Factsheet: What is the Foreign Influence Registration Scheme (Welsh) (accessible)
Updated 1 July 2025
Beth yw’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor?
Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn cynyddu tryloywder gweithgaredd sy’n digwydd yn y DU ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor neu sefydliad a reolir gan wladwriaeth dramor, er mwyn amddiffyn diogelwch a buddiannau’r DU. Mae ‘gwladwriaeth dramor’ yn golygu unrhyw wlad nad yw’n rhan o’r DU.
Mae hyn yn cynnwys llywodraethau tramor, yn ogystal ag asiantaethau ac awdurdodau tramor.
O dan y cynllun, efallai y bydd angen cofrestru dau fath o weithgaredd:
-
Haen dylanwad gwleidyddol – gweithgareddau a gyflawnir ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor i ddylanwadu ar benderfyniadau gwleidyddol, etholiadau neu refferenda, neu bleidiau gwleidyddol cofrestredig yn y DU.
-
Haen uwch – gweithgareddau a gyflawnir ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor neu sefydliad a reolir gan wladwriaeth dramor sydd wedi’i bennu o dan FIRS. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am wladwriaethau tramor penodedig a sefydliadau a reolir gan wladwriaeth dramor yma.
Am restr o weithgareddau esemptiedig, ewch i GOV.UK.
Haen dylanwad gwleidyddol
Mae gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn cynnwys:
-
pob cyfathrebiad uniongyrchol â gweinidogion llywodraeth y DU, ASau ac ymgeiswyr etholiad
-
rhoi arian neu wasanaethau i ddinesydd y DU, unigolyn sy’n byw yn y DU, neu sefydliad neu fusnes yn y DU
-
cyfathrebu’n gyhoeddus, er enghraifft ysgrifennu erthygl papur newydd neu bost cyfryngau cymdeithasol, oni bai ei bod yn glir pa wladwriaeth dramor y mae ar ei rhan
Gellir cofrestru cytundeb i gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol naill ai gan y person a wnaeth y cytundeb neu’r sefydliad y maent yn gweithio iddo. Rhaid cofrestru o fewn 28 diwrnod i gytundeb gael ei wneud.
Haen uwch
Gellir cofrestru cytundeb i gyflawni gweithgareddau ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor benodol naill ai gan y person a wnaeth y cytundeb neu’r sefydliad y maent yn gweithio iddo.Ni all gweithgaredd ddechrau nes bod y cytundeb wedi’i gofrestru a rhaid cofrestru o fewn 10 diwrnod i gytundeb gael ei wneud.
Rhaid i sefydliadau penodol a reolir gan wladwriaethau tramor hefyd gofrestru unrhyw weithgareddau y maent yn eu cyflawni yn y DU.
Gellir dod o hyd i restr o wladwriaethau a sefydliadau tramor penodol ar yr haen uwch ar GOV.UK.
Sut ydych chi’n cofrestru?
Gallwch gofrestru ar y gwasanaeth cofrestru ar-lein pwrpasol.
Bydd angen i chi ddarparu manylion gyda phwy mae’r cytundeb a’r gweithgareddau a fydd yn cael eu darparu fel rhan o’r cytundeb.
Beth yw’r gosb am beidio â chofrestru?
Mae methu â chofrestru pan fo angen yn drosedd. Mae hyn yn peryglu hyd at:
-
dwy flynedd yn y carchar a dirwy (haen dylanwad gwleidyddol)
-
pum mlynedd yn y carchar a dirwy (haen uwch)
Cwestiynau cyffredin
A yw FIRS yn fy atal rhag cynnal gweithgaredd dylanwad gwleidyddol ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor?
Nac ydy. Gall gweithgaredd ddigwydd o hyd ond rhaid ei gofrestru o fewn 28 diwrnod i’r cytundeb gael ei wneud.
A yw FIRS yn fy atal rhag cynnal gweithgaredd ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor neu sefydliad a bennir gan yr haen uwch?
Nac ydy. Ond ni all gweithgaredd ddechrau nes bod y cytundeb wedi’i gofrestru a rhaid i gofrestru ddigwydd o fewn 10 diwrnod i gytundeb gael ei wneud.
Oes angen i mi gofrestru pob gweithgaredd ar wahân o dan gytundeb?
Nac oes. Ond os oes sawl gweithgaredd o dan y cytundeb, dylech ddarparu trosolwg o’r gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal.
Mae fy nghytundeb yn cwmpasu sawl person sy’n cynnal gweithgareddau. Oes angen i ni i gyd gofrestru?
Dim ond unwaith y mae angen cofrestru cytundeb, hyd yn oed os yw sawl person yn cynnal gweithgareddau o dan y cytundeb.
Rwy’n gyflogwr sy’n cyflogi pobl i gynnal gweithgaredd a gwmpesir gan FIRS. A allaf gofrestru’r cytundeb ar eu rhan?
Gallwch, gall cyflogwr gofrestru cytundeb ar ran ei gyflogeion.
Beth ddylwn i ei wneud os nad wyf yn siŵr a ddylwn gofrestru?
Ymgynghorwch â’r canllawiau sydd ar gael ar GOV.UK.
Oes angen i mi gofrestru os oes gen i gytundeb eisoes ar waith?
Bydd gennych dri mis i gofrestru trefniadau a oedd eisoes yn bodoli pan fydd y cynllun yn dechrau ar gyfer yr haen dylanwad gwleidyddol a’r haen uwch.