Canllawiau

Canllawiau i awdurdodau gwreiddiol

Diweddarwyd 19 April 2024

Applies to England and Wales

1. Cyflwyniad

Mae’r canllawiau hyn wedi eu hanelu at staff awdurdod gwreiddiol sy’n gwneud cais i Gofrestrfa Tir EF i gofrestru pridiannau tir lleol neu i amrywio neu ddileu cofrestriadau. Nod y canllawiau yw cefnogi anghenion awdurdodau gwreiddiol mewn gwasanaeth byw, eu cynorthwyo i ddeall eu cyfrifoldebau a’u helpu i ddarparu cysondeb yn y data sy’n cael ei gyflenwi i gofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EF.

Bydd y canllawiau’n cael eu diweddaru o bryd i’w gilydd yn ôl yr angen.

Nid yw’r canllawiau wedi eu bwriadu i roi cyngor ar gyfraith pridiannau tir lleol nac i ddisodli’r wybodaeth a geir yn Pridiannau Tir Lleol Garner neu yn rhywle arall.

Ni all Cofrestrfa Tir EF roi cyngor cyfreithiol ynghylch a yw pridiant yn bridiant tir lleol na phwy yw’r awdurdod gwreiddiol mewn perthynas â phridiant arbennig.

Caiff Rheolwr Perthynas ei glustnodi i bob awdurdod gwreiddiol unwaith bydd yr awdurdod yn trosglwyddo i wasanaeth Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EF. Gweler ‘Ymholiadau cwsmeriaid’ am y math o faterion y dylid eu cyfeirio at eich Rheolwr Perthynas.

2. Gwiriadau ansawdd a wneir gan Gofrestrfa Tir EF mewn gwasanaeth byw

Mae gan Gofrestrfa Tir EF dîm ymroddedig o staff sy’n monitro ansawdd y data sy’n cael ei gofnodi ar y gofrestr yn gyson.

Ni ddylai awdurdodau gwreiddiol ddibynnu ar Gofrestrfa Tir EF yn nodi problemau gyda’u ceisiadau Pridiannau Tir Lleol, a dylent gael eu gweithdrefnau eu hunain ar waith i sicrhau bod ceisiadau’n cael eu gwneud mewn modd amserol a bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir ac yn gyflawn.

Ni all Cofrestrfa Tir EF sefydlu a yw’r wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau gwreiddiol yn gywir neu’n gyflawn ac ni allwn nodi chwaith pryd y dylai ceisiadau i gofrestru fod wedi cael eu gwneud ond nad ydynt wedi.

Mae Cofrestrfa Tir EF yn defnyddio rhai pwyntiau adolygu i helpu i fonitro nifer y cofrestriadau a wneir gan awdurdodau. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • 7 diwrnod o ddim gweithgaredd – os na fydd awdurdod lleol yn ychwanegu, amrywio neu ddileu pridiant o fewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod, efallai byddwn yn cysylltu i wneud yn siwr bod popeth yn iawn. Dim ond i awdurdodau lleol y mae’r gwiriad hwn yn gymwys.

  • Gweithgarwch afreolaidd 14 diwrnod – Er enghraifft, pe bai awdurdod lleol yn ychwanegu pridiant un wythnos ac yn ychwanegu 40 yr wythnos nesaf, efallai byddwn yn cysylltu i wneud yn siwr nad yw’r awdurdod yn cael problemau. Bydd gwyriad o fwy na 50% o weithgarwch arferol awdurdod fel arfer yn arwain atom yn cysylltu. Dim ond i awdurdodau lleol mae’r gwiriad hwn yn gymwys.

  • Creu pridiant 28 diwrnod – Os na fydd cais i gofrestru pridiant wedi ei wneud o fewn 28 diwrnod i’r pridiant yn cael ei greu neu’n dod i fodolaeth, efallai byddwn yn cysylltu â’r awdurdod gwreiddiol i archwilio’r rhesymau dros yr oedi. Caiff yr awdurdod ei atgoffa y gallai canlyniadau chwiliad fod wedi eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod hwn a allent fod wedi methu â datgelu pridiant tir lleol oedd yn bodoli ar yr adeg y gwnaed y chwiliad. Byddwn yn ystyried a oes angen cysylltu â chwsmeriaid sydd wedi cael canlyniadau’r chwiliadau hyn. Mae’r gwiriad hwn yn gymwys i bob awdurdod gwreiddiol.

Nodyn atgoffa: pwynt adolygu Cofrestrfa Tir EF yn unig yw’r gwiriad 28 diwrnod – ni fydd sicrhau bod y cais yn cael ei wneud o fewn y cyfnod hwn yn effeithio nac yn ein hatal rhag adennill iawndal gan awdurdod gwreiddiol o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (fel y diwygiwyd gan Ddeddf Seilwaith 2015).

  • Math o bridiant gwahanol misol – rydym yn monitro pob cofrestriad i sicrhau bod pob categori o bridiant, megis tai, cynllunio ac ariannol, yn cael ei gofrestru bob mis. Os nad yw hyn yn wir, efallai byddwn yn cysylltu ag awdurdod i wneud yn siwr bod popeth yn iawn.

Dim ond i awdurdodau lleol y mae’r gwiriad hwn yn gymwys.

Anogir awdurdodau i gysylltu â’u Rheolwr Perthynas ar ôl iddynt ddod yn ymwybodol o amgylchiadau o fewn eu sefydliad a allai arwain at dorri un neu ragor o’r pwyntiau adolygu hyn. Yn ogystal, ni fydd pob achos o dorri’r pwyntiau adolygu uchod yn arwain at glywed gennym ni, yn enwedig lle’r ydym eisoes yn ymwybodol o’r rhesymau tu ôl i’r toriad.

2.1 Defnyddwyr Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau

Bydd awdurdodau lleol sy’n defnyddio Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau Cofrestrfa Tir EF i gofrestru, amrywio a dileu pridiannau yn cael adroddiad dyddiol gan eu darparwr gwasanaeth (Idox, NEC ac yn y blaen). Bydd yr adroddiad hwn yn manylu ar yr holl weithgarwch pridiant ar gyfer y diwrnod blaenorol. Yn bwysig, bydd yn dynodi unrhyw bridiannau nad ydynt wedi eu prosesu’n llwyddiannus trwy’r Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau ac o ganlyniad ddim wedi cael eu derbyn gan Gofrestrfa Tir EF.

Dylai’r awdurdod ymchwilio i’r pridiannau hyn fel mater o frys a chymryd camau unioni priodol i sicrhau bod y pridiant yn cael ei gofrestru.

Os nad yw eich tîm Pridiannau Tir Lleol yn cael yr adroddiadau hyn ar hyn o bryd, cysylltwch â’ch adran TG yn y lle cyntaf.

Gweler yr Atodiad am enghraifft o log gwallau.

2.2 Sut mae ansawdd data yn cael ei asesu?

Yn ogystal â gwirio nifer y pridiannau a gofrestrir gan awdurdodau gwreiddiol, rydym yn cynnal cyfres o wiriadau ansawdd data ar yr holl bridiannau newydd a ychwanegir at y gofrestr gan gynnwys pridiannau sydd wedi eu golygu (eu hamrywio). Mae’r gwiriadau hyn yn barhad o’r safonau ansawdd data sy’n gymwys mewn mudo ac maent i sicrhau bod yr un safonau’n cael eu cynnal mewn gwasanaeth byw.

Gwybodaeth destunol – a yw pob dyddiad mewn trefn resymegol (dyddiad cofrestru ar ôl y dyddiad creu)?

  • a yw’r cod post yn ddilys?

  • a oes cyfeiriad dilys (ac a yw wedi ei strwythuro’n gywir)?

  • a oes unrhyw nodau annilys o fewn y pridiant?

Gwybodaeth ofodol – a yw’r polygon yn geo-ofodol ddilys (a yw’n cynnwys hunan groestoriadau ac yn y blaen)?

  • a yw’r polygon yn disgyn i’r ardal cod post a ddyfynnir?

  • a ddefnyddiwyd pwynt/llinell yn lle polygon?

  • a yw’r polygon yn y lle cywir?

  • a yw’r polygon yn rhy fawr/rhy fach i’r pridiant?

Pan fydd elfennau o bridiant yn methu’r gwiriadau uchod, efallai byddwn yn tynnu sylw’r awdurdod gwreiddiol at y rhain er mwyn gweithredu ar unwaith.

2.3 Pan fydd problem gyda gwasanaeth byw yn dod i’r amlwg

Gellir diffinio problem gyda gwasanaeth byw fel unrhyw senario a allai arwain at beidio â datgelu pridiant trwy chwiliad neu fod y wybodaeth a ddatgelir gan chwiliad yn anghywir.

Mae gan Gofrestrfa Tir EF ac awdurdodau gwreiddiol rôl i’w chwarae i sicrhau bod y wybodaeth a gedwir ar y gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn gywir ac yn gyflawn.

Mae rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau gwreiddiol i wneud cais i gofrestru pridiant pan ddaw i fodolaeth, neu i wneud cais i amrywio neu ddileu cofrestriad, pan fo’n briodol.

Mae gennym gyfrifoldeb i gofrestru, amrywio neu ddileu pridiant pan wneir cais yn unol â Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018.

2.4 Datrys problemau gyda gwasanaeth byw

Disgwylir i staff yr awdurdod gwreiddiol weithio ar y cyd â ni i ddatrys unrhyw faterion o’r fath cyn gynted â phosibl. Gallai methu â gwneud hynny arwain at hawliad am iawndal ac at iawndal yn adenilladwy gan yr awdurdod gwreiddiol.

Lle bo angen, byddwn yn cysylltu â’r awdurdod lleol yr effeithir arno ac yn dilyn proses pedwar cam i geisio datrysiad i’r materion hyn.

  • Cam 1 – Rheolwr Perthynas Cofrestrfa Tir EF ar gyfer yr awdurdod gwreiddiol o dan sylw i ysgrifennu at y Swyddog Pridiannau Tir Lleol perthnasol neu swyddog cyfatebol yn gofyn i gamau gael eu cymryd i unioni’r mater. Y camau i’w gweithredu o fewn 2 wythnos i’r ebost.

  • Cam 2 – Os na fydd y mater wedi cael ei ddatrys o hyd, Rheolwr Perthynas i ailadrodd y cais am weithredu i’r cyswllt a enwir yn yr awdurdod gwreiddiol (bydd hwn yn gyswllt gwahanol i’r Swyddog Pridiannau Tir Lleol ). Y tro hwn, bydd yn copïo’r cais i Uwch Reolwr Perthynas Cofrestrfa Tir EF. Y camau i’w gweithredu o fewn 2 wythnos i’r ebost.

  • Cam 3 – Os na fydd y mater wedi cael ei ddatrys o hyd, Uwch Reolwr Perthynas yn ailadrodd y cais am gamau gweithredu ac yn uwchgyfeirio’r mater at enw cyswllt cam 3 yn yr awdurdod gwreiddiol. Y camau i’w gweithredu o fewn 2 wythnos i’r ebost.

  • Cam 4 – Os na fydd y mater wedi cael ei ddatrys o hyd, Uwch Reolwr Perthynas i ailadrodd y cais am ddatrysiad ar unwaith i Brif Swyddog Gweithredol yr awdurdod gwreiddiol a chyswllt Cymdeithas Llywodraeth Leol (lle bo’n briodol).

Byddwn yn cyflymu’r broses hon os bydd awdurdod gwreiddiol yn methu â chydymffurfio wrth fynd i’r afael â materion effaith uchel neu hollbwysig sy’n effeithio ar gofrestr Pridiannau Tir Lleol.

2.5 Ymholiadau cwsmeriaid

Dylai awdurdodau lleol ymdrin â’r ymholiadau canlynol.

  • Egluro canlyniad chwiliad – er enghraifft, os yw canlyniad yn aneglur neu os oes gwybodaeth pridiant yn anghyflawn

  • Pob cais arall am ddogfen yn ymwneud â chwiliad

  • Gwallau ‘untro’ yng nghanlyniadau chwiliad lle mae angen i’r awdurdod lleol newid neu gywiro cofnod pridiant

  • Ymholiadau CON29

  • Gwybodaeth bellach yn ymwneud â phridiannau penodol – hynny yw, arwystl ariannol​

  • Costau coll penodol

Dylid cyfeirio’r mathau canlynol o ymholiadau at Gofrestrfa Tir EF.

  • Problemau technoleg neu fynediad neu negeseuon gwall ar GOV.UK/y porthol a/neu Business Gateway

  • Ceisiadau dogfennau Hysbysiadau Rhwystro Golau

  • Cofrestru Hysbysiadau Rhwystro Golau

  • Ymholiadau ffïoedd gan gynnwys ad-daliadau ffïoedd ​

  • Ceisiadau Chwiliad Digidol â Chymorth

  • Ceisiadau Chwiliad Rheoliad Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR) 2004

  • Chwiliadau yn datgelu mwy na 250 o bridiannau

Ymholiadau cydweithredol lle bydd Cofrestrfa Tir EF a’r awdurdod lleol yn cydweithio i ddatrys y mater.

  • Datblygu themâu, er enghraifft pridiannau coll, pridiannau dyblyg, pridiannau anghyflawn.

3. Amseroldeb cofrestru

Mae rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau gwreiddiol i gofrestru pridiannau tir lleol. Lle mae rhannau 1 a 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015 wedi dod i rym, rhaid i’r awdurdod gwreiddiol wneud cais i Gofrestrfa Tir EF i gofrestru’r pridiant.

Yr awdurdod gwreiddiol yn unig sy’n parhau i fod yn gyfrifol am amseroldeb cofrestru. Monitro hyn yn unig fyddwn ni – gweler Gwiriadau ansawdd a gynhelir gan Gofrestrfa Tir EF mewn gwasanaeth byw.

Dylid gwneud cais i gofrestru pridiant cyn gynted â phosibl ar ôl i bridiant gael ei greu neu ddod i fodolaeth. Ceir risg i’r awdurdod gwreiddiol a defnyddwyr y chwiliad os ceir unrhyw oedi rhwng creu pridiant neu’r adeg y daw i fodolaeth a gwneud cais i gofrestru’r pridiant.

3.1 Hawliadau iawndal

Rydym wedi cyhoeddi manylion ar sut i hawlio ar gyfer iawndal o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Seilwaith 2015), lle gall Cofrestrfa Tir EF geisio adennill iawndal a dalwyd gan yr awdurdod gwreiddiol perthnasol.

Gall y materion canlynol arwain at hawliad am iawndal ac at iawndal y gellir ei adennill oddi wrth yr awdurdod gwreiddiol.

  • Methu â gwneud cais i gofrestru pridiant

  • Methu â gwneud cais i gofrestru pridiant mewn pryd iddo fod yn ymarferol i Gofrestrfa Tir EF osgoi mynd i atebolrwydd

  • Gwall a wnaed gan yr awdurdod gwreiddiol wrth wneud cais i gofrestru pridiant

  • Gwall a wnaed gan yr awdurdod gwreiddiol wrth wneud cais i amrywio neu ddileu’r cofrestriad

Cytunwyd ar y protocol hwn rhwng Cofrestrfa Tir EF, y Gymdeithas Llywodraeth Leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

4. Enghreifftiau o arfer da

4.1 Cyfraith (darpariaeth statudol)

Ni all Cofrestrfa Tir EF roi cyngor cyfreithiol ynghylch a yw pridiant yn bridiant tir lleol neu a ddylid defnyddio darpariaeth statudol benodol fel rhan o’r cofrestriad.

Wrth ddewis pa ddarpariaeth statudol i’w nodi yng ngwasanaeth byw Cofrestrfa Tir EF, dylai defnyddwyr bob amser geisio nodi ffurf lawnaf y ddarpariaeth â phosibl, gan gynnwys unrhyw adrannau, atodlenni neu rannau perthnasol o’r Ddeddf a ddewiswyd.

Enghreifftiau:-

  • Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 adran 106

  • Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 atodlen 9 paragraff 28(9)

Gallwch edrych ar y rhestr o ddarpariaethau statudol i weld pa rai sydd ar gael neu a yw un sy’n bodoli eisoes wedi newid. Gallwch wneud cais i gael darpariaeth statudol wedi ei hychwanegu at y rhestr hon trwy ddefnyddio ein Ffurflen Adborth. Fodd bynnag gall fod rhesymau pam na all Cofrestrfa Tir EF ganiatáu eich cais.

4.2 Dyddiad creu

Y dyddiad y crëwyd y pridiant tir lleol yw hwn, nid y dyddiad y cyrhaeddodd y pridiant dîm Pridiannau Tir Lleol yr awdurdod neu’r dyddiad y cafodd ei gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF.

Mae darparu’r dyddiad pan ddaeth y pridiant i fodolaeth yn “orfodol” o dan reol 2(1)(b) o Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018 pan fo’n amlwg o’r offeryn neu’r ddogfen sy’n cynnwys y pridiant.

4.2.1 Defnyddwyr ‘Cynnal’

Ar gyfer awdurdodau sy’n defnyddio system Cynnal Cofrestrfa Tir EF, mae maes ‘dyddiad creu’ ar gael i’w ddefnyddio. Y dyddiad penderfynu neu’r dyddiad y llofnodwyd y ddogfen/gorchymyn ddylai fod yn ddyddiad creu. Mae Cofrestrfa Tir EF yn cydnabod na fydd y dyddiad hwn ar gael mewn achosion prin felly mae’r maes hwn yn ddewisol. Fodd bynnag, lle mae’r dyddiad ar gael, dylid ei nodi.

4.2.2 Systemau meddalwedd yn defnyddio Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau Cofrestrfa Tir EF

Mae darparu arweiniad cyson yn fwy cymhleth yma gan nad oes gan y systemau meddalwedd hyn faes i ddefnyddwyr nodi dyddiad creu dilys. Ymhellach, mae’r gwahanol gyflenwyr meddalwedd wedi dehongli hyn mewn gwahanol ffyrdd naill ai trwy (i) darparu’r dyddiad yr ychwanegir y cofnod at y system, (ii) gwneud y dyddiad creu yn gyson â’r dyddiad cofrestru (NEC, DEF) neu (iii) peidio â darparu unrhyw beth (Arcus, Agile).

Gweler isod am ragor o fanylion.

4.2.3 Defnyddwyr Idox TLC

Gall Cofrestrfa Tir EF (yn y rhan fwyaf o achosion) nodi meysydd dyddiad eraill yn system eco Idox y gellir eu defnyddio fel dyddiad creu. Ar ôl hynny, gallwn ysgrifennu rheol i lenwi’r dyddiad creu gyda’r dyddiad hwn ar gyfer mudo a’r gwasanaeth byw. Mae set o reolau rhagosodedig Idox yn llenwi’r dyddiad creu gyda’r dyddiad y caiff y pridiant ei ychwanegu at TLC nad yw’n bodloni ein diffiniad, felly byddwn yn dileu’r rheol ddiofyn hon ac yn ysgrifennu rheolau unigol i bob awdurdod dynnu dyddiad o rywle arall. Bydd rheolau o’r fath yn parhau i’r gwasanaeth byw. Efallai bydd canran fach o fathau o bridiannau lle na fydd hyn yn bosibl.

4.2.4 Defnyddwyr NEC

Mae NEC wedi cadarnhau nad yw’n bosibl tynnu dyddiadau o rannau eraill o’u system. Mae NEC wedi cytuno i ychwanegu maes dyddiad penodol newydd i gofnodi pryd daeth y pridiant i fodolaeth.

Bydd hwn ar wahân i ddyddiad creu’r system ac unrhyw ddyddiadau a ddiffinnir yn y maes testun rhydd naratif, a bydd ar gael yn fersiwn Assure newydd eu meddalwedd pridiannau tir.

4.2.5 Systemau meddalwedd eraill

Byddwn yn ychwanegu rhagor o wybodaeth am y rhain wrth inni ddeall rhagor am y systemau.

4.3 Creu meintiau gofodol – cyngor cyffredinol i ddefnyddwyr Cynnal

Mae’n ofynnol darparu stent gofodol ar adeg cofrestru ar gyfer pob pridiant. Mae gan wasanaeth Cynnal Cofrestrfa Tir EF amrywiol offer a swyddogaethau i helpu i greu meintiau gofodol. Mae tudalennau ‘Sut i ddefnyddio’r map’ ar gael o fewn Cynnal i egluro pob swyddogaeth.

Gellir creu ehangder gan ddefnyddio polygon, cylch, llinell sengl neu bwynt sengl neu unrhyw gyfuniad ohonynt. Fel arfer byddai pwyntiau’n cael eu defnyddio ar gyfer ardaloedd bach lle nad yw’n ymarferol llunio polygon neu gylch.

Ar gyfer graddau lle mae ffeil eisoes yn bodoli megis yn system gynllunio awdurdod, gellir defnyddio’r swyddogaeth ‘Uwchlwytho ffeil’. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer graddau mawr neu gymhleth.

Lle mae un pridiant, megis gorchymyn rheoli mwg, yn effeithio ar nifer o eiddo, a bod yr eiddo yr effeithir arnynt i gyd yn gyffiniol, byddem yn disgwyl un polygon ar gyfer yr ardal gyfan yn hytrach na chyfres o bolygonau llai ar gyfer pob eiddo unigol.

4.4 Gorchmynion cadw coed

Dylid cymryd gofal arbennig wrth greu meintiau gofodol ar gyfer pridiannau gorchymyn cadw coed, yn enwedig pan fo’r goeden neu’r coed yn agos at ffiniau eiddo unigol. Dylid creu’r stent gofodol yn y fath fodd fel bod y pridiant gorchymyn cadw coed yn cael ei ddatgelu wrth chwilio’r eiddo cyfagos ond heb ddifetha unrhyw eiddo yn ddiangen. Mae hyn er mwyn sicrhau bod bargod y goeden yn cael ei gynrychioli, gan gofio y gall boncyff/gwaelod y goeden fod wedi ei leoli mewn un eiddo, ond y gallai’r bargod neu’r canopi effeithio ar fwy o eiddo.

Anogir awdurdodau felly, lle bo’n bosibl, i fapio pridiannau sy’n ymwneud â choeden unigol gan ddefnyddio’r swyddogaeth mapio cylch ac i fapio clystyrau o goed gan ddefnyddio polygon sy’n gorchuddio’r tir caeedig sy’n cynnwys y coed eu hunain.

4.5 Cytundebau adran 38

Mae’n ymddangos o Pridiannau Tir Lleol Garner (14eg argraffiad) nad yw’r cytundebau hyn yn gofrestradwy oni bai bod y cytundeb yn cynnwys cyfamodau o dan adran 33 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac os felly mae’r cyfamodau yn gofrestradwy.

Unwaith bydd yr awdurdod wedi gwneud y penderfyniad i gofrestru’r cytundeb fel pridiant tir lleol, rhaid iddo nodi’n ofalus y tir y mae’r cytundeb a38 yn berthnasol iddo ac a ddylai gael ei ddiffinio’n glir ar gynllun(iau) y cytundeb. Dylai’r tir hwn gael ei adlewyrchu yn y cofrestriad yn y gofrestr Pridiannau Tir Lleol. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus wrth benderfynu ar stent y cofrestriad, gan gynnwys a ddylid cynnwys nid yn unig y ffyrdd ond hefyd eiddo cyfagos ac ardaloedd a gwmpesir gan y cytundeb.

4.6 Adeiladau rhestredig a chwrtil

Mae pob cofnod adeilad rhestredig yn gofyn am gynrychioliad gofodol o’r gwrthrych byd go iawn fel y’i rhestrir (gan gynnwys unrhyw wrthrych neu strwythur sydd wedi ei osod ar yr adeilad ac unrhyw wrthrych neu strwythur o fewn cwrtil[1] yr adeilad sydd, er nad yw’n ynghlwm wrth yr adeilad, yn ffurfio rhan o’r tir ac wedi gwneud hynny ers cyn 1 Gorffennaf 1948 (adran 1(5) Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990).

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  1. Os mai adeilad neu adeiladau gwirioneddol yw’r rhestriad, rhaid darparu polygon yn dangos stent y tir neu’r eiddo y mae’r pridiant yn effeithio arno, gan gynnwys unrhyw wrthrych neu strwythur sydd wedi ei osod ar yr adeilad sydd wedi ei gynnwys yn y rhestriad.

  2. Pan fo gwrthrych fel carreg filltir, marciwr terfyn neu garreg fedd yn cael ei restru, disgwylir data pwynt.

  3. Os yw’r rhestriad yn nodwedd linellol fel wal harbwr, disgwylir llinell.

  4. Pan fo’r rhestriad yn cynnwys unrhyw strwythur cwrtil (nad yw wedi ei gynnwys yn y stent a ddarperir ar gyfer y prif adeilad rhestredig), dylid dangos y strwythur hwnnw gan ddefnyddio’r dull mwyaf priodol o’r tri dull a nodir.

  5. Er 2011 mae rhestrau Historic England yn cynnwys yn y rhan fwyaf o achosion y gynrychiolaeth ofodol yn unol â’r fanyleb uchod. (Fodd bynnag, cyn 2011, roedd Historic England yn aml yn darparu’r rhestriad fel data pwynt yn unig).

Er mwyn bodloni gofynion Cofrestrfa Tir EF, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu stent gofodol pan fo ar gael, neu gynllun yn dangos y rhestriad, fel y disgrifir uchod. Rhaid i’r stent gofodol neu’r cynllun gynnwys nid yn unig hyd a lled y prif adeilad rhestredig, ond hefyd unrhyw wrthrych neu strwythur sydd wedi ei osod ar yr adeilad, neu unrhyw wrthrych neu strwythur cwrtil sydd wedi ei gynnwys yn y rhestriad.

Lle na ellir nodi’n glir a yw gwrthrychau neu strwythurau o fewn cwrtil y prif adeilad rhestredig wedi eu cynnwys yn y rhestriad, dylai’r awdurdod ddarparu stent gofodol sy’n cynnwys pob gwrthrych neu strwythur cwrtil yr ystyrir yn rhesymol y gellir ei gynnwys yn y rhestriad, neu:

  1. Yn ddigon mawr i leihau’r risg o beidio ag adnabod tir a allai gael ei effeithio gan y pridiant, a allai arwain at faterion atebolrwydd.

  2. Nid yw mor fawr fel ei fod yn cynnwys tir y mae’n amlwg nad yw’n ddarostyngedig i’r pridiant, a allai arwain at ymholiadau ychwanegol a diangen i’r awdurdod lleol.

Yn yr achosion hyn, nid oes angen ychwanegu nodyn (fel y cyfeirir ato isod).

Mewn amgylchiadau eithriadol lle nad yw’n bosibl nodi’r strwythurau cwrtil neu’r gwrthrychau y gellir eu cynnwys yn y rhestriad, dylai’r awdurdod lleol ddarparu i ba raddau y mae’n cynnwys yr hyn a ystyrir yn rhesymol fel cwrtil uchaf posibl y prif adeilad rhestredig, ac ychwanegu’r nodyn canlynol i’r cofnod ar y gofrestr:

“Cyfeiriwch at [enw’r awdurdod lleol perthnasol] am fanylion yr adeiladau, gwrthrychau neu strwythurau penodol sy’n ffurfio’r adeilad rhestredig at ddibenion y pridiant hwn.”

Lle ychwanegir y nodyn hwn oherwydd na ellir darparu union stent gofodol, mae’n debygol iawn y gwneir ymholiadau ychwanegol i’r awdurdod lleol.

Bydd y nodyn hwn yn cael ei ddefnyddio mewn amgylchiadau eithriadol ac os yw’n gwbl angenrheidiol.


[1] Diffinnir cwrtil yn gyfreithiol fel “y gofod caeedig o dir ac adeiladau yn union o amgylch tŷ annedd”, neu “y man agored sydd wedi ei leoli o fewn tir caeedig cyffredin sy’n perthyn i dŷ annedd.” Nid yw pob mae gan adeiladau gwrtil.

4.7 Cyfamodau cadwraeth

Mae Rhan 7 o Ddeddf yr Amgylchedd 2021 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer creu cyfamodau cadwraeth, a daeth i rym ar 30 Medi 2022. Pridiant tir lleol yw cyfamod cadwraeth. Bydd cyfamodau o’r fath yn deillio o gytundebau gwirfoddol ond cyfreithiol rwymol rhwng corff cyfrifol a thirfeddiannwr, gyda’r bwriad o warchod nodweddion naturiol neu dreftadaeth y tir. Y corff cyfrifol fydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu gorff a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i fod yn gorff cyfrifol at ddibenion y Ddeddf, a rhaid i’r corff cyfrifol wneud cais i gofrestru’r arwystl yn y gofrestr pridiannau tir lleol. Gellir cael rhagor o fanylion am gyfamodau cadwraeth a chyrff cyfrifol o ganllawiau Defra.

4.8 Pridiannau Awdurdod Gwreiddiol eraill

Er mai awdurdodau lleol yw’r awdurdod gwreiddiol ar gyfer y rhan fwyaf o bridiannau tir lleol, ceir llawer o gyrff a sefydliadau gwreiddiol eraill fel cynghorau sir a pharciau cenedlaethol. Gweler ein rhestr gyhoeddedig o Awdurdodau Gwreiddiol Eraill am fanylion pellach. Mae gan yr Awdurdodau Gwreiddiol Eraill hyn hefyd fynediad at wasanaeth byw Cofrestrfa Tir EF (lle bo’n briodol).

Mae’n bwysig cofio mai dim ond i Gofrestrfa Tir EF y mae angen i Awdurdodau Gwreiddiol Eraill wneud cais i gofrestru, amrywio neu ganslo pridiannau ar gyfer ardaloedd a gwmpesir gan awdurdodau lleol sydd wedi trosglwyddo i gofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EF – gweler y rhestr hon am y manylion diweddaraf.

5. Diogelu data

Rhaid ichi sicrhau bod eich casgliad, defnydd a datgeliad o unrhyw ddata personol mewn cysylltiad â’ch defnydd o gofrestr pridiannau tir lleol Cofrestrfa Tir EF (gan gynnwys eich defnydd o’r Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau neu system Cynnal Cofrestrfa Tir EF) yn cydymffurfio â’r holl gyfreithiau diogelu data perthnasol.

6. Gofyn am ychwanegiadau neu newidiadau i’r gwasanaeth byw

6.1 Ffurflen adborth

Bydd Cofrestrfa Tir EF, o bryd i’w gilydd, yn gwella’r gwasanaeth byw i ddefnyddwyr trwy ryddhau gwelliannau a nodweddion newydd. I ddefnyddwyr y gwasanaeth Cynnal, y ffordd hawsaf i ofyn am welliant i’r gwasanaeth yw trwy ddefnyddio’r ffurflen Adborth o fewn y gwasanaeth ei hun.

Sylwer y gall fod rhesymau technegol neu resymau eraill pam na ellir ychwanegu ychwanegiad penodol at y gwasanaeth byw. Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r gwasanaeth byw fel y gwêl yn dda yn unig.

Ar gyfer defnyddwyr y Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau, gallwch gysylltu â’ch cyflenwr system i ofyn am welliant neu ddefnyddio’r ffurflen adborth trwy’ch dolen i’r gwasanaeth Cynnal.

7. Cysylltu â’r tîm Pridiannau Tir Lleol

Ebost: SPITeam@landregistry.gov.uk

Ar-lein: Ffurflen gyswllt

Ffôn: 0300 006 0422 (8:00 – 17:00 Llun i Gwener)

Cyfeiriad post:


Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EF

Tîm Prosesu

Blwch SP 326

Micheldean

GL14 9BQ

Ar gyfer unrhyw faterion sy’n ymwneud â TG, cysylltwch â’ch gwasanaethau cymorth TG eich hun yn y lle cyntaf.

Gellir rhoi gwybod am unrhyw faterion sy’n ymwneud â gwasanaeth TG Cofrestrfa Tir EF i’n Desg Gwasanaeth TG:

Ffôn: 0300 006 0422 (rhwng 07:00 - 17:00 Llun - Gwener)

Ebost: isservicedesk@landregistry.gov.uk

Bydd y ddesg wasanaeth yn cofnodi’ch digwyddiad gyda’r manylion angenrheidiol a bydd yn darparu amser cyflawni targed ac yn eich hysbysu am gynnydd.

8. Atodiad

Log gwallau Rhyngwyneb Rhaglen Ceisiadau Enghreifftiol Idox