Tribiwnlys Cyflogaeth – beth sy’n digwydd ar ôl i chi gyflwyno hawliad (T421)
Diweddarwyd 1 Medi 2025
Rhagarweiniad
Cysylltwch â swyddfa tribiwnlys neu Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid y Tribiwnlys Cyflogaeth os hoffech gael gopi o’r cyhoeddiad hwn mewn fformat arall:
Cymru a Lloegr: 0300 323 0196
Siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5176
Yr Alban: 0300 790 6234
Canllawiau’r Llywyddion
Dan Reolau’r Tribiwnlys Cyflogaeth gall Llywyddion y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yng Nghymru a Lloegr a’r Alban gyhoeddi Canllawiau. Nod y canllawiau hyn yw gwella’r cysondeb o ran y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn rheoli achosion a galluogi’r partïon i ddeall yn well yr hyn a ddisgwylir ganddynt a’r hyn i’w ddisgwyl gan y tribiwnlys. Nid ydynt yn orfodol ond dylid eu dilyn lle bo hynny’n bosib. Cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i ganllawiau’r ddau Lywydd yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â chanllaw Llywydd yr Alban:
Gweler ganllawiau’r ddau lywydd yng Nghymru a Lloegr a chanllawiau llywydd yr Alban.
Crynodeb o’r broses hawlio
1. Datrys anghydfod
1. Anghydfod yn codi.
2. Ceisio datrys y mater yn anffurfiol gyda’r cyflogwr.
3. Cymodi cynnar gydag Acas (y gwasanaeth cynghori, cymodi a chyflafareddu).
2. Cyflwyno hawliad i’r tribiwnlys
Amcangyfrif amser: 5 diwrnod
1. Anfon hawliad i dribiwnlys.
2. Derbyn yr hawliad (neu dim ei dderbyn a’i ddychwelyd) a’i anfon at yr atebydd.
3. Ymateb yr atebydd
Mae gan yr atebydd 28 diwrnod i ymateb.
4. Rheoli achos
Amcangyfrif amser: 26 wythnos
1. Os na wnaeth yr atebydd ymateb i’r hawliad, bydd dyfarniad yn cael ei gyhoeddi.
2. Os cafwyd ymateb, gall y ddau barti wneud ceisiadau o fewn yr achos.
3.Cynhelir gwrandawiad.
5. Dyfarniad
Cyhoeddir dyfarniad o fewn 4 wythnos ar ôl y gwrandawiad terfynol.
Mae dyfarniadau a gyflwynir ar bartïon ers mis Chwefror 2017 ymlaen yn cael eu cyhoeddi ar y gofrestr gyhoeddus ar-lein.
Beth mae’r tribiwnlys yn ei wneud unwaith mae wedi derbyn fy hawliad?
Rydym wedi derbyn eich hawliad ac wedi rhoi rhif achos iddo, a dylech ddyfynnu’r rhif hwn pan fyddwch yn cysylltu â swyddfa’r tribiwnlys drwy ffonio neu drwy ysgrifennu atynt.
Rydym hefyd wedi anfon copi o’ch hawliad i’r atebydd (neu atebwyr os ydych yn gwneud cwyn am fwy nag un unigolyn neu gwmni), neu i sefydliad, ynghyd â ffurflen ymateb y mae’n rhaid iddynt roi gwybodaeth benodol, a dweud os ydynt yn anghytuno â’ch (gwrthod eich) hawliad, a pham.
Rôl Acas
Yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn anfon copi o’ch ffurflen hawlio a ffurflen ymateb yr atebydd i Acas, (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) sefydliad annibynnol a diduedd. Bydd cymodwr Acas yn cysylltu â chi i weld a fyddai’n bosibl datrys yr hawliad yn eich erbyn drwy gymrodeddu, a heb fod angen gwrandawiad tribiwnlys. Mae’r cam hwn yn ofynnol yn ôl y gyfraith, er eich bod eisoes wedi bod drwy gymodi cynnar.
Faint o amser sydd gan yr atebydd i ymateb i fy hawliad?
Mae’n rhaid i’r atebydd lenwi a dychwelyd y ffurflen ymateb o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad yr anfonasom gopi o’ch hawliad atynt, neu’n hirach, os yw’r tribiwnlys yn rhoi estyniad amser iddynt.
Os nad yw’r atebydd yn ateb o fewn y terfyn amser neu’n methu â rhoi’r wybodaeth angenrheidiol, ni fydd eu hymateb yn cael ei dderbyn ac mae’n debygol y bydd yr hawliad yn cael ei drin fel un lle nad oes amddiffyniad wedi’i gyflwyno.
Dan yr amgylchiadau hynny, gall Farnwr Tribiwnlys wneud penderfyniad ynghylch yr achos heb fod angen gwrandawiad, ond weithiau mae’n bosib y bydd angen gwrandawiad i benderfynu ynghylch iawndal.
Beth sy’n digwydd ar ôl i ymateb yr atebydd gael ei dderbyn?
Unwaith y caiff ffurflen ymateb yr atebydd ei dderbyn, efallai bydd angen delio ag ychydig o faterion cyn gellir penderfynu ar eich achos.
Hefyd, os yw tystion yn hanfodol i’r achos ond nad ydynt yn barod i ddod i’r gwrandawiad ohonynt eu hunain, gallwch ofyn am orchymyn tystion i wneud Tudalen 4 iddynt fod yn bresennol.
Os byddwch yn penderfynu bod arnoch angen rhagor o wybodaeth neu ddogfennau gan yr atebydd, dylech ofyn am hyn yn ysgrifenedig, gan roi terfyn amser rhesymol ar gyfer ymateb. Os na fydd yr atebydd yn darparu’r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani, dylech ysgrifennu at y tribiwnlys cyn gynted ag y bo modd gan amgáu copi o’ch cais ysgrifenedig a gofyn i’r tribiwnlys gyhoeddi gorchymyn.
Gall y tribiwnlys hefyd benderfynu bod angen rhagor o wybodaeth gennych chi neu gan yr atebydd er mwyn clirio mater penodol. Gall y tribiwnlys roi cyfarwyddiadau yn ysgrifenedig neu gyhoeddi gorchmynion sydd raid i chi eu dilyn.
Mewn rhai achosion, gall y tribiwnlys gynnal trafodaeth rhagarweiniol i Farnwr Cyflogaeth ymdrin â’r materion hyn. Gellir cynnal y wrandawiad dros y ffôn, drwy cyswllt fideo os yw hynny’n briodol neu yn bersonol. Mae’n bwysig eich bod yn cynnal neu’n cydymffurfio ag unrhyw orchymyn a wneir gan y tribiwnlys.
Dylech nodi y bydd cymodwr Acas dal ar gael i ddatrys eich hawliad heb wrandawiad tribiwnlys.
Pryd fydd fy hawliad yn cael ei glywed?
Byddwn yn ysgrifennu atoch chi a’r atebydd o leiaf 14 diwrnod cyn diwrnod y gwrandawiad i ddweud wrthych pryd y bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal. Gyda’r llythyr hwn, byddwn yn eich cyfeirio at ein canllawiau i hawlwyr, a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer y gwrandawiad.
Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy achos yn cael ei setlo neu os wyf eisiau tynnu fy hawliad yn ôl?
Dylech roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich achos yn cael ei ddatrys cyn y gwrandawiad.
Bydd y swyddog cymodi’n rhoi gwybod i ni os bydd eich achos yn cael ei setlo drwy Acas. Rhaid i chi ysgrifennu atom os ydych eisiau tynnu rhan o’ch hawliad/ neu eich hawliad cyfan yn ôl.
Rhaid i chi hefyd ddweud wrth yr atebydd eich bod yn tynnu eich hawliad yn ôl. Rhaid i chi wneud hyn cyn gynted ag y bo modd.
A gaf i ohebu â’r tribiwnlys drwy e-bost?
Cewch – gellir gweld rhestr gyflawn o gyfeiriadau e-bost y tribiwnlysoedd cyflogaeth ar gefn y llyfryn hwn. Dylech sicrhau eich bod yn dyfynnu rhif yr achos mewn unrhyw ohebiaeth ac ar far teitl yr e-bost a’i anfon i swyddfa’r tribiwnlys sy’n ymdrin â’ch apêl.
Bydd y swyddfa yn gwneud ei gorau glas i gyfathrebu â chi drwy e-bost, os ydi’n well gennych.
Rhaid i’r dogfennau a anfonir i’r tribiwnlys fod mewn fformat sy’n gydnaws â ‘Word’. Ni fyddwn yn derbyn dogfennau mewn fformatau eraill. Pan fyddwn wedi derbyn eich e-bost, byddwn yn anfon cydnabyddiaeth electronig atoch. Peidiwch ag anfon negeseuon e-bost pellach na ffonio swyddfa’r tribiwnlys oni fyddwch heb dderbyn cydnabyddiaeth cyn pen dau ddiwrnod gwaith o anfon eich e-bost.
Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y tribiwnlys yn derbyn yr holl ohebiaeth a anfonir drwy e-bost o fewn y terfyn amser perthnasol.
Os ydych eisiau i ni gyfathrebu â chi drwy e-bost, bydd angen i chi roi cyfeiriad e-bost dilys oni bai eich bod wedi ei roi ar y ffurflen hawlio yn barod. Wrth ofyn i ni gyfathrebu â chi drwy e-bost rydych yn cytuno y byddwch yn edrych am e-byst sy’n dod i mewn o leiaf unwaith y dydd ac y cawn drosglwyddo eich cyfeiriad e-bost i bobl eraill sy’n gysylltiedig â’ch hawliad.
Anabledd neu anghenion arbennig
Os oes gennych chi, neu unrhyw un sy’n dod i dribiwnlys gyda chi, anabledd neu angen penodol, dylech gysylltu â’r swyddfa tribiwnlys sy’n ymdrin â’ch achos i drafod y mater:
- mae enghreifftiau o’r help y gallwn ei ddarparu yn cynnwys trosglwyddo dogfennau i Braille neu brint mwy
- darparu gwybodaeth ar ddisg a thalu am ddehonglwyr iaith arwyddion
Gallwn hefyd ddarparu dolenni sain ar gyfer teclynnau clywed yn yr ystafell lle cynhelir y gwrandawiad os byddwch eu hangen. Cysylltwch â ni cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn i ni allu gwneud trefniadau priodol neu addas.
Safonau’r gwasanaeth
Os ydych yn anhapus ynghylch ein gwasanaeth, cysylltwch ag unrhyw swyddfa tribiwnlys neu Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid i gael copi o’n taflen EX343 – Anhapus â’n gwasanaeth – beth allwch chi ei wneud? Mae’n esbonio ein trefn gwyno. Ceir Manylion y Ganolfan Gyswllt Cwsmeriad ar y dudalen olaf.
Swyddfeydd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth
Aberdeen
Ground floor, AB1
48 Huntly Street
Aberdeen
AB10 1SH
Ffôn. 01224 593 137
E-bost: aberdeenet@justice.gov.uk
Bryste
Bristol Civil and Family Justice Centre
2 Redcliff Street
Bryste
BS1 6GR
Ffôn: 0117 929 8261
E-bost: bristolet@justice.gov.uk
Dundee
Ground Floor
Endeavour House
Greenmarket
Dundee
DD1 4BZ
Ffôn: 01382 221578
E-bost: dundeeet@justice.gov.uk
Dwyrain Llundain
2nd Floor, Import Building
2 Clove Crescent
London
E14 2BE
Ffôn: 020 7538 6161
E-bost: eastlondon@justice.gov.uk
Caeredin
54-56 Melville Street
Caeredin
EH3 7HF
Ffôn: 0131 226 5584
E-bost: edinburghet@justice.gov.uk
Glasgow
The Glasgow Tribunals Centre
20 York Street
Glasgow
G2 8GT
Ffôn: 0141 204 0730
E-bost: glasgowet@justice.gov.uk
Leeds
West Gate
6 Grace Street
Leeds
LS1 2RP
Ffôn: 0113 245 9741
E-bost: leedset@justice.gov.uk
Canol Llundain
Victory House
30-34 Kingsway
Llundain
WC2B 6EX
Ffôn: 020 7273 8603
E-bost: londoncentralet@justice.gov.uk
De Llundain
Montague Court
101 London Road
West Croydon
CR0 2RF
Ffôn: 020 8667 9131
E-bost: londonsouthet@justice.gov.uk
Manceinion
Alexandra House
14-22 The Parsonage
Manceinion
M3 2JA
Ffôn: 0161 833 6100
E-bost: manchesteret@justice.gov.uk
Canolbarth Lloegr (Dwyrain)
Nottingham Justice Centre
Carrington Street
Nottingham
NG2 1EE
Ffôn: 0300 323 0196
E-bost: midlandseastet@justice.gov.uk
Canolbarth Lloegr (Gorllewin)
Centre City Tower
7 Hill Street
Birmingham
B5 4UU
Ffôn: 0300 323 0196
E-bost: midlandswestet@justice.gov.uk
Newcastle
Newcastle Civil Family Courts and Tribunal Centre
Barras Bridge
Newcastle Upon Tyne
NE1 8QF
Ffôn: 0191 2058750
E-bost: newcastleet@justice.gov.uk
Cymru
Llys Ynadon Caerdydd a’r Fro
Plas Fitzalan
Caerdydd
De Cymru
CF24 0RZ
Ffôn: 029 2067 8100
E-bost: waleset@justice.gov.uk
Watford
3rd Floor
Radius House
51 Clarendon Rd
Watford
WD17 1HP
Ffôn: 01923 281 750
E-bost: watfordet@justice.gov.uk
Mae ein swyddfeydd ar agor o 9.00 y bore tan 5.00 yr hwyr, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddwn yn eich cyfeirio at fap sy’n dangos lleoliad y swyddfa lle mae’r gwrandawiad wedi’i drefnu.