Skip to main content
Canllawiau

E.coli

Cyhoeddwyd 30 Ionawr 2018

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Beth yw E.coli?

Mae Escherichia coli (sy’n cael ei adnabod fel E. coli) yn fath o facteria sy’n cael ei ganfod yng ngholuddion anifeiliaid a phobl. Mae llawer o fathau o E. coli (straeniau) nad ydynt yn niweidiol i bobl, ond mae rhai yn gallu achosi salwch difrifol. Mae’r straeniau hyn yn cynhyrchu tocsinau o’r enw ‘tocsinau Shiga’. 

Mae gwahanol fathau o E. coli sy’n cynhyrchu tocsinau Shiga (STEC) sy’n gallu achosi salwch, fel STEC O157. Y straen hwn sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r achosion yn y DU, ond mae straeniau eraill, y cyfeirir atynt fel STECS nad ydynt yn rhai O157, yn gallu achosi salwch difrifol hefyd.

Y bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef symptomau difrifol yw plant bach, menywod beichiog, pobl â chyflwr iechyd isorweddol (er enghraifft, canser, diabetes, clefyd yr afu/iau a chlefyd yr arennau) a phobl hŷn.

Mae gwybodaeth am symptomau E. coli a sut mae’n gwneud i chi’n sâl ar gael ar y gwefannau canlynol:

Fideo: Yr ASB yn esbonio E. coli

Gwyliwch y fideo hwn gan yr ASB sy’n esbonio E.coli.

Atal E.Coli rhag lledaenu

Mae E. coli O157 yn cael ei drosglwyddo’n aml trwy gigoedd amrwd a chig heb ei goginio. Mae hefyd yn gallu lledaenu drwy fwydydd eraill sydd wedi’u halogi, fel llysiau a salad, dŵr neu laeth heb ei basteureiddio. Gallwch chi hefyd ei ddal wrth gyffwrdd â rhywun arall sydd wedi’i heintio.

Osgoi E. Coli O157 yn y cartref 

Fel llawer o fathau o facteria, mae E. Coli yn gallu tyfu ar fwyd pan fydd yn y ‘parth peryglus’ rhwng 8°C a 60°C.

  • Oeri’ch bwyd o dan 8°C – bydd hyn yn atal neu’n arafu twf bacteria yn sylweddol, gan gynnwys E. Coli.
  • Coginio bwyd yn gywir drwy ddilyn y canllawiau ar amser a thymheredd – bydd hyn yn lladd E. Coli.
  • Atal croeshalogi a allai arwain at facterian pasio o fwyd amrwd i fwyd parod i’w fwyta drwy bethau fel bagiau siopa, cyllyll a byrddau torri.
  • Defnyddio bwyd a diod erbyn y dyddiad “defnyddio erbyn” ar y label, hyd yn oed os yw’n edrych ac yn arogli’n iawn – gallai bwyta bwyd ar ôl y dyddiad hwn beryglu’ch iechyd.
  • Mae hylendid personol da hefyd yn hanfodol wrth baratoi bwyd – bydd hyn yn helpu i sicrhau na fydd unrhyw facteria y gallech chi ddod i gysylltiad ag ef yn cael ei drosglwyddo i’ch ffrindiau a’ch teulu yn eu bwyd.

Sut mae E. Coli O157 yn gwneud pobl yn sâl

Er bod sawl math o E. Coli nad ydynt yn niweidiol, ac yn gallu helpu i dorri bwyd i lawr, gall rhai mathau achosi gwenwyn bwyd difrifol fel E. coli O157.

Mae Vero cytotoxin E.coli (VTEC) O157 yn cynhyrchu tocsin sy’n gallu torri a dinistrio celloedd coch y gwaed. Pan fydd celloedd yn cael eu dinistrio, mae’n gallu arwain at gyflwr difrifol o’r enw syndrom hemolytig-uremig (HUS), a’r arennau yn methu.

Osgoi E. Coli O157 wrth fwyta allan 

Rydym ni’n gweithio gyda busnesau bwyd i’w helpu i gadw bacteria a gludir gan fwyd allan o’u cynnyrch a diogelu eu cwsmeriaid. Fel rhan o hyn, rydym ni wedi datblygu canllawiau ar y camau y dylai busnesau bwyd eu cymryd i atal croeshalogi rhwng bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta.

Pan fyddwch chi’n dewis ble i fwyta, cofiwch fod y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (Opens in a new window) yn rhoi syniad da i chi o safonau hylendid busnes bwyd.

Mae ein gwaith ymchwil ar E. Coli wedi mynd i’r afael ag ystod eang o faterion gan gynnwys risgiau sy’n gysylltiedig â bwyta cig, cynhyrchion llaeth a llysiau.

Mae achosion (outbreaks) wedi eu cysylltu â phridd wedi’i halogi ar arwyneb llysiau . Rydym ni wedi comisiynu gwaith ymchwil i bennu’r risg y mae pridd wedi’i halogi yn peri i iechyd pobl.

Mae gwaith ymchwil hefyd wedi ymdrin â’r risgiau sy’n gysylltiedig â byrgyrs heb eu coginio’n drylwyr a’u cynhyrchu nhw’n ddiogel mewn perthynas â VTEC O157. Mae canlyniadau’r gwaith hwn wedi arwain at greu canllawiau cynhwysfawr ar gyfer busnesau bwyd ar gynhyrchu byrgyrs yn ddiogel.

Rydym ni hefyd wedi ariannu gwaith ymchwil i ddeall E. Coli O157 mewn gwartheg yn well a datblygu strategaethau ymyrryd posibl ar y fferm er mwyn ei leihau.

Yn y Deyrnas Unedig, mae Safonau Bwyd yr Alban yn arwain ar lawer o’r gwaith E. Coli sy’n ymwneud â gwartheg, ac rydym yn cefnogi’r gwaith hwn.