Mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel os nad oes bargen Brexit
Yr effaith ar fusnesau sy'n mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid os bydd y Deyrnas Unedig (DU) yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE) heb fargen.
Dogfennau
Manylion
Os bydd y DU yn ymadael â’r UE ym mis Mawrth 2019 heb fargen, mae’r nodyn hwn yn amlinellu sut y byddai hyn yn effeithio ar fewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid o’r UE a gweddill y byd, gan gynnwys:
- newidiadau i’r system TG ar gyfer rhoi gwybod ymlaen llaw am fewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel o du allan i’r UE
- newidiadau i’r gofynion mewnforio ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel sy’n symud drwy’r UE o wlad nad yw’n rhan o’r UE i’r DU
- gofyniad newydd ar gyfer rhoi gwybod ymlaen llaw am fewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel sy’n deillio o fewn yr UE