Guidance

Gorchmynion Amddiffyn Priodi dan Orfod

Updated 27 April 2020

Gall Gorchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod eich cynorthwyo os ydych yn cael eich gorfodi i briodi neu os ydych mewn priodas dan orfod.

Beth yw priodas dan orfod

Priodas dan orfod yw priodas sy’n digwydd heb ganiatâd llawn a rhydd y ddau barti. Gall yr orfodaeth gynnwys gorfodaeth gorfforol, yn ogystal â phwysau emosiynol, cael eich bygwth neu fod yn ddioddefwr camdriniaeth seicolegol. Nid yw priodasau dan orfod yr un fath â phriodasau wedi eu trefnu. Mewn priodasau wedi eu trefnu, mae’r teuluoedd yn cymryd yr awenau wrth ddewis partner i briodi, ond mae gan y cwpl y rhyddid a’r dewis i dderbyn neu wrthod y trefniant.

Sut y gall Gorchmynion Amddiffyn Priodi dan Orfod eich helpu

Gall Gorchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod eich helpu os ydych chi:

  • yn cael eich gorfodi i briodi
  • eisoes mewn priodas dan orfod

Mae Gorchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod yn unigryw i bob achos ac mae’n cynnwys amodau cyfreithiol rhwymol a chyfarwyddiadau sy’n newid ymddygiad unigolyn neu unigolion sy’n ceisio gorfodi rhywun i briodi. Bwriad y gorchymyn yw amddiffyn yr unigolyn sydd wedi, neu sy’n cael ei orfodi i briodi. Gall y llys wneud gorchymyn ar frys fel bod camau amddiffyn mewn lle ar unwaith.

Gall y llys wneud Gorchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod i amddiffyn unigolyn sy’n wynebu priodas dan orfod neu sydd wedi cael ei orfodi i briodi.

Gellir gwneud ceisiadau am orchmynion amddiffyn priodi dan orfod ar yr un pryd ag ymchwiliad heddlu neu achosion troseddol eraill. Gellir anfon rhywun sy’n anufuddhau i orchymyn llys i’r carchar am hyd at ddwy flynedd am ddirmyg llys - ond mae torri amodau Gorchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod hefyd yn drosedd sydd â dedfryd fwyaf o 5 mlynedd yn y carchar.

Gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod

Gellir gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod yn y Llys Teulu, sy’n gwasanaethu Cymru a Lloegr.

Pwy all wneud cais

  • yr unigolyn sydd i’w amddiffyn gan y gorchymyn
  • trydydd parti perthnasol
  • unrhyw unigolyn arall gyda chaniatâd y llys

Trydydd parti perthnasol yw rhywun a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor i wneud ceisiadau ar ran pobl eraill.

Gall oedolion neu blant (dan 18 oed) wneud cais am Orchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod. Gall plant gael ‘cyfaill agosaf’ neu rywun i’w cynorthwyo, ond nid oes rhaid iddynt, os oes ganddynt gynrychiolydd cyfreithiol neu os yw’r llys yn cytuno.

Os ydych yn pryderu am ddod i’r llys

Ysgrifennwch eich pryderon ar eich ffurflen gais neu gwnewch gais ysgrifenedig i’r Rheolwr Cyflawni yn y Llys cyn gynted â phosib, neu efallai y bydd oedi cyn gwrando’r cais.

Efallai y bydd llysoedd yn gallu cynnig:

  • mannau aros ar wahân yn y llys;
  • drysau ar wahân i fynd i mewn ac allan o’r llys

Parcio ar dir y llys i hwyluso mynediad rhwydd i adeilad y llys ar gyfer tystion dan fygythiad. Efallai y bydd cyfleusterau amddiffyn tystion ar gael mewn rhai llysoedd.

Os ydych yn pryderu am roi tystiolaeth yn yr ystafell llys

Dywedwch wrth y llys beth yw eich pryderon yn eich ffurflen gais. Bydd y llys yn penderfynu beth sy’n briodol a gall orchymyn:

Bod sgriniau’n cael eu gosod i sicrhau nad yw tystion yn gallu gweld yr atebwyr yn y llys (yn y math hwn o achos, yr atebydd/atebwyr yw’r unigolyn/unigolion yr honnir eu bod yn trefnu gweithred priodas dan orfod). Rhoddir y sgriniau o amgylch y blwch tystion yn y llys fel na all y tyst weld yr atebwyr, ac ni all yr atebwyr weld y tyst tra byddant yn rhoi tystiolaeth.

Bod tystiolaeth yn cael ei recordio ar fideo. Mae hyn yn galluogi cyfweliad gyda’r tyst, sydd wedi cael ei recordio cyn y gwrandawiad, gael ei ddangos fel prif dystiolaeth y tyst yn ystod y gwrandawiad - nid oes rhaid i’r tyst ailddweud beth mae wedi’i ddweud eisoes, ond mae’n rhaid iddynt fod ar gael i gael eu croesholi os bydd angen.

cyswllt teledu/fideo byw, sy’n caniatáu i’r tyst roi tystiolaeth o’r tu allan i’r ystafell llys. Mae hyn yn caniatáu i dyst roi tystiolaeth drwy gyswllt teledu o ystafell arall yn adeilad y llys neu o adeilad arall. Er nad yw’r tyst yn dod i mewn i’r ystafell llys, bydd y bobl sy’n bresennol yn y llys yn gweld y tyst yn rhoi tystiolaeth ar y monitor teledu.

Y Llys fydd yn penderfynu beth sy’n briodol, os oes unrhyw beth, ym mhob achos. Efallai y gall y llys ddarparu’r cyfleusterau ychwanegol hyn:

Os oes gennych anabledd ac mae arnoch angen cymorth neu gyfleusterau arbennig, cysylltwch â’r llys i gael gwybod pa help sydd ar gael. Darperir rhestr o ganolfannau llysoedd a rhifau ffôn ar ddiwedd y daflen hon.

Os bydd angen cyfieithydd arnoch, bydd angen i chi roi gwybod i’r llys fel y gellir trefnu bod un yn bresennol, gan nodi’r iaith a’r dafodiaith.

Costau

Nid oes ffi llys yn daladwy am wneud cais am Orchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod i chi’ch hun neu ar ran rhywun arall. Yn yr un modd, nid oes ffi llys yn daladwy am unrhyw drefniadau llys ychwanegol sy’n gysylltiedig â’ch achos, megis:

  • ceisiadau i amrywio neu ddiddymu gorchymyn
  • ceisiadau i’r Llys Teulu ystyried sut y dylid delio â’r unigolyn sydd wedi torri amodau’r gorchymyn
  • cais i feili llys gyflwyno’r gorchymyn

Cymorth cyfreithiol

Mae cymorth cyfreithiol ar gael ar gyfer ceisiadau am Orchmynion Amddiffyn Priodi dan Orfod a thraddodebau am dorri amodau gorchymyn. Gall cyfreithiwr, neu aelod o Ganolfan y Gyfraith neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth eich cynghori o ran a oes gennych achos rhesymol ai peidio.

Rhagor o wybodaeth am gymorth cyfreithiol

Neu ffoniwch 0845 345 4 345 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 6:30pm).

Gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod eich hun

Gallwch chi wneud cais neu gallwch ofyn i gyfreithiwr wneud cais ar eich rhan. Os ydych yn gwneud cais eich hun, mae’n rhaid i chi fod yn barod i lenwi’r ffurflenni a pharatoi’r datganiadau perthnasol, ac egluro eich achos i’r llys.

Os bydd angen help arnoch i lenwi’r ffurflenni hyn, ac os nad ydych chi’n adnabod ffrind neu berthynas a allai helpu, dylech fynd i weld cyfreithiwr neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Gall staff y llys helpu drwy egluro gweithdrefnau’r llys, ond ni allant roi cyngor cyfreithiol i chi ar deilyngdod achosion unigol na rhoi cyngor am y canlyniad posibl.

Bydd arnoch angen llenwi ffurflen gais FL401A Gwneud Cais am Orchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod.

Os bydd arnoch angen caniatâd y llys i wneud cais ar ran rhywun arall, llenwch ffurflen FL430 Gwneud cais am ganiatâd i wneud cais am Orchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod.

Gwneud cais

Os mai chi yw’r unigolyn sydd i’w amddiffyn gan y gorchymyn neu’r trydydd parti perthnasol (a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor), dylech lenwi ffurflen FL401A Gwneud Cais am Orchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod. Cewch ragor o fanylion ynghylch sut i lenwi’r ffurflen ar gefn Ffurflen FL401A. Bydd arnoch angen digon o gopïau i’w cyflwyno i’r holl atebwyr a enwir.

Rhowch fanylion am sut ydych chi eisiau i’r llys eich amddiffyn e.e. eich atal rhag cael eich tywys dramor i briodi dan orfod.

Rhowch fanylion os defnyddiwyd unrhyw drais neu fygythiadau.

Os nad ydych yn dymuno datgelu eich cyfeiriad neu gyfeiriad unrhyw un a nodwyd yn y ffurflen gais i’r atebwyr, dylech lenwi ffurflen C8 Manylion Cyswllt Cyfrinachol.

Os ydych yn gwneud cais ar ran rhywun sydd i’w hamddiffyn, mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen FL430 Cais am ganiatâd i wneud cais am Orchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod yn gofyn am ganiatâd y llys i wneud cais am orchymyn.

Gwnewch ddatganiad ar lw os ydych yn gofyn i’r cais gael ei wrando heb roi rhybudd i’r atebwyr mewn achosion brys neu mewn argyfwng.

Cael gorchymyn ar frys

Cewch ofyn i’r llys ystyried eich cais ar unwaith a gwneud gorchymyn heb gyflwyno unrhyw ddogfennau i’r atebwyr. Gelwir hyn yn orchymyn ex-parte neu’n orchymyn heb rybudd.

Os bydd y barnwr yn gwneud gorchymyn heb rybudd, fe drefnir gwrandawiad arall i chi ddod i’r llys. Bydd gan yr atebwyr hawl i fod yn bresennol yn y gwrandawiad hwn er mwyn i’r barnwr wrando ar bawb cyn penderfynu a ddylai wneud gorchymyn arall ai peidio.

Os ydych yn gwneud cais am orchymyn heb rybudd, rhaid i chi wneud datganiad ar lw. Os ydych yn cynrychioli eich hun, gwnewch ddatganiad ysgrifenedig, gan nodi pam mae arnoch angen cael eich amddiffyn ac ewch ag ef i’r llys gyda’ch ffurflen gais FL401A. Yn y llys, dylech ofyn am gael tyngu llw ar y datganiad rydych chi wedi’i baratoi. Mae hyn yn golygu y gofynnir i chi lofnodi’r datganiad gerbron aelod o staff y llys a chadarnhau ar lw bod yr wybodaeth sydd ynddo’n wir.

Cyflwyno’r ffurflenni

Dylech gyflwyno’r ffurflenni sydd wedi’u llenwi a darparu copïau i’r llys.

Cyflwyno’r ffurflenni i’r llys

Bydd y llys yn gwneud yn siŵr bod y ffurflenni wedi cael eu llenwi’n gywir ac yn rhoi Rhybudd o Achos ar gyfer Gorchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod (FL402A) i chi.

Bydd hwn yn nodi dyddiad eich apwyntiad gerbron y barnwr.

Mae er eich budd eich hun i fod yn bresennol ar y dyddiad a nodir ar y ffurflen. Dylech fod yn barod i roi unrhyw dystiolaeth yr ydych yn credu y bydd yn eich helpu i gyflwyno eich ochr chi o’r achos.

Rhaid cyflwyno’r ffurflen gais (FL401A) a’r rhybudd o achos (FL402A) i’r atebwyr a’r unigolion eraill. Os yw cyfreithiwr yn eich helpu, anfonir y ffurflenni atynt hwy i’w cyflwyno.

Gallwch ofyn i’r llys gyflwyno’r dogfennau ar eich rhan. Bydd y llys yn gofyn i chi lenwi ffurflen D89 - cais am wasanaeth cyflwyno personol gan feili llys ar gyfer hyn. Yna, bydd y llys yn trefnu i’r beili gyflwyno copi o’ch cais a dogfennaeth arall.

Trefnu i’r papurau gael eu cyflwyno

Os ydych yn geisydd unigol, rhaid i chi beidio â chyflwyno’r cais na’r gorchymyn ar yr atebydd eich hun. Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol gallwch wneud cais i swyddog y llys eu cyflwyno ar eich rhan am ddim. Llenwch ffurflen D89 - cais am wasanaeth cyflwyno personol gan feili llys a’i chynnwys gyda’ch cais.

Ar ôl i’r dogfennau gael eu cyflwyno, rhaid i’r sawl sy’n cyflwyno’r papurau lenwi datganiad cyflwyno (Ffurflen FL415) a’i ffeilio yn y llys. Mae ffurflen FL415 yn nodi pwy y cyflwynwyd y dogfennau iddynt, sut ac ym mhle y rhoddwyd y dogfennau iddynt, ar ba ddiwrnod a faint o’r gloch.

Os na allwch ddod o hyd i gyfeiriad y rheiny y mae angen cyflwyno iddynt neu os yw’n ymddangos eu bod yn osgoi’r cyflwyno, cewch ofyn i’r llys gyflwyno’r papurau mewn ffordd arall (er enghraifft, yn eu gweithle).

Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad

Bydd y gwrandawiad ar gyfer cais am Orchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod yn cael ei wrando’n breifat (gelwir hyn fel arfer ‘yn y siambrau’), oni bai bod y llys yn cyfarwyddo fel arall a bydd cofnod o’r gwrandawiad yn cael ei wneud. Gall y llys ganiatáu i bobl eraill fod yn bresennol yn y llys, er enghraifft, ffrind neu gynghorydd annibynnol, i roi cefnogaeth. Efallai y bydd gofyn i geiswyr roi tystiolaeth lafar yn y llys. Bydd hyd y gwrandawiad yn amrywio, yn ddibynnol ar gymhlethdod yr achos ac a yw’r atebwyr yn gwrthwynebu’r honiadau ai peidio.

Pan fydd y barnwr yn deall safbwynt y ddau barti, gall benderfynu ar unrhyw rai o’r canlynol:

  • mae arnynt angen rhagor o wybodaeth amdanoch chi, a’r holl atebwyr - byddwch yn cael gwybod pa wybodaeth ychwanegol i’w darparu
  • mae arnynt angen rhagor o wybodaeth, ond maent yn barod i wneud gorchymyn dros dro (interim) nes bod yr holl wybodaeth ychwanegol wedi’i darparu. Byddwch yn cael apwyntiad newydd, gorchymyn dros dro, a dywedir wrthych pa wybodaeth ychwanegol i’w darparu
  • maent yn barod i wneud gorchymyn am gyfnod penodol o amser, a bydd y llys yn ailystyried yr achos ar ôl hynny. Fe gewch ddyddiad apwyntiad newydd a chopi o’r gorchymyn llys
  • maent yn barod i wneud gorchymyn. Bydd y gorchymyn yn parhau nes i chi neu’r atebydd ofyn i’r barnwr ailystyried yr achos. Rhoddir copi o’r gorchymyn i chi
  • peidio â gwneud gorchymyn ond derbyn ymgymeriad gan yr atebwyr ar delerau y cytunwyd arnynt (gweler isod)

Ymgymeriadau

Addewid a wneir i’r llys i wneud, neu i beidio â gwneud, pethau penodol yw ymgymeriad. Mae torri ymgymeriad yn achos dirmyg llys a gallwch gael eich anfon i’r carchar am hyd at ddwy flynedd.

Ar ôl y gwrandawiad

Os yw’r llys wedi gwneud Gorchymyn Amddiffyn Priodi dan Orfod, bydd y ceisydd yn cyflwyno copi o’r gorchymyn ac unrhyw ddogfennau eraill y llys yn bersonol i’r atebwyr, i’r unigolyn sy’n destun yr achos (os nad yw’n geisydd), ac unrhyw un arall a enwir yn y gorchymyn cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl. Gallwch ofyn i’r llys gyflwyno’r dogfennau ar eich rhan.

Bydd y llys yn anfon copi o’r gorchymyn llys drwy e-bost at yr heddlu o fewn 24 awr iddo gael ei selio. Mewn llawer o achosion, bydd hyn cyn i’r atebydd gael y gorchymyn neu ei hysbysu fel arall am y gorchymyn.

Yn ogystal, pan fydd y gorchymyn yn cael ei gyflwyno i’r atebydd neu pan hysbysir yr atebydd am delerau’r gorchymyn, rhaid dweud wrth yr heddlu bod hyn wedi digwydd. Os yw’r llys wedi cyflwyno’r gorchymyn, yna bydd y llys yn dweud wrth yr heddlu.

Os ydych chi neu’ch cyfreithiwr yn gyfrifol am gyflwyno’r gorchymyn, yna bydd angen i chi neu’ch cyfreithiwr anfon hysbysiad o wasanaeth at yr heddlu o fewn 2 ddiwrnod ar ôl i’r gorchymyn gael ei gyflwyno neu i’r atebydd gael ei hysbysu.

Bydd y llys yn rhoi templed i chi ei ddefnyddio at y diben hwn, e-bostiwch hwn i protectionorders@pds.police.uk.cjsm.net.

Gallwch ddileu cjsm.net o’r cyfeiriad e-bost os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer rhwydwaith diogel cjsm protectionorders@pds.police.uk.

Peidiwch ag atodi unrhyw ddogfen arall

Pan fydd y gorchymyn wedi’i gyflwyno neu pan fydd yr atebydd wedi cael gwybod am y gorchymyn, bydd angen i chi neu’ch cyfreithiwr anfon datganiad o wasanaeth i’r llys hefyd.

Amrywio, ymestyn neu derfynu’r gorchymyn

Gallwch wneud cais i amrywio, ymestyn neu derfynu gorchymyn amddiffyn priodi dan orfod yn ddiweddarach. Bydd angen i chi lenwi ffurflen FL403A Cais i amrywio, ymestyn neu ddiddymu gorchymyn amddiffyn priodi dan orfod.

Torri amodau gorchymyn amddiffyn priodi dan orfod

Gellir delio ag achos o dorri amodau gorchymyn amddiffyn priodi dan orfod yn y llys Teulu neu mewn llys troseddol. Dan adran 63CA Deddf Cyfraith Teulu 1996, a ddaeth i rym ar 16 Mehefin 2014, mae torri amodau gorchymyn yn drosedd sy’n dwyn cosb fwyaf o 5 mlynedd yn y carchar. Mae hyn yn golygu y gall yr heddlu arestio unigolyn nad yw’n cydymffurfio â gorchymyn (neu sy’n ‘torri amodau gorchymyn’) heb fod angen i’r llys roi pŵer i arestio neu i’r dioddefwr wneud cais i’r llys teulu am warant i arestio.

Yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu i’r tor-amod, bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen ag erlyniad drwy gymhwyso’r prawf dau gam yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron: a oes digon o dystiolaeth i ddarparu posibilrwydd realistig o euogfarn ac, os felly, a yw erlyniad er budd y cyhoedd.

Fodd bynnag, os nad ydych eisiau delio â’r tor-amod drwy ddilyn y llwybr troseddol, neu os bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu peidio ag erlyn, gallwch wneud cais i’r llys teulu am warant i arestio.

Rhaid i’r cais am warant i arestio gael ei gefnogi gan ddatganiad ar lw yn nodi sut y torrwyd amodau’r gorchymyn neu’r ymgymeriad. Mae’n rhaid gwneud y cais ar ffurflen FL407A Cais am Warant Arestio: Gorchmynion Amddiffyn Priodi dan Orfod. Efallai y bydd rhaid talu ffi.

Pan fydd unigolyn wedi torri neu ddirmygu gorchymyn, bydd y llys yn delio gyda hwy dan ei bwerau dirmyg llys, a all gynnwys eu traddodi i garchar am hyd at 2 flynedd. Felly, gallwch naill ai ffonio’r heddlu er mwyn delio â’r tor-amod yn y llysoedd troseddol neu gallwch wneud cais i’r llys teulu i ddelio â’r tor-amod fel dirmyg llys.

Fodd bynnag, os bydd rhywun yn cael ei ddyfarnu’n euog o’r tor-amod mewn llys troseddol, ni ellir eu cosbi am ddirmyg llys na’r ffordd arall.

Cymorth a chyngor pellach gan yr Uned Priodasau dan Orfod (FMU)

Mae’r FMU yn dîm ar y cyd rhwng y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a’r Swyddfa Gartref, sy’n darparu cymorth a gwybodaeth ymarferol i bobl sydd mewn perygl o gael eu gorfodi i briodi, a’r rhai sydd eisoes wedi’u gorfodi i briodi. Mae’r holl wybodaeth yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol.

Cysylltwch â’r FMU drwy ffonio’r llinell gymorth gyfrinachol: 020 7008 0151

Y llys teulu sy’n delio â cheisiadau am Orchmynion Amddiffyn Priodi dan Orfod. Dylid anfon cais i’r llys teulu sy’n eistedd mewn canolfan llys sy’n delio â Gorchmynion Amddiffyn Priodi dan Orfod. Mae’r canolfannau llysoedd hyn fel arfer ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm. Mae gwasanaethau cownter ar gael o 10am tan 2pm, ond rhaid gwneud apwyntiad mewn rhai canolfannau. Dywedwch wrth y Llys pan fyddwch yn cyrraedd fod eich mater yn un brys.