Cofrestr buddiannau aelodau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Cyhoeddwyd 25 Mehefin 2026
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Manylion
Mae gofyn i Aelodau Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddatgan unrhyw fuddiannau neu fuddiannau parti cysylltiedig sy’n berthnasol i waith yr ASB, yn ogystal â phob cyflogaeth, gwaith a phenodiadau allanol am dâl (p’un a ydyn nhw’n berthnasol ai peidio).
Efallai fod gan unigolyn fuddiannau eraill ac er bod yr ASB yn ymwybodol o’r rhain, bernir eu bod yn amherthnasol i rôl yr Aelodau, ac felly, nid oes gofyn i’w cyhoeddi yn yr achos hwn.
Caiff yr holl fuddiannau perthnasol eu rheoli gan yr adran i atal y risg o wrthdaro buddiannau ymddangosiadol, posib neu wirioneddol.
Yr Athro Susan Jebb OBE, PhD, FRCP (Anrh), FMedSci – Cadeirydd yr ASB
-
Athro ym Mhrifysgol Rhydychen
-
Partner yn J&L Farms
-
Aelod, Grŵp Cynghori ar Strategaeth Fwyd
-
Aelod, byrddau cynghori’r GIG yn Lloegr ar reoli pwysau
Dr Timothy Riley – Dirprwy Gadeirydd yr ASB
-
Ffermwr da byw ar gyfer cig eidion a chig oen ar fferm deuluol yng Ngorllewin Swydd Efrog a pherchennog tir sy’n cael cymorth drwy Gynllun Taliadau Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin a Pheilot y Fenter Ffermio Cynaliadwy
-
Aelod, Cymdeithas Amaethyddol Swydd Efrog
-
Aelod, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Ulster
-
Aelod, Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU)
-
Aelod o’r Bwrdd ac Ymddiriedolwr, Cymdeithas Gwartheg Cig Eidion Shorthorn (y DU)
-
Prif Adolygydd DEFRA, Rhaglen Adolygu Cyrff Cyhoeddus, Swyddfa’r Cabinet
-
Aelod a Chymrawd o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr
Yr Athro Syr Frank Atherton – Aelod o Fwrdd yr ASB
- Dim buddiannau perthnasol
Alison Austin – Aelod o Fwrdd yr ASB
-
Pensiwn Buddsoddi Personol (SIPP), a reolir gan Rathbones Group plc
-
ISA Stociau a Chyfranddaliadau, a reolir gan Rathbones Group plc
-
Ysgutor ar gyfer ISA Stociau a Chyfranddaliadau ei diweddar ŵr, a reolir gan Rathbones Group plc
-
Ymgynghorydd cynaliadwyedd wedi ymddeol yn rhannol ac yn masnachu fel Unig Fasnachwr
-
Pensiwn Buddsoddi Personol (SIPP), a reolir gan Rathbones Group plc
Clare Evans – Aelod o Fwrdd yr ASB
-
Rheolwr-gyfarwyddwr – CSEvans Consults
-
Ymddiriedolwr – Fareshare Yokrshire
Fiona Gately – Aelod o Fwrdd yr ASB
- Perchennog busnes ymgynghori, Nourish Communication Ltd
Anthony Harbinson – Aelod o Fwrdd yr ASB ar gyfer Gogledd Iwerddon, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon, a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)
- Aelod o Fwrdd An Garda Síochána – penodiad cyhoeddus a wnaed gan Lywodraeth Iwerddon
Dr Rhian Hayward MBE – Aelod y Bwrdd ar gyfer Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
-
Cyfarwyddwr Campws Arloesi a Menter Aberystwyth Cyf yn ei rôl fel Prif Swyddog Gweithredol
-
Cyfarwyddwr Anweithredol Swyddfa Cymru, Llywodraeth y DU
Louise Hoste – Aelod o Fwrdd yr ASB
-
Portffolio pensiwn buddsoddi a reolir gan drydydd parti
-
Cyfranddaliwr, Walmart
-
Cyfranddaliwr, GSK
-
Cynghorydd i Stuart, busnes dosbarthu ar alw
Dr Sue Paterson – Aelod o Fwrdd yr ASB
-
Aelod o Gyngor Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS), y corff rheoleiddiol ar gyfer y Proffesiynau Milfeddygol.
-
Cadeirydd Ymddiriedolwyr Cymdeithas Dermatoleg Filfeddygol y Byd
-
Rhoi cyngor telefeddygol drwy Virtual Derms Ltd
-
Ymgynghorydd cyflogedig i BOVA Animal Health
-
Ymddiriedolwr, RCVS Knowledge, partner elusennol yr RCVS
Steve Ruddy – Aelod o Fwrdd yr ASB
-
Cadeirydd Bwrdd y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach (CTSI)
-
Sefydlydd ac unig gyfarwyddwr Consumer Compass Ltd