Skip to main content
Canllawiau

Recordiadau sain mewn asesiadau iechyd

Diweddarwyd 29 Mehefin 2026

1. Newidiadau i asesiadau iechyd

O 29 Mehefin 2026, bydd pob apwyntiad dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yn cael ei recordio ar ffurf sain.

Rydym wedi cyflwyno recordio sain i gadw cofnod cywir o’ch asesiad.

Gallwch ofyn i’ch asesiad beidio â chael ei recordio. Ni fyddwch dan anfantais os gwnewch hynny.

2. Beth sy’n digwydd mewn asesiad

Byddwch yn cael llythyr apwyntiad gan y Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd (HAAS). Bydd yn egluro’r math o asesiad y maent wedi’i drefnu ar eich cyfer.

Bydd eich asesiad yn cael ei recordio’n awtomatig os yw:

  • dros y ffôn
  • wyneb yn wyneb (mewn canolfan neu yn eich cartref)

Gallwch ddweud wrth y gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n cynnal eich asesiad os nad ydych am gael eich recordio mwyach.

Ni fydd penderfynwyr yn defnyddio recordiadau i wneud eu penderfyniadau.

2.1 Asesiadau fideo

Ni allwn recordio asesiadau fideo oherwydd cyfyngiadau technegol. Rydym yn gweithio ar ffordd i ganiatáu recordio sain yn ystod asesiadau fideo yn y dyfodol.

Os yw cael eich asesiad wedi’i recordio yn bwysig i chi, cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad gan ddefnyddio’r rhif ar frig eich llythyr apwyntiad.

3. Os nad ydych am gael eich recordio

Os nad ydych am gael eich recordio, cysylltwch â HAAS cyn eich apwyntiad gan ddefnyddio’r rhif ar frig eich llythyr apwyntiad.

Gallwch hefyd ddweud wrth eich Gweithiwr Iechyd Proffesiynol ar unrhyw adeg yn ystod yr asesiad os nad ydych am gael eich recordio.

Ni fyddwch dan anfantais os byddwch yn optio allan. Bydd eich asesiad yn cael ei gynnal yn yr un modd. Nid yw optio allan yn effeithio ar yr amser y mae’n ei gymryd i brosesu eich cais.

Ni fydd optio allan rhag cael eich recordio yn berthnasol i asesiadau eraill yn y dyfodol. Bydd angen i chi ddweud wrthym bob tro.

4. Sut i gael eich recordiad

Gallwch ofyn am gael eich recordiad wedi’i anfon atoch ar unrhyw adeg yn ystod yr asesiad neu drwy ffonio’r rhif ar eich llythyr apwyntiad.

Pan fydd eich recordiad yn barod, byddwch yn derbyn neges destun gyda dolen ddiogel i’w lawrlwytho. Bydd angen ffôn clyfar a’ch rhif Yswiriant Gwladol arnoch i gael mynediad at y recordiad.

Os nad oes gennych ffôn neu ddull arall o lawrlwytho’r recordiad, gallwch gyflwyno Cais am Hawl Mynediad neu ysgrifennu at y DWP. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adran ‘cael cymorth i gael mynediad at eich recordiad’.

Dim ond am 7 diwrnod ar ôl iddo gael ei anfon y bydd y ddolen yn gweithio.

Os oes angen help arnoch i lawrlwytho eich recordiad, gallwch rannu’r ddolen gyda ffrind dibynadwy neu rywun sy’n eich cefnogi, ond ni ddylech ei rhannu’n ehangach.

Gallwch lawrlwytho eich recordiad fwy nag unwaith, ond dim ond o fewn 24 awr i’r lawrlwythiad cyntaf. Ar ôl y 24 awr hynny, bydd yr opsiwn lawrlwytho yn dod i ben ac ni fyddwch yn gallu ei lawrlwytho eto.

Os bydd y ddolen yn dod i ben neu os nad yw’n gweithio, bydd angen i chi ofyn am un newydd trwy ffonio’r rhif ar eich llythyr apwyntiad.

4.1 Cael help i gael mynediad at eich recordiad

Os na allwch gael mynediad at eich recordiad, gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am gopi gan ddefnyddio’r ffurflen gofyn am eich gwybodaeth bersonol gan DWP.

Gallwch hefyd ofyn am eich recordiad trwy ysgrifennu atom.

Yn eich llythyr, esboniwch eich bod eisiau copi o’ch recordiad sain asesiad iechyd. Mae’n ddefnyddiol os gallwch gynnwys y dyddiad y digwyddodd ac unrhyw anghenion hygyrchedd a allai fod gennych. Rhaid i chi hefyd gynnwys eich:

  • enw llawn
  • cyfeiriad a chod post
  • dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol

Postiwch eich cais ysgrifenedig i:

Right of Access Requests   
Mail Handling Site A   
Wolverhampton   
WV98 2EF

5. Rhannu recordiadau

Dim ond mewn perthynas â’ch cais y caniateir defnyddio eich recordiad.

Ni ddylid ei gyhoeddi na’i atgynhyrchu.

Mae gan DWP yr hawl i weithredu os defnyddir y recordiad at ddibenion anghyfreithlon. Er enghraifft, os caiff ei newid a’i gyhoeddi am resymau maleisus.

I ddysgu mwy am hawliau gwybodaeth a sut mae’r DWP yn defnyddio gwybodaeth, ewch i Siarter Gwybodaeth Bersonol DWP.

6. Sut mae’r DWP yn defnyddio’r recordiad

Fel arfer, bydd y DWP yn cadw eich recordiad am 24 mis cyn iddo gael ei ddileu’n ddiogel.

Mewn rhai achosion, fel os oes anghydfod parhaus, gellir ei gadw’n hirach.

Dim ond pan fo angen y defnyddir eich recordiad a’ch gwybodaeth bersonol. Er enghraifft, gellir ei ddefnyddio i adolygu sut y cynhaliwyd yr asesiad os oes anghydfod.

Cedwir y recordiad yn ddiogel yn unol â chyfraith diogelu data.

7. Eich gwybodaeth bersonol a’ch hawliau

Eich dewis chi yw a yw eich asesiad yn cael ei recordio.

Cedwir eich recordiad a’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel a’u trin yn unol â chyfraith diogelu data. Dim ond pan fo angen ar gyfer eich hawliad y caiff ei ddefnyddio.

Os ydych chi eisiau i’ch recordiad sain gael ei ddileu, gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data drwy e-bost ar data.protectionofficer@dwp.gov.uk neu drwy’r post:

DWP Data Protection Team 
Benton Park View 6 
Room BP6001 
Mail Handling Site A 
Wolverhampton 
WV98 1ZX