Protocol Mechnïaeth Llys ar Fonitro Electronig
Mae'r ddogfen yn nodi gwybodaeth ar gyfer penderfyniadau ynghylch a yw rhywun yn cael ei gadw yn y ddalfa neu a ellir ei ryddhau ar fechnïaeth gyda monitro electronig.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Mae’r ddogfen yn rhoi gwybodaeth i asiantaethau megis y Llysoedd, yr Heddlu, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS), Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) a chyfreithwyr yr amddiffyniad am bob cam o’r broses o wneud penderfyniadau lle mae monitro electronig yn cael ei ddefnyddio, neu y gellid ei ddefnyddio, gan gynnwys wrth ystyried a yw mechnïaeth gyda thag yn opsiwn ac yn ystod y cyfnod tagio.
Mae’n nodi gwybodaeth am ba gyfathrebu sy’n angenrheidiol rhwng asiantaethau i wneud monitro electronig ar fechnïaeth mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.
Er enghraifft, pryd y mae gofyn rhannu gwybodaeth a pha wybodaeth sy’n cael ei rhannu rhwng yr heddlu, CPS a’r llysoedd ar amodau mechnïaeth unigolyn ac unrhyw ddiffyg cydymffurfio.
Nid yw’r protocol yn cyflwyno unrhyw brosesau neu bolisïau newydd ar ddefnyddio monitro electronig ar gyfer mechnïaeth llys.