Trwydded Data Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) i Drydydd Parti
Gwnewch gais am Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti i ailddefnyddio a chynnal dadansoddiad cyfrifiadurol ar wybodaeth a gyhoeddwyd drwy'r Gwasanaeth Gwrandawiadau Llysoedd a Thribiwnlysoedd (CaTH).
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Manylion
Gwybodaeth am y gwasanaeth hwn
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF), mewn cydweithrediad â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Archifau Cenedlaethol a’r Farnwriaeth annibynnol wedi llunio fframwaith trwyddedu newydd ar gyfer ailddefnyddio data GLlTEF.
Mae’r wybodaeth a drwyddedwyd o dan y Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti yn cynnwys rhestrau llysoedd a thribiwnlysoedd a gyhoeddir drwy CaTH a gellir eu gweld yn Gwrandawiadau Llys a Thribiwnlys - GOV.UK.
Mae CaTH yn cyhoeddi gwybodaeth mewn fformat safonol, y gellir ei darllen ar beiriant, gyda’r gallu i rannu data craidd drwy Ryngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API), felly yn galluogi dadansoddi cyfrifiadurol.
Os ydych yn dymuno ailddefnyddio a chynnal dadansoddiad cyfrifiadurol o’r data sydd ar gael, rhaid i chi wneud cais am Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti.
Data ar gyfer trwyddedu
Bydd y drwydded yn gwneud dau fath o ddata ar gael i’w ailddefnyddio:
- Data Cyhoeddus (o wybodaeth sydd ar gael i holl aelodau’r cyhoedd)
- Data Cyfyngedig (o wybodaeth sydd ar gael i’r rhai sydd ei hangen yn unig i gyflawni eu dyletswyddau proffesiynol o ystyried sensitifrwydd y data. Mae hyn yn cynnwys newyddiadurwyr achrededig, gweithwyr proffesiynol cyfreithiol a defnyddwyr llys proffesiynol eraill wedi eu rheoleiddio, fel staff meddygol a chynghorwyr cyfreithiol)
Gallwch wneud cais i dderbyn:
- Data cyhoeddus yn unig
- Data cyhoeddus a chyfyngedig os ydych yn aelod achrededig o’r cyfryngau neu’n ddefnyddiwr proffesiynol awdurdodedig, sydd eisoes â hawliau mynediad at wybodaeth gyfyngedig
- Data Cyhoeddus a Chyfyngedig os nad ydych yn aelod o’r wasg achrededig neu broffesiwn cyfreithiol, ar yr amod bod unrhyw gynnyrch neu wasanaethau rydych yn eu creu drwy ei ddefnyddio ar gael i’r gweithwyr proffesiynol hynny sydd â threfniant mynediad presennol eisoes ar gyfer y Data Cyfyngedig gyda GLLTEF.
Trwyddedau ar gael ar gyfer ailddefnydd cyfrifiadurol
Rydym yn cyhoeddi dau fath o drwydded sy’n caniatáu ailddefnydd cyfrifiadurol o’r data a gyhoeddir gan wasanaeth Gwrandawiadau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd . Bydd y Panel Llywodraethu Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti angen cymeradwyo ceisiadau cyn y gellir cyflwyno unrhyw drwydded.
- Trwydded arbrofol - Tymor Blwyddyn
Mae’r drwydded hon yn eich caniatáu i gynnal dadansoddiad cyfrifiadurol i ddatblygu prawf o gysyniad. Ni all y dadansoddiad neu’r gwasanaeth gael ei ryddhau i gwsmeriaid na’r cyhoedd ac mae ar gael i’r trwyddedai a GLlTEF yn unig.
- Trwydded drafodaethol - 3 Blynedd
Mae’r drwydded hon yn eich caniatáu i gynnal dadansoddiad cyfrifiadurol i allu datblygu a darparu gwasanaethau a chynhyrchion masnachol.
Mae’r penderfyniad i roi trwydded Arbrofol neu drwydded Drafodaethol yn ôl disgresiwn y Panel a bydd yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cais.
Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried fel peri risg uchel ac yn cael cynnig trwydded arbrofol os byddant yn ailddefnyddio rhestrau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd i:
- gynhyrchu cyngor cyfreithiol cwbl awtomataidd
- berfformio awtomeiddio i ragweld penderfyniadau cyfreithiol yn uniongyrchol ar gyfer cleient neu ddefnyddiwr, fel adnoddau sy’n pennu disgwyliadau ar gyfer canlyniadau achos trwy fodelu neu ddadansoddi rhagfynegol
- cyfarwyddo neu ddylanwadu fel arall ar benderfyniad trydydd parti i fynd ar drywydd cyfiawnder neu gamau cyfreithiol
- galluogi proffilio personol, yn enwedig lle bo wedi’i gyfuno gyda setiau data eraill
Os bydd trwydded arbrofol yn cael ei chymeradwyo gan y Panel i gychwyn, ar ôl blwyddyn, gallai’r trwyddedai wneud cais am drwydded drafodaethol. Nid yw cymeradwyo trwydded arbrofol yn gwarantu y bydd trwydded drafodaethol yn cael ei chymeradwyo.
Sut i wneud cais
I gyflwyno cais newydd ar gyfer Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti, cyfeiriwch at y dudalen hafan ar gyfer y ffurflen gais a’r canllawiau llawn cysylltiedig.
Cysylltwch â ni drwy ddefnyddioi’r wybodaeth isod, os nad ydych yn gallu gwneud cais ar-lein neu os oes angen cymorth arnoch i wneud cais.
Y Panel Llywodraethu Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti
Bydd ceisiadau yn destun gwiriad cwblhau cychwynnol gan Dȋm Mynediad at Ddata a Llywodraethu GLlTEF cyn cael eu hasesu ar gyfer penderfyniad gan y Panel Llywodraethu Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd Trydydd Parti.
Bydd GLlTEF yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os bydd angen gwybodaeth bellach i ystyried eich cais.
Mae’r panel yn asesu pob cais gan ddefnyddio’r egwyddorion canlynol cyn gwneud un o’r penderfyniadau canlynol:
- Caniatáu’r drwydded
- Gwrthod y cais (gyda rhesymau)
Darparu trwydded gydag amodau
Apelio penderfyniad
Os ydych yn credu fod gennych yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad, gallwch gyfeirio at y canllawiau atodol llawn proses apelio ar gyfer cais Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti GLlTEF.
Gwybodaeth Gyswllt
Os oes gennych fwy o gwestiynau, cysylltwch â ni drwy:
Cysylltwch â ni ar-lein (argymhellir) thirdpartydatalicence@justice.gov.uk
Os na allwch gysylltu â ni ar-lein, gallwch ysgrifennu atom yn:
Tim Mynediad at Ddata a Llywodraethu - Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti / Data Access & Governance Team – Third-Party Courts and Tribunals Data Licence
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF/HM Courts & Tribunals Service
Post point 6.32-34
102 Petty France
Llundain / London
SW1H 9AJ
Updates to this page
-
contact address format corrected
-
added links to guidance
-
Added translation