Guidance

Cyfarwyddyd i'r ymgeisydd ar gwblhau'r ffurflen gais DBS

Updated 21 September 2018

Y diweddaraf i fod yn ymwybodol ohonynt

Hysbysiad Prosesu Teg

Yn ogystal â’r wybodaeth a ddisgrifir ar hysbysiad prosesu teg y DBS ar y ffurflen gais am Ddatgeliad, gall y DBS ddefnyddio unrhyw wybodaeth ar dystysgrif neu a gedwir gan y DBS i hysbysu unrhyw un o’i benderfyniadau gwahardd a wnaed dan ei rymoedd o fewn y Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

Addasiad cwestiwn e55 ar y ffurflen Cais am Ddatgeliad

Yn dilyn cyflwyno rheolau newydd sy’n eithrio rhai euogfarnau, rhybuddion, ceryddon a rhybuddiadau, dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y dylid nawr dehongli cwestiwn e55 ar y ffurflen gais fel: “a oes gennych unrhyw euogfarnau, rhybuddion, ceryddon, rhybuddiadau neu rybuddiadau terfynol, na ellid eu heithrio yn unol â chanllaw”. Ceir rhagor o wybodaeth ar yr eithriadau ar y wefan https://www.gov.uk/government/publications/dbs-filtering-guidance.

Mae’r DBS yn trefnu i’r addasiad ar y Ffurflen Gais Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bresennol adlewyrchu’r newid hwn. Fodd bynnag, nes y gwneir yr addasiad hwn, byddwn yn cynghori a darparu arweiniad i ymgeiswyr a chyflogwyr i ddehongli’r cwestiwn hwn fel uchod.

Rheolau cyffredinol

PlPeidiwch â chyflwyno llungopïau o’r ffurflen gais, byddant yn cael eu dychwelyd.

  • Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau hunaniaeth gyda’ch cais.
  • Defnyddiwch INC DU wrth gwblhau’r ffurflen hon a rhoi un nod yn unig ym mhob blwch.
  • Defnyddiwch BRIFLYTHRENNAU wrth gwblhau’r ffurflen hon.
  • Mae’r holl rannau mewn MELYN a’u meysydd cysylltiedig yn ofynnol a rhaid eu cwblhau.
  • PEIDIWCH â CHWBLHAU CWESTIWN a28, a29 nac adran d – nid yw’r rhain bellach yn feysydd gofynnol.
  • Os nad yw maes yn berthnasol i chi, dylech ei adael yn wag. Peidiwch â rhoi Amh nac unrhyw amrywiad ar hyn.
  • Os ydych chi’n gwneud camgymeriad, rhowch linell trwyddo a’i gywiro ar yr ochr dde. PEIDIWCH â defnyddio hylif cywiro.
  • Sicrhewch eich bod yn darparu’r holl gyfeiriadau ble buoch yn byw yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn cynnwys unrhyw gyfeiriadau tramor (gweler y canllaw ar gyfeiriadau eraill – rheolau).
  • Os oes digon o le ar y ffurflen gais, lawrlwythwch a chwblhau dalen barhad o: https://www.gov.uk/government/publications/dbs-continuation-sheet

Adran a – eich enwau cyfredol a blaenorol

Os nad oes gennych fynediad at y rhyngrwyd, gallwch ofyn am hyn gan y sefydliad a ofynnodd i chi wneud cais.

  • Os ydych chi wedi dewis mwy nag un i’r opsiynau IE/NA trwy gamgymeriad, rhowch groes yn y blwch cywiro a’i gylchu.
  • Cadwch eich llofnod yn y blwch a ddarparwyd.
  • Ni ddylech gynnwys stampiau na sticeri ar y ffurflen.
  • Dylai ymgeiswyr trawsrywiol gysylltu â llinell ceisiadau sensitif y DBS ar 0151 676 1452 neu anfon e-bost at sensitive@dbs.gov.uk am gyngor pellach ar lenwi’r ffurflen.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ynglŷn â’r broses ymgeisio neu ar gwblhau’ch ffurflen gais, cysylltwch â Chanolfan Alwadau Gwasanaethau Cwsmeriaid y DBS ar 03000 200 191.

Os nad yw maes yn berthnasol i chi, dylech ei adael yn wag. Peidiwch â rhoi Amh nac unrhyw amrywiad ar hyn.

Bydd y Corff Cofrestredig yn gofyn i chi gadarnhau’r holl fanylion a roddwch yn yr adran hon.

  • Rhowch eich teitl yn adran a1.
  • Rhowch eich cyfenw cyfredol yn adran a2.
  • Rhowch eich enwau cyntaf cyfredol yn adran a2.
  • Nodwch a ydych wedi’ch adnabod gydag unrhyw enwau eraill trwy ddewis yr ateb do neu naddo yn a4.
  • Os ydych chi’n dewis do rhaidi chi ddarparu’r holl enwau a ddefnyddiwyd i’ch adnabod er eich geni.
  • Ar gyfer pob enw a roddwch, rhaid i chi sicrhau fod y meysydd enw cyntaf a chyfenw ill dau wedi eu cwblhau.
  • Rhaid i chi ddarparu’r dyddiadau i ac o ar gyfer pob enw a ddefnyddiwyd i’ch adnabod trwy ddefnyddio’r fformat dyddiad MMBBBB yn unig. Sicrhewch y rhoddir eich dyddiadau mewn trefn esgynnol.
From and to dates in MMYYYY format

(DBS application form) from and to dates in MMYYYY format

  • Os ydych chi’n defnyddio dau enw ar yr un pryd e.e. i ddibenion proffesiynol, dylech roi’ch prif enw yn a2/3 a’ch enw eilaidd yn a5, gan gynnwys enwau cyntaf a rhoi’r dyddiad cyfredol yn y maes dyddiad i.
  • Nid oes rhaid i ymgeiswyr a gafodd eu mabwysiadu cyn eu bod yn 10 oed roi eu henw pan y’u ganed.

Os ydych chi angen darparu unrhyw enwau eraill, gallwch ddefnyddio dalen barhad sydd ar gael o www.gov.uk/government/publications/dbs-continuation-sheet.

A - manylion yr ymgeisydd
  • Rhowch eich dyddiad geni yn adran a14 yn defnyddio’r fformat DDMMBBBB e.e. rhaid rhoi 8 Chwefror 1981 fel:
Date of birth in DDMMYYYY format

(DBS application form) date of birth in DDMMYYYY format

Os nad ydych yn rhoi dyddiad geni llawn neu os ydych chi’n defnyddio fformat amgen, fe ddychwelir eich ffurflen i chi.

  • Cwblhewcha 15 – a19.
  • Os oes genych Rif Yswiriant Gwladol, dewiswch yr ateb cadarnhaol yn a20 a rhoi’ch rhif yn a21.

Adran a - trwydded yrru

Os oes gennych rif Trwydded Yrru’r Deyrnas Unedig, atebwch yn gadarnhaol yn a22 a rhoi’ch rhif yn a23.

Mae hyn yn cynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Nid ydym angen gwybodaeth trwydded yrru dramor.

Fformat Trwydded Yrru

Rhaid defnyddio’r fformat cywir ar gyfer trwydded yrru. Os ydych chi’n rhoi’r wybodaeth yn anghywir, efallai y bydd rhaid i ni ddychwelyd eich ffurflen gais.

Fformat Trwydded Yrru

Os oes gennych basbort, rhowch ateb cadarnhaol yn a24 a chwblhau adrannau a25 i a27.

Rhaid i’r manylion pasbort gynnwys rhif, cenedligrwydd a gwlad cyhoeddi.

Adran b/c – cyfeiriad cyfredol ac arall

Eich Cyfeiriad Cyfredol

Rhowch y cyfeiriad ble rydych yn byw ar hyn o bryd yn adran b. Dyma ble fyddwch chi’n gweld canlyniadau eich gwiriad DBS. Rhowch bob cyfeiriad arall ble buoch yn byw yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn adran c. Ar gyfer pob cyfeiriad, sicrhewch eich bod yn rhoi:

  • Enw / rhif y tŷ a’r stryd.
  • Y dref/dinas.
  • Y sir.
  • Y cod post.
  • Y wlad.
  • Rhowch y dyddiad pan symudoch i mewn i’ch cyfeiriad presennol yn b37 gan ddefnyddio’r fformat MMBBBB yn unig. • Ar gyfer cyfeiriadau blaenorol, rhowch y dyddiad pan symudoch i mewn ac allan o bob cyfeiriad yn defnyddio’r fformat MMBBBB yn unig.

Adran c – cyfeiriadau eraill – rheolau

  • Dim ond y rhif BFPO a’r dyddiadau pan fuoch yn byw yn y cyfeiriad fydd angen ar gyfer cyfeiriadau Swyddfa Bost Lluoedd Prydain (BFPO).
  • Os nad oedd gennych gartref sefydlog am gyfnod o amser neu os oeddech chi’n teithio o fewn y Deyrnas Unedig, rhowch DIM CARTREF SEFYDLOG neu TEITHIO yn llinell gyntaf y cyfeiriad, y Dref/Ddinas ble roeddech a’r dyddiadau pan arhosoch yno.
  • Os ydych chi wedi gweithio neu fyw ar long, rhowch gyfeiriad angori y llong ar gyfer y cyfnod pan yr oeddech dramor.
  • Os ydych chi wedi byw mewn cyfeiriad gwarchodedig neu loches, dim ond y cyfeiriad sydd angen i chi ei roi. Peidiwch â chyfeirio at natur y cyfeiriad hwn.
  • Os ydych chi wedi byw dramor am gyfnod estynedig, dylech roi TRAMOR yn llinell gyntaf eich cyfeiriad blaenorol a rhoi’r wlad a dyddiadauyn y meysydd a ddarparwyd, fodd bynnag nid oes angen i ni wybod am wyliau ar gychod neu longau oni bai mai dyma oedd eich preswylfa barhaol, ac os felly dylid ei gynnwys.

Myfyrwyr / Cyflogeion sy’n Teithio / Staff Meddygol

  • Os ydych chi’n fyfyriwr, yn teithio’n aml gyda’ch gwaith neu wedi’ch cyflog fel staff meddygol ac yn byw mewn llety efallai bod gennych gyfeiriad parhaol arall yr ystyriwch i fod yn gartref. Gallai’r cyfeiriad hwn fod yn gartref teuluol neu gartref eich rheini ble rydych yn byw fel arfer pan nad ydych i ffwrdd, er enghraifft yn ystod blwyddyn academaidd.
  • Efallai y bydd yn ymddangos fel bod bylchau rhwng eich cyfeiriadau, wrth i chi adael un cyfeiriad am un arall, neu fod eich cyfeiriadau yn gorgyffwrdd. Er y gallwn dderbyn cyfeiriadau sy’n gorgyffwrdd, byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad parhaol i lenwi unrhyw fylchau yn eich hanes cyfeiriad os darparwyd cyfnod pum mlynedd lawn.
  • Os ydych chi’n cael anhawster wrth gwblhau’ch hanes cyfeiriad, ewch i www.gov.uk/dbs i neu cysylltwch â’r DBS ar.

Beth sy’n digwydd nesaf?

  • Peidiwch â chwblhau adran d
  • Llenwch yr holl feysydd yn adran e a llofnodi’r datganiad.
  • Gofynnir adran e, cwestiwn 55 gan y DBS i ymgeisydd i ddibenion cysylltu Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC) yn unig. Os ydych chi wedi gwneud cais i ac wedi derbyn cadarnhad gan yr heddlu fod trosedd a ddiddymwyd wedi ei dileu o’r PNC, does dim angen i chi gynnwys y drosedd hon i’r ateb a roddir i’r cwestiwn hwn. Ni fydd trosedd a ddiddymwyd sydd wedi ei thynnu o’r PNC yn ymddangos ar dystysgrif DBS.
  • Wedi i chi gwblhau adrannau a, b, c ac e ar y ffurflen gais, darllenwch trwyddo i sicrhau’ch bod wedi darparu’r holl wybodaeth a geisiwyd.
  • Cofnodwch eich Cyfeirnod Ffurflen o flaen eich ffurflen gais er mwyn olrhain y cynnydd ar-lein trwy fynd i www.gov.uk/dbs a dewis ‘Olrhain eich cais DBS ar-lein’.
  • Mae’r gwasanaeth olrhain ar-lein yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio.

Gallwch hefyd ddefnyddio eich rhif ffurflen gais i ymuno â’r Gwasanaeth diweddaru os ydych chi eisiau cadw’ch tystysgrif DBS yn gyfredol. Gallwch ymuno â’n Gwasanaeth Diweddaru ar www.gov.uk/dbs-update-service.

  • Os nad ydych chi’n ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru gyda’ch cyfeirnod ffurflen gais, gallwch ddefnyddio eich rhif Tystysgrif DBS. Rhaid i chi ymuno o fewn 14 niwrnod i ddyddiad cyhoeddi’r Dystysgrif.
  • Fel ymgeisydd ni ddylech anfon eich ffurflen gais yn uniongyrchol i’r DBS.
  • Dylid rhoi’ch ffurflen gais, ac unrhyw ddalenni parhad a ddefnyddioch, yn ôl i’r sawl a ofynnodd i chi ei llenwi, ynghyd â dogfennaeth wreiddiol i gadarnhau eich hunaniaeth.