Cyflwyno dogfennau drwy’r post
Ar lein y ffeiliwyd y rhan fwyaf o ddogfennau sy’n cael eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau ond mae rhai cwsmeriaid yn ffeilio dogfennau drwy’r post o hyd.
Dogfennau
Manylion
Dylai unrhyw un sy’n ffeilio dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau ddeall ei gyfrifoldebau cyfreithiol.
Ffeiliwch wybodaeth eich cwmni ar-lein nawr - gan gynnwys cyfrifon, datganiad cadarnhau a diweddariadau cwmni. Gwyliwch fideo i weld pa mor hawdd yw hi i ffeilio ar lein
Rhaid i gyfrifon gael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau erbyn y dyddiad dyledus. Os caiff cyfrifon eu ffeilio’n hwyr, caiff cosb ffeilio hwyr ei gosod ar y cwmni.
Gallwch wirio cofnod eich cwmnii weld pryd mae’ch dyddiadau dyledus ar gyfer ffeilio a bod y manylion sydd gan Dŷ’r Cwmnïau yn gyfredol.
Ni all y Cofrestrydd Cwmnïau dderbyn oedi wrth gael eu cludo fel rheswm dros anwybyddu cosb.
Mae’n rhaid ysgrifennu enw cwmni yn llawn ar ddogfennau: ni ddylai cwtogai enw “Cwmni Enghreifftiol Cyfyngedig” i “Cwmni Enghreifftiol Cyf”. Mae talfyriadau yn enwau cwmnïau yn annerbyniol.
Rhaid cyflwyno’r holl ddogfennau i’r Cofrestrydd mewn fformat derbyniolneu byddant yn cael eu dychwelyd i’r cyflwynydd neu’r cwmni i’w diwygio.
Defnyddio gwasanaeth danfon trwy’r post
Os ydych yn defnyddio gwasanaeth danfon trwy’r post, rydym yn awgrymu eich bod:
- yn ymwybodol bod colled neu oedi’n bosibl wrth anfon pethau gyda gwasanaethau post a gwasanaethau cludo eraill
- yn nodi unrhyw anghydfodau diwydiannol neu ffactorau eraill a all ei gwneud yn anodd i gwmni cludo ddod â’r dogfennau’n brydlon
- yn defnyddio gwasanaeth danfoniad wedi’i warantu wrth bostio’n agos at ddyddiad terfyn
Byddwn yn gydnabod bod y dogfennau wedi dod i law, os ydych yn ddarparu amlen gyfeiriedig â stamp a chopi o’ch llythyr eglurhaol - nid yw hyn ond yn cadarnhau bod y ddogfen wedi dod i law, nid ein bod wedi’i harchwilio a’i chofrestru.
Ble i anfon eich dogfennau
Rhaid i gwmnïau Lloegr a Chymru anfon eu dogfennau at y Cofrestrydd yng Nghaerdydd Rhaid i gwmnïau’r Alban anfon eu dogfennau at y Cofrestrydd yng Nghaeredin Rhaid i gwmnïau Gogledd Iwerddon anfon eu dogfennau at y Cofrestrydd ym Melffast
Gwybodaeth ychwanegol
Gellir cael cyfarwyddyd ar gyfrifoldebau cyfreithiol cyfarwyddwyr cwmnïau, y dyddiadau dyledus ar gyfer ffeilio cyfrifon a chyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd Cwmnïau yn ein canllawiau.
Ceir gwybodaeth fanylach am yr hyn a ystyrir yn briodol o ran danfon dogfen yn ein canllaw ar reolau a phwerau’r Cofrestrydd.
Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan y Post Brenhinol (Medi – Tachwedd 2014) am ei berfformiad danfon yn dangos nad yw cymaint â 7.1% o bost dosbarth cyntaf yn cyrraedd pen ei daith erbyn y diwrnod gwaith nesaf ar ôl ei bostio.
Prif lun: Lunewind/Shutterstock.com, defnyddiwyd o dan drwydded.