Skip to main content
Ffurflen

Sut i lenwi ffurflen IHT100a

Diweddarwyd 6 Ebrill 2026

Pryd y dylech lenwi’r ffurflen hon 

Dylech ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod i ni am rodd neu drosglwyddiad arall o werth pan fo Treth Etifeddiant yn daladwy ar unwaith. 

Dylech ddefnyddio ffurflen ar wahân ar gyfer pob digwyddiad trethadwy.

Peidiwch â defnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod i ni am unrhyw roddion a roddwyd o fewn y cyfnod o 7 mlynedd cyn i berson farw a oedd yn gymwys fel trosglwyddiadau eithriedig. Fel arfer, rhoddion o un unigolyn i’r llall yw’r rhain. Mae angen i’r cynrychiolydd personol roi gwybod am y rhoddion hyn gan ddefnyddio ffurflen IHT403 yn lle.

Cyn i chi ddechrau

Dylech lenwi pob maes. Os oes gwybodaeth ar goll, efallai na fyddwn yn gallu delio â’ch ffurflen.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen yr holl nodiadau perthnasol cyn dechrau llenwi’r ffurflen.

Gallai rhai mathau o asedion gael eu cynnwys mewn mwy nag un adran o’r ffurflen, megis stociau a chyfranddaliadau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’r rhain yn yr adran gywir. Peidiwch â chynnwys yr un ased mewn mwy nag un adran. 

Nid oes angen i chi anfon copïau o ddogfennau atom (er enghraifft, llythyr gan fanc sy’n dangos y balans mewn cyfrif, neu dystiolaeth o rwymedigaethau) oni bai ein bod yn gofyn yn benodol i chi wneud hynny.

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl ddogfennau rydych wedi’u defnyddio i lenwi’r ffurflen — efallai y byddwn yn gofyn i chi am rai neu bob un ohonynt yn nes ymlaen.

Adran A: Ynglŷn â’r trosglwyddwr 

Mae’n rhaid i chi gynnwys enw a manylion personol y trosglwyddwr.

Dylech wirio’r Rhagarweiniad i ddomisil — Llawlyfr IHTM13000 (yn agor tudalen Saesneg) neu’r rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) os:

  • nad ydych yn siŵr a oedd domisil y trosglwyddwr yn y DU neu a oedd ei ddomisil yn cael ei ystyried ei fod yn y DU
  • digwyddodd y trosglwyddiad cyn 6 Ebrill 2025

Adran B: Manylion y person neu’r busnes sy’n delio â’r digwyddiad hwn

Dylech gynnwys enw a manylion personol y person sy’n delio â’r digwyddiad trethadwy.

Os ydych yn llenwi’r ffurflen heb gymorth cyfreithiwr neu gyfrifydd ac am i CThEF ysgrifennu atoch chi, ond am i rywun arall ddelio â galwadau ffôn, dylech gynnwys awdurdod ysgrifenedig ar wahân pan fyddwch yn anfon y ffurflen atom.

Adran C: Ynglŷn â’r rhodd neu’r trosglwyddiad 

Dylech gynnwys manylion am y rhodd neu’r trosglwyddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • a yw’r trosglwyddwr yn cael unrhyw beth yn gyfnewid am y rhain 
  • a yw’r trosglwyddiad yn ymwneud ag unrhyw gytundebau neu drafodion eraill 

Mae’n rhaid i chi hefyd roi gwybod i ni a yw’r trosglwyddwr, ei briod neu ei bartner sifil yn cadw unrhyw un o’r canlynol:

  • cyfran o’r tir neu’r adeiladau, neu fuddiant ynddynt
  • unrhyw dir wrth ymyl y tir neu’r adeiladau
  • cyfranddaliadau yn y cwmni 

Os cafodd y trosglwyddwr unrhyw beth yn gyfnewid am y trosglwyddiad, caiff gwerth y trosglwyddiad ei ostwng gan y swm hwnnw. Dylech gario unrhyw werth ym mlwch C3 ymlaen i flychau F1 ac F2.

Adran D: Manylion tudalennau’r atodlen 

Efallai y bydd angen i chi lenwi rhagor o adrannau, a elwir yn ‘atodlenni’, os ydych yn rhoi gwybod i CThEF am unrhyw un o’r canlynol.

Mae domisil y trosglwyddwr y tu allan i’r DU 

Dylech lenwi atodlen D31 os nad oedd y trosglwyddwr yn breswylydd tymor hir yn y DU.

Dysgwch ragor am y rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

Os oedd stociau a chyfranddaliadau wedi’u cynnwys 

Dylech lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys unrhyw stociau a chyfranddaliadau.

Os oedd unrhyw ddyledion yn ddyledus i’r trosglwyddwr

Dylech lenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg) os oedd unrhyw arian ar fenthyg gan y trosglwyddwr nad oedd wedi’i ad-dalu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.

Os oedd unrhyw bolisïau yswiriant wedi’u cynnwys 

Dylech lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) os oes unrhyw bolisïau yswiriant wedi’u cynnwys yn y digwyddiad.

Os oedd nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol wedi’u cynnwys 

Dylech lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys unrhyw nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol.

Os oedd tir ac adeiladau wedi’u cynnwys 

Dylech lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys tir, adeiladau, coed neu isdyfiant yn y DU.

Os ydych yn hawlio Rhyddhad Amaethyddol 

Dylech lenwi atodlen D37 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn didynnu rhyddhad ar gyfer eiddo amaethyddol.

Os ydych yn hawlio Rhyddhad Busnes 

Dylech lenwi atodlen D38 os ydych yn didynnu Rhyddhad Busnes. 

Os yw asedion tramor wedi’u cynnwys 

Dylech lenwi atodlen D39 (yn agor tudalen Saesneg) os oes unrhyw asedion y tu allan i’r DU.

Adran E: Asedion yn y DU sy’n agored i dreth fel rhan o’r trosglwyddiad hwn 

Mae’n rhaid i chi lenwi adran E gan roi manylion yr holl asedion a gafodd eu rhoddi neu eu trosglwyddo. 

Mae’n rhaid i chi brisio’r holl asedion fel pe bai pob eitem wedi’u gwerthu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy. Gelwir hyn yn ‘gwerth ar y farchnad agored’.

Talgrynnwch werth yr asedion a’r rhwymedigaethau i lawr i’r £1 agosaf. Dylid dangos treth i’r geiniog agosaf. 

Mae’n rhaid i bob blwch ddangos cyfanswm pob math o ased. Er enghraifft, dylai blwch E2 ddangos cyfanswm yr holl gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu.

Asedion lle gellir talu treth fesul rhandaliad 

Gellir talu asedion sydd wedi’u cynnwys o dan golofn B fesul rhandaliad blynyddol dros 10 mlynedd. 

Dysgwch ragor am asedion y gellir eu talu fesul rhandaliad . 

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu llog ar randaliadau, ond mae rhai asedion yn gymwys i gael rhyddhad rhag llog — Llawlyfr IHT30363 (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r rhandaliadau hyn yn rhydd o log dim ond os yw’r rhandaliad yn cael ei dalu ar neu cyn y dyddiad dyledus.

E1 Tai, adeiladau a thir 

Yma, mae’n rhaid i chi gynnwys yr holl eiddo rhydd-ddaliol, prydlesol, etifeddadwy ac eiddo ansymudol eraill yn y DU sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Peidiwch â chynnwys ffermdai a thir fferm.

Os oes gennych brisiad proffesiynol, atodwch gopi gyda’r ffurflen hon.

Bydd angen i chi lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) gan roi manylion am bob eitem o dir.

E2 Cyfrifon banc, cymdeithas adeiladu a chyfrifon ariannol eraill

Mae’n rhaid i chi gynnwys pob cyfrif a ddelir gan y canlynol: 

  • banc 
  • cymdeithas adeiladu 
  • cymdeithas gydfuddiannol, gyfeillgar neu gydweithredol
  • archfarchnadoedd 
  • cwmni yswiriant 

Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau ar wahân ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân.

E3 Arian parod 

Mae hyn yn cynnwys unrhyw sieciau a ysgrifennwyd i’r trosglwyddai.

E4 Bondiau Premiwm a chynhyrchion Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) 

Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau ar wahân ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân.

Cysylltwch â Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (ar wefan NS&I) os nad ydych yn gwybod y gwerth ar ddyddiad y trosglwyddiad.

E5 Nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol 

Dylech gynnwys yr holl nwyddau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Er enghraifft, tsieni, dillad, gemwaith a cheir. Bydd hefyd angen i chi lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg).

E6 Polisïau aswiriant bywyd, pensiynau a diogelu morgeisi

Rhowch wybod i ni am unrhyw bensiynau a pholisïau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Os oedd y trafodyn yn cynnwys polisi aswiriant bywyd ond nid oedd mewn gwirionedd ymhlith yr asedion a oedd wedi’u cynnwys yn y digwyddiad trethadwy rydych yn rhoi gwybod i ni amdano, bydd angen i ni gael gwybod am y trefniadau.

Mae’n rhaid i chi lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) a chynnwys copi o bob polisi pan fyddwch yn anfon y ffurflen.

E7 Gwarantau Llywodraeth y DU a gwarantau bwrdeisiol

Dylech gynnwys:

  • Stoc y Trysorlys
  • Stoc y Siecr
  • Stoc Drosadwy
  • stociau a benthyciadau cyfunol
  • Stoc Ariannu
  • Bondiau Cynilo
  • Bondiau Buddugoliaeth
  • Benthyciadau Rhyfel
  • stoc y llywodraeth a gedwir ar Gofrestr Banc Lloegr 
  • bondiau a ddyroddwyd gan endidau bwrdeisiol (awdurdodau llywodraeth leol)

Dylech lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg) i roi gwybod i ni amdanynt.

E8 Stociau, cyfranddaliadau a buddsoddiadau a restrir

Dylech gynnwys:

  • pob stoc, cyfranddaliad, dyledeb a gwarant a restrir ar Restr Ddyddiol Swyddogol y Gyfnewidfa Stoc
  • ymddiriedolaethau unedol
  • ymddiriedolaethau buddsoddi
  • cwmnïau buddsoddi pen agored
  • cyfranddaliadau a restrir ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig sy’n rhan o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA)
  • cyfranddaliadau tramor a restrir ar Gyfnewidfa Stoc Llundain

Peidiwch â chynnwys cyfranddaliadau a restrir a oedd yn rhoi rheolaeth dros y cwmni i’r ymadawedig. Dylech gynnwys y rhain ym mlwch E12. 

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg). Copïwch y ffigur o flwch SS1 yn yr atodlen, a’i nodi ym mlwch E8 ar y ffurflen hon.

E9 Difidendau neu log ar stociau, cyfranddaliadau a gwarantau 

Defnyddiwch atodlen D32 i lenwi’r blwch hwn. Dylech gynnwys cyfanswm gwerth y difidendau a’r llog ar asedion ym mlychau E7, E8, E10, E11 ac E12 sy’n ddyledus ar ddyddiad y trosglwyddiad ond nad oeddent wedi’u talu eto. 

E10 Cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd, a chyfranddaliadau anrhestredig, ac eithrio daliannau sy’n rhoi rheolaeth 

Os nad yw cwmni wedi’i restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, unrhyw gyfnewidfa stoc dramor gydnabyddedig neu farchnad amgen, dynodir ei gyfranddaliadau a’i warantau fel rhai anrhestredig.

Dylech nodi cyfanswm gwerth y stociau a chyfranddaliadau canlynol os nad oedd gan y setlwr reolaeth dros y cwmni:

  • stociau a chyfranddaliadau anrhestredig mewn cwmnïau cyfyngedig preifat
  • cyfranddaliadau a fasnachwyd ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (AIM), gan gynnwys y cyfranddaliadau sy’n rhan o ISA 
  • cyfranddaliadau a gedwir mewn Cynlluniau Buddsoddi mewn Mentrau (EIS) neu mewn Cynllun Dechrau Busnes (BSS) 

Mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys y rhain pan fyddwch yn llenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg).

E11 Rhandaliadau ar gyfranddaliadau 

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, byddwch yn gallu talu treth fesul rhandaliad ar unrhyw gyfranddaliadau a gwarantau sy’n gymwys i gael Rhyddhad Busnes. Mae hyn yn wir p’un a ydynt wedi’u rhestru neu beidio.

Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gallu talu treth fesul rhandaliad ar gyfranddaliadau anrhestredig nad ydynt yn gymwys i gael Rhyddhad Busnes, ar yr amod bod o leiaf un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae modd i chi ddangos y bydd talu mewn un swm yn achosi caledi ariannol
  • mae o leiaf 20% o’r dreth sy’n ddyledus ar asedion sy’n gymwys i gael eu talu fesul rhandaliad
  • mae’r cyfranddaliadau’n werth mwy na £20,000 ac yn cyfrif tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol:
    • o leiaf 10% o werth cyfanswm y cyfranddaliadau a ddyroddwyd gan y cwmni
    • o leiaf 10% o werth y cyfranddaliadau arferol a ddelir gan y cwmni

Os oes gennych dreth i’w thalu ar ddaliannau cyfranddaliadau anrhestredig nad ydynt yn rhoi rheolaeth, ac mae’r rhain yn gymwys i’w cael eu talu fesul rhandaliad, nodwch werth y cyfranddaliadau ym mlwch E11. Gallwch ddod o hyd i’r gwerth hwn ym mlychau 3 a 4 yn atodlen D32.

E12 Daliannau cyfranddaliadau anrhestredig, cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd a chyfranddaliadau a restrir, sy’n rhoi rheolaeth 

Os oedd gan y person a wnaeth y trosglwyddiad reolaeth dros y cwmni, dylech gynnwys cyfranddaliadau sydd wedi’u masnachu ar farchnad nad yw’n bodloni diffiniad CThEF o fod yn ‘rhestredig’. Mae hyn yn cynnwys cyfranddaliadau sy’n cael eu cadw mewn Cyfrif Cynilo Unigol (ISA).

Gallwch ddod o hyd i restr o’r marchnadoedd cyfnewidfa stoc cydnabyddedig (yn agor tudalen Saesneg) sy’n cael eu diffinio fel rhai ‘rhestredig’ neu ‘heb eu rhestru’ at ddibenion CThEF.

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys y stociau a chyfranddaliadau.

E13 Ffermydd, ffermdai a thir fferm 

Dylech gynnwys cyfanswm gwerth yr asedion yr ydych yn didynnu Rhyddhad Amaethyddol oddi arnynt. 

Mae’n rhaid i chi hefyd roi manylion am y canlynol:

E14 Busnesau gan gynnwys busnesau ffermio, asedion busnes a choed 

Dylech gynnwys gwerth net buddiant mewn busnes ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.

Os oedd y setlwr wedi cymryd rhan mewn mwy nag un busnes, efallai y bydd angen i chi lenwi atodlen D38 ar gyfer pob busnes neu bartneriaeth. Nodwch gyfanswm gwerth yr holl fusnesau ym mlwch E14.

E15 Tir, adeiladau a hawliau eraill dros dir 

Dylech gynnwys gwerth unrhyw dir, adeiladau neu hawliau eraill dros dir nad oedd wedi’u cynnwys yn unrhyw un o’r blychau ar y ffurflen hon. Gall hyn gynnwys: 

  • eiddo rhent 
  • garejys cloi 
  • tir segur 
  • eiddo diffaith 
  • chwareli 
  • meysydd awyr 
  • hawliau pysgota neu hawliau eraill sydd ynghlwm wrth dir. 

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) gan roi manylion y tir neu’r eiddo.

E16 Dyledion sy’n ddyledus i’r ymddiriedolaeth 

Dylech nodi’r ffigur o flwch 3 pan wrth lenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg).

E17 Ad-daliad Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf 

Dylech nodi cyfanswm unrhyw dreth a ad-dalwyd i’r ymddiriedolaeth. Os nad ydych yn gwybod yr union swm, dylech nodi amcangyfrif rhesymol. 

E18 Asedion eraill 

Dylech nodi cyfanswm unrhyw asedion eraill sydd heb gael eu cynnwys eisoes.

Mae’n rhaid i chi gynnwys manylion yr asedion hyn yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’.

Adran F: Rhwymedigaethau, esemptiadau a rhyddhadau 

Dim ond dyledion a oedd yn ddyledus gan y trosglwyddwr yn erbyn ei asedion ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy y dylech eu cynnwys.

Peidiwch â chynnwys y canlynol:

  • ffioedd am wasanaethau proffesiynol a gyflawnwyd ar ôl y dyddiad hwnnw 
  • unrhyw ffioedd a godwyd gan gyfreithiwr, asiant eiddo neu wasanaeth prisio wrth ddelio â’r digwyddiad trethadwy

Rhwymedigaethau

Ar gyfer blwch F1, dylech restru’r holl ddyledion sy’n ddyledus gan y trosglwyddwr y gall gael eu didynnu o’r asedion sydd wedi’u cynnwys yn adran E, colofn A. 

Dylech lenwi enw’r person neu’r sefydliad y mae’r arian yn ddyledus iddo a nodi’n gryno pam mae’r arian yn ddyledus. Os byddwch yn cynnwys didyniadau am ffioedd cyfreithwyr neu gyfrifwyr, rhowch y dyddiadau ar gyfer y cyfnod pan wnaed y gwaith.

Ar gyfer blwch F2, dim ond rhyddhadau ac eiddo sydd wedi’u heithrio yn erbyn yr asedion a restrwyd yn adran E, colofn B, y dylech eu cynnwys.

Os cafodd y trosglwyddwr unrhyw beth yn gyfnewid 

Os cafodd y trosglwyddwr unrhyw beth yn gyfnewid am y trosglwyddiad, mae angen i chi ddosrannu’r gwerth ym mlwch C3 a chynnwys y ffigurau ym mlychau F1 ac F2.

Dylech ddefnyddio’r hafaliadau canlynol wrth gyfrifo’r gwerthoedd.

Blwch F1 = (E19 ÷ (E19 + E20) × C3) 

Blwch F2 = (E20 ÷ (E19 + E20) × C3)

Esemptiadau a rhyddhadau

Mae sawl rhyddhad sy’n gostwng gwerth y trosglwyddiad y mae angen i chi dalu treth arno.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y canlynol:

Os yw’r rhyddhad trethiant dwbl yn cael ei hawlio oherwydd bod domisil y person y tu allan i’r DU, llenwch atodlen D31.

Er mwyn didynnu rhyddhadau yn erbyn yr asedion a restrir ym mlychau E1 i E18, dylech ysgrifennu teitl y rhyddhad a’r swm rydych am ei ddidynnu yn y blwch a ddarperir.

Ar gyfer blwch F3, dim ond rhyddhadau yn erbyn yr asedion a restrir yn adran E, colofn A, y dylech eu cynnwys. Adiwch y rhyddhadau at ei gilydd ac ysgrifennu’r canlyniad yn y blwch ar gyfer y cyfanswm.

Ar gyfer blwch F4, dim ond rhyddhadau ac eiddo sydd wedi’u heithrio yn erbyn yr asedion a restrir yn adran E, colofn B, y dylech eu cynnwys.

Rhyddhad ar eiddo amaethyddol ac eiddo busnes — o 6 Ebrill 2026 ymlaen

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae rhyddhad o 100% ar werth cyfunol eiddo amaethyddol ac eiddo busnes cymhwysol yn destun lwfansau rhyddhad newydd. Mae’r rhain yn capio gwerth yr eiddo amaethyddol neu eiddo busnes cymhwysol a all gael rhyddhad o 100%.

Mae gwerth unrhyw eiddo amaethyddol neu eiddo busnes cymhwysol sydd uwchben y lwfans rhyddhad sydd ar gael yn cael rhyddhad o 50%. Mae’r ffordd y mae lwfans rhyddhad yn gweithio yn dibynnu ar y math o rodd neu ymddiriedolaeth sydd dan sylw, i gael rhagor o wybodaeth darllenwch Lawlyfr Treth Etifeddiant CThEF— IHTM25500.

I gyfrifo faint o ryddhad y gallwch ei hawlio, darllenwch y  nodiadau arweiniol ar gyfer D37 (Rhyddhad Amaethyddol) (yn agor tudalen Saesneg)D38 (Rhyddhad Busnes) ynghyd ag adran ‘Gwirio faint o ryddhad y gallwch ei hawlio’ yn Llawlyfr IHTM25500.

Os nad yw marchnad yn cael ei chyfrif fel un ‘rhestredig’ at ddibenion CThEF (megis AIM), bydd y cyfranddaliadau a ddelir mewn cwmnïau sydd wedi’u rhestru ar y marchnadoedd hyn dim ond yn gymwys i gael rhyddhad ar gyfradd o 50%.

Os ydych yn hawlio’r eithriad blynyddol

Gallwch roi rhoddion o werth £3,000 bob blwyddyn dreth heb dalu Treth Etifeddiant. Dyma’ch esemptiad blynyddol

Dylech nodi’r swm rydych yn ei hawlio ym mlychau F5 ac F6.

Adran G: Cyfrifo’r dreth 

Trosglwyddiadau cynharach a wnaed gan y trosglwyddwr 

Mae angen i ni wybod am unrhyw roddion cynharach gan y trosglwyddwr.

Dylech roi gwybod i ni am unrhyw rodd trethadwy nad oedd yn gymwys ar gyfer esemptiadau, a chafodd ei rhoi: 

  • cyn 18 Mawrth 1986 
  • ar neu ar ôl 18 Mawrth 1986 ac wedi’i rhoi i gwmni neu ymddiriedolwr ymddiriedolaeth amodol 

Peidiwch â chynnwys rhoddion: 

  • o un person i’r llall
  • i ymddiriedolaeth cronni a chynhaliaeth
  • i ymddiriedolaeth i bobl anabl

Os oes angen i chi gyfrifo’r llog sy’n ddyledus 

Os cafodd y trosglwyddiad dan sylw ei wneud ar ôl 5 Ebrill a chyn 1 Hydref mewn unrhyw flwyddyn, mae’n rhaid i’r dreth gael ei thalu cyn pen 30 Ebrill y flwyddyn ganlynol, fan bellaf. Os cafodd y trosglwyddiad ei wneud ar ôl 30 Medi a chyn 6 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, mae’n rhaid i’r dreth gael ei thalu cyn pen chwe mis ar ôl diwedd y mis pan gafodd y trosglwyddiad ei wneud.

Os ydych yn talu ar ôl y dyddiad dyledus, ychwanegir llog at unrhyw dreth heb ei thalu ac fe’i codir ar gyfradd ddyddiol.

Defnyddiwch y gyfrifiannell ar gyfer cyfraddau llog (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo unrhyw log sy’n ddyledus a’i nodi yn y tabl crynodeb ym mlwch G21.

Adran H: Awdurdod ar gyfer ad-dalu Treth Etifeddiant 

Os bydd angen i ni ad-dalu Treth Etifeddiant, byddwn yn ei had-dalu’n uniongyrchol drwy Daliadau Cyflymach i’r cyfrif banc yn enwau pawb a lofnododd y ffurflen.

Os nad oes gennych gyfrif banc yn yr enwau hynny, gallai fod yn anodd i chi gael yr ad-daliad.

Er mwyn osgoi unrhyw anawsterau, rhowch fanylion y cyfrif yr ydych eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu iddo.

Adran I: Datgelu cynlluniau arbed treth 

Dylech gynnwys y ddau beth canlynol:

  • cyfeirnod yr hyrwyddwr neu’r cynllun, os ydych wedi cael un
  • y flwyddyn dreth neu’r dyddiad pan ddisgwylir y fantais dreth 

Dysgwch am y rheolau ynghylch datgelu cynlluniau arbed treth (yn agor tudalen Saesneg).

Datganiad

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod yr holl bobl atebol sydd wedi llofnodi’r ffurflen hon (er enghraifft y trosglwyddwr, y trosglwyddai neu’r ymddiriedolwr) wedi darllen y datganiad. Mae’n rhaid iddynt gytuno bod yr wybodaeth sydd wedi’i nodi ar y ffurflen, yn ogystal ag unrhyw atodlenni neu ddogfennau ategol eraill, yn gywir.

Bydd CThEF yn derbyn ffurflenni IHT100a heb lofnod gwlyb. Mae’n rhaid nodi manylion personol yr holl bobl atebol ar y dudalen datganiad. Mae’n rhaid cynnwys y datganiad hwn yn yr wybodaeth ychwanegol ar dudalen 12: ‘Rydw i (eich enw) yn cadarnhau bod yr holl bobl atebol y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y ffurflen IHT100 hon wedi gweld yr IHT100, ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 10 yr IHT100’.

Os ydych yn asiant 

Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad hwn yn yr wybodaeth ychwanegol ar dudalen 12:

‘Fel yr asiant sy’n gweithredu ar eu rhan, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y ffurflen IHT100 hon, wedi gweld yr IHT100 ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 10 yr IHT100.’

Anfon eich ffurflen wedi’i llenwi atom

Dylech anfon y ffurflen i’r cyfeiriad a ddangosir ar waelod y ffurflen.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y canlynol:

  • copïau o unrhyw ddogfennau rydym wedi gofyn amdanynt
  • unrhyw atodlenni wedi’u llenwi (darllenwch adran D)

Dysgwch am yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi anfon eich ffurflen wedi’i llenwi atom (yn agor tudalen Saesneg).

Cael help

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen.