Ffurflen

Treth Etifeddiant: stociau a chyfranddaliadau nas rhestrir a daliannau sy’n rhoi rheolaeth

Rhowch fanylion unrhyw stociau neu gyfranddaliadau nas rhestrir roedd yr ymadawedig yn berchen arnynt, neu i roi manylion cyfranddaliadau a restrir os oedd gan yr ymadawedig reolaeth dros y cwmni drwy ddefnyddio ffurflen IHT412 gyda ffurflen IHT400.

Dogfennau

Stociau a chyfranddaliadau nas rhestrir a daliannau sy’n rhoi rheolaeth (IHT412)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEM (yn Saesneg).

Manylion

Defnyddiwch IHT412 gyda ffurflen IHT400 i roi manylion unrhyw stociau neu gyfranddaliadau:

  • a restrir ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (AIM) neu a fasnachir ar OFEX
  • a gedwir mewn cwmni cyfyngedig preifat, mewn Cynllun Ehangu Busnes neu mewn Cynllun Dechrau Busnes
  • a restrir ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig ac roedd gan yr ymadawedig reolaeth dros y cwmni

Cyn i chi ddechrau

Mae’r ffurflen hon yn rhyngweithiol (un yr ydych yn ei llenwi ar y sgrin) ac mae’n rhaid i chi ddefnyddio Adobe Reader i’w llenwi.

Cysylltwch â’r ddesg gymorth Gwasanaethau ar-lein os cewch broblemau wrth agor neu gadw’r ffurflen.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 January 2023 + show all updates
  1. Form IHT412 has been updated with a new version.

  2. First published.