Guidance

Gorchmynion Amddiffyn rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)

Updated 4 November 2021

Gallai Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM eich helpu os ydych yn pryderu oherwydd eich bod chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, wedi bod trwy neu mewn perygl o fynd trwy FGM.

Beth yw FGM

Mae Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) yn golygu pob gweithred sy’n cynnwys cael gwared â rhan neu’r cyfan o’r organau cenhedlu benywaidd allanol neu anaf arall i’r organau cenhedlu benywaidd am resymau anfeddygol. Nid oes unrhyw fanteision iechyd iddo ac mae’n niweidio merched a benywod mewn sawl ffordd. Mae’n golygu niweidio a chael gwared â meinwe organau cenhedlu benywaidd iach a normal, ac felly mae’n ymyrryd â gweithrediad naturiol cyrff merched a benywod. Mae’r arfer yn achosi poen difrifol ac mae nifer o ganlyniadau uniongyrchol a thymor hir iddo, gan gynnwys anawsterau wrth roi genedigaeth - sydd hefyd yn rhoi’r plentyn mewn perygl.

Ceir nifer o enwau am FGM, gan gynnwys “torri organau cenhedlu benywod”, “enwaedu” neu “derbyn”. Mae’r oed pan fydd FGM yn cael ei gyflawni ar ferched neu fenywod yn amrywio’n sylweddol yn ôl y gymuned a gallai ddigwydd yn y DU yn ogystal â thramor. Gallai’r weithred ddigwydd pan fo merch newydd gael ei geni, yn ystod plentyndod neu lasoed, ychydig cyn priodi neu yn ystod beichiogrwydd cyntaf. Fodd bynnag, credir bod y mwyafrif o achosion yn digwydd rhwng 5 ac 8 oed ac, felly, mae merched yn yr oedran hwnnw mewn mwy o berygl.

Mae FGM yn anghyfreithlon yn y DU. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’r arfer yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 ac yn Yr Alban mae’n anghyfreithlon o dan Ddeddf Gwahardd Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (Yr Alban) 2005. Dan Ddeddf 2003, mae unigolyn yn euog o drosedd os yw’n anffurfio rhan neu’r cyfan o organau cenhedlu merch neu fenyw, gan gynnwys cynorthwyo merch i anffurfio ei horganau cenhedlu ei hun neu gynorthwyo rhywun o’r tu allan i’r DU i anffurfio organau cenhedlu merch dramor.

Sut y gall Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM eich helpu

Gall Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM helpu os ydych:

  • yn credu eich bod chi mewn perygl o orfod mynd trwy FGM
  • eisoes wedi bod trwy FGM; neu
  • yn adnabod rhywun sydd mewn perygl o orfod mynd trwy FGM

Mae Gorchmynion Amddiffyn rhag FGM yn unigryw i bob achos ac maent yn cynnwys amodau cyfreithiol rwymol a chyfarwyddiadau i’ch amddiffyn chi neu’r unigolyn sydd mewn perygl o orfod mynd trwy FGM. Gall y llys wneud gorchymyn ar frys fel bod camau amddiffyn mewn lle ar unwaith.

Gall y llys wneud Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM:

  • i’ch amddiffyn chi neu unigolyn arall sydd mewn perygl o orfod mynd trwy FGM; neu
  • i’ch amddiffyn chi neu unigolyn arall sydd wedi bod trwy FGM

Gellir gwneud ceisiadau am Orchmynion Amddiffyn rhag FGM ar yr un pryd ag ymchwiliad gan yr heddlu, achos troseddol arall neu achos yn y llys teulu. Gall rhywun sy’n anufuddhau i orchymyn llys gael ei anfon i’r carchar am hyd at ddwy flynedd am ddirmyg llys, ond mae torri amodau Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM hefyd yn drosedd sydd â dedfryd fwyaf o bum mlynedd yn y carchar.

Gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM

Gellir gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM mewn Llys Teulu yng Nghymru a Lloegr.

Pwy all wneud cais

  • yr unigolyn sydd i’w amddiffyn gan y gorchymyn
  • trydydd parti perthnasol
  • unrhyw unigolyn arall gyda chaniatâd y llys

Rhywun a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor i wneud ceisiadau ar ran pobl eraill yw Trydydd Parti Perthnasol.

Gall oedolion neu blant (sef rhai dan 18 oed) wneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM. Gall plant gael ‘cyfaill agosaf’ neu rywun i’w cynorthwyo, ond nid oes rhaid iddynt, os oes ganddynt gynrychiolydd cyfreithiol neu os yw’r llys yn cytuno.

Os ydych yn pryderu am ddod i’r llys

Ysgrifennwch eich pryderon ar eich ffurflen gais neu gwnewch gais ysgrifenedig i’r Rheolwr Cyflawni yn y Llys cyn gynted â phosib, neu efallai y bydd oedi cyn gwrando’r cais.

Efallai y bydd llysoedd yn gallu cynnig:

  • mannau aros ar wahân yn y llys;
  • drysau ar wahân i fynd i mewn ac allan o’r llys
  • lle parcio ar dir y llys i hwyluso mynediad rhwydd i adeilad y llys ar gyfer tystion sy’n cael eu bygwth

Efallai y bydd cyfleusterau amddiffyn tystion ar gael mewn rhai llysoedd.

Os ydych yn pryderu am roi tystiolaeth yn yr ystafell llys

Dywedwch wrth y llys beth yw eich pryderon yn eich ffurflen gais. Bydd y llys yn penderfynu beth sy’n briodol a gall orchymyn:

  • bod sgriniau’n cael eu gosod i sicrhau nad yw tystion yn gallu gweld yr atebwyr yn y llys (yn y math hwn o achos, yr atebydd/atebwyr yw’r unigolyn/unigolion yr honnir eu bod yn trefnu gweithred FGM). Rhoddir y sgriniau o amgylch y blwch tystion yn y llys fel na all y tyst weld yr atebwyr, ac ni all yr atebwyr weld y tyst tra byddant yn rhoi tystiolaeth.
  • bod tystiolaeth yn cael ei recordio ar fideo. Mae hyn yn caniatáu i gyfweliad gyda’r tyst, sydd wedi cael ei recordio cyn y gwrandawiad, gael ei ddangos fel prif dystiolaeth y tyst yn ystod y gwrandawiad, - nid oes rhaid i’r tyst ailddweud beth mae wedi’i ddweud eisoes, ond mae’n rhaid iddynt fod ar gael i gael eu croesholi os bydd angen.
  • cyswllt teledu/fideo byw, sy’n caniatáu i’r tyst roi tystiolaeth o’r tu allan i’r ystafell llys. Mae hyn yn caniatáu i dyst roi tystiolaeth drwy gyswllt teledu o ystafell arall yn adeilad y llys neu o adeilad arall. Er nad yw’r tyst yn dod i mewn i’r ystafell llys, bydd y bobl sy’n bresennol yn y llys yn gweld y tyst yn rhoi tystiolaeth ar y monitor teledu.

Y llys sydd i benderfynu beth sy’n briodol, os oes unrhyw beth, ym mhob achos.

Os oes gennych anabledd ac mae angen cymorth neu gyfleusterau arbennig arnoch, cysylltwch â’r llys i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael.

Os bydd angen cyfieithydd arnoch, bydd angen i chi roi gwybod i’r llys fel y gellir trefnu bod un yn bresennol, gan nodi’r iaith a’r dafodiaith.

Costau

Nid oes ffi llys yn daladwy am wneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM ar gyfer chi’ch hun neu ar ran rhywun arall. Yn yr un modd, nid oes ffi llys yn daladwy am unrhyw drefniadau llys ychwanegol sy’n gysylltiedig â’ch achos, megis:

  • ceisiadau i amrywio neu derfynu gorchymyn
  • ceisiadau i’r Llys Teulu ystyried sut y dylid delio â’r unigolyn sydd wedi torri amodau’r gorchymyn
  • cais i feili llys gyflwyno’r gorchymyn

Ceisio cymorth cyfreithiol

Mae cymorth cyfreithiol ar gael pan fyddwch yn cael eich cynrychioli mewn mater Amddiffyn rhag FGM, gan gynnwys traddodi am dorri amodau gorchymyn. Gall cyfreithiwr, neu aelod o un o Ganolfannau’r Gyfraith neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth eich cynghori o ran a oes gennych achos rhesymol ai peidio.

Rhagor o wybodaeth am gymorth cyfreithiol

Neu ffoniwch 0845 345 4 345 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 6:30pm).

Gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM eich hun

Gallwch chi wneud hyn neu gallwch ofyn i gyfreithiwr wneud hyn ar eich rhan. Os ydych yn gwneud cais eich hun, mae’n rhaid i chi fod yn barod i lenwi’r ffurflenni a’r datganiadau perthnasol, ac egluro eich achos i’r llys.

Os bydd angen help arnoch i lenwi’r ffurflenni hyn, ac os nad ydych chi’n adnabod ffrind neu berthynas a allai helpu, dylech fynd i weld cyfreithiwr neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Gall staff y llys helpu drwy egluro gweithdrefnau’r llys, ond ni allant roi cyngor cyfreithiol ar deilyngdod achosion unigol na rhoi cyngor am y canlyniad posibl.

Bydd arnoch angen gwneud Cais am Orchymyn Amddiffyn rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) (Ffurflen FGM001).

Os oes arnoch angen caniatâd y llys i wneud cais ar ran rhywun arall, bydd angen i chi lenwi Ffurflen FGM006 – Cais am ganiatâd i wneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM).

Mae’r holl ffurflenni hyn ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim o GOV.UK neu gallwch eu cael o unrhyw un o’r canolfannau llys sy’n delio a cheisiadau am Orchmynion Amddiffyn rhag FGM.

Bydd angen i chi wneud datganiad, os ydych yn gofyn am i’r cais gael ei wrando heb roi rhybudd i’r atebwyr mewn sefyllfa frys neu mewn argyfwng.

Dylai’r cais gynnwys manylion ynghylch sut rydych eisiau i’r llys eich amddiffyn chi neu’r unigolyn sydd mewn perygl o fynd trwy FGM, e.e. i atal rhywun rhag mynd â chi neu’r unigolyn sydd mewn perygl dramor er mwyn cyflawni FGM.

Dylai’r cais gynnwys manylion unrhyw drafodaethau sydd wedi achosi i chi gredu y gallech fod mewn perygl o orfod mynd trwy FGM.

Os nad ydych yn dymuno datgelu eich cyfeiriad neu gyfeiriad unrhyw un a nodwyd yn y ffurflen gais i’r atebwyr, dylech lenwi Ffurflen C8 Cyfeiriad Cyfrinachol.

Cael gorchymyn ar frys

Cewch ofyn i’r llys ystyried eich cais ar unwaith a gwneud gorchymyn heb gyflwyno unrhyw ddogfennau i’r atebwyr. Gelwir hyn yn orchymyn ex-parte neu orchymyn heb rybudd.

Os bydd y barnwr yn gwneud gorchymyn heb rybudd, fe gewch apwyntiad arall i ddod i’r llys. Bydd gan yr atebwyr hawl i fod yn bresennol yn yr apwyntiad hwn er mwyn i’r barnwr wrando ar bawb cyn penderfynu a ddylai wneud gorchymyn arall ai peidio.

Os ydych yn gwneud cais am orchymyn heb rybudd, mae’n rhaid i chi wneud datganiad tyst, gan gynnwys datganiad gwirionedd. Os ydych yn cynrychioli eich hun, mae’n rhaid i chi wneud datganiad ysgrifenedig, yn nodi pam bod angen eich amddiffyn, a mynd ag ef i’r llys gyda’ch ffurflen gais FGM001. Dylai datganiad gwirionedd ddweud y canlynol:

Datganiad Gwirionedd

Deallaf y gellir dwyn achos dirmyg llys yn erbyn unrhyw un sy’n gwneud datganiad anwir, neu sy’n achosi i ddatganiad anwir gael ei wneud mewn dogfen a ddilysir gan ddatganiad gwirionedd heb gredu’n onest ei fod yn wir. Rwy’n credu bod y ffeithiau a nodir yn y ffurflen hon, ac ar unrhyw ddalennau parhau, yn wir.

Cyflwyno’r ffurflenni

Dylech gyflwyno’r ffurflenni wedi’u llenwi drwy’r post neu’n bersonol, a darparu copïau i’r llys. Gallwch anfon eich cais drwy e-bost hefyd.

Cyflwyno’r ffurflenni i’r llys.

Rhaid cyflwyno’r ffurflen gais (FGM001 neu FGM006 os yw’n berthnasol) a’r ffurflen Rhybudd o Wrandawiad (FGM002) i’r atebwyr a’r unigolion eraill. Os yw cyfreithiwr yn eich helpu, anfonir y ffurflenni atynt hwy i’w cyflwyno.

Mae er eich budd chi i fod yn bresennol ar y dyddiad a nodir ar y ffurflen. Dylech fod yn barod i roi unrhyw dystiolaeth yr ydych yn meddwl y bydd yn eich helpu i gyflwyno eich ochr chi o’r achos.

Gallwch ofyn i’r llys gyflwyno’r dogfennau ar eich rhan. Bydd y llys yn gofyn i chi lenwi ffurflen D89 - Cais am wasanaeth cyflwyno personol gan feili llys. Yna, bydd y llys yn trefnu i’r beili gyflwyno copi o’ch cais a dogfennaeth arall.

Ceisiadau electronig

Os ydych yn bwriadu cyflwyno’ch cais drwy e-bost, dim ond un copi o’r cais wedi’i gwblhau y bydd angen i chi ei anfon i’r cyfeiriad e-bost perthnasol sydd yn y gwybodaeth am lysoedd ar ddiwedd y cyfarwyddyd hwn.

Mae’n rhaid i’r ffurflen electronig gynnwys llofnod neu enw wedi’i deipio yn y datganiad gwirionedd. Bydd angen i chi gadw eich dogfen wreiddiol wedi’i llofnodi a bydd angen i’r llys weld y ddogfen honno.

Ni fydd ceisiadau a anfonir drwy e-bost ar ôl 4pm yn cael eu prosesu tan y diwrnod gwaith dilynol.

Trefnu i’r papurau gael eu cyflwyno

Os ydych yn geisydd unigol, rhaid i chi beidio â chyflwyno’r cais na’r gorchymyn ar yr atebydd eich hun. Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol gallwch wneud cais i swyddog y llys eu cyflwyno ar eich rhan am ddim. Llenwch ffurflen D89 - Cais am wasanaeth cyflwyno personol gan feili llys a’i chynnwys gyda’ch cais.

Ar ôl i’r dogfennau gael eu cyflwyno, rhaid i’r sawl sy’n cyflwyno’r papurau lenwi Datganiad Cyflwyno (Ffurflen FL415) a’i ffeilio yn y llys. Mae Ffurflen FL415 yn nodi pwy y cyflwynwyd y dogfennau iddynt, sut ac ym mhle y rhoddwyd y dogfennau iddynt, ar ba ddiwrnod a faint o’r gloch.

Os na allwch ddod o hyd i gyfeiriad y rheiny y mae angen cyflwyno iddynt neu os yw’n ymddangos eu bod yn osgoi’r cyflwyno, cewch ofyn i’r llys gyflwyno’r papurau mewn ffordd arall (er enghraifft, yn eu gweithle).

Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad

Bydd gwrandawiad cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM yn cael ei wrando yn breifat (gelwir hyn fel arfer yn ‘siambrau’), oni bai fod y llys yn cyfarwyddo fel arall, a bydd y gwrandawiad yn cael ei gofnodi. Gall y llys ganiatáu i bobl eraill fod yn bresennol yn y llys, er enghraifft, ffrind neu gynghorydd annibynnol, i roi cefnogaeth. Efallai y bydd gofyn i geiswyr roi tystiolaeth lafar yn y llys. Bydd hyd y gwrandawiad yn amrywio, yn ddibynnol ar gymhlethdod yr achos ac a yw’r atebwyr yn gwrthwynebu’r honiadau ai peidio.

Pan fydd y llys yn deall safbwynt y ddau barti, gall benderfynu ar unrhyw rai o’r canlynol:

  • bod arno angen rhagor o wybodaeth amdanoch chi, a’r holl atebwyr. Cewch wybod pa wybodaeth ychwanegol i’w darparu;
  • bod arno angen rhagor o wybodaeth, ond ei fod yn barod i wneud gorchymyn dros dro (‘interim’) nes bod yr holl wybodaeth ychwanegol wedi’i darparu. Byddwch yn cael apwyntiad newydd, gorchymyn dros dro, a dywedir wrthych pa wybodaeth ychwanegol i’w darparu.
  • ei fod yn barod i wneud gorchymyn am gyfnod penodol, ac y bydd y llys yn ailystyried yr achos ar ôl hynny. Fe gewch ddyddiad apwyntiad newydd a chopi o’r gorchymyn llys.
  • ei fod yn barod i wneud gorchymyn - gall y llys wneud gorchymyn am gyfnod penodol neu gallai’r gorchymyn barhau am gyfnod amhenodol nes y caiff ei amrywio neu ei ryddhau gennych chi, yr atebwyr neu’r llys ei hun. Rhoddir copi o’r gorchymyn i chi.

Ar ôl y gwrandawiad

Os yw’r llys wedi gwneud Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM, bydd y ceisydd yn cyflwyno copi o’r gorchymyn ac unrhyw ddogfennau llys eraill i’r atebwyr, i’r unigolyn sy’n destun yr achos (os nad yw’n geisydd), ac unrhyw un arall a enwir yn y gorchymyn yn bersonol cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl. Gallwch ofyn i’r llys gyflwyno’r dogfennau ar eich rhan.

Bydd y llys yn anfon copi o’r gorchymyn llys drwy e-bost at yr heddlu o fewn 24 awr iddo gael ei selio. Mewn llawer o achosion, bydd hyn cyn i’r atebydd gael y gorchymyn neu ei hysbysu fel arall o’r gorchymyn.

Yn ogystal, pan fydd y gorchymyn yn cael ei gyflwyno i’r atebydd neu pan hysbysir yr atebydd am delerau’r gorchymyn, rhaid dweud wrth yr heddlu bod hyn wedi digwydd. Os yw’r llys wedi cyflwyno’r gorchymyn, yna bydd y llys yn dweud wrth yr heddlu.

Os ydych chi neu’ch cyfreithiwr yn gyfrifol am gyflwyno’r gorchymyn, yna bydd angen i chi neu’ch cyfreithiwr anfon hysbysiad o wasanaeth at yr heddlu o fewn 2 ddiwrnod ar ôl i’r gorchymyn gael ei gyflwyno neu i’r atebydd gael ei hysbysu.

Bydd y llys yn rhoi templed i chi ei ddefnyddio at y diben hwn, e-bostiwch hwn i protectionorders@pds.police.uk.cjsm.net.

Gallwch dynnu’r cjsm.net o’r cyfeiriad os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer rhwydwaith diogel cjsm, a’i anfon i protectionorders@pds.police.uk.

Peidiwch ag atodi unrhyw ddogfen arall

Pan fydd y gorchymyn wedi’i gyflwyno neu pan fydd yr atebydd wedi cael gwybod am y gorchymyn, bydd angen i chi neu’ch cyfreithiwr anfon datganiad o wasanaeth i’r llys hefyd.

Amrywio, ymestyn neu derfynu’r gorchymyn

Gallwch wneud cais i amrywio, ymestyn neu ryddhau gorchymyn amddiffyn rhag FGM yn ddiweddarach. Bydd angen i chi lenwi Ffurflen FGM003 - Cais i amrywio, ymestyn neu ryddhau Gorchymyn Amddiffyn rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM).

Os na fydd yr atebydd yn ufuddhau i’r gorchymyn

Gellir delio ag achos o dorri amodau gorchymyn amddiffyn rhag FGM yn y Llys Teulu neu drwy erlyniad mewn llys troseddol.

Dan baragraff 7(1) Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003, gallwch wneud cais i’r Llys Teulu i gael ymdrin â’r tor-amod fel dirmyg llys a gwneud cais i’r Llys Teulu am warant arestio. Rhaid i’r cais am warant arestio gael ei gefnogi gan ddatganiad yn nodi sut y torrwyd amodau’r gorchymyn. Rhaid gwneud cais ar Ffurflen FGM005 – Warant Arestio – Gorchmynion Amddiffyn rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM).

Pan fydd llys teulu’n dyfarnu bod unigolyn wedi torri amodau’r gorchymyn, bydd y llys yn delio gyda nhw dan ei bwerau dirmyg llys, a all gynnwys eu hanfon i’r carchar am hyd at ddwy flynedd.

Fel arall, gellir rhoi gwybod yn uniongyrchol i’r heddlu am achosion honedig o dorri amodau Gorchmynion Amddiffyn rhag FGM, a gall yr heddlu arestio’r sawl sydd dan amheuaeth o dorri amodau’r gorchymyn. Yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu i’r tor-amod, bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen ag erlyniad drwy gymhwyso’r prawf cam 2 yn y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron: a oes digon o dystiolaeth i ddarparu posibilrwydd realistig o euogfarn ac, os felly, a yw erlyniad er budd y cyhoedd. Y gosb fwyaf am dorri amodau Gorchymyn Amddiffyn rhag FGM yw pum mlynedd o garchar.

Os bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu peidio ag erlyn am ba bynnag reswm, mae caniatâd o hyd i chi wneud cais i’r Llys Teulu am warant arestio am ddirmyg llys fel y nodir uchod.

Fodd bynnag, os bydd rhywun yn cael ei ddyfarnu’n euog o’r tor-amod mewn llys troseddol, ni ellir eu cosbi am ddirmyg llys na’r ffordd arall.

Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod: rhagor o gymorth a chyngor ar GOV.UK

neu:

Am ragor o wybodaeth a chyngor ar wasanaethau lleol, ffoniwch linell gymorth FGM yr NSPCC ar 0800 028 3550, 24 awr y dydd, neu anfonwch neges e-bost i fgmhelp@nspcc.org.uk.

Y Llys Teulu sy’n delio â cheisiadau am Orchmynion Amddiffyn rhag FGM. Dylid anfon cais i’r llys teulu sy’n eistedd mewn canolfan llys sy’n delio â Gorchmynion Amddiffyn rhag FGM. Mae’r canolfannau llysoedd hyn fel arfer ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm. Mae gwasanaethau cownter ar gael o 10am tan 2pm, ond mewn rhai canolfannau, rhaid gwneud apwyntiad. Dywedwch wrth y Llys pan fyddwch yn cyrraedd fod eich mater yn un brys.