Ffurflen

Treth Gorfforaeth: elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol (CT600E (2015) Fersiwn 3)

Dywedwch wrth CThEF os yw'ch elusen neu Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol yn hawlio eithriad rhag treth ar bob un neu unrhyw ran o'i incwm a'i enillion.

Dogfennau

Manylion

Cyn i chi lawrlwytho’r ffurflen a’i hanfon drwy’r post, gwiriwch pryd sy’n rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth y Cwmni ar-lein (yn Saesneg).

Defnyddiwch y tudalennau atodol hyn os yw’ch elusen neu Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol (CChAC) yn hawlio eithriad rhag talu unrhyw dreth ar y cyfan, neu ran, o’i incwm a’i enillion.

Bydd y tudalennau atodol hyn yn ffurfio cais yr elusen neu CChAC am eithriad o dreth ar y sail bod ei incwm a’i enillion yn berthnasol at ddibenion elusennol neu gymhwyso yn unig.

Ffurflenni cysylltiedig ac arweiniad

Defnyddiwch ffurflen CT600 (2024) Fersiwn 3 i gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni am gyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015.

Defnyddiwch y Datganiad yr Hydref 2023 — trosolwg o ddeddfwriaeth dreth a chyfraddau (OOTLAR) (yn agor tudalen Saesneg) i gael trosolwg o’r newidiadau pennaf yn y Gyllideb, sy’n effeithio ar Dreth Gorfforaeth.

Defnyddiwch yr arweiniad CT600E i’ch helpu chi i lenwi’r ffurflen tudalen atodol CT600E.

Cyhoeddwyd ar 7 April 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 August 2023 + show all updates
  1. A link to the CT600E guidance has been added.

  2. The related forms and guidance have been updated for 2023.

  3. The related forms and guidance have been updated for 2022.

  4. A Welsh translation of the form has been added.

  5. First published.