Home Office leaflet: current account closed (Welsh, accessible)
Updated 19 June 2025
Mae hwn yn rhybudd pwysig.
Pam mae’ch cyfrif wedi cau
Mae cofnodion y Swyddfa Gartref yn nodi nad oes gennych ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig. O dan Adran 40G o Ddeddf Mewnfudo 2014 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Mewnfudo 2016), mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi gwybod i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ei bod o dan rwymedigaeth i gau cyfrif a weithredir gan neu ar eich rhan.
Ni fydd unrhyw gais neu apêl a gyflwynir ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn yn effeithio’n awtomatig ar y penderfyniad i gau’r cyfrif hwn.
Y camau nesaf
Os nad oes gennych sail ddilys i aros yn gyfreithiol yn y DU, dylech wneud trefniadau i adael cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Mae methu â gwneud hynny’n golygu y byddwch yn cael eich gorfodi i gael eich symud gan y Swyddfa Gartref.
Gellir cysylltu â’r Gwasanaeth Dychwelyd Gwirfoddol (VRS) i gael help a chyngor ar adael y DU. Gallant egluro’ch opsiynau ar gyfer dychwelyd adref, eich helpu i gael dogfennau teithio, talu am docynnau teithio os na allwch a darparu pecynnau ailintegreiddio.
Ar-lein: https://www.gov.uk/return-home-voluntarily
Ffôn: 0300 004 0202 (Llun – Dydd Gwener rhwng 09.00 a 17.00). Darganfyddwch ragor am dâl galwadau ar.
Efallai yr hoffech gysylltu â’ch llysgenhadaeth genedlaethol neu eich uwch-gomisiwn am gymorth gyda dogfennau teithio, neu gymorth arall: Llysgenadaethau tramor yn y Deyrnas Unedig.
Sut i wneud ymholiad ynglŷn â’r penderfyniad hwn
Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich gwahardd ar gam rhag gweithredu cyfrif, dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref drwy ffonio 0300 123 4979.
Gallwch hefyd gysylltu â’r Swyddfa Gartref drwy fynd i: https://www.gov.uk/guidance/ask-the-home-office-to-check-your- immigration-status-is-correct
Os ydych yn dymuno gwneud cwyn, dylech wneud hynny drwy anfon e-bost at complaints@homeoffice.gov.uk neu drwy ysgrifennu at:
Hyb Dyrannu Cwynion UKVI
Complaints Allocation (IC)
UKVI Customer Correspondence Hub
4th Floor
2 Ruskin Square
Ruskin Road
Croydon
CR0 2WF