Cynllun Iaith Gymraeg HMPPS 2024 i 2027
Published 15 October 2025
Applies to England and Wales
Paratowyd yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, cymeradwywyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 2 Medi 2025.
1. Cefndir a Chyd-destun
Cyflwyniad
Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) yn parhau i fabwysiadu’r egwyddor y bydd y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.
Mae’r Cynllun hwn yn nodi sut y bydd HMPPS yn rhoi’r egwyddor honno ar waith wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru, ac yn gweithredu fel y cyfarwyddyd i staff wrth wneud hynny.
Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg hwn yn disodli’r canlynol:
- Cynllun y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) 2013, a gymeradwywyd gan y Comisiynydd ar 23 Mai 2013;
- Cynllun Ymddiriedolaeth Prawf Cymru, a gymeradwywyd gan y Comisiynydd ar 12 Gorffennaf 2011.
- Cynllun Iaith Gymraeg HMPPS, 2020-2023
Paratowyd y Cynllun hwn yn unol ag adran 21 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, drwy hynny, bydd HMPPS yn sicrhau’r canlynol:
- Ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Gomisiynydd y Gymraeg (fel y nodir ar y wefan)
- Anfon y Cynllun arfaethedig at Gomisiynydd y Gymraeg cyn ei fabwysiadu;
- Anfon datganiad ysgrifenedig gyda’r rhesymau dros beidio â gwneud hynny at Gomisiynydd y Gymraeg, os nad yw HMPPS yn gweithredu’r newidiadau a awgrymwyd gan y comisiynydd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth Cymraeg o ansawdd uchel, a mabwysiadu’r arferion gorau posibl yn ogystal â hwyluso hawliau a rhyddid unigolion (gan gynnwys staff) yn unol ag Adran 113 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 sy’n gwahardd ymyrraeth â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg.
Cyhoeddwyd Cynllun trosfwaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ym mis Mehefin 2018. Mae’r Cynllun hwn yn gynllun corfforaethol sy’n nodi’r fframwaith Iaith Gymraeg ar gyfer yr adran.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn adran weinidogol, wedi’i chefnogi gan bum Asiantaeth Weithredol sy’n gyfrifol am ddarparu’r rhan fwyaf o’n busnes a’n gwasanaethau i’r cyhoedd: Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF), Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA), Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG), a’r Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol (CICA).
Mae gan bob un o’r cyrff cyflenwi hyn eu Cynllun Iaith Gymraeg eu hunain.
Mae lefel y gwasanaethau Cymraeg yn amrywio rhwng asiantaethau yn dibynnu ar lefel y cyswllt uniongyrchol â’r cyhoedd yng Nghymru.
Mae’r Cynllun hwn wedi cael ei fabwysiadu gan HMPPS a’r cyrff sy’n gweithredu ynddo.
Ein Sefydliad
Nod HMPPS yw atal dioddefwyr drwy newid bywydau. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i gyflawni’r dedfrydau a roddir gan y llysoedd, naill ai yn y ddalfa neu yn y gymuned. Rydym yn gweithio i leihau aildroseddu drwy adsefydlu’r bobl yn ein gofal, gan gynnwys drwy addysg a chyflogaeth.
Yng Nghymru a Lloegr, rydym yn gyfrifol am y canlynol:
- Cynnal gwasanaethau carchardai a phrawf
- Gwasanaethau ailsefydlu i bobl yn ein gofal sy’n gadael y carchar
- Sicrhau bod cymorth ar gael i atal pobl rhag aildroseddu
- Rheoli contractau carchardai a gwasanaethau yn y sector preifat, megis:
- Y gwasanaeth hebrwng carcharorion
- Tagio electronig
Rydym yn rheoli carchardai’r sector cyhoeddus, y contract ar gyfer carchardai preifat, ac yn goruchwylio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau prawf yng Nghymru a Lloegr. Ym mis Mawrth 2024, roedd y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yn cyflogi 65,017 o aelodau staff cyfwerth ag amser llawn, ac roedd yn gyfrifol am 87,869 o garcharorion a 238,765 o bobl ar brawf.
Ymgynghori a Dadansoddi Cydraddoldeb
Wrth baratoi ar gyfer y Cynllun hwn, adolygodd HMPPS gynnydd yn erbyn ein Cynllun blaenorol ac ymgynghorodd ar egwyddorion y Cynllun hwn gyda charcharorion sy’n siarad Cymraeg, pobl ar brawf, staff a rhanddeiliaid eraill. Roedd canfyddiadau’r ymgynghoriad hwn yn sail i Ddadansoddiad Cydraddoldeb a oedd yn ffurfio cwmpas ac uchelgais y Cynllun hwn, gan gynnwys:
- Ffocws cryfach ar wella ansawdd data sy’n ymwneud â sgiliau iaith Gymraeg pobl ar brawf a phobl yn y carchar ledled Cymru a Lloegr.
- Ymrwymiad i ddatblygu fersiwn Hawdd ei Darllen o’r Cynllun Iaith Gymraeg ar gyfer y cyhoedd.
- Parhau â gwaith penodol gydag ystâd carchardai Menywod a’r Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa.
- Defnyddio dull sy’n seiliedig ar anghenion i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu darparu yn Lloegr, gan gynnwys sefydlu cymunedau Cymraeg, a gweithgareddau sicrwydd lle bo angen.
- Mae cam gweithredu i sicrhau bod technoleg ddigidol yn yr ystafell, ac ar landin carchardai Cymru, yn cynnig cynnwys yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg.
- Camau gweithredu i wella argaeledd canolog dogfennau Cymraeg.
- Ymrwymiad i ddatblygu Polisi Sgiliau Iaith Gymraeg ar gyfer staff yng Nghymru.
- Cam gweithredu i sbarduno cynnydd yn nifer y staff sy’n datgelu eu gallu yn y Gymraeg ar ein systemau Adnoddau Dynol.
Adroddiad ‘Yr Iaith Gymraeg mewn Carchardai’
Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg ‘Adroddiad yr Iaith Gymraeg mewn Carchardai’ a oedd yn gwneud 17 o argymhellion yr oedd HMPPS wedi’u derbyn ac wedi ymrwymo i weithio tuag atynt yn ein Cynllun blaenorol. Ceir diweddariad yn erbyn pob argymhelliad, a sut y maent yn berthnasol i’r Cynllun hwn, yn Atodiad 1.
2. Rhoi’r Cynllun ar waith
Mae Adran 5 Deddf yr Iaith Gymraeg yn nodi sut y mae’n rhaid i sefydliadau baratoi eu Cynlluniau yng nghyswllt y gwasanaethau y maent yn eu darparu sydd er budd y cyhoedd yng Nghymru. Mae’r ‘cyhoedd’ yn y Cynllun hwn yn cyfeirio at ymwelwyr, aelodau o’r cyhoedd, pobl yn y carchar a phobl ar brawf, a bydd y Cynllun hwn yn berthnasol i’r Gwasanaeth Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf, Gwasanaethau Llety Cymunedol a swyddogaethau Corfforaethol.
Mae’r egwyddorion cyflawni canlynol yn sail i’n dull o ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg yng Nghymru.
- Byddwn yn cynnig yr hawl i’r cyhoedd ddewis pa iaith i’w defnyddio yn eu hymwneud â ni.
- Rydym yn cydnabod mai mater o arfer da, nid consesiwn, yw galluogi’r cyhoedd i ddefnyddio eu dewis iaith.
- Gallai gwadu’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg roi aelodau o’r cyhoedd dan anfantais.
- Gall aelodau’r cyhoedd fynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn eu dewis iaith.
Nid oes angen i sefydliadau fod wedi’u lleoli’n ffisegol yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth i bobl yng Nghymru, a bydd Cynlluniau’n berthnasol pan fydd yn rhaid i’r cyhoedd adael Cymru i gael y gwasanaeth hwnnw, gan gynnwys cael eu cadw yn y ddalfa, neu gwblhau dedfryd yn y gymuned.
Am y rhesymau hyn, mae’r Cynllun hwn yn nodi cyfarwyddiadau ar gyfer darparu gwasanaethau Cymraeg yng Nghymru a Lloegr, a bydd HMPPS yn gweithredu egwyddor cydraddoldeb y Ddeddf yn llawn i’r graddau y mae hynny’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol i siaradwyr Cymraeg, lle bynnag y maent.
Er nad oes gofyniad cyfreithiol i wneud hynny, rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd ystyried darpariaeth Gymraeg ar gyfer staff sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru, a’r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
3. Llywodraethu, Monitro a Chyfrifoldebau
Prif Swyddog Gweithredol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF sy’n bennaf gyfrifol am y Cynllun hwn, gan gynnwys cydymffurfio, a llunio Adroddiadau Monitro Blynyddol, sy’n cael eu rheoli ar eu rhan gan Uned Gwahaniaethau HMPPS.
Bydd blaenoriaethau yn y Cynllun hwn yn cael eu datblygu drwy’r Uned Gwahaniaethau ar y cyd ag Arweinydd Iaith Gymraeg HMPPS.
Bydd ein Hyrwyddwyr y Gymraeg (ar lefel Cyfarwyddwr Gweithredol Ardal a Dirprwy Gyfarwyddwr) yn sbarduno ffocws, blaenoriaethu a chynnydd drwy ddefnyddio eu gallu presennol i arwain.
Mae gan HMPPS 7 Ardal ddaearyddol, sy’n cynnwys gwasanaethau carchardai a phrawf, pob un yn cael ei oruchwylio gan Gyfarwyddwr Gweithredol Ardal (AED).
Mae’r Cyfarwyddwyr hyn yn gyfrifol am sicrhau bod eu Hardaloedd yn cydymffurfio â’r disgwyliadau a’r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun hwn.
Gellir dirprwyo cyfrifoldeb i Gyfarwyddwyr Rhanbarthol y Gwasanaeth Prawf a’r Grŵp Carchardai lle bo hynny’n briodol.
Ar draws yr ystadau Diogelwch Uchel, y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa a Charchar Menywod hirdymor, y Dirprwy Gyfarwyddwyr perthnasol sy’n gyfrifol am gydymffurfio.
Bydd HMPPS Cymru a Phencadlys HMPPS yn cydweithio i lunio Adroddiad Monitro Blynyddol bob blwyddyn galendr o’r adeg y cyhoeddir y Cynllun hwn, ac yn ei gyflwyno (yn ddwyieithog) i Gomisiynydd y Gymraeg. Bydd HMPPS yn ymateb i sylwadau’r Comisiynydd o fewn amserlen resymol y cytunwyd arni, ar sail lefel y manylion sydd eu hangen.
Bydd HMPPS Cymru yn nodi blaenoriaethau sy’n seiliedig ar egwyddorion ac uchelgais y Cynllun hwn mewn cynllun gweithredu strategol a fydd yn cael ei adnewyddu bob blwyddyn. Bydd y cynllun gweithredu’n cael ei ddatblygu drwy Fwrdd Gweithredu’r Iaith Gymraeg, sy’n cael ei gadeirio ar lefel Dirprwy Gyfarwyddwr. Mae’r trefniadau llywodraethu cyffredinol wedi’u nodi isod.
Mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth Gweithrediadau (SOLT) - yn gyfrifol am gymeradwyo adroddiad monitro blynyddol a delio gyda materion a uwchgyfeiriwyd.
Yn adrodd i SOLT mae:
- Bwrdd Monitro’r Cynllun Iaith Gymraeg. (Yn cynnwys: 2x uwch bencampwr y Gymraeg, cynrychiolydd Uned Gwahaniaethau, arweinydd Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymru) adolygiadau 6 mis, asesu a hyrwyddo cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu.
- Bwrdd Gweithredu’r Iaith Gymraeg (Cymru). (Yn cynnwys: Arweinwyr Carchar / Gwasanaeth Prawf / Pencadlys). Cyflawni Cynllun Iaith Gymraeg Strategol Cymru. Fforymau/cymunedau Cymraeg y Carchar. Grŵp Iaith ar Waith y Gwasanaeth Prawf. Fforymau staff yr Iaith Gymraeg.
- Rhyngwyneb Uned Gwahaniaethau ac arweinydd Cymru. Symud cynllun gweithredu cynllun cenedlaethol yn ei flaen. Cysylltu â’r sawl sydd i weithredu.
- Arweinwyr Amrywiaeth a Chynhwysiant Carchar a’r Gwasanaeth Prawf. Diweddariadau cyfnodol ac uwchgyfeirio. Ymgorffori ymarfer.
4. Mesurau ein Cynllun
A. Datblygu Polisi
Mae’r HMPPS yn defnyddio’r broses o ddadansoddi cydraddoldeb i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Defnyddir y broses fel rhan o’r gwaith o ddatblygu ac adolygu polisi neu brosiectau. Mae ystyried rhwymedigaethau cyfreithiol ac ymrwymiadau corfforaethol a amlinellir yng Nghynllun Iaith Gymraeg HMPPS yn rhan ofynnol o broses dadansoddi cydraddoldeb HMPPS, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a dylai ystyried barn a phrofiadau’r rheini y mae’r polisi/prosiect yn effeithio arnynt.
Mae dolenni i Gynllun Iaith Gymraeg HMPPS wedi’u cynnwys yn y templed dadansoddi, ac mae’r broses hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i berchnogion polisi/prosiect ystyried a oes rhagor o gyfleoedd i hyrwyddo’r Gymraeg. Mae’r broses dadansoddi cydraddoldeb yn berthnasol i bolisïau a phrosiectau sy’n ymwneud â Chymru a Lloegr.
B. Cyflwyno Gwasanaethau
Pobl yn y carchar a phobl ar brawf
Bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF Cymru yn sicrhau’r canlynol:
- Creu amgylchedd dwyieithog gydag arwyddion yn Gymraeg ac yn Saesneg mewn mannau sy’n hygyrch i garcharorion a phobl ar brawf. Bydd arwyddion yn cael eu disodli gan fersiynau dwyieithog pan fydd angen iddynt gael eu disodli.
- Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo hawliau carcharorion a phobl sydd ar brawf sy’n siarad Cymraeg.
- Gofyn i garcharorion a phobl ar brawf cyn gynted â phosibl a yw’n well ganddynt ddefnyddio’r iaith Gymraeg, cofnodi hyn yn gywir ar systemau rheoli data carchardai a phrawf a’i fonitro’n rheolaidd ar lefel carchar, Uned Gyflawni’r Gwasanaeth Prawf a Chymru gyfan.
- Pan fydd dewis iaith person yn hysbys, cychwyn gohebiaeth yn Gymraeg, neu’n ddwyieithog, ac ateb gohebiaeth Gymraeg yn Gymraeg.
- Darparu gwybodaeth allweddol i gefnogi taith unigolyn i’r carchar neu’r gwasanaeth prawf yn Gymraeg, yn ogystal ag yn Saesneg lle mae dewis yn hysbys.
- Caniatáu ceisiadau ychwanegol am unrhyw ddeunydd yn Gymraeg lle mae’n hysbys y byddai’n well ganddynt ddefnyddio’r Gymraeg.
- Rhoi bathodynnau neu gortynnau gwddf i garcharorion a staff HMPPS Cymru sy’n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg.
- Darparu cyfleoedd i bobl ar brawf a phobl yn y carchar ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg.
- Sicrhau bod strwythurau ar waith i gael adborth gan siaradwyr Cymraeg ar eu profiadau o wasanaethau carchardai a phrawf.
- Sicrhau bod ffurflenni cwyno ar gael yn Gymraeg ac ar gael yn rhwydd i garcharorion a phobl ar brawf.
- Sicrhau bod Ffurflenni Atgyfeirio Digwyddiadau Gwahaniaethu yn y carchar ar gael yn Gymraeg mewn carchardai.
- Sicrhau bod dogfennau personol fel adroddiadau llys a chynlluniau dedfrydu yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg os yw’r unigolyn yn dymuno hynny.
- Lle bo hynny ar gael, sicrhau bod technoleg yn yr ystafell neu’r landin yn darparu cynnwys i garcharorion yn Gymraeg.
- Lle nad oes technoleg ar gael, sicrhau bod hysbysiadau a ffurflenni ar gael yn ddwyieithog.
- Dathlu’r Gymraeg a’i diwylliant drwy ddigwyddiadau a chyfathrebu.
- Asesu’r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg drwy ymweliadau sicrwydd rheolaidd â charchardai ac Unedau Cyflawni’r Gwasanaeth Prawf.
Bydd HMPPS (y tu allan i Gymru) yn sicrhau’r canlynol:
- Gofyn i garcharorion a phobl ar brawf cyn gynted â phosibl a yw’n well ganddynt ddefnyddio’r iaith Gymraeg, a chofnodi hyn yn gywir ar systemau rheoli data carchardai a phrawf a’i fonitro’n rheolaidd ar lefel carchar, Uned Gyflawni’r Gwasanaeth Prawf a Chymru gyfan.
- Cychwyn gohebiaeth yn Gymraeg, neu’n ddwyieithog, lle mae dewis iaith unigolyn yn hysbys, ac ymateb i ohebiaeth Gymraeg yn Gymraeg.
- Darparu gwybodaeth allweddol i gefnogi taith unigolyn i’r carchar neu’r gwasanaeth prawf yn Gymraeg, yn ogystal ag yn Saesneg lle mae dewis iaith yn hysbys.
- Caniatáu ceisiadau ychwanegol am unrhyw ddeunydd yn Gymraeg lle mae’n hysbys y byddai’n well ganddynt ddefnyddio’r Gymraeg.
- Asesu’r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg drwy gynnal gweithgarwch sicrwydd rheolaidd mewn carchardai ac Unedau Cyflawni’r Gwasanaeth Prawf lle mae galw am wasanaeth o’r fath.
- Ystyried data sy’n ymwneud â siaradwyr Cymraeg yn y carchar ac ar brawf yn rheolaidd er mwyn pennu lefel y gwasanaethau Cymraeg sydd eu hangen.
- Cynnal hawliau siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg yn y carchar neu ar brawf.
- Hyrwyddo cymunedau/fforymau Cymraeg i garcharorion a phobl ar brawf lle bo’r rhain ar gael.
- Llunio dogfennau a gwybodaeth genedlaethol a fwriedir ar gyfer pobl yn y carchar neu bobl ar brawf yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg, gan sicrhau bod y rhain ar gael ar yr un pryd.
Byddwn yn arfogi ein staff i allu hyrwyddo a darparu’r gwasanaethau hyn drwy:
- Darparu dolenni i ddogfennau canllaw perthnasol a’n Cynllun Iaith Gymraeg ar ei newydd wedd ar ein mewnrwyd.
- Cyhoeddi ein Cynllun Iaith Gymraeg a’n hadroddiadau blynyddol yn ddwyieithog ar wefan Gov.uk a mewnrwyd HMPPS.
- Darparu’r modd i gael cyfieithiadau cywir ac amserol drwy Uned Iaith Gymraeg GLlTEF, a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu hyrwyddo’n ddigonol.
- Sicrhau bod holl frand HMPPS ar gael i staff ar ein mewnrwyd yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.
- Sicrhau bod cyfres o ddogfennau wedi’u cyfieithu ar gael ar y fewnrwyd i’r holl staff eu defnyddio ar draws HMPPS. Bydd yr holl ddogfennau sydd newydd gael eu cyfieithu, rhai lleol neu genedlaethol, yn cael eu llwytho i fyny i’r safle.
- Rhoi’r modd i staff gyflwyno adborth ac ymholiadau ar y Cynllun drwy flwch post pwrpasol.
- Sicrhau bod ein systemau mewnol yn rhoi cyfle i staff gofnodi eu sgiliau Cymraeg, ac annog staff i ddiweddaru hyn.
- Rhoi laniardau a / neu fathodynnau i staff os ydynt yn dymuno datgan eu gallu (boed hynny’n rhugl neu’n ddysgwr) i gyfathrebu yn Gymraeg.
- Darparu eglurder ar ryddid carcharorion a phobl ar brawf i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd a chysylltiadau allanol, gan gynnwys ei gwneud yn glir lle mae cyfyngiadau ar hyn o fewn y Fframwaith Diogelwch Cenedlaethol.
Gohebu ag Ymwelwyr a’r Cyhoedd
Bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF Cymru yn sicrhau’r canlynol:
- Creu amgylchedd dwyieithog gydag arwyddion yn Gymraeg a Saesneg mewn ardaloedd cyhoeddus. Bydd arwyddion yn cael eu disodli gan fersiynau dwyieithog pan fydd angen iddynt gael eu disodli.
- Sicrhau bod peiriannau ateb neu negeseuon awtomataidd ar gyfer y cyhoedd yn cael eu recordio’n ddwyieithog.
- Rhoi cyfle i alwyr Cymraeg gael galwad yn ôl gan siaradwr Cymraeg os nad oes neb ar gael ar y pryd.
- Sicrhau bod gan ganolfannau ymwelwyr yng ngharchardai Cymru lyfrau a chylchgronau Cymraeg, gan gynnwys deunydd ar gyfer plant.
- Sicrhau bod ffurflenni cwyno a DIRF ar gael yn Gymraeg i’w defnyddio gan ymwelwyr.
- Cychwyn pob gohebiaeth yn Gymraeg neu’n ddwyieithog lle mae’r dewis iaith yn hysbys.
- Defnyddiwch gyfarchion dwyieithog yn ein mannau cyhoeddus, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.
- Rhoi cyfle i ymwelwyr sgwrsio yn Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
- Defnyddio cyfarchion dwyieithog yn ein mannau cyhoeddus yng Nghymru (dros y ffôn ac wyneb yn wyneb)
- Rhoi cyfle i ymwelwyr sgwrsio yn Gymraeg os ydynt yn dymuno, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
- Sicrhau bod cynnyrch a ddarperir ar gyfer y cyhoedd megis taflenni, dogfennau a phecynnau gwybodaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg neu mewn fformat dwyieithog, gan gynnwys rhai a gynhyrchir gan drydydd parti.
- Cynnig sgyrsiau neu gyflwyniadau cyhoeddus yn Gymraeg yn ôl dymuniad y sefydliad neu’r grŵp sy’n eu derbyn.
- Ymateb yn Gymraeg pan ddaw gohebiaeth Gymraeg i law a defnyddio brandio dwyieithog, gan sicrhau bod yr amseroedd ymateb yr un fath p’un ai a yw’r ohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
- Cychwyn pob gohebiaeth yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yng Nghymru, gan gynnwys gohebiaeth bersonol lle mae’r dewis iaith yn hysbys.
- Sicrhau bod ein safleoedd yn addas i ddelio ag ymwelwyr, pobl ar brawf a phobl yn y carchar, gan gynnwys sicrhau modd i chwilio am siaradwr Cymraeg i sgwrsio; a lle nad yw hyn ar gael yn gyflym, sicrhau gwasanaethau cyfieithu yn ddi-oed.
- Ymdrechu i sicrhau, wrth drefnu cyfarfodydd yng Nghymru sy’n cynnwys y cyhoedd, bod y Gymraeg yn hygyrch lle bo angen (ac yn bosibl wrth ystyried y trefniadau ymarferol), i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i ddigwyddiadau yn eu dewis iaith.
Bydd HMPPS (y tu allan i Gymru) yn sicrhau’r canlynol:
- Recordio negeseuon dwyieithog lle mae peiriannau ateb neu negeseuon awtomatig ar gyfer y cyhoedd yn cael eu defnyddio a’r rhifau’n cael eu hysbysebu yng Nghymru.
- Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried wrth ddatblygu a dylunio gwasanaethau cenedlaethol sydd ar gael i ymwelwyr a theulu a ffrindiau carcharorion, gan gynnwys sefydlu llinellau cymorth ffôn neu debyg.
- Ymateb yn Gymraeg pan ddaw gohebiaeth Gymraeg i law, gan sicrhau bod yr amseroedd ymateb yr un fath p’un ai a yw’r ohebiaeth a geir yn Gymraeg neu yn Saesneg.
C. Ein gweithlu
Bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF Cymru yn sicrhau’r canlynol:
- Defnyddio’r data sydd gennym ar sgiliau iaith Gymraeg pobl ar brawf, pobl yn y carchar a’n staff i ddeall y galw am wasanaethau yn Gymraeg a’r adnoddau sydd gennym i ddiwallu hyn.
- Hysbysebu pob swydd wag yn ddwyieithog. Mae hyn yn berthnasol i swyddi staff parhaol a swyddi staff dros dro drwy asiantaethau.
- Asesu a yw bob swydd a hysbysebir yn nodi bod yr iaith Gymraeg yn hanfodol.
- Cynnal ymgyrchoedd recriwtio dwyieithog; gan roi’r opsiwn o gael mynediad at bob cam o’n prosesau recriwtio yn Gymraeg a gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer ceisiadau dilynol.
- Parhau i nodi’r Gymraeg fel sgil ddymunol ym mhob swydd yng Nghymru a nodi lle mae’n sgil hanfodol.
- Enwebu Hyrwyddwyr y Gymraeg ar draws swyddogaethau HMPPS Cymru, i helpu i hyrwyddo a chyflawni ymrwymiadau’r Cynllun.
- Darparu cyfleoedd i staff ddysgu, neu ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
- Darparu cyfleoedd i staff roi adborth ar eu profiadau a siapio ein dull o ddarparu gwasanaethau Cymraeg.
- Dathlu’r Gymraeg a’i diwylliant drwy weithgareddau sy’n cynnwys staff.
Bydd HMPPS (y tu allan i Gymru) yn sicrhau’r canlynol:
- Defnyddio’r data sydd gennym ar sgiliau iaith Gymraeg pobl ar brawf, pobl yn y carchar a’n staff i ddeall y galw am wasanaethau yn Gymraeg a’r adnoddau sydd gennym i ddiwallu hyn.
- Llunio deunydd recriwtio, gan gynnwys fideos, taflenni a phosteri, i’w defnyddio yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
D. Hunaniaeth Gorfforaethol
Bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF Cymru yn sicrhau’r canlynol:
- Adolygu’r cyfryngau lleol a’r stoc llenyddiaeth yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion lleol o ran y Gymraeg.
- Defnyddio brandio dwyieithog ar yr holl ddeunydd ysgrifennu swyddogol.
- Sicrhau bod cynnyrch a ddarperir ar gyfer y cyhoedd megis taflenni, posteri, dogfennau a phecynnau gwybodaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg neu mewn fformat dwyieithog, gan gynnwys rhai a gynhyrchir gan drydydd parti.
- Defnyddio cynnwys a brandio dwyieithog ar draws ei blatfformau cyfryngau cymdeithasol.
- Sicrhau bod pob cyhoeddiad ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg neu mewn fformat dwyieithog a’u bod yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd, ac annog ein darparwyr trydydd parti i wneud yr un peth.
Bydd HMPPS (y tu allan i Gymru) yn sicrhau’r canlynol:
- Pan fwriedir i gyhoeddiadau, cyfryngau a llenyddiaeth gael eu defnyddio gan y cyhoedd yng Nghymru, sicrhau bod fersiynau Cymraeg neu ddwyieithog ar gael ar yr un pryd.
- Defnyddio brandio dwyieithog pan fydd cyhoeddiad ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru.
- Wrth ychwanegu neu adolygu cynnwys ar wefan Gov.uk, gwnewch yn siŵr ei fod ar gael yn ddwyieithog.
E. Gwasanaethau Trydydd Parti
Mae’r Cynllun hwn yr un mor berthnasol i sefydliadau trydydd parti sy’n darparu gwasanaethau ar ein rhan drwy gontractau, neu mewn partneriaeth â ni, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, y trydydd sector, y sector preifat a sefydliadau ffydd.
Rhaid i unrhyw gytundeb neu drefniant sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru, a ddarperir gan drydydd parti ar ran HMPPS, allu darparu gwasanaethau yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg neu’n ddwyieithog, ac ystyried effaith eu gwasanaethau ar siaradwyr Cymraeg.
Byddwn yn parhau i adolygu’r trefniadau contract ar gyfer gwasanaethau cyfieithu a ddarperir gan Uned Iaith Gymraeg GLlTEF, ac yn gofyn am wybodaeth adrodd flynyddol.
Byddwn hefyd yn gofyn am adborth ar ansawdd cyfieithiadau gan staff sy’n siarad Cymraeg a phobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
Byddwn yn sicrhau bod manylebau ar gyfer gwasanaethau sydd i’w cyflenwi ar ein rhan yng Nghymru yn cynnwys mesurau perthnasol sy’n ymwneud â defnyddio’r Gymraeg, er enghraifft, bod gwybodaeth wedi’i hargraffu ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg a/neu mewn fformat dwyieithog.
Mewn Cytundebau Lefel Gwasanaeth neu gytundebau darparwyr, bydd HMPPS yn diffinio mesurau sy’n mynnu bod sefydliadau’n cymhwyso egwyddor cydraddoldeb at y Gymraeg a’r Saesneg wrth gyflenwi gwasanaethau a bydd yn monitro hyn i sicrhau y cyflenwir gwasanaethau o ansawdd yn y ddwy iaith.
Byddwn yn cynnwys mesurau iaith Gymraeg mewn canllawiau ar gyfer sefydlu contractau darparwyr a threfniadau grantiau i sicrhau yr ymgorfforir yr iaith Gymraeg yn y contractau angenrheidiol a bod y disgwyliadau’n rhwydd i’w deall. Bydd y Cynllun hwn yr un mor berthnasol i garchardai dan gontract a charchardai’r sector cyhoeddus.
5. Ymholiadau a Chwynion
Mae’r fframweithiau presennol yn rhoi cyfle i garcharorion, pobl ar brawf, ymwelwyr ac aelodau o’r cyhoedd gyflwyno cwynion cyffredinol, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg. Dylai staff ddilyn y broses gwyno berthnasol yn y lle cyntaf.
Llwybrau cwynion sydd ar gael i’r cyhoedd:
A. Carcharorion
Fframwaith polisi cwynion carcharorion - GOV.UK
Cwynion gan Garcharorion Easyread
Cyflwyno Ffurflen Adroddiad ar Ddigwyddiadau Gwahaniaethu – mae’r manylion wedi’u cynnwys yn y Fframwaith Polisi Hyrwyddo Cydraddoldeb i Droseddwyr a Phlant yn y Ddalfa
B. Pobl ar brawf
Trefn gwyno - Y Gwasanaeth Prawf - GOV.UK
C. Ymwelwyr neu aelodau o’r cyhoedd
Cyflwyno Ffurflen Adroddiad ar Ddigwyddiadau Gwahaniaethu os yw hyn yn ymwneud â digwyddiad mewn carchar – mae’r manylion wedi’u cynnwys yn y Fframwaith Polisi Hyrwyddo Cydraddoldeb i Droseddwyr a Phlant yn y Ddalfa
Trefn gwyno - Y Gwasanaeth Prawf - GOV.UK
Trefn gwyno - Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF - GOV.UK
Gall unrhyw un wneud cwyn i Gomisiynydd y Gymraeg am y canlynol:
- Diffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg
- Anawsterau o ran defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith
- Os nad ydych yn fodlon ynghylch sut mae sefydliad yn trin y Gymraeg neu’n ei hystyried.
Bydd crynodeb o gwynion yn ymwneud â’r Gymraeg a dderbynnir gan HMPPS yn cael ei ddarparu fel rhan o drefniadau monitro blynyddol.
Mae HMPPS yn croesawu adborth ar y Cynllun hwn, ac ar ein darpariaeth Gymraeg. Cyfeiriwch unrhyw adborth neu ymholiadau cyffredinol at flwch post swyddogaethol penodol, cymraeghmpps@justice.gov.uk
6. Canllawiau Cyfieithu
Dylid defnyddio’r wybodaeth ganlynol fel arweiniad ar gyfer gweithgareddau cyfieithu:
- Dogfennau i’w defnyddio yng Nghymru yn unig
Ble mae’r rhain yn gyhoeddus (ar gyfer carcharorion, pobl ar brawf, ymwelwyr ac aelodau o’r cyhoedd), rhaid iddynt fod yn ddwyieithog neu ar gael yn y Gymraeg.
- Dogfennau i staff (ac eithrio recriwtio)
Nid yw deunydd angen cael ei gyfieithu pan fydd ar gyfer staff yn unig. Er ystyrir i fod yn arfer da i wneud hynny yng Nghymru, dylai unrhyw benderfyniadau lleol fod yn seiliedig ar angen a aseswyd.
- Polisïau a chyfarwyddiadau’r gwasanaeth cyfan
Dylai polisïau, fframweithiau a chyfarwyddiadau cenedlaethol newydd, neu wedi eu hadolygu/diweddaru fod ar gael yn y Gymraeg os y’u defnyddir gan garcharorion yng Nghymru, pobl ar brawf, ymwelwyr neu aelodau o’r cyhoedd a’u cyhoeddi yr un pryd â’r fersiwn Saesneg. Efallai na fydd bob amser yn angenrheidiol cyfieithu dogfen gyfan. Os yw staff yn ansicr dylent gyfeirio ymholiadau i cymraeghmpps@justice.gov.uk
Dylai polisïau lleol ar gael yng Nghymru yn unig fod ar gael yn y Gymraeg os ydynt i gael eu defnyddio gan garcharorion, pobl ar brawf, ymwelwyr neu aelodau o’r cyhoedd.
- Deunydd i garcharorion neu bobl ar brawf
Dylai deunyddiau a fwriadwyd ar gyfer carcharorion a phobl ar brawf yng Nghymru gael eu darparu yn y Gymraeg yn ogystal â Saesneg neu’n ddwyieithog.
Mewn Carchardai i Fenywod, Gwasanaethau Dalfeydd Ieuenctid, Canolfannau Hyfforddi Diogel a Charchardai Diogelwch Uchel Hirdymor, ble mae dewis iaith yr unigolyn yn hysbys, dylai carcharorion dderbyn deunydd yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog gan nad oes sefydliadau o’r fath (neu ddarpariaeth gyfyngedig) yng Nghymru.
Yn Lloegr, ble mae’n hysbys mai’r Gymraeg yw dewis iaith yr unigolyn, dylid darparu deunydd yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog, ble bynnag y bo’n rhesymol ac yn briodol yn yr amgylchiadau i wneud hynny. Gwneir y penderfyniad hwn gan Lywodraethwr y Carchar, Pennaeth PDU neu gyfatebol, a dylai ystyried y manteision yn erbyn cost, amser a’r angen.
Os bydd staff yn ansicr sut mae hyn yn ymwneud â’u gwaith, dylent gysylltu â’r blwch post: cymraeghmpps@justice.gov.uk
Cyllid
Bydd cyfieithiadau sy’n ymwneud â deunyddiau Cymru yn unig yn cael eu hariannu gan HMPPS Cymru.
Caiff cyfieithiadau sy’n ymwneud â deunyddiau cenedlaethol sydd ar gael yng Nghymru eu hariannu gan yr adran genedlaethol berthnasol.
Gwasanaethau cyfieithu
Gellir trefnu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd wyneb yn wyneb drwy The Big Word, darparwr gwasanaethau iaith a gymeradwywyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Mae ein contract gyda The Big Word yn sicrhau bod gwybodaeth sensitif a phersonol yn cael ei hamddiffyn, bod llif data yn cydymffurfio â GDPR ac yn dal pob cyfieithydd i god ymddygiad a gytunwyd.
Gwneud cais am gyfieithiad
Dylid anfon ceisiadau am gyfieithiad ysgrifenedig i Uned Iaith Gymraeg GLlTEF yn: Welsh.language.unit.manager@justice.gov.uk
Ymholiadau: 0300 3230 198
Oriau busnes: Dydd Llun i ddydd Iau (9am i 5pm), dydd Gwener (9am i 4.30pm)
7. Cynllun Gweithredu
Mae’r Cynllun Gweithredu canlynol wedi cael ei ddatblygu i’n cefnogi i fodloni’r mesurau a nodir yn ein Cynllun ac mae’n seiliedig ar ein hadolygiad o’r gwaith hyd yma (a amlinellir yn ein Hadroddiad Monitro), asesiad o’n gallu presennol i fodloni’r mesurau penodol hynny, ymgynghori â rhanddeiliaid, Adroddiad Monitro Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg sy’n gwerthuso safon ein darpariaeth gwasanaeth, a chynnydd yn erbyn Adroddiad yr Iaith Gymraeg mewn Carchardai. Cyfrifoldeb yr Uned Gwahaniaethau fydd goruchwylio’r Cynllun Gweithredu.
Cam gweithredu |
Canlyniad | Arweinydd | Cwblhawyd | |
---|---|---|---|---|
1 | Hyrwyddo’r gwaith o lansio’r Cynllun Iaith Gymraeg 24-27, ei fesurau, a’r gefnogaeth sydd ar gael i staff i gyflawni eu rhwymedigaethau drwy raglen dreigl o ddulliau cyfathrebu mewnol. | Mae’r staff yn ymwybodol o’r Cynllun, ei fesurau a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Caiff pwysigrwydd cofnodi dewis iaith ei atgyfnerthu. | Uned Gwahaniaethau HMPPS/HMPPS Cymru | Rhag 25 |
2 | Datblygu fersiwn Hawdd ei Darllen o’r Cynllun Iaith Gymraeg ar gyfer y cyhoedd, gan gynnwys pobl yn y carchar a phobl ar brawf. | Mae gan y cyhoedd wybodaeth hygyrch am eu hawliau fel y nodir yn y Cynllun Iaith Gymraeg. | Uned Gwahaniaethau HMPPS/HMPPS Cymru | Rhag 25 |
3 | Datblygu tudalen mewnrwyd Gymraeg benodol ar gyfer HMPPS sydd ar gael i’r holl staff, gan gynnwys adnoddau perthnasol, cyfleoedd dysgu a chymorth. | Mae staff yn gallu deall eu rhwymedigaethau’n well, dysgu am y Gymraeg, a bodloni ceisiadau Cymraeg. | Uned Gwahaniaethau HMPPS/HMPPS Cymru | Mawrth 26 |
4 | Yng Nghymru, rhoi’r pecyn ‘Croeso’ ar waith ar gyfer pawb sy’n dechrau o’r newydd. | Mae gan staff yng Nghymru gyfarwyddiadau clir a hygyrch am eu rhwymedigaethau a gwerth darparu gwasanaeth dwyieithog. | Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi Cymru | Mehefin 25 |
5 | Archwilio’r opsiynau sydd ar gael gyda rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys Gwasanaethau Dadansoddi, i fonitro a rhannu data sy’n ymwneud â phobl yn y carchar a phobl ar brawf ac yn y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa sydd wedi dewis cyfathrebu yn Gymraeg. | Mae gan bob carchar ac uned prawf ledled Cymru a Lloegr fynediad at ddata sy’n ymwneud â nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio eu gwasanaethau. | Uned Gwahaniaethau HMPPS/HMPPS Cymru | Rhag 25 |
6 | Datblygu a chyflwyno ymgyrch bosteri Croeso i’r Gymraeg Yma i’w dosbarthu ar draws Ardaloedd HMPPS, gan gynnwys gwybodaeth am hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg a hawliau i wneud cwyn. | Mae gan garcharorion a phobl ar brawf, ni waeth ble maen nhw, wybodaeth am eu hawl i ddefnyddio’r Gymraeg a sut mae cwyno. | Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi Cymru | Rhag 25 |
7 | Yng Nghymru, cynnal archwiliad i ganfod dogfennau allweddol nad ydynt ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd i gefnogi pobl ar brawf a phobl yn y carchar, a sicrhau bod y rhain ar gael yn Gymraeg/yn ddwyieithog. | Gwell mynediad at wybodaeth yn Gymraeg sy’n cefnogi taith cyfiawnder troseddol unigolyn. Bydd dogfennau ar gael yn genedlaethol. | Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi Cymru | Mawrth 26 |
8 | Yng Nghymru, atgoffa staff i gefnogi’r prosesau i ddarparu gwasanaeth dwyieithog mewn mannau cyhoeddus (er enghraifft, ateb y ffôn, darparu mynediad at siaradwyr Cymraeg). | Darperir gwasanaeth cyson, dwyieithog ar draws mannau cyhoeddus yng Nghymru. | Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi Cymru | Mehefin 25 |
9 | Adolygu pa wasanaethau peiriant ateb/negeseuon awtomatig sy’n cael eu hysbysebu yng Nghymru a sicrhau bod y cynnwys yn ddwyieithog. | Darperir gwasanaeth cyson, dwyieithog i’r gwasanaeth cysylltu â’r cyhoedd, a hysbysebir yng Nghymru, dros y ffôn. | Uned Gwahaniaethau HMPPS | Rhag 26 |
10 | Gan ddefnyddio’r data sydd ar gael ar nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio gwasanaethau carchardai a phrawf yn Lloegr, sefydlu trothwyon y cytunwyd arnynt a fydd yn sbarduno gweithgareddau sicrwydd lleol. | Mae’r disgwyliadau ynghylch pryd mae angen gweithgareddau sicrwydd yn glir. | Uned Gwahaniaethau HMPPS/HMPPS Cymru | Ionawr 26 |
11 | Sicrhau ansawdd y gwasanaeth Cymraeg a ddarperir i bobl ar brawf a phobl yn y carchar yn rheolaidd mewn unrhyw leoliad sy’n bodloni’r trothwyon y cytunwyd arnynt. | Mae gwasanaeth cyson, o ansawdd uchel, yn cael ei ddarparu i garcharorion sy’n siarad Cymraeg a phobl sydd ar brawf, ni waeth ble maen nhw. | Cyfarwyddwyr Grŵp Carchardai/Cyfarwyddwyr Rhanbarthol y Gwasanaeth Prawf | Ionawr 28 |
12 | Darparu canllawiau diwygiedig ar ddelio ag ymholiadau yn Gymraeg i staff sy’n gweithio mewn canolfannau galwadau canolog, a sicrhau’r ddarpariaeth hon yn rheolaidd. | Nid yw gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na gohebiaeth a dderbynnir yn Saesneg. | Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi Cymru | Rhag 26 |
13 | Hyrwyddo’n barhaus y gwaith o ddatgelu gallu yn y Gymraeg ar systemau cofnodi Adnoddau Dynol canolog ar draws yr holl grwpiau staffio, gan weithio tuag at gyfradd cwblhau o 80% (Cymru yn unig). | Gwella data ar sgiliau iaith Gymraeg staff ar draws HMPPS. | Uned Gwahaniaethau HMPPS gyda Hyrwyddwyr | Mawrth 28 |
14 | Yng Nghymru, ystyried yn rheolaidd gallu Cymraeg y staff (wrth iddo ddod ar gael), pobl ar brawf a phobl ar garchar, sydd wedi’i nodi er mwyn pennu’r galw a’r gallu. | Caiff gweithgareddau recriwtio eu llywio gan broffil iaith Gymraeg ein staff a’r rheini sy’n defnyddio ein gwasanaethau. | Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi Cymru | Ionawr 28 |
15 | Yng Nghymru, gwreiddio’r Polisi Sgiliau Iaith Gymraeg. | Mae staff sy’n siarad Cymraeg yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a defnyddir dull mwy cadarn o ystyried yr angen am y Gymraeg wrth recriwtio. | Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi Cymru | Rhag 25 |
16 | Blaenoriaethu’r gwaith o gyfieithu ffurflenni ar-lein sy’n ymwneud ag ymwelwyr, ffrindiau a theulu, e.e. systemau archebu ymwelwyr/anfon arian at garcharor. | Gall ymwelwyr, ffrindiau a theulu sy’n siarad Cymraeg ryngweithio â gwasanaethau sy’n effeithio arnynt yn Gymraeg. | Tîm Digidol | Mehefin 25 |
17 | Datblygu gwybodaeth gynefino safonol am y Gymraeg i’w rhoi i bobl sydd ar brawf a phobl sydd yn y carchar ledled Cymru a Lloegr. | Mae pobl yn y carchar a phobl ar brawf yn ymwybodol o’r graddau y gallant gael gafael ar wasanaethau yn Gymraeg a’u hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg. | Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi Cymru | Mawrth 27 |
18 | Sicrhau, lle mae technoleg yn y gell a thechnoleg landin ar gael mewn carchardai yng Nghymru, bod cynnwys yn cael ei ddarparu yn Gymraeg (gan flaenoriaethu’r dogfennau hynny a ddefnyddir amlaf). | Mae pobl yn y carchar yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth sy’n cael ei darparu drwy dechnoleg newydd yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. | Tîm Prosiect Carchar EF Caerdydd | Rhag 25 |
19 | Ystad carchar menywod: Ehangu profion data demograffig i fonitro lefelau cofnodi’r Gymraeg fel iaith gyntaf Cynnwys y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn y carchar |
Mae gan bob carchar ac uned prawf ledled Cymru a Lloegr fynediad at ddata sy’n ymwneud â nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio eu gwasanaethau. Mae gwasanaeth cyson, o ansawdd uchel, yn cael ei ddarparu i garcharorion sy’n siarad Cymraeg a phobl sydd ar brawf, ni waeth ble maen nhw |
Ystadau Menywod | Rhag 25 |
20 | Archwilio ffyrdd y gellir casglu data sy’n ymwneud â staff yn cael mynediad at hyfforddiant iaith Gymraeg ac yn ei gwblhau yng Nghymru yn effeithiol. | Mae gan HMPPS Cymru well dealltwriaeth o broffil sgiliau Cymraeg cyfredol a newydd y sefydliad. | HMPP Cymru | Rhag 27 |
21 | Edrych ar opsiynau i gryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg drwy weithgareddau comisiynu a chontractio, gan gynnwys monitro ansawdd. | Manteisir i’r eithaf ar y cyfle i gynnig darpariaeth Gymraeg o ansawdd uchel drwy wasanaethau trydydd parti. | Uned Gwahaniaethau HMPPS/HMPPS Cymru | Rhag 26 |
Atodiad A: Yr Iaith Gymraeg mewn Carchardai
Argymhelliad 1: Dylai HMPPS ystyried addasu ei drefniadau lleoli carcharorion i sicrhau, pryd bynnag y bo hynny’n ymarferol bosibl, bod carcharorion y mae angen gwasanaethau Cymraeg arnynt yn cael eu lleoli yn y carchardai sydd fwyaf cymwys i ddarparu’r gwasanaethau hynny.
Nid oes awdurdod cyfreithiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i HMPPS ddal carcharorion o Gymru yng Nghymru. Fodd bynnag, mae pa mor agos ydyw i’r cartref yn un o nifer o ffactorau a ystyrir wrth ddewis ble i leoli carcharorion.
Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r rheini sydd ar ddedfrydau byr neu ar fin cael eu rhyddhau. Y flaenoriaeth i’r gwasanaeth carchardai yw lleoli carcharorion yn y sefydliadau hynny sy’n manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i adsefydlu’n llwyddiannus ac sy’n lleihau aildroseddu.
Mae hyn yn golygu ystyried ffactorau ychwanegol fel diogelwch, cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant a’r math o drosedd, a gallai unrhyw bwysau o ran capasiti ddylanwadu arnynt hefyd.
Rydym yn cydnabod bod iaith yn chwarae rhan mewn canlyniadau adsefydlu ac rydym yn disgwyl y gall pob carchar gynnig gwasanaethau yn unol â dewis iaith lle bynnag y bo modd.
Roedd ein gwaith gyda charchardai y tu allan i Gymru yn ystod ein Cynllun blaenorol yn blaenoriaethu sefydliadau diogelwch uchel a sefydliadau menywod, nad oes dim ohonynt yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae gan lawer ohonynt gymunedau Cymraeg ffyniannus erbyn hyn.
Mae’r Cynllun hwn yn cryfhau’r mesurau sy’n berthnasol i garchardai yn Lloegr, a’n strwythurau monitro a llywodraethu cenedlaethol, gan ein cefnogi i gynnal yr egwyddor o gydraddoldeb ni waeth ble mae carcharorion.
Argymhelliad 2: Dylai HMPPS sicrhau bod anghenion menywod sy’n siarad Cymraeg yn cael eu hystyried yn llawn fel rhan o unrhyw gynlluniau i ddatblygu’r ddarpariaeth ar gyfer troseddwyr sy’n fenywod o dan strategaeth y Llywodraeth.
Mae sawl enghraifft o waith da mewn carchardai menywod i hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg, a amlinellir yn ein Hadroddiad Monitro 2020-23.
Bydd y Ganolfan Breswyl i Fenywod newydd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau i fenywod yng Nghymru am y tro cyntaf, ac mae’r iaith Gymraeg eisoes wedi cael ei hystyried fel rhan o’n cam dylunio.
O fewn y contract gwasanaethau integredig newydd i fenywod ac oedolion ifanc yng Nghymru, mae angen darparu gwasanaethau Cymraeg hefyd.
Ar sail data sydd wedi’u cynnwys yn ein Hadroddiad Monitro 2020-23, gwyddom nad yw menywod sy’n siarad Cymraeg yn cael eu cofnodi’n ddigonol mewn carchardai y tu allan i Gymru, ac mae’r Cynllun hwn yn ymrwymo i wella hyn, yn ogystal â sicrhau’r canlynol:
- Ehangu profion data demograffig i fonitro lefelau cofnodi’r Gymraeg fel iaith gyntaf
- Cynnwys y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn y carchar
Argymhelliad 3: Dylai HMPPS adolygu’r data y mae’n ymrwymo i’w casglu am anghenion iaith carcharorion, i sefydlu dewis iaith mewn sefyllfaoedd gwahanol, ac i ganfod gallu yn y Gymraeg yn ogystal â dewis iaith.
Caiff data eu casglu ar draws y gwasanaethau carchardai a phrawf sy’n ymwneud â dewis iaith, yn unol â systemau a safonau cenedlaethol. Mae rhai carchardai yng Nghymru wedi addasu prosesau cofnodi lleol i gasglu gwybodaeth fanylach am alluoedd yn yr iaith Gymraeg.
Mae’r Cynllun hwn yn cryfhau ein dull o gofnodi ledled Cymru a Lloegr er mwyn lleihau bylchau data ac mae’n cyflwyno disgwyliad y bydd adolygiadau rheolaidd o ddata yn sail i’r dull o ddarparu gwasanaethau ar draws pob carchar.
Argymhelliad 4: Dylai HMPPS gryfhau ei drefniadau i sicrhau bod data am yr iaith Gymraeg yn cael eu casglu ar gyfer pob carcharor yn ddi-ffael, a bod pob carchar yn gallu cael gafael ar y data cywir er mwyn cynllunio gwasanaethau.
Mae data am y Gymraeg ar gyfer carcharorion yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu cyhoeddi yn ein Hadroddiad Monitro ar gyfer 2020-23.
Mae adroddiadau chwarterol ar siaradwyr Cymraeg mewn carchardai yng Nghymru bellach yn cael eu cynhyrchu a’u hystyried gan Fwrdd Iaith Gymraeg HMPPS Cymru i sicrhau bod gwasanaethau’n ymateb i unrhyw gynnydd yn y galw.
Mae’r Cynllun hwn yn ymrwymo i gasglu a dadansoddi data sy’n ymwneud â sgiliau iaith Gymraeg yn rheolaidd ar draws yr ystâd carchardai, gan gynnwys datblygu dull canolog ar gyfer monitro, a mesurau cryfach sy’n ymwneud ag ystyried a defnyddio data gan wasanaethau carchardai y tu allan i Gymru.
Mae’r Cynllun hwn yn ymrwymo i ddull sy’n seiliedig ar ddata o ddatblygu trothwyon priodol ar gyfer carcharorion sy’n siarad Cymraeg a fydd yn sbarduno gweithgareddau lleol ychwanegol yn Lloegr, gan gynnwys gweithgareddau sicrwydd.
Argymhelliad 5: Dylai HMPPS gymryd camau i sicrhau ei bod yn hollol glir bod carcharorion yn gallu cyfathrebu â’i gilydd ac â chysylltiadau allanol yn Gymraeg, gan nodi’n glir o dan ba amgylchiadau nad yw hyn yn cael ei ganiatáu.
Nid oedd dadansoddiad o’r cwynion yn ein Hadroddiad Monitro 2020-23 a gafwyd dros oes ein Cynllun blaenorol wedi tynnu sylw at unrhyw batrymau na thueddiadau sy’n peri pryder o ran cyfyngu ar hawliau carcharorion i ddefnyddio’r Gymraeg. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod efallai na fydd carcharorion bob amser yn cwyno’n ffurfiol.
Mae’r Cynllun hwn yn ymrwymo i ddatblygu dulliau cyfathrebu o’r newydd ar draws pob carchar ynghylch hawliau carcharorion sy’n siarad Cymraeg, gan gynnwys yr hawl i gyfathrebu yn Gymraeg â’i gilydd ac â chysylltiadau allanol, yn ogystal â darparu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg drafod eu safbwyntiau a’u profiadau drwy fforymau, gan gynnwys y tu allan i Gymru, pan fo hynny’n bosibl.
Argymhelliad 6: Dylai HMPPS ddatblygu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol yn CEF Berwyn ac mewn carchardai eraill.
Erbyn hyn, mae gan bob carchar yng Nghymru, a nifer o sefydliadau yn Lloegr, gymunedau Cymraeg eu hiaith sy’n cael eu cefnogi i ddod at ei gilydd yn gymdeithasol drwy weithgareddau sy’n cynnwys fforymau, gwersi Cymraeg dan arweiniad cyfoedion, a digwyddiadau i ddathlu’r Gymraeg a’i diwylliant.
Argymhelliad 7: Dylai HMPPS gryfhau ei drefniadau er mwyn monitro argaeledd ac ansawdd y gwasanaethau iaith Gymraeg sy’n cael eu cynnig mewn carchardai, a chefnogi carchardai i gynnig y gwasanaethau hynny.
Mae pob carchar yng Nghymru yn cael ymweliadau sicrwydd rheolaidd sy’n monitro argaeledd ac ansawdd y gwasanaethau Cymraeg. Mae Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi (HMIP) wedi diwygio ei dangosyddion ar gyfer carchardai yng Nghymru i gynnwys y disgwyliad bod carcharorion yn gallu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Mae’r Cynllun hwn yn ymrwymo i ehangu gweithgarwch sicrwydd i ystyried y carchardai hynny yn Lloegr lle mae galw am wasanaethau Cymraeg, gan ddefnyddio mesurau HMIP a’r ymrwymiadau yn y Cynllun hwn fel sail ar gyfer asesu.
Argymhelliad 8: Dylai HMPPS adolygu ei drefniadau o ran sicrhau bod gwasanaethau carchardai sy’n cael eu cynnig gan sefydliadau allanol yn cydnabod y ffaith fod gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg yn arwain at ganlyniadau gwell i siaradwyr Cymraeg.
Yng Nghymru, mae’r gofyniad ar ddarparwyr trydydd parti i ddarparu eu gwasanaethau yn Gymraeg yn cael ei gynnwys wrth ddatblygu manylebau ar gyfer gwasanaethau ac yn cael ei fonitro gan y Tîm Rheoli Contractau.
Mae Tîm Comisiynu Gwasanaeth Prawf Cymru hefyd wedi cyflwyno proses sgrinio cydraddoldeb gynnar, sy’n ei gwneud yn ofynnol i staff sy’n cynnig gwasanaethau neu brosiectau a gomisiynir ystyried y Gymraeg. Mae darpariaethau addysg dan gontract yn CEF Berwyn a CEF a STI y Parc wedi datblygu contractau a manylebau gwasanaeth newydd, gwell, i sicrhau bod darparwyr yn diwallu anghenion carcharorion o Gymru.
Mae’r Cynllun hwn yn parhau i atgyfnerthu ymrwymiadau Trydydd Parti ac fe’i hategir yn benodol gan yr egwyddorion y gallai gwadu’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg, wrth ddarparu gwasanaethau yng Nghymru, roi aelodau o’r cyhoedd dan anfantais, ac y gall pobl fynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn eu dewis iaith.
Mae’r Cynllun hwn hefyd yn cynnwys ymrwymiad i edrych ar opsiynau i gryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg drwy weithgareddau comisiynu a chontractio, gan gynnwys monitro ansawdd.
Argymhelliad 9: Dylai HMPPS sicrhau bod proses barhaus ar waith i gasglu data cyfredol am sgiliau iaith staff carchardai, a dylai ddefnyddio’r data hynny i gynllunio gwasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth carcharorion o’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg gyda staff.
Yn ystod oes ein Cynllun blaenorol, cyflwynodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder gwestiwn ar allu staff i siarad Cymraeg i’n system gofnodi ganolog.
Mae’r Cynllun hwn yn ymrwymo i wella’r gyfradd ddatgelu ar draws ein grŵp staffio, gan ddefnyddio’r data hwn yn rheolaidd wrth iddo ddod ar gael i lywio’r gwaith o gynllunio gwasanaethau yng Nghymru, er enghraifft, gweithgareddau recriwtio. Yn ogystal â thynnu sylw at staff sy’n siarad Cymraeg ac adeiladu ar ein gwaith hyrwyddo i garcharorion gan ddefnyddio ymgyrch gyfathrebu ‘Croeso i’r Gymraeg Yma’.
Argymhelliad 10: Dylai HMPPS gymryd camau, yn enwedig wrth recriwtio aelodau newydd o staff, i sicrhau bod digon o staff ar gael i gynnig gwasanaethau dibynadwy a chyson i garcharorion sy’n siarad Cymraeg.
Yn ogystal â gwella’r gwaith o gasglu data sy’n cael blaenoriaeth yn y Cynllun hwn, cynhaliwyd adolygiad o brosesau recriwtio yng Nghymru a nodwyd gwelliannau posibl.
Mae hyn yn cael ei gofnodi yn ein Polisi Sgiliau Iaith Gymraeg drafft a fydd yn cael ei weithredu yn ystod oes y Cynllun hwn, sy’n gwella’r wybodaeth gynefino sydd ar gael i’r holl staff, a symud y tu hwnt i faen prawf iaith Gymraeg ‘dymunol’ diofyn ar gyfer pob hysbyseb swydd yng Nghymru, tuag at ystyriaeth fanwl o’r sgiliau ieithyddol sydd eu hangen ar gyfer pob swydd.
Argymhelliad 11: Wrth gynllunio i agor unrhyw garchar newydd yng Nghymru, dylai HMPPS ystyried y ddarpariaeth o ran yr iaith Gymraeg o’r cychwyn cyntaf, gan gynnwys recriwtio staff gyda sgiliau Cymraeg.
O dan ein Cynllun blaenorol, ymrwymodd HMPPS i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried fel rhan o’r gwaith o adeiladu carchardai yng Nghymru yn y dyfodol (drwy Raglen Trawsnewid yr Ystad Carchardai a’r Fframwaith Gweithredwyr Carchardai).
Cafodd Rhaglen Trawsnewid yr Ystad Carchardai ei dirwyn i ben yn 2019, ac mae Papur Gwyn y Strategaeth Carchardai nawr yn nodi’r weledigaeth ar gyfer dyfodol gwasanaethau carchardai. Mae’n cydnabod y ffyrdd y mae darpariaeth Gymraeg yn unigryw, yn ogystal â’r angen i gysoni polisïau cyfiawnder troseddol a Llywodraeth Cymru.
Mae’r Fframwaith Gweithredwyr Carchardai yn ymdrin â darparu gwasanaethau carchar gweithredol a rheoli cyfleusterau carchardai pan fydd hyn yn cael ei gontractio i ddarparwyr ar wahân i HMPPS.
Pennir disgwyliadau cadarn o ran y Gymraeg ar gyfer gwasanaethau dan gontract yng Nghymru drwy gontractau unigol, sy’n cael sylw yn y Cynllun hwn o dan ein mesurau Darparwyr Trydydd Parti. Mae’r Cynllun hwn hefyd yn ymrwymo i weithredu ein Polisi Sgiliau Iaith Gymraeg yng Nghymru. Bydd hyn yn defnyddio dull mwy cadarn o asesu’r angen am sgiliau iaith Gymraeg wrth recriwtio, gan gynnwys staff ein carchar.
Argymhelliad 12: Dylai HMPPS adolygu’r hyfforddiant sy’n cael ei gynnig i staff carchardai er mwyn mynd i’r afael â’r diffygion y mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw atynt, yn enwedig o ran cofnodi data am siaradwyr Cymraeg ac unrhyw ymyrraeth â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg. Dylai hefyd archwilio’r posibilrwydd o gryfhau gallu yn y cyswllt hwn drwy ddatblygu sgiliau iaith aelodau staff presennol.
Cafodd ein Cynllun Iaith Gymraeg blaenorol ei hyrwyddo’n eang i holl staff HMPPS. Mae sawl carchar yng Nghymru wedi datblygu cyfleoedd i staff ddysgu neu ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Er enghraifft, cyflwynodd CEF Berwyn sesiwn ymwybyddiaeth o’r Gymraeg fel rhan o’i rhaglen gynefino staff.
Mae catalog hyfforddi wedi cael ei ddatblygu sy’n dangos yr ystod lawn o hyfforddiant Cymraeg am ddim ac wedi’i ariannu sydd ar gael i staff yng Nghymru, ac yn ddiweddar mae’r Gwasanaeth Sifil wedi lansio pecyn Gwasanaeth Sifil Dysgu Cymraeg sydd ar gael i’r holl staff ar ein platfform dysgu ar-lein mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae’r Cynllun hwn yn ymrwymo i wella’r wybodaeth sydd ar gael i staff newydd a phresennol yng Nghymru drwy gyflwyno pecyn iaith Gymraeg ‘Croeso’. Bydd hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd cofnodi dewis iaith Gymraeg a chynnal hawliau pobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau i ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae’r Cynllun hwn hefyd yn ymrwymo i ddatblygu tudalen Gymraeg benodol ar fewnrwyd ein staff i gynnal gwybodaeth, cyfarwyddiadau ac adnoddau, a gwella’r gwaith o gasglu data am nifer y staff sy’n manteisio ar hyfforddiant Cymraeg.
Argymhelliad 13: Dylai HMPPS sicrhau bod prosesau ar gyfer delio â chwynion mewnol yn rhoi’r hyder i garcharorion bod materion yn cael eu datrys yn briodol, ac yn galluogi carchardai i wella eu gwasanaethau.
Argymhelliad 14: Dylai HMPPS sicrhau bod carcharorion yn ymwybodol bod ganddynt hawl i gwyno i’r Comisiynydd am faterion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg, a dylai hwyluso unrhyw gŵyn y mae carcharor am ei gwneud.
Gall carcharorion ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i wneud cwynion am y Gymraeg, ac mae’r rhain yn cael eu hyrwyddo’n eang ar draws sefydliadau. Mae cwynion am y Gymraeg yng Nghymru yn cael eu monitro bob chwarter drwy Fwrdd Iaith Gymraeg HMPPS Cymru i nodi ac ymateb i unrhyw themâu.
Mae blwch post swyddogaethol ar gael ar gyfer unrhyw bryderon neu adborth sy’n ymwneud â’r Gymraeg, ac mae data cwynion wedi’u cynnwys yn ein Hadroddiad Monitro 20-23.
Mae’r Cynllun hwn yn ymrwymo i adnewyddu ein dulliau cyfathrebu â charcharorion gan ddefnyddio ymgyrch ‘Croeso i’r Gymraeg Yma’ a datblygu gwybodaeth safonol i’w darparu i garcharorion yn ystod eu cyfnod cynefino, gan gynnwys eu hawliau o ran cwynion.
Mae’r Cynllun hwn yn manylu’n llawn ar y dulliau sydd ar gael i garcharorion gyflwyno cwynion a fydd yn cael eu hyrwyddo fel rhan o’r ymgyrch, gan gynnwys Ffurflenni Cofnodi Digwyddiadau Gwahaniaethu, y gellir eu cyflwyno’n ddienw.
Argymhelliad 15: Dylai HMPPS barhau â’i ymdrechion i ymgysylltu â charcharorion er mwyn dysgu o’u profiadau ac ymgynghori ar ddatblygiadau.
Mae gan bob carchar yng Nghymru gymunedau a fforymau Cymraeg, ac mae rhai wedi cyflwyno cynrychiolwyr carcharorion Cymraeg eu hiaith. Sefydlwyd cymunedau Cymraeg mewn sawl carchar i fenywod a charchardai Diogelwch Uchel.
Mae ymweliadau sicrwydd rheolaidd yng Nghymru yn cynnwys grwpiau ffocws Cymraeg i garcharorion er mwyn llywio argymhellion a wneir yn ôl i bob sefydliad.
Argymhelliad 16: Dylai HMPPS ystyried canfyddiadau’r adolygiad hwn wrth ddiwygio ei gynllun iaith Gymraeg, gan sicrhau bod trefniadau priodol ar waith o safbwynt atebolrwydd at ddibenion monitro cynnydd mewn perthynas â rhoi’r argymhellion ar waith.
Ystyriwyd argymhellion wrth ddatblygu ein Cynllun Iaith Gymraeg blaenorol 2020-23, ac mae cynnydd a meysydd i’w gwella wedi cael eu hystyried wrth ddatblygu’r Cynllun hwn.
Mae’r dulliau llywodraethu wedi cael eu cryfhau wrth gael eu mabwysiadu gan y Grŵp Uwch Arweinwyr Gweithredol a chyflwyno Uwch Hyrwyddwr Iaith Gymraeg cenedlaethol.
Mae camau gweithredu sy’n ymateb i argymhellion yr adolygiad yn yr adroddiad wedi cael eu cynnwys ym mesurau a chynllun gweithredu ein Cynllun ac adroddir arnynt fel rhan o’n prosesau monitro blynyddol arferol.