Canllawiau

Mathau eraill o gyflogeion y gallwch hawlio amdanynt

Diweddarwyd 22 April 2021

This canllawiau was withdrawn on

The Coronavirus Job Retention Scheme ended on 30 September 2021.

You can:

1. Deiliaid swydd

Gall deiliaid swydd gael eu rhoi ar ffyrlo a chael cymhorthdal drwy’r cynllun hwn. Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd gytuno ar y ffyrlo, ynghyd ag unrhyw daliad parhaus yn ystod y ffyrlo, gyda’r parti sy’n gweithredu TWE ar yr incwm y mae’n ei gael am ddal ei swydd. Os yw deiliad y swydd yn gyfarwyddwr cwmni neu’n aelod o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC), dylid mabwysiadu trefniadau’r ffyrlo yn ffurfiol fel penderfyniad y cwmni neu’r PAC.

2. Cyfarwyddwyr cwmni

Fel deiliaid swydd, mae cyfarwyddwyr cwmni sydd ar gyflog yn gymwys i gael eu rhoi ar ffyrlo ac felly ar gyfer cymhorthdal drwy’r cynllun hwn. Mae ar gyfarwyddwyr cwmni ddyletswyddau i’w cwmni, fel y nodir yn Neddf Cwmnïau 2006. Os yw cwmni (gan weithredu drwy ei fwrdd cyfarwyddwyr) yn ystyried ei fod yn cydymffurfio â dyletswyddau statudol un neu ragor o’i gyfarwyddwyr unigol sydd ar gyflog, gall y bwrdd benderfynu y dylid rhoi cyfarwyddwyr o’r fath ar ffyrlo. Os bydd y bwrdd yn penderfynu rhoi un neu ragor o gyfarwyddwyr unigol ar ffyrlo, dylid mabwysiadu hyn yn ffurfiol fel penderfyniad y cwmni, dylid ei nodi yng nghofnodion y cwmni a dylid rhoi gwybod i’r cyfarwyddw(y)r perthnasol yn ysgrifenedig.

Os bydd angen i gyfarwyddwyr ar ffyrlo ymgymryd â dyletswyddau penodol er mwyn bodloni’r ymrwymiadau statudol sy’n ddyledus i’w cwmni yn ystod oriau y maent wedi’u cofnodi fel bod ar ffyrlo, gallant wneud hynny, cyhyd â’u bod yn gwneud dim mwy na’r hyn y gellid, yn rhesymol, ei ystyried yn angenrheidiol at y diben hwnnw – hynny yw, ni ddylent wneud y math o waith y byddent yn ei wneud o dan amgylchiadau arferol i greu refeniw masnachol nac i ddarparu gwasanaethau i’w cwmni neu ar ran eu cwmni.

Mae hyn yn berthnasol hefyd i bob unigolyn ar gyflog sy’n gyfarwyddwr ei gwmni gwasanaeth personol (PSC) ei hun.

3. Cyfarwyddwyr cwmni sydd â chyfnod cyflog blynyddol

Gallwch hawlio drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws ar gyfer cyflogeion sy’n cael eu talu bob blwyddyn, cyn belled â’u bod yn bodloni’r amodau perthnasol.

Gall cyflogwr wneud ei hawliad wrth iddo redeg ei gyflogres, ar ôl iddo redeg ei gyflogres, neu gall wneud hawliad ymlaen llaw os yw’r gyflogres ar fin cael ei rhedeg.

Gallwch ond hawlio ymlaen llaw os yw’r gyflogres ar fin cael ei rhedeg, ac mae’n rhaid cyflwyno hawliadau erbyn y dyddiad cau perthnasol, felly mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu unrhyw gyflogeion sy’n cael eu talu bob blwyddyn yn gynt na’r arfer am unrhyw amser y maent ar ffyrlo.

Mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud cyflwyniad RTI rhwng 20 Mawrth 2020 a 30 Hydref 2020, sy’n rhoi gwybod i CThEM eich bod wedi talu enillion i’r cyflogai hwnnw.

Mae’r gofyniad i dalu enillion rhwng 20 Mawrth 2020 a 30 Hydref 2020 yn berthnasol i unrhyw gyflogai yr hawlir amdano o dan y cynllun, waeth pa mor aml y caiff ei dalu (e.e. fesul wythnos, fesul pythefnos neu fesul mis). Bydd hyn yn berthnasol i’r sawl sydd ar gyfnod cyflog blynyddol os oedd y taliad olaf y rhoddwyd gwybod amdano ar gyflwyniad RTI cyn 20 Mawrth 2020, ac os na roddwyd gwybod am unrhyw daliadau pellach cyn 30 Hydref 2020.

4. Aelodau ar gyflog o Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)

Mae aelodau o Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig sydd wedi’u dynodi’n gyflogeion at ddibenion treth (‘aelodau ar gyflog’) o dan Ddeddf Treth Incwm (Masnachu ac Incwm Arall) (ITTOIA) 2005 yn gymwys i gael eu rhoi ar ffyrlo ac felly ar gyfer cymhorthdal drwy’r cynllun hwn.

Amlinellir hawliau a dyletswyddau aelod o PAC mewn cytundeb PAC ac, yn achos diffyg cytundeb, mae yna ddarpariaethau diofyn yn Neddf PAC 2000, ar sail cyfraith cwmnïau a phartneriaethau. Gall cytundeb o’r fath gynnwys cytundeb ar wahân rhwng y PAC ac aelod unigol sy’n amlinellu’r telerau sy’n berthnasol i berthynas yr aelod hwnnw â’r PAC.

Er mwyn rhoi aelod ar ffyrlo, efallai y bydd angen amrywio telerau cytundeb y PAC (neu unrhyw gytundeb o’r fath rhwng y PAC a’r aelod) drwy benderfyniad ffurfiol gan y PAC, er enghraifft er mwyn adlewyrchu’r ffaith na fydd yr aelod yn ymgymryd â gwaith yn y PAC drwy gydol y ffyrlo, a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar dâl yr aelod gan y PAC. O ran aelod o PAC sy’n cael ei drin fel pe bai wedi’i gyflogi gan y PAC (yn unol ag adran 863A o ITTOIA 2005), y cyflog cyfeirio ar gyfer y cynllun hwn yw dyraniad elw’r aelod o’r PAC, ac eithrio unrhyw symiau sy’n dibynnu ar berfformiad yr aelod o’r PAC neu berfformiad cyffredinol y PAC.

5. Gweithwyr asiantaeth (gan gynnwys y sawl a gyflogir gan gwmni ambarél)

Os yw gweithwyr asiantaeth yn cael eu talu drwy TWE, gan gynnwys y sawl a gyflogir gan gwmni ambarél, maent yn gymwys i gael eu rhoi ar ffyrlo ac felly ar gyfer cymhorthdal drwy’r cynllun hwn.

Dylai’r asiantaeth, fel y cyflogwr tybiedig, a’r gweithiwr gytuno ar y ffyrlo, er y byddem yn eich cynghori i drafod yr angen i roi gweithwyr ar ffyrlo gydag unrhyw gleientiaid terfynol perthnasol hefyd. Fel sy’n wir yn achos cyflogeion, ni ddylai gweithwyr asiantaeth ymgymryd ag unrhyw waith ar gyfer, drwy, nac ar ran yr asiantaeth sydd wedi’u rhoi ar ffyrlo yn ystod yr oriau yr ydych yn eu cofnodi fel bod ar ffyrlo, gan gynnwys ymgymryd â gwaith o’r fath drwy neu ar ran yr asiantaeth ar gyfer cleientiaid yr asiantaeth.

Os yw asiantaeth yn cyflenwi cleientiaid â gweithwyr sydd wedi’u cyflogi gan gwmni ambarél sy’n gweithredu TWE, mater i’r cwmni ambarél a’r gweithiwr fydd cytuno a ddylid rhoi’r gweithiwr ar ffyrlo ai peidio.

6. Gweithwyr Cymal (b)

Os yw gweithwyr Cymal (b) yn cael eu talu drwy TWE, gallant gael eu rhoi ar ffyrlo a chael cymhorthdal drwy’r cynllun hwn.

Efallai y bydd y sawl sy’n talu treth ar eu helw masnachu drwy Hunanasesiad Treth Incwm yn gymwys, yn lle hynny, ar gyfer y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth (SEISS), a gyhoeddwyd gan y Canghellor ar 26 Mawrth 2020.

Darllenwch ragor o wybodaeth am y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth, gan gynnwys y meini prawf cymhwystra a sut i hawlio.

7. Gweithwyr amharhaol yn y sector cyhoeddus

Mae Swyddfa’r Cabinet wedi cyhoeddi arweiniad ar sut y dylid trin taliadau i gyflenwyr gweithwyr amharhaol y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt, os mai Adran o’r Llywodraeth Ganolog, Asiantaeth Weithredol Adran o’r Llywodraeth Ganolog, neu Gorff Cyhoeddus Anadrannol yw’r parti sy’n derbyn gwasanaethau’r gweithiwr amharhaol.

Darllenwch ragor o wybodaeth am weithwyr amharhaol y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt. Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol i weithwyr asiantaeth a delir drwy TWE, yn ogystal â’r sawl a delir drwy gwmnïau ambarél ar TWE a gweithwyr oddi ar y gyflogres sy’n darparu eu gwasanaethau drwy Gwmni Gwasanaeth Personol (PSC).

8. Contractwyr o dan gwmpas y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) ac sydd â swyddi yn y sector cyhoeddus, neu sydd mewn sefydliad mawr neu ganolig

Gall contractwyr sydd â swyddi yn y sector cyhoeddus, neu sydd mewn sefydliad mawr neu ganolig, sy’n cael eu hystyried yn gyflogeion o dan y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres, fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn.

Bydd cyrff sector cyhoeddus yn dilyn arweiniad Gwasanaethau Masnachol y Goron yn y mwyafrif helaeth o achosion. Mewn nifer fach o achosion – er enghraifft, os nad yw sefydliad yn cael ei ariannu gan y llywodraeth yn bennaf ac os nad oes modd adleoli staff y sefydliad i helpu gyda’r ymateb i COVID-19 – gallai fod yn briodol hawlio o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Os yw sefydliad cleient yn dymuno rhoi contractwr ar ffyrlo o dan gwmpas y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres, mae’n rhaid iddo gadarnhau hyn gyda chwmni gwasanaeth personol y contractwr a’r talwr ffioedd, fel y nodir yn y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (fel arfer yr asiantaeth sy’n talu cwmni gwasanaeth personol y contractwr). Dylai’r partïon hyn gytuno’n ffurfiol na fydd y contractwr yn gwneud unrhyw waith i’r sefydliad cleient yn ystod yr oriau y mae ar ffyrlo.

Byddai’r talwr ffioedd yn gallu gwneud cais am y taliad ffyrlo, sef 80% o werth misol y contract, hyd at uchafswm o £2,500, yn ogystal â chyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr ar y cymhorthdal hwnnw. Wedyn, byddai’r talwr ffioedd yn talu o leiaf swm y grant cyflog a geir i’r cwmni gwasanaeth personol, ac yn rhoi gwybod am y taliad drwy TWE gan ddefnyddio manylion y contractwr, a chan wneud y didyniadau treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol arferol ar gyfer contractau o dan gwmpas y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres. Yna, byddai gofyn i’r cwmni gwasanaeth personol roi gwybod drwy TWE am y swm y mae’n ei dalu i’r contractwr fel incwm o gyflogaeth tybiedig, gan ddefnyddio blwch 58A ar y datganiad Gwybodaeth Amser Real TWE.

Os bydd contractwr yn parhau i gael taliadau gan gleient yn y sector cyhoeddus (gan gynnwys drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, neu drwy unrhyw gynllun arall), dylid eithrio incwm gan y cleient hwn wrth gyfrifo’r tâl cyfeirio at ddibenion y cynllun os bydd y contractwr hefyd yn penderfynu ei roi ei hun ar ffyrlo fel cyflogai neu gyfarwyddwr ei gwmni ei hun.