Policy paper

Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl sy’n Agored i Niwed - Ebrill 2022

Updated 3 November 2022

1. Cyflwyniad

Gall dod i’r llys fod yn brofiad brawychus i unrhyw un, ond gall fod yn her fwy fyth i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl sy’n Agored i Niwed GLlTEM yn cefnogi ein nod o wneud llysoedd a thribiwnlysoedd yn hygyrch i bawb. Mae’n nodi’r gwaith rydym yn ei wneud i sicrhau nad yw ein defnyddwyr sy’n agored i niwed o dan anfantais neu y gwahaniaethir yn eu herbyn, wrth i ni ddarparu gwasanaethau nawr, yn ystod yr adferiad o COVID-19 ac yn y dyfodol.

Ein hymrwymiad yw sicrhau ein bod yn gwrando ar ein partneriaid sy’n cefnogi grwpiau sy’n agored i niwed, yn ogystal â phobl sy’n agored i niwed eu hunain, ac yn addasu ac yn gwella ein gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) ac adrannau eraill y llywodraeth i sicrhau ein bod yn darparu’r lefel gywir o gymorth, fel y gall ein defnyddwyr sy’n agored i niwed gael mynediad i’r system gyfiawnder yn ddiogel ac yn hyderus.

2. Cefndir

Yn ystod COVID-19, newidiwyd y ffordd yr oedd llysoedd a thribiwnlysoedd yn gweithio fel y gallent barhau i fynd rhagddynt yn ddiogel. Nododd ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl sy’n Agored i Niwed cyntaf ym mis Gorffennaf 2020 sut yr oeddem yn cefnogi defnyddwyr sy’n agored i niwed fel y gallent barhau i gael mynediad i’r system gyfiawnder ac ymgysylltu â ffyrdd newydd o weithio. Cyhoeddwyd diweddariad ym mis Hydref 2021.

Rydym bellach wedi datblygu ac ymestyn ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl sy’n Agored i Niwed i gynnwys y gwaith rydym yn ei wneud fel rhan o raglen ddiwygio GLlTEM i gynllunio gwasanaethau hygyrch yn y dyfodol.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth fel y gall defnyddwyr sy’n agored i niwed gael mynediad i’r system gyfiawnder yn ddiogel ac yn hyderus. Y rhain yw:

  • darparu’r cymorth cywir sydd ei angen ar ddefnyddwyr sy’n agored i niwed i gael gafael ar wasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd a chymryd rhan ynddynt a chyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth a chymorth pan fo ddefnyddwyr sy’n agored i niwed eu hangen
  • casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr sy’n agored i niwed
  • gwneud gwasanaethau’n hygyrch i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed.

Mae ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl sy’n Agored i Niwed yn gynllun gweithredol a byddwn yn parhau i sicrhau bod ein defnyddwyr sy’n agored i niwed yn gallu cael mynediad i’n gwasanaethau. Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • ymgysylltu’n barhaus â defnyddwyr sy’n agored i niwed a’r rhai sy’n cefnogi grwpiau sy’n agored i niwed
  • ystyried effaith newid deddfwriaethol fel Deddf Cam-drin Domestig 2021; y Bil Dioddefwyr, a Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd
  • gweithredu strategaethau trawslywodraethol newydd megis y strategaeth anabledd genedlaethol, y strategaeth genedlaethol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion awtistig, cynllun gweithredu niwroamrywiaeth yr MoJ.

3. Yr hyn yr ydym wedi’i wneud ers ein diweddariad diwethaf

3.1 Darparu’r cymorth cywir sydd ei angen ar ddefnyddwyr sy’n agored i niwed i gael gafael ar wasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd a chymryd rhan ynddynt a chyfeirio atynt pan fo ddefnyddwyr sy’n agored i niwed eu hangen

Traws-awdurdodaethol

Cyflwyno’r Gwasanaeth Penodi Cyfryngwr newydd ym mis Ebrill 2022 sy’n nodi’r ansawdd a’r safonau sy’n ofynnol gan gyfryngwyr. Mae cyfryngwyr yn helpu defnyddwyr sydd ag anghenion cyfathrebu ac yn darparu cymorth proffesiynol fel y gallant gymryd rhan mewn achosion llys a thribiwnlys.

Cyflwyno’r contract gwasanaeth cymorth digidol i ‘We Are Digital’, un o brif ddarparwyr sgiliau digidol a chynhwysiant y DU. Rydym yn disgwyl y bydd yn darparu gwasanaeth llawn a chwmpas daearyddol cynhwysfawr o fis Mai 2022 ar gyfer ein gwasanaethau diwygiedig. Bydd defnyddwyr sy’n wynebu allgáu digidol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael mynediad at wasanaethau GLlTEM ac yn amlach na pheidio, nhw yw’r rhai sydd fwyaf agored i niwed.

Llysoedd Troseddol

Cyflwynwyd animeiddiad YouTube ar gyfer rheithgorau ym mis Chwefror 2022. Anfonir y ddolen ar ôl i’r gwasanaeth rheithgor ddod i ben ac mae’n rhoi cyngor ymarferol i aelodau’r reithgor ac yn cyfeirio at y cymorth emosiynol sydd ar gael os oes ei angen arnynt. Gall hyn helpu i gefnogi’r rheithwyr hynny sy’n teimlo’n agored i niwed ac sydd angen cymorth emosiynol.

Cyflwyno fideo hyfforddiant ar gyfer staff ym mis Ionawr 2022, sy’n esbonio sut i ddelio â cheisiadau am unrhyw gymorth ychwanegol a wneir gan reithwyr ag anableddau fel y gallant gymryd rhan lawn mewn gwasanaeth rheithgor. Gelwir y rhain yn addasiadau rhesymol.

Cyflwyno pecyn dysgu yng ngwanwyn 2022 i helpu ein staff i ddarparu cymorth effeithiol i ddioddefwyr a thystion. Mae hyn yn cynnwys pwysigrwydd darparu gwasanaeth i ddioddefwyr a thystion sy’n diwallu eu hanghenion unigol a fydd yn eu helpu i roi eu tystiolaeth orau.

Llysoedd Teulu, Sifil a Thribiwnlysoedd

Cynnal profion defnyddwyr gwasanaeth i symleiddio ffurflen gais y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth. Mae’r ffurflen yn gofyn i ddefnyddwyr a fyddent yn gallu cymryd rhan mewn gwrandawiad o bell i ganiatáu i’r barnwr gytuno ar y math cywir o wrandawiad i’r partïon yn yr achos. Gall hyn helpu i gefnogi ein defnyddwyr sy’n agored i niwed yn y ffordd sy’n diwallu eu hanghenion orau.

Pan fydd gwrandawiadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCS) yn cael eu cofnodi, fe’i defnyddir fel ‘cofnod o’r achosion’. Ar gyfer achosion digidol gall y defnyddiwr ofyn am hyn a’i gyrchu ar-lein ond lle nad yw’r defnyddiwr yn gallu cyrchu’r cofnod ar-lein gallant ofyn amdano mewn fformat arall.

3.2 Casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr sy’n agored i niwed

Traws-awdurdodaethol

Mae canfyddiadau’r adroddiad gwerthuso gwrandawiadau o bell wedi’u cyhoeddi; roeddent yn argymell mwy o gymorth i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed a chynyddu ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i ddefnyddwyr cyhoeddus wrth fynychu gwrandawiad o bell. Roeddent hefyd yn argymell datblygu a hyrwyddo hyfforddiant ac arweiniad i staff ar reoli cyfieithwyr a chyfryngwyr mewn gwrandawiadau o bell. Bydd y canfyddiadau yn ein helpu i fynd i’r afael â materion, megis cyfathrebu a mynediad at gymorth i’n holl ddefnyddwyr gan gynnwys y rhai sy’n agored i niwed.

Trosedd

Gwerthuso hyfforddiant y tîm Gorfodi ar adnabod ac ymateb i anghenion pobl sy’n agored i niwed. Bydd hyn yn llywio’r ffordd rydym yn datblygu’r hyfforddiant ar gyfer staff eraill GLlTEM.

Gwerthusiad GLlTEM o wrandawiadau o bell yn ystod pandemig COVID 19:

Nid yw’n peri’r un straen, mae’n cael gwared â’r pethau negyddol. Nid oes rhaid iddynt deithio i’r gwrandawiad felly gallant osgoi trafnidiaeth gyhoeddus. Yn ariannol ac yn feddyliol, mae’n cael gwared ar lawer o straen

3.3 Gwneud gwasanaethau’n hygyrch i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed

Traws-Awdurdodaeth

Datblygu cynnyrch dysgu a gwell arweiniad i’n staff i’w cefnogi wrth ystyried ein dyletswydd cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus (PSED) wrth gyflwyno newid i sicrhau nad yw defnyddwyr gwasanaeth o dan anfantais neu’n cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn.

Cyhoeddi canllawiau ar GOV.UK i helpu pobl i ddeall beth i’w ddisgwyl mewn gwrandawiad Platfform Fideo’r Cwmwl (CVP) a rhoi cyfle i gyfranogwyr ymgyfarwyddo â’r broses cyn y gwrandawiad. Mae yna hefyd rif cymorth y gall defnyddwyr ei ffonio.

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Oxford Brookes a’r Farnwriaeth, rydym wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau i helpu defnyddwyr y system gyfiawnder i gael mynediad i’r system gyfiawnder a chymryd rhan ynddi mewn gwrandawiadau ar-lein a gwella dealltwriaeth o brosesau’r llysoedd. Mae’r ffilmiau ar gael gydag isdeitlau mewn chwe iaith ynghyd â fersiwn Iaith Arwyddion Prydain.

Llysoedd Troseddol

Ehangu’r cynllun ar gyfer dioddefwyr a thystion sy’n agored i niwed i roi tystiolaeth wedi’i recordio ymlaen llaw ym mhob un o Lysoedd y Goron. Gall dioddefwyr neu dystion roi tystiolaeth ymhell cyn y treial - felly nid oes rhaid iddynt fynd i’r llys yn gorfforol ar ddiwrnod y gwrandawiad mwyach.

Llysoedd Teulu, Sifil a Thribiwnlysoedd

Gwella ffurflen gais gwaharddeb Deddf Cyfraith Teulu a chyflwyno templed datganiad tyst ar gyfer ceiswyr. Mae’r ffurflen yn darparu gwybodaeth bwysig, am gadw manylion cyswllt yn gyfrinachol, cyfarwyddyd penodol i osgoi rhoi manylion lloches ar y ffurflen gais a manylion arbennig mesurau a allai fod ar gael.

Gwella ein canllawiau ar geisiadau am ysgariad, gan ddefnyddio iaith haws ei deall i leihau nifer yr achosion a wrthodwyd oherwydd eu bod wedi’u cwblhau’n anghywir. Rydym wedi diweddaru’r manylion cyfeirio ar GOV.UK ac mae’r ffurflen gais ddigidol yn darparu gwybodaeth gyswllt os oes angen cymorth neu gefnogaeth bellach. Daw cyfreithiau newydd i rym ym mis Ebrill 2022 sy’n symleiddio’r broses ysgariad ymhellach ac yn caniatáu i gyplau allu ysgaru heb roi bai ar eu gilydd, sy’n anelu at leihau gwrthdaro ac anghydfod.

Mae cyflwyno gwrandawiadau o bell mewn tribiwnlysoedd Anghenion Addysgol Arbennig (SEN) wedi golygu nad yw partïon, ac yn enwedig rhieni plant â SEN neu berson ifanc â SEN, bellach yn gorfod teithio i’r gwrandawiad. Mae hyn hefyd yn golygu nad oes angen i rieni ddod â gofalwr gyda nhw mwyach i ofalu am y plentyn os nad yw’r plentyn yn y gwrandawiad ei hun.

Mae 200 o sgriniau wedi’u cyflwyno yn ein Llysoedd Teulu sy’n golygu y gall dioddefwyr cam-drin domestig osgoi gweld y cyflawnwr a gyhuddwyd yn ystod gwrandawiad y llys.

Cyflwyno rhif rhadffôn ar gyfer partïon sy’n ymuno â gwrandawiadau CVP Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant dros y ffôn

4. Ein Cynllun

4.1 Darparu’r cymorth cywir sydd ei angen ar ddefnyddwyr sy’n agored i niwed i gael gafael ar wasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd a chymryd rhan ynddynt a chyfeirio pan fydd defnyddwyr sy’n agored i niwed eu hangen

Rydym yn: Amserlen ar gyfer cwblhau Awdurdodaeth dan sylw
cyflwyno polisi diogelu, canllawiau a hyfforddiant i staff newydd GLlTEM , i sicrhau bod gennym y sgiliau a’r wybodaeth i gefnogi defnyddwyr sy’n agored i niwed y gallai fod angen eu diogelu Drwy gydol 2022 Traws-awdurdodaethol
profi’r Cynllun Blodau Haul Anableddau Cudd yn y Llysoedd Barn Brenhinol (RCJ), Llys Cyfun Wigan a Llys y Goron a Llys Ynadon Manceinion fel rhan o’n hymrwymiad yn y strategaeth awtistiaeth drawslywodraethol, bydd y cynllun yn cael ei werthuso i lywio’r posibilrwydd o’i gyflwyno ar draws holl safleoedd GLlTEM i gefnogi defnyddwyr ag anableddau cudd Gwanwyn - Haf 2022 Traws-awdurdodaethol
datblygu strategaeth gyfeirio newydd i wella’r ffordd rydym yn cysylltu defnyddwyr gwasanaethau â gwasanaethau cymorth allanol pan fo angen, bydd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys cyflwyno canllaw i staff ar sut i gynnwys gwasanaethau cyfeirio effeithiol yn ein taflenni gwybodaeth i’r cyhoedd ac ar GOV.UK Drwy gydol 2022 Traws-awdurdodaethol
adolygu cynllun sefydliadol ein canolfannau gwrandawiadau llysoedd a thribiwnlysoedd, bydd staff sy’n wynebu’r cyhoedd yn mynd ati’n rhagweithiol i adnabod a helpu defnyddwyr gwasanaeth ag anghenion cymorth ychwanegol, gan roi gwybodaeth glir a chyfeirio at ffynonellau eraill pan fo angen, a darparu gwasanaethau digidol cymorth i ddefnyddwyr yn ystod gwrandawiadau Parhaus Traws-awdurdodaethol
gwella canllawiau a deunyddiau dysgu i helpu staff i gefnogi tystion sy’n agored i niwed neu’n cael eu bygwth sy’n cofnodi eu tystiolaeth ymlaen llaw cyn y treial (Adran 28) Parhaus Troseddol
hwyluso’r gwaith o ddarparu Rhaglenni’r GIG i barhau i gyflwyno gwasanaethau gofal iechyd mewn ystafelloedd remand mewn lleoliadau llys, mae hyn yn cynnwys hwyluso’r gwaith o weithredu Gofynion Triniaeth Dedfrydau Cymunedol ac ehangu gwasanaethau Cyswllt a Dargyfeirio ar draws Llysoedd y Goron Parhaus Troseddol
gweithio gyda Thribiwnlysoedd Cyflogaeth i wella’r ffordd y caiff ceisiadau am addasiadau rhesymol eu cipio, a nodi’r ffordd orau o weithredu’r ceisiadau hyn, rydym yn defnyddio ymchwil i ddeall gofynion gwasanaeth i ddiwallu anghenion cymorth defnyddwyr ag anghenion ychwanegol neu gymhleth Gwanwyn – Haf 2022 Llys Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd
adolygu’r broses gwneud cais am brofiant i symleiddio’r ffurflenni a’r canllawiau i’w gwneud yn haws i’w deall, byddwn yn casglu adborth defnyddwyr ar y daith ddigidol ac yn edrych ar ffyrdd o wella’r broses i bawb, gan gynnwys ein defnyddwyr bregus Haf – Hydref 2022 Llys Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd

Gwasanaeth Tystion Cyngor ar Bopeth, Adborth A28:

Mae paratoi cyn y gwrandawiad A28 yn rhan hanfodol o sicrhau bod tystion yn teimlo’n barod i roi tystiolaeth, gan ganiatáu i gymorth ac esboniadau gael eu darparu

4.2 Casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr sy’n agored i niwed

Rydym yn: Amserlen ar gyfer cwblhau Awdurdodaeth dan sylw
cynnal asesiadau mynediad at gyfiawnder ar draws ein gwasanaethau, i nodi lle y gellir gwneud gwelliannau, mae data nodweddion gwarchodedig yn un ffynhonnell wybodaeth sy’n cael ei defnyddio a fydd yn ein helpu i gael dealltwriaeth lawnach o’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, fel y gellir cefnogi anghenion defnyddwyr yn well Parhaus Traws-awdurdodaethol
nodi pa gymorth y mae defnyddiwr wedi’i gael wrth lenwi ffurflenni GLlTEM er mwyn deall anghenion defnyddwyr yn well, bydd hyn yn ein helpu i ddeall anghenion cymorth defnyddwyr yn well, yn enwedig os ydynt yn agored i niwed Parhaus Traws-awdurdodaethol
parhau i gefnogi ein staff i ystyried ein hasesiadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus wrth newid neu gyflwyno gwasanaeth newydd Parhaus Traws-awdurdodaethol
defnyddio canfyddiadau’r gwerthusiad o wrandawiadau o bell i lywio ein defnydd o wrandawiadau sain a fideo, bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut mae defnyddio gwrandawiadau o bell yn effeithio ar rai grwpiau sy’n agored i niwed Parhaus Traws-awdurdodaethol
parhau i archwilio’r defnydd o ddata nodweddion gwarchodedig gan reithgor i helpu i lywio gwelliannau gwasanaethau rheithgor - (mae’n groes i’r gyfraith i wahaniaethu yn erbyn unrhyw un oherwydd: oedran, ailbennu rhywedd, bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth, anabledd, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiolm, gelwir y rhain yn nodweddion gwarchodedig) Parhaus Troseddol
ail-lansio’r cynllun peilot mewn perthynas ag oriau gweithredu estynedig yn ein Canolfannau Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd, bydd yn mynd rhagddo am chwe mis o fis Chwefror 2022, ar draws gwasanaethau Ysgariad a Phrofiant, bydd defnyddwyr yn gallu cael gafael ar gymorth mewn ffordd, ac ar adeg, sy’n gyfleus iddynt ac sy’n diwallu eu hanghenion personol yn well Gwanwyn - Hydref 2022 Llys Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd

Gwerthusiad GLlTEM o wrandawiadau o bell yn ystod pandemig COVID 19

I fod yn onest mae’n well gen i ei fod [yn cael ei wneud o bell] a byddwn i wir yn gwthio am hyn yn y dyfodol. Gan fy mod yn anabl, rwy’n ei chael hi’n anodd iawn mynd i’r llys beth bynnag ac mae’n achosi straen mawr imi, tra bod hyn yn lleihau’r straen

4.3 Gwneud gwasanaethau’n hygyrch i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed

Rydym yn: Amserlen ar gyfer cwblhau Awdurdodaeth dan sylw
gweithio gyda’n gwasanaethau diwygiedig i’w helpu i edrych ar ffyrdd o ddileu’r rhwystrau sy’n atal mynediad at gyfiawnder, a helpu gwasanaethau i gydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd ar-lein i sicrhau bod ein gwasanaethau digidol yn hygyrch ac yn bodloni’r safonau gofynnol Parhaus Traws-awdurdodaethol
edrych ar ffyrdd o wneud y Llysoedd Barn Brenhinol yn fwy hygyrch i bawb, ein nod yw gwella profiad defnyddwyr ag anableddau a sefydlu a gwreiddio arfer gorau Drwy gydol 2022 Traws-awdurdodaethol
datblygu canllawiau i gefnogi cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn galluogi dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain i fod yn bresennol yn ystafell drafod y rheithgor Gwanwyn - Haf 2022 Troseddol
symleiddio’r gwasanaeth mabwysiadu i bartïon a chanolbwyntio ar ddatrys achosion yn gynnar, byddwn yn gwella tryloywder wrth i achosion fynd rhagddynt, yn lleihau’r amser a gymerir i gyrraedd gorchymyn terfynol ac yn gwella’r ffordd y caiff cymorth ei gyfeirio at rieni biolegol, sy’n aml yn agored i niwed, wrth wneud ceisiadau, bydd gan ddefnyddwyr nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau ar-lein yr opsiwn i wneud cais ar bapur a chael gafael ar gymorth Drwy gydol 2022 Sifil, Teuluol a Thribiwnlysoedd
cyflwyno Datrysiad Gwrandawiadau Fideo (VH) newydd ar gyfer apelwyr Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCS) sy’n cefnogi defnyddwyr sydd ag anghenion hygyrchedd ychwanegol Gwanwyn - Haf 2022 Llys Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd
nodi anghenion cymorth defnyddwyr sy’n agored i niwed i roi baner dangosydd ar achos, bydd hyn yn ein helpu i nodi gofynion defnyddwyr a sicrhau bod yr addasiadau priodol ar gael pan fo angen Gwanwyn – Haf 2022 Llys Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd
adeiladu system sy’n galluogi mynediad cyfartal i gyfiawnder i apelwyr Mewnfudo a Lloches yn bersonol yn erbyn y rhai sydd â chynrychiolaeth gyfreithiol gyda gwerthusiad cynlluniedig o siwrnai yr apelydd yn bersonol Gwanwyn - Haf 2022 Llys Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd
gweithredu’r newidiadau o Fil Cam-drin Domestig 2022 i gynnwys mesurau arbennig yn y llys sirol a gwahardd croesholi mewn achosion sifil Haf - Hydref 2022 Llys Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd

5. Edrych i’r dyfodol

Byddwn yn parhau i adolygu unrhyw newidiadau a wnawn i ddeall beth yw’r effeithiau ar ddefnyddwyr sy’n agored i niwed.

Rydym yn bwriadu ystyried sut rydym yn gwerthuso profiad dioddefwyr, tystion a diffynyddion – yn enwedig y rhai y bernir eu bod yn agored i niwed ac o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig — mewn llysoedd troseddol.

Byddwn yn parhau i siarad â rhanddeiliaid a phartneriaid allanol a thrwy ein Grwpiau Ymgysylltu â Defnyddwyr Cyhoeddus i gael adborth a deall beth yw’r problemau.

Os byddwn yn canfod effeithiau negyddol ar bobl sy’n agored i niwed sy’n defnyddio ein gwasanaethau, byddwn yn parhau i gymryd camau i’w datrys a’u cynnwys yn ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl sy’n Agored i Niwed.

Byddwn yn parhau i gyhoeddi ein cynllun ar GOV.UK.