Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio: gohirio cosbau am wallau esgeulus ar Ffurflenni Treth neu mewn dogfennau

Diweddarwyd 1 Ebrill 2022

Gohirio cosbau am wallau esgeulus mewn Ffurflenni Treth neu ddogfennau

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am yr hyn sy’n digwydd pan fyddwn yn ystyried gohirio cosbau am wallau esgeulus mewn Ffurflenni Treth neu ddogfennau. Mae’n un o gyfres o daflenni gwybodaeth ynghylch gwiriadau cydymffurfio. I weld y rhestr lawn, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Pryd y gallwn ohirio cosb

Gallwn ohirio cosbau am wallau esgeulus ar Ffurflenni Treth neu mewn dogfennau dim ond os gallwn osod o leiaf un amod gohirio. Bydd y cyflwr yn eich helpu i osgoi cosbau am wallau tebyg yn y dyfodol. Mae’n rhaid i bob amod fod yn ‘SMART’.

Penodol (Specific) – mae’n rhaid iddo fod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r hyn a achosodd y gwall.

Mesuradwy (Measurable) – bydd angen i chi ddangos i ni a ydych wedi bodloni’r amod.

Cyraeddadwy (Achievable) – bydd angen i chi ddangos i ni eich bod yn gallu bodloni’r amod.

Realistig (Realistic) – gallwn ddisgwyl yn realistig y byddwch yn bodloni’r amod.

Bod terfyn amser ar waith (Time-bound) – bydd yn rhaid i chi fodloni’r amod cyn pen y cyfnod gohirio.

Gosodir yr amodau hyn ar ben yr amod bod yn rhaid i chi gyflwyno’ch holl Ffurflenni Treth mewn pryd yn ystod y cyfnod gohirio.

Os byddwn yn gohirio cosb, ni fydd yn rhaid i chi ei thalu os gallwch ddangos eich bod wedi bodloni’r holl amodau ar ddiwedd y cyfnod gohirio. Mae’n rhaid i chi hefyd beidio â bod wedi cael cosb arall yn ystod y cyfnod gohirio.

Pryd na allwn ohirio cosb, neu pryd byddwn yn gwrthod ei gohirio

Ni allwn ohirio cosbau am wallau bwriadol, neu wallau bwriadol a chudd.

Ni fyddwn yn gohirio cosbau am wallau esgeulus os yw’r canlynol yn gymwys:

  • ni allwn osod unrhyw un o’r amodau SMART
  • nid ydym yn credu ei fod yn debygol y byddwch yn cydymffurfio â’r amodau gohirio

Mae’n annhebygol y byddwn yn gallu gohirio cosb am wall esgeulus a godir gennym oherwydd eich bod wedi ceisio defnyddio cynllun arbed treth.

Os ydym yn penderfynu peidio â gohirio cosb, gallwch apelio yn erbyn ein penderfyniad. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘Os ydych yn anghytuno’.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud cyn i ni ohirio cosb

Cyn i ni ohirio cosb, bydd angen i chi gytuno ar amodau gyda ni. Mae’n bwysig:

  • eich bod yn deall yr amodau
  • eich bod yn gallu bodloni’r amodau
  • bod yr amodau’n gymesur â maint y gwall
  • bod yr amodau’n rhoi ystyriaeth i’ch amgylchiadau
  • y bydd yn glir i chi, yn ogystal â ni, pan fyddwch wedi bodloni’r amodau

Yn ogystal â chytuno i’r amodau SMART penodol, bydd yn rhaid i chi hefyd gytuno i gyflwyno’ch holl Ffurflenni Treth mewn pryd yn ystod y cyfnod gohirio.

Ystyriwch yn ofalus a allwch fodloni’r amodau cyn i chi gytuno iddynt. Dylech roi gwybod i ni os nad ydych yn siŵr am rywbeth. Os oes gennych ymgynghorydd, gallwch ofyn iddo am gymorth. Ar ôl i chi gytuno i’r amodau a osodwyd gennym, byddwn yn anfon hysbysiad gohirio atoch. Bydd hwn yn dangos yr amodau a’r cyfnod gohirio.

Sut yr ydym yn pennu hyd y cyfnod gohirio

Bydd hyd y cyfnod gohirio yn dibynnu ar ba mor hir y bydd yn cymryd i chi fodloni’r amodau gohirio penodol. Y cyfnod gohirio hiraf a ganiateir gan y gyfraith yw 2 flynedd. Fodd bynnag, byddai fel arfer yn llai na hyn.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud yn ystod y cyfnod gohirio

Yn ystod y cyfnod gohirio, mae’n rhaid i chi fodloni’r amodau yr ydych wedi cytuno iddynt. Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr nad ydych yn anfon Ffurflenni Treth eraill sy’n wallus yn ystod y cyfnod. Os byddwch yn gwneud hynny, mae’n bosibl y byddwch yn agored i gosb arall am anghywirdeb. Os bydd cosb arall am wallau’n cael ei chodi arnoch yn ystod y cyfnod gohirio, bydd yn rhaid i chi dalu’r gosb a ohiriwyd gennym yn flaenorol.

Yr hyn sy’n digwydd ar ddiwedd y cyfnod gohirio

Ar ddiwedd y cyfnod gohirio, byddwn yn gofyn i chi a ydych wedi bodloni’r amodau. Mae’n bosibl y bydd angen i ni wirio’ch cofnodion a gofyn am dystiolaeth arall er mwyn gwneud yn siŵr eich bod wedi’u bodloni. Os ydym yn cytuno eich bod wedi bodloni’r amodau, byddwn yn dileu’r gosb. Os ydym yn penderfynu nad ydych wedi bodloni’r amodau, bydd yn rhaid i chi dalu’r gosb.

Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn. Fodd bynnag, gallwch wneud cais am arolwg barnwrol o’n penderfyniad. Gall hwn fod yn ddrud, felly dylech gael cyngor cyfreithiol yn gyntaf.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEM na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ynghylch y mater

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Rhagor o wybodaeth

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.