Gwneud penderfyniadau Canllaw i bobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol Helpu pobl sy’n methu gwneud rhai penderfyniadau drostyn nhw eu hunain
Diweddarwyd 23 Mehefin 2025
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Y Rhaglen Gweithredu Galluedd Meddyliol (MCIP) sydd wedi cyhoeddi’r llyfryn hwn. Mae’r Rhaglen Gweithredu Galluedd Meddyliol yn rhaglen lywodraethu ar y cyd rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Adran Iechyd, Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydlwyd i weithredu’r sefydliad, y prosesau a’r gweithdrefnau i lansio’r Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Sheila Scott, Prif Weithredwr National Care Association, a ysgrifennodd y llyfryn hwn gyda chymorth Zoe Sampson, Ruth Scott a Viv Shepherd, gyda chefnogaeth Nadra Ahmed a Dick Barton a thri grŵp ffocws.
Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’n Grŵp Cynghori, a oedd yn cynnwys sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol neu’n eu cynrychioli. Maen nhw wedi cyflawni rôl bwysig wrth rannu eu barn a’u safbwyntiau ar y llyfryn, a’n helpu i bwyso a mesur ein gwaith.
Adran 1. Cyflwyniad
Gwybodaeth am y llyfryn hwn
Mae’r llyfryn hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y Ddeddf Galluedd Meddyliol, sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr ac yn effeithio ar y ffordd rydych chi’n gweithio.
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (y Ddeddf) yn berthnasol i bawb sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac sy’n ymwneud â gofal, triniaeth neu gymorth i bobl 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru a Lloegr ac sy’n methu gwneud pob penderfyniad neu rai penderfyniadau drostyn nhw eu hunain. Gallai’r anallu i wneud penderfyniad gael ei achosi gan salwch seiciatrig (er enghraifft, dementia), anabledd dysgu, problemau iechyd meddwl, anaf i’r ymennydd neu strôc.
Mae’r Ddeddf yn effeithio ar bobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol fel meddygon, nyrsys, deintyddion, seicolegwyr, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith, gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr cartrefi gofal a phreswyl, staff gofal (gan gynnwys gweithwyr gofal cartref), gweithwyr cymorth (gan gynnwys pobl sy’n gweithio ym maes tai â chymorth) ac ar unrhyw weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill, ac mae angen iddyn nhw wybod am y Ddeddf.
Er y dylai’r llyfryn hwn roi trosolwg eang i chi o’r Ddeddf a’i phrif oblygiadau i chi yn eich gwaith, dylech gyfeirio at y Cod Ymarfer ar gyfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol (edrychwch ar ran 3), sy’n cynnwys gwybodaeth a chanllawiau mwy manwl. Mae rhestr o ffynonellau gwybodaeth manylach hefyd, a rhestr o gysylltiadau defnyddiol yng nghefn y llyfryn hwn.
Nid yw’r llyfryn hwn yn sôn am drefniadau cadw (detention) na thriniaeth orfodol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Mae Deddf 1983 yn ymwneud yn bennaf â phobl sydd wedi cael gwybod bod ganddyn nhw broblem iechyd meddwl, sy’n golygu bod rhaid iddyn nhw fod o dan drefniadau cadw neu gael eu trin er budd eu hiechyd neu eu diogelwch eu hunain neu gyda’r bwriad o amddiffyn pobl eraill.
Adran 2. Beth yw galluedd meddyliol?
Mae cael galluedd meddyliol yn golygu bod person yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun. Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn dweud nad yw person yn gallu gwneud penderfyniad penodol os nad yw’n gallu gwneud un neu fwy o’r pedwar peth canlynol.
- Deall yr wybodaeth mae’n ei derbyn.
- Dal gafael ar yr wybodaeth honno’n ddigon hir i allu gwneud y penderfyniad.
- Pwyso a mesur yr wybodaeth sydd ar gael i wneud y penderfyniad.
- Cyfleu ei benderfyniad – gallai hyn fod drwy siarad, defnyddio iaith arwyddion neu hyd yn oed symudiadau syml yn y cyhyrau, fel blincio neu wasgu llaw.
Mae pob un ohonom yn cael trafferth gwneud penderfyniadau o bryd i’w gilydd, ond mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn golygu mwy na hynny. Mae wedi cael ei chynllunio’n benodol i ymdrin â sefyllfaoedd lle mae rhywun yn methu gwneud penderfyniad oherwydd bod, er enghraifft, salwch neu anabledd yn effeithio ar y ffordd mae ei feddwl neu ei ymennydd yn gweithio, neu oherwydd effeithiau cyffuriau neu alcohol.
Gallai diffyg galluedd meddyliol ddeillio o’r canlynol:
- strôc neu anaf i’r ymennydd;
- problem iechyd meddwl;
- dementia;
- anabledd dysgu;
- dryswch, teimlo’n swrth neu fod yn anymwybodol oherwydd salwch neu’r driniaeth ar ei gyfer; neu
- gamddefnyddio sylweddau.
Mae’r math o benderfyniadau sy’n dod o dan y Ddeddf yn amrywio o benderfyniadau o ddydd i ddydd fel beth i’w wisgo neu ei fwyta, i benderfyniadau mwy difrifol ynghylch ble i fyw, cael llawdriniaeth neu beth i’w wneud ag arian ac eiddo person.
Penderfyniadau nad ydynt yn dod o dan y ddeddf newydd:
Ni all rhai mathau o benderfyniadau (fel priodas neu bartneriaeth sifil, ysgariad, perthynas rywiol, mabwysiadu a phleidleisio) fyth gael eu gwneud gan berson arall ar ran person sydd â diffyg galluedd. Y rheswm am hynny yw bod y penderfyniadau neu’r gweithredoedd hyn naill ai mor bersonol i’r unigolyn dan sylw neu oherwydd eu bod o dan reolaeth deddfau eraill, ac nid yw’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn newid hyn
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol i sefyllfaoedd lle mae person yn methu gwneud penderfyniad penodol ar adeg benodol oherwydd, er enghraifft, bod salwch neu anabledd yn effeithio ar ei feddwl neu ei ymennydd, neu oherwydd effeithiau cyffuriau neu alcohol. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun yn methu gwneud penderfyniad pan fydd yn dioddef o iselder, ond efallai y bydd yn gallu gwneud y penderfyniad pan fydd yn teimlo’n well.
Efallai nad oes gan y person y galluedd i wneud penderfyniad penodol ar adeg benodol, ond nid yw hyn yn golygu nad oes gan berson unrhyw alluedd i wneud unrhyw benderfyniadau o gwbl. Er enghraifft, efallai nad oes gan berson ag anabledd dysgu y galluedd i wneud rhai penderfyniadau mawr, er enghraifft ble dylai fyw, ond nid yw hyn o reidrwydd yn golygu nad yw’n gallu penderfynu beth i’w fwyta, ei wisgo a’i wneud bob dydd.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn cofio bob amser nad yw diffyg galluedd yn gyflwr parhaol o bosibl. Dylai asesiadau galluedd fod yn benodol o ran amser a phenderfyniad (edrychwch ar ran 6 y llyfryn hwn sy’n rhoi manylion am asesu galluedd).
Adran 3. Beth yw’r Ddeddf Galluedd Meddyliol, a pha newidiadau mae’n eu cyflwyno?
Beth yw’r Ddeddf Galluedd Meddyliol?
- Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr i bawb sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac sy’n ymwneud â thrin, cynorthwyo neu ofalu am bobl dros 16 oed sydd â diffyg galluedd o bosibl i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain.
- Mae’n seiliedig ar arferion gorau ac yn creu un fframwaith cydlynol ar gyfer delio â materion galluedd meddyliol a system well i ddatrys anghydfodau, delio â materion llesiant personol ac eiddo a materion pobl sydd â diffyg galluedd.
- Mae’n rhoi’r unigolyn sydd â diffyg galluedd wrth galon y broses o wneud penderfyniadau, ac yn rhoi pwyslais cryf ar gynorthwyo a galluogi’r unigolyn i wneud ei benderfyniadau ei hun. Os nad yw’n gallu gwneud hyn, mae’r Ddeddf yn pwysleisio y dylai’r unigolyn fod yn rhan o’r broses benderfynu hyd ag y mae modd.
- Mae’n cyflwyno mesurau diogelu newydd pwysig ar gyfer pobl sydd â diffyg galluedd a’r bobl sy’n gweithio gyda nhw, yn eu cynorthwyo neu’n gofalu amdanyn nhw.
- Mae’n seiliedig ar bum egwyddor allweddol sy’n gorfod bod yn sail i bopeth rydych chi’n ei wneud wrth ddarparu gofal neu driniaeth i berson sydd â diffyg galluedd (edrychwch ar ran 4 y llyfryn hwn).
- Mae Cod Ymarfer yn bodoli sy’n egluro sut mae’r Ddeddf yn gweithio o ddydd i ddydd.
Y Cod Ymarfer
Mae’r Cod yn egluro sut mae’r Ddeddf yn gweithio o ddydd i ddydd, ac yn rhoi arweiniad i bawb sy’n gweithio gyda phobl sydd â diffyg galluedd. Mae’r Cod yn egluro’n fanylach beth yw prif nodweddion y ddeddfwriaeth, a rhai o’r camau ymarferol y mae angen i bobl sy’n defnyddio ac yn dehongli’r ddeddf newydd eu hystyried. Os ydych chi’n gweithio gyda phobl sydd â diffyg galluedd a’ch bod yn weithiwr proffesiynol a/neu’n cael eich talu am y gwaith rydych chi’n ei wneud, mae gennych chi ddyletswydd gyfreithiol i ystyried y Cod.
Mae ystyried yn golygu rhoi sylw i’r Cod a gallu dangos eich bod yn gyfarwydd â’r canllawiau ynddo, ac os nad ydych yn dilyn y Cod dylech allu rhoi rhesymau cadarn dros beidio.
Mae’r Cod Ymarfer ar gael ar-lein yn
www.publicguardian.gov.uk
a gallwch archebu copïau papur gan TSO drwy ffonio 0870 600 5522 neu anfon e-bost customerservices@tso.co.uk
Pa newidiadau y mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn eu cyflwyno?
- Rhaid rhagdybio bob amser fod gan bobl rydych chi’n darparu gofal neu driniaeth ar eu cyfer y galluedd i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain.
- Un prawf clir ar gyfer asesu a oes gan berson ddiffyg galluedd i wneud penderfyniad (edrychwch ar ran 6).
- Rhestr wirio o ffactorau allweddol sy’n fan cychwyn i’ch helpu i benderfynu beth sydd er ‘lles pennaf’ person sydd â diffyg galluedd (rhan 7).
- Nifer o ffyrdd y gall pobl ddylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw os byddan nhw’n methu gwneud penderfyniadau penodol yn y dyfodol, gan gynnwys penderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth feddygol, datganiadau am ddymuniadau a theimladau, a chreu Atwrneiaeth Arhosol (LPA) (rhan 10).
- Eglurhad o’r camau y gallwch chi eu cymryd os oes gan rywun ddiffyg galluedd, a’r mesurau diogelu cyfreithiol sy’n rheoli hyn (rhan 9).
- Dyletswydd i chi ymgynghori, pan fydd yn ymarferol ac yn briodol, â phobl sy’n ymwneud â gofalu am y person sydd â diffyg galluedd ac unrhyw un sydd â diddordeb yn llesiant y person dan sylw (er enghraifft aelodau o’r teulu, ffrindiau, partneriaid a gofalwyr), ynghylch penderfyniadau sy’n effeithio ar y person dan sylw (rhan 7). Os oes Atwrnai o dan Atwrneiaeth Arhosol (rhan 10), Dirprwy a benodwyd gan y Llys (rhan 12) neu berson a enwyd, mae gennych hefyd ddyletswydd i ymgynghori â nhw.
- Mae gwasanaeth eirioli, sef gwasanaeth Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA), yn dod yn rhan o’r broses mewn amgylchiadau penodol lle nad oes neb priodol i ymgynghori â nhw (rhan 8).
- Trosedd newydd am gam-drin pobl sydd â diffyg galluedd neu eu hesgeuluso’n fwriadol (rhan 9).
- Mesurau diogelu newydd ar gyfer cynnal ymchwil sy’n cynnwys pobl sydd â diffyg galluedd (rhan 13).
- Llys Gwarchod newydd a swyddog cyhoeddus newydd (y Gwarcheidwad Cyhoeddus) sy’n cael cefnogaeth gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (rhan 12).
Adran 4. Pum egwyddor y Ddeddf Galluedd Meddyliol
Mae gan y Ddeddf Galluedd Meddyliol bum egwyddor allweddol sy’n pwysleisio cysyniadau sylfaenol a gwerthoedd craidd y Ddeddf. Rhaid i chi gadw’r rhain mewn cof bob amser pan fyddwch yn gweithio gyda phobl sydd â diffyg galluedd, neu’n darparu gofal neu driniaeth ar eu cyfer.
Dyma’r pum egwyddor:
- Mae gan bob oedolyn yr hawl i wneud ei benderfyniadau ei hun, a rhaid cymryd bod gan yr oedolyn y galluedd i wneud hynny oni phrofir yn wahanol. Mae hyn yn golygu na allwch chi gymryd yn ganiataol bod rhywun yn methu gwneud penderfyniad drosto’i hun dim ond oherwydd bod ganddo gyflwr meddygol neu anabledd penodol.
- Rhaid helpu pobl gymaint â phosibl i wneud penderfyniad cyn i unrhyw un ddod i’r casgliad nad ydyn nhw’n gallu gwneud eu penderfyniad eu hunain. Mae hyn yn golygu y dylech wneud pob ymdrech i annog a helpu’r person i wneud y penderfyniad drosto’i hun. Edrychwch ar ran 5 y llyfryn hwn i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn. Os bydd diffyg galluedd yn cael ei gadarnhau, mae’n dal yn bwysig eich bod yn cynnwys y person i’r graddau y bo modd wrth wneud penderfyniadau.
- Mae gan bobl hawl i wneud penderfyniadau y gallai eraill eu hystyried yn benderfyniadau ecsentrig neu annoeth. Mae gan bawb eu gwerthoedd, eu credoau a’u dymuniadau eu hunain, sydd o bosibl yn wahanol i rai pobl eraill. Ni allwch eu trin fel pobl sydd â diffyg galluedd am y rheswm hwnnw.
- Rhaid i unrhyw beth a wneir ar gyfer neu ar ran person sydd â diffyg galluedd meddyliol gael ei wneud gyda lles pennaf y person dan sylw mewn golwg. Edrychwch ar ran 7 y llyfryn hwn i gael rhagor o wybodaeth am sut i benderfynu beth sydd er lles pennaf y person rydych chi’n darparu gofal neu driniaeth ar ei gyfer.
- Dylai unrhyw beth a wneir ar gyfer neu ar ran pobl sydd â diffyg galluedd gyfyngu cyn lleied â phosibl ar eu rhyddid a’u hawliau sylfaenol. Felly, pan fyddwch chi’n gwneud unrhyw beth ar gyfer neu ar ran person sydd â diffyg galluedd, rhaid i chi ddewis yr opsiwn sydd er lles pennaf y person ac ystyried a allech chi wneud hyn mewn ffordd sy’n amharu llai ar ei hawliau a’i ryddid i weithredu.
Adran 5. Helpu pobl i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain
Pan fydd angen i berson yn eich gofal wneud penderfyniad, rhaid i chi gychwyn gyda’r rhagdybiaeth bod gan y person y galluedd i wneud y penderfyniad dan sylw (egwyddor 1). Dylech wneud pob ymdrech i annog a helpu’r person i wneud y penderfyniad ei hun (egwyddor 2), a bydd yn rhaid i chi ystyried nifer o ffactorau i gynorthwyo’r broses benderfynu.
Gallai’r rhain gynnwys:
- A oes gan y person yr holl wybodaeth berthnasol y bydd ei hangen arno i wneud y penderfyniad? Os oes dewis, a roddwyd gwybodaeth am yr opsiynau eraill?
- A fyddai’n bosibl egluro neu gyflwyno’r wybodaeth mewn ffordd sy’n haws i’r person ei deall? Dylid rhoi cymorth i gyfleu gwybodaeth lle bynnag y bo angen. Er enghraifft, efallai y bydd person ag anabledd dysgu yn ei chael yn haws cyfathrebu gan ddefnyddio lluniau, ffotograffau, fideos, tapiau neu iaith arwyddion.
- A yw dealltwriaeth person yn well ar adegau penodol o’r dydd, neu a oes man penodol lle mae’n teimlo’n fwy cyfforddus ac yn gallu gwneud penderfyniad? Er enghraifft, os bydd person yn teimlo’n swrth yn sydyn ar ôl cymryd ei feddyginiaeth, ni fyddai hyn yn amser da i’r person wneud penderfyniad.
All unrhyw un arall helpu neu gynorthwyo’r person i ddeall gwybodaeth neu i ddewis? Er enghraifft, perthynas, ffrind neu eiriolwr.
Enghraifft:
Cafodd Michael strôc 3 blynedd yn ôl. Mae wedi bod yn wael, ac mae yn yr ysbyty erbyn hyn. Mae’r meddyg yn dymuno cynnal rhagor o brofion, sy’n golygu cael anesthetig cyffredinol.
Mae’r meddyg yn trafod y driniaeth gyda Michael, sy’n mynd yn bryderus ac yn gofyn dro ar ôl tro pam mae angen anesthetig arno. Nid yw hyn yn argyfwng, ond mae’r meddyg yn teimlo efallai nad oes gan Michael y galluedd i gydsynio, oherwydd ei bod yn ymddangos nad yw’n gallu deall a chofio’r hyn y mae’r meddyg yn ei ddweud. Felly mae’r meddyg yn ymgynghori â gwraig Michael sy’n esbonio bod Michael, ers y strôc, yn mynd yn bryderus pan fydd oddi cartref a phan nad oes ganddo bobl a phethau mae’n gyfarwydd â nhw o’i gwmpas. Mae’n dweud wrth y meddyg y byddai’n help pe bai hi’n bresennol pan fyddai’r meddyg yn egluro’r profion i Michael, gan ei bod hi’n gallu tawelu ei feddwl ac esbonio pethau iddo.
Mae’r meddyg yn trafod y profion eto gyda Michael pan fydd ei wraig yn bresennol. Mae Michael yn gyndyn o gytuno i gael yr anesthetig i ddechrau, ond mae ei wraig yn egluro y bydd hi yno pan fydd yn deffro, ac na fydd yn gorfod aros yn yr ysbyty dros nos. Gyda help ei wraig, mae Michael yn deall beth mae’r meddyg yn ei ddweud, ac yn gallu gwneud penderfyniad a chydsynio i’r profion.
Os bydd person yn gwneud penderfyniad sy’n ecsentrig neu’n annoeth yn eich barn chi, rhaid i chi gofio nad yw hyn o reidrwydd yn golygu nad oes gan y person y galluedd i wneud y penderfyniad (Egwyddor 3).
Enghraifft:
O ganlyniad i ddamwain car ychydig flynyddoedd yn ôl, mae Margie wedi cael ei pharlysu, ac mae wedi cael niwed i’r ymennydd hefyd.
Mae Margie wedi cael iawndal sylweddol am ei hanafiadau.
Mae hi eisiau defnyddio rhan o’r arian ar lawdriniaeth gosmetig.
Mae ei theulu’n cytuno ei bod hi’n deall goblygiadau ariannol gwario cyfran o’r iawndal ar lawdriniaeth gosmetig. Ond, maen nhw’n poeni nad yw hi’n deall y risgiau a ddaw gyda’r driniaeth.
Mae’r llawfeddyg cosmetig wedi cael sawl ymgynghoriad â Margie. Mae hi wedi dweud yn glir ei bod hi’n deall y goblygiadau corfforol yn ogystal â’r rhai ariannol, ac mae hi’n benderfynol o gael y llawdriniaeth. Mae hi’n credu y bydd yn cynyddu ei hunan-werth a’i hyder, a bod y manteision hyn yn drech na’r risgiau posibl.
Mae’r llawfeddyg hefyd yn gofyn i gydweithiwr drafod goblygiadau’r llawdriniaeth â Margie. Mae ei gydweithiwr yn dod i’r casgliad bod gan Margie y galluedd i wneud y penderfyniad, ac mae’n gwneud nodyn yn y cofnodion iechyd.
Pan fydd rheswm dros gredu nad oes gan berson y galluedd i wneud penderfyniad, disgwylir i chi ystyried y canlynol:
- A yw popeth posibl wedi cael ei wneud i helpu a chynorthwyo’r person i wneud penderfyniad?
- Oes angen gwneud y penderfyniad hwn ar unwaith?
- Os na, a oes modd aros nes bod gan y person y galluedd i wneud y penderfyniad drosto’i hun? Er enghraifft, efallai fod person yn teimlo’n swrth neu’n ddryslyd oherwydd ei feddyginiaeth.
Os oes amheuaeth o hyd ynghylch gallu’r person i wneud penderfyniad, mae angen i chi symud ymlaen i gam nesaf y broses o asesu galluedd, fel y nodir yn rhan 6 y llyfryn hwn.
Adran 6. Asesu galluedd
Dylech bob amser gychwyn gyda’r rhagdybiaeth bod gan y person y galluedd i wneud y penderfyniad dan sylw (egwyddor 1). O dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol, mae’n rhaid i chi asesu galluedd cyn rhoi unrhyw ofal neu driniaeth ar waith. Wrth gwrs, po fwyaf difrifol yw’r penderfyniad, y mwyaf ffurfiol yw’r asesiad galluedd sydd ei angen. Bydd y dull o gofnodi asesiadau o’r fath, a’r angen i’w cofnodi ai peidio, yn amrywio yn ôl difrifoldeb y penderfyniad a wnaed.
Dylech gadw mewn cof bob amser nad yw’r ffaith nad oes gan berson y galluedd i wneud penderfyniad ar un achlysur yn golygu na fydd ganddo’r galluedd i wneud penderfyniad yn y dyfodol, nac am fater gwahanol.
Enghraifft:
Mae gan Ridwaan ddementia, ac mae’n byw mewn cartref gofal preswyl.
Fel llawer o bobl sydd â dementia, mae ei alluedd meddyliol yn mynd a dod.
Ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau, mae’n gallu gwneud yr holl benderfyniadau sylfaenol am fywyd bob dydd, fel ymolchi, bwyta ac yfed ac ati.
Ond, weithiau nid oes ganddo’r galluedd i wneud y penderfyniadau mwyaf sylfaenol, fel beth i’w fwyta.
Ar yr adegau hyn, byddai cofnod yn y cofnodion gofal yn gallu edrych fel hyn: “Yn ystod amser cinio heddiw, doedd gan Ridwaan ddim y galluedd i benderfynu beth i’w fwyta, felly cafodd penderfyniad am hynny ei wneud gyda lles pennaf Ridwaan mewn golwg. Bob amser bwyd, byddwn yn asesu ei alluedd i benderfynu beth mae eisiau ei fwyta. Os oes gan Ridwaan y galluedd i wneud y penderfyniad hwn ar unrhyw adeg, Ridwaan fydd yn penderfynu beth i’w fwyta”.
Pryd ddylid asesu galluedd?
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn dweud yn glir bod rhaid i unrhyw asesiad o alluedd person fod yn benodol i benderfyniad, sy’n golygu:
- bod rhaid i’r asesiad o alluedd ymwneud â’r penderfyniad penodol y mae’n rhaid ei wneud ar adeg benodol, ac nad yw’n ymwneud ag ystod o benderfyniadau;
- os na all rhywun wneud penderfyniadau cymhleth, nid yw hyn yn golygu nad yw’n gallu gwneud penderfyniadau syml. Er enghraifft, mae’n bosibl y gallai person ag anableddau dysgu wneud penderfyniadau ynghylch beth i’w wisgo neu ei fwyta, ond nid ynghylch a yw angen byw mewn cartref gofal ai peidio; ac
- ni allwch benderfynu bod gan rywun ddiffyg galluedd ar sail ei oedran, ei ymddangosiad, ei gyflwr neu ei ymddygiad yn unig.
Y prawf i asesu galluedd
Fel arfer, fyddwch chi ddim yn asesu galluedd heb gynnwys teulu, ffrindiau a/neu ofalwyr neu Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol os oes un wedi cael ei benodi (edrychwch ar ran 8). Bydd hyn yn dibynnu ar y sefyllfa a’r penderfyniad y mae angen ei wneud.
Ddylech chi byth fynegi barn, heb gynnal asesiad priodol yn gyntaf o alluedd y person i wneud penderfyniad.
Y prawf galluedd gweithredol
Er mwyn penderfynu a oes gan berson y galluedd meddyliol i wneud penderfyniad penodol, rhaid i chi benderfynu yn gyntaf a oes nam neu rywbeth yn tarfu ar y ffordd y mae meddwl neu ymennydd y person yn gweithio (does dim ots a yw hynny’n barhaol neu dros dro).
Os felly, yr ail gwestiwn y mae’n rhaid i chi ei ateb yw a yw hynny’n golygu nad yw’r person yn gallu gwneud y penderfyniad penodol?
Fydd y person ddim yn gallu gwneud y penderfyniad penodol os nad yw’n gallu gwneud y pethau canlynol ar ôl cael yr holl help a chefnogaeth briodol (egwyddor 2).
- Deall yr wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad hwnnw, gan gynnwys deall canlyniadau tebygol gwneud, neu beidio â gwneud, y penderfyniad.
- Dal gafael ar yr wybodaeth honno.
- Defnyddio neu bwyso a mesur yr wybodaeth honno fel rhan o’r broses o wneud y penderfyniad.
- Cyfleu ei benderfyniad (boed hynny drwy siarad, defnyddio iaith arwyddion neu unrhyw ddull arall).
Dylid gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i ffyrdd o gyfathrebu â pherson cyn penderfynu nad oes gan y person y galluedd i wneud penderfyniad dim ond ar sail ei anallu i gyfathrebu. Ychydig iawn o bobl fydd â diffyg galluedd ar sail hyn yn unig. Gallai’r achosion hynny gynnwys pobl sy’n anymwybodol neu mewn coma, neu sy’n dioddef o gyflwr niwrolegol prin iawn sy’n cael ei alw’n ‘syndrom cloi-i-mewn’. Mewn llawer o achosion eraill, gall camau syml fel blincio neu wasgu llaw fod yn ddigon i gyfleu penderfyniad. Mae’n debygol y bydd angen mewnbwn gweithwyr proffesiynol sydd â sgiliau arbenigol mewn cyfathrebu geiriol a dieiriau wrth wneud penderfyniadau yn y maes hwn.
Rhaid gwneud asesiad yn ôl yr hyn sy’n debygol – a yw’n fwy tebygol na pheidio fod gan y person ddiffyg galluedd? Dylech allu dangos yn eich cofnodion pam eich bod wedi dod i’r casgliad nad oes gan y person y galluedd i wneud y penderfyniad penodol.
Herio canlyniad asesiad galluedd
Weithiau bydd yr asesiad rydych chi neu gydweithiwr wedi’i wneud yn cael ei herio.
Efallai mai’r person sydd wedi cael ei asesu fydd yn ei herio, neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran, er enghraifft perthynas neu eiriolwr.
Pan fydd asesiad yn cael ei herio, gallai’r person geisio datrys y mater yn y ffyrdd canlynol.
- Y cam cyntaf bob amser fydd codi’r mater gyda’r person a wnaeth yr asesiad. Bydd cofnodion yr asesydd yn rhan bwysig o’r broses hon.
- Gall ail farn fod yn ddefnyddiol mewn rhai achosion.
- Cynnwys eiriolwr (nid Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol) sy’n annibynnol ar bob parti sy’n ymwneud â’r achos.
- Gweithdrefnau cwyno lleol.
- Cyfryngu.
- Cynhadledd Achos.
- Os nad yw’n bosibl datrys y mater, gall wneud cais i’r Llys Gwarchod (edrychwch ar ran 12) i geisio cael dyfarniad.
I gael arweiniad manylach ar ffyrdd o ddatrys anghytundeb, dylech gyfeirio at y Cod Ymarfer.
Adran 7. Lles pennaf
Os aseswyd bod gan berson ddiffyg galluedd, rhaid i unrhyw gamau sy’n cael eu cymryd, neu unrhyw benderfyniad sy’n cael ei wneud ar ei gyfer neu ar ei ran, gael eu gwneud er lles pennaf y person dan sylw (egwyddor 4).
Mae’r person sy’n gorfod gwneud y penderfyniad yn cael ei alw’n ‘benderfynwr’. Fel arfer, y gofalwr sy’n gyfrifol am y gofal o ddydd i ddydd yw’r penderfynwr, neu weithiwr proffesiynol fel meddyg, nyrs neu weithiwr cymdeithasol pan fydd rhaid gwneud penderfyniadau ynghylch triniaeth, trefniadau gofal neu lety.
Beth yw ‘lles pennaf’?
Mae’r ddeddf yn rhoi rhestr wirio o ffactorau allweddol y mae’n rhaid i chi eu hystyried wrth benderfynu beth sydd er lles pennaf y person sydd â diffyg galluedd. Dydy’r rhestr hon ddim yn gyflawn, a dylech gyfeirio at y Cod Ymarfer i gael rhagor o fanylion.
- Mae’n bwysig peidio â gwneud rhagdybiaethau am les pennaf person dim ond ar sail ei oedran, ymddangosiad, cyflwr neu unrhyw elfen o’i ymddygiad.
- Rhaid i’r penderfynwr ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol sy’n ymwneud â’r penderfyniad dan sylw.
- Rhaid i’r penderfynwr ystyried a yw’r person yn debygol o adennill galluedd (er enghraifft, ar ôl derbyn triniaeth feddygol). Os felly, a yw’r penderfyniad neu’r weithred yn gallu aros tan hynny?
- Rhaid i’r penderfynwr fynd ati i gynnwys y person cymaint â phosibl yn y penderfyniad sy’n cael ei wneud ar ei ran
- Os yw’r penderfyniad yn ymwneud â darparu neu dynnu triniaeth cynnal bywyd yn ôl, ni chaiff dyhead i achosi marwolaeth y person fod yn gymhelliant i’r penderfynwr.
Yn benodol, rhaid i’r penderfynwr ystyried:
- dymuniadau a theimladau blaenorol a phresennol y person (yn enwedig os ydyn nhw wedi cael eu nodi ar bapur); ac
- unrhyw gredoau a gwerthoedd (er enghraifft rhai crefyddol, diwylliannol neu foesol) a fyddai’n debygol o ddylanwadu ar y penderfyniad dan sylw ac unrhyw ffactorau perthnasol eraill.
Hyd ag y bo modd, rhaid i’r penderfynwr ymgynghori â phobl eraill os yw’n briodol gwneud hynny ac ystyried eu barn ynghylch beth fyddai o les pennaf i’r person sydd â diffyg galluedd, yn enwedig::
- unrhyw un y mae’r person sydd â diffyg galluedd wedi ei enwi o’r blaen fel rhywun y dylid ymgynghori ag ef/hi;
- gofalwyr, perthnasau agos neu ffrindiau agos, neu unrhyw un arall sydd â diddordeb yn llesiant y person;
- unrhyw Atwrnai sydd wedi cael ei benodi o dan Atwrneiaeth Arhosol; ac
- unrhyw Ddirprwy sydd wedi cael ei benodi gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran y person.
Os ydych chi’n gwneud y penderfyniad o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol, rhaid i chi gymryd y camau uchod, ymysg eraill, a phwyso a mesur y ffactorau uchod er mwyn penderfynu beth sydd o les pennaf i’r person. I gael rhagor o wybodaeth, dylech gyfeirio at y Cod Ymarfer.
Yn achos penderfyniadau ynghylch triniaeth feddygol ddifrifol neu newidiadau penodol i lety a lle nad oes neb sy’n perthyn i unrhyw un o’r categorïau uchod, dylech ystyried a oes angen i chi gynnwys Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (edrychwch ar ran 8).
Beth ddylwn i ei wneud os oes anghydfod ynghylch lles pennaf?
Ni fydd teulu a ffrindiau bob amser yn cytuno ar yr hyn sydd o les pennaf i’r unigolyn.
Os mai chi yw’r penderfynwr, bydd angen i chi ddangos yn glir yn eich cofnodion eich bod wedi gwneud penderfyniad ar sail yr holl dystiolaeth a oedd ar gael, ac wedi ystyried yr holl safbwyntiau gwahanol.
Os oes anghydfod, gallai’r pethau canlynol eich helpu i benderfynu beth sydd o les pennaf i’r person.
- Cynnwys eiriolwr sy’n annibynnol ar bob parti sy’n ymwneud â’r achos.
- Cael ail farn.
- Cynnal cynhadledd achos ffurfiol neu anffurfiol.
- Defnyddio gwasanaeth cyfryngu.
- Byddai modd gwneud cais i’r Llys Gwarchod am ddyfarniad.
Adran 8. Gwasanaeth Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol
Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, bydd gan bobl sydd â diffyg galluedd rwydwaith o gefnogaeth gan aelodau o’r teulu neu ffrindiau sy’n cymryd diddordeb yn eu llesiant, neu gan Ddirprwy (edrychwch ar ran 12) neu Atwrnai sydd wedi cael ei benodi o dan Atwrneiaeth Arhosol (edrychwch ar ran 10). Ond, mae’n bosibl na fydd gan rai pobl sydd â diffyg galluedd neb i’w helpu (ar wahân i staff cyflogedig) gyda phenderfyniadau mawr a allai newid eu bywyd, felly mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol wedi creu Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA) a fydd yn eu cynrychioli a’u helpu.
Mae EGMA yn fath penodol o eiriolwr y mae’n rhaid ei gynnwys os nad oes neb priodol y gellir ymgynghori â nhw. Nid EGMA yw’r penderfynwr, ond mae gan y penderfynwr ddyletswydd i ystyried yr wybodaeth y mae’r EGMA wedi’i darparu.
Mae’r gwasanaeth EGMA yn cael ei ddarparu ym mhob ardal bwrdd iechyd lleol yng Nghymru, ac ym mhob ardal awdurdod lleol yn Lloegr.
Bydd EGMA yn cymryd rhan yn y broses dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae’r penderfyniad yn ymwneud â thriniaeth feddygol ddifrifol sy’n cael ei darparu gan y GIG;
- mae bwriad i symud y person i ofal tymor hir o fwy na 28 diwrnod mewn ysbyty neu 8 wythnos mewn cartref gofal; neu
- mae symud y person i lety gwahanol am gyfnod hir (8 wythnos neu fwy) yn cael ei ystyried, er enghraifft, i ysbyty neu gartref gofal gwahanol;
Yng Nghymru mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, ac awdurdodau lleol a’r GIG yn Lloegr, wedi cael pwerau i ymestyn y gwasanaeth EGMA i sefyllfaoedd penodol os ydyn nhw’n fodlon y byddai EGMA yn darparu budd penodol, sef:
- adolygiadau gofal am lety neu newidiadau i lety; ac
- achosion amddiffyn oedolion (hyd yn oed os oes gan y person sydd â diffyg galluedd deulu a/neu ffrindiau).
Ond, does dim rhaid cynnwys EGMA os bydd y driniaeth yn cael ei rhoi o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, neu os yw’n ofynnol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl i’r person dan sylw fynd i’r ysbyty neu’r cartref dan sylw
Dyletswyddau EGMA yw:
- helpu’r person sydd â diffyg galluedd, a chynrychioli ei farn a’i fuddiannau i’r penderfynwr;
- derbyn a gwerthuso gwybodaeth – gall EGMA siarad â’r claf yn breifat ac archwilio, a phan fydd yn briodol, cymryd copïau o gofnodion iechyd a gofal cymdeithasol fel cofnodion clinigol, cynlluniau gofal neu ddogfennau asesu gofal cymdeithasol;
- hyd y bo modd, mynd ati i gael gwybod beth yw dymuniadau, teimladau, credoau a gwerthoedd y person;
- sicrhau ffyrdd eraill o weithredu;
- cael barn feddygol bellach, os oes angen; a
- pharatoi adroddiad ar gyfer y person a roddodd y cyfarwyddyd i’r EGMA.
Os bydd EGMA yn anghytuno â’r penderfyniad a wnaed, gall EGMA hefyd herio’r penderfynwr.
Os mai chi yw’r penderfynwr yn y bwrdd iechyd lleol (yng Nghymru) neu’r GIG neu’r awdurdod lleol (yn Lloegr), eich dyletswydd chi yw cyfarwyddo’r EGMA cyn gwneud y penderfyniad (ac eithrio mewn sefyllfaoedd brys). Bydd comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau EGMA lleol yn sicrhau bod y manylion cyswllt angenrheidiol yn cael eu dosbarthu’n eang er mwyn i’r penderfynwyr allu cysylltu’n gyflym â darparwr neu ddarparwyr gwasanaethau EGMA pan fydd angen.
Enghraifft:
Mae Jamil yn oedolyn sydd ag anableddau dysgu difrifol, ac mae ei ddau riant wedi marw’n ddiweddar.
Mae angen llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon ar Jamil. Dyma’r tro cyntaf ers i’w rieni farw y mae angen gwneud penderfyniad mewn perthynas â Jamil, ac nid oes ganddo berthnasau eraill na ffrindiau na neb arall i’w gynrychioli neu ei helpu.
Er ei fod yn gallu gwneud penderfyniadau am ei fywyd o ddydd i ddydd, nid oes ganddo’r galluedd i gydsynio i’r llawdriniaeth.
Felly, bydd EGMA yn cael cyfarwyddyd i fynd ati i gael gwybod beth yw barn Jamil i’r graddau y bo modd, ac i gyfleu ei farn i’r meddyg a fydd wedyn yn penderfynu a yw bwrw ymlaen â’r llawdriniaeth o les pennaf i Jamil ai peidio.
Os oes angen i chi roi cyfarwyddyd i EGMA, gallwch gael arweiniad a gwybodaeth fanylach am y gwasanaeth EGMA:
- Yn y Cod Ymarfer
- Ar dudalennau gwe EGMA yr Adran Iechyd, gan gynnwys gwybodaeth am gynlluniau peilot EGMA, Canllawiau Comisiynu EGMA, gwybodaeth am ddeunyddiau hyfforddi EGMA a chanllawiau hefyd ar ddehongli’r rheoliadau sy’n ymestyn y gwasanaeth EGMA i adolygiadau llety ac achosion amddiffyn oedolion: www.gov.uk/government/organisations/department-of-health-and-social-care
- Rheoliadau EGMA ar gyfer Lloegr sy’n rhoi manylion am rôl a swyddogaethau’r EGMA:
www.opsi.gov.uk/si/si2006/20061832.htm
www.opsi.gov.uk/si/si2006/20062883.htm
- Rheoliadau EGMA drafft ar gyfer Cymru sy’n rhoi manylion am rôl a swyddogaethau’r EGMA: e-bost sarah.austin@wales.gov.uk
Adran 9. Darparu gofal neu driniaeth i bobl sydd â diffyg galluedd
Efallai fod materion sy’n ymwneud ag ataliaeth yn achosi pryder penodol i chi.
Mae ataliaeth yn cynnwys amrywiaeth eang o weithredoedd, gan gynnwys defnyddio neu fygwth grym i wneud rhywbeth y mae’r person dan sylw yn ei wrthwynebu, er enghraifft drwy ddefnyddio ochrau cot neu gyfyngu ar symudiadau pobl neu ar eu rhyddid i symud (gan beidio mynd mor bell â chyfyngiad a fyddai’n eu hamddifadu o’u rhyddid).
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn nodi dau amod ychwanegol y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i warchodaeth rhag atebolrwydd ar gyfer ataliaeth fod ar gael.
- Rhaid i chi gredu’n rhesymol bod angen defnyddio ataliaeth ar unigolyn sydd â diffyg galluedd er mwyn ei rwystro rhag dod i niwed.
- Rhaid i unrhyw ataliaeth fod yn rhesymol ac yn gymesur â’r niwed posibl.
Gallai defnyddio ataliaeth ormodol olygu eich bod yn agored i amrywiaeth o gosbau sifil a throseddol. Er enghraifft, efallai y bydd angen mynd gyda rhywun pan fydd yn mynd allan oherwydd nad yw’n gallu croesi’r ffordd yn ddiogel, ond efallai y byddai’n afresymol i chi ei atal rhag mynd allan i’r awyr agored yn llwyr.
Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid
Pwrpas y trefniadau diogelu hyn yw amddiffyn pobl sydd â diffyg galluedd y mae angen eu hamddifadu o’u rhyddid er eu diogelwch eu hunain, ac nad ydynt yn gallu gwneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain ynghylch trefniadau y dylid eu gwneud ar gyfer eu gofal a’u triniaeth. Cawsant eu cyflwyno i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 19 Gorffennaf 2007), ac maen nhw’n berthnasol i bobl mewn cartrefi gofal neu ysbytai.
Beth yw’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005?
Mae’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (“y Trefniadau”), a ddaeth i rym yn Lloegr ar 1 Ebrill 2009, yn darparu fframwaith cyfreithiol i atal achosion anghyfreithlon o amddifadu o ryddid. Maen nhw’n amddiffyn pobl agored i niwed mewn ysbytai neu gartrefi gofal nad oes ganddyn nhw’r galluedd i gydsynio i’r trefniadau a wnaed ar gyfer eu gofal a / neu driniaeth, ond y mae angen eu hamddifadu o’u rhyddid er eu lles gorau er mwyn eu hamddiffyn rhag niwed. Mae gan ymddiriedolaethau gofal sylfaenol, awdurdodau lleol, ysbytai a chartrefi gofal gyfrifoldeb statudol dros weinyddu a chyflwyno’r Trefniadau hyn ar lefel leol.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am beth mae’r Trefniadau hyn yn ei olygu i chi neu i’ch sefydliad, mae modd lawrlwytho Cod Ymarfer y Trefniadau, sy’n esbonio’n fanwl sut mae prosesau a gweithdrefnau’r Trefniadau gweithio, yn: www.dh.gov.uk/en/Publicationsandstatistics/Publications/PublicationsPolicyAndGuidance/DH_085476
Neu gallwch ymweld â’r wefan yn: [www.dh.gov.uk/ên/SocialCare/Deliveringadultsocialcare/MentalCapacity/MentalCapacityActDeprivationofLibertySafeguards/index.html](https://webarchive.nationalarchives.gov.uk/ukgwa/+/www.dh.gov.uk/ên/SocialCare/Deliveringadultsocialcare/MentalCapacity/MentalCapacityActDeprivationofLibertySafeguards/index.htm
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tri canllaw i helpu awdurdodau rheoli a chyrff goruchwylio i nodi’r prosesau allweddol ar gyfer defnyddio’r trefniadau diogelu yn ddiogel ac yn effeithiol:
-
Canllawiau i Awdurdodau Rheoli sy’n gweithio o fewn y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
-
Canllawiau i Gyrff Goruchwylio sy’n gweithio o fewn y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
-
Llythyrau a Ffurflenni Safonol ar gyfer y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi ystod o daflenni gwybodaeth y gall awdurdodau rheoli a chyrff goruchwylio eu defnyddio i helpu i ddarparu gwybodaeth i’r person perthnasol. Mae’r rhain i’w gweld yn www.mentalcapacityact.wales.nhs.uk
Amddiffyn pobl sydd â diffyg galluedd rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso’n fwriadol
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cyflwyno trosedd newydd am gam-drin person sydd â diffyg galluedd neu ei esgeuluso’n fwriadol. Bwriad hyn yw atal pobl rhag cam-drin pobl sydd â diffyg galluedd neu eu hesgeuluso’n fwriadol. Os bydd pobl yn cael eu dyfarnu’n euog, fe allant gael dedfryd o garchar neu ddirwy.
Mae’r drosedd yn cynnwys atal rhywun yn afresymol yn erbyn ei ewyllys, peidio â darparu gofal digonol, a hefyd y mathau mwyaf cyffredin o gam-drin fel cam-drin ariannol, rhywiol, corfforol a seicolegol.
Mae’r drosedd hon yn berthnasol i berson sydd:
- yn gofalu am berson sydd â diffyg galluedd;
- yn Dwrnai sydd wedi cael ei benodi o dan Atwrneiaeth Arhosol neu Atwrneiaeth Barhaus; neu
- yn Ddirprwy sydd wedi cael ei benodi ar gyfer y person gan y Llys Gwarchod.
Mae angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o hyn wrth gyflawni eich dyletswyddau. Yn unol ag arferion da ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, dylech gadw cofnodion sy’n dangos eich bod wedi dilyn y Cod Ymarfer.
Er y gellir ymddiried yn llwyr yn y rhan fwyaf o bobl sy’n ymwneud â gofalu am bobl agored i niwed, dylai pawb fod yn effro i arwyddion o gam-drin a chymryd camau cyflym i atal neu stopio hynny. Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn cael ei gam-drin, dylech gysylltu â’r heddlu neu wasanaethau oedolion eich Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd yn delio â’r achos o dan weithdrefnau amddiffyn oedolion lleol.
Adran 10. Darparu gofal neu driniaeth i bobl sydd wedi cynllunio ymlaen llaw
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cael effaith bellgyrhaeddol ar bobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, oherwydd mae’n ymestyn y ffyrdd y gall pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gynllunio ymlaen llaw ar gyfer yr adeg pan fydd ganddyn nhw ddiffyg galluedd o bosibl. Atwrneiaethau Arhosol yw’r enw am hynny, sef penderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth, a datganiadau ysgrifenedig o ddymuniadau a theimladau.
Os ydych chi’n darparu gofal neu driniaeth i rywun sydd â diffyg galluedd, gallent fod yn ddefnyddiol iawn wrth benderfynu beth i’w wneud. Os ydych chi’n gweithio gyda phobl sydd â galluedd, neu y mae eu galluedd yn mynd a dod (fel pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl), efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi egluro iddyn nhw’r ffyrdd hyn o gynllunio ymlaen llaw ar gyfer adeg pan fydd ganddyn nhw ddiffyg galluedd o bosibl.
Mae darparu gofal neu driniaeth i bobl sydd wedi cynllunio ymlaen llaw yn faes cymhleth iawn, ac fe’ch cynghorir i gyfeirio at y Cod Ymarfer i gael arweiniad manylach.
Atwrneiaeth Arhosol
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cyflwyno ffurf newydd ar Atwrneiaeth, sy’n caniatáu i bobl dros 18 oed benodi’n ffurfiol un neu fwy o bobl i ofalu am eu hiechyd, eu lles a/neu eu penderfyniadau ariannol os na fydd ganddyn nhw’r galluedd i wneud y penderfyniadau hyn drostyn nhw eu hunain ar ryw adeg yn y dyfodol. Mae’r person sy’n gwneud Atwrneiaeth Arhosol yn cael ei alw’n Rhoddwr. Mae’r p?er a roddir i rywun arall yn cael ei alw’n Atwrneiaeth Arhosol (LPA), ac mae’r person(au) a benodir yn cael eu galw’n dwrnai / twrneiod. Mae’r Atwrneiaeth Arhosol yn rhoi’r awdurdod i’r Twrnai wneud penderfyniadau ar ran y Rhoddwr, ac mae gan y Twrnai ddyletswydd i weithredu neu i wneud penderfyniadau er lles gorau (egwyddor 4) y person sydd wedi gwneud yr Atwrneiaeth Arhosol.
Mae dau fath gwahanol o Atwrneiaeth Arhosol:
-
Mae Atwrneiaeth Arhosol Llesiant Personol yn ymwneud â phenderfyniadau am iechyd ac am les personol; ac
-
Mae Atwrneiaeth Arhosol Eiddo a Materion yn ymwneud â phenderfyniad am faterion ariannol.
Ffeithiau pwysig am Atwrneiaethau Arhosol
- Mae cyflwyno Atwrneiaethau Arhosol ar gyfer eiddo a materion yn golygu nad oes modd gwneud rhagor o Atwrneiaethau Parhaus (EPA), ond mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn gwneud darpariaethau trosiannol i Atwrneiaethau Parhaus sydd eisoes yn bodoli i barhau, pa un a ydyn nhw wedi’u cofrestru ai peidio. Mae hyn yn golygu ei bod yn dal yn bosibl defnyddio Atwrneiaethau Parhaus a oedd eisoes yn bodoli (pa un a ydyn nhw wedi’u cofrestru ai peidio), a’u bod yn dal yn gallu cael eu cofrestru.
- Pan fydd person yn gwneud Atwrneiaeth Arhosol, mae’n rhaid bod gan y person y galluedd i ddeall pwysigrwydd y ddogfen a’r p?er y mae’n ei roi i berson arall.
- Cyn bod modd defnyddio Atwrneiaeth Arhosol, rhaid ei chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (adran 12). Mae hyn yn hanfodol – os nad yw Atwrneiaeth Arhosol wedi cael ei chofrestru, does dim modd ei defnyddio o gwbl.
- Mae modd defnyddio Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer eiddo a materion pan fydd gan y Rhoddwr alluedd o hyd, oni bai fod y Rhoddwr yn dweud yn wahanol.
- Nid oes gan Dwrnai Llesiant Personol unrhyw b?er i gydsynio i driniaeth, nac i wrthod triniaeth, ar unrhyw adeg, nac ar unrhyw fater pan fydd gan y person y galluedd i wneud y penderfyniad drosto’i hun.
- Os oes gan y person sydd yn eich gofal ddiffyg galluedd a’i fod wedi creu Atwrneiaeth Arhosol Llesiant Personol, y Twrnai yw’r penderfynwr ar bob mater sy’n ymwneud â gofal a thriniaeth y person. Oni bai fod yr Atwrneiaeth Arhosol yn gosod terfynau ar awdurdod y Twrnai, mae gan y Twrnai’r awdurdod i wneud penderfyniadau llesiant personol ac i gydsynio i driniaeth neu wrthod triniaeth (ar wahân i driniaeth cynnal bywyd) ar ran y Rhoddwr. Rhaid i’r Twrnai wneud y penderfyniadau hyn er lles pennaf y person sydd â diffyg galluedd (egwyddor 4) ac, os oes anghydfod nad oes modd ei ddatrys, er enghraifft, rhwng y twrnai a meddyg, efallai y bydd yn rhaid ei gyfeirio at y Llys Gwarchod.
- Os yw’r penderfyniad yn ymwneud â thriniaeth cynnal bywyd, ni fydd gan y Twrnai’r awdurdod i wneud y penderfyniad, oni bai fod yr Atwrneiaeth Arhosol yn nodi hynny.
- Os ydych chi’n ymwneud yn uniongyrchol â gofal neu driniaeth person sydd â diffyg galluedd, ni ddylech gytuno i weithredu fel Twrnai i’r person, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, er enghraifft, os mai chi yw unig berthynas agos y person.
- Mae’n bwysig darllen yr Atwrneiaeth Arhosol os yw ar gael er mwyn deall faint o b?er sydd gan y Twrnai.
Enghraifft:
Mae Martin wedi cael gwybod yn ddiweddar ei fod yng nghamau cynnar iawn clefyd Alzheimer.
Mae Martin am sicrhau, os bydd ganddo ddiffyg galluedd yn y dyfodol, y bydd ei ddymuniadau a’i werthoedd personol yn cael eu hystyried pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud ar ei ran. Mae’n penderfynu penodi ei ferch yn Dwrnai Llesiant Personol i wneud unrhyw benderfyniadau llesiant personol na fydd ganddo’r galluedd i’w gwneud ei hun.
Mae’n trafod y pethau sy’n bwysig iddo, fel ei fod eisiau aros yn agos at ei ffrindiau, a gallu mynd i gartref gofal sy’n caniatáu anifeiliaid anwes. Mae ei ferch wedyn yn cofrestru’r Atwrneiaeth Arhosol.
Os na fydd gan Martin y galluedd yn y dyfodol i benderfynu ble y dylai fyw, bydd gan ei ferch yr awdurdod i wneud y penderfyniad hwn fel ei Dwrnai Llesiant Personol. Bydd hi’n gallu ystyried y pethau y mae ei thad wedi’u datgan wrth ystyried beth fyddai o les pennaf iddo.
Penderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth
Weithiau, mae gan bobl farn glir am y mathau o driniaethau nad ydynt eu heisiau ac na fyddent yn cydsynio iddynt. Mae penderfyniad ymlaen llaw yn eu galluogi i fynegi’r safbwyntiau hyn yn glir, cyn iddyn nhw golli galluedd. Mae penderfyniadau ymlaen llaw, sydd hefyd yn cael eu galw’n gyfarwyddebau ymlaen llaw neu’n ‘ewyllysiau byw’, yn gallu cael eu gwneud o dan y gyfraith gyffredin ar hyn o bryd, ac mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn rhoi sail statudol iddyn nhw. Mae hefyd yn egluro’r hyn sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith er mwyn i benderfyniad ymlaen llaw fod yn ddilys ac yn berthnasol, ac mae’n cyflwyno mesurau diogelu newydd.
Penderfyniad ymlaen llaw yw pan fydd person 18 oed neu h?n yn datgan pa fathau penodol o driniaeth na fyddai’n dymuno eu cael ac o dan ba amgylchiadau, os na fydd ganddo’r galluedd i wrthod cydsynio i’r driniaeth hon iddo’i hun yn y dyfodol. Gall ymwneud ag unrhyw driniaeth hyd yn oed os gallai arwain at farwolaeth y person, ac os yw’n ddilys ac yn berthnasol mae’n rhaid ei ddilyn gan ei fod yn gyfreithiol rwymol, ac mae ganddo’r un grym â phan fydd person sydd â galluedd yn gwrthod triniaeth (mae’r gofynion ar gyfer penderfyniadau ymlaen llaw i’w gweld isod). Does dim angen i benderfyniad ymlaen llaw gael ei nodi ar bapur, heblaw yn achos penderfyniadau sy’n ymwneud â thriniaeth cynnal bywyd (gweler isod), ond mae’n help os yw wedi cael ei nodi ar bapur.
Beth yw’r gofynion ar gyfer penderfyniadau ymlaen llaw?
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cyflwyno nifer o reolau y mae’n rhaid i bobl eu dilyn wrth wneud penderfyniad ymlaen llaw. Os ydych chi’n gwneud penderfyniad am driniaeth ar ran rhywun sy’n methu cydsynio i’r driniaeth, rhaid i chi fod yn fodlon bod y penderfyniad ymlaen llaw yn bodoli a’i fod yn ddilys ac yn berthnasol i’r driniaeth benodol dan sylw.
Mae’r rhestr ganlynol yn rhoi crynodeb byr iawn o rai o’r prif ofynion ar gyfer penderfyniadau ymlaen llaw (os ydych yn rhan o benderfyniad o’r fath, dylech ddarllen y Cod Ymarfer).
-
Rhaid iddo fod yn ddilys. Ni all y person fod wedi’i dynnu’n ôl, na’i ddiystyru drwy wneud Atwrneiaeth Arhosol ynghylch y driniaeth yn y penderfyniad ymlaen llaw (gweler adran 10), na gweithredu mewn ffordd sy’n amlwg yn anghyson â’r penderfyniad ymlaen llaw.
-
Rhaid iddo fod yn berthnasol i’r driniaeth dan sylw. Dylai gyfeirio’n glir at y driniaeth dan sylw (does dim rhaid defnyddio termau meddygol manwl), a dylai egluro pa amgylchiadau y mae’r gwrthodiad yn cyfeirio atynt. Os bu newidiadau mewn amgylchiadau lle mae sail resymol dros gredu y byddai hynny wedi effeithio ar benderfyniad ymlaen llaw person pan wnaeth y penderfyniad, mae’n bosibl na fydd yn berthnasol.
Dylech nodi’r canlynol hefyd.
- Pan fydd pobl yn cael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ac felly’n gallu cael eu trin am anhwylder meddwl heb eu cydsyniad, maen nhw hefyd yn gallu cael y driniaeth honno er eu bod wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod y driniaeth.
- Ni all pobl wneud penderfyniad ymlaen llaw i ofyn am driniaeth feddygol – dim ond dweud pa fathau o driniaethau y bydden nhw’n eu gwrthod.
- Ni all pobl wneud penderfyniad ymlaen llaw i ofyn am gael dod â’u bywyd i ben. Os ydych chi’n fodlon bod y penderfyniad yn ddilys ac yn berthnasol, bydd rhaid i chi gadw at y penderfyniad hwnnw.
Penderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth cynnal bywyd
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn nodi trefniadau ffurfiol ychwanegol ar gyfer penderfyniadau ymlaen llaw sy’n gwrthod triniaeth cynnal bywyd.
Rhaid i benderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth cynnal bywyd fodloni’r gofynion ychwanegol canlynol:
- Rhaid i’r penderfyniad fod wedi cael ei nodi ar bapur, sy’n cynnwys cael ei ysgrifennu ar ran y person neu ei gofnodi yn ei nodiadau meddygol.
- Rhaid i’r penderfyniad fod wedi cael ei lofnodi gan y sawl sy’n gwneud y penderfyniad, ym mhresenoldeb tyst, a rhaid i’r tyst hefyd lofnodi’r ddogfen. Mae hefyd yn gallu cael ei lofnodi ar ran y sawl sydd wedi gwneud y penderfyniad yn ôl ei gyfarwyddyd, os nad yw’n gallu ei lofnodi ei hun.
- Rhaid i’r penderfyniad gael ei ddilysu gan ddatganiad penodol a wnaed gan y sawl sy’n gwneud y penderfyniad, sydd naill ai wedi’i gynnwys yn y ddogfen neu mewn datganiad ar wahân, sy’n dweud y dylai’r penderfyniad ymlaen llaw fod yn berthnasol i’r driniaeth benodedig hyd yn oed os yw bywyd mewn perygl. Os oes datganiad ar wahân, rhaid i’r datganiad hwnnw hefyd fod wedi cael ei lofnodi a’i dystio.
Enghraifft:
Mae Ike wedi gweld ffrind yn marw o ganser. Mae Ike yn penderfynu na fyddai’n dymuno cael cemotherapi na radiotherapi pe bai’n mynd yn ddifrifol wael ac yn agos at farw. Mae Ike yn poeni y bydd y meddygon yn gwneud y penderfyniad drosto os na fydd yn gallu gwneud penderfyniad.
Felly mae’n gwneud penderfyniad ymlaen llaw, gan ddatgan nad yw eisiau cael cemotherapi na radiotherapi os bydd yn mynd yn sâl yn y dyfodol. Mae ei benderfyniad ymlaen llaw yn cynnwys datganiad ysgrifenedig sy’n cadarnhau nad yw eisiau cemotherapi na radiotherapi, hyd yn oed os yw ei fywyd mewn perygl. Mae Ike yn llofnodi’r penderfyniad ymlaen llaw, ac mae ei ffrind agos yn tystio i’r llofnod.
Rhaid dilyn y penderfyniad ymlaen llaw os a phan fydd yn berthnasol ac os yw’r meddyg yn fodlon ei fod yn ddilys ac yn berthnasol.
Mae darparu gofal neu driniaeth i bobl sydd wedi gwneud penderfyniadau ymlaen llaw yn faes cymhleth, ac fe’ch cynghorir i gyfeirio at y Cod Ymarfer i gael arweiniad manylach.
Gwrthwynebiad cydwybodol
Ni fydd rhaid i chi weithredu ar benderfyniad ymlaen llaw os ydych chi’n ei wrthwynebu ar sail grefyddol neu foesol.
Rhaid i chi roi gwybod am hyn cyn gynted â phosibl, a rhaid gwneud trefniadau i drosglwyddo’r gwaith o reoli gofal y claf i weithiwr iechyd proffesiynol arall.
Atebolrwydd pobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Ni fyddwch yn wynebu atebolrwydd am ddarparu triniaeth er lles pennaf claf os nad ydych, ar ôl cymryd camau rhesymol, yn gwybod neu’n fodlon bod penderfyniad ymlaen llaw dilys a pherthnasol yn bodoli. Os ydych chi’n fodlon bod penderfyniad ymlaen llaw yn bodoli sy’n ddilys ac yn berthnasol, byddai peidio â chadw ato yn gallu arwain at hawliad cyfreithiol am iawndal neu erlyniad troseddol am ymosodiad.
Os ydych chi’n credu’n rhesymol bod penderfyniad ymlaen llaw dilys a pherthnasol yn bodoli, ni fyddwch yn cael eich dal yn atebol am ganlyniadau cadw ato ac am beidio â darparu triniaeth. Dylech gofnodi’n glir sut daethoch chi i’ch casgliadau.
Anghydfod ac anghytundeb ynghylch penderfyniadau ymlaen llaw
Bydd yn rhaid i chi benderfynu a yw penderfyniad ymlaen llaw yn ddilys ac yn berthnasol ai peidio, a dylech gyfeirio at y Cod Ymarfer i gael arweiniad manylach, yn enwedig os oes anghytundeb.
Os oes anghydfod neu anhawster, dylech ystyried defnyddio gwasanaeth cyfryngu neu gallai’r mater gael ei gyfeirio at y Llys Gwarchod gennych chi neu gan berthynas, gofalwr neu ffrind agos i’r claf.
Delio â phenderfyniadau ymlaen llaw a wnaed cyn mis Hydref 2007
Os oedd gan unrhyw un o’r bobl rydych chi’n darparu gofal neu driniaeth ar eu cyfer benderfyniad ymlaen llaw (sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘ewyllys byw’) cyn i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol ddod i rym, mae’n bosibl y bydd yn dal yn ddilys. Fodd bynnag, dylech wneud yn si?r ei fod yn bodloni’r rheolau newydd, yn enwedig os yw’n delio â thriniaeth cynnal bywyd. Mae canllawiau manylach ar hyn ar gael yn www.dh.gov.uk/consent
Datganiadau o ddymuniadau, teimladau, credoau a gwerthoedd
Weithiau, bydd pobl eisiau gallu cofnodi neu ddweud wrth bobl am eu dymuniadau a’u dewisiadau ynghylch triniaeth a gofal yn y dyfodol, ac egluro eu teimladau neu eu gwerthoedd sy’n rheoli sut maen nhw’n gwneud penderfyniadau.
Gall y datganiadau hyn sôn am unrhyw beth, gan gynnwys dewisiadau personol fel cael cawod yn hytrach na bath, neu fod eisiau cysgu gyda’r golau ymlaen. Gall datganiadau o’r fath ofyn am fathau penodol o driniaeth, ac mae’n rhaid i chi ystyried hynny’n ofalus, yn enwedig os ydyn nhw wedi cael eu nodi ar bapur.
Enghraifft:
Mae Khalid yn llysieuwr ac mae ganddo gyflwr dirywiol. Mae eisiau gwneud yn si?r, os bydd ganddo ddiffyg galluedd meddyliol a bod angen help arno gyda thasgau bob dydd, y byddan nhw’n ystyried ei gredoau personol. Felly mae’n ysgrifennu datganiad sy’n egluro mai dim ond bwyd llysieuol y mae’n dymuno’i gael.
Mae Khalid yn gofyn am i’r datganiad gael ei ffeilio gyda’i gofnodion iechyd fel ei fod yn derbyn bwyd yn unol â’i ddymuniadau os na fydd yn gallu gwneud a chyfleu ei benderfyniadau ei hun yn y dyfodol. $CTA
Pan fyddwch yn asesu pa driniaeth neu ofal sydd o les pennaf i berson, bydd yn rhaid i chi ystyried y datganiadau hyn. Fodd bynnag, rhaid i’ch penderfyniad terfynol fod yn seiliedig bob amser ar eich asesiad chi o’r hyn sydd o les pennaf i’r person, a’ch barn broffesiynol chi am yr hyn sy’n briodol neu’n angenrheidiol yn glinigol. Os yw hyn yn wahanol i’r hyn y mae’r person wedi’i ddweud yn ei ddatganiad o ddymuniadau a theimladau, dylech gadw cofnod o hyn a bod yn barod i gyfiawnhau eich penderfyniad os cewch eich herio.
Adran 11. Cyfrinachedd a chadw cofnodion
Cyfrinachedd
Mae’n rhaid i chi gadw gwybodaeth am y bobl yn eich gofal yn gyfrinachol. Ni ddylid datgelu gwybodaeth bersonol, oni bai:
- fod y person yn cytuno;
- bod rhwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny; neu
- fod budd cyhoeddus sy’n drech na hynny.
Os oes gan berson ddiffyg galluedd, gall prawf ‘lles pennaf’ y Ddeddf Galluedd Meddyliol hefyd gyfiawnhau datgelu (gweler adran 7).
Mae’n bosibl y bydd asesiad galluedd yn galw am rannu gwybodaeth ymysg gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Os oes gan berson ddiffyg galluedd i gydsynio i ddatgelu, rhaid i chi benderfynu a fyddai datgelu’r wybodaeth o les pennaf i’r person (gweler adran 7). Dim ond cymaint o wybodaeth ag sy’n angenrheidiol y dylid ei datgelu.
Pan fydd Twrnai o dan Atwrneiaeth Arhosol Llesiant Personol wedi cael ei benodi, bydd yn penderfynu a oes modd datgelu gwybodaeth, a rhaid i chi ymgynghori â’r Twrnai fel arfer cyn rhannu unrhyw wybodaeth. Os nad yw’n bosibl ymgynghori, er enghraifft oherwydd bod angen triniaeth frys, rhaid i chi weithredu er lles pennaf y claf a rhoi gwybod i’r Twrnai am unrhyw gamau a gymerwyd cyn gynted ag y bydd yn ymarferol.
Mae datgelu a chael gafael ar wybodaeth yn gallu bod yn gymhleth. Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau ar Ddeddf Diogelu Data 1998, ac nid yw’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn eu newid na’u disodli. Hefyd, mae gan weithwyr proffesiynol a sefydliadau eu codau ymddygiad, eu polisïau a’u gweithdrefnau eu hunain ynghylch cyfrinachedd. Mae’r rhain yn cael eu cefnogi gan arbenigwyr fel Swyddogion Diogelu Data / Gwybodaeth mewn Gwasanaethau Cymdeithasol, a Gwarcheidwaid Caldicott yn sefydliadau’r GIG.
I gael rhagor o ganllawiau manwl a ffynonellau gwybodaeth am gyfrinachedd, dylech edrych ar y canlynol:
- Canllawiau ar Ddeddf Diogelu Data 1998 https://ico.org.uk/
- Cod Ymarfer y GIG ar gyfrinachedd, a gwybodaeth am Warcheidwaid Caldicott
www.dh.gov.uk (chwiliwch o dan ‘patient confidentiality’)
- Dylech hefyd gyfeirio at unrhyw godau ymddygiad neu weithdrefnau ar gyfrinachedd sydd gan eich gweithle.
Cadw cofnodion
Fel person sy’n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, bydd angen i chi gofnodi’n gywir y penderfyniadau rydych chi’n eu gwneud ynghylch asesu galluedd meddyliol, a dyfarnu lles pennaf.
Mae’n bosibl cofnodi’r penderfyniadau mewn:
- cynllun gofal;
- cofnodion nyrsio;
- cofnodion meddygol;
- cofnodion gwaith cymdeithasol;
- cofnodion iechyd a gofal cymdeithasol eraill; a / neu
- nodiadau a chofnodion eraill fel y rheini sy’n cael eu cadw gan weithwyr cymdeithasol, therapyddion neu gynorthwywyr gofal.
Dylech gofio y gellid cyfeirio yn y dyfodol at y cofnodion y byddwch chi’n eu cadw os oes anghydfod neu fel rhan o achos cyfreithiol.
Adran 12. Cyrff cyhoeddus a gwasanaethau newydd sy’n cael eu creu gan y Ddeddf Galluedd Meddyliol
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol wedi creu llys newydd a swyddog cyhoeddus newydd i amddiffyn pobl sydd â diffyg galluedd, ac i oruchwylio a helpu’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ar eu rhan.
Y Llys Gwarchod a Dirprwyon
Cafodd y Llys Gwarchod blaenorol ei ddisodli gan Lys Gwarchod newydd, sy’n llys arbenigol sy’n delio â phob mater sy’n ymwneud â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Mae’n delio â phenderfyniadau ynghylch eiddo a materion ac iechyd a llesiant pobl sydd â diffyg galluedd. Mae’n arbennig o bwysig wrth ddatrys achosion cymhleth neu sy’n destun anghydfod, er enghraifft, ynghylch a oes gan berson ddiffyg galluedd neu beth sydd o les pennaf i’r person.
Mewn sefyllfaoedd penodol, gall y Llys Gwarchod ystyried achosion sy’n ymwneud â phlant o dan 16 oed, er enghraifft, pan fydd angen gwneud penderfyniadau tymor hwy am eu materion ariannol.
Mae gan y Llys Gwarchod y p?er:
- i wneud datganiadau ynghylch a oes gan berson y galluedd i wneud penderfyniad penodol ai peidio;
- i wneud penderfyniadau ar faterion difrifol ynghylch gofal iechyd a thriniaeth;
- i wneud penderfyniadau ynghylch materion ariannol ac eiddo person sydd â diffyg galluedd;
- i benodi Dirprwyon a fydd ag awdurdod parhaus i wneud penderfyniadau; ac
- i wneud penderfyniadau mewn perthynas ag Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus.
Gall y Llys benodi Dirprwy os oes angen, er enghraifft, oherwydd bod gan berson ddiffyg galluedd parhaus. Mae’r Llys yn teilwra’r pwerau a roddir i Ddirprwy ar sail amgylchiadau’r achos.
Mae Dirprwyon yn disodli’r system flaenorol o Dderbynwyr a benodwyd gan y Llys i ddelio ag eiddo a materion rhywun sydd â diffyg galluedd. O dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol, fodd bynnag, gellir penodi Dirprwyon hefyd i ddelio â phenderfyniadau am lesiant personol.
Rhaid i ddirprwyon roi sylw i’r Cod Ymarfer (gweler adran 3), a rhaid iddyn nhw weithredu er lles pennaf y person sydd â diffyg galluedd (gweler adran 7).
Fel arfer, ni fydd pobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gofal neu driniaeth person sydd â diffyg galluedd yn cael eu penodi’n Ddirprwyon oherwydd y posibilrwydd y bydd buddiannau’n gwrthdaro.
Y Gwarcheidwad Cyhoeddus
Rôl y Gwarcheidwad Cyhoeddus yw gwarchod pobl sydd â diffyg galluedd rhag cael eu cam-drin. Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael cefnogaeth gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Dyma rai o dasgau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus:
- cadw cofrestr o Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus;
- cadw cofrestr o orchmynion sy’n penodi Dirprwyon;
- goruchwylio Dirprwyon sy’n cael eu penodi gan y Llys;
- cyfarwyddo Ymwelwyr y Llys Gwarchod i ymweld â phobl sydd â diffyg galluedd;
- derbyn adroddiadau gan Dwrneiod sy’n gweithredu o dan Atwrneiaethau Arhosol a chan Ddirprwyon;
- darparu adroddiadau i’r Llys yn ôl y gofyn;
- delio â sylwadau (gan gynnwys cwynion) am y ffordd y mae Twrneiod neu Ddirprwyon yn arfer eu pwerau; a
- darparu gwybodaeth gyffredinol am y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Adran 13. Ymchwil sy’n cynnwys pobl sydd â diffyg galluedd o bosibl
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn gosod fframwaith cyfreithiol clir ar gyfer sawl math o ymchwil sy’n cynnwys pobl sydd â diffyg galluedd i gydsynio i gymryd rhan mewn ymchwil o’r fath. Fel rhywun sy’n darparu gofal neu driniaeth i berson sydd â diffyg galluedd, efallai y gofynnir i chi fod yn rhan o’r ymchwil os yw’r person yn cymryd rhan mewn ymchwil o’r fath.
Mae’n bwysig bod ymchwil yn gallu cynnwys pobl sydd â diffyg galluedd, darparu gwybodaeth am yr hyn sy’n achosi analluedd ac am ddiagnosis, triniaeth, gofal ac anghenion pobl sydd â diffyg galluedd. Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cwmpasu amrywiaeth eang o ymchwil gan gynnwys ymchwil glinigol, iechyd a gofal cymdeithasol ond nid treialon clinigol, sy’n cael eu cwmpasu mewn deddfwriaeth ar wahân.
Mae’r ymchwil sydd wedi’i chwmpasu yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cynnwys:
-
datblygu ffyrdd newydd a mwy effeithiol o drin cyflwr;
-
gwella ansawdd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol;
-
darganfod yr hyn sy’n achosi salwch gwanychol neu anabledd dysgu;
-
atal niwed, allgáu neu anfantais ar ran pobl sydd â diffyg galluedd; a
-
gwirio pa fath o ymyriad sy’n gweithio orau mewn sefyllfa benodol.
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cyflwyno nifer o fesurau diogelu i amddiffyn pobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwil o’r fath, sy’n cynnwys y canlynol.
-
Rhaid ymgynghori ag aelod o’r teulu neu ofalwyr di-dâl ynghylch unrhyw gynnig, a rhaid iddyn nhw gytuno y gall y person fod yn rhan o’r ymchwil. Os nad oes modd dod o hyd i berson o’r fath, rhaid i’r ymchwilydd ddod o hyd i berson sy’n annibynnol o’r prosiect ymchwil i roi cyngor ar gyfranogiad y person sydd â diffyg galluedd yn yr ymchwil.
-
Os yw’r person sydd â diffyg galluedd yn dangos unrhyw arwydd nad yw’n fodlon bod yn rhan o’r ymchwil, ni chaiff yr ymchwil barhau.
-
Bydd pob cynllun ar gyfer ymchwil yn cael ei wirio gan bwyllgor moeseg ymchwil annibynnol cydnabyddedig.
-
Mae angen i’r pwyllgor gytuno bod yr ymchwil yn angenrheidiol, yn ddiogel ac yn briodol, ac na ellir ei wneud mor effeithiol gan ddefnyddio pobl sydd â galluedd meddyliol.
-
Rhaid i’r pwyllgor hefyd gymeradwyo cynlluniau i ddelio â phobl a oedd wedi cydsynio i ymuno â phrosiect ymchwil hirdymor ond sydd wedi colli galluedd cyn diwedd y prosiect.
Dymuniadau, teimladau a gwerthoedd blaenorol neu bresennol y person sydd bwysicaf wrth benderfynu a ddylai gymryd rhan mewn ymchwil ai peidio. Efallai y bydd rhywun sy’n ymwneud â phrosiect ymchwil yn gofyn i chi a ydych chi’n gwybod beth yw teimladau’r person. Mae’n bosibl y bydd rhan o brosiect ymchwil yn cael ei chynnal pan fyddwch chi’n darparu gofal neu driniaeth i berson, ac mae’n bosibl y gofynnir i chi roi gwybod i’r ymchwilwyr os yw’r person yn ymddangos yn ofidus ynghylch unrhyw elfen o’r ymchwil.
Bydd angen i unrhyw un sy’n sefydlu neu’n cynnal ymchwil o’r fath wneud yn si?r bod yr ymchwil yn cydymffurfio â’r darpariaethau a nodwyd yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol, a bydd angen iddo ddilyn y canllawiau yn y Cod Ymarfer.
Ffynonellau eraill o wybodaeth a chanllawiau
-
I gael arweiniad manylach ar ymchwil sy’n ymwneud â phobl sydd â diffyg galluedd, dylech ddarllen y Cod Ymarfer.
-
I gael rhagor o wybodaeth am faterion sy’n ymwneud â chydsynio i ddefnyddio meinweoedd neu organau ar gyfer ymchwil, dylech droi at yr Human Tissue Authority
Adran 14. Y berthynas â deddfwriaethau, polisïau a gweithdrefnau eraill
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol, ar y cyd â deddfau eraill sy’n berthnasol neu sy’n effeithio ar eiddo a materion, gofal neu driniaeth pobl sydd â diffyg galluedd o bosibl, mewn perthynas â materion penodol. Dylai pobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol hefyd fod yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau o dan ddeddfau eraill, gan gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
-
Deddf Safonau Gofal 2000
-
Deddf Diogelu Data 1998
-
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
-
Deddf Hawliau Dynol 1998
-
Deddf Iechyd Meddwl 1983
-
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990
-
Deddf Meinweoedd Dynol 2004
Y Ddeddf Galluedd Meddyliol a Deddf Iechyd Meddwl 1983
-
Mae’n bosibl defnyddio’r Ddeddf Galluedd Meddyliol i drin pobl am anhwylder meddwl pan nad ydyn nhw’n gallu cydsynio i’r driniaeth oherwydd bod ganddyn nhw ddiffyg galluedd, a phan fydd y driniaeth er lles pennaf y bobl dan sylw (gweler adran 7).
-
Ond does dim modd defnyddio’r Ddeddf Galluedd Meddyliol i gadw (detain) unrhyw un. Os ydych chi’n credu bod angen cadw person ar gyfer triniaeth am anhwylder meddwl, bydd angen i chi ystyried cymryd camau i’w asesu gyda’r bwriad o’i gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
-
Os yw person yn cael ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, nid yw’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol i driniaeth ar gyfer anhwylder meddwl person y gellir ei rhoi heb gydsyniad o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ei hun. Y rheswm am hyn yw na all hyd yn oed pobl sydd â’r galluedd i gydsynio wrthod triniaeth o’r fath. Mae hefyd yn golygu na all Twrneiod (na Dirprwyon) wrthod na chydsynio i driniaeth o’r fath ar ran y claf. Am yr un rheswm, mae penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth ar gyfer anhwylder meddwl yn gallu cael ei ddiystyru pan fydd angen.
-
At y rhan fwyaf o ddibenion eraill, mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol i glaf sy’n cael ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, ni effeithir ar benderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth ar gyfer unrhyw salwch neu gyflwr ar wahân i anhwylder meddwl, nac ar unrhyw b?er sydd gan Dwrnai i gydsynio i driniaeth o’r fath. Mae hefyd yn golygu y bydd angen i’r penderfynwr weithredu yn unol â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol pan nad oes gan glaf sy’n cael ei gadw y galluedd i gydsynio i driniaeth ar wahân i driniaeth ar gyfer anhwylder meddwl.
I gael rhagor o fanylion am y berthynas rhwng y Ddeddf Galluedd Meddyliol a Deddf Iechyd Meddwl 1983, dylech ddarllen y Cod Ymarfer.
Y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r prosesau asesu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol
Ar hyn o bryd, mae amrywiaeth o brosesau asesu cenedlaethol ar waith ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y canlynol:
-
Y Broses Asesu Unedig (UAP) yng Nghymru, sy’n cael ei galw’n ‘Single Assessment Process (SAP)’ yn Lloegr, sef y ffordd y mae gofal a thriniaeth yn cael eu cynllunio a’u darparu ar gyfer pobl h?n.
-
Y Dull Rhaglen Ofal (CPA), sef y ffordd y mae gofal a thriniaeth yn cael eu cynllunio a’u darparu i oedolion sy’n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl statudol.
-
Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar Unigolion, sef y ffordd y mae gofal a thriniaeth yn cael eu cynllunio a’u darparu i oedolion ag anabledd dysgu.
Gall y prosesau asesu hyn hefyd gynnwys pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau gofal yn y sector gwirfoddol ac annibynnol.
Os ydych chi’n ymwneud ag unrhyw un o’r prosesau hyn yn eich gwaith, er enghraifft cydlynydd gofal CPA ar gyfer rhywun, dylech ystyried sut bydd y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol, a sut bydd yn eich helpu chi a’r person rydych chi’n gofalu amdano.
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn helpu i bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod yr unigolyn yn gwbl ganolog i’r prosesau hyn, gan gynnwys y broses o wneud penderfyniadau, a phrosesau ynghylch y gofal a’r driniaeth y mae’r unigolyn yn eu derbyn. Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol hefyd yn pwysleisio y dylid helpu’r person cymaint â phosibl i wneud ei benderfyniadau ei hun, hyd yn oed pan fyddwch chi o’r farn bod y penderfyniadau hyn yn annoeth (gweler adran 5).
Os ydych chi’n rhan o’r broses o asesu anghenion rhywun, yn darparu gofal a thriniaeth fel rhan o gynllun gofal person, neu’n adolygu ei gynllun gofal, rhaid i chi ystyried darpariaethau’r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Er enghraifft:
-
efallai y bydd rhaid i chi asesu galluedd y person i wneud penderfyniadau penodol am ei ofal neu ei driniaeth (gweler adran 6);
-
pan fyddwch chi’n gwneud penderfyniad ar ran person sydd â diffyg galluedd, rhaid i chi ystyried beth sydd o les pennaf i’r person dan sylw (gweler adran 7);
-
os yw’r person wedi cynllunio ymlaen llaw ac wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth, sy’n benderfyniad dilys ac yn berthnasol i’r driniaeth rydych chi’n ei chynnig, rhaid i chi gadw at y penderfyniad (gweler adran 10);
-
os yw’r person wedi gwneud datganiad ysgrifenedig o ddymuniadau a theimladau, mae angen i chi ei ystyried (gweler adran 10);
-
os yw’r person wedi gwneud Atwrneiaeth Arhosol (yn enwedig un ar gyfer iechyd a lles) ac os oes ganddo ddiffyg galluedd erbyn hyn, mae angen i chi gynnwys y Twrnai yn y gwaith o gynllunio a darparu gofal neu driniaeth (gweler adran 10). Os yw’r Atwrneiaeth Arhosol yn rhoi’r p?er i’r Twrnai wrthod neu gydsynio i driniaeth neu ofal ar ran y person, mae angen i chi sicrhau bod penderfyniad a wneir gan y Twrnai yn cael ei drin yn yr un modd â phenderfyniad a wneir gan y person (gweler adran 10); ac
-
efallai y bydd y person yn gofyn am eich help i wneud datganiad ysgrifenedig neu benderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth (gweler adran 10).
Y Ddeddf Galluedd Meddyliol a phenodeion Nawdd Cymdeithasol
Bydd gan rai pobl sy’n derbyn budd-daliadau neu bensiynau ddiffyg galluedd i weithredu drostyn nhw eu hunain. Yn yr amgylchiadau hynny, bydd penodai yn cael ei benodi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i hawlio, gwario a rheoli’r budd-dal neu’r pensiwn ar ran y person.
Os ydych chi’n benodai ar ran rhywun sydd â diffyg galluedd i wneud penderfyniadau ariannol, neu os ydych chi’n gweithio gyda rhywun sydd â phenodai, dylid ymgymryd â’r penodeiaeth yn unol â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Er enghraifft, dylai penderfyniadau ynghylch sut dylid gwario arian y person gael eu gwneud yn unol â’r egwyddor lles pennaf (gweler adran 7), a’r egwyddor ynghylch gwneud y pethau sy’n cyfyngu leiaf ar hawliau a rhyddid person (gweler adran 4).
Os oes tystiolaeth nad yw’r penodai yn dilyn yr egwyddorion hyn, mae’n bosibl diddymu’r penodiad.
Y Ddeddf Galluedd Meddyliol a Deddf Meinweoedd Dynol 2004
Mae Deddf Meinweoedd Dynol 2004 yn delio, ymysg pethau eraill, â materion sy’n ymwneud â chydsynio i feinweoedd neu organau gael eu defnyddio at ddibenion fel trawsblannu, ymchwil neu sicrhau gwybodaeth a allai fod yn berthnasol i berson arall.
Cyn ystyried storio neu ddefnyddio meinweoedd neu organau, at unrhyw un o’r dibenion hyn, gan bobl nad oes ganddynt y galluedd i gydsynio, rhaid i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ystyried Deddf Meinweoedd Dynol 2004. Mae rhagor o arweiniad ar gael gan yr Human Tissue Authority
Y Ddeddf Galluedd Meddyliol a phlant a phobl ifanc
- Pryd mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol i bobl ifanc 16 i 17 oed?
-
Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r Ddeddf Plant yn gorgyffwrdd â’i gilydd yn achos pobl ifanc 16 ac 17 oed. Mae’r rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol i bobl ifanc, ac mae’r Cod Ymarfer ar gyfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn rhoi arweiniad ar sut i fwrw ymlaen.
-
Rhaid i unrhyw benderfyniadau sy’n ymwneud â thrin pobl ifanc 16 neu 17 oed gael eu gwneud er eu lles gorau ac yn unol ag egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Fel gyda phob penderfyniad o’r fath, rhaid i’r penderfynwr – pan fydd yn ymarferol ac yn briodol – ymgynghori â theulu a ffrindiau’r person, yn enwedig y rheini sydd â chyfrifoldebau rhiant, fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau er lles pennaf (gweler adran 7).
- Pryd nad yw’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol i bobl ifanc 16 i 17 oed?
Dydy rhai rhannau o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol ddim yn berthnasol i bobl ifanc 16-17 oed, gan fod y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn 18 oed neu’n h?n. Y rhannau perthnasol:
-
gwneud Atwrneiaeth Arhosol (gweler adran 10);
-
gwneud penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth (gweler adran 10); a
-
gwneud ewyllys. Yn gyffredinol, nid yw’r gyfraith yn gadael i bobl dan 18 oed wneud ewyllys, ac mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cadarnhau nad oes gan y Llys Gwarchod b?er i wneud ewyllys ar ran unrhyw un sy’n iau nag 18 oed.
- Pryd mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol i blant dan 16 oed?
Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, Deddf Plant 1989 fydd yn dal i gael ei defnyddio i ddelio â gofal a llesiant plant dan 16 oed.
Mae dwy ran o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol sy’n berthnasol i blant dan 16 oed.
-
Pwerau’r Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ynghylch eiddo a materion plentyn dan 16 oed. Gall y Llys wneud y penderfyniadau hyn os yw’r Llys o’r farn ei bod yn debygol na fydd gan y plentyn y galluedd i wneud penderfyniadau am ei eiddo a’i faterion hyd yn oed pan fydd yn 16 oed (gweler adran 12).
-
Mae’r drosedd o gam-drin neu esgeuluso’n fwriadol hefyd yn berthnasol i blant dan 16 oed sydd â diffyg galluedd, gan nad oes terfyn oedran isaf wedi’i bennu ar gyfer y dioddefwr (gweler adran 9).
Mae’r Cod Ymarfer yn egluro’n fanylach achosion cyfreithiol ar gyfer pobl ifanc, a’r berthynas â deddfau perthnasol eraill fel Deddf Plant 1989.
Adran 15. Beth os ydw i eisiau gwybod mwy am y Ddeddf Galluedd Meddyliol?
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y Ddeddf Galluedd Meddyliol, gallwch ffonio 0300 456 0300 neu anfon neges e-bost at customerservices@publicguardian.gsi.gov.uk
Mae ffynonellau gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol eraill yn cynnwys:
Deddf Galluedd Meddyliol 2005
Gallwch ei gweld am ddim drwy fynd i: https://www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian
Neu gallwch archebu copi papur gan TSO drwy ffonio 0870 600 5522 neu anfon neges e-bost at customerservices@tso.co.uk
Y Cod Ymarfer ar gyfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol
Gallwch lwytho’r Cod i lawr am ddim drwy fynd i:
https://www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian
Neu gallwch archebu copi papur gan TSO drwy ffonio 0870 600 5522 neu anfon neges e-bost at customerservices@tso.co.uk
Adnodd arferion gorau i helpu i brofi pa mor barod yw’ch sefydliad ar gyfer gweithredu’r Ddeddf Galluedd Meddyliol
https://www.gov.uk/government/organisations/department-of-health-and-social-care ac yna ewch i Fwletin y Prif Weithredwr, Rhifyn 329, 28 Gorffennaf - 3 Awst 2006)
Gwybodaeth am y gwasanaeth Eiriolaeth Galluedd Meddwl Annibynnol (IMCA), Cynlluniau Peilot ICMA a deunyddiau hyfforddi ar gyfer ICMAs
https://www.gov.uk/government/organisations/department-of-health-and-social-care
Adran 16. Cysylltiadau defnyddiol
Mae’r adrannau canlynol yn y llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i weithredu’r Ddeddf Galluedd Meddyliol
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r broses o wneud penderfyniadau ar ran y rheini sydd â diffyg galluedd neu sydd am gynllunio ar gyfer eu dyfodol, o fewn fframwaith Deddf Galluedd Meddyliol 2005
Ffôn: 0300 456 0300
Ffonio o tu allan i’r DU: +44 (0)203 518 9639
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 0300 123 1300
E-bost: customerservices@publicguardian.gov.uk
Yr Adran Iechyd
Mae cyfrifoldebau’r Adran Iechyd yn cynnwys gosod polisïau iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr. Mae’r Adran yn gosod safonau ac yn gyrru’r broses o foderneiddio pob rhan o’r GIG, gofal cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd
Wellington House, 133-155 Waterloo Road, Llundain, SE1 3UG
https://www.gov.uk/government/organisations/department-of-health-and-social-care
Ffôn: 020 7210 4850
Llywodraeth Cymru
Yn datblygu polisïau ac yn cymeradwyo deddfwriaethau sy’n adlewyrchu anghenion pobl Cymru
Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
Ffôn: 029 2082 5111
Roedd y sefydliadau canlynol yn rhan o’r gwaith o ysgrifennu a chynghori ar y canllaw hwn.
Making Decisions Alliance
Mae’n cynnwys y canlynol: Action on Elder Abuse, Age Concern England, Alzheimer’s Concern Ealing, Alzheimer’s Society, Beth Johnson Foundation, Carers UK, Centre for Policy on Ageing, Cloverleaf Advocacy, Consumer Forum, Different Strokes, Down’s Syndrome Association, Foundation for People with Learning Disabilities, Headway, Help the Aged, Horsham Gateway Club, Independent Advocacy Service, Kent Autistic Trust, Leonard Cheshire, Mencap, Mental Health Foundation, Mind, Motor Neurone Disease Association, National Autistic Society, North Staffordshire Users Group, The Oaklea Trust, Patient Concern, Powerhouse, Relatives and Residents Association, Respond, Rethink, Rett Syndrome Association, St Clements Patient Council, Scope, Sense, Skills for People, Stroke Association, Turning Point, United Response, WITNESS
https://www.makingdecisions.org.uk
Action for Advocacy
Asiantaeth adnoddau a chymorth ar gyfer y sector eiriolaeth, gwybodaeth, hyfforddiant a chyngor.
PO Box 31856, Lorrimore Square, Llundain, SE17 3XR
Age Concern England
Y sefydliad mwyaf yn y DU sy’n gweithio i hyrwyddo llesiant pob person h?n. Mae’n darparu gwasanaethau, gwybodaeth a chymorth hanfodol i filoedd o bobl h?n – o bob oed a chefndir
Astral House, 1268 Llundain Road, Llundain, SW16 4ER
https://www.ageuk.org.uk › cymru
Llinell wybodaeth: 0800 00 99 66
Alzheimer’s Society
Prif elusen ymchwil a gofal y DU ar gyfer pobl â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr
Gordon House, 10 Greencoat Place, Llundain, SW1P 1PH
Llinell gymorth: 0845 300 0336
Association of Black Social Workers and Allied Professions
Nod y Gymdeithas yw gwella ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer defnyddwyr a staff Du
65 Woodrow, Woolwich, Llundain, SW18 5DH
Ffôn: 020 8 854 7402
Association of Directors of Social Services (ADSS)
Yn cynrychioli’r holl Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion (DASS) a Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Plant (DCS) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
ADDSS Administrator, ADDSS Business Unit, Local Government House, Smith Square, Llundain, SW1P 3HZ
Ffôn: 0300 7072 7433
Ffacs: 020 7863 9133
British Association of Social Workers (BASW)
Y gymdeithas fwyaf sy’n cynrychioli gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol yn y DU.
16 Kent Street, Birmingham, B5 6RD
Ffôn: (0121) 622 3911
Ffacs: (0121) 622 4860
Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA)
Mae’r BMA yn cynrychioli meddygon o bob cangen o feddygaeth ledled y DU
MA House, Tavistock Square, Llundain, WC1H 9JP
Ffôn: 020 7387 4499
Ffacs: 020 7383 6400
Carers UK
Yn gofalu am aelodau teulu, partneriaid neu ffrindiau sydd angen help oherwydd eu bod yn sâl, yn fregus neu oherwydd bod ganddynt anabledd
20/25 Glasshouse Yard, Llundain, EC1A 4JT
Ffôn: 020 7566 7637
Ffacs: 020 0207490 8824
Down’s Syndrome Association
Yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sydd â syndrom Down, eu teuluoedd a’u gofalwyr, yn ogystal â bod yn adnodd ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb
Langdon Down Centre, 2a Langdon Park, Teddington, Middlesex, TW11 9PS
https://www.downs-syndrome.org.uk
Ffôn: 0845 230 0372
Ffacs: 0845 230 0373
English Community Care Association
Y corff cynrychioliadol mwyaf ar gyfer gofal cymunedol yn Lloegr
4th Floor, 145 Cannon Street, Llundain
Ffôn: 020 7220 9595
Ffacs: 020 7220 9596
Foundation for People with Learning Disabilities
Yn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’r rhai sy’n eu cefnogi i wella ansawdd eu bywydau, ac yn hyrwyddo hawliau, ansawdd bywyd a chyfleoedd pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd
Sea Containers House, 20 Upper Ground, Llundain, SE1 9QB
https://www.learningdisabilities.org.uk/
Ffôn: 020 7803 1100
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)
Mae’r GMC yn cofrestru meddygon i ymarfer meddygaeth yn y DU
Regents Place, 350 Euston Road, Llundain, NW1 3JN
Ffôn: 0845 357 3456
Ffacs: 0845 357 8001
Headway – y gymdeithas anafiadau i’r ymennydd
Yn hyrwyddo dealltwriaeth o bob agwedd ar anafiadau i’r ymennydd; a darparu gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau i bobl sydd ag anafiadau i’r ymennydd, eu teuluoedd a’u gofalwyr
4 King Edward Court Service , King Edward Street, Nottingham, NG1 1EW
Ffôn: 0115 9240800
Llinell gymorth: 0808 800 2244
Cymdeithas Llywodraeth Leol (LGA)
Yn hyrwyddo buddiannau awdurdodau lleol Cymru a Lloegr – cyfanswm o ychydig o dan 500 awdurdod
Local Government House, Smith Square, Llundain, SW1P 3HZ
Ffôn: 020 7664 3131
Ffacs 020 7664 3030
Y Sefydliad Iechyd Meddwl
Un o brif elusennau’r DU sy’n darparu gwybodaeth, cynnal gwaith ymchwil, ymgyrchu ac yn gweithio i wella gwasanaethau i unrhyw un y mae problemau iechyd meddwl yn effeithio arnynt, beth bynnag fo’u hoed a ble bynnag y maent yn byw
Sea Containers House, 20 Upper Ground, Llundain, SE1 9QB
https://www.mentalhealth.org.uk/
Ffôn: 020 7803 1100
MIND
Elusen iechyd meddwl flaenllaw sy’n gweithio i greu bywyd gwell i bawb sydd â phrofiad o drallod meddwl. Mae’n darparu gwybodaeth ac yn elusen sy’n cynnig cymorth ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr
15-19 Broadway, Stratford, Llundain, E15 4BQ
Ffôn: 0208 519 2122
Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol (NAS)
Yn hyrwyddo hawliau a buddiannau pob person awtistig, ac yn sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn derbyn gwasanaethau o safon sy’n briodol i’w hanghenion
393 City Road, Llundain, EC1V 1NG
Llinell gymorth Awtistiaeth: 0845 070 4004
Y Gymdeithas Gofal Genedlaethol (NCA)
Yn cynrychioli buddiannau darparwyr gofal cymdeithasol bach a chanolig yng Nghymru a Lloegr, ac yn darparu gwasanaethau i’w cefnogi
45-49 Leather Lane, Llundain, EC1N 7JT
[https://nationalcareassociation.org.uk[(https://nationalcareassociation.org.uk)
Ffôn: 020 7831 7090
Y Fforwm Gofal Cenedlaethol
Sefydlwyd y Fforwm i gynrychioli buddiannau darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol nid-er-elw yn y Deyrnas Unedig
National Care Forum, 3 The Quadrant, Coventry, CV1 2DY.
https://nationalcareassociation.org.uk/
Ffôn: 024 7624 3619
The National Family Carer Network
Yn darparu canolbwynt ar gyfer materion sy’n effeithio ar deuluoedd sy’n cynnwys oedolyn ag anabledd dysgu
Merchants House, Wapping Road, Bryste, BS1 4RW
https://www.familycarers.org.uk/
Ffôn: 0117 930 2600
The National Family Carer Support Service
Yn darparu cymorth a gwybodaeth i ofalwyr sy’n aelodau o’r teulu
Merchants House, Wapping Road, Bryste, BS1 4RW
Ffôn: 0117 930 2608
Patient Concern
Sefydliad sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo dewis a grymuso holl ddefnyddwyr y gwasanaeth iechyd
PO Box 23732, Llundain, SW5 9FY
E-bost: patientconcern@hotmail.com
The Relatives and Residents Association
Sefydliad ar gyfer pobl h?n y mae angen gofal preswyl arnynt, neu sy’n byw mewn gofal preswyl, a’r teuluoedd a’r ffrindiau sy’n cael eu gadael ar ôl
24 The Ivories, 6-18 Northampton Street, Llundain, N1 2HY
Ffôn: 020 7359 8148
RESCARE
Y gymdeithas genedlaethol ar gyfer plant ac oedolion ag anableddau dysgu a’u teuluoedd
Steven Jackson House, 31 Buxton Road, Heaviley, Stockport, SK2 6LS
Ffôn: 0161 474 7323
RESPOND
Yn darparu ystod o wasanaethau i ddioddefwyr a chyflawnwyr cam-drin rhywiol sydd ag anableddau dysgu, a’r rheini y mae trawma arall wedi effeithio arnynt. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys rhoi cymorth a hyfforddiant i deuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
3rd Floor, 24-32 Stephenson Way, Llundain, NW1 2HD
Ffôn: 020 7383 0700
Ffacs: 020 7387 1222
Llinell gymorth: 0808 808 0700
Y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN)
Yn cynrychioli nyrsys a nyrsio
20 Cavendish Square, Llundain, W1G 0RN
Ffôn: 020 7409 3333
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCN)
Y corff proffesiynol ac addysgol i seiciatryddion yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon
17 Belgrave Square, Llundain, SW1X 8PG
Ffôn: 020 7235 2351
Social Care Association
Cymdeithas fywiog, gynhwysol a gwybodus sy’n hyrwyddo arferion cadarnhaol yn amlwg ym mhob gwasanaeth gofal cymdeithasol ledled y DU
Thornton House, Hook Road, Surbiton, Surrey, KT6 5AN
https://www.socialcareassociation.co.uk
Ffôn: 020 8 397 1411
Scope
Sefydliad anabledd yng Nghymru a Lloegr, sy’n canolbwyntio ar bobl â pharlys yr ymennydd
6 Market Road, Llundain, N7 9PW
Ffôn: 020 7619 7100
Sense
Elusen sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau arbenigol i bobl ddall fyddar, eu teuluoedd, eu gofalwyr a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw. Mae’n derbyn cyllid i ddatblygu deunyddiau hyfforddiant sy’n rhoi sylw i faterion eiriolaeth ar gyfer pobl ddall fyddar
11-13 Clifton Terrace, Finsbury Park, Llundain, N4 3SR
Ffôn: 0845 127 0060
Ffacs: 0845 127 0061
Testun: 0845 127 0062
Turning Point
Prif sefydliad gofal cymdeithasol y DU, sy’n darparu gwasanaethau i bobl ag anghenion cymhleth, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu heffeithio gan gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, problemau iechyd meddwl a’r rheini sydd ag anabledd dysgu
Standon House, 21 Mansell Street, Llundain, E1 8AA
https://www.turning-point.co.uk
Ffôn: 020 7481 7600