Skip to main content
Transparency data

Cydraddoldeb Ethnigrwydd yn y Swyddfa Eiddo Deallusol

Updated 5 November 2026

Cynrychiolaeth y gweithlu

Mae 8.3% o’n pobl wedi datgan eu bod yn dod o gefndir lleiafrif ethnig, gyda 4.56% yn Asiaidd, 1.46% yn Ddu ac 1.98% yn rhai o gefndir cymysg/arall.

Mae annog cydweithwyr i rannu gwybodaeth am amrywiaeth yn ein helpu i ddeall ein gweithlu’n well, nodi rhwystrau, a thargedu cymorth lle bod angen. Rydym am barhau i adeiladu gweithle lle gall pobl dalentog o bob cefndir deimlo eu bod yn perthyn a ffynnu. Rydym hefyd eisiau i’n gweithlu adlewyrchu’n fwy am yr amrywiaeth yn y cymunedau rydym yn recriwtio ohonynt.

Mae’r holl fesurau / ffigurau wedi’u cymryd o Arolwg Blynyddol Cyflogaeth y Gwasanaeth Sifil (ACSES) 2026.

Bwletin Bwlch Cyflog Ethnigrwydd y Gwasanaeth Sifil

Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth

Nid ydym yn goddef gwahaniaethu, aflonyddu na dioddef-driniaeth. Rydym yn cynnal polisïau, canllawiau a llwybrau adrodd sydd wedi’u llunio i gefnogi cydweithwyr ac i fynd i’r afael ag ymddygiad amhriodol pan fydd yn digwydd.

Rydym yn parhau i ddatblygu rheolwyr ac arweinwyr i greu amgylcheddau gwaith cynhwysol, ac i ymateb yn briodol i bryderon a godir gan ein pobl. Mae ystyriaethau cydraddoldeb wedi’u hymgorffori mewn datblygu polisi, gwneud penderfyniadau a newid sefydliadol, trwy ddefnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

Hyrwyddo cyfle cyfartal

Rydym yn gweithio i nodi a lleihau rhwystrau a allai effeithio ar recriwtio, dilyniant gyrfa, datblygiad a chyfranogiad.

Mae ein gweithgareddau’n cynnwys:

  • monitro data a thueddiadau amrywiaeth y gweithlu

  • adolygu arferion recriwtio a dyrchafu

  • cefnogi talent a chyfleoedd datblygu cynhwysol

  • gweithio gyda rhwydweithiau staff i ddeall profiadau byw

  • gwella ansawdd data amrywiaeth er mwyn llywio penderfyniadau yn well

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd deall ble mae rhwystrau’n bodoli, a chymryd camau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i’r afael â nhw.

Meithrin perthnasoedd da

Ein nod yw creu amgylchedd lle mae pobl o bob cefndir yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, ac yn gallu cyfrannu’n llawn.

Rydym yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau dysgu, ymwybyddiaeth ac ymgysylltu sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o ddiwylliannau, profiadau a safbwyntiau gwahanol. Mae ein rhwydweithiau staff yn chwarae rhan bwysig wrth godi ymwybyddiaeth, darparu cymorth gan gymheiriaid, a’n helpu i wella ein polisïau a’n harferion.

Gwybodaeth bellach

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein hamcanion cydraddoldeb ar ein tudalen ar Ddyletswydd Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus, yn ogystal â gwybodaeth am ein gwaith fwy eang i hyrwyddo cynhwysiant a theimlad o berthyn ar draws yr IPO.