Skip to main content
Research and analysis

Crynodeb gweithredol (executive summary – Welsh)

Published 30 July 2026

Mae pobl anabl yn y DU yn wynebu sawl her sy’n cydblethu. Mae bod yn anabl yn effeithio ar brofiadau llawer o bobl o ran cael mynediad at gyflogaeth, gofal iechyd, addysg a gwasanaethau hanfodol eraill. Yn ogystal, wrth feddwl am y dyfodol, bydd heriau strwythurol megis newid hinsawdd a thwf deallusrwydd artiffisial yn effeithio ar bobl anabl mewn ffyrdd gwahanol. Er mwyn deall yn well sut y bydd anghenion a phrofiadau pobl anabl yn newid dros y 5, 10 ac 20 mlynedd nesaf, ym mis Ionawr 2025 comisiynodd Uned Anabledd Swyddfa’r Cabinet y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol i gynnal rhaglen o waith ymchwil rhagweld ar y cyd â 12 o Sefydliadau Pobl Anabl.

Dull ac amcanion

Mae ymchwil rhagweld yn ddull sy’n helpu pobl i feddwl am y dyfodol. Mae’n defnyddio bydoedd dychmygol yn y dyfodol (enghreifftiau damcaniaethol o’r hyn a allai ddigwydd) i helpu pobl i feddwl y tu hwnt i’r cyfyngiadau presennol a thrafod datrysiadau i heriau cymhleth.[footnote 1] Yn y prosiect hwn, defnyddiwyd ymarfer creadigol strwythuredig i adeiladu bydoedd dychmygol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch dau gwestiwn sy’n canolbwyntio ar y dyfodol:

  1. Pa dueddiadau cymdeithasol (gan gynnwys tueddiadau demograffig), amgylcheddol, economaidd a thechnolegol sy’n debygol o effeithio ar bobl anabl yn y DU dros y 5, 10 ac 20 mlynedd nesaf?

  2. Sut y gallai’r tueddiadau newydd hyn greu heriau a chyfleoedd newydd i bobl anabl?

Er mwyn ateb y cwestiynau hyn, recriwtiwyd 12 o Sefydliadau Pobl Anabl i gymryd rhan mewn tri gweithdy ar-lein a barodd rhwng 90 a 180 munud. Er mwyn llywio gwaith cynllunio’r gweithdai, cynhaliwyd adolygiad cwmpasu o ddogfennau ymchwil a pholisi ynghylch anghenion a phrofiadau pobl anabl, gweithdy gyda llunwyr polisi, a chyfweliadau manwl cychwynnol â’r 12 Sefydliad Pobl Anabl a gymerodd ran.

Roedd ein dull strwythuredig yn cyfuno ffyrdd rhagfynegol a damcaniaethol o feddwl am y dyfodol. Roedd cwestiynau rhagfynegol yn gofyn i randdeiliaid ystyried beth oedd fwyaf tebygol o ddigwydd, yn eu barn nhw, ar sail tueddiadau ac amodau presennol. Mewn cyferbyniad, roedd cwestiynau damcaniaethol yn gwahodd rhanddeiliaid i ddychmygu bydoedd yn y dyfodol a oedd yn wahanol iawn i’r presennol, er mwyn nodi sut y gallai newid ddigwydd. Roedd y cyfweliadau â Sefydliadau Pobl Anabl yn canolbwyntio ar gwestiynau rhagfynegol er mwyn deall safbwyntiau rhanddeiliaid ynghylch y newidiadau a ragwelir mewn gwahanol feysydd polisi dros y 5, 10 ac 20 mlynedd nesaf.

Yng ngweithdai’r Sefydliadau Pobl Anabl — sef prif weithgaredd ymchwil y prosiect — buom yn archwilio cwestiynau damcaniaethol. Defnyddiwyd dull strwythuredig o adeiladu bydoedd y dyfodol er mwyn deall safbwyntiau Sefydliadau Pobl Anabl ar ddyfodol damcaniaethol mewn perthynas ag amrywiaeth o bynciau. Roedd hyn yn galluogi’r cyfranogwyr i symud y tu hwnt i heriau’r presennol a nodi ffactorau posib a allai hwyluso newid.

Adeiladodd y gweithdy cyntaf ar y mewnwelediadau o’r cyfweliadau er mwyn nodi’r chwe thema ar gyfer y dyfodol (deallusrwydd artiffisial, cyflogaeth, newid hinsawdd, lles, costau byw ac agweddau cymdeithasol) y byddem yn canolbwyntio arnynt yn y gweithgaredd adeiladu bydoedd. Yng Ngweithdy 2, rhannwyd y Sefydliadau Pobl Anabl yn dri grŵp, a neilltuwyd cyfuniad o ddwy o’r themâu hyn i bob grŵp, er enghraifft ‘newid hinsawdd’ a ‘lles’. Yna, drwy ymarferion strwythuredig, buont yn dychmygu canlyniadau damcaniaethol eithafol ar gyfer pob un o’r themâu, ac yn adeiladu tri dyfodol damcaniaethol gwahanol:

● byd heb newid hinsawdd a chanddo safon byw uchel

● byd teg â chostau byw uchel

● byd sy’n cael ei gynorthwyo gan ddeallusrwydd artiffisial, lle mae pobl anabl mewn cyflogaeth lawn

Trwy gydol y broses, cyfarwyddwyd y Sefydliadau Pobl Anabl i feddwl yn greadigol a defnyddio’u profiadau byw i ddatblygu’r tri dyfodol damcaniaethol hyn, ni waeth pa mor annhebygol y gallent ymddangos. Yna, dadansoddodd NatCen drawsgrifiadau o’r trafodaethau a’r data a gynhyrchwyd yn y gweithdai er mwyn nodi tueddiadau allweddol, heriau a ffactorau a allai hwyluso newid.

Canfyddiadau allweddol

Defnyddiodd yr ymarfer cwmpasu ddull STEEPV[footnote 2] i nodi tueddiadau sy’n berthnasol i brofiadau byw pobl anabl o’r byd ac i’r ffordd y mae’n newid. Roedd y canfyddiadau’n negyddol ar y cyfan, gyda’r dogfennau ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar dueddiadau pryderus y byddai angen rhoi sylw iddynt. Ar lefel gyffredinol iawn, dyma brif ganfyddiadau themâu STEEPV:

  • cymdeithasol – disgwylir i gyfran poblogaeth y DU sy’n anabl barhau i gynyddu, gyda goblygiadau i wariant cyhoeddus, yn enwedig o ystyried bod pobl anabl yn parhau i wynebu rhwystrau amgylcheddol, cymdeithasol ac agweddol
  • technolegol – gall datblygiadau technolegol wella profiadau pobl anabl neu eu hallgáu ymhellach, a chredir bod angen mwy o ymgysylltu â phobl anabl ar hyn o bryd er mwyn sicrhau hygyrchedd
  • economaidd – nodwyd nifer o dueddiadau sy’n debygol o gael effaith anghymesur ar sefyllfa ariannol pobl anabl
  • amgylcheddol – tynnwyd sylw at broblemau hygyrchedd presennol yn yr amgylchedd adeiledig, yn ogystal ag effeithiau negyddol ac anghymesur newid hinsawdd a pholisïau lliniaru’r newid yn yr hinsawdd nad ydynt yn gynhwysol i bobl anabl
  • gwleidyddol – tynnwyd sylw at y ffaith bod rhwystrau i gyfranogiad yn parhau
  • gwerthoedd – yr angen am fwy o gynrychiolaeth ac am gydnabod profiadau croestoriadol ac amrywiol pobl anabl

Roedd safbwyntiau cadarnhaol y Sefydliadau Pobl Anabl ar y dyfodol, ar y cyfan, yn wahanol i ganfyddiadau ein hadolygiad cwmpasu. Roedd y ffynonellau tystiolaeth a ystyriwyd yn yr adolygiad cwmpasu yn tueddu i roi darlun negyddol iawn o’r tueddiadau sy’n effeithio ar bobl anabl ar draws chwe maes polisi gwahanol. Roedd y bydoedd a grëwyd gan y Sefydliadau Pobl Anabl yn llawer mwy cadarnhaol, gan amlygu cyfleoedd a phosibiliadau nad oeddent wedi’u cofnodi yn y dystiolaeth bresennol. Mae’r gwrthgyferbyniad hwn yn dangos sut y gall ymchwil ddesg roi cyd-destun i’r mewnwelediadau a’r gwerth ychwanegol a gynigir gan ymchwil rhagweld. 

Dangosodd gweithdai’r Sefydliadau Pobl Anabl y canlynol:

Dyfodol uchelgeisiol yn helpu’r Sefydliadau Pobl Anabl i fynegi sut y gallant sicrhau newid

Roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn rhagweld bydoedd optimistaidd. Creodd un grŵp fyd mwy ‘cymhleth’, a nodweddid gan gyfuniad o amgylchiadau cadarnhaol a negyddol yn y dyfodol, ond ni chanolbwyntiodd yr un grŵp ar ddyfodol dystopaidd. Dywedodd llawer o’r Sefydliadau Pobl Anabl fod bydoedd cadarnhaol yn y dyfodol yn rhoi rhywbeth iddynt anelu ato, ac yn adlewyrchu eu cred y gallant sicrhau newid ystyrlon. Mae hyn yn awgrymu bod awydd o fewn y sector i drafod y dyfodol mewn ffordd optimistaidd, er gwaethaf heriau sylweddol yn y presennol, megis cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, a grybwyllwyd yn y gweithdy.

Roedd y Sefydliadau Pobl Anabl yn rhagweld rôl sylweddol i’r llywodraeth wrth fynd i’r afael â materion sy’n dod i’r amlwg, yn enwedig drwy gynyddu cyllid ac ehangu gwasanaethau cyhoeddus

Roedd y rhan fwyaf o’r Sefydliadau Pobl Anabl wedi creu bydoedd yn y dyfodol lle byddai’r llywodraeth yn sbarduno newid. Teimlai’r cyfranogwyr fod gan y llywodraeth rôl enfawr i’w chwarae o ran ariannu gwasanaethau i gefnogi pobl anabl, gorfodi deddfwriaeth i sicrhau hawliau pobl anabl, a chynnwys pobl anabl mewn prosesau llunio polisi. Teimlai’r cyfranogwyr hefyd y gallai’r llywodraeth arwain drwy esiampl a gosod y naws ar gyfer cynnwys pobl anabl ym mhob rhan o gymdeithas y DU.

Roedd y Sefydliadau Pobl Anabl yn ystyried y sector preifat yn actor eilaidd pwysig, gan ragweld newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae cwmnïau’n ymgysylltu â phobl anabl

Er bod y llywodraeth yn chwarae rhan allweddol yn y rhan fwyaf o’r bydoedd a ddychmygwyd gan y Sefydliadau Pobl Anabl, roedd rhai cyfranogwyr hefyd yn rhagweld rôl sylweddol i’r sector preifat. Roedd hyn yn amrywio o syniadau megis mwy o atebolrwydd yn y sector preifat am effeithiau newid hinsawdd i gwmnïau masnachol yn cyflogi mwy o bobl anabl. Nododd y cyfranogwyr hefyd y rôl y gallai’r sector preifat ei chwarae wrth arloesi ym maes technolegau cynorthwyol, a allai, yn eu barn nhw, leihau’r pwysau ar adnoddau’r wladwriaeth.

Tynnodd y Sefydliadau Pobl Anabl sylw at ragfarnau parhaus ac agweddau cymdeithasol negyddol tuag at bobl anabl fel ystyriaethau pwysig ar gyfer y presennol a’r dyfodol

Ar draws y tri byd yn y dyfodol, tynnodd y Sefydliadau Pobl Anabl sylw at wahaniaethu yn erbyn pobl anabl fel rhywbeth yr oedd angen mynd i’r afael ag ef drwy eu polisïau damcaniaethol. Nododd llawer o’r cyfranogwyr fod gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl ac agweddau cymdeithasol sy’n eu hallgáu yn heriau mawr y mae angen eu goresgyn er mwyn adeiladu dyfodol mwy optimistaidd. Mynegodd rhai cyfranogwyr bryder bod agweddau cymdeithasol presennol mewn gwirionedd yn mynd ‘am yn ôl’, ac yn allgáu mwy nag yr oeddent 10 neu 20 mlynedd yn ôl.  

Mae’r prif bwyntiau cyffredinol hyn yn crynhoi’r canfyddiadau a’r sylwadau cyffredinol o weithdai’r Sefydliadau Pobl Anabl. Mae’r adrannau sy’n dilyn yn manylu ar y prif ganfyddiadau a’r myfyrdodau o weithdai’r Sefydliadau Pobl Anabl, a arweiniodd at nodi’r ffactorau allweddol a allai hwyluso newid.

Ymchwil ac ymgysylltu pellach

Pan roddwyd cyfle iddynt ystyried bydoedd y dyfodol yn greadigol, roedd gan y Sefydliadau Pobl Anabl lawer o syniadau grymus i’w rhannu. Gallai ymchwil rhagweld yn y dyfodol adeiladu ar y gwaith hwn yn y ffyrdd canlynol:

Ymgysylltu ymhellach â Sefydliadau Pobl Anabl

Roedd yn nodedig bod yr ymchwil hwn wedi amlygu rôl fawr i’r llywodraeth, a rôl eilaidd i’r sector preifat, wrth sicrhau newid i bobl anabl, ond nid oedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn rhagweld rôl fawr i Sefydliadau Pobl Anabl nac i’r trydydd sector. Gallai ymchwil bellach gyda Sefydliadau Pobl Anabl ddefnyddio dull rhagweld sy’n anelu’n benodol at ddeall dyfodol posib y trydydd sector dros y 5, 10 ac 20 mlynedd nesaf.

Profi syniadau polisi penodol

Defnyddiodd yr ymchwil hwn ymarfer strwythuredig i adeiladu bydoedd er mwyn deall safbwyntiau Sefydliadau Pobl Anabl ar amrywiaeth eang o faterion sy’n dod i’r amlwg, er enghraifft deallusrwydd artiffisial neu newid hinsawdd. Gallai gwaith yn y dyfodol ddefnyddio ymarferion creadigol tebyg i ddeall sut mae rhanddeiliaid yn credu y gallai polisïau penodol effeithio ar gymunedau anabl, er enghraifft polisïau’r llywodraeth i gyflawni Sero Net, neu’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial gan adrannau penodol o’r llywodraeth.

Gweithio gyda grwpiau eraill sydd wedi’u hymyleiddio

Amlygodd yr ymchwil hwn fanteision ymchwil rhagweld o ran helpu cyfranogwyr i symud y tu hwnt i heriau a rhwystredigaethau dydd i ddydd. Gallai defnyddio’r dull hwn ymhellach wella dealltwriaeth llunwyr polisi o brofiadau a safbwyntiau rhanddeiliaid sy’n gweithio gyda grwpiau eraill.

Ehangu i feysydd pwnc newydd

Roedd yr ymarfer adeiladu bydoedd yn seiliedig ar chwe maes pwnc eang a nodwyd drwy gyfweliadau â rhanddeiliaid. Er bod hyn wedi esgor ar fewnwelediadau cyfoethog, gallai rhai meysydd pwnc a archwiliwyd yn llai manwl — megis gofal iechyd, addysg a thai — fod yn sail i weithgareddau ymchwil rhagweld yn y dyfodol gyda Sefydliadau Pobl Anabl.

  1. Canllaw byr i feddwl am y dyfodol a rhagweld – GOV.UK  

  2. Trwy gydol y prosiect, defnyddiwyd yr acronym STEEPV i gyfeirio at y meysydd a archwiliwyd: Cymdeithasol, Technolegol, Economaidd, Amgylcheddol, Gwleidyddol, ac yn seiliedig ar werthoedd.