Canllawiau

Canllawiau i bobl sydd am reoli cyfrif banc ar ran rhywun arall

Diweddarwyd 2 May 2023

Applies to England and Wales

Cyflwyniad

Mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn deall bod angen weithiau i rywun arall drin cyfrif cwsmer. Nodir y ffyrdd y gellir gwneud hyn yn y canllawiau hyn.

Os ydych chi’n cael yr awdurdod i drin cyfrif rhywun arall, fel arfer mae gennych chi’r un pŵer i reoli’r cyfrif â deiliad y cyfrif, yn dibynnu ar delerau ac amodau’r cyfrif, gweithdrefnau diogelwch ac unrhyw ofynion a bennir gan ddeiliad y cyfrif (a elwir yn rhoddwr yn achos atwrneiaeth) pan luniwyd y trefniant.

Mae’n bwysig bod deiliad y cyfrif yn ystyried sut y gallai unrhyw ofynion neu drefniadau penodol effeithio ar y modd y caiff eu cyfrif ei redeg. Er enghraifft, byddai deiliad cyfrif sy’n nodi y dylai’r ddau blentyn awdurdodi arian sy’n cael ei dynnu o’u cyfrif weithio’n dda ar gyfer cyfrif cynilo syml, ond ni fyddai’n gweithio pe bai angen gwneud trafodion dros y ffôn neu ar-lein.

Bydd angen i fanciau a chymdeithasau adeiladu wirio dogfennau penodol bob amser cyn y gallant adael i chi reoli cyfrif person arall. Bydd angen y canlynol arnynt:

  • prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad

  • tystiolaeth o’ch awdurdod i weithredu ar ran deiliad y cyfrif

  • phrawf o enw a chyfeiriad deiliad y cyfrif (os nad yw’r banc neu’r gymdeithas adeiladu wedi cael y rhain eisoes)

Mae’r dogfennau y mae angen i chi eu darparu i brofi eich enw a’ch cyfeiriad yn cynnwys y canlynol:

  • Prawf o’ch enw – eich pasbort neu’ch trwydded yrru

  • Prawf o’ch cyfeiriad – bil nwy, trydan, dŵr, ffôn llinell dir neu dreth gyngor diweddar, llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid a Thollau EM, neu lythyr gan berson priodol (er enghraifft, metron cartref gofal).

Gall y banc neu’r gymdeithas adeiladu roi manylion llawn y dogfennau maent yn eu derbyn.

Rheoli cyfrif banc rhywun arall pan fydd ganddynt alluedd meddyliol

Mae gan berson alluedd meddyliol os ydynt yn gallu deall, cofio a gweithredu ar wybodaeth briodol ac felly’n gallu gwneud penderfyniadau’n ddibynadwy drostynt eu hunain.

Gall deiliad cyfrif sydd â galluedd meddyliol awdurdodi rhywun arall i gael mynediad at eu cyfrif. Gall hyn fod er hwylustod neu oherwydd cyfnodau hir o deithio neu anableddau corfforol deiliad y cyfrif.

Os oes gennych yr hawl i ddelio â chyfrif rhywun sydd â galluedd meddyliol, mae gennych ‘fandad trydydd parti’. Nid yw mandad trydydd parti yn briodol os yw deiliad y cyfrif yn colli’r gallu i wneud penderfyniadau perthnasol eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth am gael mandad trydydd parti i reoli cyfrif rhywun sydd â galluedd meddyliol, dylech chi a deiliad y cyfrif siarad â’r banc neu’r gymdeithas adeiladu.

Ffordd arall o wneud gweithrediadau bancio ar ran rhywun sydd â gallu meddyliol yw drwy gael beth a elwir yn atwrneiaeth gyffredin. Mae hyn yn eich galluogi i wneud penderfyniadau ariannol ar ran deiliad y cyfrif (a elwir yn rhoddwr). Fodd bynnag, nid yw atwrneiaeth gyffredin yn awdurdod cyfreithiol os yw’r rhoddwr yn colli galluedd meddyliol.

Ceir ffurflen safonol o eiriau i ganiatáu atwrneiaeth gyffredin. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â chyfreithiwr neu gynghorydd profiadol (er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth).

Gellir defnyddio rhai Atwrneiaethau Parhaus ac Arhosol (gweler y dudalen ganlynol) hefyd pan fydd gan ddeiliad y cyfrif alluedd meddyliol.

Rheoli cyfrif banc rhywun arall pan nad oes ganddynt alluedd meddyliol

Nid oes gan berson alluedd meddyliol os nad ydynt yn gallu deall, cofio a gweithredu ar wybodaeth briodol ac felly nid yn gallu gwneud penderfyniadau’n ddibynadwy drostynt eu hunain.

Atwrneiaeth arhosol materion ariannol ac eiddo

Mae atwrneiaeth arhosol materion ariannol ac eiddo yn galluogi person (a elwir yn rhoddwr) i benodi person arall (yr atwrnai) neu bobl (atwrneiod) i wneud penderfyniadau am eu harian a’u heiddo os nad ydynt yn gallu gwneud y penderfyniadau hyn, ac mewn rhai achosion, tra bo gan y rhoddwr alluedd meddyliol o hyd.

Rhaid i’r rhoddwr wneud atwrneiaeth arhosol. Gallant ddewis rhoi i chi, yr atwrnai, yr awdurdod ar unwaith neu dim ond pan fydd y rhoddwr yn colli’r gallu i wneud penderfyniadau. Gall y rhoddwr osod cyfyngiadau ar sut y gallwch reoli’r cyfrif a gall hefyd gynnwys canllawiau i chi yn yr atwrneiaeth arhosol. Bydd angen i chi wneud yn siŵr nad yw unrhyw gyfyngiadau, amodau neu ganllawiau yn eich atal rhag gallu rheoli’r cyfrif.

Cyn i chi allu defnyddio eich awdurdod, rhaid i’r atwrneiaeth arhosol gael ei chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Nid yw cofrestru’r atwrneiaeth arhosol yn golygu bod y rhoddwr wedi colli eu galluedd meddyliol.

Ar ôl i’r atwrneiaeth arhosol gael ei chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, bydd angen i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu weld y pethau canlynol cyn y gallwch ddechrau rheoli materion ariannol y rhoddwr:

  • Y ffurflen atwrneiaeth arhosol wedi’i llenwi a’i llofnodi, wedi’i chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

  • Prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad, a rhai’r rhoddwr (os nad yw’r banc neu’r gymdeithas adeiladu wedi cael y rhain eisoes)

Rhaid i’r ffurflen atwrneiaeth arhosol a roddwch i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu fod yn:

  • ddogfen wreiddiol neu’n gopi mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i stampio ar bob tudalen; neu

  • wedi cael llofnod ar bob tudalen gan y rhoddwr, twrnai neu notari i gadarnhau ei fod yn gopi cywir o’r atwrneiaeth arhosol wreiddiol

Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud atwrneiaeth arhosol, cysylltwch â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 0300 456 0300, siaradwch â chyfreithiwr neu gynghorydd profiadol (er enghraifft, Cyngor ar Bopeth) neu ewch i’r gwefannau yn a GOV.UK.

Atwrneiaeth barhaus

Atwrneiaeth barhaus yw pan fydd rhywun yn gwneud penderfyniad, cyn iddynt ddod yn analluog, i benodi rhywun maent yn ymddiried ynddynt (yr atwrnai), i ofalu am eu harian neu eu heiddo. Ni ellir gwneud atwrneiaethau parhaus mwyach gan eu bod wedi’u disodli gan atwrneiaethau arhosol materion ariannol ac eiddo dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Fodd bynnag, os oedd atwrneiaeth barhaus ar waith cyn 1 Hydref 2007, gall barhau i fod yn berthnasol.

Os oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol, gallwch ddefnyddio’r atwrneiaeth barhaus heb orfod ei chofrestru. Fodd bynnag, os ydych chi’n credu bod y rhoddwr wedi colli neu’n colli eu galluedd meddyliol, dim ond ar ôl iddi gael ei gofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus cewch weithredu’r atwrneiaeth barhaus, neu os cafodd ei chofrestru gyda’r Llys Gwarchod cyn 1 Hydref 2007.

Bydd eich pwerau’n cael eu cyfyngu wrth i’ch cofrestriad gael ei brosesu.

Unwaith y bydd yr atwrneiaeth barhaus wedi’i chofrestru, bydd angen i chi gysylltu â banc neu gymdeithas adeiladu’r rhoddwr er mwyn iddynt allu sefydlu trefniadau priodol i’ch galluogi i reoli’r cyfrif. Os dymunwch, gallwch wneud hyn tra bo gan y rhoddwr alluedd meddyliol o hyd. Bydd angen i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu weld y pethau canlynol cyn y gallwch ddechrau rheoli cyfrif y rhoddwr.

  • Yr atwrneiaeth barhaus wedi’i llenwi a’i llofnodi. Gellir gwneud hyn heb ei chofrestru os yw’r rhoddwr yn dal i fod â galluedd meddyliol. Os yw’r rhoddwr wedi colli galluedd meddyliol, rhaid ei chofrestru.

  • Prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad, a rhai’r rhoddwr (os nad yw’r banc neu’r gymdeithas adeiladu wedi cael y rhain eisoes).

Rhaid i’r ffurflen atwrneiaeth barhaus a roddwch i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu fod yn:

  • ddogfen wreiddiol neu’n gopi mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i stampio ar bob tudalen; neu

  • wedi cael llofnod ar bob tudalen gan y rhoddwr, twrnai neu notari i gadarnhau ei fod yn gopi cywir o’r atwrneiaeth barhaus wreiddiol.

Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru hefyd.

Y Llys Gwarchod – gorchymyn llys neu apwyntiad dirprwyaeth

Mae’r Llys Gwarchod (yng Nghymru a Lloegr) yn gwarchod hawliau pobl nad oes ganddynt alluedd meddyliol. Pan fydd person nad oes ganddynt alluedd meddyliol heb wneud atwrneiaeth, neu nid yn gallu gwneud atwrneiaeth, gall y Llys Gwarchod benderfynu pwy all ymdrin â materion y person hwnnw.

Fel arfer bydd ffrind agos, aelod o’r teulu neu rywun arall y gellir ymddiried ynddo yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod am orchymyn llys i benodi ‘dirprwy’. Bydd y gorchymyn llys yn nodi pa benderfyniadau gall y dirprwy eu gwneud ar ran y person nad oes ganddynt alluedd meddyliol (er enghraifft, gallai ddweud mai dim ond am bensiwn neu forgais y person y gellir gwneud penderfyniadau).

Os cewch eich penodi’n ddirprwy i berson nad oes ganddynt alluedd meddyliol, bydd angen i chi gysylltu â’u banc neu eu cymdeithas adeiladu er mwyn iddynt allu sefydlu trefniadau priodol. Bydd angen i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu weld y pethau canlynol cyn iddynt adael i chi gael mynediad i’r cyfrif.

  • Y gorchymyn llys neu gopi ohono.

  • Prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad, a rhai deiliad y cyfrif (os nad yw’r banc neu’r gymdeithas adeiladu wedi cael y rhain eisoes).

Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am y Llys Gwarchod, edrychwch ar y gwefannau yn Cyngor ar Bopeth a www.gov.uk/court-of-protection

Penodai’r Adran Gwaith a Phensiynau

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau benodi rhywun (penodai) i weithredu ar ran person sy’n derbyn budd-daliadau gwladol nad ydynt yn gallu rheoli eu materion sy’n ymwneud â budd-daliadau, oherwydd bod ganddynt anabledd corfforol neu heb alluedd meddyliol.

Os ydych am fod yn benodai ar ran rhywun arall, dylech gysylltu â swyddfa leol Adran Gwaith a Phensiynau y person hwnnw ac esbonio bod y person eisiau i chi reoli eu budd-daliadau oherwydd na allant wneud hynny eu hunain.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymweld â chi neu’n eich cyfweld ac yn llenwi ffurflen benodai (ffurflen BF56). Byddant hefyd yn ymweld â’r person y byddech yn gweithredu ar eu rhan. Os cewch eich derbyn yn benodai, byddwch yn cael ffurflen BF57 i gadarnhau eich penodiad.

Mae dod yn benodai yn caniatáu i chi reoli taliadau budd-dal y person arall yn unig. Os ydych chi eisiau rheoli arian arall, bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod i fod yn ddirprwy.

Pan fydd taliadau budd-dal unigolyn yn cael eu rheoli gan rywun arall, mae rhai banciau’n gosod terfynau ar faint o arian sydd gan y person hwnnw yn eu cyfrif. Pan ddowch yn benodai, dylai’r banc roi gwybod i chi a oes terfyn a faint ydyw.

Bydd angen i chi gysylltu â’r banc neu’r gymdeithas adeiladu sy’n dal y cyfrif y telir y budd-daliadau iddo. Bydd angen i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu weld y pethau canlynol cyn iddynt adael i chi gael mynediad i’r cyfrif.

  • Y ffurflen BF57 a gawsoch gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

  • Prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad, a rhai’r person sy’n cael y taliadau budd-dal (os nad yw’r banc neu’r gymdeithas adeiladu wedi cael y rhain eisoes).

Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am y Llys Gwarchod, edrychwch ar y gwefannau yn Cyngor ar Bopeth a www.gov.uk/court-of-protection.

‘Person addas’ yr Awdurdod Lleol yn rheoli taliad uniongyrchol

Gall awdurdodau lleol dalu taliadau uniongyrchol fel y gall pobl sydd angen gofal iechyd neu ofal cymdeithasol drefnu a thalu am y gofal hwnnw eu hunain.

Gall awdurdod lleol ganiatáu i ‘berson addas’ reoli taliad uniongyrchol a delir am ofal person arall. Mae hyn yn digwydd fel arfer os nad yw’r person y mae’r taliad uniongyrchol ar eu cyfer yn gallu rheoli eu gofal oherwydd nad oes ganddynt alluedd meddyliol.

Gall yr awdurdod lleol benderfynu pwy ddylai fod yn berson addas. Gallai fod yn atwrnai, yn ddirprwy, yn benodai’r Adran Gwaith a Phensiynau neu’n berson arall, fel gofalwr. Y person addas fydd yr unig berson a all gael mynediad at y taliad uniongyrchol a’i reoli. Os na phenodir atwrnai, dirprwy neu benodai DWP yn berson addas, ni allant gael mynediad at y taliad uniongyrchol a’i reoli.

Os yw’r awdurdod lleol yn eich awdurdodi i fod yn berson addas, bydd angen i chi wneud trefniadau i’r taliad uniongyrchol gael ei dalu i gyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu. Dylid cadw’r cyfrif yn eich enw chi ond gan nodi eich bod yn ei gadw ar ran y person mae’r taliadau ar eu cyfer (er enghraifft, ‘Joan Smith ar ran Edward Smith’).

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn ‘berson addas’, siaradwch â’ch awdurdod lleol neu edrychwch ar y gwefannau yn www.citizensadvice.org.uk a www.gov.uk

Delio â chyfrif banc ar y cyd

Mae cyfrif ar y cyd yn caniatáu i ddau berson ddefnyddio cyfrif naill ai ar wahân neu gyda’i gilydd. Yn dibynnu ar delerau ac amodau’r cyfrif ar y cyd, gellir rhoi mynediad i berson arall i gyfrif ar y cyd ar ran un o ddeiliaid y cyfrif.

Os bydd un deiliad cyfrif ar y cyd yn colli galluedd meddyliol, gall banciau a chymdeithasau adeiladu benderfynu a ddylid cyfyngu dros dro ar ddefnyddio’r cyfrif i drafodion hanfodol yn unig (er enghraifft, treuliau byw a biliau meddygol neu ofal preswyl) hyd nes y penodir dirprwy neu fod atwrneiaeth wedi’i chofrestru.

Os oes gan berson gyfrif ar y cyd â rhywun sy’n colli galluedd meddyliol, dylent siarad â’u banc neu eu cymdeithas adeiladu.

Atwrneiod sy’n gweithredu ar ran deiliad cyfrif ar y cyd

Os bydd un deiliad cyfrif ar y cyd yn colli’r gallu i weithredu eu cyfrif a bod atwrneiaeth arhosol neu barhaus gofrestredig ar waith, yna bydd y banc yn caniatáu i’r atwrnai a deiliad y cyfrif (gyda galluedd) weithredu’r cyfrif yn annibynnol ar ei gilydd, oni bai fod deiliad y cyfrif (gyda galluedd) yn gwrthwynebu. Mewn achosion o’r fath, bydd y banc fel arfer ond yn caniatáu i’r cyfrif barhau i weithredu ar sail ‘dau lofnod’.

Er y bydd deiliad y cyfrif ar y cyd â galluedd wedi cael gwybod pan gofrestrwyd yr atwrneiaeth gyntaf gyda’r banc, mae’n arfer gorau i’r banc ail-hysbysu’r cwsmer pan fydd yr atwrneiaeth yn cael ei rhoi ar waith.

Nid yw hon yn ddogfen gyfreithiol nac yn god ymarfer. Arweiniad yn unig ydyw. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru a Lloegr.

Cysylltiadau defnyddiol

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Cymru a Lloegr)
Gwefan: www.gov.uk/opg
Ffôn: 0300 456 0300

Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Gwefan: www.gov.uk/government/organisations/department-for-work-pensions.cy
Ffôn: 0800 88 22 00

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi
Gwefan: www.gov.uk/government/organisations/hm-courts-and-tribunals-service.cy
Ffôn: 0845 4568770

Cymdeithas y Cyfreithwyr (Cymru a Lloegr)
Gwefan: https://solicitors.lawsociety.org.uk/
Ffôn: 0207 242 1222

Cyfreithwyr ar gyfer Pobl Hŷn (SFE)
Gwefan: www.sfe.legal/
Ffôn: 0844 567 6173

Y Gymdeithas Alzheimer’s
Gwefan: www.alzheimers.org.uk
Ffôn: 0333 150 3456

Age UK
Gwefan: www.ageuk.org.uk
Ffôn: 0800 169 6565