Guidance

Welsh: Customer fact sheet: incapacity benefits reassessment

Updated 27 February 2020

Gwybodaeth bwysig

Mae’r pecyn gwybodaeth hwn yn ganllaw yn unigac nid yw’n cwmpasu pob amgylchiad. Rydym wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod y wybodaeth yn y pecyn gwybodaeth hwn yn gywir o fis Chwefror 2011. Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o’r wybodaeth wedi’i gorsymleiddio, neu’n dod yn llai cywir dros amser, er enghraifft oherwydd newidiadau i’r gyfraith.

Ailasesu cwsmeriaid budd-dal analluogrwydd

Rhwng mis Hydref 2010 a Gwanwyn 2014 bydd cwsmeriaid sy’n cael Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol a Chymhorthdal Incwm a delir ar sail salwch neu anabledd yn cael eu hasesu ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Ni fydd hyn yn effeithio ar bobl sy’n cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth erbyn y 6ed Ebrill 2014. Ni fydd yn effeithio ar bobl sydd eisoes yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os yw ailasesu budd-daliadau analluogrwydd yn effeithio arnoch

Byddwn yn ysgrifennu atoch pan ddisgwylir i’ch budd-dal gael ei ailasesu i’ch hysbysu am y newidiadau.

Byddwn hefyd yn eich ffonio yn fuan ar ôl hyn i weld a ydych wedi cael y llythyr. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau ychwanegol ac i gael gwybod os oes angen unrhyw help ychwanegol arnoch.

Nid oes angen i chi gysylltu â ni cyn i ni ysgrifennu atoch. Rydym yn bwriadu ailasesu pob cais budd-daliadau analluogrwydd erbyn 2014. Mae hyn yn golygu efallai y bydd peth amser cyn i ni gysylltu â chi am y newid hwn. Byddwch yn parhau i gael eich budd-dal presennol cyhyd â’ch bod yn bodloni’r amodau hawlio, tan i ni gwblhau’r broses o ailasesu eich budd-dal.

Holiadur gallu cyfyngedig i weithio

Ar ôl i chi gael y llythyr cyntaf byddwn wedyn yn anfon holiadur gallu cyfyngedig i weithio atoch (ESA50W) gan Gofal Iechyd Atos (ein contractwr gwasanaethau meddygol) i’w chwblhau a’i dychwelyd atom. Mae’r holiadur hwn yn gofyn am sut y mae eich cyflwr iechyd hirdymor neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i gyflawni tasgau bob dydd. Rhaid i chi gwblhau’r holiadur hwn gyda chymaint o fanylion â phosib a’i dychwelyd atom erbyn y dyddiad a roddir, neu efallai y bydd yn effeithio ar eich budd-dal.

Mae’r llythyr eglurhaol sydd ynghlwm â’r holiadur hefyd yn dweud wrthych ble i anfon unrhyw wybodaeth ychwanegol yr hoffech i ni eu hystyried, megis tystiolaeth gan weithiwr cymorth, meddyg, neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol eraill.

Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy yn edrych ar y wybodaeth a ddarperir yn yr holiadur.

Os ydynt yn teimlo bod angen mwy o wybodaeth i wneud penderfyniad am eich cais, bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn argymell eich bod yn mynychu asesiad wyneb yn wyneb. Bydd Gofal Iechyd Atos yn cysylltu â chi i drefnu asesiad wyneb yn wyneb Gallwch fynd â ffrind, perthynas neu gynrychiolydd i’r asesiad hwn os ydych yn dymuno.

Efallai y bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn am wybodaeth, megis adroddiad meddygol gan eich meddyg, y byddant hefyd yn ei ystyried.

Yr Asesiad Gallu i Weithio – asesiad wyneb yn wyneb

Yr Asesiad Gallu i Weithio yw’r prif asesiad ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwch ei wneud yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn na allwch ei wneud.

Yn ystod yr asesiad wyneb yn wyneb, bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn asesu pa mor dda y gallwch wneud pethau fel cerdded, eistedd a sefyll, defnyddio eich dwylo, gweld a chlywed. Os oes gennych gyflwr iechyd meddwl, bydd yn asesu sut y mae’n effeithio ar bethau fel eich hwyliau, eich ymddygiad, y ffordd rydych yn ymwneud â’r byd o’ch cwmpas, a sut rydych yn ymdopi â phethau o ddydd i ddydd.

Os gofynnir i chi fynychu mae’n rhaid i chi fynd i’r asesiad a chymryd rhan yn llawn, neu efallai y bydd yn effeithio ar eich budd-dal.

Ar ôl yr Asesiad Gallu i Weithio – asesiad wyneb yn wyneb

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a gynhaliodd eich Asesiad Gallu i Weithio yn cwblhau adroddiad a’i anfon atom. Gan ddefnyddio’r wybodaeth o’r holiadur, yr asesiad wyneb yn wyneb ac unrhyw dystiolaeth arall a ddarperir, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn penderfynu a oes gennych hawl I gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Allowance. Efallai y byddwn yn eich ffonio os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom i wneud penderfyniad ynghylch p’un a dylent ddyfarnu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i chi.

Byddwch yn parhau i gael eich budd-dal presennol cyhyd â’ch bod yn bodloni’r amodau hawlio, hyd nes y byddwn wedi cwblhau’r ailasesiad o’ch budd-dal.

Pan wneir penderfyniad

Os ydych yn gymwys am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, byddwn yn eich ffonio i roi gwybod i chi ac yn esbonio’r hyn sydd angen i chi ei wneud nesaf. Bydd eich budd-dal yn cael ei drosglwyddo yn awtomatig ac ni fydd toriad yn y taliadau a gewch. Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ac yn cael mwy o fudd-daliadau analluogrwydd presennol nag y byddech ar gyfradd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cewch daliad atodol. Os cewch lai ar fudd-daliadau analluogrwydd nag y byddech yn ei gael ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, bydd eich budd-dal yn codi i gyfradd.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Mae dau grŵp ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gyda gwahanol lwfansau ac amodau:

  • Grŵp Gweithgaredd sy’n gysylltiedig â Gwaith
  • Grŵp Cymorth

Byddwn yn rhoi gwybod i chi ar yr amser hwnnw ym mha grŵp rydych wedi cael eich rhoi a chadarnhau hyn yn ysgrifenedig ar ôl ein galwad i chi.

Os byddwch yn cael ei roi yn y Grŵp Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith

Os cewch eich rhoi yn y Grŵp Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn cyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith gyda’ch ymgynghorydd personol. Byddwch yn cael cymorth i’ch helpu i baratoi ar gyfer gwaith addas. Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn derbyn cydran Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith yn ogystal â’ch cyfradd sylfaenol o fudd-dal.

Os byddwch yn gwrthod mynd i Gyfweliadau sy’n Canolbwyntio ar Waith, neu’n gwrthod cymryd rhan ynddynt yn llawn, gall effeithio ar eich hawl i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os cewch eich rhoi yn y Grŵp Cymorth

Os cewch eich rhoi yn y Grŵp Cymorth oherwydd bod gennych anabledd difrifol neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio, ni fydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith i gael eich budd-dal, ond efallai y byddwch yn dewis cael cefnogaeth sy’n gysylltiedig â gwaith. Byddwch yn cael yr elfen gymorth yn ogystal â’ch cyfradd sylfaenol o fudd-dal.

Os nad ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os nad ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, byddwn yn eich ffonio i roi gwybod i chi ac i drafod eich opsiynau. Efallai fod gennych hawl i gael Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm am resymau eraill neu Gredyd Pensiwn. Byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau ein penderfyniad. Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith, byddwch yn cael y dewis i wneud cais pan fyddwn yn dweud wrthych fod eich hawl am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wedi cael ei gwahardd.

Mae rhagor o wybodaeth am Lwfans Ceisio Gwaith a’r budd-daliadau eraill os ydych ar incwm isel.

Os ydych yn anfodlon gyda’n penderfyniad

Pan fyddwn yn eich ffonio neu’n ysgrifennu atoch i ddweud wrthych am ein penderfyniad, byddwn hefyd yn dweud wrthych beth i’w wneud os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir.

Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir, bydd angen i chi gysylltu â ni o fewn mis calendr i ddyddiad cyhoeddi’r llythyr penderfyniad. Os byddwch yn cysylltu â ni yn hwyrach na hyn efallai na fyddwn yn gallu eich helpu.

Ceir rhagor o wybodaeth am apeliadau.