Canllawiau

Canllawiau i yrwyr: Cerbydau Cludo Teithwyr (PCV)

Diweddarwyd 25 Chwefror 2020

Driver behind the wheel

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall a chydymffurfio â rhai rheolau a rheoliadau pwysig ynghylch ymddygiad a thrwyddedu gyrwyr yn y diwydiant bws a choets (PCV). Mae’n darparu dolenni i ffynonellau gwybodaeth fanylach.

Fel gyrrwr bws neu goets, dylech ddilyn canllawiau cyflogwyr a’r llywodraeth i sicrhau diogelwch eich hun, eich teithwyr, defnyddwyr eraill y ffordd a cherddwyr.

1. Ymddygiad gyrwyr

Mae ymddygiad gyrwyr yn cyfeirio at ymddygiad a gweithredoedd gyrwyr, yn y gwaith ac ar adegau eraill.

Dylech fod yn ymwybodol o rôl y Comisiynwyr Traffig. Mae eu cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • ystyried ymddygiad deiliaid trwyddedau PCV ac ymgeiswyr trwydded i ddal yr hawl
  • atal neu ddiddymu trwyddedau gyrwyr galwedigaethol lle bo hynny’n briodol

Yn ogystal â throseddau moduro, oriau gyrru’r gyrrwr a thacograff, gall hawl gyrrwr PCV cael ei atal neu ddiddymu oherwydd amryw o droseddau eang eraill.

Yn benodol, bydd euogfarnau difrifol am ymosodiad, lladrad neu gyflenwi cyffuriau yn rhoi rheswm i’r Comisiynydd Traffig i ystyried addasrwydd person i yrru bws neu goets, oherwydd y cyfleoedd mae’r gwaith yma yn rhoi i gael cyswllt agos gyda’r cyhoedd.

Mae yfed a gyrru, gyrru a chyffuriau, goryrru a defnyddio ffôn symudol â llaw yn peri risgiau penodol i ddiogelwch ar y ffyrdd. Gall Comisiynwyr Traffig atal neu ddiddymu hawl gyrrwr a’u gwahardd, os cawsant eu hadrodd am y troseddau hyn. Dylech ddweud wrth eich cyflogwr yn syth os cewch eich barnu’n euog o unrhyw drosedd moduro newydd. Mae gan weithredwyr ddyletswydd i adrodd am yr holl droseddau moduro a gyflawnir mewn unrhyw gerbyd i’r Comisiynydd Traffig.

Cofiwch: dim ond un drosedd a gallech golli’ch hawl i yrru bws.

Cael gwybod mwy am sut mae Comisiynwyr Traffig yn delio â gyrwyr galwedigaethol.

2. Cerdyn CPC gyrrwr

Rhaid i chi bob amser gario’ch Cerdyn Cymhwyster Gyrrwr neu’ch Cerdyn Cymhwyster Gyrrwr Cenedlaethol (ar gyfer Tystysgrif o Gymhwyster Proffesiynol Gyrrwr) wrth yrru bws.

Rhaid i chi gwblhau 35 awr o hyfforddiant cyfnodol bob 5 mlynedd tuag at eich Tystysgrif o Gymhwyster Proffesiynol Gyrwyr i yrru bws.

Rhaid i chi hefyd gario eich Cerdyn Cymhwyster Gyrrwr os cyhoeddwyd un i chi.

3. Cerdyn tacograff gyrrwr

Rhaid i chi hefyd gario cerdyn gyrrwr digidol os cyhoeddwyd un i chi, hyd yn oed os ydych chi’n gyrru cerbyd gyda thacograff analog.

Os yw eich gwaith wedi’i gwmpasu gan reoliadau oriau gyrwyr yr UE ac mae gan eich cerbyd tacograff digidol, mae’n rhaid i chi ddefnyddio cerdyn gyrrwr yn ôl y gyfraith. Os yw cerbyd wedi’i osod gyda thacograff digidol yn cael ei ddefnyddio ar waith sy’n cael ei gwmpasu gan reolau domestig Prydain, rhaid ei osod i ‘allan o gwmpas’ oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio fel dewis arall i gadw cofnodion mewn llyfr log gyrrwr.

Cael gwybod mwy am faint o oriau y gallwch eu gyrru a’r egwyliau y mae angen i chi eu cymryd.

4. Trwyddedu gyrwyr a chyflyrau meddygol

Os oes gennych drwydded gyfyngedig oherwydd cyflyrau meddygol neu yr ydych yn gyrru dramor dylech wneud cais i adnewyddu eich hawl i’r drwydded yrru cyn gynted ag y bo modd (fel arfer 60 diwrnod cyn iddi ddod i ben). Bydd hyn yn sicrhau bod gan DVLA ddigon o amser i ymchwilio i unrhyw gyflyrau meddygol.

Dylech fod yn ymwybodol, pan fyddwch yn adnewyddu eich hawl galwedigaethol ar eich trwydded, bod yr hawl yn ddilys o’r dyddiad y mae’n cael ei gyhoeddi gan DVLA. Efallai na fydd hyn yn cyfateb â dyddiad dod i ben yr hawl blaenorol.

Eich cyfrifoldeb chi yw gwybod pryd mae eich trwydded yrru, cerdyn gyrrwr a cherdyn CPC yn dod i ben.

Gallwch wirio pa gerbydau y gallwch eu gyrru, faint o bwyntiau cosb sydd gennych, a phryd y bydd eich trwydded gyfredol yn dod i ben ar unrhyw adeg gan ddefnyddio gwasanaeth Gweld Trwydded Yrru DVLA. Bydd angen eich rhif trwydded yrru a rhif Yswiriant Gwladol arnoch i’w ddefnyddio. Mae hwn yn wasanaeth am ddim.

Rhaid i chi ddweud wrth DVLA ac i’ch cyflogwr am unrhyw gyflwr meddygol hysbysadwy. Mae’r rhan fwyaf o yrwyr sy’n dweud wrth DVLA am gyflwr meddygol yn dal i gadw eu hawl.

Mae’r rhai nad ydynt yn dweud wrth DVLA yn cyflawni trosedd ac efallai eu bod yn berygl i ddefnyddwyr ffyrdd eraill a cherddwyr.

Cael gwybod am gyflyrau hysbysadwy neu gofynnwch i’ch meddyg teulu p’un a allai cyflwr presennol neu newydd effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel.

Os ydych wedi dweud wrth DVLA am gyflwr meddygol, dylech gadw cysylltiad agos â’ch meddyg teulu i sicrhau bod unrhyw gais am wybodaeth gan DVLA yn cael ei drin yn brydlon.

Mae ffurflenni cais ar gael ar-lein neu gallwch eu cael o’ch Swyddfa’r Post® agosaf sy’n delio â cheisiadau am drwyddedau gyrru.

Dylai gyrwyr PCV gynnal archwiliadau bob dydd i gadw safonau diogelwch ar gyfer eu cerbydau, a enwir yn wiriad edrych o amgylch y cerbyd.

Mewn partneriaeth â:

  • Logistics UK
  • Y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd
  • Yr Adran dros Drafnidiaeth (DfT)
  • Swyddfa’r Comisiynydd Traffig