Canllawiau

Protocol Mechnïaeth Llys ar Fonitro Electronig

Diweddarwyd 11 September 2023

Yn berthnasol i England and Gymru

1. Arestio

Yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Amddiffyniad Ar ôl arestio unigolyn, mae’r Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) a’r Amddiffyniad yn dechrau llunio asesiadau ac yn casglu gwybodaeth a all fod yn berthnasol i benderfyniad y llys ynghylch a ddylid gosod amodau monitro electronig (EM) ar fechnïaeth y llys.

Sefydliad: Yr Heddlu

Gweithgaredd

Ar ôl arestio unigolyn, bydd yr heddlu yn ystyried ac yn asesu, o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE), a ddylid cadw’r person yn y ddalfa ymhellach er mwyn cynnal ymholiadau.

Bydd yr heddlu yn casglu manylion yr honiad cychwynnol ac yn ystyried sut i symud yr achos ymlaen gan ddefnyddio’r wybodaeth ffeil sydd wrth law (at ddibenion y protocol hwn, bydd y rhain yn ‘achosion coch’, fel y cyfeirir atynt yng nghanllawiau cyhuddo’r heddlu).

Bydd yr heddlu yn asesu a ddylid rhoi mechnïaeth i’r unigolyn gydag amodau mechnïaeth / rhyddhau priodol gan yr heddlu sy’n destun ymchwiliad, neu a ddylid ei gadw yn y ddalfa er mwyn iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Yr heddlu i roi gwybod i’r Tîm Troseddau Ieuenctid (YOT) adeg arestio.

Dylai’r Heddlu, YOT ac Awdurdodau Lleol gyfathrebu ynghylch yr arferion gorau i gefnogi’r plentyn, a phenderfyniadau ynghylch mechnïaeth. Dylai oedolyn priodol fod yn bresennol ar gyfer plant.

Dogfennau a dolenni

Mae Canllawiau Rheoli Achosion y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (BCI) yn darparu gwybodaeth a chyngor i wasanaethau cyfiawnder ieuenctid ar sut i weithio gyda phlant yn y system cyfiawnder ieuenctid. Mae’r canllawiau hyn yn cyfeirio’n benodol at benderfyniadau ynghylch mechnïaeth a remandio.

Sefydliad: Gwasanaeth Erlyn y Goron

Gweithgaredd

Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) i ddarparu Cyngor Cynnar i’r heddlu mewn achosion difrifol pan ofynnir iddynt wneud hynny. Yr heddlu sy’n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch arestio / mechnïaeth ar y cam hwn.

Rhannu gwybodaeth

Bydd y CPS yn darparu Cyngor Cynnar i’r heddlu mewn rhai achosion difrifol.

Sefydliad: Yr Amddiffyniad

Gweithgaredd

Gall yr amddiffyniad:

  • gynrychioli’r sawl a amheuir mewn gorsafoedd heddlu, naill ai fel cyfreithiwr ar ddyletswydd neu gyfreithiwr y cleient ei hun, gan gynnwys mynychu cyfweliadau â’r heddlu.
  • cyflwyno sylwadau i’r heddlu ynghylch y cyhuddiad, os cyfarwyddir hwy fel Cyfreithiwr ar Ddyletswydd, ond bod yr unigolyn a amheuir yn dymuno cyfarwyddo cwmni o gyfreithwyr i weithredu ar ei ran mewn achos.

2. Cyhuddo

Yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Amddiffyniad

Ar ôl ymchwiliad gan yr Heddlu, gwneir penderfyniad naill ai gan yr Heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ynghylch a ddylid cyhuddo’r unigolyn o drosedd. Ar ôl ei gyhuddo, bydd yr unigolyn yn cael dyddiad ar gyfer ei Wrandawiad Mechnïaeth cyntaf.

Sefydliad: Yr Heddlu

Gweithgaredd

Gall yr heddlu wneud penderfyniadau ar gyhuddiad mewn ple euog disgwyliedig (GAP), achosion diannod yn unig ac achosion neillffordd sy’n addas i’w datrys yn y Llys Ynadon (yn amodol ar rai eithriadau).

Yr Heddlu i ddefnyddio ffurflen MG03 i atgyfeirio at y CPS am gyngor ar gyhuddo, yn unol â Chanllawiau’r Cyfarwyddwr (DG6) ar ofynion Cyhuddo (v.6).

Yr heddlu i ofyn am benderfyniadau cyhuddo gan y CPS mewn achosion difrifol gan ddefnyddio MG03A.

Bydd yr heddlu’n darparu MG7 i’r CPS sy’n amlinellu unrhyw wrthwynebiadau i fechnïaeth.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Gall yr heddlu gadw plentyn yn y ddalfa wrth aros am benderfyniad cyhuddo. Os na chaniateir mechnïaeth gan yr heddlu, dylai’r heddlu gysylltu â’r Awdurdod Lleol i ddod o hyd i lety addas ar gyfer y plentyn. Os yw’r plentyn yn debygol o fod mewn perygl o gael ei remandio i’r ddalfa gan y llys, dylid cyfathrebu’n barhaus â’r YOT er mwyn gallu creu pecyn mechnïaeth i’r llys.

Rhannu Gwybodaeth

Yr heddlu i ofyn am benderfyniadau cyhuddo gan y CPS mewn achosion difrifol gan ddefnyddio ffurflen MG03. Yr Heddlu i ddarparu’r wybodaeth i’r CPS fel y nodir yng Nghanllawiau’r Cyfarwyddwr ar Gyhuddo (v.6).

Dogfennau a dolenni

Canllawiau’r Cyfarwyddwr ar Gyhuddo, 6ed Rhifyn (DG6)

Sefydliad: Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)

Gweithgaredd

Y CPS i wneud penderfyniadau ynghylch cyhuddo mewn achosion mwy difrifol, neu fel arall yr heddlu sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch cyhuddo.

Mae ceisiadau am benderfyniadau cyhuddo’r CPS yn cael eu gwneud gan yr heddlu, gan ddefnyddio ffurflen MG3 a darparu’r wybodaeth a nodir yn DG6.

Mae’r heddlu’n defnyddio ffurflen MG4 i gyhuddo, ac mae’n benderfyniad plismona ar gyhuddiad i benderfynu a yw diffynnydd yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth neu’n cael ei gadw yn y ddalfa er mwyn ymddangos yn y llys (Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984).

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Mae ceisiadau am benderfyniadau cyhuddo’r CPS yn cael eu gwneud gan yr heddlu, gan ddefnyddio ffurflen MG3 a darparu’r wybodaeth a nodir yng Nghanllawiau’r

Cyfarwyddwr ar Gyhuddo (v.6)

Sefydliad: Yr Amddiffyniad

Gweithgaredd

Yr amddiffyniad i gyflwyno sylwadau i’r heddlu a/neu’r CPS am gyhuddiad priodol ac i gyflwyno sylwadau i Ringyll y Ddalfa ynghylch mechnïaeth yr heddlu, gan gynnwys darparu cyfeiriad mechnïaeth os yw hynny’n briodol.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Ymgysylltu â’r YOT ynghylch y cyhuddiad ac unrhyw wybodaeth am y plentyn (os yw’r YOT yn gwybod amdanynt) a allai fod yn ddefnyddiol wrth adeiladu cais am fechnïaeth.

3. Cyn-Asesu – Cyn Gwrandawiad Mechnïaeth

Yr Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr Amddiffyniad a’r Gwasanaeth

Gwybodaeth Mechnïaeth (BIS)

Cyn Gwrandawiad Mechnïaeth, bydd yr heddlu’n darparu eu hasesiad i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ynghylch a ddylid remandio’r unigolyn yn y ddalfa, ei remandio i lety awdurdod lleol (opsiwn sydd ar gael i blant yn unig) neu ei roi ar fechnïaeth yn y gymuned os caiff yr achos ei ohirio gan y llys. Mae’r CPS yn defnyddio’r asesiad hwn fel sail i’w benderfyniad ac i ddechrau paratoi sylwadau i’r llys.

Bydd cynrychiolwyr cyfreithiol yr amddiffyniad yn gweithio gyda’r unigolyn i ystyried a ddylid gwneud cais am fechnïaeth llys ac, os felly, pa amodau i wneud cais amdanynt. Bydd cynrychiolydd cyfreithiol yr amddiffyniad a’r Swyddog Gwybodaeth Mechnïaeth (BIO) yn cefnogi’r cleient i wneud trefniadau ymarferol i helpu i sicrhau y cydymffurfir â’r amodau hyn.

Sefydliad: Yr Heddlu

Gweithgaredd

Yr Heddlu i gyflwyno ffeil achos i’r CPS, yn unol â’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Ffeiliau (NFS), gan gynnwys ffurflen MG7 i’r CPS gydag amodau priodol. Gall yr heddlu gynnwys amodau monitro electronig (EM) fel dewis arall yn lle remandio, a chyfeiriad EM a awgrymir, gan gynnwys unrhyw risgiau yn yr eiddo, lle yr aseswyd ei fod yn briodol – pe na bai’r farnwriaeth yn cefnogi remand pellach.

Rhannu Gwybodaeth

Yr heddlu i dderbyn cyngor am gyhuddo gan y CPS.

Yr heddlu i gyflwyno ffeil achos i’r CPS yn unol â’r NFS, gan gynnwys ffurflen MG7 gydag amodau priodol pe na bai’r farnwriaeth yn cefnogi remand pellach.

Sefydliad: Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)

Gweithgaredd

Ar gyfer gwrandawiad llys cyntaf diffynyddion yn y ddalfa, bydd yr heddlu’n darparu ffurflen MG7 i’r CPS, sy’n nodi barn yr heddlu ynghylch a yw’r diffynnydd yn addas ar gyfer mechnïaeth neu a ddylai gael ei remandio yn y ddalfa, a pha amodau mechnïaeth penodol fyddai’n ddigonol.

Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gwneud penderfyniad annibynnol, gan ddefnyddio’r meini prawf a nodir yn y Ddeddf Mechnïaeth wrth benderfynu a ddylid gwneud cais am remand yn y ddalfa neu ar fechnïaeth.

Gall cysylltu â’r amddiffyniad a’r heddlu a, lle bo hynny’n bosibl, y gwasanaeth prawf / y gwasanaeth gwybodaeth mechnïaeth helpu gyda hyn.

Sefydliad: Yr Amddiffyniad

Gweithgaredd

Cynrychiolydd cyfreithiol yr amddiffyniad i:

  • gymryd cyfarwyddiadau gan yr unigolyn sydd mewn cell;
  • trafod hanes euogfarnau blaenorol a hanes blaenorol o fechnïaeth;
  • dod o hyd i basbort;
  • gwneud ymholiadau gyda theulu/ffrindiau ynghylch cyfeiriad mechnïaeth posibl, addasrwydd ar gyfer monitro electronig a pharodrwydd i fod yn fechnïwr os oes angen;
  • rhoi gwybod i’r unigolyn sydd ar brawf am gredyd posibl a gronnwyd yn erbyn dedfryd o garchar am ddiwrnodau cydymffurfiol o gyrffyw EM cymwys ar fechnïaeth y llys.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Yr amddiffyniad i weithio gyda’r Tîm Troseddau Ieuenctid (YOT) ar becyn mechnïaeth i’r plentyn ac ystyried lle gallai fod angen monitro electronig, e.e. Mechnïaeth gyda Goruchwyliaeth a Gwylio Dwys (ISS) neu Remandio i Lety Awdurdod Lleol (RLAA).

YOT i ystyried lles y plentyn o dan a.44 Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 cyn gosod amodau EM.

YOT i gysylltu â’r awdurdod lleol ynghylch cyfeiriad addas ar gyfer y plentyn yn y gymuned ac ystyried ei addasrwydd ar gyfer amodau EM, e.e. nid yw EM ar gael ar gyfer y rheini sydd heb gyfeiriad sefydlog neu’r rheini sydd heb gartref sefydlog.

Sefydliad: Gwasanaeth Gwybodaeth Mechnïaeth (BIS)

Gweithgaredd

Y Swyddog Gwybodaeth Mechnïaeth (BIO) yn cael gwybod am y gwrandawiad mechnïaeth gan y Llys / yr Amddiffyniad / drwy asesu systemau TG y llys.

Y BIO i siarad â’r unigolyn sydd yng nghelloedd y llys a/neu siarad â’r amddiffyniad i gael manylion y cyfeiriad(au) arfaethedig.

Y BIO i gyflwyno ymholiadau cyfeiriad arfaethedig, gan gynnwys argaeledd a chydsyniad gan y deiliad a gwybodaeth diogelu gan yr heddlu, awdurdodau lleol a, lle bo hynny’n berthnasol, y Gwasanaeth Prawf.

Swyddogion Gwybodaeth Mechnïaeth i hyrwyddo defnydd y Gwasanaethau Llety Cymunedol (CAS-2) i’r unigolyn a chynrychiolydd cyfreithiol yr amddiffyniad ac, os yw’r sgrinio cychwynnol yn llwyddiannus, i gyflwyno atgyfeiriad. Os yw ar gael, gall Swyddogion Gwybodaeth Mechnïaeth archwilio opsiynau llety amgen a / neu wasanaethau cymorth perthnasol arall a allai gynyddu’r tebygolrwydd o gydymffurfiaeth ag amodau’r fechnïaeth.

Rhannu Gwybodaeth

Y BIO yn cael gwybod am y gwrandawiad mechnïaeth gan y Llys / yr Amddiffyniad / drwy asesu systemau TG y llys.

4. Gwrandawiad Mechnïaeth: Yr Heddlu, y CPS, yr Amddiffyniad, y Llysoedd

Yr Heddlu, y CPS, yr Amddiffyniad a’r Llysoedd

Mewn Gwrandawiad Mechnïaeth, bydd y farnwriaeth yn penderfynu, os yw’r achos yn cael ei ohirio, a ddylai’r unigolyn gael ei remandio yn y ddalfa neu gael mechnïaeth i’r gymuned. Bydd y llys yn dilyn y rhagdybiaeth o ganiatáu mechnïaeth i oedolion, plant a phobl ifanc fel y darperir ar ei gyfer gan adran 4 Deddf Mechnïaeth 1976.

Gellir defnyddio amodau monitro electronig yn lle remand tra bo’r unigolyn yn aros am gam nesaf yr achos mewn cysylltiad â’r drosedd.

Dim ond os yw’r trefniadau presennol yn yr ardal leol yn caniatáu hynny, a bod yr erlyniad wedi gwneud cais am remandio yn y ddalfa, y gall y llys orfodi monitro electronig.

Mae pedwar math gwahanol o wrandawiad mechnïaeth a allai fod yn berthnasol yn y broses hon:

  • Gwrandawiad Mechnïaeth Cyntaf
  • Ail Wrandawiad Mechnïaeth
  • Apêl Mechnïaeth
  • Cais am Fechnïaeth drwy Lys y Goron

Er bod canlyniad y gwrandawiadau hyn yn bwysig, nid yw’r gwahaniaethau o ran y prosesau yn effeithio ar a fydd monitro electronig yn cael ei orfodi ar yr unigolyn. O ganlyniad, nid ydym yn archwilio proses pob un o’r gwrandawiadau hyn yn Nogfen

Protocol Mechnïaeth Llys Monitro Electronig.

Unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud i remandio unigolyn yn y ddalfa neu ei fechnïo yn y gymuned, gall naill ai’r amddiffyniad neu’r erlyniad gyflwyno apêl gan ddilyn y drefn apelio ar gyfer mechnïaeth.

Sefydliad: Yr Heddlu

Gweithgaredd

Yr heddlu i ymateb i unrhyw geisiadau am ragor o wybodaeth yn ystod y gwrandawiad.

Yr heddlu i gael gwybod am ganlyniad y gwrandawiad gan staff y llys a diweddaru Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) gydag unrhyw amodau EM i hwyluso’r gwaith o reoli’r unigolyn yn y gymuned.

Rhannu Gwybodaeth

Yr heddlu i dderbyn canlyniad y gwrandawiad mechnïaeth gan Wasanaeth Erlyn y Goron ac anfon diweddariadau at y dioddefwr / tystion drwy’r uned gofal tystion (WCU).

Sefydliad: Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)

Gweithgaredd

Bydd y llys yn penderfynu a fydd y diffynnydd yn cael ei remandio yn y ddalfa neu’n cael mechnïaeth. Rôl erlynydd y CPS yw helpu gyda’r penderfyniad hwn, drwy grynhoi manylion yr achos a nodi unrhyw hanes troseddu perthnasol.

Gall yr erlynydd wneud cais am remand yn y ddalfa ar sail y Ddeddf Mechnïaeth, e.e. am y rhesymau canlynol:

  • troseddu pellach
  • dianc
  • ymyrryd â thystion
  • diogelwch yr unigolyn

Yr erlynydd i gofnodi canlyniad y gwrandawiad ar gyfer cofnodion y CPS a chytuno ar ddyddiad dod i ben y terfyn amser yn y ddalfa os caiff ei remandio yn y ddalfa.

Rhannu Gwybodaeth

Y CPS i rannu canlyniad y Gwrandawiad Mechnïaeth â’r Heddlu.

Sefydliad: Yr Amddiffyniad

Gweithgaredd

Yr amddiffyniad i gysylltu â’r unigolyn cyn y gwrandawiad a llenwi a chyflwyno cais am gymorth cyfreithiol.

Yr amddiffyniad i roi cyngor ar dystiolaeth, lleoliad y treial (os yw’n berthnasol) a’r posibilrwydd y gallai’r CPS apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad cadarnhaol am fechnïaeth.

Yr amddiffyniad i gynnwys y gwasanaeth Cyswllt a Dargyfeirio os oes angen.

Yr amddiffyniad i gynnal cais am fechnïaeth, gwrando ar wrthwynebiadau’r CPS i fechnïaeth ac awgrymu amodau i’r llys yn ystod y gwrandawiad, gan gynnwys monitro electronig.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Yr amddiffyniad i gysylltu â’r Tîm Troseddau Ieuenctid (YOT), yn ogystal â’r plentyn a’i deulu, yn y gweithgareddau hyn gan fod Timau Troseddau Ieuenctid yn gyfrifol am reoli’r holl amodau EM. Wrth awgrymu amodau, rhaid i’r amddiffyniad a’r Timau Troseddau Ieuenctid fod yn benodol ynghylch yr hyn y maent yn ei argymell a’r hyn y maent yn gofyn i’r contractwr EM ei fonitro, e.e. gofyniad gwahardd, cyrffyw, presenoldeb gofyniad.

Sefydliad: Llysoedd

Gweithgaredd

Mae’r farnwriaeth yn gwrando ar yr achosion, gan gynnwys sylwadau gan y CPS a’r amddiffyniad, ac yn gwneud penderfyniad ar fechnïaeth.

Yn y llys ynadon, gall cynghorydd cyfreithiol roi cyngor i’r farnwriaeth am y gyfraith. Fodd bynnag, nid yw’r cynghorydd cyfreithiol yn gwneud y penderfyniad ar fechnïaeth.

Mae staff y llys yn cofnodi’r penderfyniad a wnaed gan y farnwriaeth ar y system llys berthnasol sy’n llunio’r gorchymyn gofynnol.

Bydd y llys yn dilyn y Ddeddf Mechnïaeth gyda’r rhagdybiaeth o ganiatáu mechnïaeth fel y darperir ar ei gyfer gan adran 4 Deddf Mechnïaeth 1976.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Os gwrthodir mechnïaeth rhaid i’r llys ddilyn Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (LASPO) (fel y’i diwygiwyd) a gall ganiatáu remandio i lety awdurdod lleol (RLAA) er mwyn osgoi remandio i lety cadw ieuenctid.

Dim ond os bodlonir yr amodau yn 3AA neu 3AAA y Ddeddf Mechnïaeth (fel sy’n berthnasol) y gellir gosod EM fel amod ar gyfer mechnïaeth. Mae’r amodau hyn yn cynnwys bod y tîm troseddau ieuenctid wedi hysbysu’r llys y bydd gosod gofynion EM yn addas yn achos y plentyn neu’r person ifanc.

Rhannu Gwybodaeth

Anfonir gorchmynion yn awtomatig gan y Llys at y Contractwr EM drwy’r platfform Common neu Libra (yr hen system).

Ar gyfer achosion Llys y Goron sydd wedi’u cynnwys yn yr hen system (Xhibit), mae gorchymyn â llaw (EM6058) (neu orchymyn terfynol os yw’n berthnasol) yn cael ei e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Os bydd methiant TG, bydd y Llys yn diweddaru EM6058 â llaw ac yn ei e-bostio’n ddiogel i’r contractwr EM drwy’r sianel e-bost arferol.

Sefydliad: Gwasanaeth Gwybodaeth Mechnïaeth (BIS)

Gweithgaredd

Mae Swyddogion Gwybodaeth Mechnïaeth (BIO) yn darparu gwybodaeth ffeithiol a gwrthrychol, gan gynnwys canlyniad ymholiadau cyfeiriad, i gynorthwyo’r llys i wneud penderfyniadau.

Pan geir llety drwy CAS-2 (BASS gynt) neu ddarparwr arall, bydd y BIO yn darparu’r wybodaeth hon i’r llys, gan gynnwys manylion cyfeiriad a dyddiad argaeledd.

Rhannu Gwybodaeth

Ar gyfer llety CAS-2, bydd BIO yn darparu manylion cyfeiriad ac argaeledd i’r llys.

5. Amodau monitro electronig (EM) yn cael eu hanfon at y Contractwr EM

Yr Amddiffyniad, y Llysoedd a’r Contractwr EM

Os gosodir amodau EM fel rhan o fechnïaeth y llys, rhaid i staff y llys anfon hysbysiad at y

Contractwr EM er mwyn gallu dechrau monitro.

Sefydliad: Yr Amddiffyniad

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Rhaid i reolwr achos y Tîm Troseddau Ieuenctid (YOT) sy’n gyfrifol am y plentyn gysylltu â’r darparwr EM a rhoi ei fanylion cyswllt er mwyn gallu rhoi gwybod i’r YOT os bydd tor-amod. Dylai’r YOT ddarparu gwybodaeth rhannu risg i gontractwyr EM.

Sefydliad: Llysoedd

Gweithgaredd

Bydd unrhyw amod monitro electronig (EM) yn cael ei anfon yn awtomatig at y Contractwr EM pan fydd yr achos wedi’i gwblhau/rhannu ar systemau’r llysoedd. Ar wahân i hen achosion Llys y Goron, lle mae’r amodau’n cael eu hanfon â llaw at y contractwr drwy e-bost.

Rhannu Gwybodaeth

Amodau EM yn cael eu hanfon yn awtomatig drwy ddulliau trosglwyddo data electronig (EDT) i’r Contractwr EM ar blatfform Common a hen system yr ynadon (Libra). Ar gyfer achosion Llys y Goron sydd wedi’u cynnwys yn yr hen system (Xhibit), mae gorchymyn â llaw (EM6058) (neu orchymyn terfynol os yw’n berthnasol) yn cael ei e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Lle nad oes platfform Common a Libra ar gael, bydd llawlyfr EM6058 neu orchymyn terfynol yn cael ei gwblhau a’i e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Sefydliad: Y Contractwr Monitro Electronig (EM)

Gweithgaredd

Y Contractwr EM yn derbyn ffurflen hysbysu’r llys. Bydd y contractwr yn cysylltu â’r Llys os bydd angen rhagor o wybodaeth.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Bydd y contractwr EM yn ceisio gosod yr offer ar yr un diwrnod os derbynnir yr archeb cyn 15:00. Os derbynnir yr archeb ar ôl 15:00, neu os bydd yr ymgais gyntaf yn aflwyddiannus, bydd y contractwr EM yn ceisio gosod yr offer erbyn y diwrnod canlynol.

Ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed, gellir gwneud trydydd ymweliad os oes angen.

Bydd y contractwr EM yn gwneud tri ymgais i osod yr offer. Cynhelir ymweliadau heb fod yn hwyrach na 22:00 a rhaid i oedolyn cyfrifol fod yn bresennol yn ystod y gwaith gosod a chynefino.

Rheolwr Achosion y Tîm Troseddau Ieuenctid (YOT):

i ddarparu ei fanylion cyswllt i’r Contractwr EM fel y gellir rhoi gwybod i’r gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid (e.e. y Tîm Troseddau Ieuenctid) am unrhyw dorri amodau.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd y contractwr EM yn derbyn ffurflen hysbysu’r llys a bydd yn cysylltu â’r Llys os bydd angen rhagor o wybodaeth.

Bydd y Contractwr EM yn rhoi gwybod i’r heddlu drwy ffurflen hysbysu am dor-amod Adran 9 os nad oes modd gosod offer, gan gopïo’r YOT a’r Gwasanaethau Llety Cymunedol (CAS) os yw’n berthnasol.

6. Offer monitro electronig wedi’u gosod

Y contractwr monitro electronig (EM)

Unwaith y bydd y contractwr EM wedi derbyn gorchymyn monitro newydd gan y llys, byddant yn ymweld â’r unigolyn i osod yr offer monitro.

Gweithgaredd

Bydd y Contractwr EM yn ymweld â chyfeiriad yr unigolyn ac yn ceisio gosod yr offer. Y contractwr EM i osod yr offer angenrheidiol a chynefino’r unigolyn ar ofynion EM. Ar gyfer oedolion, os derbynnir yr archeb cyn 15:00, bydd y contractwr EM yn ceisio gosod yr offer erbyn hanner nos yr un diwrnod. Os yw hynny’n aflwyddiannus, neu os derbynnir yr archeb ar ôl 15:00, bydd y contractwr EM yn ceisio gosod yr offer erbyn hanner nos y diwrnod canlynol.

Bydd y Contractwr EM yn rhoi gwybod i’r Heddlu os nad oes modd gosod yr offer. Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Gwneir tri chynnig, rhaid i ymweliadau fod ddim hwyrach na 22:00 a rhaid i oedolyn cyfrifol fod yn bresennol yn ystod y broses gosod a chynefino. Rhaid i breswylydd y tŷ (e.e. rhiant/gofalwr) roi caniatâd i osod offer EM yn y cyfeiriad.

Wrth osod yr offer EM, dylai’r contractwr EM ddangos sut mae’r cyfarpar yn gweithio ac atgoffa’r plentyn o’r gofynion.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd y Contractwr EM yn anfon hysbysiad tor-amod adran 9 at yr Heddlu os na ellir gosod offer ar ôl tri ymgais.

Dogfennau a dolenni

Mae rhagor o wybodaeth i blant ar gael yn y Canllawiau rheoli achosion.

7. Cyfnod Monitro

Yr Heddlu, y contractwr monitro electronig

Sefydliad: Yr Heddlu

Gweithgaredd

Yr Heddlu i gynnal y broses Derbyn, Asesu, Penderfynu, Diweddaru (RADU) ar ôl derbyn hysbysiad tor-amod Adran 9. Derbyn gwybodaeth am dor-amod. Asesu risg. Penderfynu ar orfodaeth. Rhoi gwybod i’r Contractwr EM am y penderfyniad.

Gall yr Heddlu ac asiantaethau eraill ofyn am ddata ychwanegol ar unrhyw adeg ar leoliad neu symudiadau’r unigolyn sy’n gwisgo’r tag gan y contractwr EM drwy ddefnyddio’r broses EAR.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i gontractwyr EM am ganlyniad unrhyw dor-amod. Bydd y contractwr EM yn diweddaru ei system gyda gwybodaeth am dorri amodau.

Gall yr heddlu (ac asiantaethau eraill) ofyn am wybodaeth ychwanegol gan y Contractwr EM drwy ddilyn y broses EAR.

Sefydliad: Y Contractwr Monitro Electronig (EM)

Gweithgaredd

Bydd y Contractwr EM yn monitro cydymffurfiaeth â’r amod(au) EM ac yn rhoi gwybod i’r Heddlu am achosion o dorri amodau drwy e-bost diogel o fewn 24 awr, gan gopïo’r YOT perthnasol a CAS os yw hynny’n berthnasol.

Bydd y Contractwr EM yn rhoi gwybod i’r Gwasanaeth Llety Cymunedol os yw’r unigolyn yn aros yn eiddo’r gwasanaeth.

Rhaid i’r heddlu roi gwybod i’r Contractwr EM am ganlyniad unrhyw ystyriaeth tor-amod er mwyn sicrhau bod y Contractwr EM yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

Bydd achosion o dorri amodau yn cynnwys:

  • Difrodi neu waredu offer
  • Ymyrryd â’r offer sy’n effeithio ar y monitro
  • Absenoldeb cyrffyw o 15 munud neu fwy
  • Torri amodau’r parth gwahardd
  • Methiant i wefru batri tag GPS
  • Gwrthod mynediad i gynnal a chadw neu wirio offer
  • Gwrthod ffitio offer neu wrthod bod ar gael at ddiben gosod offer

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Bydd y Contractwr EM yn hysbysu’r YOT perthnasol o’r tor-amod os yw’r unigolyn o dan 18 oed.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd y Contractwr EM yn monitro cydymffurfiaeth â’r amod(au) EM ac yn rhoi gwybod am achosion o dorri amodau ar ffurf datganiad adran 9 i’r Heddlu, yr YOT perthnasol a’r CAS lle bo hynny’n berthnasol, drwy e-bost diogel o fewn 24 awr.

8. Diwygio Amodau Mechnïaeth Monitro Electronig

Yr Heddlu, y CPS, yr Amddiffyniad, y Llysoedd, Y contractwr EM, y BIS

Gall amgylchiadau unigolyn newid yn ystod cyfnod o fechnïaeth llys EM. Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar allu’r unigolyn i gydymffurfio ag amodau, gall yr unigolyn wneud cais i’r llys am ddiwygiad.

Bydd y llys yn penderfynu a ddylid diwygio’r fechnïaeth llys EM ar ôl gwrando ar y cais.

Sefydliad: Yr Heddlu

Gweithgaredd

Yr heddlu i asesu ac ymateb i awgrymiadau’r amddiffyniad ar gyfer diwygiadau a rhoi gwybod i’r CPS am eu hargymhelliad.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd yr amddiffyniad yn awgrymu diwygiadau i’r heddlu.

Bydd yr heddlu’n ymateb i awgrymiadau’r amddiffyniad ar gyfer diwygiadau.

Bydd unrhyw gais am ddiwygiadau gan yr Amddiffyniad at ddiben diwygio unrhyw amod yn cael ei gyflwyno i’r llys. Bydd y llysoedd wedyn yn rhoi gwybod i’r CPS, a fydd, yn ei dro, yn gofyn i’r heddlu adolygu’r cais.

Sefydliad: Gwasanaeth Erlyn y Goron

Gweithgaredd

Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) i roi gwybod i’r heddlu am y cais i ddiwygio amodau EM. Bydd y CPS yn cyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad diwygio.

Sefydliad: Yr Amddiffyniad

Gweithgaredd

Yr amddiffyniad i gyflwyno cais i amrywio amodau mechnïaeth oedolion (gan gynnwys monitro electronig lle bo hynny’n berthnasol) ar rybudd drwy’r ffurflen CrimPR (Rheolau Trefniadaeth Droseddol) briodol.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Rheolwr achos y Tîm Troseddau Ieuenctid (YOT) i drafod y diwygiad gyda’r plentyn, nodi unrhyw rwystrau ac archwilio sut y gellid goresgyn y rhain. Dylid gwneud pob ymdrech i gefnogi’r plentyn i fodloni’r gofyniad.

Sefydliad: Llysoedd

Gweithgaredd

Staff y llys i dderbyn y cais a rhestru’r achos mewn llys priodol cyn gynted ag y bo’n ymarferol a heb fod yn hwyrach na’r pumed diwrnod busnes ar ôl cyflwyno’r cais. Bydd y farnwriaeth yn gwrando ar y cais, gan gynnwys sylwadau gan y CPS a’r amddiffyniad, ac yn gwneud penderfyniad ar fechnïaeth.

Yn y llys ynadon, gall cynghorydd cyfreithiol roi cyngor i’r farnwriaeth am y gyfraith. Fodd bynnag, nid yw’r cynghorydd cyfreithiol yn gwneud y penderfyniad ar fechnïaeth.

Mae staff y llys yn cofnodi’r penderfyniad a wnaed gan y farnwriaeth ar y system llys berthnasol sy’n llunio’r gorchymyn gofynnol.

Rhannu Gwybodaeth

Amodau monitro electronig (EM) yn cael eu hanfon yn awtomatig drwy ddulliau trosglwyddo data electronig (EDT) i’r Contractwr EM ar blatfform Common a hen system yr ynadon (Libra).

Ar gyfer achosion Llys y Goron sydd wedi’u cynnwys yn yr hen system (Xhibit), mae gorchymyn â llaw (EM6058) (neu orchymyn terfynol os yw’n berthnasol) yn cael ei e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Lle nad oes platfform Common a Libra ar gael, bydd llawlyfr EM6058 neu orchymyn terfynol yn cael ei gwblhau a’i e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Sefydliad: Y Contractwr Monitro Electronig (EM)

Gweithgaredd

Bydd y Contractwr EM yn derbyn diwygiad i’r amod EM gan y llys; a bydd yn gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer y newid. Os nad yw hynny’n bosibl, rhoddir gwybod i’r Heddlu fel uchod.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Gwasanaeth EM i gysylltu â’r rheolwr achos sy’n gyfrifol am y plentyn yn yr YOT perthnasol.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd y contractwr EM yn rhoi gwybod i’r heddlu os nad yw’n bosibl gwneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer y newid.

Sefydliad: Gwasanaeth Gwybodaeth Mechnïaeth (BIS)

Gweithgaredd

Yr amddiffyniad neu’r llys i roi gwybod i’r BIS am y diwygiad i’r cais am Amod Mechnïaeth EM a manylion unrhyw newid i gyfeiriad arfaethedig y cyrffyw.

Pan fo’r diwygiad yn ymwneud â newid cyfeiriad:

Y Swyddog Gwybodaeth Mechnïaeth (BIO) i gyflwyno ymholiadau cyfeiriad arfaethedig, gan gynnwys argaeledd a chydsyniad gan y deiliad a gwybodaeth ddiogelu gan yr Heddlu, awdurdodau lleol a, lle bo hynny’n berthnasol, y Gwasanaeth Prawf.

Swyddogion Gwybodaeth Mechnïaeth i hyrwyddo defnydd y Gwasanaethau Llety Cymunedol (CAS-2) i’r unigolyn a’r amddiffyniad ac, os yw’r sgrinio cychwynnol yn llwyddiannus, i gyflwyno atgyfeiriad. Lle bo’n bosibl, gall Swyddogion Gwybodaeth Mechnïaeth hefyd archwilio opsiynau llety eraill a/neu wasanaethau cymorth perthnasol eraill a allai gynyddu’r tebygolrwydd o gydymffurfiaeth â’r unigolyn a’r amddiffyniad. Os caiff ei dderbyn ac os caiff cyfeiriad ei ddyrannu, bydd y BIO yn rhoi gwybod i’r llys.

Y BIO i ddarparu canlyniad ymholiadau cyfeiriad i’r llys.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd yr Amddiffyniad neu GLlTEM yn rhoi gwybod i’r BIS am unrhyw newid i gyfeiriad y cyrffyw.

Y BIO i gyflwyno ymholiadau cyfeiriad arfaethedig, gan gynnwys argaeledd a chaniatâd gan y deiliad a gwybodaeth diogelu gan yr Heddlu, yr Awdurdodau Lleol a, lle bo hynny’n berthnasol, y Gwasanaeth Prawf.

9. Treial

Yr Amddiffyniad, y Llysoedd, y Contractwr EM, y BIS

Pan fydd unigolyn yn pledio’n ddieuog, yn dilyn cyfnod o remand yn y ddalfa neu fechnïaeth yn y gymuned, bydd yr unigolyn yn cael ei roi ar brawf yn y llys am y trosedd y’i cyhuddwyd ohono. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd amodau EM Mechnïaeth y Llys yn dod i ben yn y treial, ond mewn rhai achosion efallai y bydd yr unigolyn yn cael ei ddyfarnu’n euog ac yna’n cael ei roi ar fechnïaeth gydag amodau EM tra bydd yn aros am wrandawiad arall i benderfynu ar ei ddedfryd.

Y CPS sy’n erlyn y treial a’r farnwriaeth sy’n cynnal y gwrandawiad ac yn penderfynu ar y canlyniad.

Sefydliad: Yr Amddiffyniad

Gweithgaredd

Bydd yr amddiffyniad yn cynrychioli’r unigolyn yn ystod y treial.

Yr amddiffyniad i ystyried a chyflwyno amodau mechnïaeth EM fel dewis amgen yn lle remandio os yw’r unigolyn yn cael ei euogfarnu ond yn aros am ddedfryd.

Sefydliad: Llysoedd

Gweithgaredd

Mae’r farnwriaeth yn gwrando ar yr achos, gan gynnwys sylwadau gan y CPS a’r amddiffyniad, ac yn gwneud penderfyniad.

Staff y llys i gofnodi’r penderfyniad a wnaed gan y farnwriaeth ar y system llys berthnasol sy’n cynhyrchu’r gorchymyn/gorchmynion gofynnol.

Rhannu Gwybodaeth

Amodau EM yn cael eu hanfon yn awtomatig drwy ddulliau trosglwyddo data electronig (EDT) i’r Contractwr EM ar blatfform Common a hen system yr ynadon (Libra).

Ar gyfer achosion Llys y Goron sydd wedi’u cynnwys yn yr hen system (Xhibit), mae gorchymyn â llaw (EM6058) (neu orchymyn terfynol os yw’n berthnasol) yn cael ei e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Lle nad oes platfform Common a Libra ar gael, bydd llawlyfr EM6058 neu orchymyn terfynol yn cael ei gwblhau a’i e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Sefydliad: Y Contractwr Monitro Electronig (EM)

Gweithgaredd

Bydd contractwr EM yn darparu gwybodaeth am gydymffurfiaeth ar gais gan staff y llys.

Rhannu Gwybodaeth

Pan ofynnir iddo, bydd y contractwr EM yn darparu gwybodaeth cydymffurfio ar gyfer amodau EM i’r llys.

10. Remandio i’r Ddalfa

Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr Amddiffyniad, y Llysoedd, Y contractwr EM, y BIS

Yn dilyn penderfyniad y farnwriaeth, os byddant yn penderfynu na all yr unigolyn aros yn ddiogel yn y gymuned wrth aros am gam nesaf yr achos, bydd yr unigolyn yn cael ei remandio yn y ddalfa.

Sefydliad: Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)

Gweithgaredd

Y CPS i lenwi a chofnodi cofnodion gwrandawiadau.

Y CPS i gyfrifo a chytuno ar ddyddiadau dod i ben y terfyn amser yn y ddalfa (CTL) gyda’r holl bartïon.

Gweler Rheoliadau Erlyn Troseddau (CTL) 1985, fel y’u diwygiwyd.

Dogfennau a dolenni

Deddf Erlyn Troseddau 1985 (legislation.gov.uk)

Sefydliad: Yr Amddiffyniad

Gweithgaredd

Yr amddiffyniad i ohebu â’r cleient yn y ddalfa, cynghori’r cleient y gellir gwneud cais pellach am fechnïaeth pan fydd yn ymddangos eto (fel arfer drwy Gyswllt Fideo o’r Carchar i’r Llys (PCVL)).

Yn ystod y cyfnod remand cyntaf, bydd yr amddiffyniad yn gwneud ymholiadau am gyfeiriadau eraill a allai gael eu hawgrymu ar gyfer ail gais am fechnïaeth.

Rhannu Gwybodaeth

Ystyried cyflwyno ail gais am fechnïaeth i’r llys.

Sefydliad: Llysoedd

Gweithgaredd

Llysoedd i gofnodi canlyniad y gwrandawiad a dyddiad dod i ben y terfyn amser yn y ddalfa (CTL) ar y system berthnasol, anfonir hysbysiad terfynol at y Contractwr EM.

Rhannu Gwybodaeth

Hysbysiad Terfynol yn cael ei anfon yn awtomatig drwy ddulliau trosglwyddo data electronig (EDT) i’r Contractwr EM ar blatfform Common a hen system yr ynadon (Libra) Ar gyfer achosion Llys y Goron sydd wedi’u cynnwys yn yr hen system (Xhibit), mae gorchymyn â llaw (EM6058) (neu orchymyn terfynol os yw’n berthnasol) yn cael ei e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Lle nad oes platfform Common a Libra ar gael, bydd llawlyfr EM6058 neu orchymyn terfynol yn cael ei gwblhau a’i e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Sefydliad: Y Contractwr Monitro Electronig (EM)

Gweithgaredd

Bydd y Contractwr EM yn cau’r gorchymyn os oedd yr unigolyn ar fechnïaeth llys EM adeg y penderfyniad i remandio.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd y Contractwr EM yn cael hysbysiad e-bost bod gorchymyn monitro electronig yn dod i ben gan Staff y Llys.

Sefydliad: Gwasanaeth Gwybodaeth Mechnïaeth (BIS)

Gweithgaredd

Y Swyddog Gwybodaeth Mechnïaeth (BIO) yn y Llys i drosglwyddo ymglymiad blaenorol y BIS i BIO yn y carchar yn y sefydliad sy’n derbyn.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Y Tîm Troseddau Ieuenctid (YOT) i ystyried a fydd cais pellach am fechnïaeth yn briodol.

11. Gwrandawiad i ymestyn Terfyn Amser yn y Ddalfa

Y CPS, yr Amddiffyniad, y Farnwriaeth, y Llysoedd, y BIS

Mae Terfynau Amser yn y Ddalfa (CTL) yn diogelu pobl nad ydynt wedi’u heuogfarnu drwy eu hatal rhag cael eu cadw yn y ddalfa cyn treial am gyfnod hir. Mae’r Ddeddf a’r Rheoliadau sy’n llywodraethu CTL yn ei gwneud yn ofynnol i’r erlyniad fwrw ymlaen ag achosion i dreial yn ddiwyd ac yn gyflym.

Ar ôl cyrraedd y CTL, rhaid cynnal gwrandawiad naill ai i ymestyn y CTL neu i roi mechnïaeth i’r unigolyn yn y gymuned.

Sefydliad: Gwasanaeth Erlyn y Goron

Gweithgaredd

Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) i wneud cais am estyniad i’r CTL os yw’n cael ei asesu i fod yn angenrheidiol.

Dogfennau a dolenni

https://www.cps.gov.uk/legal-guidance/custody-time-limits

Sefydliad: Yr Amddiffyniad

Gweithgaredd

Yr amddiffyniad i awgrymu amodau mechnïaeth i’r unigolyn, gan gynnwys monitro electronig lle bo hynny’n berthnasol.

Sefydliad: Y Farnwriaeth

Gweithgaredd

Penderfynu a ddylid ymestyn y terfyn amser y ddalfa (CTL). Os nad yw’r llys yn ymestyn CTL, rhaid caniatáu mechnïaeth (gydag amodau neu hebddynt).

Sefydliad: Llysoedd

Gweithgaredd

Bydd y farnwriaeth yn gwrando ar yr achos, gan gynnwys sylwadau gan y CPS a’r amddiffyniad, ac yn gwneud penderfyniad.

Staff y llys i gofnodi’r penderfyniad a wnaed gan y farnwriaeth ar y system llys berthnasol sy’n cynhyrchu’r gorchymyn/gorchmynion gofynnol.

Rhannu Gwybodaeth

Amodau monitro electronig yn cael eu hanfon yn awtomatig drwy ddulliau trosglwyddo data electronig (EDT) i’r Contractwr EM ar blatfform Common a hen system yr ynadon (Libra).

Ar gyfer achosion Llys y Goron sydd wedi’u cynnwys yn yr hen system (Xhibit), mae gorchymyn â llaw (EM6058) (neu orchymyn terfynol os yw’n berthnasol) yn cael ei e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Lle nad oes platfform Common a Libra ar gael, bydd llawlyfr EM6058 neu orchymyn terfynol yn cael ei gwblhau a’i e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Sefydliad: Y Contractwr Monitro Electronig (EM)

Gweithgaredd

Bydd y contractwr EM yn gweithredu unrhyw hysbysiad gan y llys sy’n gofyn am osod, monitro, diwygio neu roi’r gorau i fonitro.

Sefydliad: Gwasanaeth Gwybodaeth Mechnïaeth (BIS)

Gweithgaredd

Os gwneir cais am amodau EM yn ystod gwrandawiad CTL:

Yr Amddiffyniad neu’r Llys i roi gwybod i’r BIS am y cais am fechnïaeth a manylion y cyfeiriad arfaethedig.

Y Swyddog Gwybodaeth Mechnïaeth (BIO) i gyflwyno ymholiadau arfaethedig am gyfeiriadau, gan gynnwys argaeledd a chydsyniad gan y deiliad a gwybodaeth diogelu gan yr Heddlu, Awdurdodau Lleol a, lle bo hynny’n berthnasol, y Gwasanaeth Prawf.

Swyddogion Gwybodaeth Mechnïaeth i hyrwyddo defnydd CAS-2 (BASS gynt) i’r unigolyn a’r amddiffyniad ac, os yw’r sgrinio cychwynnol yn llwyddiannus, i gyflwyno atgyfeiriad. Lle bo’n bosibl, gall Swyddogion Gwybodaeth Mechnïaeth hefyd archwilio opsiynau llety eraill a/neu wasanaethau cymorth perthnasol eraill a allai gynyddu’r tebygolrwydd o gydymffurfiaeth â’r unigolyn a’r amddiffyniad. Os caiff ei dderbyn ac os caiff cyfeiriad ei ddyrannu, bydd y BIO yn rhoi gwybod i’r llys.

Y BIO i ddarparu canlyniad yr ymholiadau cyfeiriad i’r llys.

Rhannu Gwybodaeth

Y BIS i gyflwyno’r cyfeiriad arfaethedig i’r heddlu ar gyfer ymholiadau.

Y BIO i ddarparu canlyniad yr ymholiadau cyfeiriad i’r llys.

12. Methiant i osod offer monitro electronig

Yr Heddlu, Contractwr monitro electronig (EM)

Gall fod nifer o resymau pam nad yw teclyn monitro electronig yn cael ei osod ar unigolyn, gan gynnwys tynnu caniatâd yn ôl, gwybodaeth cyfeiriad anghywir yn cael ei derbyn gan y contractwr EM, neu absenoldeb yr unigolyn pan fydd y contractwr EM yn ymweld â’i lety mechnïaeth.

Bydd y contractwr EM yn gwneud 3 ymgais i osod yr offer cyn rhoi gwybod i’r heddlu am dor-amod.

Sefydliad: Yr Heddlu

Gweithgaredd

Yr Heddlu i dderbyn ffurflen hysbysu torri amodau adran 9 (a elwir hefyd yn ddatganiad tyst MG11) gan y Contractwr EM.

Yr Heddlu i gynnal y broses Derbyn, Asesu, Penderfynu, Diweddaru (RADU) ar ôl derbyn hysbysiad tor-amod Adran 9. Derbyn gwybodaeth am dor-amod. Asesu risg. Penderfynu ar orfodaeth. Rhoi gwybod i’r Contractwr EM am y penderfyniad.

Rhannu Gwybodaeth

Y Contractwr EM i anfon ffurflen adran 9 at yr heddlu.

Yr heddlu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Contractwr EM am ganlyniad y tor-amod.

Sefydliad: Y Contractwr Monitro Electronig (EM)

Gweithgaredd

Bydd y Contractwr EM yn rhoi gwybod i’r heddlu am y tor-amod drwy ffurflen adran 9. Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Rhoi gwybod i’r Tîm Troseddau Ieuenctid (YOT) bod y gwaith gosod wedi methu.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd y Contractwr EM yn rhoi gwybod i’r heddlu am y tor-amod drwy ffurflen Adran 9.

13. Tor-amod (Cyn-Gwrandawiad)

Yr Heddlu, y CPS, yr Amddiffyniad, y Farnwriaeth, y Contractwr EM

Ar ôl i’r heddlu wneud eu hasesiad a phenderfynu gorfodi tor-amod EM mechnïaeth y llys, dylid cyflwyno’r unigolyn i’r llys yr oeddent i fod i ildio iddo (fel y bo’n berthnasol) o fewn 24 awr i’w arestio.

Bydd yr Heddlu’n rhoi gwybodaeth i’r CPS er mwyn darparu sail i’w sylwadau i’r llys.

Bydd yr amddiffyniad yn cysylltu â’r unigolyn er mwyn darparu sail i’w sylwadau i’r llys. Bydd cyfreithiwr yr amddiffyniad yn gweithio gyda’r unigolyn i ystyried a ddylid gwneud cais am ragor o fechnïaeth llys ac, os felly, pa amodau i wneud cais amdanynt. Bydd cyfreithiwr yr amddiffyniad a’r Swyddog Gwybodaeth Mechnïaeth (BIO) yn cefnogi’r cleient i wneud trefniadau ymarferol i’w helpu i gydymffurfio â’r amodau hyn.

Sefydliad: Yr Heddlu

Gweithgaredd

Yr Heddlu i dderbyn ffurflen adran 9 gan y Contractwr EM.

Yr Heddlu i gyflawni’r broses Derbyn, Asesu, Penderfynu, Diweddaru (RADU).

Derbyn gwybodaeth am dor-amod. Asesu risg. Penderfynu ar orfodaeth. Rhoi gwybod i’r Contractwr EM am y penderfyniad.

Os gwneir penderfyniad i arestio, ar ôl arestio’r unigolyn, dylai’r heddlu gysylltu â’r llys i drefnu i’r unigolyn gael ei ddwyn gerbron y llys yn unol ag a.7(4) Deddf Mechnïaeth 1976.

Rhaid i’r unigolyn gael ei ddwyn gerbron llys ynadon o fewn 24 awr i’r arestio. Os caiff yr unigolyn ei arestio o fewn 24 awr i’r amser a benodwyd i ildio i’r ddalfa, dylid dwyn yr achos gerbron y llys ar yr adeg yr oedd yr unigolyn i fod i ildio.

Yr Heddlu i baratoi’r ffeil Torri Mechnïaeth, gan gynnwys ffurflenni Adran 9 ac MG7, a’u hanfon at y CPS cyn y gwrandawiad tor-amod.

Yr heddlu i lenwi ffurflen MG7 a gall gynnwys amodau a chyfeiriad EM a awgrymir fel dewis arall yn lle remandio yn y ddalfa.

Rhannu Gwybodaeth

Yr heddlu i rannu’r ffeil Torri Mechnïaeth gyda’r CPS.

Sefydliad: Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)

Gweithgaredd

Y CPS i dderbyn pecyn tor-amod gan yr Heddlu a pharatoi sylwadau ar gyfer gwrandawiad. Y CPS i ofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol gan yr heddlu neu’r

Contractwr EM yn ôl yr angen.

Sefydliad: Yr Amddiffyniad

Gweithgaredd

Yr amddiffyniad i gymryd cyfarwyddiadau ar honiad o dorri amodau.

Os gwadir tor-amod, rhaid paratoi ar gyfer honiad o dorri amodau mechnïaeth a wrthwynebir. Os cyfaddefir tor-amod, rhaid paratoi a gwneud cais pellach am fechnïaeth, gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau i amodau EM.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Dylai rheolwr achos y Tîm Troseddau Ieuenctid (YOT) ymchwilio gyda’r plentyn, nodi unrhyw rwystrau a sut y gellid goresgyn y rhain. Dylid gwneud pob ymdrech i gefnogi’r plentyn i fodloni’r gofyniad.

Sefydliad: Y Contractwr Monitro Electronig (EM)

Gweithgaredd

Bydd y Contractwr EM yn rhoi gwybod i’r Heddlu am achosion o dorri amodau drwy e-bost diogel o fewn 24 awr ar yr un pryd â rhoi gwybod i Dimau Troseddau Ieuenctid, awdurdodau lleol a/neu’r Gwasanaeth Llety Cymunedol: Haen 1 neu 2 (CAS-1 neu CAS-2), a elwid gynt yn Wasanaeth Llety a Chymorth Mechnïaeth (BASS), lle bo’n briodol.

Bydd achosion o dorri amodau yn cynnwys y canlynol:

  • Difrodi neu waredu offer
  • Ymyrryd â’r offer sy’n effeithio ar y monitro
  • Absenoldeb cyrffyw o 15 munud neu fwy
  • Torri amodau’r parth gwahardd
  • Methiant i wefru batri tag GPS
  • Gwrthod mynediad i gynnal a chadw neu wirio offer
  • Gwrthod ffitio offer neu wrthod bod ar gael at ddiben gosod offer.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Bydd y gwasanaeth EM yn cysylltu â’r rheolwr achos sy’n gyfrifol am y plentyn yn yr YOT perthnasol.

Dim ond y gwasanaeth EM all dynnu’r achos yn ôl cyn y llys.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd y Contractwr EM yn rhoi gwybod i CAS-1 neu CAS-2 os yw’r unigolyn yn aros yn eiddo’r gwasanaeth.

Ar ôl rhoi gwybod am dor-amod, bydd y Contractwr EM yn parhau i fonitro, oni bai ei fod wedi cael gwybod bod yr unigolyn yn y ddalfa.

Dylid rhoi gwybod i’r Contractwr EM am ganlyniad unrhyw ystyriaeth tor-amod.

Dogfennau a dolenni

Ar gyfer plant: Canllawiau rheoli achos - Sut i ddefnyddio adroddiadau - Canllawiau - GOV.UK (www.gov.uk)

Sefydliad: Gwasanaeth Gwybodaeth Mechnïaeth (BIS)

Gweithgaredd

Swyddog Gwybodaeth Mechnïaeth (BIO) yn cael gwybod am y gwrandawiad tor-amod gan y Llys / yr Amddiffyniad / drwy asesu system TG y llys.

Os gwneir cais am amodau EM mewn cyfeiriad newydd:

Bydd y BIO yn siarad â’r unigolyn sydd yng nghelloedd y llys a/neu’n siarad â’r amddiffyniad i gael manylion y cyfeiriad(au) arfaethedig.

Ymholiadau cyfeiriad arfaethedig wedi’u cyflwyno, gan gynnwys argaeledd a chydsyniad gan y deiliad a gwybodaeth diogelu gan yr Heddlu, Awdurdodau Lleol a, lle bo hynny’n berthnasol, y Gwasanaeth Prawf.

Swyddogion Gwybodaeth Mechnïaeth i hyrwyddo defnydd CAS-2 i’r unigolyn a’r amddiffyniad ac, os yw’r sgrinio cychwynnol yn llwyddiannus, i gyflwyno atgyfeiriad. Lle bo’n bosibl, gall Swyddogion Gwybodaeth Mechnïaeth hefyd archwilio opsiynau llety eraill a/neu wasanaethau cymorth perthnasol eraill a allai gynyddu’r tebygolrwydd o gydymffurfiaeth â’r unigolyn a’r amddiffyniad.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc Mae’r YOT yn gyfrifol am y canlynol:

  • Rhoi gwybod i wasanaethau EM am ohiriadau
  • Dyddiadau’r treial
  • Canlyniad yr achos yn y pen draw

Sefydliad: Rheolwr Achosion Ieuenctid

Gweithgaredd

Dylai’r rheolwr achos ymchwilio gyda’r plentyn, nodi unrhyw rwystrau a sut y gellid goresgyn y rhain. Dylid gwneud pob ymdrech i gefnogi’r plentyn i fodloni’r gofyniad.

14. Gwrandawiad Tor-amod

Yr Heddlu, y CPS, yr Amddiffyniad, y Farnwriaeth, y Llysoedd, y Contractwr EM, y BIS

Yn y gwrandawiad tor-amod, bydd y farnwriaeth yn penderfynu a yw’r unigolyn wedi torri ei fechnïaeth ac, os felly, a ddylid parhau i roi mechnïaeth i’r unigolyn yn y gymuned gyda’r un amodau, neu amodau diwygiedig, neu i remandio’r unigolyn yn y ddalfa.

Sefydliad: Yr Heddlu

Gweithgaredd

Yr heddlu i gyflwyno ffeil torri mechnïaeth (datganiad arestio, adran 9 ac MG7) i’r CPS, gan ystyried remandio pellach neu fechnïaeth gydag amodau a awgrymir, a allai gynnwys EM lle yr aseswyd bod hynny’n briodol, yn unol â’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Ffeiliau (NFS).

Rhannu Gwybodaeth

Yr heddlu i rannu ffeil tor-amod gyda’r CPS.

Sefydliad: Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)

Gweithgaredd

Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyflwyno tor-amod a chais am remandio neu amodau mechnïaeth diwygiedig i’r llys.

Os na phrofir y tor-amod, rhaid i’r unigolyn gael ei ryddhau dan yr un amodau, gan gynnwys monitro electronig lle bo hynny’n berthnasol.

Sefydliad: Yr Amddiffyniad

Gweithgaredd

Yr amddiffyniad i gynrychioli buddiannau’r unigolyn yn ystod y gwrandawiad.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Y Tîm Troseddau Ieuenctid (YOT) sy’n gyfrifol am gyflwyno’r achos i’r llys a darparu unrhyw gyngor dilynol i’r llys, ac i’r plentyn a’i deulu.

Gall yr YOT hefyd dynnu achosion yn ôl mewn llys lle mae buddiannau cyfiawnder yn cael eu cyflwyno.

Dogfennau a dolenni

Canllawiau rheoli achos - Sut i ddefnyddio adroddiadau - Canllawiau - GOV.UK (www.gov.uk)

Sefydliad: Y Farnwriaeth

Gweithgaredd

Y Llys sy’n cynnal y gwrandawiad ac yn penderfynu ar y canlyniad.

Y Llys i benderfynu a ddylid parhau i roi mechnïaeth i’r unigolyn neu ei remandio yn y ddalfa.

Os na chaiff y tor-amod ei brofi, rhaid i’r unigolyn gael ei ryddhau dan yr un amodau, gan gynnwys monitro electronig os yw’n berthnasol.

Sefydliad: Llysoedd

Gweithgaredd

Mae’r farnwriaeth yn gwrando ar yr achos, gan gynnwys sylwadau gan y CPS a’r amddiffyniad, ac yn gwneud penderfyniad.

Staff y llys i gofnodi’r penderfyniad a wnaed gan y farnwriaeth ar y system llys berthnasol sy’n cynhyrchu’r gorchymyn/gorchmynion gofynnol.

Rhannu Gwybodaeth

Amodau EM yn cael eu hanfon yn awtomatig drwy ddulliau trosglwyddo data electronig (EDT) i’r Contractwr EM ar blatfform Common a hen system yr ynadon (Libra).

Ar gyfer achosion Llys y Goron sydd wedi’u cynnwys yn yr hen system (Xhibit), mae gorchymyn â llaw (EM6058) (neu orchymyn terfynol os yw’n berthnasol) yn cael ei e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Lle nad oes platfform Common a Libra ar gael, bydd llawlyfr EM6058 neu orchymyn terfynol yn cael ei gwblhau a’i e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Sefydliad: Y Contractwr Monitro Electronig (EM)

Gweithgaredd

Bydd y Contractwr EM yn ymateb i gais am wybodaeth am gydymffurfio pan fydd wedi dod i law.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Dylai’r gwasanaeth EM:

  • baratoi pecyn tor-amod ar gyfer yr YOT a’r tyst lle bo angen.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd contractwyr EM yn rhannu data cydymffurfio ar gais.

Dogfennau a dolenni

Canllawiau rheoli achos - Sut i ddefnyddio adroddiadau - Canllawiau - GOV.UK (www.gov.uk)

Sefydliad: Gwasanaeth Gwybodaeth Mechnïaeth (BIS)

Gweithgaredd

Swyddog Gwybodaeth Mechnïaeth (BIO) i ddarparu canlyniad ymholiadau cyfeiriad i’r llys. Nid yw’r BIS yn cyflwyno achos o blaid neu yn erbyn mechnïaeth ac nid yw ychwaith yn asesu addasrwydd unrhyw gyfeiriad arfaethedig.

Pan geir llety drwy CAS-2 neu ddarparwr arall, bydd y BIO yn darparu’r wybodaeth hon i’r llys, gan gynnwys manylion cyfeiriad a dyddiad argaeledd.

15. Monitro electronig yn dod i ben a’r offer yn cael ei dynnu

Y CPS, contractwr monitro electronig (EM)

Ar ôl i amodau mechnïaeth y llys ddod i ben, naill ai ar ôl i’r achos ddod i ben neu ar ôl i’r farnwriaeth wneud diwygiad, bydd y contractwr EM yn ceisio dadosod yr offer monitro oddi wrth yr unigolyn a’i eiddo.

Sefydliad: Y Contractwr Monitro Electronig (EM)

Gweithgaredd

Bydd y contractwr EM yn rhoi’r gorau i fonitro’r amodau mechnïaeth EM pan gaiff ei hysbysu y bydd y gorchymyn yn dod i ben ac y bydd yn ceisio tynnu’r tag ffêr a’r uned fonitro yng nghyfeiriad y cyrffyw.

Ystyriaethau ar gyfer Plant / Pobl Ifanc

Yn yr un modd â gosod, ni fydd yr ymweliadau’n hwyrach na 22:00 a rhaid i oedolyn cyfrifol fod yn bresennol yn ystod y gosod a’r cynefino.

16. Derbyn Dedfryd o Garchar

Yr Heddlu, y CPS, yr Amddiffyniad, y Farnwriaeth, y Llysoedd, y Contractwr monitro electronig (EM)

Os yw dedfryd yr unigolyn yn cynnwys cyfnod o garchar, lle mae credyd yn cael ei gronni ar gyfer nifer y diwrnodau cydymffurfiol a dreulir ar amod cyrffyw EM cymwys, byddant yn gymwys i gael gostyngiad. Mae angen gwybodaeth gan y cyflenwr EM sy’n nodi’r diwrnodau cymhwyso a’r cydymffurfio er mwyn gweld a oes angen credyd carcharu. I gefnogi’r broses hon, bydd angen gofyn am y wybodaeth gan y Contractwr EM. Dylai hyn fod mor amserol â phosibl, gan adlewyrchu’r gwahaniaeth sylweddol y bydd hyn yn ei wneud i’r amser a dreulir yn y ddalfa. Gall y Llysoedd, yr Amddiffyniad a’r CPS ofyn amdano. Pan fydd y Gwasanaeth Prawf yn paratoi adroddiad cyn-dedfrydu, gallant hefyd ofyn am y wybodaeth hon.

Sefydliad: Yr Heddlu

Gweithgaredd

Yr heddlu i roi gwybod i’r dioddefwr/wyr a’r tyst/tystion am y canlyniad dedfrydu lle bo hynny’n briodol.

Sefydliad: Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)

Gweithgaredd

Y CPS i helpu’r llys i gyfrifo unrhyw gredyd a gronnwyd yn erbyn dedfryd o garchar am ddiwrnodau cydymffurfiol o gyrffyw EM cymwys ar fechnïaeth y llys.

Y CPS i gofnodi canlyniad y gwrandawiad.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd y CPS yn gofyn am ddata cydymffurfio gan y Contractwr EM, naill ai yn ystod y treial neu yn ystod y broses adrodd cyn-dedfrydu.

Sefydliad: Yr Amddiffyniad

Gweithgaredd

Bydd yr amddiffyniad yn gofyn am ddata cydymffurfio gan y Contractwr EM, naill ai yn ystod y treial neu yn ystod y broses adrodd cyn-dedfrydu.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd yr amddiffyniad yn gofyn am ddata cydymffurfio gan y Contractwr EM, naill ai yn ystod y treial neu yn ystod y broses adrodd cyn-dedfrydu.

Sefydliad: Y Farnwriaeth

Gweithgaredd

Y llys i gynnal y gwrandawiad a phenderfynu ar y canlyniad ac i bennu’r cyfnod credyd.

Sefydliad: Llysoedd

Gweithgaredd

Staff y llys i gofnodi canlyniad y gwrandawiad yn y system berthnasol.

Staff y llys i ofyn am ddata cydymffurfio gan y Contractwr EM a chwblhau cyfrifiad credyd o unrhyw gredyd a gronnwyd yn erbyn dedfryd o garchar am ddiwrnodau cydymffurfiol â chyrffyw EM cymwys ar fechnïaeth y llys, yn unol ag adran 240A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ac adran 325 o Ddeddf Dedfrydu 2020.

Rhannu Gwybodaeth

Staff y llys i ofyn am ddata cydymffurfio gan y Contractwr EM, naill ai yn ystod y treial neu yn ystod y broses adrodd cyn-dedfrydu.

Lle mae’r fechnïaeth wedi dod i ben:

Anfonir hysbysiad EM terfynol yn awtomatig drwy ddulliau trosglwyddo data electronig (EDT) i’r Contractwr EM ar blatfform Common a hen system yr ynadon (Libra). Ar gyfer achosion Llys y Goron sydd wedi’u cynnwys yn yr hen system (Xhibit), mae gorchymyn â llaw, neu orchymyn terfynol, yn cael ei e-bostio’n ddiogel i’r Contractwr EM.

Sefydliad: Y Contractwr Monitro Electronig (EM)

Gweithgaredd

Bydd y contractwr EM yn rhoi’r gorau i fonitro’r amodau mechnïaeth EM pan gaiff ei hysbysu y bydd y gorchymyn yn dod i ben ac y bydd yn ceisio tynnu’r uned fonitro yng nghyfeiriad y cyrffyw.

Rhannu Gwybodaeth

Bydd y contractwr EM yn darparu data cydymffurfio i’r llys ar gais.