Canllawiau

Ynglŷn â gwiriadau cydymffurfio — CC/FS1a

Diweddarwyd 30 Ebrill 2025

Rydym wedi gofyn i chi ddarllen y daflen wybodaeth hon gan ein bod wedi dechrau gwiriad cydymffurfio. Cadwch y daflen hon yn ddiogel oherwydd efallai y bydd angen i chi gyfeirio ati yn ystod y gwiriad.

Mae gwiriad cydymffurfio yn ein galluogi i wirio’ch sefyllfa dreth er mwyn sicrhau eich bod yn:

  • talu’r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir
  • cael y lwfansau a’r rhyddhadau treth cywir

Rydym yn cynnal rhai mathau o wiriadau dros y ffôn. Os ydych am i ni ysgrifennu atoch yn lle hynny, gallwch ofyn i ni wneud hyn os byddwn yn eich ffonio. Efallai y byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth neu ddogfennau i ni er mwyn helpu gyda’r gwiriad.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres.  I weld y rhestr lawn, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Byddant yn eich helpu ym mha bynnag ffordd y gallant. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi o’n llythyr at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Rhagor o wybodaeth ar-lein am ynghylch gwiriadau cydymffurfio

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a help ar-lein, gan gynnwys: 

  • cysylltiadau i’n cyfres fideo
  • canllawiau cam wrth gam i’n gwiriadau cydymffurfio

Ewch i Gwiriadau cydymffurfio CThEF: help a chymorth

Yn ystod y gwiriad cydymffurfio

Pan fyddwn yn dechrau’r gwiriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sydd ei angen arnom.

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am y canlynol:

  • i chi anfon atom unrhyw wybodaeth neu ddogfennau sydd eu hangen arnom – os oes angen amser ychwanegol arnoch, neu os cewch unrhyw anawsterau wrth anfon y rhain, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu ceisio eich helpu
  • i chi gael cyfarfod gyda ni i drafod eich materion treth a’ch cofnodion. Os gwnawn hynny, byddwn yn egluro pam – gallwch ddewis a ydych am gael y cyfarfod hwn ai peidio
  • i gael ymweld â’ch safle busnes ac archwilio’r safle, eich asedion a’ch cofnodion – os bydd angen i ni ymweld â’ch busnes, byddwn yn ceisio cytuno ar ddyddiad ac amser cyfleus ar gyfer ein hymweliad

Os na allwn gytuno â chi ar hyn, efallai y bydd yn rhaid i ni ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol i gael yr hyn sydd ei angen arnom. Ni allwch ddewis anwybyddu hysbysiad gwybodaeth neu hysbysiad o archwiliad os rhoddwn un i chi. Fodd bynnag, mae rhai camau diogelu ar eich cyfer pan fyddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol.

I gael rhagor o wybodaeth am ein pwerau cyfreithiol ac am gamau diogelu, darllenwch daflenni gwybodaeth:

  • CC/FS2, ‘Hysbysiadau gwybodaeth’
  • CC/FS4, ‘Ymweliadau dirybudd ar gyfer archwiliadau’

I gael y taflenni gwybodaeth hyn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS2’ neu ‘CC/FS4’.

Byddwn ond yn gofyn am gael ymweld â’ch cartref os ydych yn rhedeg eich busnes oddi yno. Os bydd angen rhywbeth arall arnom yn nes ymlaen yn ystod y gwiriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Gallwch siarad â’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • nad ydych yn siŵr pam yr ydym yn gofyn am rywbeth
  • nad ydych yn gallu gwneud yr hyn a ofynnwn
  • rydych yn meddwl bod rhywbeth yr ydym wedi gofyn amdano’n afresymol neu’n amherthnasol i’r gwiriad
  • mae gennych gwestiynau eraill yn ystod unrhyw gam o’r gwiriad

Parhewch i anfon Ffurflenni Treth neu wneud taliadau yn ystod y gwiriad cydymffurfio hwn os ydynt yn ddyledus.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y broses gwiriad cydymffurfio, ewch i www.gov.uk/guidance/hmrc-compliance-checks-help-and-support.cy.

Os oes angen rhagor o amser arnoch

Rhowch wybod i ni os ydym wedi gofyn i chi wneud rhywbeth a bod angen rhagor o amser arnoch. Efallai y byddwn yn caniatáu rhagor o amser os oes rheswm da dros wneud hynny. Er enghraifft, os ydych yn ddifrifol sâl neu os oes rhywun agos atoch wedi marw.

Y manteision o’n helpu gyda’r gwiriad cydymffurfio 

Os byddwch yn ein helpu gyda’r gwiriad cydymffurfio, gallwn:

  • ei gwblhau’n gyflym a lleihau unrhyw anghyfleustra i chi
  • gostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le

Os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le, byddwn yn gweithio gyda chi i’w unioni ac yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi dalu:

  • treth ychwanegol a llog am dalu’n hwyr
  • cosbau

Os ydym yn ystyried codi cosb arnoch, byddwn yn ystyried faint o gymorth rydych wedi’i roi i ni yn ystod y gwiriad. ‘Ansawdd y datgeliad’ yw’r enw a roddir ar y cymorth hwn, neu ‘dweud, helpu a rhoi’.

Rydym yn mesur ansawdd y datgeliad drwy ystyried:

  • faint yr ydych yn ei ddweud wrthym am yr hyn sydd o’i le
  • faint yr ydych yn ein helpu i fynd at wraidd yr hyn sydd o’i le
  • faint o fynediad rydych yn ei roi i ni at yr wybodaeth neu’r dogfennau sydd eu hangen arnom i gwblhau’r gwiriad

Os oes ffyrdd y gallwch ein helpu gyda’r gwiriad, ond eich bod yn penderfynu peidio â gwneud hynny, bydd hyn yn effeithio ar ein barn am ansawdd y datgeliad. Er enghraifft, os byddwn yn gofyn:

  • am gael ymweld â’ch safle busnes i archwilio’ch cofnodion a’ch asedion busnes, neu i wneud prisiad, ond nad ydych yn caniatáu i ni wneud hynny
  • am wybodaeth neu ddogfennau, ond nad ydych yn rhoi popeth i ni yr ydym wedi gofyn amdano

Sut i gael y gostyngiad mwyaf posibl ar gyfer y gosb os oes rhywbeth o’i le

Os oes rhywbeth o’i le a’ch bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i’n cynorthwyo, byddwn yn gostwng y gosb gan y swm mwyaf posibl.

Os ydych yn gwybod neu’n amau bod rhywbeth o’i le, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol er mwyn cael y gostyngiad mwyaf posibl: 

  • rhoi cymaint o fanylion i ni ag y gallwch amdano ar unwaith
  • gweithio gyda ni i gyfrifo’r swm cywir o dreth

Os gwelwn rywbeth o’i le nad oeddech yn gwybod amdano, mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud y canlynol er mwyn cael y gostyngiad mwyaf posibl:

  • rhoi cymaint o gymorth ag yr oedd ei angen arnom, hyd at y pwynt gwnaethom ganfod bod rhywbeth o’i le
  • dweud wrth y swyddog sy’n delio â’r gwiriad bopeth amdano ar unwaith, gan adael iddo weld unrhyw gofnodion y mae’n gofyn amdanynt a’i helpu i gyfrifo’r swm cywir o dreth

I gyfrifo ansawdd y datgeliad, rydym hefyd yn ystyried faint o amser yr ydych wedi’i gymryd i roi gwybod i ni am unrhyw beth sydd o’i le. Os ydych wedi cymryd cryn amser i wneud hynny (er enghraifft, 3 blynedd neu fwy), byddwn fel arfer yn cyfyngu ar y gostyngiad mwyaf a rown am ansawdd y datgeliad. Rydym yn cyfyngu hyn i 10 pwynt canrannol uwchben isafswm ystod y gosb. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael budd o’r ganran gosb isaf sydd fel arfer ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth am gosbau, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac i’r adran ‘Gwiriadau cydymffurfio’. Gallwch hefyd fynd i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’ a dewis ‘Penalties’.

Os ydych o’r farn y dylem atal y gwiriad cydymffurfio

Os ydych o’r farn y dylem atal y gwiriad, yn gyntaf mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni pam. Os nad ydym yn cytuno, gallwch ofyn i’r tribiwnlys annibynnol sy’n delio â materion treth benderfynu a ddylem ei stopio.

Os oes rhywbeth o’i le

Os byddwn yn canfod rhywbeth o’i le, byddwn yn:

  • esbonio pam y mae o’i le ac yn gweithio gyda chi i unioni pethau
  • dweud wrthych sut i’w atal rhag digwydd eto, lle y bo modd

Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi lofnodi tystysgrif i gadarnhau eich bod wedi rhoi gwybod i ni am yr holl ffeithiau perthnasol sy’n ymwneud â’r gwiriad.

Os oes arnoch arian i ni, byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i dalu. Gall hyn hefyd gynnwys llog ac unrhyw gosbau yr ydym wedi’u codi arnoch. Os oes arnom arian i chi, fel arfer byddwn yn eich ad-dalu neu’n credydu’ch cyfrif. Mewn rhai achosion, byddwn yn talu llog i chi hefyd.

Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol 

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol. Er enghraifft:

  • os ydych wedi rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
  • os ydych wedi cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt

Rheoli diffygdalwyr difrifol

Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS14’.

Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol

Efallai y byddwn yn cyhoeddi’ch manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS13, ‘Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS13’.

Beth sy’n digwydd ar ddiwedd y gwiriad cydymffurfio

Pan fyddwn wedi cwblhau’r gwiriad, byddwn naill ai’n anfon un neu fwy o ‘hysbysiadau o benderfyniad’ atoch neu’n cytuno ar setliad contract gyda chi.

Gall hysbysiad o benderfyniad fod yn:

  • asesiad, neu’n ddiwygiad i asesiad
  • hysbysiad o gosb, os oes cosb yn ddyledus
  • llythyr sy’n esbonio’r sefyllfa derfynol

Mae setliad contract yn gytundeb sy’n eich rhwymo’n gyfreithiol. Dyma lle (mae’r ddau o’r canlynol yn berthnasol):

  • rydych yn cynnig talu’r cyfanswm sydd arnoch o ganlyniad i’r gwiriad
  • rydyn ni’n cytuno i beidio â defnyddio ein pwerau ffurfiol i adennill y swm hwnnw

Gallwch ond talu drwy setliad drwy gontract os ydych chi, yn ogystal â ni, yn cytuno ar hyn ac ar delerau’r contract. Ni allwch ddefnyddio setliadau contract ar gyfer unrhyw TAW neu gosbau TAW.

Os na allwch dalu’r hyn sydd arnoch

Os credwch y gallech gael trafferth talu, rhowch wybod i’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad ar unwaith.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan swyddog CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater

Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad ar ein llythyr. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau, ewch i www.gov.uk/anghytuno-phenderfyniad-treth.

Mae’n bosibl y gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEF weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. ‘Y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR)’ yw’r enw a roddir ar y gwasanaeth hwn.

Mae ADR dim ond ar gael ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS21, ‘Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod’. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS21’.

Eich prif hawliau ac ymrwymiadau 

Mae gennych:

  • yr hawl i gael eich cynrychioli − gallwch benodi unrhyw un i weithredu ar eich rhan
  • dyletswydd i gymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn − os oes gennych ymgynghorydd, mae’n dal i fod yn rhaid i chi gymryd gofal rhesymol er mwyn sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth, dogfennau neu fanylion eraill a anfonir atom ar eich rhan yn gywir

Mae ‘Siarter CThEF’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Siarter CThEF’.

Eich hawliau os ydym yn ystyried cosbau

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes rhywbeth o’i le a’n bod yn ystyried cosbau. I gael gwybod pa hawliau sydd gennych pan fyddwn yn ystyried cosbau, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS9’.

Awdurdodi cynrychiolydd

Os oes gennych gynrychiolydd, gallwch ofyn i ni ddelio’n uniongyrchol ag ef yn ystod y gwiriad. Ni fyddwn yn rhoi manylion y gwiriad i’ch cynrychiolydd oni bai eich bod wedi ein hawdurdodi i gysylltu ag ef ynglŷn â’r trethi dan sylw. 

Os ydych am awdurdodi:

  • ymgynghorydd treth proffesiynol, gofynnwch iddo roi ffurflen awdurdodi i chi ei llenwi a’i hanfon atom
  • ffrind neu berthynas, ysgrifennwch atom gan roi gwybod pwy yr hoffech ei awdurdodi a beth yr hoffech iddo ddelio ag ef ar eich rhan

Defnyddio deunydd cod agored yn ystod gwiriad cydymffurfio

Gallwn arsylwi ar ddata’r rhyngrwyd, sydd ar gael i bawb, yn ogystal â monitro, cofnodi a chadw’r data hynny. Gelwir hyn yn ddeunydd ‘cod agored’, ac mae’n cynnwys adroddiadau newyddion, gwefannau, cofnodion Tŷ’r Cwmnïau a’r Gofrestrfa Tir, blogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol lle nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd ar waith.

Gwiriadau cydymffurfio y mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â nhw

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â gwiriadau cydymffurfio a ddangosir isod:

  • Ardoll Agregau
  • Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu
  • Ardoll Brentisiaethau (yn ymwneud â Ffurflenni Treth ar gyfer blynyddoedd treth yn dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017)
  • Treth Cyflogres Banc
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
  • Cynllun y Diwydiant Adeiladu
  • Taliadau cymorth coronafeirws
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Gwasanaethau Digidol (DST) (ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020)
  • Treth Incwm
  • Treth Etifeddiant
  • Treth Premiwm Yswiriant
  • Treth Dirlenwi
  • dosbarthiadau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 1, 1A a 4 (ar gyfer dosbarth 1A, mae’n ymwneud â Ffurflenni Treth P11D(b) ar gyfer blynyddoedd treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010)
  • Talu Wrth Ennill (TWE)
  • Treth Refeniw Petroliwm
  • Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn (o 6 Ebrill 2018 ymlaen)
  • Treth Dir y Tollau Stamp (yn ymwneud â Ffurflenni Treth ar gyfer blynyddoedd treth yn dechrau o fis Ebrill 2018)
  • Treth Tollau Stamp Wrth Gefn
  • TAW

Gwybodaeth ychwanegol

Budd-daliadau, ffioedd, grantiau a chredydau treth

Mae’n bosibl y byddwch yn cael budd-daliadau, ffioedd neu grantiau yn seiliedig ar eich incwm. Os bydd eich incwm yn newid o ganlyniad i’r gwiriad hwn, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’r sefydliad sy’n eich talu.

Os ydych yn cael credydau treth, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credydau Treth am newidiadau mewn incwm. Gallwch ffonio’r swyddfa ar 0300 200 1900 neu ysgrifennu at y tîm yn: 

Swyddfa Credydau Treth
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd na rhif Blwch Swyddfa’r Post.

Ysgrifennwch ‘Newid mewn amgylchiadau’ ar frig eich llythyr.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.