Awdurdodiad cyffredinol ar gyfer Milfeddygon Swyddogol a Phrofwyr Twbercwlin Cymeradwy: profion TB cyn ac ar ôl symud ar wartheg
Diweddarwyd 23 Medi 2025
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981
Gorchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021 (O.S. 2021/1001)
Gorchymyn Twbercwlosis (Yr Alban) 2023 (S.S.I. 2023/93)
Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1379 (W.122) fel y’i diwygiwyd)
Awdurdodiad cyffredinol sy’n caniatáu i Filfeddygon Swyddogol Cymeradwy (a Phrofwyr Twbercwlin Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr) gynnal profion cyn ac ar ôl symud gorfodol ar anifeiliaid buchol
Yn unol ag erthygl 10 (3) o Orchymyn Twbercwlosis mewn Anifeiliaid (Lloegr) 2021, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig drwy hyn yn rhoi caniatâd ysgrifenedig i bob Milfeddyg Cymeradwy (erthygl 3 o’r Gorchymyn) a Phrofwr Twbercwlin Cymeradwy (adran 89 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981) gynnal profion Twbercwlosis (‘TB’) ar anifeiliaid buchol yn unol ag erthygl 19 (profion cyn symud) ac erthygl 20 (profion croen ar ôl symud) o’r Gorchymyn.
Yn unol ag erthygl 26 (a) o Orchymyn Twbercwlosis (yr Alban) 2023, a Gorchymyn Deddf yr Alban 1998 (Trefniadau Cyfryngaeth) (Manyleb) 2013, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig drwy hyn yn rhoi caniatâd ysgrifenedig i bob Milfeddyg Cymeradwy (erthygl 3) gynnal profion Twbercwlosis (‘TB’) ar anifeiliaid buchol yn unol ag erthygl 9 (profion cyn symud) ac erthygl 10 (profion ar ôl symud) o Orchymyn Twbercwlosis (yr Alban) 2023.
Yn unol ag erthygl 15 (3) o o Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (fel y’i diwygiwyd), mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn rhoi caniatâd ysgrifenedig i bob Milfeddyg Cymeradwy (erthygl 2a) a Phrofwr Twbercwlin Cymeradwy (adran 89 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(fel y’i diwygiwyd) gynnal profion Twbercwlosis (‘TB’) ar anifeiliaid buchol yn unol erthygl 13 (profion cyn symud) ac erthygl 13a (profion ar ôl symud).
Caiff Milfeddygon Cymeradwy (a Phrofwyr Twbercwlin Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr) drwy hyn eu hawdurdodi’n gyffredinol i gynnal y cyfryw brofion TB ar y sail ganlynol:
-
bod anifeiliaid buchol yn cael eu profi heb fod yn llai na 60 diwrnod ar ôl unrhyw brawf croen twbercwlin blaenorol;
-
bod Milfeddyon Cymeradwy (a Phrofwyr Twbercwlin Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr) wedi’u bodloni nad yw’r fuches y bwriedir symud yr anifeiliaid buchol ohoni o dan gyfyngiadau symud TB;
-
ar ôl cynnal prawf o’r fath, fod yn rhaid i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion gael ei hysbysu ar unwaith o ganlyniad y prawf hwnnw.
Gellir tynnu’r awdurdodiad cyffredinol hwn yn ôl unrhyw bryd ac ni all Milfeddyg Cymeradwy (na Phrofwr Twbercwlin Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr) sydd wedi’i atal dros dro o’i rôl fel Milfeddyg Swyddogol (neu Brofwr Twbercwlin Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr) neu y mae ei rôl fel Milfeddyg Swyddogol (neu Brofwr Twbercwlin Cymeradwy yng Nghymru a Lloegr) wedi’i dirymu, ddibynnu arno.
Nid yw’r awdurdodiad hwn yn cwmpasu profion TB a gynhelir at ddibenion statudol eraill na mathau eraill o brofion TB cyfreithlon a ariennir yn breifat.
Mae’r awdurdodiad cyffredinol hwn yn gymwy o 22 Medi 2025.
Llofnodwyd gan:
Sergio Thomas
Yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Dyddiedig 22/09/2025
Llofnodwyd gan:
Alison Jones
O dan awdurdod y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru.
Dyddiedig 22/09/2025