Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor: haen uwch
Yn egluro gofynion haen uwch y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor i'ch helpu i benderfynu a ydych chi wedi'ch effeithio gan y cynllun.
Dogfennau
Manylion
Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn amddiffyn diogelwch a buddiannau’r DU drwy wella’r ddealltwriaeth o weithgarwch sy’n digwydd yn y DU ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor neu rai sefydliadau a reolir gan wladwriaethau tramor. Mae wedi’i gynnwys yn rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.
Mae’r canllawiau hyn yn egluro gofynion haen uwch FIRS ac fe’i bwriedir ar gyfer y rhai a allai gael eu heffeithio gan haen uwch y cynllun. Ei nod yw eich helpu i benderfynu a yw’r gofynion cofrestru yn berthnasol i chi, ac os felly sut.
Mae’r canllawiau hyn yn egluro prif ofynion cynllun FIRS. Fodd bynnag, os ydych chi’n cael eich effeithio gan FIRS, eich cyfrifoldeb chi yw cydymffurfio â’r cynllun yn seiliedig ar eich amgylchiadau penodol eich hun.