Cyhoeddiad

Adnabod a rhoi gwybod am e-byst gwe-rwydo a negeseuon testun

Diweddarwyd 15 November 2018

1. Rhestr bresennol o ohebiaeth ddigidol neu ohebiaeth arall a anfonir gan CThEM

1.1 Gorfodi Dyledion – Gweithlu Hen Ddyledion – Llythyr

Mae’r llythyr oddi wrth adran Gorfodi Dyledion – Gweithlu Hen Ddyledion CThEM, sy’n dwyn y teitl ‘Camau i’w cymryd ar unwaith – talwch’, yn ddilys.

Os ydych am wirio dilysrwydd y llythyr, chwiliwch am y rhif ffôn a roddwyd ar wefan GOV.UK.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, siaradwch ag ymgynghorydd ynghylch manylion y llythyr i sicrhau ei fod yn ddilys.

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i unrhyw ohebiaeth oddi wrth CThEM yr ydych yn ansicr ohoni.

1.2 Ymchwil Pwynt Gwerthu Electronig

Rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Ionawr 2019, bydd CThEM yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol o’r enw ‘IFF Research’.

Bydd CThEM ac IFF yn cysylltu â rhanddeiliaid sydd â rhan yn y farchnad Pwynt Gwerthu Electronig (Electronic Point of Sale - EPOS).

Bydd busnesau sy’n cymryd rhan yn natblygiad neu ddosraniad systemau EPOS yn cael llythyr yn uniongyrchol gan IFF. Bydd y llythyr, a fydd yn cynnwys logo IFF, yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr ymchwil. Bydd enwau cyswllt yn IFF ar y llythyr rhag ofn y byddwch am gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ymchwil neu os na hoffech gymryd rhan.

Bydd busnesau sydd efallai yn defnyddio systemau EPOS yn cael llythyr gan CThEM. Bydd y llythyr, a fydd yn dangos logo CThEM, yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr ymchwil. Bydd enwau cyswllt yn CThEM ar y llythyr rhag ofn y byddwch am gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ymchwil neu os na hoffech gymryd rhan.

Bydd yr ymchwil yn helpu CThEM i ddeall sut mae busnesau’n gwneud penderfyniadau ynghylch defnyddio systemau EPOS ac yn helpu i adeiladu dealltwriaeth CThEM o gyffredinrwydd a gyrwyr y defnydd o Guddio Gwerthiannau Electronig (ESS) sy’n cynnwys systemau EPOS yn y DU.

1.3 Arolwg cydymffurfiad cwsmeriaid busnesau o faint canolig

Rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Chwefror 2019 bydd CThEM yn anfon e-bost at gwsmeriaid yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein. Daw’r e-bost o no.reply@advice.hmrc.gov.uk.

Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn cael galwad neu lythyr oddi wrthym yn rhoi gwybod i chi am yr ymchwil.

Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol ac ar sail ddienw. Rhoddir yr opsiwn i chi optio allan os nad ydych yn dymuno cymryd rhan.

Bydd yr ymchwil yn ein helpu i wella taith y gwasanaeth cydymffurfiad i’n cwsmeriaid i’w wneud yn broses hawsach, cyflymach ac yn fwy cyfleus. Defnyddir eich adborth i helpu llunio’r gwasanaeth a gynigiwn i’n cwsmeriaid i gyd.

1.4 Arolwg Cwsmeriaid y Gwasanaeth Cyfnewid Data Diogel

Rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Chwefror 2019 bydd CThEM yn anfon e-bost at gwsmeriaid yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein ynghylch eu profiad o ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyfnewid Data Diogel. Daw’r e-bost o no.reply@advice.hmrc.gov.uk.

Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn cael galwad neu lythyr oddi wrthym yn rhoi gwybod i chi am yr ymchwil.

Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol ac ar sail ddienw. Rhoddir yr opsiwn i chi optio allan os nad ydych yn dymuno cymryd rhan.

Bydd yr ymchwil yn ein helpu i ddeall sut mae’r gwasanaeth yn gweithio i ni a’n cwsmeriaid a bydd yn helpu i lunio’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig.

1.5 Gwiriadau cydymffurfio ar gyfer busnesau o faint canolig, elusennau, neu gyrff cyhoeddus

Mae’n bosibl y bydd CThEM yn cysylltu â chwsmeriaid i drefnu cyfweliad gwiriad cydymffurfio sydd i’w gynnal dros y ffôn.

Wrth ffonio i drefnu cyfweliadau dros y ffôn, mae’n bosibl y byddwn hefyd yn gofyn i gofnodion busnes gael eu hanfon drwy’r post neu’n electronig, drwy blatfform diogel.

Gallwch wirio a yw ceisiadau’n ddilys drwy ofyn i’r aelod o staff CThEM anfon e-bost atoch i gadarnhau pwy ydyw tra byddwch ar ben arall y ffôn. Dylai ei gyfeiriad e-bost gynnwys ei enw a gorffen gyda @hmrc.gsi.gov.uk. Gallwch hefyd ffonio’r llinell gymorth berthnasol ar gyfer ymholiadau cyffredinol i wirio ceisiadau am: * TAW ar gyfer busnesau * treth ar gyfer cyflogwyr * Treth Gorfforaeth ar gyfer cwmnïau cyfyngedig

Pan ffoniwch, bydd angen un o’r canlynol arnoch: * rhif cofrestru TAW * cyfeirnod y cyflogwr * Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) 10 digid

1.6 Ymchwil i Ymgysylltiad Rhanddeiliaid

Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2018, bydd CThEM yn gweithio gyda Populus, asiantaeth ymchwil annibynnol. Bydd yr asiantaeth yn cysylltu â sampl o randdeiliaid sydd wedi cysylltu â CThEM, neu sydd wedi dangos diddordeb mewn cael gwybodaeth am yr adran (er enghraifft, y cyfryngau, ASau a chynrychiolwyr busnesau ac asiantau). Bydd y cyswllt cyntaf drwy e-bost, a bydd cysylltiadau dilynol drwy e-bost a thros y ffôn.

Bydd yr ymchwil yn helpu CThEM i ddeall safbwyntiau ei randdeiliaid, ac yn cyfrannu at y modd y byddwn yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu â nhw yn y dyfodol.

1.6.1 E-byst a galwadau ffôn sy’n gofyn i randdeiliaid gymryd rhan mewn arolwg dros y ffôn

Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2018, mae’n bosibl y bydd rhanddeiliaid yn cael e-bost gan CThEM a fydd yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad manwl dros y ffôn. Bydd yr e-bost yn cynnwys y canlynol:

  • manylion cyswllt CThEM a Populus, sef asiantaeth ymchwil annibynnol
  • gwybodaeth am yr ymchwil
  • sut i ddewis peidio â chymryd rhan yn y cyfweliad

Mae’n bosibl y bydd Populus yn anfon rhagor o e-byst at randdeiliaid, neu’n eu ffonio, i’w hannog i gymryd rhan yn yr ymchwil.

1.7 E-byst ynghylch defnyddio’ch cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

O fis Awst 2018 ymlaen, efallai y bydd CThEM yn cysylltu, drwy e-bost, â rhai cwsmeriaid sydd wedi cofrestru ar gyfer eu 30 awr o ofal plant rhad ac am ddim, neu sydd wedi agor cyfrifon Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Bydd yr e-byst yn eich atgoffa am y buddion o ddefnyddio’ch cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, ac yn egluro sut y gellir effeithio ar eich 30 awr o ofal plant rhad ac am ddim a’ch Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth wrth i’ch plentyn gyrraedd oed ysgol.

Bydd yr e-byst yn eich cyfeirio at GOV.UK, lle gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth. Ni fydd yr e-byst yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol na gwybodaeth ariannol.

1.8 Ymchwil i archwilio a gwerthuso sut mae cwsmeriaid sy’n fusnesau mawr yn rhyngweithio â CThEM

O fis Medi i fis Rhagfyr 2018, bydd CThEM yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol o’r enw IFF Research. Bydd yr asiantaeth yn cynnal ymchwil ar sut mae cwsmeriaid sy’n fusnesau mawr yn rhyngweithio â CThEM.

Bydd IFF Research a CThEM yn anfon llythyr ar y cyd i fusnesau sy’n gymwys ar gyfer yr astudiaeth. Bydd logos y ddau sefydliad yn ymddangos ar y llythyr, a fydd yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr ymchwil. Bydd enwau cyswllt yn IFF Research a CThEM ar y llythyr rhag ofn y byddwch am gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ymchwil neu os hoffech roi gwybod nad ydych yn dymuno cymryd rhan.

Os na hoffech gymryd rhan yn yr ymchwil, mae’n rhaid i chi ffonio neu e-bostio IFF Research, gan roi’ch enw a’r cyfeirnod sydd ar frig y llythyr. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth os ydych yn fodlon cymryd rhan.

1.9 Arolwg o brofiadau cwsmeriaid sy’n fusnesau maint canolig 2018

O fis Medi i fis Rhagfyr 2018, bydd asiantaeth ymchwil annibynnol, sef IFF Research, yn cysylltu â hapsampl o fusnesau maint canolig ynghylch cymryd rhan mewn arolwg o brofiadau cwsmeriaid.

Efallai y cewch lythyr neu e-bost gan IFF Research a fydd yn rhoi gwybod i chi am yr arolwg. Caiff ei ddilyn wedyn gan alwad ffôn a fydd yn eich gwahodd i gymryd rhan – dylai hyn gymryd tua 20 munud. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth gyda’r llythyr neu’r e-bost, oni bai eich bod am ddewis peidio â chymryd rhan.

Bydd yr ymchwil yn helpu CThEM i ddatblygu ei strategaeth ar gyfer busnesau maint canolig a chanfyddiadau’r busnesau o ddelio â CThEM. Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol ac ar sail ddienw.

1.10 Ymchwil i fasnach dramor ymhlith busnesau sydd heb eu cofrestru ar gyfer TAW

O fis Awst i fis Rhagfyr 2018, bydd CThEM yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol o’r enw IFF Research.

Bydd yr asiantaeth yn cynnal astudiaeth o fusnesau sydd heb eu cofrestru ar gyfer TAW ac sy’n mewnforio nwyddau a gwasanaethau.

Amcan yr astudiaeth yw deall gweithgareddau ac ymddygiadau masnachu rhyngwladol presennol, ac effaith rheolau Man Cyflenwi.

Bydd yr asiantaeth yn cysylltu â hapsampl o fusnesau sydd heb eu cofrestru ar gyfer TAW. Efallai y cewch lythyr gan IFF research a fydd yn rhoi gwybod i chi am yr ymchwil, a galwad ffôn yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg, a fydd yn cymryd tua 20 munud.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn wirfoddol. Os dewiswch gymryd rhan, bydd eich holl atebion yn gyfrinachol.

Ni fydd modd i CThEM wybod pa fusnesau sy’n cymryd rhan, na gweld eu hatebion unigol. Bydd yr wybodaeth a rowch ar gyfer yr astudiaeth hon yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig.

1.11 Ymchwil ar farn asiantau treth am lenwi ffurflenni Hunanasesiad Treth Incwm a Ffurflenni TAW

O fis Gorffennaf 2018 i fis Ebrill 2019, bydd CThEM yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, Kantar Public.

Bydd yr asiantaeth yn cynnal astudiaeth i ddeall safbwyntiau asiantau treth am lenwi ffurflenni Hunanasesiad Treth Incwm a Ffurflenni TAW.

Efallai y byddwch yn cael llythyr gan Kantar Public yn rhoi gwybod i chi am yr ymchwil, a galwad ffôn yn eich gwahodd i gymryd rhan.

Ni fydd y llythyr yn gofyn i chi wneud unrhyw beth, bydd yr alwad ffôn yn gofyn a hoffech gymryd rhan mewn arolwg byr. Mae’r arolwg tua 5 i 7 munud o hyd, ac yn gofyn am safbwyntiau asiantau treth am lenwi ffurflenni Hunanasesiad Treth Incwm a Ffurflenni TAW.

Ni ofynnir i chi am eich manylion treth personol na manylion treth eich sefydliad.

Gallwch ofyn i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ymchwil, neu roi gwybod i Kantar Public nad ydych yn dymuno cymryd rhan.

Hoffai CThEM i chi gymryd rhan yn yr astudiaeth hon i wella dealltwriaeth o’r modd y bydd busnesau’n ymateb i’r newidiadau i wneud gwaith gweinyddu trethi’n fwy effeithlon, yn haws ac yn agosach at amser real.

1.12 Arolwg cwsmeriaid o unigolion, busnesau bach ac asiantau

Yn ystod mis Awst a mis Tachwedd 2018, bydd CThEM yn gweithio gyda’r asiantaeth ymchwil annibynnol, Kantar Public. Bydd yr asiantaeth yn cysylltu â’r canlynol:

  • unigolion sy’n 16 oed neu’n hŷn
  • busnesau gyda llai nag 20 o gyflogeion
  • asiantau treth

Bydd yr ymchwil hwn yn galluogi CThEM i ddeall barn y grwpiau hyn ac yn helpu i wella ansawdd y gwasanaeth. Yn yr arolwg ni ofynnir i gwsmeriaid roi manylion personol megis manylion eu cyfrif banc nac eu Rhif Yswiriant Gwladol.

1.12.1 Llythyrau i aelwydydd

O fis Awst 2018 ymlaen, bydd Kantar Public a CThEM yn anfon llythyr ar y cyd at sampl o gwsmeriaid. Bydd logos y ddau sefydliad yn ymddangos ar y llythyr, a fydd yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein. Bydd y llythyrau’n cynnwys cysylltiad i’r arolwg, ynghyd â chyfeirnodau a thocynnau i alluogi hyd at 3 aelwyd i gymryd rhan.

Bydd y llythyrau hefyd yn cynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost ar gyfer Kantar Public, er mwyn i gwsmeriaid gysylltu â nhw os ydynt am gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ymchwil. Ym mis Medi 2018, bydd Kantar Public yn anfon llythyrau atgoffa i aelwydydd sydd heb lenwi’r arolwg.

1.12.2 Llythyrau a galwadau ffôn i fusnesau ac asiantau treth

Bydd Kantar Public hefyd yn anfon llythyr ar y cyd i sampl o fusnesau ac asiantau treth. Bydd logos y ddau sefydliad yn ymddangos ar y llythyr, gan roi gwybod iddynt y byddant o bosibl yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg dros y ffôn.

Bydd manylion Kantar Public yn ymddangos yn y llythyrau, gan gynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost. Gall cwsmeriaid gysylltu â nhw os ydynt am gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ymchwil neu os hoffent beidio â chymryd rhan.

Mae’n bosibl y bydd y cwsmeriaid hynny, sydd heb ddewis peidio â chymryd rhan, yn cael galwad ffôn gan Kantar Public rhwng mis Medi 2018 a mis Tachwedd 2018, a fydd yn eu gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg.

1.13 E-byst a llythyrau i fusnesau tramor sy’n gwerthu gwasanaethau digidol i ddefnyddwyr yn y DU

Mae CThEM wrthi’n cysylltu drwy e-bost a drwy’r post â busnesau tramor sy’n gwerthu gwasanaethau digidol i ddefnyddwyr yn y DU ynghylch eu rhwymedigaethau TAW yn y DU.

Bydd y neges yn egluro pam rydym yn cysylltu â nhw, ac yn gofyn iddynt gysylltu â ni. Ni fyddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol, busnes nac ariannol.

1.14 E-byst wedi’u cyfeirio at fusnesau sy’n gwerthu nwyddau yn y DU drwy farchnadfeydd ar-lein

Mae CThEM yn cysylltu â busnesau sy’n gwerthu nwyddau yn y DU drwy farchnadfeydd ar-lein. Mae’r e-byst yn cyfeirio at rwymedigaeth TAW yn y DU. Bydd yr e-bost cyntaf yn egluro’r rheswm am yr e-bost ac yn gofyn iddynt gysylltu â CThEM.

1.15 Helpu i wella GOV.UK - e-byst

Bydd cwsmeriaid sy’n cofrestru er mwyn helpu GOV.UK i wella gwasanaethau’r llywodraeth, yn cael cyfathrebiadau gan CThEM ar ffurf e-byst.

Yn yr e-bost cyntaf bydd yna gysylltiad y dylid ei ddilyn er mwyn cwblhau’r broses gofrestru. Bydd yr ail e-bost, a anfonir ar ôl cofrestru, yn cynnwys cysylltiad i flog ymchwil.

Unwaith eich bod wedi cofrestru, mae’n bosibl y cewch e-byst sy’n cynnwys cysylltiadau i arolygon byr ynghylch ymchwil.

Os byddwch yn bodloni’r meini prawf ar gyfer yr ymchwil, byddwch yn cael e-bost yn eich gwahodd i gymryd rhan. Bydd yr e-bost naill ai’n rhoi cysylltiad i chi gymryd rhan ar-lein, neu’n rhoi manylion ychwanegol er mwyn cymryd rhan wyneb yn wyneb.

Ni fydd yr e-bost yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol. Byddan nhw i gyd yn cynnwys cysylltiad i’ch galluogi i ddadgofrestru.

1.16 E-byst a anfonir at gwsmeriaid yn hyrwyddo Cyfrif Treth Personol

Gofynnir i gwsmeriaid sy’n cysylltu â llinellau cymorth CThEM a ydynt yn dymuno cofrestru ar gyfer Cyfrif Treth Personol (PTA). Cynigir rhagor o wybodaeth drwy e-bost i’r cwsmeriaid hynny nad ydynt yn dymuno cofrestru dros y ffôn.

Os yw cwsmeriaid yn cytuno i roi cyfeiriad e-bost, bydd peth gwybodaeth yn cael ei hanfon atynt drwy e-bost tra’u bod ar y ffôn. Bydd yr e-bost yn rhoi gwybodaeth gefndirol ynghylch y buddion o gofrestru ar gyfer PTA a sut y gall y cwsmer fynd ati i wneud hynny. Ni fydd yr e-bost yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol.

1.17 E-byst am TAW’r UE

Efallai y bydd cwsmeriaid sy’n defnyddio gwasanaeth ad-daliadau TAW’r UE yn cael e-bost os yw eu cais wedi methu’r gwiriad dilysu. Bydd yr e-bost yn egluro pam y mae’r cais wedi methu. Ni fydd y negeseuon yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol.

1.18 Ystadegau masnach – e-byst sy’n cynnwys data mewnforio ac allforio

Mae Uned Ystadegau Masnach CThEM yn anfon e-byst at gwsmeriaid busnes yn rheolaidd sy’n cynnwys data mewnforio ac allforio ystadegol, yn ogystal â gwybodaeth am y gwasanaethau cysylltiedig sydd ar gael ar wefan ystadegau masnach CThEM.

Mae’r rhain yn cynnwys hysbysiadau i fusnesau, diweddariadau i wasanaethau, nodion i’ch atgoffa am ddyddiadau cau, adolygiadau o ansawdd data a cheisiadau i gymryd rhan mewn arolygon. Gall y negeseuon hyn gynnwys cysylltiadau i wybodaeth bellach, deunydd addysgol neu arolygon ar wefan ystadegau masnach CThEM.

Ni fyddant yn gofyn am wybodaeth bersonol, gwybodaeth sy’n ymwneud â thaliadau na gwybodaeth am drethi.

1.19 Rheoli dyledion

1.19.1 Negeseuon testun

Mae CThEM yn anfon negeseuon testun at rai cwsmeriaid sy’n esbonio’r hyn y mae angen i chi’i wneud os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau. Bydd y negeseuon hyn yn cynnwys gwybodaeth am dalu CThEM neu rif ffôn llinell gymorth.

Mae CThEM hefyd yn anfon negeseuon sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd talu gan ddefnyddio’r wybodaeth gywir.

Ni fydd y negeseuon yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol.

1.19.2 Negeseuon llais i ffonau llinell dir a symudol

Mae CThEM yn anfon negeseuon llais at rai cwsmeriaid sy’n esbonio’r hyn y mae angen i chi’i wneud os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau. Bydd cwsmeriaid yn cael y rhain fel galwad ffôn sy’n rhoi gwybodaeth am dalu CThEM neu rif ffôn llinell gymorth.

Mae CThEM hefyd yn anfon negeseuon sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd talu gan ddefnyddio’r wybodaeth gywir.

Ni fydd y negeseuon yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol.

1.20 E-byst am TAW

1.20.1 Ffurflenni TAW – e-byst i’ch atgoffa

Bydd CThEM yn anfon e-bost at gwsmeriaid i’w hatgoffa o’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’u Ffurflenni TAW os ydynt wedi’u cofrestru i gael e-byst atgoffa. Mae’r e-byst yn dwyn y teitl ‘Reminder to file your VAT Return’ ac yn cynnwys cysylltiad i dudalen sy’n rhoi rhagor o wybodaeth, yn ogystal â chysylltiad i’r dudalen fewngofnodi ar GOV.UK.

Ni fydd yr e-byst hyn yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol nac ariannol ar unrhyw adeg.

1.20.2 Cofrestru ar gyfer TAW - e-bost

Bydd CThEM yn anfon e-bost at gwsmeriaid sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEM. Bydd CThEM yn defnyddio’r cyfeiriadau e-bost a roddwyd gan gwsmeriaid er mwyn rhoi gwybod bod angen iddynt fewngofnodi i’w cyfrifon treth ar-lein i weld neges yn yr adran negeseuon ddiogel.

Ni fydd yr e-byst hyn yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol nac ariannol ar unrhyw adeg.

1.20.3 Dyledion TAW – e-byst i’ch atgoffa

Mae’n bosibl y bydd CThEM yn anfon e-bost at gwsmeriaid pan fydd eu taliadau TAW yn orddyledus. Bydd CThEM yn defnyddio’r cyfeiriadau e-bost a roddwyd gan gwsmeriaid eisoes, ac yn argymell bod cwsmeriaid yn talu ar-lein i osgoi camau pellach yn eu herbyn. Ni fydd yr e-byst hyn yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol nac ariannol ar unrhyw adeg.

Bydd yr e-byst hyn yn cael eu hanfon o no.reply@advice.hmrc.gov.uk, ac ni fyddwch yn gallu eu hateb.

1.21 E-byst Help a Chefnogaeth

O bryd i’w gilydd, bydd CThEM yn anfon e-byst at gwsmeriaid i gefnogi digwyddiadau bywyd eu busnesau. Ar adegau bydd yr e-byst yn cynnwys cysylltiadau i gynnyrch digidol ar-lein sy’n addysgol a pherthnasol er mwyn eich helpu gyda’ch busnes. Bydd yr e-byst yn ymddangos yn eich bar cyfeiriad fel no.reply@advice.hmrc.gov.uk.

Ni fydd yr e-byst hyn yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol nac ariannol ar unrhyw adeg.

Caiff pob e-bost a anfonir o’r cyfeiriad hwn ei anfon gan Granicus (GovDelivery), sef y darparwr gwasanaeth e-byst yr ydym yn ymddiried ynddo.

1.22 E-byst hysbysu cyflogwyr - Bwletin y Cyflogwr

Mae CThEM yn anfon Bwletin gwybodaeth sawl gwaith y flwyddyn at gyflogwyr sydd wedi’u cofrestru i’w cael. Ni fydd yr e-byst hyn yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol nac ariannol ar unrhyw adeg.

Anfonir yr e-byst hyn gan CThEM ac maent yn dwyn y teitl Gwybodaeth bwysig i gyflogwyr - ‘important information for employers’. Mae’r e-byst yn cynnwys cysylltiadau sy’n mynd â’r derbynnydd i dudalennau CThEM ar wefan GOV.UK, gan gynnwys cyngor ar ddiogelwch ar-lein.

1.23 Hysbysiadau statudol yn gofyn am wybodaeth

Canolfan CThEM ar gyfer Gwybodaeth Genedlaethol (CNI) yn anfon hysbysiadau statudol yn rheolaidd at ddeiliaid mathau penodol o wybodaeth sy’n gofyn iddynt ddarparu manylion perthnasol ar gyfer CThEM. Mae gan ddeiliaid yr wybodaeth ymrwymiad cyfreithiol i ddarparu’r data a ofynwyd amdano.

Gellir anfon yr hysbysiadau sy’n gofyn am wybodaeth drwy’r post neu e-bost.

Bydd yr hysbysiadau a anfonir hefyd yn cynnwys cysylltiad i’r dudalen we hon er mwyn i’r derbynnydd allu gweld bod CThEM yn defnyddio e-bost at y diben hwn.

2. Sut i wahaniaethu rhwng e-bost dilys ac e-bost twyllodrus

Yn ogystal â gwallau sillafu a gramadeg gwael, gallwch gadw llygad am sawl peth i’ch helpu i adnabod e-bost gwe-rwydo neu e-bost ffug.

2.1 Cyfeiriad ‘oddi wrth’ anghywir

Cadwch lygad am gyfeiriadau e-bost sy’n debyg i rai CThEM, ond sy’n gyfeiriadau gwahanol. Yn aml, mae gan dwyllwyr gyfrifon e-bost gyda ‘CThEM’ neu enwau cyllid ynddynt (megis ‘refunds@hmrc.org.uk’). Mae’r cyfeiriadau e-bost hyn yn cael eu defnyddio i’ch camarwain.

Fodd bynnag, byddwch yn wyliadwrus oherwydd gall twyllwyr ffugio’r cyfeiriad ‘oddi wrth’ a’i wneud i edrych fel cyfeiriad CThEM dilys (er enghraifft, ‘@hmrc.gov.uk’).

Os nad ydych 100% yn siŵr a yw e-bost wedi cael ei anfon gennym ni, peidiwch â’i agor. Os ydych yn agor e-bost ac yn amau ei ddilysrwydd, peidiwch â chlicio ar unrhyw gysylltiadau na lawrlwytho unrhyw beth.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i enghreifftiau o e-byst gwe-rwydo ac e-byst ffug.

2.2 Gwybodaeth bersonol

Ni fydd negeseuon e-bost gan CThEM yn gwneud y canlynol ar unrhyw adeg:

  • rhoi gwybod i chi am ad-daliad treth
  • cynnig ad-daliad i chi
  • gofyn i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol megis eich cyfeiriad llawn, eich cod post, Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) neu fanylion eich cyfrif banc
  • gofyn i chi anfon ateb i gyfeiriad e-bost personol nad yw’n gysylltiedig â CThEM
  • gofyn am wybodaeth ariannol, megis ffigurau penodol neu gyfrifiannau treth, oni bai’ch bod wedi caniatáu i ni wneud hynny ymlaen llaw ac rydych wedi derbyn y peryglon yn ffurfiol
  • cynnwys atodiadau, oni bai’ch bod wedi’n caniatáu i wneud hynny ymlaen llaw ac rydych wedi derbyn y peryglon yn ffurfiol

2.3 Mae angen cymryd camau ar frys

Mae twyllwyr yn gofyn i chi gymryd camau ar frys. Dylech fod yn wyliadwrus o e-byst sy’n cynnwys brawddegau fel ‘dim ond tri diwrnod sydd gennych i ateb’ neu ‘mae angen cymryd camau ar frys’.

2.4 Gwefannau ffug

Mae twyllwyr yn aml yn rhoi cysylltiadau i wefannau sy’n edrych fel hafan gwefan CThEM. Mae hyn er mwyn eich twyllo i ddatgelu gwybodaeth bersonol neu gyfrinachol. Nid yw’r ffaith fod y dudalen yn edrych yn ddilys yn golygu’i bod yn ddilys.

Mae tudalennau gwe ffug yn aml yn cynnwys cysylltiadau i fanciau neu gymdeithasau adeiladu, neu flychau sy’n gofyn am wybodaeth bersonol megis cyfrineiriau, manylion cerdyn credyd neu fanylion cyfrif banc.

Dylech fod yn ymwybodol bod twyllwyr weithiau’n rhoi cysylltiadau dilys i dudalennau gwe CThEM yn yr e-byst. Mae hyn er mwyn ceisio gwneud i’r e-byst ymddangos yn ddilys.

2.5 Cyfarchiad cyffredin

Mae twyllwyr yn aml yn anfon nifer mawr o e-byst gwe-rwydo ar y tro. Felly, hyd yn oed os oes ganddynt eich cyfeiriad e-bost, yn aml nid oes ganddynt eich enw. Bydd e-byst oddi wrth CThEM yn gwneud y canlynol:

  • fel arfer yn defnyddio’r enw dewisol a roesoch i ni, pan fyddwch wedi ymuno â gwasanaethau CThEM y mae’n rhaid tanysgrifio ar eu cyfer
  • rhoi gwybod i chi bob tro sut i roi gwybod i CThEM am e-byst gwe-rwydo

2.6 Atodiadau

Byddwch yn wyliadwrus o atodiadau, gan y gallai’r rhain gynnwys firysau sydd wedi’u creu i ddwyn eich manylion personol.

3. Negeseuon testun gan Wasanaeth Negeseuon Byr (SMS) CThEM

3.1 Negeseuon testun SMS – rhoi’r Dull Gwirio 2-Gam ar waith

Mae’r Dull Gwirio 2-Gam yn nodwedd ddiogelwch ychwanegol a fydd o help i rwystro rhywun heblaw’r cwsmer rhag cael mynediad i’w gyfrif digidol, hyd yn oed os yw’r ID Defnyddiwr a’r cyfrinair yn ei feddiant.

Pan fydd y Dull Gwirio 2-Gam yn cael ei roi ar waith, bydd CThEM yn anfon cod mynediad drwy neges destun i’r rhif ffôn symudol y mae’r cwsmer wedi’i ddewis. Bydd angen hwn ar y cwsmer i gwblhau’r broses.

Ni fydd y negeseuon testun hyn yn gofyn i’r cwsmer roi gwybodaeth bersonol nac ariannol ar unrhyw adeg. Golyga hyn mai dim ond gydag ID Porth y Llywodraeth, cyfrinair a’r ffôn sydd wedi’i gofrestru y gellir cael mynediad i’r cyfrif ar ôl rhoi’r Dull Gwirio 2-Gam ar waith.

Mae CThEM yn edrych ar ffyrdd o gynyddu nifer y defnyddwyr a all elwa o’r Dull Gwirio 2-Gam.

3.2 Negeseuon testun SMS – Dull Gwirio 2-Gam ar gyfer mewngofnodi yn y dyfodol

Ar ôl rhoi’r Dull Gwirio 2-Gam ar waith, pob tro y gwnaiff cwsmer fewngofnodi, bydd CThEM yn anfon cod mynediad drwy neges destun i’r rhif ffôn symudol sydd wedi’i gofrestru. Bydd angen hwn i gwblhau’r broses fewngofnodi. Ni fydd y negeseuon testun hyn yn gofyn i’r cwsmer roi gwybodaeth bersonol nac ariannol ar unrhyw adeg.

Os nad yw’r ffôn symudol sydd wedi’i gofrestru ar gyfer y Dull Gwirio 2-Gam ym meddiant y cwsmer mwyach, bydd angen iddo ffonio’r Ddesg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein a chadarnhau pwy ydyw er mwyn dadactifadu’r rhif. Yna, gall y cwsmer gofrestru’i rhif ffôn symudol newydd ar gyfer y Dull Gwirio 2-Gam pan fydd yn mewngofnodi’r tro nesaf.

3.3 Credydau treth – negeseuon testun neu negeseuon llais

Mae CThEM yn cysylltu â rhai cwsmeriaid credydau treth drwy neges destun neu neges lais er mwyn gofyn iddynt ddiweddaru neu gadarnhau’u hamgylchiadau os yw’r wybodaeth ar gofnodion eu cyflogwyr (hynny yw, incwm neu oriau gwaith) yn wahanol i’r wybodaeth y maent wedi’i rhoi.

Bydd cwsmeriaid credydau treth sy’n cyflwyno cais newydd neu gais i adnewyddu’n cael neges destun sy’n cadarnhau bod y cais wedi cyrraedd CThEM. Bydd hefyd yn rhoi amcangyfrif o’r amser a gymerir i’w brosesu. Mae’n bosibl hefyd y bydd cwsmeriaid yn cael neges destun yn eu hatgoffa i adnewyddu’u cais am gredydau treth.

Dim ond at wefan GOV.UK y bydd y negeseuon atgoffa hyn yn eu cyfeirio er mwyn adnewyddu’u cais ar-lein. Ni fydd y negeseuon hyn yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol.

Efallai y bydd cwsmeriaid credydau treth sy’n rhoi gwybod am newid yn eu hamgylchiadau drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein yn cael neges destun SMS yn cadarnhau bod CThEM wedi cael yr wybodaeth ac yn ei phrosesu. Ni fydd y negeseuon hyn yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol.

Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid credydau treth sydd wedi’u dewis i gael eu dyfarniad wedi’i wirio yn cael neges destun os nad ydynt wedi ateb ein llythyr ymholi.

Bydd y neges yn gofyn iddynt ateb ar bapur neu drwy ffonio’r rhif ar y llythyr os oes angen help arnynt. Ni fydd y negeseuon yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol.

3.4 Neges destun ynghylch Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a 30 awr o ofal plant rhad ac am ddim i’ch atgoffa i gadarnhau’ch manylion yn eich cyfrif gofal plant

Yn ystod mis Awst 2018, mae CThEM yn cysylltu â chwsmeriaid y mae eu hawl i 30 awr o ofal plant rhad ac am ddim, neu Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, wedi dod i ben. Mae’n bosibl, fodd bynnag, y gallent elwa ar y cynigion o hyd os gwnânt gadarnhau eu manylion nawr.

Bydd y neges destun yn eich cynghori y gallent golli’u 30 awr o ofal plant rhad ac am ddim, neu Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, os na wnewch ymateb. Bydd hefyd yn eich cyfeirio at GOV.UK lle gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif gofal plant.

3.5 Galwadau ffôn i’r llinellau cymorth Yswiriant Gwladol a chredydau treth - arolwg neges destun

Mae CThEM yn cysylltu â rhai cwsmeriaid sydd wedi defnyddio’r llinellau cymorth Yswiriant Gwladol a chredydau treth yn ddiweddar i gadarnhau eu rhif Yswiriant Gwladol neu i roi gwybod am newidiadau gofal plant.

Bydd cwsmeriaid sy’n ffonio ein llinellau cymorth yn gwrando ar neges sy’n egluro sut mae:

  • cadarnhau beth yw eu rhif Yswiriant Gwladol
  • rhoi gwybod am newidiadau yn eu hamgylchiadau

Ar ôl hynny, mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid yn cael neges destun yn gofyn a hoffent gymryd rhan mewn arolwg am eu profiad. Bydd CThEM yn defnyddio’r rhif ffôn 07860 064 195 i anfon cwestiynau’r arolwg neges destun. Ni fyddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol.

3.6 Isafswm Cyflog Cenedlaethol - Neges destun SMS i roi gwybod am hawl newydd i isafswm cyflog yn dilyn pen-blwydd diweddar

Mae CThEM yn cysylltu â chwsmeriaid credydau treth gwaith drwy negeseuon testun SMS i roi gwybod pryd y mae’r hawl i gael Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn codi yn dilyn pen-blwydd diweddar. Ar benblwyddi’n 18, 21 neu 25 oed, bydd hawl gweithwyr i gael Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn codi wrth iddynt symud o un band oedran i un arall. Mae’r negeseuon testun SMS yn cael eu hanfon bob mis.

Mae’r negeseuon hyn yn cynghori derbynwyr y negeseuon i geisio rhagor o wybodaeth am yr isafswm cyflog drwy chwilio ar-lein am y term ‘Isafswm Cyflog Cenedlaethol’. Nid yw’r negeseuon hyn yn gofyn am wybodaeth bersonol na gwybodaeth ariannol. Anfonir y neges destun o dan enw ‘Llywodraeth EM’.

3.7 Isafswm Cyflog Cenedlaethol - Neges destun SMS i roi gwybod am hawl newydd i isafswm cyflog yn dilyn cynnydd diweddar yng nghyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae CThEM yn cysylltu â chwsmeriaid credydau treth drwy negeseuon testun SMS i roi gwybod am bryd y mae’r hawl i gael Isafswm Cyflog Cenedlaethol wedi codi yn dilyn y cynnydd blynyddol yng nghyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar 1 Ebrill 2018.

Mae’r negeseuon hyn yn cynghori derbynwyr y negeseuon i geisio rhagor o wybodaeth am yr isafswm cyflog drwy chwilio ar-lein am y term ‘Isafswm Cyflog Cenedlaethol’. Nid yw’r negeseuon hyn yn gofyn am wybodaeth bersonol na gwybodaeth ariannol. Anfonir y neges destun o dan enw ‘Llywodraeth EM’.

Mae’r negeseuon testun SMS yn cael eu hanfon bob mis.

4. Hysbysu ynghylch e-byst gwe-rwydo neu e-byst ffug sy’n gysylltiedig â CThEM

Os ydych wedi cael e-bost gwe-rwydo neu e-bost ffug sy’n gysylltiedig â CThEM, neu os nad ydych yn siŵr a yw’n ddilys, gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am sgamiau ar-lein a gwe-rwydo i CThEM.