Canllawiau

Mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel os nad oes bargen Brexit

Diweddarwyd 19 December 2018

This canllawiau was withdrawn on

This page has been replaced by newer guidance. Go to Importing animals, animal products and high-risk food and feed not of animal origin after EU Exit for the latest information.

Mae sicrhau’r fargen a drafodwyd â’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Nid yw hyn wedi newid.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Llywodraeth baratoi ar gyfer pob sefyllfa bosibl, gan gynnwys sefyllfa ‘dim bargen’. Ers dwy flynedd, mae’r Llywodraeth wedi bod yn gweithredu rhaglen sylweddol o waith i sicrhau bod y Deyrnas Unedig (DU) yn barod i ymadael â’r UE ar 29 Mawrth 2019.

Wrth i ni agosáu at y dyddiad hwnnw, roeddem ni’n gwybod o’r cychwyn cyntaf y byddai gofyn i ni gyflymu ein paratoadau ar gyfer sefyllfa ‘dim bargen’. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod cynlluniau ar waith pe bai’n rhaid dibynnu arnynt.

Dros yr haf, cyhoeddodd y Llywodraeth gyfres o Hysbysiadau Technegol (cyfanswm o 106) yn amlinellu gwybodaeth a fyddai’n galluogi busnesau a dinasyddion i ddeall beth fyddai gofyn iddyn nhw ei wneud mewn sefyllfa ‘dim bargen’ er mwyn gallu cynllunio a pharatoi.

Mae’r Hysbysiad Technegol hwn yn cynnig canllawiau er mwyn parhau i gynllunio os na fydd bargen wedi’i tharo.

Hefyd, mae hysbysiad fframio cyffredinol wedi’i amgáu sy’n egluro dull y Llywodraeth o baratoi’r DU ar gyfer y canlyniad hwn er mwyn lleihau unrhyw amhariad a sicrhau ein bod yn ymadael mor effeithiol â phosibl.

Rydym ni’n gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig ar hysbysiadau technegol, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i gynlluniau ddatblygu.

1. Pwrpas

Canllawiau ar yr hyn sydd angen i fusnesau yn y Deyrnas Unedig (DU) sy’n mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel o’r UE a gweddill y byd ei wneud er mwyn paratoi at y rheolau a’r prosesau a fydd yn berthnasol os byddwn ni’n ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) heb fargen.

Yn y canllawiau hyn, yr hyn a olygir gan ‘risg uchel’ yw:

  • pob cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid
  • bwyd a bwyd anifeiliaid penodedig nad ydynt yn dod o anifeiliaid

2. Ar ôl 29 Mawrth 2019, os na chaiff bargen ei tharo

Y DU fydd yn penderfynu pa fwyd a bwyd anifeiliaid penodedig nad ydynt yn dod o anifeiliaid, wedi’u mewnforio i’r DU o’r UE a thrydydd gwledydd, gaiff eu hystyried yn risg uchel. Bydd rheolaethau mewnforio yn seiliedig ar risg ac nid oes unrhyw reolaethau newydd wedi’u cynllunio ar gyfer mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid o’r UE sydd wedi’u categoreiddio fel risg uchel ar hyn o bryd. Y rheswm am hyn yw nad oes disgwyl i’r risg newid ar y diwrnod cyntaf. Mae’r canllawiau canlynol yn esbonio beth fydd yn wahanol.

2.1 Hysbysiad ymlaen llaw i ddefnyddwyr TRACES

Bydd angen i unrhyw un sy’n defnyddio system TRACES i hysbysu’r DU am gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel o weddill y byd ddechrau defnyddio System Hysbysu Mewnforio newydd y DU.

Pan fydd canllawiau ar y system newydd ar gael, bydd dolen iddynt yma.

2.2 Mewnforion o’r UE

Efallai y bydd y DU yn colli mynediad at y systemau cyfnewid gwybodaeth am ddigwyddiadau bwyd rhwng gwledydd yr UE. Bydd angen i bawb sy’n mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel o’r UE roi gwybod i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ymlaen llaw gan ddefnyddio’r System Hysbysu Mewnforio. Bydd hyn yn galluogi’r ASB i barhau i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau diogelwch bwyd.

Ni ddisgwylir i’r gofyniad hwn effeithio’n uniongyrchol ar y ffin nac ar unrhyw awdurdodau iechyd porthladdoedd. Byddai hysbysiadau ymlaen llaw yn cael eu gwneud yn electronig, gan y rhai sy’n cyflwyno bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel i’r DU. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fwyd nad yw’n dod o anifeiliaid yn yr UE wedi’i ddynodi fel risg uchel.

2.3 Rheolaethau mewnforio – llwythi sy’n teithio drwy’r UE

Mae’r gofynion ar gyfer trosglwyddo bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel drwy’r UE i’r DU yn wahanol gan ddibynnu a ydynt yn gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu rai nad ydynt yn dod o anifeiliaid. Mae cyfraith bwyd yr UE yn nodi darpariaeth glir ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid. I’r diben hwn, byddai angen i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid deithio drwy’r UE wedi’u selio, a glanio yn y DU mewn lleoliad sydd ag Arolygfa Ffin fel y gall swyddogion y DU gyflawni’r rheolaethau mewnforio angenrheidiol ar y cynhyrchion hyn.

Nid oes darpariaeth teithio dros dro gyfatebol o fewn cyfraith bwyd yr UE ar gyfer bwyd risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid. Mae canllawiau presennol y Comisiwn Ewropeaidd yn nodi na ellir dosbarthu llwythi o fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid sy’n teithio drwy’r UE ar eu ffordd i wlad nad yw’n rhan o’r UE fel mewnforion ac o ganlyniad, nid ydynt yn ddarostyngedig i reolaethau mewnforio deddfwriaethol yr UE.

Felly, mae’n rhaid i fwyd a bwyd anifeiliaid penodedig nad ydynt yn dod o anifeiliaid a gaiff eu categoreiddio fel risg uchel ddod i’r DU drwy Fan Cyrraedd Dynodedig ar ôl rhoi gwybod ymlaen llaw gan ddefnyddio’r System Hysbysu Mewnforio, sef system rhoi gwybod am fewnforion newydd i’r DU, fel y gall swyddogion y DU arfer y rheolaethau mewnforio angenrheidiol ar y cynhyrchion hyn.

I gael gwybodaeth am ba leoliadau sydd ag Arolygfeydd Ffin, ewch i wefan y Comisiwn Ewropeaidd. I gael gwybodaeth am leoliadau sydd â mannau cyrraedd dynodedig, ewch i wefan yr ASB.

2.4 Sut mae llywodraeth y DU yn gweithio gyda phawb â diddordeb

Bydd diweddariadau’n cael eu cyhoeddi i’r diwydiant rhwng nawr a mis Mawrth 2019 i gynorthwyo defnyddwyr y System Hysbysu Mewnforio newydd i baratoi ar gyfer y newid hwn, a sicrhau bod eu busnesau eu hunain yn barod ar gyfer mewnforion ar y diwrnod y mae’r DU yn ymadael â’r UE. Mae cynrychiolwyr o grwpiau defnyddwyr allweddol yn ymwneud â dylunio, profi a pharatoi’r system.

Mae’r ASB yn gweithio’n agos gyda Defra i sefydlu pryd gellid cyflwyno’n foddhaol y gofyniad i bawb sy’n mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel roi gwybod ymlaen llaw. Ni fyddai unrhyw newid ar y diwrnod y mae’r DU yn ymadael â’r UE i reolaethau neu ofynion mewnforio cyfredol ar gyfer hysbysiadau o fewnforion anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid ar gyfer mewnforion sy’n uniongyrchol o’r UE.

3. Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ‘Mewnforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid os nad oes bargen Brexit’. Bydd yr ASB yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth i ni ddatblygu prosesau yn y cyfnod hyd at fis Mawrth 2019.

Canllawiau yn unig sydd o fewn yr hysbysiad hwn. Dylech ystyried a oes angen cyngor proffesiynol ar wahân arnoch cyn gwneud unrhyw baratoadau penodol.

Mae’n rhan o raglen gynllunio barhaus y llywodraeth ar gyfer pob canlyniad posibl. Rydym ni’n disgwyl trafod cytundeb llwyddiannus gyda’r UE.

Mae llywodraeth y DU yn glir bod yn rhaid i ni barchu ein perthynas unigryw ag Iwerddon. Rydym ni’n rhannu ffiniau tir â nhw ac yn gyd-lofnodwyr Cytundeb Belfast. Mae llywodraeth y DU wedi mynd ati’n gyson i osod y Cytundeb a’i olynwyr wrth wraidd ein dull ni o weithio. Mae’n ymgorffori’r egwyddor caniatâd y mae statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon yn seiliedig arno. Rydym ni’n cydnabod y sail y mae wedi’i ddarparu ar gyfer y cydweithio economaidd a chymdeithasol dwfn ar ynys Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys cydweithrediad rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, ac rydym ni’n ymrwymo i ddiogelu hyn yn unol â llythyr ac ysbryd Strand dau y Cytundeb.

Mae llywodraeth Iwerddon wedi nodi y bydd angen iddi drafod trefniadau pe na bai unrhyw fargen â’r Comisiwn Ewropeaidd ac Aelod-wladwriaethau’r UE. Byddai’r DU yn barod yn y sefyllfa hon i ymgysylltu’n adeiladol i fodloni ein hymrwymiadau a gweithredu er lles gorau pobl Gogledd Iwerddon, gan gydnabod yr heriau sylweddol y byddai diffyg cytundeb cyfreithiol rhwng y DU a’r UE yn eu creu yn y cyd-destun unigryw a sensitif hwn.

Er hynny, mae llywodraeth y DU yn parhau i fod yn gyfrifol, fel y llywodraeth sofran yng Ngogledd Iwerddon, am barhau i baratoi ar gyfer yr ystod lawn o ganlyniadau posibl, gan gynnwys sefyllfa ‘dim bargen’. Wrth i ni wneud hynny, ac wrth i benderfyniadau gael eu gwneud, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i amgylchiadau unigryw Gogledd Iwerddon.

Mae Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein yn rhan o’r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac yn cymryd rhan mewn trefniadau UE eraill. Fel y cyfryw, mewn llawer o feysydd, mae’r gwledydd hyn yn mabwysiadu rheolau’r UE. Os yw hyn yn wir, gallai’r hysbysiadau technegol hyn hefyd fod yn berthnasol iddynt, a dylai busnesau a dinasyddion yr AEE ystyried a oes angen iddynt gymryd unrhyw gamau i baratoi ar gyfer sefyllfa ‘dim bargen’.