Datganiad ynghylch gwaredu gwastraff arlwyo o ddull teithio rhyngwladol
Datganwch fod gwastraff arlwyo wedi'i waredu o long neu awyren sydd wedi teithio o fewn y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn dilyn taith ryngwladol.
Dogfennau
Manylion
Ystyrir bod unrhyw wastraff bwyd a gynhyrchir gan eich llong neu’ch awyren wrth deithio o fewn y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn wastraff domestig:
-
os bydd pob rhan o’r llong neu’r awyren sy’n dod i gysylltiad â bwyd (er enghraifft, y gegin neu’r ystafelloedd storio) wedi’i glanhau a’i diheintio
-
os bydd ailstocio â nwyddau sy’n cydymffurfio â safonau Prydain Fawr yn cael ei wneud o fewn y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw
Rhaid i chi lenwi’r ffurflen hon fel datganiad ysgrifenedig i gadarnhau bod y camau hyn wedi’u cymryd.
Nid yw’r ffurflen hon yn gymwys i awyrennau masnachol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllawiau ar drin a gwaredu gwastraff arlwyo rhyngwladol.