniau strategol Datblygu Sgiliau Cymru, strategaethau gofodol, Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth. Bydd y llywodraethau yn asesu ar y cyd geisiadau i ddefnyddio’r arlwy cadw ardrethi annomestig ar sail y meini prawf hyn. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cadw’r hawl i wrthod safleoedd yn seiliedig ar gost, gwerth am arian a’r gallu i gyflawni.

Y meini prawf y bydd angen i gynigion ar gyfer safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig eu bodloni

Maint a siâp safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig – unrhyw safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig mewn Parthau Buddsoddi

  • Dylai safleoedd gael eu hamlinellu’n glir ar fap ar ffurf un ffin ddidor.
  • Gall ffiniau safleoedd fod yn afreolaidd o ran ffurf, os yw hynny’n helpu i gynnwys ardaloedd addawol a hepgor ardaloedd sy’n fwy datblygedig, cyhyd â bod y safleoedd hynny’n rhai penodol.
  • Gallant gwmpasu hyd at ddau safle unigol, nad ydynt yn ymestyn dros fwy na 300 hectar yr un, yn ddelfrydol. Byddwn yn ystyried cynigion sy’n cyflwyno dadl economaidd dros safle unigol sydd y tu allan i’r terfyn o 300 hectar a argymhellir, ond mae’n rhaid nad yw cyfanswm arwynebedd y safleoedd unigol yn y Parth Buddsoddi yn fwy na 600 hectar. Bydd y rhai sy’n cyflwyno cynigion sy’n ymestyn dros fwy na 600 hectar yn cael eu gwrthod yn awtomatig.
  • Nid oes angen i safleoedd fod ar ffurf un darn o dir yn unig – er enghraifft, gallai un safle fod yn ddau ddarn o dir wedi’u gwahanu gan ffordd. Os nad oes unrhyw ran o’r tir yn cysylltu’r safleoedd – er enghraifft, maent yn cael eu gwahanu gan afon, neu eiddo preswyl – byddem yn ystyried bod y rhain yn ddau safle ar wahân oni bai bod modd dangos rhyngysylltiad daearyddol ac economaidd clir iawn (e.e. mae’n ymddangos yn rhesymol bod modd teithio rhyngddynt).
  • Bydd angen i’r corff atebol nodi’n glir sawl awdurdod rhanbarthol sydd wedi’u cynnwys o fewn pob safle arfaethedig. Bydd angen iddo hefyd ddangos bod pob awdurdod rhanbarthol wedi cydsynio i’r trefniadau gweinyddol ac wedi cytuno i roi Memoranda Cyd-ddealltwriaeth priodol ar waith er mwyn sicrhau bod yr holl ardrethi annomestig ychwanegol a gedwir yn cael eu hailfuddsoddi yn amcanion y Parth Buddsoddi.
  • Nid oes angen ffensys o amgylch safleoedd – ond dylai fod ganddynt ffiniau y gellir eu nodi’n glir (at ddibenion gweithredol) a dylent fod wedi’u hamlinellu’n glir ar fap a ddarperir fel rhan o’r cais. Gweler y canllawiau ar fapiau isod.

Dylai safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig fod “wedi’u tanddatblygu” er mwyn sicrhau bod mesurau cadw ardrethi annomestig yn cefnogi ardaloedd â photensial economaidd, yn hytrach na safleoedd sydd eisoes yn economaidd lwyddiannus.

O dan y diffiniad economaidd eang hwn, mae tir gwag, tir llwyd, tir sy’n cael ei danddefnyddio gyda rhywfaint o waith adeiladu ac eiddo gwag yn rhai enghreifftiau o’r hyn y gellid ei ystyried yn safle “wedi’i danddatblygu” cyhyd ag y cyflwynir dadl dda dros y safle. Wrth gyfiawnhau sut mae eu safleoedd “wedi’u tanddatblygu”, dylai ymgeiswyr ystyried y prif feini prawf canlynol sy’n sail i’n diffiniad:  

  • wedi’i danddefnyddio:  Mewn safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig dylai fod digon o ofod ffisegol hyfyw ond heb ei feddiannu sydd eto i’w ddatblygu, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu neu sy’n cael ei ddefnyddio, er mwyn galluogi busnesau newydd neu fusnesau sy’n ehangu adeiladu, adnewyddu, prynu neu brydlesu mangre newydd ar y safle lle y cedwir ardrethi annomestig
  • twf buddsoddi posibl: dylai’r Cyd-bwyllgor Corfforedig esbonio sut y bydd statws y Parth Buddsoddi a rhanbartholiad y safle lle y cedwir ardrethi annomestig yn arwain at fuddsoddi ychwanegol gan fusnesau newydd a/neu fusnesau sy’n bodoli eisoes yn y safle(oedd) lle y cedwir ardrethi annomestig uwchlaw’r lefelau presennol. Dylai’r safle lle y cedwir ardrethi annomestig ymwneud â’r sector â blaenoriaeth naill ai drwy’r math o ddatblygiad sy’n cael ei gynnig, rhanbartholiad y safle, neu’r strategaeth ailfuddsoddi ar gyfer ardrethi annomestig a gedwir. Lle y bo’n berthnasol, dylai hyn gynnwys sut mae amcanion cynnig ehangach lle yn y Parth Buddsoddi megis manteision cydgrynhoi ac ychwanegedd, datblygiadau newydd arfaethedig neu ddatblygiadau wedi’u cyflymu arfaethedig sy’n osgoi dadrhanbartholi, neu seilwaith i helpu i ledaenu manteision ehangach y clwstwr, yn cael eu cefnogi drwy ardrethi annomestig ychwanegol a gedwir.
  • rhyngweithio â safleoedd treth: pan gynigir y ddau ymyriad, safle(oedd) treth a safle(oedd) lle y cedwir ardrethi annomestig dylai’r ffiniau fod yr un fath. Lle y cynigir bod safleoedd treth a safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig yn bodoli mewn rhanbartholiadau ar wahân yn y Parth Buddsoddi, disgwyliwn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig esbonio’n glir pam mae hyn yn amgenach, yn rhesymegol ac yn cefnogi twf y Parth Buddsoddi. Os nad yw Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cynnig safle(oedd) treth, yna bydd y llywodraethau ar y cyd yn ystyried safle(oedd) lle y cedwir ardrethi annomestig sydd â chymysgedd o dir datblygedig a thir heb ei ddatblygu, yn amodol ar resymeg glir, sy’n cefnogi datblygiadau ar y safle a/neu’r Parth Buddsoddi ehangach, sy’n sbarduno amcanion y Parth Buddsoddi yn uniongyrchol. Bwriedir i hyn adlewyrchu realiti trefol safleoedd tir llwyd diffaith y gellid eu datblygu sydd wrth ymyl busnesau sy’n bodoli eisoes neu sefydliadau ymchwil mewn rhanbarthau
  • Bydd angen i’r corff atebol gytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Llywodraeth Cymru i gadarnhau’r manylion allweddol o ran unrhyw drefniant i gadw ardrethi annomestig.
  • dim ond 50% o’r twf newydd mewn ardrethi annomestig uwchlaw llinell sylfaen y cytunwyd arni a gaiff ei gadw, yn amodol ar ffactor dadrhanbartholi y cytunir arno ar y cyd â’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Bydd ardrethi annomestig yn parhau i gael eu casglu gan awdurdodau rhanbarthol perthnasol. Y llinell sylfaen fydd yr eiddo ar y rhestr brisio ar y safle lle y cedwir ardrethi annomestig ar y diwrnod cyn dynodi, sydd â gwerthoedd ardrethol ar yr un diwrnod. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ffurflen i’w llenwi gan y cyngor er mwyn cyfrifo’r llinellau sylfaen ar gyfer pob safle lle y cedwir ardrethi annomestig.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i herio penderfyniad i gynnwys unrhyw eiddo neu dwf er mwyn sicrhau mai dim ond ardrethi annomestig sy’n gysylltiedig â thwf ‘heblaw am’ a gaiff eu cadw.

Maint a chostau

  • Cyn y porth ymyriadau, bydd y llywodraethau yn disgwyl gweld rhagamcan ariannol sy’n amcangyfrif y twf yn incwm ardrethi annomestig o’i gymharu â’r llinell sylfaen y cytunwyd arni dros oes y safle. Bydd y llywodraethau hefyd yn disgwyl gweld rhestr o eiddo annomestig ar y safle lle y cedwir ardrethi annomestig os gofynnir am un, sy’n manylu ar Rifau Cyfeirnod Cyfeiriad Unigryw, gwerthoedd ardrethol a rhyddhadau a roddwyd er mwyn pennu’r llinell sylfaen ar gyfer cadw ardrethi.
  • Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn derbyn bod unrhyw ragamcan yn cynnwys lefel o ansicrwydd a byddent yn croesawu amcangyfrif o hyn.
  • Mae’r llywodraethau yn cadw’r hawl i wrthod safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig y credwn (i) nad ydynt yn hyfyw yn weithredol, (ii) nad ydynt yn cynnig gwerth am arian, a (iii) nad ydynt yn cyd-fynd â photensial economaidd, ffocws sectoraidd nac amcanion y Parth Buddsoddi neu nad ydynt yn cyfrannu at y rhain.
  • Fel rhan o’r broses o asesu safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig a amlinellir (gweler isod) a thrwy’r templed a ddarperir, dylai Parthau Buddsoddi ddarparu gwybodaeth i hwyluso arfarniad y llywodraeth.

Cysoni ag amcanion ehangach y rhaglen Parthau Buddsoddi

  • Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gofyn am sicrwydd bod strwythurau llywodraethu arfaethedig, cytundebau â rhanddeiliaid, asesiadau risg a chynlluniau cyflawni yn gadarn a/neu’n gyflawnadwy cyn bod safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig yn cael eu dynodi’n ffurfiol.
  • Bydd y broses weithredu hon ar wahân i’r broses o asesu safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig a bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn hir.

Asesu a dynodi safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig

Bydd y llywodraethau ar y cyd yn asesu cynigion ar gyfer safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig yn erbyn y meini prawf a nodir yn y ddogfen hon er mwyn sicrhau bod safleoedd yn unol â’r rhain. Fel rhan o’r broses asesu hon, bydd angen i Gyd-bwyllgorau Corfforedig gyflwyno gwybodaeth fanwl am eu cynigion, sy’n esbonio sut maent yn bodloni’r meini prawf asesu.

Caiff cynigion i gadw ardrethi annomestig eu hadolygu yn erbyn y meini prawf ac mae’r llywodraethau yn cadw’r hawl i wrthod neu ail-wneud safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig yn seiliedig ar gost a’r gallu i’w cyflawni yn dilyn yr adolygiad. Gwahoddir Cyd-bwyllgorau Corfforedig i gyflwyno eu cynigion ar gyfer safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig er mwyn sicrhau bod y rhain yn cael eu deall. Caiff cynigion sydd wedi’u cwblhau’n rhannol eu gwrthod hefyd.

Mae’r llywodraethau yn cadw’r hawl i wrthod safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig nad ydynt yn bodloni’r gofynion hyn neu i ofyn am addasiadau iddynt.

Mae’r llywodraethau yn cadw’r hawl i edrych ar yr holl gynigion ar gyfer safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig a gwrthod safleoedd yn seiliedig ar gost a’r gallu i’w cyflawni.

Gofynion o ran mapiau o safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig

Dylai mapiau, rhestrau eiddo a gwybodaeth geo-ofodol am safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig gael eu darparu er mwyn cynorthwyo’r broses o ddadansoddi a gwerthuso Parthau Buddsoddi.

MAPIAU A DDARPERIR MEWN FFORMAT PDF

Dylai’r mapiau canlynol gael eu darparu mewn fformat PDF:

  • map o ffiniau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar raddfa o 1:50,000 o leiaf;
  • map o’r awdurdod rhanbarthol neu’r awdurdodau rhanbarthol cyfan ar raddfa o 1:50,000 o leiaf sy’n dangos y safleoedd treth oddi mewn iddo neu iddynt;
  • map o’r safleoedd arfaethedig lle y cedwir ardrethi annomestig ar raddfa o 1:1,250 o leiaf.

Dylid rhoi teitl a dyddiad ar fapiau a ddarperir mewn fformat PDF, ac ni ddylai fod unrhyw farcwyr na data arnynt ac eithrio’r teitl, y dyddiad, y ffiniau a amlinellir, ac unrhyw allweddi cymwys. Dylai mapiau fod yn seiliedig ar MasterMap yr Arolwg Ordnans. Dylai ffiniau gael eu cofnodi fel fectorau. Gall y map sylfaenol fod yn ddelwedd wastad (rastr) Mae rhagor o wybodaeth am graffigwaith rastr a fectorau ar gael. Mae’r mapiau o Borthladdoedd Rhydd y DU yn dangos y gofynion hyn. Ceir rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau hefyd yng nghanllawiau Cofrestrfa Tir EF ar gynlluniau.

Ffiniau a llinellau rhesog

Ar y map o safleoedd treth, dylai ffiniau ardaloedd awdurdodau rhanbarthol gael eu hamlinellu drwy ddefnyddio llinell las ddi-dor. Dylai’r safle treth arfaethedig gael eu hamlinellu’n glir drwy ddefnyddio llinell goch ddi-dor. Mae’n rhaid llenwi ffin pob safle treth â llinellau rhesog coch er mwyn diffinio ardal eich safle treth arfaethedig yn glir. Gallwch weld enghreifftiau o linellau rhesog yn y mapiau a gyhoeddwyd ar gyfer safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd. Ni ddylid cynnwys unrhyw ffiniau na marcwyr eraill yn y map hwn.

Ar fap pob safle lle y cedwir ardrethi annomestig, dylai’r safle lle y cedwir ardrethi annomestig gael ei hamgáu gan linell derfyn goch ddi-dor. Mae’n rhaid llenwi ffin â llinellau rhesog coch er mwyn diffinio ardal eich safle arfaethedig lle y cedwir ardrethi annomestig. Bydd angen i’r llinell derfyn amlinellu’n glir ffiniau’r safle lle y cedwir ardrethi annomestig er mwyn rhoi sicrwydd. Er mwyn osgoi amheuaeth, ardal y safle lle y cedwir ardrethi annomestig fydd yr ardal hyd at ymyl fewnol y llinell derfyn, ac ni fydd y llinell derfyn ei hun yn rhan o ardal y safle lle y cedwir ardrethi annomestig. Os ydynt yn bresennol, dylai ffiniau ardaloedd awdurdodau rhanbarthol gael eu hamlinellu drwy ddefnyddio llinell las ddi-dor.

Ni ddylid cynnwys unrhyw ffiniau na marcwyr eraill yn y map hwn (er enghraifft, safleoedd amgen).

Ffiniau a ddangosir mewn fformat System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)

Dylid hefyd ddangos ffiniau safleoedd lle y cedwir ardrethi annomestig mewn fformat GIS (siapffeil GeoJSON neu ESRI yn ddelfrydol). Dylid dangos ffiniau pob safle lle y cedwir ardrethi annomestig mewn ffeil ar wahân. Dylai’r ffeiliau GIS ddefnyddio system cyfesurynnau Grid cenedlaethol Prydain OSGB36 / EPSG:27700).

Byddwn yn dibynnu ar y ffiniau hyn wrth benderfynu faint o ardrethi annomestig ychwanegol uwchlaw’r llinell sylfaen y cytunwyd arni y dylid ei gadw am gyfnod o 25 mlynedd. Felly, mae’n hanfodol bod y ffiniau yn cael eu tynnu’n gywir fel na fyddant yn hepgor unrhyw rannau o dir, adeiladau, na strwythurau rydych yn bwriadu iddynt fod yn rhan o’r safle lle y cedwir ardrethi annomestig.

Atodiad C: Canllawiau Atodol – Arlwy Treth mewn Parthau Buddsoddi yng Nghymru

Arlwy Treth mewn Parthau Buddsoddi

Fel rhan o arlwy polisi cyffredinol y Parthau Buddsoddi (ac yn amodol ar adolygu a chytuno ar gynigion), mae’r llywodraeth yn cynnig y rhyddhadau treth canlynol mewn safleoedd treth dynodedig ym mhob Parth Buddsoddi:  

  • Treth Trafodiadau Tir (LTT): Rhyddhad LTT rhannol neu lawn ar gyfer trafodiadau tir ac adeiladau cymwys a brynwyd yn ystod cyfnod penodedig o amser
  • Ardrethi Annomestig: Rhyddhad o 100% ar ardrethi annomestig am hyd at 5 mlynedd ar fangreoedd busnes newydd eu meddiannu
  • Lwfans Cyfalaf Uwch: Lwfans blwyddyn gyntaf o 100% ar gyfer gwariant cymwys cwmnïau ar asedau offer a pheiriannau i’w defnyddio mewn safleoedd treth
  • Lwfans Strwythurau ac Adeiladau Uwch: rhyddhad cyflymach i ganiatáu i fusnesau leihau eu helw trethadwy 10% o gost buddsoddiad amhreswyl cymwys y flwyddyn, gan roi rhyddhad o 100% ar gost strwythurau ac adeiladau dros 10 mlynedd
  • Rhyddhad Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr: cyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr cyfradd sero ar gyflogau unrhyw gyflogai newydd sy’n gweithio yn y safle treth am o leaf 60% o’i amser ar enillion hyd at £25,000 y flwyddyn, gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr yn cael eu codi ar y gyfradd arferol uwchlaw’r lefel hon. Gall y rhyddhad hwn gael ei gymhwyso am hyd at 36 mis fesul cyflogai

Y meini prawf y bydd angen i gynigion ar gyfer safleoedd treth eu bodloni

Maint a siâp safleoedd treth

O ran unrhyw safleoedd treth mewn Parthau Buddsoddi:

  • dylent gael eu hamlinellu’n glir ar fap – ni ddylent gael eu llunio i greu un safle drwy ddefnyddio llinellau hir a chul (os oes dadl economaidd dros hynny gellir pennu sawl safle, cyfeiriwch at y canllawiau ar safleoedd treth)
  • dylent gwmpasu hyd at dri safle unigol, nad ydynt yn ymestyn dros fwy na 200 hectar yr un, yn ddelfrydol. Byddwn yn ystyried cynigion sy’n cyflwyno dadl economaidd dros safle unigol sydd y tu allan i’r terfyn o 200 hectar a argymhellir, ond mae’n rhaid nad yw cyfanswm arwynebedd y safleoedd unigol yn y Parth Buddsoddi yn fwy na 600 hectar. Bydd y rhai sy’n cyflwyno cynigion sy’n ymestyn dros fwy na 600 hectar yn cael eu gwrthod yn awtomatig
  • gallant fod â ffiniau afreolaidd o ran ffurf, os yw hynny’n helpu i gynnwys ardaloedd addawol a hepgor ardaloedd sy’n fwy datblygedig, cyhyd â bod modd cyfiawnhau bod y safleoedd hynny yn safleoedd unigol
  • nid oes angen iddynt fod ar ffurf un darn o dir yn unig – er enghraifft, gallai un safle fod yn ddau ddarn o dir wedi’u gwahanu gan ffordd. Rydym yn agored i dderbyn safle unigol sy’n cynnwys sawl darn o dir sy’n cael eu gwahanu oddi wrth ei gilydd gan ffordd, ardal warchodedig neu nodwedd ddaearyddol (megis afon) cyhyd â bod modd ystyried yn rhesymol bod y darnau o fewn y tir yn safle unigol oherwydd gellir dangos rhyngysylltedd daearyddol ac economaidd rhwng y safleoedd (er enghraifft, mae’n bosibl teithio rhyngddynt)
  • nid oes rhaid iddynt fod yn eiddo i un perchennog – gall gynnwys sawl darn o dir a berchnogir ar wahân ac sydd i gyd yn dod o dan yr un safle a amlinellwyd. Mae’n rhaid i ymgeiswyr roi tystiolaeth bod perchnogion tir yn cefnogi’r weledigaeth ar gyfer y safle treth arfaethedig ac y byddant yn cymryd camau priodol i sicrhau bod datblygiadau ar y safle yn gyson ag amcanion Parthau Buddsoddi ac amcanion polisi ehangach Parthau Buddsoddi.
  • nid oes angen ffensys o’u hamgylch – ond dylent fod ganddynt ffiniau y gellir eu nodi’n glir (at ddibenion gorfodi) a dylent fod wedi’u hamlinellu’n glir ar fap a ddarperir fel rhan o’r cais. Gweler y canllawiau ar fapiau yn Atodiad A.

Dylai safleoedd treth fod wedi’u tanddatblygu

Mae mesurau treth yn cefnogi ardaloedd â photensial economaidd, gan gynnwys drwy greu swyddi newydd, yn hytrach na safleoedd sydd eisoes yn economaidd lwyddiannus. Mae’r mesurau treth yn cefnogi ardaloedd â photensial economaidd, gan gynnwys drwy greu swyddi newydd, yn hytrach na safleoedd sydd eisoes yn economaidd lwyddiannus. Wrth gyfiawnhau sut mae eu safleoedd “wedi’u tanddatblygu”, dylai ymgeiswyr roi sylw i’r ffactorau canlynol: 

  • creu swyddi: dylai ymgeiswyr roi tystiolaeth nad yw eu safle treth arfaethedig yn cynnwys cyflogaeth bresennol sylweddol o’i gymharu â’r rhanbarth. Yna, dylai ymgeiswyr esbonio sut y bydd statws safle treth a’r rhyddhadau treth cysylltiedig yn arwain at gyflogaeth ychwanegol yn safle(oedd) treth y Parth Buddsoddi gan fusnesau newydd a/neu fusnesau sy’n bodoli eisoes uwchlaw’r lefel bresennol
  • tanddefnyddio: ar safleoedd treth dylai fod digon o ofod ffisegol hyfyw ond heb ei feddiannu sydd eto i’w ddatblygu, neu sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn galluogi busnesau newydd neu fusnesau sy’n ehangu adeiladu, adnewyddu, prynu neu brydlesu mangre newydd yn y Parth Buddsoddi
  • twf buddsoddi posibl: dylai ymgeiswyr esbonio sut y bydd statws y safle treth a’r rhyddhadau treth cysylltiedig yn arwain at fuddsoddi ychwanegol gan fusnesau newydd a/neu fusnesau sy’n bodoli eisoes ar y safle(oedd) treth sy’n sylweddol uwch na’r lefelau presennol
  • ymhlith yr enghreifftiau o safleoedd y gellir eu hystyried yn rhai “wedi’u tanddatblygu” y mae safleoedd sy’n cynnwys tir gwag, tir llwyd, neu dir sy’n cael ei danddefnyddio gyda rhywfaint o waith adeiladu ac eiddo gwag arno. Bydd cynigion ar gyfer safleoedd sy’n cyflwyno achosion eraill dros danddatblygu yn cael eu hystyried os byddant wedi’u hategu gan sylfaen dystiolaeth gref
  • caiff safleoedd eu hystyried ar sail achos unigol, ac rydym yn cadw’r hawl i wrthod safleoedd nad ydynt yn bodloni’r meini prawf hyn neu i ofyn am newidiadau iddynt

Maint a chostau

Mae’r polisi yn cynnig hyblygrwydd o ran faint o safleoedd treth y gall pob ardal wneud defnydd ohonynt. Gall ardaloedd Parthau Buddsoddi (yn amodol ar adolygu a chytuno ar gynigion) ddewis defnyddio’r arlwy treth a gwariant unigol dros 10 mlynedd neu wariant yn unig. Cynigir rhyddhadau treth dros hyd at 600 hectar ar gyfer un safle neu gall gael ei rannu rhwng hyd at dri safle 200 hectar. Os bydd rhanbarth yn dewis peidio â derbyn rhyddhadau treth, bydd amlen wariant fwy o faint ar gael iddo. Nid oes unrhyw hyblygrwydd o ran y rhyddhadau treth sydd ar gael. Dim ond maint/nifer y safleoedd treth y gellir ei addasu.

Fel rhan o’r broses o asesu safleoedd treth a amlinellir yn adran 3 a thrwy’r meini prawf a roddir, bydd angen i Barthau Buddsoddi ddarparu gwybodaeth am werth eu cynigion ar gyfer safleoedd treth. Rydym yn cadw’r hawl i wrthod safleoedd treth a fyddai, yn ein barn ni, yn costio dipyn yn fwy na’r amcangyfrif uchod. 

Cysoni ag amcanion ehangach y rhaglen Parthau Buddsoddi a rheoli cymorthdaliadau

Caiff cynigion ar gyfer safleoedd treth hefyd eu hasesu ar wahân yn erbyn pa mor dda y byddant yn cyflawni yn erbyn amcanion a ffocws sectoraidd y Parth Buddsoddi. Bydd angen i gynigion gyfiawnhau pam mae angen pob ymyriad a sut y cyfrifir am unrhyw effeithiau negyddol a’u lliniaru. Bydd y llywodraethau hefyd yn gofyn am sicrwydd bod y strwythurau llywodraethu arfaethedig, cytundebau â rhanddeiliaid, asesiadau risg a chynlluniau cyflawni yn gadarn a/neu’n gyflawnadwy cyn bod safleoedd treth yn cael eu dynodi’n ffurfiol mewn deddfwriaeth.

Caiff yr ardaloedd hyn eu hasesu’n bennaf fel rhan o broses asesu porth gyffredinol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, ac rydym yn cadw’r hawl i ofyn am wybodaeth ychwanegol a sicrwydd cyn bod safleoedd treth yn cael eu cymeradwyo a’u dynodi.

Bydd arlwy treth y Parthau Buddsoddi yn ddarostyngedig i rwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau domestig a rhyngwladol y DU. Os bydd angen, gall y llywodraethau, ar adeg briodol, yn cyflwyno rhagor o ganllawiau i fusnesau sy’n hawlio rhyddhadau treth Parthau Buddsoddi, er mwyn adlewyrchu’r rhwymedigaethau parhaus hynny ac unrhyw newidiadau iddynt. Bydd angen i fusnesau sydd wedi’u rhanbartholi mewn safleoedd treth dynodedig gyflawni unrhyw ofynion yn y rhanbarth er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r rhwymedigaethau hynny cyn hawlio rhyddhad, wrth ei hawlio ac ar ôl ei hawlio.

Asesu a dynodi safleoedd treth

Bydd y llywodraeth yn asesu cynigion Parthau Buddsoddi ar gyfer safleoedd treth yn erbyn y meini prawf a nodir yn y ddogfen hon a’r canllawiau ar broses y pyrth a nodir yn 2.4 uchod. Bydd angen i ranbarthau gyflwyno gwybodaeth fanwl am eu cynigion, sy’n esbonio sut maent yn bodloni’r holl feini prawf asesu. Mae’r llywodraeth yn cadw’r hawl i wrthod safleoedd treth nad ydynt yn bodloni’r meini prawf hyn neu i ofyn am addasiadau iddynt.
 

Bydd y broses o asesu safleoedd treth yn rhedeg ochr yn ochr â phroses y pyrth. Ni fydd unrhyw safleoedd treth yn cael eu cymeradwyo’n ffurfiol nes bod cynnig cyffredinol y Parth Buddsoddi yn mynd drwy bob porth ac yn cael ei gymeradwyo’n ffurfiol.
 

Disgwyliwn y bydd y broses o asesu safleoedd treth, o adeg cyflwyno’r cais, yn cymryd tua 12 wythnos fel arfer, ond rydym yn cadw’r hawl i gymryd mwy o amser os oes materion y bydd angen eu datrys. Mae’n bosibl y caiff rhanbarthau eu gwahodd i gyflwyno eu cynigion ar gyfer safleoedd treth i dimau asesu Trysorlys EF / CThEF er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu deall. 
 

Dim ond pan fydd cynnig y Parth Buddsoddi yn mynd drwy bob porth ac yn cael ei gymeradwyo’n derfynol y bydd y safleoedd treth a gymeradwyir gan Drysorlys EF / CThEF yn cael eu dynodi mewn is-ddeddfwriaeth. Ar ôl iddynt gael eu dynodi mewn deddfwriaeth, bydd safleoedd yn cael eu gweithredu’n ffurfiol ar adeg y daw’r ddeddfwriaeth i rym. Bydd pob rhyddhad treth ar gael o’r adeg honno ymlaen.

Bydd yr offeryn statudol (deddfwriaeth) sy’n dynodi safle treth arbening yn gwneud hynny gan gyfeirio at fapiau ffin allanol y Parth Buddsoddi a mapiau pob safle treth arbennig. Felly, mae’r cynhyrchion mapio’n ofynnol at ddibenion deddfwriaethol a chydymffurfio. Ni ellir dynodi safleoedd treth hyd nes bod mapiau addas yn cael eu darparu a’u clirio wedi hynny gan CThEF a gweinidogion llywodraeth berthnasol y DU.

Gofynion o ran mapiau

Safonau ar gyfer mapiau safleoedd treth

Dylai pob map gael ei ddarparu’n ddigidol ac mewn ffeiliau delwedd unigol – dylai pob map gael ei gynnwys mewn un ffeil, mewn fformat GIS yn ddelfrydol. Er enghraifft, os oes tri safle treth arfaethedig yn eich Parth Buddsoddi, yna budd angen i’r pedair ffeil o ddelweddau mapiau gael eu cyflwyno:  

  • ffiniau’r awdurdodau rhanbarthol
  • pob safle treth arfaethedig

Dylai pob un o’r mapiau fod yn rhai’r Arolwg Ordnans. 

Manylebau

  • dylai unrhyw ddangosyddion ar y map gael eu creu fel fectorau (nid delwedd wastad), gan gynnwys:
    • y ffin
    • llinellau rhesog
    • unrhyw deitlau
    • unrhyw allweddi (er enghraifft, graddfa’r map, enghraifft o ffin)
  • gall y map ei hun fod yn ddelwedd wastad (rastr) gyda’r fectorau drosti (ond os bydd popeth yn fector bydd y ffeil yn llai o faint). Mae rhagor o wybodaeth am graffigwaith rastr a fectorau ar gael

dylai’r ffeil fod mewn fformat GIS (GeoJSON neu siapffurf ESRI yn ddelfrydol)

Mapiau o Barthau Buddsoddi

Map dyddiedig â theitl o’r awdurdod rhanbarthol neu’r awdurdodau rhanbarthol cyfan ar raddfa o 1:50,000 o leiaf sy’n dangos y safleoedd treth oddi mewn iddo neu iddynt. Ni ddylai fod unrhyw farcwyr arno na data heblaw am y teitl, y dyddiad a’r ffiniau a amlinellir (gweler yr adran isod ar ‘Ffiniau a llinellau rhesog’). Ceir rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau o fapiau ordnans yng nghanllawiau Cofrestrfa Tir EF ar gynlluniau. Gallwch weld enghreifftiau o fapiau cyhoeddedig Porthladdoedd Rhydd y DU sy’n dangos y gofynion hyn.

Mapiau o safleoedd treth

Map sy’n cynnwys teitl (gan gynnwys enw ardal y safle treth) a dyddiad ar gyfer pob safle treth ar raddfa o 1:1,250. Ni ddylai fod unrhyw farcwyr arno na data heblaw am y teitl, y dyddiad a’r ffiniau a amlinellir (gweler yr adran isod ar ‘Ffiniau a llinellau rhesog). Gallwch weld enghreifftiau o fapiau cyhoeddedig safleoedd Porthladdoedd Rhydd a dynnwyd ar raddfa o 1:1,250 sy’n dangos y gofynion hyn.

Ffiniau a llinellau rhesog

Ar y map o’r Parth Buddsoddi, dylai ffiniau awdurdodau rhanbarthol gael eu hamlinellu’n glir gan ddefnyddio llinell las ddi-dor. Dylai’r safleoedd treth arfaethedig gael eu hamlinellu’n glir gan ddefnyddio llinell goch ddi-dor. Mae’n rhaid llenwi ffin pob safle treth â llinellau rhesog coch er mwyn diffinio ardal eich safle treth arfaethedig yn glir. Gallwch weld enghreifftiau o linellau rhesog yn y mapiau a gyhoeddwyd ar gyfer safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd. Ni ddylid cynnwys unrhyw ffiniau na marcwyr eraill yn y map hwn.

Ar bob map safle treth, dylai’r safle treth gael ei amgáu gan linell derfyn goch ddi-dor. Mae’n rhaid llenwi ffin pob safle treth â llinellau rhesog coch er mwyn diffinio ardaloedd eich safleoedd treth arfaethedig yn glir. Bydd angen i’r llinell derfyn amlinellu’n glir ffiniau’r safle treth er mwyn rhoi sicrwydd. Er mwyn osgoi amheuaeth, ardal y safle treth fydd yr ardal hyd at ymyl fewnol y llinell derfyn, ac ni fydd y llinell derfyn ei hun yn rhan o ardal y safle treth. Ni ddylid cynnwys unrhyw ffiniau na marcwyr eraill yn y map hwn (er enghraifft, safleoedd amgen). 

Bydd i’r mapiau hyn effaith gyfreithiol a dibynnir arnynt wrth benderfynu a yw’r rhyddhadau treth yn gymwys. Felly, mae’n hanfodol bod y ffiniau yn cael eu tynnu’n gywir fel na fyddant yn hepgor unrhyw rannau o dir, adeiladau, na strwythurau rydych yn bwriadu iddynt fod yn rhan o’r safle treth. Er enghraifft, os na fydd rhan o adeilad presennol wedi’i chynnwys yn gyfan gwbl o fewn y llinell derfyn goch, bydd angen dosrannu gwariant cymwys ar yr adeilad hwnnw at ddibenion hawlio’r lwfans strwythurau ac adeiladau uwch – gall hyn arwain at ganlyniad annisgwyl os mai’r bwriad oedd cynnwys yr adeilad yn ei gyfanrwydd. Bydd materion tebyg yn codi o ran rhyddhadau treth eraill os na fydd y ffiiniau arfaethedig yn cael eu diffinio’n glir.

Gofynion metadata

Mae metadata’n ofynnol ar gyfer pob cynnyrch PDF gan eu bod yn helpu i wneud mapiau’n hygyrch, yn enwedig i ddefnyddwyr a allai gael trafferth dehongli delwedd ac a allai ddefnyddio metadata i ddeall beth maen nhw’n edrych arno.

Mae’r metadata canlynol yn ofynnol a dylid eu cynnwys ym mhriodweddau’r ddogfen:

  • Teitl

  • Pwnc (gall hwn fod yr un peth â’r teitl)

  • Geiriau allweddol (gall y rhain fod yn ychydig o eiriau neu ymadroddion perthnasol)

  • Rhaglen (dylai hyn ddangos y rhaglen y crëwyd y PDF arni)

Canllawiau a dogfennau ar ryddhadau treth Porthladdoedd Rhydd er gwybodaeth

Efallai y bydd y dogfennau a’r canllawiau canlynol a gyhoeddwyd mewn perthynas â rhyddhadau treth Porthlaoedd Rhydd yn ddefnyddiol i randdeiliaid. Er na fydd y rhain yn gymwys yn uniongyrchol i Barthau Buddsoddi, maent yn dal i fod yn berthnasol. Nid cyngor treth ydyw a gall canllawiau newid / gael eu diweddaru.

Dynodi Safleoedd Treth:  

Rhyddhad Treth Dir y Dreth Stamp 

Lwfansau Cyfalaf Uwch 

Lwfansau Strwythurau ac Adeiladau 

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 

Ardrethi Annomestig 

  • [Ardrethi Busnes yng Nghymru Busnes Cymru (llyw.cymru)](https://businesswales.gov.wales/topics-and-guidance/business-tax-rates-and-premises/business-rates-wales)

Treth Trafodiadau Tir

Atodiad D – Fframwaith Canlyniadau

Sgiliau

Amcanion ynglŷn â sgiliau

Mae’n rhaid i gynlluniau Parthau Buddsoddi ddangos sut y caiff ymyriadau eu targedu at anghenion penodol a sut y maent yn deall y farchnad lafur ranbarthol. Yng Nghymru, wrth ystyried darpariaeth sgiliau bosibl, dylai buddsoddiadau gefnogi gwaith y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol a’r Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol.

Gellir cyflawni hyn drwy gydweithio rhwng:

  • y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol lle mae clwstwr y Parth Buddsoddi wedi’i rhanbartholi, gan gynnwys nodi a diwallu anghenion sgiliau’r sector. Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig sicrhau bod Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol yn adlewyrchu gofynion sgiliau presennol y clwstwr a gefnogir gan Barth Buddsoddi a’i ofynion yn y dyfodol
  • busnesau a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch presennol

Ymyriadau sgiliau mewn Parthau Buddsoddi (A-E)

  • A – Defnyddir cyllid y Parth Buddsoddi i ategu ffrydiau cyllido i gyflawni blaenoriaethau
    • Prosiectau enghreifftiol
      • buddsoddiad cyfalaf ar gyfer cyfleusterau sgiliau a nodwyd gan y Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol
      • buddsoddi mewn adnoddau i lunio a chomisiynu rhaglenni sgiliau a nodwyd yn y Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol
    • Allbynnau a Awgrymir
      • dangosir bod cyllid Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol sy’n cael ei wario yn ymwneud yn uniongyrchol â blaenoraethau’r cynlluniau drwy fonitro enillion ariannol
      • nifer y cyrsiau hyfforddiant sydd ar gael (amlder a’r sector perthnasol)
      • nifer yr hyfforddeion
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf dynol
      • cynnydd yn nifer yr unigolion mewn cyflogaeth lefel fedrus / sydd wedi ennill cymhwyster ar lefel FfCChC
      • cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n cofrestru â rhaglen ddysgu y mae Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol wedi nodi ei bod yn flaenoriaeth
      • cynnydd yn nifer y cyflogeion sydd â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr
      • cyflogwyr yn nodi llai o brinder sgiliau
      • nifer y graddedigion sy’n rhan o ymyriadau sgiliau sy’n cael canlyniad cadarnhaol ar ôl 6 mis
  • B - Cyllid i gefnogi sgiliau rhanbarthol drwy hyfforddiant wedi’i gydlunio â chyflogwyr, er enghraifft, (Cyfalaf Dynol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • rhaglenni sgiliau rhanbarthol a noddir gan gyflogwyr
    • Allbynnau a Awgrymir
      • nifer y cyrsiau hyfforddiant sydd ar gael (amlder a’r sector perthnasol)
      • nifer y cyflogwyr sy’n noddi cwrs hyfforddiant
      • nifer y dysgwyr sy’n cwblhau cwrs hyfforddiant
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf dynol
      • cynnydd yn nifer yr unigolion mewn cyflogaeth lefel fedrus / sydd wedi ennill cymhwyster ar lefel FfCChC
      • cynnydd yn nifer y dygwyr sy’n cofrestru â chwrs hyfforddiant y mae’r Cynllun Gwella Sgiliau Rhanbarthol wedi nodi ei fod yn flaenoriaeth
      • cynnydd yn nifer y cyflogeion sydd â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr
      • cyflogwyr yn nodi llai o brinder sgiliau
      • nifer y graddedigion sy’n rhan o ymyriadau sgiliau sy’n cael canlyniad cadarnhaol ar ôl 6 mis
  • C - Cyllid i gefnogi sgiliau a rhwydweithiau entrepreneuraidd (Cyfalaf Dynol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • rhaglen hyfforddiant sgiliau entrepreneuraidd ar lefel ranbarthol
    • Allbynnau a Awgrymir
      • nifer y rhwydweithiau sgiliau entrepreneuraidd a sefydlir (a’r sector perthnasol)
      • nifer yr entrepreneuriaid a gefnogir
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf dynol
      • cynnydd yn nifer yr unigolion mewn cyflogaeth lefel fedrus / sydd wedi ennill cymhwyster ar lefel 3 ac uwch
      • cynnydd yn nifer y cyflogeion sydd â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr
      • cyflogwyr yn nodi llai o brinder sgiliau
      • nifer y graddedigion sy’n rhan o ymyriadau sgiliau sy’n cael canlyniad cadarnhaol ar ôl 6 mis
  • D - Cymorth i ailhyfforddi, er mwyn helpu unigolion i ddod yn rhan o sectorau gwybodaeth lefel uchel (Cyfalaf Dynol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • rhaglen ailhyfforddi i weithwyr presennol i ymgymryd â rôl benodol yn y Parth Buddsoddi
    • Allbynnau a Awgrymir
      • nifer y cyrsiau ailhyfforddi sydd ar gael (ac amlder a’r sector perthnasol)
      • nifer y rhai sy’n ailhyfforddi
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf dynol
      • cynnydd yn nifer yr unigolion mewn cyflogaeth lefel fedrus / sydd wedi ennill cymhwyster ar lefel 3 ac uwch
      • cynnydd yn nifer y cyflogeion sydd â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr
      • cyflogwyr yn nodi llai o brinder sgiliau
      • nifer y graddedigion sy’n rhan o ymyriadau sgiliau sy’n cael canlyniad cadarnhaol ar ôl 6 mis
  • E - Bydd y Parthau Buddsoddi yn gallu cynnig cymhellion rhanbarthol o ran prentisiaethau i gyflogwyr sy’n gysylltiedig â ffocws sectoraidd y Parth Buddsoddi, er mwyn ysgogi’r galw am brentisiaethau sydd wedi’u targedu at anghenion sgiliau penodol a’r farchnad lafur yn eu Parthau Buddsoddi. (Cyfalaf Dynol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • Rhaglenni sy’n darparu cymorth i fusnesau newydd drwy’r camau cynnar o dwf  a hybu twf. Gallai’r rhaglenni hyn gefnogi busnesau newydd drwy amrywiol ddulliau gan gynnwys drwy ddarparu mynediad at rwydweithiau mentora, arbenigedd ar ddatblygu modelau busnes, cyllid buddsoddi amlwg neu gymorth i wneud cais amdano o ffynonellau eraill, a chymorth i ddenu cwmnïau cyfalaf menter i fuddsoddi yn y busnes.
    • Allbynnau a Awgrymir
      • nifer y cyflogwyr sy’n hawlio cymelldaliad ar gyfer prentis newydd
      • nifer yr unigolion sy’n dechrau prentisiaeth (a’r sector perthnasol)
    • Suggested Intermediate Outcomes - Human capital outcomes
      • cynnydd yn nifer yr unigolion mewn cyflogaeth lefel fedrus / sydd wedi ennill cymhwyster ar lefel 3 ac uwch
      • cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n cofrestru ar gyfer Asesiadau Sgiliau Sectoraidd y mae’r Cynllun Gwella Sgiliau Rhanbarthol wedi nodi eu bod yn flaenoriaeth
      • cynnydd yn nifer y cyflogeion sydd â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr
      • cyflogwyr yn nodi llai o brinder sgiliau
      • nifer y graddedigion sy’n rhan o ymyriadau sgiliau sy’n cael canlyniad cadarnhaol ar ôl 6 mis

Seilwaith rhanbarthol

Amcanion seilwaith rhanbarthol

Prosiectau gwella seilwaith rhanbarthol penodol (er enghraifft, cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, cynlluniau seilwaith digidol) sy’n gysylltiedig â chyfleoedd buddsoddi busnes penodol, er enghraifft, cynlluniau i wella cysylltedd i helpu’r farchnad lafur ranbarthol i fanteisio ar y sector neu adfer tir ar gyfer labordai a’u defnyddio.

Ymyriadau seilwaith rhanbarthol mewn Parthau Buddsoddi (A-H)

  • A - Cyllid ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus newydd neu wella trafnidiaeth gyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r sectorau sy’n datblygu, gan gynnwys y rhai sy’n gwella gallu cymunedau i fanteisio ar dwf clwstwr a’i gefnogi (Cyfalaf Ffisegol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • Bydd Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn galluogi Cyd-bwyllgorau Corfforedig i gynllunio ymyriadau trafnidiaeth aml-ddull sy’n cefnogi’r broses o gyflawni Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’n targedau ar gyfer Cymru Sero Net.
    • Allbynnau a Awgrymir
      • Y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Cymeradwy a’r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol
      • Nifer y mesurau blaenoriaethu bysiau a nodir
      • Cytuno ar gynllun ar gyfer y Rhwydwaith Teithio Llesol a’i gyhoeddi
      • nifer yr ymyriadau mynediad ffordd sy’n cael eu hychwanegu / gwella
      • nifer y cyffyrdd sy’n cael eu hychwanegu / gwella
      • nifer y dulliau sy’n cael eu gwahanu
    • Canlyniad Canolraddol a Awgrymir –Canlyniadau Cyfalaf Ffisegol
      • gwell cysylltedd rhwng safleoedd cyflogaeth a safleoedd addysg ac ardaloedd tai (mynediad at gyflogaeth)
      • gwell capasiti ar ffyrdd rhanbarthol
      • cynnydd o ran teithio llesol a chyfran dulliau trafnidiaeth gyhoeddus i feysydd awyr, porthladdoedd a gorsafoedd trenau perthnasol
      • cyffyrdd mwy diogel
      • mwy o fuddsoddiad mewn offer a pheiriannau
      • mwy o arwynebedd llawr wedi’i ddatgloi o ganlyniad i ymyriadau (drwy ddefnydd tir – masnachol, gofod labordy, ffatri, defnydd cymysg)
  • B - Gwell cyllid cyfalaf ar gyfer seilwaith bysiau i gyflymu teithiau, er enghraifft, gwelliannau i signalau traffig neu lonydd bysiau. Mae hyn yn cynnig mynediad gwell, mwy dibynadwy at drafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr gyrraedd safleoedd cyflogaeth. (Cyfalaf Ffisegol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • uwchraddio lonydd bysiau a signalau traffig ar hyd coridor bysiau pwysig
    • Allbynnau a Awgrymir
      • hyd lonydd bysiau (km)
      • nifer y signalau sy’n cael eu huwchraddio
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf ffisegol
      • gwell cysylltedd rhwng safleoedd cyflogaeth a safleoedd addysg ac ardaloedd tai (mynediad at gyflogaeth)
      • gwell capasiti ar ffyrdd rhanbarthol
      • cynnydd o ran teithio llesol a chyfran dulliau trafnidiaeth gyhoeddus i feysydd awyr, porthladdoedd a gorsafoedd trenau perthnasol
      • cyffyrdd mwy diogel
      • mwy o fuddsoddiad mewn offer a pheiriannau
      • mwy o arwynebedd llawr wedi’i ddatgloi o ganlyniad i ymyriadau (drwy ddefnydd tir – masnachol, gofod labordy, ffatri, defnydd cymysg)
  • C - Gwella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng dulliau trafnidiaeth (Cyfalaf Ffisegol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • cysylltedd rhwng dulliau trafnidiaeth/hwb symudedd – yn ymgorffori dulliau trafnidiaeth lluosog mewn un rhanbartholiad, er enghraifft, gwasanaethau bysiau, cyfleusterau beicio, mannau gwefru trydan
      • gwell darpariaethau ar gyfer y sector cludo llwythi a logisteg
      • cysylltiadau rhwng rhwydweithiau trafnidiaeth rhanbarthol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol
    • Allbynnau a Awgrymir
      • nifer yr hybiau trafnidiaeth aml-ddull
      • nifer yr hybiau dosbarthu rhanbarthol sy’n cyrraedd safon benodol
    • Canlyniad Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf ffisegol
      • gwell cysylltedd rhwng safleoedd cyflogaeth a safleoedd addysg ac ardaloedd tai (mynediad at gyflogaeth)
      • gwell capasiti ar ffyrdd rhanbarthol
      • cynnydd o ran teithio llesol a chyfran dulliau trafnidiaeth gyhoeddus i feysydd awyr, porthladdoedd a gorsafoedd trenau perthnasol
      • cyffyrdd mwy diogel
      • mwy o fuddsoddiad mewn offer a pheiriannau
      • mwy o arwynebedd llawr wedi’i ddatgloi o ganlyniad i ymyriadau (drwy ddefnydd tir – masnachol, gofod labordy, ffatri, defnydd cymysg)
  • D - Cyllid ar gyfer llwybrau teithio llesol (cerdded/olwyno/beicio) newydd neu welliannau i lwybrau o’r fath sy’n cynnig cysylltiadau uniongyrchol a diogel o ansawdd uchel ag ardaloedd cyflogaeth ac addysg sy’n cefnogi twf sectorau newydd a datblygol, ac sy’n helpu i greu rhwydweithiau ar draws trefi a dinasoedd sy’n cysylltu ag ardaloedd tai pwysig. (Cyfalaf Ffisegol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • gwell llwybrau cerdded, croesfannau ffyrdd a chyffyrdd sy’n lleihau unrhyw wahanu rhwng ardaloedd preswyl a safleoedd cyflogaeth a mynediad ast y farchnad lafur gerllaw
      • cysylltiadau beicio â’r rhwydweithiau presennol sy’n gwneud teithiau o ansawdd da o’r dechrau i’r diwedd yn bosibl
    • Allbynnau a Awgrymir
      • hyd y llwybrau cerdded/beicio newydd/wedi’u huwchraddio (km)
      • nifer y croesfannau newydd/gwell
      • nifer y safleoedd a m2 safleoedd lle y cafwyd gwared ar wahanu rhwng cymunedau, neu lle y crëwyd cysylltiadau uniongyrchol
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf ffisegol
      • gwell cysylltedd rhwng safleoedd cyflogaeth a safleoedd addysg ac ardaloedd tai (mynediad at gyflogaeth)
      • gwell capasiti ar ffyrdd rhanbarthol
      • cynnydd o ran teithio llesol a chyfran dulliau trafnidiaeth gyhoeddus i feysydd awyr, porthladdoedd a gorsafoedd trenau perthnasol
      • cyffyrdd mwy diogel
      • mwy o fuddsoddiad mewn offer a pheiriannau
      • mwy o arwynebedd llawr wedi’i ddatgloi o ganlyniad i ymyriadau (drwy ddefnydd tir – masnachol, gofod labordy, ffatri, defnydd cymysg)
  • E - Ymyriadau cyfalaf penodol i’w gwneud yn bosibl i gysylltu safleoedd datblygu posibl â chyfleustodau a mynediad i’r grid yn well (Cyfalaf Ffisegol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • mynediad safle datblygu penodol i’r grid
    • Allbynnau a Awgrymir
      • nifer y safleoedd a m2 safleoedd lle y cafwyd gwared ar rwystrau i gyfleustodau neu lle y crëwyd cysylltiadau uniongyrchol
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf ffisegol
      • gwell cysylltedd rhwng safleoedd cyflogaeth ac ardaloedd tai (mynediad i gyflogaeth)
      • mwy o fuddsoddiad mewn offer a pheiriannau
      • mwy o arwynebedd llawr wedi’i ddatgloi o ganlyniad i ymyriadau (drwy ddefnydd tir – masnachol, gofod labordy, ffatri, defnydd cymysg)
  • F - Cyllid i ddatblygu a chefnogi seilwaith arloesedd priodol ar y lefel ranbarthol
    • Prosiectau enghreifftiol
      • datblygu gofod labordy i dyfu busnesau
    • Allbynnau a Awgrymir
      • nifer yr adeiladau masnachol a m2 adeiladau masnachol sy’n cael eu datblygu neu eu gwella
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf ffisegol
      • gwell cysylltedd rhwng safleoedd cyflogaeth ac ardaloedd tai (mynediad i gyflogaeth)
      • mwy o fuddsoddiad mewn offer a pheiriannau
      • mwy o arwynebedd llawr wedi’i ddatgloi o ganlyniad i ymyriadau (drwy ddefnydd tir – masnachol, gofod labordy, ffatri, defnydd cymysg)
  • G - Cyllid ar gyfer gallu ac adnoddau seilwaith digidol newydd neu welliannau iddynt yn ardaloedd clystyrau er mwyn gwella cysylltedd a hwyluso’r broses o fabwysiadu technolegau newydd
    • Prosiectau enghreifftiol
      • cefnogi prosiectau newydd neu rai sy’n bodoli eisoes ac ymyriadau sydd â’r nod o gynnig cysylltedd di-wifr a gigadid uwch i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â chysylltedd digidol ar gyfer gweithgareddau ategol Parthau Buddsoddi.
      • prosiectau sy’n annog arloesedd ac awtomateiddio gyda thechnoleg a gefnogir gan 5G a darpariaeth ddi-wifr uwch arall, er enghraifft, ym maes gweithgynhyrchu, amaethdechnoleg, neu wasanaethau cyhoeddus megis trafnidiaeth a chymwysiadau dinas glyfar.
      • ymyriadau rhanbarthol sy’n dileu rhwystrau i gyflwyno seilwaith digidol, er enghraifft, gwelliannau i brosesau gwaith stryd neu hwyluso mynediad i safleoedd er mwyn cyflwyno seilwaith.
    • Allbynnau a Awgrymir
      • nifer y mangreoedd sydd â chysylltedd digidol gwell neu y mae cysylltedd digidol gwell ar gael iddynt.
      • nifer y busnesau a gwasanaethau cyhoeddus sy’n mabwysiadu gwasanaethau di-wifr neu gigadid uwch.
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf ffisegol
      • gwell cysylltedd rhwng safleoedd cyflogaeth ac ardaloedd tai (mynediad i gyflogaeth)
      • mwy o fuddsoddiad mewn offer a pheiriannau
      • mwy o arwynebedd llawr wedi’i ddatgloi o ganlyniad i ymyriadau (drwy ddefnydd tir – masnachol, gofod labordy, ffatri, defnydd cymysg)

Ymchwil ac arloesedd

Amcanion ymchwil ac arloesedd (A-F)

Cyllid ar gyfer grantiau ymchwil a datblygu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno cynhyrchion ar y farchnad, masnacheiddio, gwella niferoedd, symleiddio prosesau, a chefnogi arloesedd.

Ymyriadau ymchwil ac arloesedd mewn Parthau Buddsoddi (A-G)

  • A - Grantiau ymchwil, datblygu ac arloesi sy’n cael eu comisiynu a’u llunio’n rhanbarthol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno cynhyrchion ar y farchnad (masnacheiddio), gwella prosesau trosi a niferoedd a symleiddio prosesau. Gellir cysylltu ag Ymchwil ac Arloesi yn y DU neu Innovate UK, yn ôl disgresiwn y corff cyfrifol, i gael cyngor ynglŷn â sut i sicrhau bod grantiau ymchwil a datblygu yn cael eu sefydlu a’u targedu mewn ffordd synhwyrol. (Cyfalaf Anniriaethol ac Ariannol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • buddsoddi mewn egin fusnesau, cwmnïau allgynhyrchu ac ymchwilwyr ar gam cynnar i helpu i ddatblygu syniadau / technoleg arloesol yn y Parth Buddsoddi. Gallai hyn gynnwys darparu cyllid grant fel y gall rhanddeiliaid arloesol ddefnyddio’r cyfleusterau a’r asedau presennol sydd eu hangen arnynt i ddatblygu a phrofi eu syniad/technoleg
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau anniriaethol
      • nifer y BBaChau sy’n cael eu hariannu
      • nifer y cwmnïau mawr sy’n cael eu hariannu
      • nifer y busnesau/partïon â diddordeb sy’n cael cymorth ariannol heblaw grantiau
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau ariannol
      • nifer y BBaChau sy’n cael eu hariannu
      • nifer y cwmnïau mawr sy’n cael eu hariannu
      • nifer y busnesau/partïon â diddordeb sy’n cael cymorth ariannol heblaw grantiau
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau anniriaethol.
      • cynnydd yn nifer y partneriaethau sydd â ffocws ar arloesi sy’n cael eu llunio rhwng, er enghraifft, gwmnïau, prifysgolion, sefydliadau perthnasol eraill/sefydliadau ymchwil, mentrau cymdeithasol, a chynghorau rhanbarthol.
      • cynnydd yn nifer y busnesau yn y sector arloesol perthnasol, mwy o gyflogaeth, mwy o egin fusnesau, mwy o gwmnïau allgynhyrchu
      • gwell amser i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion ymchwil a datblygu
      • gweithgarwch ymchwil a datblygu gan fusnesau, er enghraifft: Ehangu cwmpas y gweithgarwch ymchwil a datblygu presennol ar yr Arolwg o Ymchwil a Datblygu Mentrau Busnes (BERD)
      • gwell amser i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion newydd (yn y tymor hwy); cynnydd yn nifer y cynhyrchion/gwasanaethau/prosesau newydd. Mae modd cyrchu’n ansoddol gan gwmnïau sy’n cymryd rhan.
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ariannol
      • cynnydd ym maint y cylchoedd buddsoddi / arian cyfatebol / cyllido prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol sy’n cael eu denu ochr yn ochr â’r gronfa sbarduno
      • mwy o Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor
      • mwy o incwm ymchwil, datblygu ac arloesi o ffynonellau preifat allanol, ffynonellau cystadleuol neu ffynonellau eraill
      • mwy o wariant a buddsoddiad mewn ymchwil, datblygu ac arloesi
  • B - Cyllid grant i helpu i brynu cyfarpar cyfalaf i gefnogi gwell gweithgarwch ymchwil a datblygu gan fusnesau. (Cyfalaf anniriaethol a ffisegol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • cymorth ariannol i’w gwneud yn bosibl i fusnes brynu’r cyfarpar sy’n galluogi ymchwil a datblygu (gan gynnwys cyfrifiaduron) y mae ei angen arnynt i arloesi, er enghraifft, peiriannau i ddatblygu a phrofi syniad newydd
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau ffisegol
      • gwerth cyfarpar cyfalaf ymchwil a datblygu newydd a briodolir i grantiau. (gall £ o gyfarpar cyfalaf a brynwyd o ganlyniad i grant arwain at orbriodoli i’r grant).
      • nifer y busnesau/partïon â diddordeb sy’n cael grantiau
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau ariannol
      • nifer y busnesau/partïon â diddordeb sy’n cael grantiau
      • gwerth cyfarpar cyfalaf ymchwil a datblygu newydd a briodolir i grantiau. (gall £ o gyfarpar cyfalaf a brynwyd o ganlyniad i grant arwain at orbriodoli i’r grant).
    • Allbynnau anniriaethol
      • gwerth cyfarpar cyfalaf ymchwil a datblygu newydd a briodolir i grantiau. (gall £ o gyfarpar cyfalaf a brynwyd o ganlyniad i grant arwain at orbriodoli i’r grant).
      • nifer y busnesau/partïon â diddordeb sy’n cael grantiau
    • Allbynnau dynol
      • Nifer y busnesau/partïon â diddordeb sy’n cael grantiau
      • Gwerth cyfarpar cyfalaf ymchwil a datblygu newydd a briodolir i grantiau (gall £ o gyfarpar cyfalaf a brynwyd o ganlyniad i grant arwain at orbriodoli i’r grant).
    • Canlyniad Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ffisegol
      • cynnydd o ran offer a pheiriannau
    • Canlyniad Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ariannol
      • cynnydd ym maint y cylchoedd buddsoddi / arian cyfatebol / cyllido prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol sy’n cael eu denu ochr yn ochr â’r gronfa sbarduno
      • mwy o Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor
      • mwy o incwm ymchwil, datblygu ac arloesi o ffynonellau preifat allanol, ffynonellau cystadleuol neu ffynonellau eraill
      • mwy o wariant a buddsoddiad mewn ymchwil, datblygu ac arloesi
    • Canlyniad Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau anniriaethol
      • gwell amser i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion ymchwil a datblygu
      • gweithgarwch ymchwil a datblygu gan fusnesau, er enghraifft: Ehangu cwmpas y gweithgarwch ymchwil a datblygu presennol ar yr Arolwg o Ymchwil a Datblygu Mentrau Busnes (BERD)
      • gwell amser i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion newydd (yn y tymor hwy) ; cynnydd yn nifer y cynhyrchion/gwasanaethau/prosesau newydd. Mae modd cyrchu’n ansoddol gan gwmnïau sy’n cymryd rhan.
    • Canlyniad Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf dynol
      • Cynnydd yn nifer y bobl a gyflogir mewn busnesau sy’n cael eu cefnogi drwy ymyriadau (a’r sector)
  • C – Cyllid grant i gefnogi gweithgareddau ymchwil a datblygu sy’n amodol ar ystyriaethau gweithredu (Cyfalaf anniriaethol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • rhoi cyllid grant hyblyg a chyllid grant ar gyfer patentau i BBaChau arloesol ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cam diweddar arloesol iawn (e.e., TRL 5-9)
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau anniriaethol
      • nifer a gwerth grantiau ymchwil a datblygu a roddir ar lefel cwmni
    • Canlyniad Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau anniriaethol
      • ehangu cwmpas y gweithgarwch ymchwil a datblygu presennol ar yr Arolwg o Ymchwil a Datblygu Mentrau Busnes (BERD)
      • cynnydd yn nifer y meysydd ymchwil newydd (prosiectau newydd sydd wedi cychwyn).
      • gwell amser i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion newydd (yn y tymor hwy); cynnydd yn nifer y cynhyrchion/gwasanaethau/prosesau newydd. Mae modd cyrchu’n ansoddol gan gwmnïau sy’n cymryd rhan.
  • D - Cymorth ar gyfer gwaith ymchwil PhD sy’n gysylltiedig â chryfderau’r sector a chyfleoedd i fasnacheiddio (Cyfalaf anniriaethol ac ariannol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • Cymrodoriaethau PhD sy’n cael eu hariannu’n rhannol neu’n llawn sy’n gyson â chryfderau sector y Parth Buddsoddi
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau anniriaethol
      • nifer y cymrodoriaethau PhD a gynigir mewn sefydliad ymchwil sy’n gysylltiedig â’r sector
      • nifer y cymrodoriaethau PhD sy’n gysylltiedig â’r sector a noddir gan ddiwydiant
      • nifer yr unigolion sy’n cwblhau PhD
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau dynol
      • nifer y cymrodoriaethau PhD a gynigir mewn sefydliad ymchwil sy’n gysylltiedig â’r sector
      • nifer y cymrodoriaethau PhD sy’n gysylltiedig â’r sector a noddir gan ddiwydiant
      • nifer yr unigolion sy’n cwblhau PhD
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau anniriaethol
      • mwy o gyfnewid gwybodaeth rhwng prifysgolion a chwmnïau (o ganlyniad i fyfyrwyr PhD mewn arbenigeddau perthnasol). Wedi’i fesur drwy fframwaith y Gronfa Datblygu Gwybodaeth
      • mwy o allu ymchwil (nifer y cyhoeddiadau)
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf dynol
      • cynnydd yn nifer yr unigolion mewn cyflogaeth lefel fedrus / sydd wedi ennill cymhwyster lefel 8
      • cynnydd yn nifer y cyflogeion sydd â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr
      • cyflogwyr yn nodi llai o brinder sgiliau
  • E - Cyllid grant a rhaglenni mentora i gefnogi academyddion entrepreneuraidd yn y gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer cwmnïau allgynhyrchu (Cyfalaf anniriaethol ac ariannol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • er enghraifft, cyllid i gefnogi prosiectau profi cysyniad a dargedir. Gellir defnyddio gwariant RDEL ar gyfer rhaglen fentora.
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau anniriaethol
      • nifer yr academyddion sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni entrepreneuriaeth
      • nifer y grantiau profi syniad a roddir i academyddion
      • nifer yr academyddion sy’n cael cymorth anariannol
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau ariannol
      • nifer y busnesau/partïon â diddordeb sy’n cael grantiau
      • nifer y busnesau/partïon â diddordeb sy’n cael cymorth ariannol heblaw grantiau
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau anniriaethol
      • cyfradd uwch o gwmnïau allgynhyrchu prifysgolion.
      • gwell cydweithio ar ymchwil rhwng prifysgolion a busnesau yn y rhanbarth (patentau/ymchwil ar y cyd)
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ariannol
      • cynnydd ym maint y cylchoedd buddsoddi / arian cyfatebol / cyllido prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol sy’n cael eu denu ochr yn ochr â’r gronfa sbarduno
      • mwy o Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor
      • mwy o incwm ymchwil, datblygu ac arloesi o ffynonellau preifat allanol, ffynonellau cystadleuol neu ffynonellau eraill
      • mwy o wariant a buddsoddiad mewn ymchwil, datblygu ac arloesi
  • F – Darparu cyllid i gefnogi’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth bresennol ranbarthol er mwyn ehangu i ddiddordebau sectoraidd penodol neu ddefnyddio cyllid i efelychu’r model hwn. (Cyfalaf anniriaethol, dynol ac ariannol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • Caiff Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth eu hariannu drwy grant gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU. Gallai Parthau Buddsoddi dalu am ran o’r arian cyfatebol sydd ei angen, yn amodol ar reoli cymorthdaliadau
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau cyfalaf dynol
      • nifer y cyrsiau hyfforddiant
      • nifer y digwyddiadau/rhaglenni cyfranogol
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau anniriaethol
      • nifer y busnesau sy’n cael cymorth anariannol
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau ariannol
      • nifer y busnesau sy’n cael cymorth ariannol heblaw grantiau
      • nifer y busnesau sy’n cael grantiau
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf dynol
      • cynnydd yn nifer yr unigolion sy’n weithwyr medrus / sydd wedi ennill cymhwyster ar lefel 3 ac uwch
      • cynnydd yn nifer y cyflogeion sydd â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr
      • cyflogwyr yn nodi llai o brinder sgiliau
      • cynnydd yn nifer y sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth newydd
      • cynnydd yn nifer y bobl a gyflogir mewn busnesau sy’n cael eu cefnogi drwy ymyriadau (a’r sector)
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau anniriaethol
      • nifer y busnesau sy’n mabwysiadu cynhyrchion, gwasanaethau neu brosesau newydd neu well
      • mwy o wariant ar hyfforddiant sy’n benodol i’r sector
      • lefel uwch o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dechnolegau digidol diwydiannol ymhlith gweithgynhyrchwyr BBaChau
      • dysgu gan gymheiriaid a rhwydweithio rhwng gweithgynhyrchwyr sy’n BBaChau
      • gwell amser i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion newydd (yn yr hirdymor)
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ariannol
      • cynnydd ym maint y cylchoedd buddsoddi / arian cyfatebol / cyllido prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol sy’n cael eu denu ochr yn ochr â’r gronfa sbarduno
      • mwy o Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor
      • mwy o incwm ymchwil, datblygu ac arloesi o ffynonellau preifat allanol, ffynonellau cystadleuol neu ffynonellau eraill
      • mwy o wariant a buddsoddiad mewn ymchwil, datblygu ac arloesi
  • G – Darparu cyllid i alluogi’r Parth Buddsoddi a rhanddeiliaid arloesol yn y Parth Buddsoddi i weithio gyda Chatapwlt ar weithgareddau a phrosiectau penodol sy’n cefnogi’r sector(au) a dargedir gan y Parth Buddsoddi (Cyfalaf anniriaethol, dynol ac ariannol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • talu am randdeiliaid yn y Parth Buddsoddi i ddefnyddio unrhyw rai o gyfleusterau ac arbenigeddau perthnasol y Catapwlt
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau cyfalaf dynol
      • nifer y cyrsiau hyfforddiant
      • nifer y digwyddiadau/rhaglenni cyfranogol
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau anniriaethol
      • nifer y busnesau sy’n cael cymorth anariannol
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau ariannol
      • nifer y busnesau sy’n cael cymorth ariannol heblaw grantiau
      • nifer y busnesau sy’n cael grantiau
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf dynol
      • cynnydd yn nifer yr unigolion sy’n weithwyr medrus / sydd wedi ennill cymhwyster ar lefel 3 ac uwch
      • cynnydd yn nifer y cyflogeion sydd â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr
      • cyflogwyr yn nodi llai o brinder sgiliau
      • cynnydd yn nifer y sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth newydd
      • cynnydd yn nifer y bobl a gyflogir mewn busnesau sy’n cael eu cefnogi drwy ymyriadau (a’r sector)
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau anniriaethol
      • nifer y busnesau sy’n mabwysiadu cynhyrchion, gwasanaethau neu brosesau newydd neu well
      • mwy o wariant ar hyfforddiant sy’n benodol i’r sector
      • lefel uwch o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dechnolegau digidol diwydiannol ymhlith gweithgynhyrchwyr BBaChau
      • dysgu gan gymheiriaid a rhwydweithio rhwng gweithgynhyrchwyr Technoleg Mowntio ar arwyneb
      • gwell amser i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion newydd (yn y tymor hwy)
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ariannol
      • cynnydd ym maint y cylchoedd buddsoddi/arian cyfatebol/cyllido prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol
      • mwy o Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor
      • mwy o incwm ymchwil, datblygu ac arloesi o ffynonellau preifat allanol, ffynonellau cystadleuol neu ffynonellau eraill
      • mwy o wariant a buddsoddiad mewn ymchwil, datblygu ac arloesi

Cymorth i fusnesau / rhanddeiliaid

Amcanion cymorth i fusnesau / rhanddeiliaid

Adeiladu ar gymorth sector-benodol sydd wedi’i deilwra at egin fusnesau a busnesau sy’n manteisio ar gryfderau a chyfleusterau ymchwil rhanbarthol (er enghraifft, Canolfannau Catapwlt), ac sy’n ychwanegol ac yn ategol i’r arlwy cenedlaethol.

Argymhellir y dylai rhanbarthau roi sylw i gysoni ac ymgysylltu â gweithgareddau a darpariaeth cymorth i fusnesau arall a ariennir gan y llywodraeth a fyddai’n berthnasol i fusnesau yn y Parth Buddsoddi. Byddai hyn yn cynnwys gwasanaethau masnach/allforio/mewnfuddsoddi Llywodraeth Cymru a’r Adran Busnes a Masnach, cymorth sydd ar gael drwy Busnes Cymru, rhwydwaith y DU Banc Busnes Prydain, cymorth Banc Datblygu Cymru, Innovate UK er mwyn cael cymorth i fusnesau arloesol, cymorth sector-benodol megis Made Smarter, mentrau digidol a gyflwynir yn rhanbarthol, partneriaethau sgiliau rhanbarthol ac ati.

Dylai ymyriadau sy’n ymwneud â’r Gronfa Sbarduno sicrhau nad ydynt yn dyblygu rhaglenni presennol Banc Busnes Prydain na Banc Datblygu Cymru.

Argymhellir y dylai Parthau Buddsoddi, lle y bo modd, weithio ar y cyd gyda Busnes Cymru gan mai hwn yw’r prif bwynt mynediad a ariennir gan Lywodraeth Cymru i fusnesau sy’n chwilio am gyngor ac arweiniad, er mwyn cynnull a symleiddio’r ecosystem cymorth busnes i fusnesau a darparwyr yn eu hardaloedd.

Ymyriadau cymorth i fusnesau / rhanddeiliaid mewn Parth Buddsoddi (A-G)

  • A - Cyllid i ddatblygu system concierge i helpu busnesau sy’n ymwneud â’r sector i fynd drwy’r heriau sy’n gysylltiedig â mynediad at gyllid a mathau eraill o gymorth. (Cyfalaf anniriaethol ac ariannol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • er enghraifft, cyllid i gefnogi prosiectau profi cysyniad a dargedir. Gellir defnyddio gwariant RDEL ar gyfer rhaglen fentora.
    • Allbynnau a Awgrymir
      • gwasanaeth concierge buddsoddi – un pwynt cyswllt i gydlynu ymholiadau ynglŷn â buddsoddiadau sy’n dod i law, cyfeirio buddsoddwyr â diddordeb at gyfleoedd yn yr ardal ac ymdrin ag ymholiadau.
      • gwasanaeth concierge hwb arloesedd
      • gwasanaeth arloesol, sy’n cynnwys, er enghraifft, arweinydd, rheolwyr cyfnewid gwybodaeth, ac arbenigwyr technegol ac ymchwil – a ariennir i gyd o gyllideb RDEL. Gallai busnesau arloesol yn y Parth Buddsoddi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn am ddim er mwyn eu helpu i fynd drwy’r ecosystem bresennol, gan gynnwys mynediad masnachol at gyfleusterau ac arbenigedd, a gwaith gydag arbenigwyr i’w helpu i nodi cyfleoedd
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir  – Canlyniadau ariannol
      • cynnydd ym maint y cylchoedd buddsoddi / arian cyfatebol / cyllido prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol sy’n cael eu denu ochr yn ochr â’r gronfa sbarduno
      • mwy o Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor
      • mwy o fasnach/allforion
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau anniriaethol
      • mwy o fusnesau yn mabwysiadu cynhyrchion neu wasanaethau newydd neu well.
      • mwy o wariant ar hyfforddiant sy’n benodol i’r sector
  • B - Cefnogi neu ymestyn rhaglen fabwysiadu Made Smarter, sy’n rhoi cyngor arbenigol wedi’i deilwra, cymorth dwys, grantiau cyfatebol, a hyfforddiant arweinyddiaeth er mwyn galluogi gweithgynhyrchwyr sy’n BBaChau i fabwysiadu datrysiadau technoleg ddigidol ddiwydiannol. Teilwra cymorth at sectorau penodol er mwyn helpu pob is-sector gweithgynhyrchu (Cyfalaf anniriaethol, dynol ac ariannol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • cyngor arbenigol ar gyllid grant i fabwysiadu’r dechnoleg gywir i dyfu busnes, gwella cynhyrchiant a lleihau’r defnydd o ynni ac allyriadau
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau cyfalaf dynol
      • nifer y cyrsiau hyfforddiant ar dechnoleg, nifer y cyrsiau hyfforddiant ar arweinyddiaeth
      • nifer yr interniaethau digidol (rhanbartholiadau i fyfyrwyr)
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau anniriaethol
      • nifer y busnesau sy’n cael cymorth anariannol, er enghraifft, cyngor arbenigol
      • nifer y busnesau sy’n cynnal sesiynau mapio ffordd digidol
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau ariannol
      • nifer y busnesau sy’n cael cymorth ariannol heblaw grantiau
      • nifer y busnesau sy’n cael grantiau
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf dynol
      • cynnydd yn nifer yr unigolion sy’n weithwyr medrus / sydd wedi ennill cymhwyster ar lefel 3 ac uwch
      • cynnydd yn nifer y cyflogeion sydd â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr
      • cyflogwyr yn nodi llai o brinder sgiliau
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau anniriaethol
      • nifer y busnesau yn mabwysiadu cynhyrchion neu wasanaethau newydd neu well
      • mwy o wariant ar hyfforddiant sy’n benodol i’r sector
      • lefel uwch o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dechnolegau digidol diwydiannol ymhlith gweithgynhyrchwyr BBaChau
      • dysgu gan gymheiriaid a rhwydweithio rhwng gweithgynhyrchwyr sy’n BBaChau
      • gwell amser i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion newydd (yn y tymor hwy)
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ariannol
      • cynnydd ym maint y cylchoedd buddsoddi / arian cyfatebol / cyllido prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol sy’n cael eu denu ochr yn ochr â’r gronfa sbarduno
      • mwy o Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor
      • mwy o fasnach/allforion
  • C - Cyllid i helpu dinas-ranbarthau i dyfu clystyrau drwy gynnal digwyddiadau busnes rhyngwladol a chynadleddau sy’n cefnogi sectorau twf rhanbarthol ehangach. (Cyfalaf ariannol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • defnyddio cyllid grant i gynnal cynhadledd ar gyfer y sector arweiniol
    • Allbynnau a Awgrymir
      • nifer y busnesau sy’n mynd i ddigwyddiadau
      • nifer y digwyddiadau/rhaglenni cyfranogol
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ariannol
      • cynnydd ym maint y cylchoedd buddsoddi / arian cyfatebol / cyllido prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol sy’n cael eu denu ochr yn ochr â’r gronfa sbarduno
      • mwy o Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor
      • mwy o fasnach/allforion
  • D - Cronfa sbarduno i helpu i greu cronfeydd angylion buddsoddi / buddsoddwyr cyfalaf menter (Cyfalaf ariannol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • digwyddiadau rhwydweithio i angylion buddsoddi
      • digwyddiadau rhwydweithio i fuddsoddwyr cyfalaf menter
    • Allbynnau a Awgrymir
      • nifer yr angylion buddsoddi/buddsoddwyr cyfalaf menter y cysylltir â nhw
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ariannol
      • cynnydd ym maint y cylchoedd buddsoddi / arian cyfatebol / cyllido prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol sy’n cael eu denu ochr yn ochr â’r gronfa sbarduno
      • mwy o Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor
  • E - Cyllid ar gyfer canolfannau hyfforddi, darpariaeth cymorth i fusnesau, ‘unedau deori’ ac ‘unedau sbarduno’ newydd ar gyfer busnesau rhanbarthol, a gwelliannau i’r rhai sy’n bodoli eisoes, a all gynorthwyo entrepreneuriaid ac egin fusnesau drwy gamau cynnar datblygu a thwf drwy gynnig cyfuniad o wasanaethau, gan gynnwys rheoli cyfrifon, cyngor, adnoddau, hyfforddiant a mynediad i rhanbartholiadau gwaith. (Cyfalaf anniriaethol, ffisegol, dynol ac ariannol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • Rhaglenni sy’n rhoi cymorth i egin fusnesau drwy gamau cynnar twf (deori) a hyrwyddo twf (sbarduno). Gallai’r rhaglenni hyn gefnogi egin fusnesau drwy amrywiol ddulliau, gan gynnwys drwy roi mynediad at rwydweithiau mentora, arbenigedd ar ddatblygu model busnes, arian sbarduno buddsoddiadau neu gymorth i wneud cais amdano o ffynonellau eraill, a chymorth i ddenu cwmnïau cyfalaf menter i fuddsoddi yn y busnes.
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau cyfalaf dynol
      • nifer y cyrsiau hyfforddiant
      • nifer y digwyddiadau/rhaglenni cyfranogol
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau anniriaethol
      • nifer (a gwerth) busnesau/partïon â diddordeb sy’n cael cymorth deori
      • nifer y busnesau/partïon â diddordeb sy’n cael cymorth anariannol
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau ariannol
      • nifer y busnesau sy’n cael cymorth ariannol heblaw grantiau
      • nifer y busnesau sy’n cael grant
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau ffisegol
      • nifer y sefydliadau sy’n cael cymorth
      • nifer yr adeiladau masnachol a m2 adeiladau masnachol sy’n cael eu datblygu neu eu gwella
      • faint o dir neu fangreoedd sy’n cael eu hadfer
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau cyfalaf dynol
      • cynnydd yn nifer y gweithwyr sy’n cael eu hyfforddi
      • cynnydd yn nifer y sefydliadau sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth newydd
      • cynnydd yn nifer y bobl a gyflogir mewn busnesau sy’n cael eu cefnogi drwy ymyriadau (a’r sector)
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau anniriaethol
      • nifer y busnesau yn mabwysiadu cynhyrchion neu wasanaethau newydd neu well
      • mwy o wariant ar hyfforddiant sy’n benodol i’r sector
      • lefel uwch o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dechnolegau digidol diwydiannol ymhlith gweithgynhyrchwyr BBaChau
      • dysgu gan gymheiriaid a rhwydweithio rhwng gweithgynhyrchwyr sy’n BBaChau
      • ehangu cwmpas y gweithgarwch ymchwil a datblygu presennol ar yr Arolwg o Ymchwil a Datblygu Mentrau Busnes (BERD)
      • cynnydd yn nifer y meysydd ymchwil newydd
      • gwell amser i’r farchnad ar gyfer cynhyrchion newydd (yn y tymor hwy). Mae modd cyrchu’n ansoddol gan gwmnïau sy’n cymryd rhan.
      • ceisiadau am batentau
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ariannol
      • cynnydd ym maint y cylchoedd buddsoddi / arian cyfatebol / cyllido prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol sy’n cael eu denu ochr yn ochr â’r gronfa sbarduno
      • mwy o Fuddsoddi Uniongyrchol o Dramor
      • mwy o fasnach/allforion
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ffisegol
      • mwy o arwynebedd llawr wedi’i ddatgloi o ganlyniad i ymyriadau (drwy ddefnydd tir – masnachol, gofod labordy, ffatri, defnydd cymysg)
      • mwy o fuddsoddiad mewn offer a pheiriannau

Cynllunio

Amcanion cynllunio

Mae’n rhaid i ddatblygiadau fod yn unol â Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040, y cynllun datblygu rhanbarthol perthnasol ar gyfer yr ardal a Pholisi Cynllunio Cymru. Dylai ardaloedd ystyried arferion gorau a dilyn dulliau arloesol lle y byddent yn ychwanegu gwerth. Dylai hyn gynnwys dechrau gwaith ar Gynlluniau Datblygu Strategol ochr yn ochr â gwaith ar Gynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol. Anogir sefydlu timau â ffocws ar brosiectau, gan gynnwys timau cymwysiadau mawr, uwchgynllunio rhagweithiol, defnyddio protocolau cynllunio neu gytundebau a chysoni â gweithdrefnau cydsynio lle y bo’n briodol.

Rydym yn rhagweld y bydd pob ardal yn defnyddio ei chyllid craidd ar gyfer y Parth Buddsoddi i i gefnogi’r arlwy cynllunio.

Rydym yn disgwyl i ymyriadau cynllunio gyfrannu at ganlyniadau canolraddol ffisegol wrth i safleoedd datblygu gael eu datgloi’n gyflymach (ac o ansawdd uwch) a thrwy’r gweithgareddau hyn gyflymu’r broses gynllunio.

Ymyriadau cynllunio mewn Parthau Buddsoddi (A-B)

  • A - Cyllid i recriwtio’r sgiliau technegol sydd eu hangen i ddatblygu uwchgynlluniau a dogfennau cysylltiedig i hwyluso’r gwaith o ddatblygu safleoedd. (Cyfalaf dynol a ffisegol)
    • Prosiectau enghreifftiol
      • uwchsgilio cynllunwyr / ymgynghorwyr caffael/defnyddio adnoddau ychwanegol i ddatblygu uwchgynllun i adfywio cwr newydd dinas.
      • defnyddio swyddog arweiniol cynllunio penodedig ar lefel y Cyd-bwyllgor Corfforedig a all ddatrys problemau ac annog ymgysylltu rhagweithiol (gan gynnwys gyda datblygwyr)
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau dynol
      • nifer y cynllunwyr cymwysedig sy’n gweithio mewn ardal/awdurdodau
      • nifer y diwrnodau ymgynghoriaeth
      • nifer yr ymgynghorwyr â sgiliau arbenigol sy’n cael eu recriwtio’n llwyddiannus
      • nifer yr awdurdodau sy’n achub ar y cyfle i gaffael adnoddau arbenigol
      • nifer y cynllunwyr sy’n dilyn cyrsiau hyfforddiant
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau ffisegol
      • faint o fuddsoddi ym maes creu lleoedd
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau dynol
      • lleihau diffyg staff
      • awdurdodau cynllunio i gaffael cymorth arbenigol, gan ddatgloi meysydd cyflawni allweddol
      • mwy o adnoddau i awdurdodau cynllunio
      • cynnydd yn nifer y cynllunwyr sy’n uwchsgiliio (er enghraifft, mewn uwchgynllunio a chreu lleoedd)
      • mae sgiliau technegol gwell yn cefnogi proses gyflawni a pherfformiad ehangach yn y system yn rhanbarthol
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ffisegol
      • cynnydd yn nifer yr uwchgynlluniau a baratoir
      • amseroedd prosesu cyflymach ar gyfer ceisiadau cynllunio
      • cynnydd yn nifer y ceisiadau cynllunio
      • cyfran uwch o geisiadau llwyddiannus
      • gwell canfyddiad o’r ardal a adfywiwyd
      • mwy o weithgarwch datblygu
      • cynnydd mewn gofod masnachol newydd neu ofod masnachol gwell (sy’n gysylltiedig â’r sector, er enghraifft, gofod labordy, gofod gweithgynhyrchu, gofod cynhyrchu)
      • ansawdd yr amgylchedd adeiledig wedi gwella
  • B - Cronfeydd sbarduo ar gyfer y model cyflawni (Cyfalaf dynol a ffisegol)
    • Prosiectau enghreifftiol
    • Allbynnau a Awgrymir  – Allbynnau dynol
      • nifer y cynllunwyr cymwysedig sy’n gweithio mewn ardal/awdurdodau
      • nifer y diwrnodau ymgynghoriaeth
      • nifer yr ymgynghorwyr â sgiliau arbenigol sy’n cael eu recriwtio’n llwyddiannus
      • nifer yr awdurdodau sy’n achub ar y cyfle i gaffael adnoddau arbenigol
      • nifer y cynllunwyr sy’n dilyn cyrsiau hyfforddiant
    • Allbynnau a Awgrymir – Allbynnau ffisegol
      • faint o fuddsoddi ym maes creu lleoedd
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir
      • canlyniadau dynol
      • llai o ddiffyg staff
      • awdurdodau cynllunio i gaffael cymorth arbenigol, gan ddatgloi meysydd cyflawni allweddol yn ardaloedd Cyd-bwyllgorau Corfforedig
      • mwy o adnoddau i awdurdodau cynllunio
      • cynnydd yn nifer y cynllunwyr sy’n uwchsgiliio (er enghraifft, mewn uwchgynllunio a chreu lleoedd)
      • mae sgiliau technegol gwell yn cefnogi proses gyflawni a pherfformiad ehangach yn y system yn rhanbarthol
    • Canlyniadau Canolraddol a Awgrymir – Canlyniadau ffisegol
      • cynnydd yn nifer yr uwchgynlluniau a baratoir
      • amseroedd prosesu cyflymach ar gyfer ceisiadau cynllunio
      • cynnydd yn nifer y ceisiadau cynllunio
      • cyfran uwch o geisiadau llwyddiannus
      • gwell canfyddiad o’r ardal a adfywiwyd
      • mwy o weithgarwch datblygu
      • cynnydd mewn gofod masnachol newydd neu ofod masnachol gwell (sy’n gysylltiedig â’r sector, er enghraifft, gofod labordy, gofod gweithgynhyrchu, gofod cynhyrchu)
      • ansawdd yr amgylchedd adeiledig wedi gwella

Canlyniadau Hirdymor

  • Rhoi hwb i gynhyrchiant yn yr ardal economaidd swyddogaethol
  • Cynnydd mewn enillion gwirioneddol i weithwyr hyfedr a gweithwyr â lefel isel o sgiliau yn yr ardal economaidd swyddogaethol
  • Cwmnïau yn y clwstwr yn dod yn fwy cystadleuol yn rhyngwladol
  • Technolegau newydd y mae galw amdanynt yn rhyngwladol

Atodiad F: Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r canlynol yn esbonio’ch hawliau ac yn rhoi’r wybodaeth y mae gennych hawl i’w chael o dan ddeddfwriaeth diogelu data’r DU.

Noder bod yr adran hon ond yn cyfeirio at eich data personol (eich enw, eich cyfeiriad ac unrhyw beth y gellid ei ddefnyddio i’ch adnabod yn bersonol, ac nid cynnwys arall yn eich dogfennaeth ar gyfer Parthau Buddsoddi).

Manylion y rheolydd data a manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data

Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a Llywodraeth Cymru yw’r rheolyddion data ar y cyd ar gyfer yr holl ddata personol ynglŷn â Pharthau Buddsoddi sy’n cael eu casglu drwy’r ffurflenni perthnasol a gyflwynir i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, a nhw sy’n gyfrifol am reoli a phrosesu Data Personol.

Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn  dataprotection@communities.gov.uk.

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Pam rydym yn casglu’ch data personol

Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig ac Awdurdodau Rhanbarthol cyfansoddol wedi cael eu dynodi’n awdurdodau rhanbarthol arweiniol ar gyfer y Parthau Buddsoddi. 

Fel rhan o’r broses gyd-ddatblygu drwy’r pyrth ar gyfer Parthau Buddsoddi, byddwn yn casglu’r data canlynol oddi wrth awdurdodau rhanbarthol arweiniol:  

  • enwau a manylion cyswllt staff allweddol sy’n paratoi cynigion porth (data personol)
  • enwau a manylion cyswllt staff allweddol sy’n cymeradwyo cynigion porth (data personol)
  • enwau a manylion cyswllt swyddog arweiniol cyflawni’r Cyd-bwyllgor Corfforedig sy’n rheoli’r broses o gyflwyno rhaglenni’r Parth Buddsoddi (data personol)

Mae’ch data personol yn cael eu casglu fel rhan hanfodol o’r Parthau Buddsoddi, fel y gallwn gysylltu â chi ynglŷn â phroses y pyrth, gofyn am ddogfennaeth ategol os oes angen, prosesu gwybodaeth y gellir gofyn amdani yn y dyfodol ac at ddibenion monitro. Gallwn hefyd ddefnyddio’r data i gysylltu â chi ynglŷn â materion sy’n ymwneud yn benodol â’r rhaglen.

Y sail gyfreithiol dros brosesu’ch data personol

Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn prosesu’r holl ddata yn unol â darpariaethau Deddfwriaeth Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol 2018 y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a’r holl gyfreithiau a rheoliadau cymwys sy’n ymwneud â phrosesu Data Personol a phreifatrwydd, gan gynnwys, lle y bo angen, y canllawiau a’r codau ymarfer a gyhoeddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth ac unrhyw reoliadau diogelu data perthnasol eraill (ynghyd â Deddfwriaeth Diogelu Data (fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd)).

Mae Deddfwriaeth Diogelu Data yn nodi pryd y caniateir i ni brosesu’ch data yn gyfreithlon.

Y sail gyfreithlon sy’n gymwys i brosesu o’r fath yw Erthygl 6 (1)(e) o GDPR y DU; mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd; mae’r data sy’n cael eu prosesu yn eiddo i’r cysylltiadau busnes a brosesir wrth i adran o’r llywodraeth gynnal ei busnes arferol. 

Gyda phwy y byddwn yn rhannu’r data

Fel rhan o’r broses o asesu a monitro’r Parthau Buddsoddi, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn rhannu eich data personol ag adrannau perthnasol o’r llywodraeth neu gyrff hyd braich, sy’n cynnwys:  

  • Trysorlys Ei Fawrhydi (Trysorlys EF)
  • Swyddfa’r Cabinet
  • Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF)
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Yr Adran Drafnidiaeth
  • Yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net
  • Yr Adran dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg
  • Yr Adran Busnes a Masnach
  • Yr Adran Addysg
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra)
  • Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Gallwn hefyd rannu data â chontractwyr at ddibenion asesu, monitro a gwerthuso. Os felly, bydd eu contract yn nodi’r hyn y caniateir iddynt ei wneud gyda’r data.

Mae cytundebau prosesu data rhwng yr Adran a’i phrosesyddion ar waith data er mwyn sicrhau y parheir i brosesu’ch data personol yn hollol unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data.

Am ba hyd y byddwn yn cadw’r data personol neu’r meini prawf a ddefnyddiwyd i gadarnhau’r cyfnod cadw 

Caiff eich data personol eu dal am hyd at 12 mlynedd o adeg cyhoeddi Cyllideb Gwanwyn 2023. Yr amcangyfrif ar hyn o bryd yw 2035. Fel rhan o’r broses fonitro, byddwn yn cysylltu â chi’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gyfredol. 

Eich hawliau, er enghraifft, mynediad, cywiro, dileu

Eich data personol yw’r data rydym yn eu casglu, ac mae gennych gryn reolaeth dros yr hyn sy’n digwydd i’r data hyn. Mae gennych yr hawl:  

  • i wybod ein bod yn defnyddio’ch data personol
  • i weld pa ddata sydd gennych amdanoch
  • i ofyn i ni gywiro’ch data, a gofyn sut rydym yn cadarnhau bod yr wybodaeth a ddelir gennych yn gywir
  • i wrthwynebu’r defnydd o’ch data personol o dan amgylchiadau penodol ac i ofyn i’ch data personol gael eu dileu pan na fydd angen eu prosesu mwyach.
  • i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (gweler isod)

Anfon data dramor

Ni chaiff eich data personol eu hanfon dramor.

Storio, diogelwch a rheoli data

Bydd eich data personol yn cael eu storio ar eu gweinydd diogel yn y DU yn y lle cyntaf. Caiff eich data personol eu trosglwyddo i system TG ddiogel y llywodraeth cyn gynted ag y bo modd a chânt eu storio yno am hyd at 12 mlynedd cyn eu dileu, oni nodwn nad oes angen parhau i’w cadw cyn hynny.  

Pan gaiff data eu rhannu â thrydydd partïon, fel y’i nodwyd yn adran 4 uchod, rydym yn gofyn i drydydd partïon barchu diogelwch eich data a’u trin yn unol â’r gyfraith. Mae’n ofynnol i bob trydydd parti gymryd camau diogelwch priodol i ddiogelu’ch gwybodaeth bersonol yn unol â’n polisïau.

Cwynion a rhagor o wybodaeth

Os ydych yn anfodlon ar y ffordd y mae’r adran yn defnyddio’ch data personol, gallwch wneud cwyn.

Maen gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth annibynnol os credwch nad ydym yn ymdrin â’ch data yn deg nac yn unol â’r gyfraith. Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i gael cyngor annibynnol ar ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data. Rhoddir manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth isod:  

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn defnyddio’ch data personol, dylech gysylltu  â dataprotection@communities.gov.uk a swyddogdiogeludata@llyw.cymru yn y lle cyntaf.

Os ydych yn anfodlon o hyd, neu er mwyn cael cyngor annibynnol ar ddiogelu data, preifatrwydd, a rhannu data, gallwch gysylltu â:  

The Information Commissioner’s Office Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545 745 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth


  1. Diffinnir gwerth am arian yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru: https://www.llyw.cymru/rheoli-arian-cyhoeddus-cymru 

  2. Ar gael yn: https://www.gov.wales/managing-welsh-public-money