Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) - Adroddiad Bwyd a Chi 2: Cylch 11
Cyhoeddwyd 29 Medi 2026
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Crynodeb Gweithredol
Trosolwg o Fwyd a Chi 2
Arolwg ystadegyn swyddogol blynyddol yw Bwyd a Chi 2, a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), sy’n mesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau defnyddwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd a materion bwyd eraill.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 11 ar ymwybyddiaeth a defnydd ymatebwyr o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), yn ogystal â’u hagweddau tuag ato. Mae’r adroddiad hefyd yn disgrifio tueddiadau o Gylch 2 (Tachwedd 2020 i Ionawr 2021) i Gylch 11 (Mai i Awst 2025), pan fo data cymharol ar gael.
Cynhaliwyd gwaith maes ar gyfer Cylch 11 rhwng 19 Mai 2025 a 7 Awst 2025. Cwblhawyd yr arolwg ‘gwthio i’r we’ (‘push-to-web’) gan gyfanswm o 5,898 o oedolion (16 oed ac yn hŷn) ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Y prif ganfyddiadau
Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Parhaodd ymwybyddiaeth o’r CSHB yn uchel yng Nghylch 11 (Mai i Awst 2025), gyda 91% o’r ymatebwyr yn nodi eu bod wedi clywed am y cynllun. Ym mhob cylch, dywedodd tua naw o bob deg ymatebydd eu bod wedi clywed am y CSHB (86%–91%).
Yng Nghylch 11, roedd 62% o’r ymatebwyr wedi clywed am y CSHB ac yn gwybod llawer neu ychydig amdano. Roedd hyn yn debyg i 62% o’r ymatebwyr a nododd yr un peth yng Nghylch 10 (Hydref 2024–Chwefror 2025), ond roedd yn gynnydd nodedig o 47% yng Nghylch 2 (Tachwedd 2020 i Ionawr 2021).
Ymhlith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn cael ei arddangos ar safle busnes bwyd oedd yn parhau i fod y ffordd fwyaf cyffredin yr oedd yr ymatebwyr wedi dod ar ei draws (84% yng Nghylch 11). Roedd canran y bobl a nododd eu bod wedi dod ar draws y CSHB ar wefan busnes bwyd ei hun (44%), ar wefan neu ap archebu a dosbarthu bwyd (26%), ac ar wefan yr ASB (18%) ychydig yn uwch yng Nghylch 11 nag mewn unrhyw gylch blaenorol.
Roedd adnabyddiaeth o’r sticer sgôr hylendid bwyd yn parhau i fod yn uchel. Ym mhob cylch, pan ddangoswyd llun o’r sticer iddynt, dywedodd tua 9 o bob 10 o’r ymatebwyr eu bod wedi’i weld o’r blaen (92% yng Nghylch 11).
Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Yng Nghylch 11, roedd 55% o’r ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle’r busnes neu ar-lein), sef cynnydd nodedig o’i gymharu â’r holl gylchoedd blaenorol (41%–44%).
Ymhlith y rhai a oedd wedi gwirio’r sgôr hylendid yn ystod y 12 mis blaenorol, y ffordd fwyaf cyffredin o wneud hynny oedd edrych ar y sticer a oedd yn cael ei arddangos yn y busnes (86% yng Nghylch 11). Gwiriodd tua chwarter o’r ymatebwyr y sgôr ar wefan y busnes bwyd ei hun (27%) neu drwy wefan neu ap archebu a dosbarthu bwyd ar-lein (26%), a gwnaeth 16% wirio ar wefan yr ASB.
Yng Nghylch 11, dywedodd 56% o’r ymatebwyr ei bod yn hawdd iawn neu’n eithaf hawdd iddynt ddod o hyd i sgoriau hylendid wrth fwyta allan neu siopa am fwyd yn y fan a’r lle. Wrth ystyried archebu neu siopa am fwyd ar-lein, dywedodd 29% o’r ymatebwyr ei bod yn hawdd dod o hyd i sgoriau hylendid.
Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i wneud penderfyniadau
Ymhlith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd yn gyffredin clywed mai sgôr hylendid bwyd o 4 (da) oedd y safon isaf derbyniol a nodwyd amlaf. Roedd hyn yn gynnydd sylweddol o 39% yng Nghylch 2 i 52% yng Nghylch 11.
Yng Nghylch 11, dywedodd 28% o’r rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB yn ystod y 12 mis blaenorol eu bod wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd am nad oedd yn arddangos ei sgôr hylendid bwyd. Roedd hyn yn gynnydd nodedig o gymharu â’r holl gylchoedd blaenorol, pan oedd y ganran wedi aros yn gymharol sefydlog (15%–18%).
Ym mhob cylch, ymhlith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, y pryderon mwyaf cyffredin am fusnes bwyd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd oedd bod ei safonau hylendid yn wael (53% yng Nghylch 11) neu fod ganddo sgôr hylendid bwyd isel ac yn ceisio cuddio hynny (49% yng Nghylch 11).
Barn am y gofyniad i arddangos sgoriau ar sail orfodol
Ar draws pob cylch, cytunodd dros 9 o bob 10 o’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar eu safle (94% yng Nghylch 11).
Roedd cefnogaeth i arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein hefyd yn parhau i fod yn uchel. Yng Nghylch 11, cytunodd dros 9 o bob 10 o’r ymatebwyr y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd yn glir ar wefannau siopau tecawê eu hunain (94%), gwefannau bwytai neu gaffis (93%), gwefannau neu apiau archebu a dosbarthu bwyd (93%), ac ar wefannau gwestai neu letyau gwely a brecwast (92%).
Diolchiadau
Yn gyntaf oll, diolchwn i’r holl ymatebwyr am roi o’u hamser i gymryd rhan yn yr arolwg.
Hoffem ddiolch i’r tîm yn Ipsos a wnaeth gyfraniad sylweddol i’r prosiect, yn enwedig Dr Ammeline Wang, Claire Bhaumik, Aamina Oughradar, Stephen Finlay, Hannah Harding, Kelly Ward, Kevin Pickering a Dr Patten Smith. Hoffem ddiolch i gydweithwyr Polisi’r ASB, Claire Voller, Chris Coker, Jonathan Downey ac Una Campbell, am eu hamser wrth adolygu’r adroddiad. Yn ogystal, hoffem ddiolch i dîm Uned Gymraeg yr ASB.
Awduron: Megan Potts, Rachael Shillitoe, Robin Clifford, Matt Jenkins.
Cyflwyniad
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: ei rôl, ei chylch gwaith, a’i chyfrifoldebau
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol o’r llywodraeth sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB, fel y’i nodir yn strategaeth 2022-2027, yw system fwyd sy’n gwireddu’r canlynol:
- mae bwyd yn ddiogel
- mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
- mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy
Cyflwyniad i’r CSHB
Cafodd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd[troednodyn 1] (CSHB), sydd ar waith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ei lansio yn 2010 ac mae’n helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble i fwyta allan neu siopa am fwyd, a hynny drwy roi gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau fel yr oeddent adeg arolygiad hylendid bwyd gan yr awdurdod lleol.
Mae sgoriau’n cael eu rhoi i safleoedd lle caiff bwyd ei gyflenwi neu ei werthu’n uniongyrchol i bobl, fel bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai, ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill. Yng Nghymru, mae’r cynllun hefyd yn cynnwys busnesau sy’n masnachu â busnesau eraill yn unig, fel gweithgynhyrchwyr.
Mae’r ASB yn gweithredu’r cynllun mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y gyfraith hylendid bwyd, gan sicrhau bod y bwyd ddiogel i’w fwyta. Rhoddir sgôr i fusnesau, rhwng 0 a 5. Mae sgôr o 5 yn dangos bod y safonau hylendid yn dda iawn ac mae sgôr o 0 yn dangos bod angen gwella ar frys.
Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr i’w arddangos ar eu safle. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr yn ôl y gyfraith ar sticer mewn lle amlwg, fel y drws neu’r ffenestr. Ond yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sgoriau.[troednodyn 2] Mae’r sgoriau hefyd ar gael ar wefan sgoriau’r ASB a thrwy apiau trydydd parti.
Bwyd a Chi 2
Arolwg ‘ystadegyn swyddogol’ yw Bwyd a Chi 2 a gomisiynir gan yr ASB, gyda’r gwaith maes yn cael ei gynnal gan Ipsos. Nod yr arolwg yw monitro cynnydd tuag at gyflawni cenhadaeth a gweledigaeth yr ASB, ac i lywio penderfyniadau polisi drwy fesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau defnyddwyr a adroddir ganddynt eu hunain mewn perthynas â diogelwch bwyd a materion eraill sy’n ymwneud â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2 mewn perthynas â’r CSHB, gan gynnwys ymwybyddiaeth, adnabyddiaeth a defnydd ymatebwyr o’r cynllun, ei effaith ar ymddygiad, ac agweddau tuag ato. Mae’r data yn yr adroddiad hwn wedi’i seilio’n bennaf ar ganlyniadau Cylch 11. Fodd bynnag, pan fo data cymharol ar gael, mae tueddiadau o Gylch 2 (Tachwedd 2020 i Ionawr 2021) hyd at Gylch 11 (Mai i Awst 2025) hefyd wedi’u cynnwys. Mae cyhoeddiadau blaenorol y gyfres hon ar thema’r CSHB ar gael ar dudalen we Bwyd a Chi 2.
Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Bwyd a Chi 2: Cylch 11 rhwng 19 Mai 2025 a 7 Awst 2025. Cafodd yr arolwg ‘gwthio i’r we’ ei gwblhau gan gyfanswm o 5,898 o oedolion (16 oed ac yn hŷn) o 4,215 o gartrefi ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr (gweler Atodiad A am ragor o wybodaeth am y fethodoleg).
Cylch 11 yw’r cyntaf yn y gyfres flynyddol o arolygon Bwyd a Chi 2. Cyn hyn, rhwng Cylchoedd 1 a 10, roedd yr arolygon yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn.
Yng Nghylch 11, cafodd yr Alban ei chynnwys yn arolwg Bwyd a Chi 2, drwy nawdd ariannol Safonau Bwyd yr Alban (FSS). Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn yn ymwneud â Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig.
Yn dibynnu ar eu gwybodaeth, eu hagweddau a’u hymddygiadau, nid yw pob ymatebydd yn ateb pob modiwl neu gwestiwn yn yr arolwg. Darperir dyddiadau’r gwaith maes ar gyfer y cylchoedd eraill, pan fo data cymharol ar gwestiynau sy’n ymwneud â’r CSHB ar gael, yn Atodiad A – Tabl 1.
Mae canlyniadau llawn Cylch 11, yn ogystal â’r holl gylchoedd eraill, ar gael yn y tablau data cysylltiedig a’r set ddata sylfaenol. Mae rhagor o wybodaeth am hanes, methodoleg a phynciau’r arolwg i’w gweld ar y dudalen we, Bwyd a Chi 2: Cylch 11 – Prif Ganfyddiadau, a’r adroddiad technegol cysylltiedig, sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gyfyngiadau’r ymchwil.
Dehongli’r canfyddiadau
Confensiynau adrodd
Mae cyfrifiadau canrannol yn seiliedig ar yr ymatebwyr hynny a atebodd pob cwestiwn yn unig. Mae’r gwerthoedd a’r cyfrifiadau a adroddir yn seiliedig ar gyfansymiau wedi’u pwysoli. Darperir gwybodaeth allweddol ar gyfer pob cwestiwn yr adroddir amdano yn y troednodiadau, gan gynnwys:
- geiriad y cwestiwn (cwestiwn) a’r opsiynau ymateb (ymateb)
- nifer yr ymatebwyr y cyflwynwyd y cwestiwn iddyn nhw, a disgrifiad o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn (Sylfaen heb ei bwysoli = N)
Dadansoddiad demograffig
Roedd y newidynnau demograffig allweddol a ddadansoddwyd yn cynnwys oedran, ethnigrwydd, nodweddion daearyddol (gwlad, rhanbarth a dosbarthiad trefol neu wledig), maint y cartref, presenoldeb plant yn y cartref (o dan 16 oed neu o dan 6 oed), cyflyrau iechyd hirdymor, incwm blynyddol y cartref, a statws diogeledd bwyd (‘food security’) (gweler Atodiad A).
Fodd bynnag, fel arfer dim ond gwahaniaethau rhwng yr is-grwpiau hyn sy’n ystadegol arwyddocaol ar lefel 5% (p<0.05) a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad hwn, ac mae’n rhaid iddynt hefyd fodloni’r canlynol:
- maent yn bodloni’r maint sylfaen lleiaf o 100
- maent yn cael eu hystyried yn berthnasol neu’n ystyrlon i’r ASB
- maent yn cynrychioli gwahaniaeth o 10 pwynt canrannol neu fwy rhwng y grwpiau
Mae rhai gwahaniaethau rhwng y gwledydd wedi’u cynnwys hyd yn oed pan fo’r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canrannol, gan fod y canfyddiadau hyn yn cael eu hystyried yn berthnasol i bolisi. Rhoddir seren ddwbl (**) i nodi’r gwahaniaethau hyn.
Mae croesiadau demograffig eraill ar gael yn y set ddata a’r tablau ar gyfer Cylch 11 , ond nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn er mwyn cadw’r adroddiad yn gryno, neu am nad ydynt yn bodloni’r meini prawf hyn neu oherwydd bod maint yr is-grwpiau’n rhy fach i ganiatáu casgliadau ystyrlon.
Mae unrhyw ddadansoddiad demograffig a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau Cylch 11 yn unig.
Tueddiadau
Yn gyffredinol, dim ond pan fo’r cwestiwn wedi’i ofyn mewn o leiaf tri chylch o’r arolwg, gan gynnwys Cylch 11, y cafodd dadansoddiad o’r tueddiadau ei gynnwys. Fodd bynnag, nid yw’r holl ddata tueddiadau sydd ar gael wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn. Ar gyfer cwestiynau a ofynnwyd am y tro cyntaf yng Nghylch 11, dim ond canfyddiadau Cylch 11 yr adroddir arnynt.
Er mwyn tynnu sylw at wahaniaethau nodedig, adroddir ar amrywiadau mewn ymatebion pryd bynnag y mae’r gwahaniaeth absoliwt yn 10 pwynt canrannol neu fwy ac yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p<0.05).
Pan fo amrywiad mewn ymatebion rhwng cylchoedd yn llai na 10 pwynt canrannol ond y bernir bod yr ymatebion yn ddiddorol, ac yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5%, caiff y rhain eu hadrodd fel newidiadau bach a’u nodi â seren ddwbl (**).
Os nad oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng ymatebion ar draws cylchoedd, nodir bod patrwm yr ymatebion yn sefydlog.
Nodiadau ar ddehongli
Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar ddata o arolwg cymysg, gan ddefnyddio holiaduron post ac ar-lein, ynghyd â dull samplu tebygolrwydd ar hap. Defnyddir pwysoli i gefnogi cynrychiolaeth y data; gan gynnwys ar gyfer rhai grwpiau a allai fod heb gynrychiolaeth ddigonol mewn arolygon ar-lein yn unig. Fodd bynnag, fel gyda phob arolwg sampl, mae’r canfyddiadau’n parhau i fod yn destun ansicrwydd samplu a rhagfarn bosib o ganlyniad i ddiffyg ymateb.
Mae’r canfyddiadau hefyd yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd gan yr ymatebwyr eu hunain. Er bod dyluniad a methodoleg yr arolwg yn ceisio lleihau rhagfarn, mae’n bosib bod rhagfarn dymunoldeb cymdeithasol (lle mae ymatebwyr yn rhoi atebion sydd, yn eu tyb, yn fwy derbyniol yn gymdeithasol) a rhagfarn atgof (lle nad yw digwyddiadau neu brofiadau’r gorffennol yn cael eu cofio’n gywir) yn effeithio ar rai ymatebion. Yn ogystal, mae rhai o’r dadansoddiadau’n seiliedig ar niferoedd cymharol fach o ymatebwyr, a all gyfyngu ar lefel y manylder y gellir ei darparu.
Mae mwy o wybodaeth am yr ymchwil ar gael yn yr adroddiad technegol.
Pennod 1: Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth yr ymatebwyr o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB).
Ymwybyddiaeth o’r CSHB a gwybodaeth amdano
Yng Nghylch 11 (Mai 2025 i Awst 2025), dywedodd tua naw o bob deg o’r ymatebwyr (91%) eu bod wedi clywed am y CSHB.[troednodyn 3] Roedd hyn yn cynnwys 62% a nododd eu bod wedi clywed am y CSHB a’u bod yn gwybod llawer neu ychydig amdano, a 29% a oedd wedi clywed am y CSHB ond nad oeddent yn gwybod llawer neu ddim byd amdano. Nid oedd 9% arall erioed wedi clywed am y CSHB.[troednodyn 4]
Parhaodd ymwybyddiaeth o’r CSHB yn gyson uchel rhwng Cylch 2 (Tachwedd 2020 i Ionawr 2021) a Chylch 11, gyda thua 9 o bob 10 o’r ymatebwyr yn dweud eu bod wedi clywed am y Cynllun ym mhob cylch (86%-91%**). Mae hyn yn adlewyrchu lefelau uchel o ymwybyddiaeth yng Nghymru (92%–95%), Gogledd Iwerddon (90%–93%) a Lloegr (86%–91%) (Ffigur 1).
Ffigur 1: Canran yr ymatebwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a oedd wedi clywed am y CSHB rhwng Cylch 2 a Chylch 11 (Ymwybyddiaeth).
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11
Er bod ymwybyddiaeth o’r CSHB yn parhau i fod yn uchel, cynyddodd gwybodaeth am y cynllun yn sylweddol dros amser. Roedd canran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi clywed am y CSHB ac yn gwybod cryn dipyn neu ychydig amdano[troednodyn 5] yn is yn Nghylch 2 (Tachwedd 2020 i Ionawr 2021) nag ym mhob cylch dilynol (47%). Ar ôl cynyddu’n sylweddol i 59% yng Nghylch 4 (Hydref 2021 i Ionawr 2022), arhosodd y ganran yn gymharol sefydlog hyd at Gylch 8 (Hydref 2023 i Ionawr 2024), gan amrywio rhwng 55% a 59%. Yna, cynyddodd ychydig i 62% yng Nghylch 10 (Hydref 2024 i Chwefror 2025) ac arhosodd ar yr un lefel yng Nghylch 11 (Mai i Awst 2025).
Ar draws y rhan fwyaf o’r cylchoedd, roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (65%-74%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi clywed am y CSHB ac yn gwybod o leiaf ychydig amdano na’r rhai yng Ngogledd Iwerddon (57%-66%)** ac yn Lloegr (46%-61%) (Ffigur 2).
Ffigur 2: Canran yr ymatebwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a oedd wedi clywed am y CSHB ac a oedd ag o leiaf ychydig o wybodaeth amdano o Gylch 2 i Gylch 11.
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11
Roedd gwybodaeth am y CSHB (wedi clywed amdano ac yn gwybod o leiaf ychydig amdano) hefyd yn amrywio ymhlith gwahanol grwpiau demograffig. Er enghraifft, yng Nghylch 11:
Oedran: Roedd yr ymatebwyr rhwng 25 a 64 oed (64%-68%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rhai rhwng 16 a 24 oed (54%) a’r rhai oedd yn 75 oed neu’n hŷn (47%).
Rhanbarth (Lloegr)[troednodyn 6]: Roedd ymatebwyr yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (71%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi clywed am y CSHB ac yn gwybod o leiaf ychydig amdano na’r rhai yn Swydd Efrog a’r Humber (61%), Dwyrain Lloegr (59%), Llundain Fwyaf (59%), Gorllewin Canolbarth Lloegr (58%) a De-ddwyrain Lloegr (57%).
Maint yr aelwyd: Roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi ag un oedolyn (56%) yn llai tebygol o ddweud eu bod yn gwybod o leiaf ychydig am y CSHB na’r rhai a oedd yn byw mewn cartrefi â phedwar person (66%).
Ffynonellau ymwybyddiaeth o’r CSHB
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB ymhle roedden nhw wedi dod ar ei draws. Yng Nghylch 11 (Mai i Awst 2025), y lle mwyaf cyffredin yr oedd ymatebwyr wedi dod ar draws sgôr hylendid bwyd oedd drwy’r sticer a arddangosir mewn busnesau bwyd (84%). Roedd ffynonellau cyffredin eraill yn cynnwys gwefannau busnesau bwyd (44%), a gwefannau neu apiau archebu a dosbarthu bwyd (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) (26%). Dywedodd cyfrannau llai o’r ymatebwyr eu bod wedi dod ar draws y CSHB ar wefan yr ASB (18%) ac ar lafar (16%).[troednodyn 7]
Ers Cylch 2 (Tachwedd 2020 i Ionawr 2021), y pum ffynhonnell hyn oedd y rhai a nodwyd amlaf gan ymatebwyr fel y ffyrdd yr oeddent wedi dod ar draws y CSHB. Fodd bynnag, gwnaeth canran yr ymatebwyr a nododd y ffynonellau canlynol gynyddu ychydig yng Nghylch 11 o gymharu â’r holl gylchoedd blaenorol, lle’r oedd lefelau wedi aros yn sefydlog (Ffigur 3):
- ar wefan busnes bwyd ei hun (44% yng Nghylch 11, o gymharu â 36%-38% mewn cylchoedd blaenorol**)
- ar wefan neu ap archebu / dosbarthu bwyd (26% yng Nghylch 11, o gymharu â 20%-23% mewn cylchoedd blaenorol**)
- ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (18% yng Nghylch 11, o gymharu ag 13%-16% mewn cylchoedd blaenorol**)
Ffigur 3: Y pum prif ffordd yr oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y CSHB rhwng Cylch 2 a Chylch 11.
Bwyd a Chi 2: Cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11
Yng Nghylch 11, roedd y pum ffordd fwyaf cyffredin yr oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y CSHB yn debyg ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, er bod y canrannau a nododd bob ffynhonnell yn amrywio ychydig rhwng y gwledydd (gweler Ffigur 4). Er enghraifft:
- Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (90%) a Gogledd Iwerddon (88%) ychydig yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi dod ar draws y cynllun drwy sticer y CSHB sy’n cael ei arddangos ar safle busnes bwyd na’r rheiny yn Lloegr (84%)**.
- Roedd yr ymatebwyr yn Lloegr (44%) a Chymru (43%) ychydig yn fwy tebygol na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (35%)** o fod wedi dod ar draws y CSHB ar wefan busnes bwyd ei hun.
- Roedd yr ymatebwyr yn Lloegr (26%) a Chymru (25%) ychydig yn fwy tebygol na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (19%)** o fod wedi dod ar draws y CSHB ar ap archebu neu ddosbarthu bwyd (fel Just Eat, Deliveroo, Uber Eats).
- Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (23%) a Gogledd Iwerddon (19%) ychydig yn fwy tebygol na’r rheiny yn Lloegr (15%)** o fod wedi dod ar draws y CSHB ar lafar.
- Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (20%) ychydig yn fwy tebygol na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (15%)** o fod wedi dod ar draws y CSHB ar wefan yr ASB.
Ffigur 4: Y pum prif ffordd yr oedd ymatebwyr yng Nghylch 11 wedi dod ar draws y CSHB yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
| Lleoliad | Lloegr | Cymru | Gogledd Iwerddon |
|---|---|---|---|
| Sticer mewn busnes bwyd | 84 | 90 | 88 |
| Ar wefan busnes bwyd ei hun | 44 | 43 | 35 |
| Ar wefan neu ap archebu a dosbarthu bwyd | 26 | 25 | 19 |
| Ar lafar | 15 | 23 | 19 |
| Ar wefan yr ASB | 18 | 20 | 15 |
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 11
Roedd hefyd wahaniaethau demograffig o ran ble roedd ymatebwyr wedi dod ar draws y CSHB. Mae’r canfyddiadau isod yn canolbwyntio ar y ddwy ffynhonnell a nodwyd amlaf yn gyffredinol, er y gwelwyd gwahaniaethau ar draws nifer o ffynonellau eraill.
Yng Nghylch 11, roedd canran yr ymatebwyr a nododd eu bod wedi dod ar draws y CSHB drwy sticer a arddangosir mewn busnes bwyd (y ffynhonnell a nodwyd amlaf yn gyffredinol) yn amrywio rhwng y grwpiau canlynol:
Oedran: Roedd yr ymatebwyr o dan 75 oed (83%-88%) yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi dod ar draws y CSHB trwy sticer mewn busnes bwyd na’r rheiny a oedd yn 75 oed neu’n hŷn (73%).
Incwm y cartref: Roedd yr ymatebwyr ag incwm cartref blynyddol uwch, er enghraifft y rhai ag incwm cartref blynyddol o £96,000 neu fwy (92%), £64,000-£95,999 (89%) a £32,000-£63,999 (89%) yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi dod ar draws y CSHB trwy sticer mewn busnes bwyd na’r rheiny ag incwm cartref blynyddol o lai nag £19,000 (77%).
Rhanbarth (Lloegr)[troednodyn 8]: Roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw yn Nwyrain Lloegr (89%), Gogledd-orllewin Lloegr (88%) a De-orllewin Lloegr (88%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi dod ar draws y CSHB ar sticer mewn busnes bwyd na’r rhai a oedd yn byw yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (78%) neu yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (78%).
Roedd canran yr ymatebwyr yng Nghylch 11 a nododd eu bod wedi dod ar draws y CSHB ar wefan busnes bwyd ei hun (sef yr ail ffynhonnell a nodwyd amlaf yn gyffredinol) hefyd yn amrywio yn ôl oedran, incwm blynyddol y cartref a rhanbarth:
Oedran: Roedd yr ymatebwyr mewn grwpiau oedran canol oed yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi dod ar draws y CSHB ar wefan busnes bwyd ei hun na’r rheiny mewn grwpiau oedran iau a hŷn. Er enghraifft, nodwyd hyn gan 52% o’r rheiny rhwng 35 a 44 oed, o gymharu â 40% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed, 42% o’r rheiny rhwng 55 a 64 oed, 38% o’r rheiny rhwng 65 a 74 oed a 29% o’r rheiny a oedd yn 75 oed neu’n hŷn.
Incwm y cartref: Roedd yr ymatebwyr ag incwm cartref blynyddol uwch, er enghraifft £96,000 neu fwy (54%) a £64,000-£95,999 (52%), yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi dod ar draws y CSHB ar wefan busnes bwyd ei hun o gymharu â’r rhai ag incwm cartref blynyddol o £19,000-£31,999 (40%) a llai nag £19,000 (35%).
Rhanbarth (Lloegr): Roedd yr ymatebwyr yn Nwyrain Lloegr (49%) yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi dod ar draws y CSHB ar wefan busnes bwyd ei hun o gymharu â’r rheiny yng Ngogledd-orllewin Lloegr (39%) a Llundain Fwyaf (38%).
Adnabyddiaeth o sticer y CSHB
Yng Nghylch 11 (Mai 2025 i Awst 2025), pan ddangoswyd llun o sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd iddyn nhw, dywedodd 92% o’r ymatebwyr eu bod wedi gweld y sticer o’r blaen.[troednodyn 9] Mae adnabyddiaeth o’r sticer wedi parhau’n uchel ers Cylch 2 (Tachwedd 2020 i Ionawr 2021), er gwaethaf rhai amrywiadau bach rhwng cylchoedd (87%-92%**) (Ffigur 5).
Yn y rhan fwyaf o’r cylchoedd, roedd adnabyddiaeth o’r sticer sgôr hylendid bwyd ychydig yn uwch yng Ngogledd Iwerddon (93-96%) a Chymru (91-96%) nag yn Lloegr (87-92%). Fodd bynnag, yng Nghylch 11, roedd adnabyddiaeth ychydig yn uwch yng Ngogledd Iwerddon (96%) nag yng Nghymru (93%) a Lloegr (92%).
Ffigur 5: Adnabyddiaeth o’r sticer sgôr hylendid bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon rhwng Cylch 2 a Chylch 11.
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11
Roedd adnabyddiaeth o’r sticer sgôr hylendid bwyd hefyd yn amrywio rhwng grwpiau demograffig. Er enghraifft, yng Nghylch 11:
Oedran: Roedd yr ymatebwyr o dan 75 oed yn fwy tebygol o adnabod sticer y CSHB na’r rheiny a oedd yn 75 oed neu’n hŷn. Er enghraifft, dywedodd 97% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed a 35 a 44 oed eu bod wedi gweld sticer y CSHB o’r blaen, o gymharu â 70% o’r rheiny a oedd yn 75 oed neu’n hŷn.
**Maint yr aelwyd: Roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartref â 3 pherson neu fwy (er enghraifft, roedd 95% o’r rheiny oedd yn byw mewn cartref â 3 neu 4 o bobl) yn fwy tebygol o adnabod y sticer CSHB na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi un oedolyn (83%).
Pennod 2: Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ddefnydd yr ymatebwyr o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB).
Gwirio sgoriau hylendid bwyd
Gofynnwyd i’r holl ymatebwyr a oedden nhw wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle’r busnes neu ar-lein), ni waeth faint yr oedden nhw’n ei wybod am y CSHB ac ni wnaeth a wnaethon nhw benderfynu prynu bwyd yno ai peidio.
Yng Nghylch 11 (Mai 2025 i Awst 2025), roedd dros hanner (55%) yr ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis blaenorol.[troednodyn 10] Roedd hyn yn gynnydd nodedig o gymharu â’r holl gylchoedd blaenorol, pan oedd y lefelau wedi aros yn gymharol sefydlog (41%–44%) (Ffigur 6).
Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru yn gyson yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd na’r ymatebwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Er enghraifft, yng Nghylch 11, dywedodd 64% o’r ymatebwyr yng Nghymru eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes yn ystod y 12 mis diwethaf, o gymharu â 58%** o’r ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon a 55%** o’r ymatebwyr yn Lloegr.
Ffigur 6: Canran yr ymatebwyr a oedd wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd rhwng Cylch 4 a Chylch 11.
Bwyd a Chi 2: Cylchoedd 4, 6, 8, 10 ac 11
Roedd canran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn amrywio rhwng grwpiau demograffig. Er enghraifft, yng Nghylch 11:
Oedran: Roedd yr ymatebwyr iau yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd. Er enghraifft, dywedodd 67% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed eu bod wedi gwneud hyn. Roedd y ganran yn lleihau gydag oedran, i 57% ymhlith y rheiny rhwng 45 a 54 oed, 50% ymhlith y rheiny rhwng 55 a 64 oed, 49% ymhlith y rhai rhwng 65 a 74 oed, a 29% ymhlith y rheiny oedd yn 75 oed neu’n hŷn.
Maint yr aelwyd: Roedd yr ymatebwyr sy’n byw mewn cartrefi mwy yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd. Er enghraifft, 64% o’r rheiny sy’n byw mewn cartrefi â 5 neu fwy o bobl, 60% o’r rheiny mewn cartrefi â 4 person a 58% o’r rheiny mewn cartrefi â 3 pherson, o gymharu â 44% o’r rheiny sy’n byw mewn cartrefi un oedolyn.
Plant yn y cartref: Roedd yr ymatebwyr â phlant dan 16 oed yn y cartref (62%) yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd na’r rheiny heb blant dan 16 oed yn y cartref (52%).
Rhanbarth (Lloegr)[troednodyn 11]: Roedd yr ymatebwyr yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (62%) yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd, o gymharu â’r rheiny yn Ne-ddwyrain Lloegr (52%), Dwyrain Lloegr (50%) a De-orllewin Lloegr (49%).
Ethnigrwydd[troednodyn 12]: Roedd yr ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (64%) yn fwy tebygol o nodi eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd o gymharu â’r ymatebwyr Gwyn (54%).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes sut yr oedden nhw wedi gwirio’r sgôr. Yng Nghylch 11, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (86%) wedi edrych ar y sticer sgôr hylendid bwyd a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes bwyd. Roedd tua chwarter wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes ar wefan y busnes bwyd ei hun (27%), neu drwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) (26%). Roedd cyfran lai o ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr ar wefan yr ASB (16%).[troednodyn 13]
Ar draws pob cylch, edrych ar y sticer sy’n cael ei arddangos mewn busnes bwyd oedd y ffordd fwyaf cyffredin o wirio sgôr hylendid bwyd, er gwaethaf rhai amrywiadau bach dros amser (82%-86%). Rhwng Cylch 8 (Hydref 2023 – Ionawr 2024) a Chylch 11 (Mai 2025 – Awst 2025) , bu cynnydd bach yng nghanran yr ymatebwyr a nododd eu bod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ar wefan y busnes bwyd ei hun (o 21% i 27%), ac ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (o 20% i 26%**). Arhosodd dulliau eraill o wirio sgôr hylendid busnesau bwyd yn gymharol sefydlog ar draws y cylchoedd (Ffigur 7).
Ffigur 7: Y pum dull mwyaf cyffredin a ddefnyddiwyd gan ymatebwyr i wirio sgôr hylendid busnesau bwyd rhwng Cylch 4 a Chylch 11.
Bwyd a Chi 2: Cylchoedd 4, 6, 8, 10 ac 11
Roedd canran yr ymatebwyr a nododd eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes gan ddefnyddio’r dulliau hyn yn amrywio ychydig yn ôl gwlad. Er enghraifft, yng Nghylch 11 (Ffigur 8):
- Roedd yr ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon (92%) a Chymru (89%) ychydig yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes drwy edrych ar sticer yn ffenestr y busnes bwyd, na’r rheiny yn Lloegr (85%)**.
- Roedd yr ymatebwyr yn Lloegr (28%) a Chymru (27%) ychydig yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes drwy wirio gwefan y busnes bwyd ei hun, na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (19%)**.
- Roedd yr ymatebwyr yn Lloegr (27%) a Chymru (21%) ychydig yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes drwy wirio gwefan neu ap archebu bwyd ar-lein, na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (13%)**.
- Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (18%) a Lloegr (16%) ychydig yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes drwy wefan yr ASB, na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (12%)**.
Ffigur 8: Y pum prif ffordd yr oedd ymatebwyr yng Nghylch 11 wedi gwirio sgoriau’r CSHB yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
| Sut y cafodd y sgôr ei gwirio | Lloegr | Cymru | Gogledd Iwerddon |
|---|---|---|---|
| Sticter CSHB mewn busnes bwyd | 85 | 89 | 92 |
| Ar wefan y busnes ei hun | 28 | 27 | 19 |
| Ar wefan neu ap archebu/dosbarthu bwyd (fel Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) | 27 | 21 | 13 |
| Ar wefan yr ASB | 16 | 18 | 12 |
| Ar ap (fel Scores on the Doors) | 5 | 4 | 4 |
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 11.
Yng Nghylch 11, roedd y dulliau a ddefnyddiwyd gan yr ymatebwyr i wirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng grwpiau oedran. Er enghraifft:
- Roedd yr ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed (91%) a’r rheiny rhwng 65 a 74 oed (93%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gwirio sticer sgôr hylendid a arddangosir mewn busnes bwyd, o gymharu â’r rheiny rhwng 25 a 34 oed (80%).
- Roedd yr ymatebwyr rhwng 35 a 44 oed (34%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gwirio gwefan y busnes bwyd ei hun, o gymharu â’r rheiny rhwng 16 a 24 oed (21%) a’r rheiny dros 75 oed (20%).
- Roedd yr ymatebwyr o dan 45 oed (er enghraifft 38% o’r rheiny rhwng 35 a 44 oed) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gwirio gwefan neu ap archebu bwyd ar-lein, o gymharu â’r rheiny dros 55 oed (er enghraifft 7% o’r rheiny rhwng 65 a 74 oed).
- Roedd yr ymatebwyr rhwng 25 a 44 oed (er enghraifft 24% o’r rheiny rhwng 35 a 44 oed) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gwirio sgoriau hylendid bwyd ar wefan yr ASB, o gymharu â’r rheiny rhwng 16 a 24 oed (10%) a’r rhai dros 65 oed (er enghraifft 4% o’r rheiny dros 75 oed).
Yn ogystal, nodwyd nifer o wahaniaethau rhanbarthol yn Lloegr[troednodyn 14] o ran sut roedd yr ymatebwyr yng Nghylch 11 wedi gwirio sgoriau hylendid bwyd. Er enghraifft:
- Roedd yr ymatebwyr yn Llundain Fwyaf (90%) a De-orllewin Lloegr (88%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gwirio sticer sgôr hylendid a arddangosir mewn busnes bwyd, o gymharu â’r rheiny yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (78%).
- Roedd yr ymatebwyr yn Llundain Fwyaf (35%), Gorllewin Canolbarth Lloegr (31%) a Gogledd-orllewin Lloegr (28%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein, o gymharu â’r rheiny yn Ne-orllewin Lloegr (17%).
- Roedd yr ymatebwyr yn Nwyrain Lloegr (24%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd ar wefan yr ASB, o gymharu â’r rheiny yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (13%), Llundain Fwyaf (13%) a De-orllewin Lloegr (10%).
Ystyried sgoriau hylendid bwyd wrth fwyta allan neu archebu tecawê
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr o opsiynau, y bydden nhw fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan neu o ble i archebu bwyd tecawê.[troednodyn 15]
Yng Nghylch 11 (Mai 2025 i Awst 2025), o blith y rheiny a oedd wedi archebu bwyd o siop tecawê, y ffactorau mwyaf cyffredin a ystyriwyd ganddynt wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê oedd profiad blaenorol yr ymatebwyr o’r siop tecawê (82%) ac ansawdd y bwyd (80%).
Roedd ychydig llai na hanner (48%) yr ymatebwyr yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê (Ffigur 9).[troednodyn 16] Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (52%) a Lloegr (48%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd na’r ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon (40%).**
Ffigur 9: Y deg ffactor mwyaf cyffredin sy’n cael eu hystyried wrth archebu tecawê (Cylch 11).
| Ffactor a ystyrir | Canran yr ymatebwyr % |
|---|---|
| Profiad blaenorol o’r siop tecawê | 82 |
| Ansawdd y bwyd | 80 |
| Pris (gan gynnwys y gost dosbarthu) | 70 |
| Teulu neu ffrindiau wedi argymell | 65 |
| Math o fwyd (fel y dull coginio neu ddewisiadau figan / llysieuol) | 58 |
| Cynigion arbennig neu mae disgownt ar gael | 52 |
| Lleoliad y siop tecawê | 49 |
| Amseroedd dosbarthu / casglu | 49 |
| Sgôr Hylendid Bwyd | 48 |
| Adolygiadau (fel TripAdvisor, Google, y cyfryngau cymdeithasol) | 45 |
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 11
O blith y rheiny sy’n bwyta allan, y ffactorau mwyaf cyffredin a ystyriwyd ganddynt wrth benderfynu ble i fwyta oedd ansawdd y bwyd (86%) a phrofiad blaenorol yr ymatebwyr o’r lle (81%) (Ffigur 10).[troednodyn 17]
Nid oedd sgoriau hylendid bwyd ymhlith y deg ffactor a ystyriwyd amlaf, gyda bron i hanner yr ymatebwyr (48%) yn dweud eu bod fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan. Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (57%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr yn Lloegr (47%) a Gogledd Iwerddon (46%).
Ffigur 10: Y deg ffactor mwyaf cyffredin sy’n cael eu hystyried wrth fwyta allan (Cylch 11).
| Ffactor a ystyrir | Canran yr ymatebwyr |
|---|---|
| Ansawdd y bwyd | 86 |
| Profiad blaenorol o’r lle | 81 |
| Pris | 77 |
| Teulu neu ffrindiau wedi argymell | 74 |
| Lleoliad | 74 |
| Pa mor lân yw’r lle | 71 |
| Ansawdd y gwasnaethau | 66 |
| Math o fwyd (fel y dull coginio neu ddewisiadau figan / llysieuol) | 60 |
| Awyrgylch / naws | 57 |
| Cynigion arbennig neu mae disgownt ar gael | 50 |
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 11.
Pa mor hawdd yw hi i ddod o hyd i sgoriau hylendid bwyd ar y safle ac ar-lein
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor hawdd neu anodd yw hi i ddod o hyd i sgoriau hylendid bwyd wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein a bwyta allan neu siopa am fwyd yn y fan a’r lle.
Wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein, dywedodd 29% o’r ymatebwyr yng Nghylch 11 (Mai 2025 i Awst 2025) eu bod yn ei chael hi’n hawdd (yn eithaf hawdd neu’n hawdd iawn) dod o hyd i sgoriau’r CSHB. Dywedodd 13% o’r ymatebwyr eu bod yn ei chael hi’n anodd (yn eithaf anodd neu’n anodd iawn), a dywedodd 15% arall nad oeddent yn ei chael hi’n hawdd nac yn anodd dod o hyd iddyn nhw. Dywedodd tua un o bob pump o’r ymatebwyr nad ydyn nhw’n chwilio am sgoriau’r CSHB wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein (22%) neu nad oedden nhw’n gwybod a oedd hi’n hawdd neu’n anodd dod o hyd iddyn nhw (20%) (Ffigur 11).[troednodyn 18]
Roedd yr ymatebwyr yn Lloegr (30%) a Chymru (28%) ychydig yn fwy tebygol o nodi eu bod yn ei chael hi’n hawdd dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (24%)**.
Ffigur 11: Pa mor hawdd yw hi i ddod o hyd i sgôr hylendid bwyd wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein (Cylch 11).
| Pa mor hawdd yw hi i ddod o hyd i sgôr hylendid bwyd | Canran yr ymatebwyr |
|---|---|
| Hawdd iawn | 10 |
| Eithaf hawdd | 19 |
| Ddim yn hawdd nac yn anodd | 15 |
| Eithaf anodd | 10 |
| Anodd iawn | 4 |
| Dydw i ddim yn chwilio am sgoriau’r CSHB wrth archebu neu brynu bwyd ar-lein. | 22 |
| Ddim yn gwybod | 20 |
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 11
Roedd gwahaniaethau ymhlith grwpiau demograffig o ran nodi pa mor hawdd yw hi i ddod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein. Er enghraifft:
Oedran: Roedd yr ymatebwyr iau (gan gynnwys 37% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed, 45% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed a 39% o’r rheiny rhwng 35 a 44 oed) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ei chael hi’n eithaf hawdd neu’n hawdd iawn dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein o gymharu â’r rheiny rhwng 55 a 64 oed (21%), y rheiny rhwng 65 a 74 oed (14%) a’r rheiny dros 75 oed (10%).
Maint yr aelwyd: Roedd yr ymatebwyr sy’n byw mewn cartrefi mwy (er enghraifft 43% o’r rheiny mewn cartrefi â 5 person neu fwy a 38% o’r rheiny sy’n byw mewn cartrefi â 4 person) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ei chael hi’n eithaf hawdd neu’n hawdd iawn dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein o gymharu â’r rheiny sy’n byw mewn cartrefi â 2 berson (24%) a’r rheiny sy’n byw mewn cartrefi un oedolyn (17%).
Plant yn y cartref: Roedd yr ymatebwyr â phlant yn y cartref yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ei chael hi’n eithaf hawdd neu’n hawdd iawn dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein. Er enghraifft, nodwyd hyn gan 40% o’r rheiny â phlant dan 16 oed yn y cartref o gymharu â 25% o’r rheiny heb blant dan 16 oed yn y cartref. Yn yr un modd, nododd 46% o’r rheiny â phlant dan 6 oed yn y cartref hyn hefyd, o gymharu â 27% o’r rheiny heb blant dan 6 oed yn y cartref.
**Rhanbarth (Lloegr)[troednodyn 19]: Roedd yr ymatebwyr sy’n byw yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (42%) a Swydd Efrog a’r Humber (37%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ei chael hi’n eithaf hawdd neu’n hawdd iawn dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein, o gymharu â’r rheiny yn Ne-ddwyrain Lloegr (26%), Dwyrain Lloegr (23%), a De-orllewin Lloegr (23%).
Ardaloedd gwledig a threfol: Roedd yr ymatebwyr oedd yn byw mewn ardaloedd trefol (32%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ei chael hi’n eithaf hawdd neu’n hawdd iawn dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein, o gymharu â’r rheiny mewn ardaloedd gwledig (20%).
**Diogeledd bwyd[troednodyn 20]: Roedd yr ymatebwyr hynny a oedd wedi’u dosbarthu fel rhai â diffyg diogeledd bwyd (diogeledd bwyd isel neu isel iawn) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ei chael hi’n eithaf hawdd neu’n hawdd iawn dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein (43%), o gymharu â’r rheiny wedi’u dosbarthu rhai â diogeledd bwyd (diogeledd bwyd uchel neu ymylol; 26%).
Ethnigrwydd[troednodyn 21]: Roedd yr ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (45%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ei chael hi’n eithaf hawdd neu’n hawdd iawn dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein, o gymharu â’r ymatebwyr Gwyn (27%).
Wrth fwyta allan neu siopa am fwyd ar y safle, dywedodd dros hanner (56%) yr ymatebwyr yng Nghylch 11 eu bod yn ei chael hi’n hawdd (yn hawdd iawn neu’n eithaf hawdd) dod o hyd i sgoriau’r CSHB. Dim ond 5% o’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn ei chael hi’n anodd (yn eithaf anodd neu’n anodd iawn) dod o hyd iddyn nhw. Dywedodd 16% o’r ymatebwyr nad oedd hi’n hawdd nac yn anodd dod o hyd iddyn nhw, a dywedodd 16% arall nad ydynt yn chwilio am sgoriau’r CSHB wrth fwyta allan neu siopa am fwyd yn y fan a’r lle (Ffigur 12).[troednodyn 22]
Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (68%) a Gogledd Iwerddon (64%) yn fwy tebygol o ddweud ei bod hi’n hawdd dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth fwyta allan neu siopa am fwyd yn y fan a’r lle na’r rheiny yn Lloegr (55%)**.
Ffigur 12: Pa mor hawdd yw hi i ddod o hyd i sgôr hylendid bwyd wrth fwyta allan neu siopa am fwyd yn y fan a’r lle (Cylch 11).
| Pa mor hawdd yw hi i ddod o hyd i sgôr hylendid bwyd | Canran yr ymatebwyr |
|---|---|
| Hawdd iawn | 21 |
| Eithaf hawdd | 35 |
| Ddim yn hawdd nac yn anodd | 16 |
| Eithaf anodd | 4 |
| Anodd iawn | 1 |
| Dydw i ddim yn chwilio am sgoriau’r CSHB wrth archebu neu brynu bwyd ar-lein. | 16 |
| Ddim yn gwybod | 7 |
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 11
Roedd gwahaniaethau hefyd rhwng grwpiau demograffig o ran pa mor hawdd oedd hi i ddod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth fwyta allan neu siopa am fwyd yn y fan a’r lle. Er enghraifft:
** Oedran**: Roedd yr ymatebwyr iau (gan gynnwys 68% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed, 65% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed a 62% o’r rheiny rhwng 35 a 44 oed) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ei chael hi’n eithaf hawdd neu’n hawdd iawn dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth fwyta allan neu siopa am fwyd yn y fan a’r lle, o gymharu â 51% o’r rheiny rhwng 55 a 64 oed, 49% o’r rheiny rhwng 65 a 74 oed a 34% o’r rheiny a oedd yn 75 oed neu’n hŷn.
Maint yr aelwyd: Roedd yr ymatebwyr sy’n byw mewn cartrefi mwy (er enghraifft 66% o’r rheiny mewn cartrefi â 5 person neu fwy a 63% o’r rheiny mewn cartrefi â 4 person) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ei chael hi’n eithaf hawdd neu’n hawdd iawn dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth fwyta allan neu siopa am fwyd yn y fan a’r lle o gymharu â 52% o’r rheiny mewn cartrefi â 2 berson a 45% o’r rheiny mewn cartrefi un oedolyn.
Plant yn y cartref: Roedd yr ymatebwyr â phlant dan 16 oed yn y cartref (64%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ei chael hi’n eithaf hawdd neu’n hawdd iawn dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth fwyta allan neu siopa am fwyd yn y fan a’r lle o gymharu â’r rheiny heb blant dan 16 oed yn y cartref (54%). - Rhanbarth (Lloegr)[troednodyn 23]: Roedd yr ymatebwyr sy’n byw yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (71%) a Dwyrain Canolbarth Lloegr (63%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ei chael hi’n eithaf hawdd neu’n hawdd iawn dod o hyd i sgoriau’r CSHB wrth fwyta allan neu siopa am fwyd yn y fan a’r lle, o gymharu â’r rheiny yn Ne-ddwyrain Lloegr (52%) a Dwyrain Lloegr (49%).
Pennod 3: Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i wneud penderfyniadau
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o’r ffordd y mae pobl yn defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth benderfynu ble i fwyta allan neu ble i brynu bwyd.
Sgoriau hylendid bwyd derbyniol
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa sgôr y byddent fel arfer yn ei hystyried fel y sgôr hylendid bwyd isaf a fyddai’n dderbyniol iddynt wrth ystyried prynu bwyd o rywle. Yng Nghylch 11 (Mai 2025 i Awst 2025), dywedodd 14% o’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB mai dim ond sgôr o 5 sy’n dderbyniol, ond dywedodd y rhan fwyaf mai sgôr o 4 (52%) neu 3 (25%) oedd y sgôr isaf y byddent yn ei hystyried yn dderbyniol. Roedd lleiafrif o’r ymatebwyr yn ystyried bod sgôr o 2 (2%), 1 (1%) neu 0 (1%) yn dderbyniol (Ffigur 13).[troednodyn 24]
Yn y rhan fwyaf o gylchoedd, sgôr o 4 (da) oedd y lefel dderbyniol isaf a ddewiswyd amlaf gan ymatebwyr, ac yna sgôr o 3 (boddhaol ar y cyfan). Cynyddodd canran yr ymatebwyr a ddewisodd sgôr o 4 (da) yn sylweddol dros amser, o 39% yng Nghylch 2 (Tachwedd 2020 i Ionawr 2021) i 52% yng Nghylch 11 (Mai i Awst 2025).
Bu cynnydd bach hefyd yng nghanran yr ymatebwyr a nododd mai sgôr o 5 yn unig y byddent yn ei hystyried yn dderbyniol (14%) o gymharu â’r holl gylchoedd blaenorol (8%-9%)**. I’r gwrthwyneb, gostyngodd canran yr ymatebwyr a ddewisodd sgôr o 3 (boddhaol ar y cyfan) yn sylweddol i 25% yng Nghylch 11, o gymharu â’r holl gylchoedd blaenorol (36%-41%).
Ffigur 13: Pa sgôr fyddai ymatebwyr, sydd wedi clywed am y CSHB, yn ei hystyried fel y sgôr hylendid bwyd isaf dderbyniol o Gylch 2 i Gylch 11?
| Cylch | 5: da iawn | 4: da | 3: boddhaol ar y cyfan | 2: angen gwella | 1: angen gwella yn sylweddol | 0: angen gwella ar frys |
|---|---|---|---|---|---|---|
| C11: Mai-25 i Awst-25 | 14 | 52 | 25 | 2 | 1 | 1 |
| C10: Hyd-24 i Chwe-25 | 9 | 44 | 36 | 4 | 1 | 1 |
| C8: Hyd-23 i Ion-24 | 8 | 44 | 37 | 4 | 0 | 1 |
| C6: Hyd-22 i Ion-23 | 8 | 42 | 39 | 4 | 0 | 1 |
| C4: Hyd-21 i Ion-22 | 8 | 41 | 40 | 4 | 0 | 1 |
| C2: Tach-20 i Ion-21 | 8 | 39 | 41 | 5 | 0 | 1 |
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11
Yng Nghylch 11, gwelwyd gwahaniaethau rhwng grwpiau demograffig o ran y sgôr isaf y byddai ymatebwyr fel arfer yn ei hystyried yn dderbyniol. Gan ganolbwyntio ar y rhai a oedd a nododd mai sgôr o 5 (da iawn) oedd y sgôr isaf y byddent fel arfer yn ei hystyried yn dderbyniol, gwelwyd y gwahaniaethau canlynol:
Gwlad: Roedd yr ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr (14% yr un) yn fwy tebygol o ddweud mai 5 oedd y sgôr isaf y byddent fel arfer yn ei hystyried yn dderbyniol o gymharu â’r rheiny yng Nghymru (10%)**.
Rhanbarth (Lloegr)[troednodyn 25]: Roedd yr ymatebwyr yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (20%) yn fwy tebygol o ddweud mai 5 oedd y sgôr isaf y byddent fel arfer yn ei hystyried yn dderbyniol o gymharu â’r rheiny yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (9%).
Oedran: Roedd yr ymatebwyr hŷn (er enghraifft 22% o’r rheiny oedd yn 75 oed neu’n hŷn a 23% o’r rhai rhwng 65 a 74 oed) yn fwy tebygol o ddweud mai 5 oedd y sgôr isaf y byddent fel arfer yn ei hystyried yn dderbyniol o gymharu â 9% o’r rheiny rhwng 35 a 44 oed, 10% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed a 6% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed.
Effaith y sticer sgôr hylendid bwyd ar ymddygiadau
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd nad oedd yn arddangos sticer a oedd yn dangos ei sgôr hylendid bwyd.
Ymhlith y rhai a oedd wedi clywed am y CSHB, gwelwyd cynnydd nodedig yng Nghylch 11 (Mai 2025 i Awst 2025) yng nghanran yr ymatebwyr a nododd eu bod wedi gwneud hyn (28%), o gymharu â’r cylchoedd blaenorol, pan oedd y ganran wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 15% ac 18% (Ffigur 14).[troednodyn 26]
Bu gwahaniaethau rhwng y gwledydd ar draws pob cylch. Yng Nghylch 11, er enghraifft, roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (37%) a oedd wedi clywed am y CSHB yn fwy tebygol na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (29%) a Lloegr (28%)** o nodi eu bod wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Er gwaethaf y gwahaniaethau hyn, gwelwyd patrwm tebyg o newid dros amser ar draws y tair gwlad, gyda lefelau yng Nghylch 11 yn uwch na’r rhai a welwyd mewn cylchoedd blaenorol.
Ffigur 14: Canran yr ymatebwyr a nododd eu bod wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf, ymhlith y rhai a oedd wedi clywed am y CSHB, o Gylch 2 i Gylch 11.
Bwyd a Chi 2: Cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11
Pryderon am fusnesau bwyd nad ydynt yn arddangos sgôr CSHB
Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth fyddai’n peri pryder iddynt pe baent yn ymweld â busnes bwyd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd ar y safle.[troednodyn 27]
Yng Nghylch 11 (Mai 2025 i Awst 2025), pan gyflwynwyd rhestr o opsiynau iddynt, roedd yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB yn fwyaf tebygol o ddweud y byddent yn pryderu bod y safonau hylendid yn wael mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos ei sgôr hylendid (53%), neu fod gan y busnes sgôr hylendid bwyd isel a’i fod yn ceisio cuddio hynny (49%). Dilynwyd hyn yn agos gan bryderon ynghylch pa mor ddiogel fyddai bwyta yn y busnes bwyd (48%), ac y byddai mwy o risg o wenwyn bwyd, salwch neu haint wrth fwyta yno (47%) (Ffigur 15).
Ffigur 15: Y pryderon ymhlith y rhai a oedd wedi clywed am y CSHB yng Nghylch 11 pe na bai busnes bwyd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd ar y safle.
| Math o bryder | Canran yr ymatebwyr |
|---|---|
| Roedd gan y busnes safonau hylendid gwael | 53 |
| Roedd gan y busnes sgôr hylendid bwyd isel/gwael ac roedd yn ceisio ei guddio | 49 |
| Diogelwch bwyta yn y busnes | 48 |
| Risg uwch o wenwyn bwyd/salwch/haint | 47 |
| P’un a yw’r busnes wedi cael ei arolygu gan yr awdurdodau perthnasol | 41 |
| Dydy’r busnes ddim yn bodloni’r gofynion cyfreithiol | 40 |
| Fyddwn i ddim yn sylwi ar y sticer sydd ar goll | 23 |
| Fyddwn i ddim yn poeni | 3 |
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 11
Y ddau bryder mwyaf cyffredin yng Nghylch 11 oedd bod gan y busnes safonau hylendid gwael a’i fod yn ceisio cuddio sgôr hylendid bwyd gwael neu isel. Dyma hefyd y ddau bryder a nodwyd amlaf ym mhob un o’r cylchoedd blaenorol. Fodd bynnag, roedd canran yr ymatebwyr a nododd y pryderon hyn yn amrywio ychydig dros amser, gan amrywio rhwng 48% a 53%** a rhwng 45% a 52%**, yn y drefn honno.
Roedd pryderon eraill hefyd yn amrywio rhywfaint rhwng cylchoedd. Er enghraifft, roedd y pryder ynghylch risg uwch o wenwyn bwyd, salwch neu haint yn amrywio rhwng 40% a 47% o Gylch 2 i Gylch 11**, ac roedd y pryder ynghylch diogelwch bwyta yn y busnes bwyd yn uwch yng Nghylch 11 (48%) nag yng Nghylch 10 (44%).
Roedd canran yr ymatebwyr a ddywedodd na fyddent yn sylwi pe bai’r sticer ar goll ychydig yn is yng Nghylchoedd 10 ac 11 (23% i 24%) nag yn y cylchoedd cynharach (26% i 27%).
Pennod 4: Agweddau tuag at arddangos sgoriau hylendid bwyd
Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr hylendid bwyd. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd arddangos eu sticer sgôr hylendid bwyd mewn lle amlwg ar eu safle.[troednodyn 28] Fodd bynnag, yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sgôr.
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o agweddau tuag at y CSHB, gan gynnwys barn am y gofyniad i arddangos sgoriau a ble y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein.
Barn am y gofyniad i arddangos sgoriau ar sail orfodol mewn busnesau bwyd
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent yn meddwl y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd, neu a ddylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydynt am wneud hynny ai peidio. Yng Nghylch 11 (Mai 2025 i Awst 2025), roedd 94% o’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB yn meddwl y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd, ac roedd 3% yn meddwl y dylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydynt am wneud hynny ai peidio. Dywedodd 3% arall o’r ymatebwyr nad oeddent yn siŵr a ddylai hyn fod yn ofyniad cyfreithiol neu a ddylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu.
Roedd cefnogaeth o blaid y gofyniad i fusnesau bwyd arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar y safle’n parhau i fod yn gyson uchel dros amser ac ym mhob un o’r tair gwlad. Ym mhob cylch, dywedodd dros 9 o bob 10 (91-95%) o’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar eu safle (Ffigur 16).[troednodyn 29]
Ffigur 16: Canran yr ymatebwyr a oedd o’r farn y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar y safle, a hynny ymhlith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, o Gylch 2 i Gylch 11
Bwyd a Chi 2: Cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11
Safbwyntiau ar arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymhle y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein, gan ddewis o blith rhestr o leoliadau.
Yng Nghylch 11 (Mai 2025 i Awst 2025), roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr o’r farn y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd ar wefan siop tecawê (94%), gwefan bwyty neu gaffi (93%), ar wefannau neu apiau cwmnïau archebu a dosbarthu bwyd (93%), ac ar wefannau gwestai neu wely a brecwast (92%). Roedd tua 8 o bob 10 o’r ymatebwyr o’r farn y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd ar wefannau archfarchnadoedd (84%) ac ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnesau bwyd (81%) (Ffigur 17). Nid oedd unrhyw newidiadau nodedig rhwng cylchoedd.[troednodyn 30]
Ffigur 17: Y lleoliadau ar-lein y mae ymatebwyr yng Nghylch 11 yn credu y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd yn glir.
| Lleoliad | Canran yr ymatebwyr |
|---|---|
| Gwefan siop tecawê | 94 |
| Gwefan bwyty neu gaffi | 93 |
| Ap neu wefan cwmni archebu a dosbarthu bwyd | 93 |
| Gwefan gwesty neu lety gwely a brecwast | 92 |
| Cyfryngau cymdeithasol busnes bwyd | 81 |
Ffynnhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 11
Atodiad A
Dyddiadau’r gwaith maes
Tabl 1: Dyddiadau’r gwaith maes ac ymatebion ar gyfer cylchoedd Bwyd a Chi 2 lle cafodd cwestiynau am y CSHB eu cynnwys a lle roedd data cymharol ar gael.
| Cylch | Dyddiadau’r gwaith maes | Nifer yr ymatebwyr | Nifer y cartrefi |
|---|---|---|---|
| 2 | 20 Tachwedd 2020 – 21 Ionawr 2021 | 5,900 | 3,955 |
| 4 | 18 Hydref 2021 – 10 Ionawr 2022 | 5,796 | 4,026 |
| 6 | 12 Hydref 2022 – 10 Ionawr 2023 | 5,991 | 4,217 |
| 8 | 12 Hydref 2023 – 8 Ionawr 2024 | 5,808 | 4,006 |
| 10 | 9 Hydref 2024 – 7 Chwefror 2025 | 5,690 | 3,965 |
| 11 | 19 Mai 2025 – 7 Awst 2025 | 5,898 | 4,215 |
Termau technegol a diffiniadau
Nodir arwyddocâd ystadegol ar y lefel 5% (p<0.05). Felly, pan fydd yr adroddiad yn nodi gwahaniaeth sylweddol, gellir bod yn weddol hyderus bod y gwahaniaeth a adroddwyd yn adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol ar lefel y boblogaeth.
Mae diogeledd bwyd (‘food security’) yn golygu bod pawb yn gallu cael mynediad at ddigon o fwyd bob amser i fyw bywyd iach a gweithgar (Uwchgynhadledd Bwyd y Byd, 1996). Mae Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA) wedi creu cyfres o gwestiynau sy’n nodi lefel diogeledd bwyd ymatebwyr. Mae Bwyd a Chi 2 yn ymgorffori’r 10 eitem ym Modiwl Arolwg Diogeledd Bwyd Oedolion yr Unol Daleithiau ac yn cwmpasu cyfnod cyfeirio o 12 mis. Cyfeirir at yr ymatebwyr fel rhai sydd â diogeledd bwyd os cânt eu hystyried yn unigolion sydd â diogeledd bwyd uchel (dim arwyddion bod ganddynt broblemau neu gyfyngiadau o ran cael mynediad at fwyd) neu sydd â diogeledd bwyd ymylol (un neu ddau o arwyddion o broblemau – fel arfer pryder ynghylch digonolrwydd bwyd neu brinder bwyd yn y tŷ. Ychydig neu ddim arwydd o newidiadau mewn deietau neu gymeriant bwyd). Cyfeirir at yr ymatebwyr fel rhai nad oes ganddynt ddiogeledd bwyd os cânt eu hystyried yn unigolion sydd â diogeledd bwyd isel (adroddiadau o ddirywiad o ran ansawdd, amrywiaeth neu ddymunoldeb deiet. Ychydig neu ddim arwydd o ostyngiad mewn cymeriant bwyd) neu sydd â diogeledd bwyd isel iawn (adroddiadau o nifer o achosion o darfu ar batrymau bwyta a gostyngiad mewn cymeriant bwyd).
-
Safonau Bwyd yr Alban (FSS) sy’n gyfrifol am y Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn yr Alban. ↩
-
Cyflwynwyd deddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol arddangos sgoriau’r CSHB yng Nghymru ym mis Tachwedd 2013 ac yng Ngogledd Iwerddon ym mis Hydref 2016. ↩
-
Yn cynnwys: ‘Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod cryn dipyn amdano’, ‘Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod ychydig amdano’, ‘Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod llawer amdano’, ‘Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod dim amdano’. ↩
-
Cwestiwn: Ydych chi wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd? Ymatebion: Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod cryn dipyn amdano; Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod ychydig amdano; Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod llawer amdano; Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod dim amdano; Nac ydw, dydw i erioed wedi clywed amdano. Cyfanswm heb ei bwysoli ar draws cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11 (pob gwlad wedi’u cyfuno) = 30,118 (amrediad rhwng 4,737 yng Nghylch 4 a 5,881 yng Nghylch 11), yr holl ymatebwyr mewn holiaduron perthnasol (a atebodd). Sylwer: ni chafodd y cwestiwn hwn ei gynnwys yng Nghylch 1. Er bod data ar gael ar gyfer cylchoedd 3, 5, 7 a 9, nid oes modd ei gymharu’n uniongyrchol oherwydd newidiadau yn nhrefn y cwestiynau a’r fethodoleg yng nghynllun yr arolwg. ↩
-
Yn cynnwys ‘Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac yn gwybod cryn dipyn amdano’ ac ‘Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac yn gwybod ychydig amdano’. ↩
-
Oherwydd maint y samplau, dim ond ar gyfer rhanbarthau Lloegr y darperir sylwebaeth ranbarthol. Nid oes data cyfatebol ar gael ar gyfer Cymru na Gogledd Iwerddon. ↩
-
Cwestiwn: Ble’r ydych chi wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd? Ymatebion: Ar sticer mewn busnes bwyd; Ar wefan busnes bwyd (fel gwefan bwyty); Ar wefan neu ap archebu/dosbarth bwyd (fel Just Eat, Deliveroo, Uber Eats ac ati); Wedi clywed gan rywun; Ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd; Yn y papur newyddion lleol; Trwy’r cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft Twitter, Facebook Marketplace); Mewn hysbyseb neu erthygl cylchgrawn; Ar ap arall (er enghraifft Scores on the Doors) (nodwch); Ar wefan arall; Rhywle arall. Cyfanswm heb ei bwysoli ar draws cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11 (pob gwlad wedi’u cyfuno) = 27,460 (amrediad rhwng 4,355 yng Nghylch 4 a 5,412 yng Nghylch 11), yr holl ymatebwyr mewn holiaduron perthnasol (a atebodd). Sylwer: ni chafodd y cwestiwn hwn ei gynnwys yn Nghylchoedd 1, 3, 5, 7 na 9. ↩
-
Oherwydd maint y samplau, dim ond ar gyfer rhanbarthau Lloegr y darperir sylwebaeth ranbarthol. Nid oes data cyfatebol ar gael ar gyfer Cymru na Gogledd Iwerddon. ↩
-
Cwestiwn: Ydych chi erioed wedi gweld y sticer hwn o’r blaen? Ymatebion: Ydw; Nac ydw; Ddim yn gwybod / Ddim yn siŵr. Cyfanswm heb ei bwysoli ar draws cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11 (pob gwlad wedi’u cyfuno) = 29,954 (amrediad rhwng 4,723 yng Nghylch 4 a 5,793 yng Nghylch 11), yr holl ymatebwyr mewn holiaduron perthnasol (a atebodd). Sylwer: ni chafodd y cwestiwn hwn ei gynnwys yn Nghylchoedd 1, 3, 5, 7 na 9. ↩
-
Cwestiwn: Yn ystod y 12 mis diwethaf, ydych chi wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd? Efallai eich bod wedi gwirio sgôr ar safle’r busnes, ar-lein, ar daflenni neu fwydlenni; p’un a wnaethoch chi benderfynu prynu bwyd o’r lle hwnnw ai peidio. Ymatebion: Ydw, rydw i wedi gwirio Sgôr Hylendid Bwyd busnes bwyd; Nac ydw, dydw i ddim wedi gwirio Sgôr Hylendid Bwyd busnes bwyd; Ddim yn gwybod. Cyfanswm y sylfaen heb ei bwysoli ar draws cylchoedd 4, 6, 8, 10 ac 11 (pob gwlad wedi’u cyfuno) = 25,222 (amrediad rhwng 4,734 yng Nghylch 4 a 5,868 yng Nghylch 11), yr holl ymatebwyr mewn holiaduron perthnasol (a atebodd). Sylwer: ni chafodd y cwestiwn hwn ei gynnwys yng Nghylchoedd 1, 2, 3, 5, 7 na 9. ↩
-
Oherwydd maint y samplau, dim ond ar gyfer rhanbarthau Lloegr y darperir sylwebaeth ranbarthol. Nid oes data cyfatebol ar gael ar gyfer Cymru na Gogledd Iwerddon. ↩
-
Rhoddir sylwadau ar gyfer y grwpiau Gwyn ac Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig yn unig, oherwydd bod maint y sampl ar gyfer grwpiau ethnig eraill yn rhy fach. ↩
-
Cwestiwn: Sut gwnaethoch chi wirio’r sgoriau hyn? Ymatebion: Fe wnes i edrych ar sticer y CSHB a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes bwyd (fel yn ffenestr neu ar ddrws y busnes); Fe wnes i edrych ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats); Fe wnes i edrych ar wefan y busnes bwyd ei hun; Fe wnes i edrych ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd; Fe wnes i edrych ar ap (er enghraifft, Scores on the Doors); Fe wnes i wirio ar wefan arall; Fe wnes i wirio mewn papur newyddion lleol; Arall; Ddim yn gwybod. Cyfanswm heb ei bwysoli ar draws Cylchoedd 4, 6, 8, 10 ac 11 = 12,249 (amrediad rhwng 2,075 yng Nghylch 4 a 3,241 yng Nghylch 11), yr holl ymatebwyr mewn holiaduron perthnasol sydd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn y 12 mis blaenorol (a atebodd). Sylwer: mae’r cwestiwn wedi’i aralleirio ychydig ar draws y cylchoedd. Ni chafodd y cwestiwn hwn ei gynnwys yng Nghylchoedd 1, 2, 3, 5, 7 na 9. ↩
-
Oherwydd maint y samplau, dim ond ar gyfer rhanbarthau Lloegr y darperir sylwebaeth ranbarthol. Nid oes data cyfatebol ar gael ar gyfer Cymru na Gogledd Iwerddon. ↩
-
Mae hyn yn cynnwys bwyd tecawê a archebir yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty, neu drwy gwmni dosbarthu ar-lein. ↩
-
Cwestiwn: Yn gyffredinol, wrth archebu bwyd o siopau tecawê (naill ai’n uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty, neu drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein fel Just Eat, Uber Eats neu Deliveroo), beth ydych chi’n ei ystyried wrth benderfynu o ble i archebu? Ymatebion: Fy mhrofiad blaenorol o’r siop tecawê; Ansawdd y bwyd; Pris (gan gynnwys cost dosbarthu’r bwyd); Y math o fwyd (er enghraifft, y math o cuisine neu ddewisiadau llysieuol/figan); Argymhellion teulu neu ffrindiau; Y Sgôr Hylendid Bwyd; Lleoliad y siop tecawê; A oes dewisiadau dosbarthu neu gasglu ar gael; A oes cynigion, bargeinion neu ostyngiadau ar gael; Yr amserau danfon/casglu; A oes modd archebu’r bwyd ar-lein (er enghraifft drwy wefan neu ap); Adolygiadau (er enghraifft ar TripAdvisor, Google, y cyfryngau cymdeithasol neu mewn papurau newydd neu gylchgronau); A yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn; A oes dewisiadau iachach ar gael; A oes gwybodaeth am alergenau ar gael; A oes gwybodaeth am galorïau ar gael; Dim o’r rhain; Ddim yn gwybod. Sylfaen heb ei phwysoli yng Nghylch 11 = 3,325; pawb a ymatebodd ar-lein sy’n archebu bwyd tecawê. ↩
-
Cwestiwn: Yn gyffredinol, pan fyddwch chi’n bwyta allan, beth byddwch chi’n ei ystyried pan fyddwch chi’n penderfynu ble i fynd? Meddyliwch am fwyta allan mewn bwytai, tafarndai/bariau, a chaffis/siopau coffi/siopau brechdanau. Ymatebion: Ansawdd y bwyd; Fy mhrofiad blaenorol o’r lle; Glendid y lle; Ansawdd y gwasanaeth; Argymhellion teulu neu ffrindiau; Pris; Lleoliad; Y math o fwyd (er enghraifft, y math o cuisine neu ddewisiadau llysieuol/figan); Y Sgôr Hylendid Bwyd; Awyrgylch y lle; A oes cynigion, bargeinion neu ostyngiadau ar gael; Adolygiadau (er enghraifft ar TripAdvisor, Google, y cyfryngau cymdeithasol, neu mewn papurau newyddion neu gylchgronau); A yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn; A oes dewisiadau iachach ar gael; A yw’r lle’n croesawu plant; A oes gwybodaeth am alergenau ar gael; A oes gwybodaeth am galorïau ar gael; Dim o’r rhain; Ddim yn gwybod. Sylfaen heb ei phwysoli yng Nghylch 11 = 3,748; pawb a ymatebodd ar-lein sy’n bwyta allan. ↩
-
Cwestiwn: Pa mor hawdd neu anodd yw hi i ddod o hyd i sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth archebu neu siopa am fwyd ar-lein? Ymatebion: Hawdd iawn; Eithaf hawdd; Ddim yn hawdd nac yn anodd; Eithaf anodd; Anodd iawn; Dydw i ddim yn chwilio am sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth archebu na siopa am fwyd ar-lein; Ddim yn gwybod. Sylfaen heb ei phwysoli yng Nghylch 11 = 5,830; yr holl ymatebwyr (a atebodd). Noder: cyflwynwyd y cwestiwn hwn yng Nghylch 11 yn unig ac ni chafodd ei ofyn yng Nghylchoedd 1 i 10. ↩
-
Oherwydd maint y samplau, dim ond ar gyfer rhanbarthau Lloegr y darperir sylwebaeth ranbarthol. Nid oes data cyfatebol ar gael ar gyfer Cymru na Gogledd Iwerddon. ↩
-
Ceir diffiniad o ddiogeledd bwyd a disgrifiad o’r mesurau a ddefnyddiwyd yn Atodiad A. ↩
-
Rhoddir sylwadau ar gyfer y grwpiau Gwyn ac Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig yn unig, oherwydd bod maint y sampl ar gyfer grwpiau ethnig eraill yn rhy fach. ↩
-
Cwestiwn: Pa mor hawdd neu anodd yw hi i ddod o hyd i sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth fwyta allan neu siopa am fwyd yn y fan a’r lle? Ymatebion: Hawdd iawn; Eithaf hawdd; Ddim yn hawdd nac yn anodd; Eithaf anodd; Anodd iawn; Dydw i ddim yn chwilio am sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth fwyta allan na siopa am fwyd yn y fan a’r lle; Ddim yn gwybod. Sylfaen heb ei phwysoli yng Nghylch 11 = 5,858; yr holl ymatebwyr (a atebodd). Noder: cyflwynwyd y cwestiwn hwn yng Nghylch 11 yn unig ac ni chafodd ei ofyn yng Nghylchoedd 1 i 10. ↩
-
Oherwydd maint y samplau, dim ond ar gyfer rhanbarthau Lloegr y darperir sylwebaeth ranbarthol. Nid oes data cyfatebol ar gael ar gyfer Cymru na Gogledd Iwerddon. ↩
-
Cwestiwn: Ar raddfa sgoriau o 0 i 5, beth yw’r sgôr isaf a fyddai’n dderbyniol i chi fel arfer pe baech yn ystyried prynu bwyd o rywle? Ymatebion: 0 – Angen gwella ar frys; 1 – Angen gwella yn sylweddol; 2 – Angen gwella; 3 – Boddhaol ar y cyfan; 4 – Da; 5 – Da iawn; Ddim yn gwybod; Dydw i ddim fel arfer yn sylwi ar y sgôr wrth fynd i mewn i fusnes bwyd. Cyfanswm heb ei bwysoli ar draws cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11 = 27,098 (amrediad rhwng 4,269 yng Nghylch 4 a 5,338 yng Nghylch 11), yr holl ymatebwyr mewn holiaduron perthnasol, ac eithrio’r rhai nad ydynt wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd neu ‘Heb nodi’ a oeddent wedi clywed amdano ai peidio (a atebodd). Sylwer: ni chafodd y cwestiwn hwn ei gynnwys yn Nghylchoedd 1, 3, 5, 7 na 9. ↩
-
Oherwydd maint y samplau, dim ond ar gyfer rhanbarthau Lloegr y darperir sylwebaeth ranbarthol. Nid oes data cyfatebol ar gael ar gyfer Cymru na Gogledd Iwerddon. ↩
-
Cwestiwn: Yn ystod y 12 mis diwethaf, a wnaethoch chi erioed benderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd? Ymatebion: Do; Naddo; Ddim yn gwybod / Methu cofio. Cyfanswm y sylfaen heb ei bwysoli ar draws cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11 = 27,455 (amrediad rhwng 4,345 yng Nghylch 4 a 5,398 yng Nghylch 11), yr holl ymatebwyr mewn holiaduron perthnasol, ac eithrio’r rhai nad ydynt wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd neu’r rhai a oedd ‘Heb nodi’ a oeddent wedi clywed amdano ai peidio (a atebodd). Sylwer: ni chafodd y cwestiwn hwn ei gynnwys yn Nghylchoedd 1, 3, 5, 7 na 9. ↩
-
Cwestiwn: Pe baech yn ymweld â busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar y safle, a fyddech yn poeni am unrhyw rai o’r pethau canlynol? Ymatebion: Bod gan y busnes bwyd safonau hylendid gwael; Bod gan y busnes bwyd sgôr hylendid bwyd isel neu wael a’i fod yn ceisio’i chuddio; Bod mwy o berygl o gael gwenwyn bwyd/salwch/haint drwy fwyta yno; Pa mor ddiogel yw hi i fwyta yn y busnes bwyd; Nad yw’r busnes bwyd yn bodloni’r gofynion cyfreithiol; A yw’r busnes bwyd wedi’i arolygu gan yr awdurdodau perthnasol ai peidio; Ni fyddwn yn poeni am unrhyw beth; Ni fyddwn yn sylwi bod y sticer ar goll; Arall; Ddim yn gwybod. Cyfanswm heb ei bwysoli ar draws cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11 = 27,486 (amrediad rhwng 4,350 yng Nghylch 4 a 5,409 yng Nghylch 11), yr holl ymatebwyr mewn holiaduron perthnasol, ac eithrio’r rhai nad ydynt wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd neu’r rhai a oedd ‘Heb nodi’ a oeddent wedi clywed amdano ai peidio (a atebodd). Sylwer: ni chafodd y cwestiwn hwn ei gynnwys yn Nghylchoedd 1, 3, 5, 7 na 9. ↩
-
Cyflwynwyd deddfwriaeth i’w gwneud yn orfodol i fusnesau arddangos sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd mewn safleoedd yng Nghymru ym mis Tachwedd 2013 ac yng Ngogledd Iwerddon ym mis Hydref 2016. ↩
-
Cwestiwn: Ydych chi’n meddwl y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar eu safle, neu a ddylai’r busnes allu penderfynu gwneud hynny ai peidio? Ymatebion: Dylai fod yn rhaid iddynt ei harddangos; Dylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu; Ddim yn gwybod. Cyfanswm heb ei bwysoli ar draws cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11 = 27,476 (amrediad rhwng 4,350 yng Nghylch 4 a 5,406 yng Nghylch 11), yr holl ymatebwyr mewn holiaduron perthnasol, ac eithrio’r rhai nad ydynt wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd neu’r rhai a oedd ‘Heb nodi’ a oeddent wedi clywed amdano ai peidio (a atebodd). Sylwer: ni chafodd y cwestiwn hwn ei gynnwys yn Nghylchoedd 1, 3, 5, 7 na 9. ↩
-
Cwestiwn: A ydych chi’n meddwl y dylai’r sgoriau hylendid fod wedi’u harddangos yn glir ar… a) apiau a gwefannau cwmnïau archebu a dosbarthu bwyd (fel Just Eat, Deliveroo, Uber Eats ac ati) sy’n eich galluogi i archebu bwyd o ystod o fwytai a siopau tecawê lleol? / b) gwefan bwyty neu gaffi?; c) gwefan siop tecawê? / ch) gwefan gwesty neu wely a brecwast os yw’n darparu bwyd? / d) gwefan archfarchnad? / dd) safle cyfryngau cymdeithasol busnes bwyd (fel Facebook, Instagram ac ati)? Ymatebion: Ydw; Nac ydw; Ddim yn gwybod. Cyfanswm heb ei bwysoli ar draws cylchoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11 = a) 29,826 (amrediad: 4,706 yng Nghylch 4 a 5,836 yng Nghylch 11) / b) 29,800 (amrediad: 4,688 yng Nghylch 4 a 5,843 yng Nghylch 11) / c) 29,705 (amrediad: 4,673 yng Nghylch 4 a 5,827 yng Nghylch 11) / d) 29,766 (amrediad: 4,680 yng Nghylch 4 a 5,844 yng Nghylch 11) / e) 29,676 (amrediad: 4,681 yng Nghylch 4 a 5,802 yng Nghylch 11). Sylwer, ni ofynnwyd opsiwn dd) ‘safle cyfryngau cymdeithasol busnes bwyd’ yng Nghylch 2. Cyfanswm heb ei bwysoli ar gyfer hyn: 24,826 (amrediad: 4,659 yng Nghylch 4 a 5,752 yng Nghylch 11). Yr holl ymatebwyr yn yr holiaduron perthnasol (a atebodd). Sylwer: ni chafodd yr un o’r cwestiynau hy neu cynnwys yng Nghylchoedd 1, 3, 5, 7 na 9. Sylwer: ar gyfer Cylch 11, ychwanegwyd y geiriau ‘yn glir’ at eiriad y cwestiwn. ↩