Skip to main content
Deunydd hyrwyddo

Pethau i’w hystyried pan fyddwch yn penodi cyfryngwr tollau

Diweddarwyd 10 Hydref 2023

Pethau i’w hystyried pan fyddwch yn penodi cyfryngwr tollau

Os yw’ch busnes wedi’i leoli yn y DU a’ch bod yn mewnforio nwyddau o’r UE neu’n allforio nwyddau iddi, neu unrhyw le yn y byd, gallai penodi cyfryngwr tollau fod o fudd i chi.

Gallai cyfryngwyr tollau ddelio â datganiadau mewnforio ac allforio ar eich rhan. Mae llawer o fusnesau yn penderfynu defnyddio cyfryngwr tollau gan fod datganiadau tollau’n gallu bod yn gymhleth.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am benodi cyfryngwr tollau, gan gynnwys rhestr o gyfryngwyr tollau a all eich helpu.

Cyn penodi cyfryngwr tollau, mae sawl peth i’w ystyried, megis:

  • eich gofynion busnes – y math o nwyddau rydych yn eu symud, pa mor aml rydych yn eu symud a ble rydych yn eu symud iddo neu oddi yno
  • cyfeintiau – faint o ddatganiadau rydych yn disgwyl eu gwneud
  • trwyddedu – p’un a oes angen trwydded, triniaeth arbennig neu reolaethau arbenigol eraill ar eich nwyddau
  • amseru – a oes angen i’ch nwyddau gyrraedd o fewn amserlen benodol
  • eich anghenion o ran hyfforddiant tollau.

Bydd bod yn glir ar y pwyntiau hyn yn eich galluogi i wneud penderfyniad gwybodus wrth benodi cyfryngwr tollau i’ch helpu gyda phrosesau tollau ar gyfer mewnforio neu allforio.

Eich gofynion busnes

Sicrhewch fod gennych ddigon o wybodaeth am eich gofynion cyn i chi siarad â chyfryngwr tollau, yn enwedig:

  • pa fath o nwyddau rydych yn eu symud
  • pa mor aml rydych yn eu symud
  • a ble rydych yn eu symud iddo neu oddi yno – er enghraifft, y gwledydd rydych yn masnachu â nhw yn aml.

Dylech ystyried gofyn y canlynol i’r cyfryngwr tollau:

  • pa brofiad o ran y tollau sydd gennych?
  • pa fath o nwyddau ydych yn eu symud?
  • pa lwybrau/gwledydd sy’n rhan o’ch cwmpas?
  • a allwch ymdrin â gweithdrefnau’r tollau ar gyfer y gwledydd rwyf yn masnachu â nhw?

Faint o ddatganiadau y mae angen i chi eu gwneud

Bydd angen i chi wybod y canlynol:

  • faint o ddatganiadau rydych yn disgwyl eu gwneud mewn wythnos neu fis
  • pa mor aml rydych yn symud nwyddau i’r DU neu allan ohoni.

Gallwch ddefnyddio’r twlsyn, sy’n gwirio a oes angen i chi ddatgan nwyddau rydych yn dod â nhw i mewn i’r DU neu’n mynd â nhw allan ohoni, i’ch helpu i amcangyfrif faint o ddatganiadau y gallai fod angen i chi eu gwneud.

Dylech hefyd ddeall sut y bydd y cyfryngwr tollau yn codi tâl arnoch am ei wasanaethau.

Ystyriwch ofyn y canlynol i’r cyfryngwr tollau:

  • a oes gennych y gallu i ymdrin â nifer y datganiadau yr wyf yn disgwyl eu gwneud? (dylech allu rhoi amcangyfrif o hyn iddo)
  • sut yr hoffech gael eich talu? (er enghraifft, efallai y bydd yn codi ffi benodedig, ffi am bob datganiad, neu’r ddau).

Trwyddedau, triniaeth arbennig neu reolaethau eraill

Mae angen i chi wybod a oes angen trwydded, triniaeth arbennig neu reolaethau arbenigol eraill ar eich nwyddau.

Ystyriwch ofyn i’r cyfryngwr tollau a all gadarnhau a fydd ganddo’r gallu i ymdrin â’ch anghenion o ran trwyddedu.

Amseru – nwyddau sydd angen cyrraedd yn gyflym

Meddyliwch a oes angen i’ch nwyddau gyrraedd pen eu taith o fewn amserlen benodol neu a oes angen gwneud newidiadau cyflym neu newidiadau y tu allan i oriau.

Dylech ystyried gofyn y canlynol i’r cyfryngwr tollau:

  • a allwch flaenoriaethu datganiadau ar gyfer nwyddau sydd, er enghraifft, angen cyrraedd pen eu taith o fewn amserlen benodol?
  • a allwch ymateb yn gyflym i faterion annisgwyl a allai godi wrth i nwyddau gael eu mewnforio neu eu hallforio?

Hyfforddiant a chymorth

Gan fod y tollau yn gymhleth, meddyliwch a fydd angen unrhyw hyfforddiant neu gymorth arnoch.

Dylech ystyried gofyn y canlynol i’r cyfryngwr tollau:

  • a ydych yn darparu unrhyw hyfforddiant a chymorth ar gyfer y tollau?
  • a ydych yn gwybod am unrhyw ddarparwyr hyfforddiant tollau eraill?

Gallwch wirio rhestr o ddarparwyr hyfforddiant tollau.

Yr hyn sydd ei angen arnoch gan gyfryngwr tollau

Meddyliwch am yr hyn rydych angen i’ch cyfryngwr tollau ei wneud, a’r hyn y gallwch ei wneud eich hun neu’r hyn y mae rhywun eisoes yn ei wneud i chi.

Dylech ystyried gofyn y canlynol i’r cyfryngwr tollau:

  • beth yw ystod lawn y gwasanaethau rydych yn eu darparu?
  • beth fyddech chi a’r cyfryngwr tollau’n gyfrifol amdano? (er enghraifft, pwy fyddai’n gyfrifol am ddatganiadau mewnforio/allforio, datganiadau diogelwch, anghenion cludiant)

Rhannu gwybodaeth

Meddyliwch am y dull mwyaf cyfleus i chi anfon gwybodaeth at eich cyfryngwr tollau i’w alluogi i weithredu ar eich rhan, a gwiriwch a fydd hynny’n gweithio iddo hefyd.

Dylech ystyried gofyn y canlynol i’r cyfryngwr tollau:

  • pa wybodaeth fydd ei hangen arnoch gennyf?
  • pa mor aml fydd angen yr wybodaeth hon gennyf arnoch?
  • a allaf roi’r wybodaeth mewn ffordd sy’n addas i mi?

Gogledd Iwerddon

Os ydych yn symud nwyddau drwy Ogledd Iwerddon, dylech ystyried gofyn y canlynol i’r cyfryngwr tollau: