Cynlluniau alcohol cryfder uchel: materion cyfraith cystadleuaeth ar gyfer masnachwyr
Cyhoeddwyd 25 Mawrth 2015
Os bydd cyngor lleol yn cysylltu â chi ynghylch ymuno â chynllun i gyfyngu ar gyflenwi alcohol cryfder uchel yn eich ardal leol, dylech fod yn ofalus i osgoi’r risg o dorri cyfraith cystadleuaeth.
Mae rhai awdurdodau lleol yn gweithredu cynlluniau i daclo problemau sy’n gysylltiedig ag yfed ar y stryd trwy annog gwerthwyr i stopio gwerthu alcohol cryfder uchel.
Ond efallai bod perygl y byddwch yn cael dirwy os ydych naill ai’n cytuno gyda masnachwyr eraill, neu’n rhannu’ch cynlluniau â nhw, i stopio gwerthu alcohol cryfder uchel.
Rhai awgrymau o beth i’w wneud a’i osgoi er mwyn peidio torri cyfraith cystadleuaeth
-
Siaradwch gyda swyddogion y cyngor am eich cynlluniau yn unigol. Peidiwch â gadael iddynt ddweud wrthych chi beth mae masnachwyr eraill yn wneud ac, os byddant yn ceisio, dywedwch wrthynt nad oes gennych ddiddordeb ac nad ydych yn fodlon ei drafod.
-
Peidiwch â rhannu gwybodaeth gyda chystadleuwyr am p’un a ydych chi’n bwriadu stocio alcohol cryfder uchel neu adael i’ch cystadleuwyr rannu eu cynlluniau parthed alcohol cryfder uchel gyda chi.
-
Peidiwch ag ymrwymo i gytuno i gynllun mewn cyfarfod os oes yna fasnachwyr eraill yn bresennol.
-
Peidiwch â chydweithio gyda masnachwyr eraill i gytuno i roi’r gorau i werthu alcohol cryfder uchel.
-
Dylech wneud eich cyfranogiad mewn cynllun yn gyhoeddus yn dilyn ei lansio yn unig.
Gallwch wneud penderfyniad annibynnol i ymuno â chynllun a stopio gwerthu alcohol cryfder uchel – ond peidiwch â thrafod hyn na chytuno i hyn mewn cydweithrediad â masnachwyr eraill.
Beth yw cyfraith cystadleuaeth a sut mae’n effeithio arnoch chi?
Mae cyfraith cystadleuaeth yn berthnasol i gwmnïau – yn cynnwys masnachwyr – sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd masnachol. Mae cosbau am dorri’r gyfraith yn cynnwys dirwyon arwyddocaol o hyd at 10% o’ch trosiant blynyddol.
Mae’r CMA wedi gweithio gyda chynghorau lleol i’w helpu i sicrhau nad ydynt yn gofyn i fusnesau dorri’r gyfraith nac yn creu risg o’u rhoi mewn sefyllfa ble gallent wneud.