Canllawiau

Hawliau defnyddwyr i fyfyrwyr israddedig

Cyhoeddwyd 12 March 2015

Mae dewis y cwrs a phrifysgol cywir yn benderfyniad pwysig: rydych yn buddsoddi cryn dipyn o amser ac arian a gall fod yn anodd newid os nad ydych yn fodlon.

Bydd gwybod eich hawliau dan gyfraith defnyddwyr yn eich helpu i gael yr wybodaeth rydych angen wrth ddewis cwrs yn y brifysgol, ac yn helpu’ch diogelu os aiff pethau o chwith.

Dewis prifysgol a chwrs?

Rhaid i brifysgolion roi’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen i wneud eich penderfyniad. Mae hyn yn cynnwys:

  • cynnwys, strwythur a hyd y cwrs, lleoliad astudiaeth a’r dyfarniad a roddir ar gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus
  • cyfanswm cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu ac unrhyw gostau atodol angenrheidiol fel teithiau maes, offer labordy neu ffioedd mainc/stiwdio
  • amodau a thelerau’r brifysgol, yn cynnwys rheolau a rheoliadau a pholisïau parthed ymddygiad y myfyriwr. Rhaid i’r rhain fod yn hygyrch a chlir

Cyn, neu fan bellaf pan fyddwch yn cael cynnig, rhaid i brifysgolion roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau o’r wybodaeth ers i chi ymgeisio, a rhoi ‘gwybodaeth cyn contract’ i chi. Dylai’r wybodaeth cyn contract gynnwys:

  • gwybodaeth a chostau’r cwrs, trefniadau ar gyfer gwneud taliadau i’r brifysgol a’u proses ymdrin â chwynion
  • unrhyw hawl sydd gennych i ganslo os byddwch yn newid eich meddwl

Pan gyrhaeddwch y brifysgol

Unwaith y byddwch yn dechrau, mae amodau a thelerau’r brifysgol yn weithredol. Rhaid i’r rhain:

  • sicrhau cydbwysedd rhwng hawliau a rhwymedigaethau’r brifysgol a’r myfyriwr
  • beidio rhoi rhyddid eang i’r brifysgol newid cost neu gynnwys cwrs

Os bydd pethau’n mynd o chwith

Gallwch gwyno i’ch prifysgol. Rhaid i’w proses gwynion:

  • fod yn deg, tryloyw a hygyrch iawn i fyfyrwyr
  • sefydlu’r broses i wneud cwyn, sut y delir â’r gŵyn a sut allwch chi uwchgyfeirio eich pryderon
  • fod yn glir o ran pwy sy’n delio â chwynion, yn arbennig os darperir cyrsiau ar y cyd â sefydliad arall

Os nad ydych yn fodlon gyda sut mae’ch prifysgol yn delio â chwyn, efallai y byddwch yn gallu ei gyfeirio at gynllun cwynion annibynnol fel Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Cymru a Lloegr neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban.

Gallai prifysgolion nad ydynt yn bodloni eu rhwymedigaethau fod yn torri cyfraith defnyddwyr

Rhaid i bob sefydliad sy’n darparu cyrsiau israddedig, yn cynnwys prifysgolion a cholegau addysg bellach, gydymffurfio â chyfraith defnyddwyr. Gallai cyfraith defnyddwyr fod yn berthnasol i fathau eraill o gyrsiau hefyd.

Gallai gwybod eich hawliau eich helpu i osgoi problemau a’u datrys os aiff pethau o chwith.

Os oes gennych chi broblem, ystyriwch siarad gyda’r staff sy’n darparu’r cwrs, y rhai sy’n delio â phroblemau myfyrwyr neu’r swyddfa cyngor myfyrwyr neu undeb y myfyrwyr.

Gallwch hefyd gael cyngor gan linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06.

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael cyngor gan Consumerline ar 0300 123 6262.

Nid yw’r deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly. Efallai y bydd rhwymedigaethau atodol penodol i’r sector hefyd yn berthnasol.