Mewnforio cnau
Cyhoeddwyd 25 Mehefin 2026
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Gwybodaeth gyffredinol
Mae’n rhaid i gnau a gaiff eu mewnforio o drydydd gwledydd fodloni’r un safonau hylendid a bod yn destun i’r un gweithdrefnau â bwyd a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr. Fel arfer nid oes angen tystysgrif iechyd arnoch i fewnforio cnau, oni bai eu bod yn destun Gweithdrefnau Rheoli Argyfwng – gweler y cyfyngiadau mewnforio isod.
Labelu
Mae gwybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar gael ar wefan GOV.UK.
I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.
Gallwch chi ddod o hyd i’r manylion cyswllt ar gyfer yr adrannau hyn ar-lein.
Cynhyrchion organig
Os ydych chi’n mewnforio cynhyrchion organig (cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu, cynhyrchion amaethyddol wedi’u prosesu i’w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid, deunydd ysgogi llystyfiant a hadau i’w tyfu), o drydydd gwledydd, cysylltwch â’r adran Mewnforion Organig trwy wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).
I gael gwybodaeth am reoleiddio cynhyrchion organig a safonau organig (gan gynnwys labelu) o fewn Prydain Fawr, cysylltwch â’r Tîm Strategaeth Organig hefyd trwy wefan DEFRA.
Deunydd pecynnu
Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir ar gyfer pecynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan gyfraith y Deyrnas Unedig (DU) a ddargedwir (‘retained UK law’). Mae’r ddeddfwriaeth yn arbennig o drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwyd.
I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â’r Tîm Deunyddiau a ddaw i Gysylltiad â Bwyd drwy ein ffurflen ar-lein.
Hylendid bwyd
Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol ar hylendid bwyd, cysylltwch â’r Tîm Polisi Hylendid Bwyd.
Halogion
Mae nodyn cyfarwyddyd ar Reoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013, sy’n darparu ar gyfer deddfu a gorfodi cyfraith y DU a ddargedwir sy’n gosod terfynau rheoleiddiol ar gyfer halogion mewn bwyd (nitrad, mycotocsinau, metelau, deuocsinau 3-MCPD a hydrocarbonau aromatig polysyclig neu PAHs) ar gael ar ein gwefan.
Cyfyngiadau mewnforio
Mae rhai cyfyngiadau/gofynion mewnforio eraill a all fod yn berthnasol wrth fewnforio cnau, ac mae angen i fewnforwyr fod yn ymwybodol ohonynt. Maent fel a ganlyn:
Cynhyrchion ‘risg uwch’
Ers 25 Ionawr 2010, dim ond drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol sydd wedi’u cymeradwyo fel mannau rheoli ar y ffin y gellir mewnforio bwydydd a bwydydd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid a gaiff eu hystyried i beri ‘risg uwch’ i Brydain Fawr. Bydd y rhain yn destun rheolaethau swyddogol. Mae cynnyrch ‘risg uwch’ yn gynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid y mae’n hysbys ei fod yn peryglu iechyd y cyhoedd, neu fod hynny’n dod i’r amlwg.
Afflatocsinau
Mae mewnforio rhai bwydydd o drydydd gwledydd penodol, fel mewnforio pysgnau (‘peanuts’) o Brasil, Tsieina, yr Aifft, Ghana ac India, cnau cyll (‘hazelnuts’) a chnau pistasio o Dwrci, cnau pistasio o Iran, a chnau Brasil o Frasil yn destun amodau arbennig oherwydd y perygl eu bod wedi’u halogi ag afflatocsinau.
Mae hyn yn golygu mai drwy borthladdoedd neu feysydd awyr penodol yn unig sy’n fannau rheoli ar y ffin dynodedig y gellir mewnforio llwythi (‘consignments’) i Brydain Fawr.
Gall gweithredwyr busnesau bwyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen we ar Fycotocsinau.
Dylai mewnforwyr hefyd fod yn ymwybodol bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi rhoi cymeradwyaeth o dan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2015/949 i Unol Daleithiau America (UDA) gynnal gwiriadau cyn allforio ar eu pysgnau a chynhyrchion sy’n deillio ohonynt, yn union cyn eu hallforio. Felly, dylai llwythi o bysgnau o UDA, a chynhyrchion sy’n deillio o bysgnau, gynnwys tystysgrif wedi’i llofnodi gan un o swyddogion awdurdod cymwys UDA, Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA). Dylai’r dystysgrif nodi bod y llwyth yn cydymffurfio â’r lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer afflatocsinau a dylai ddarparu canlyniadau’r gwaith samplu a dadansoddi a gynhaliwyd.
I gael cyngor pellach ar y Penderfyniadau hyn a gofynion profi am afflatocsinau, cysylltwch â’r Tîm Mycotocsinau drwy ein ffurflen ar-lein.