Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio: Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol — CC/FS13

Diweddarwyd 1 April 2022

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am ba bryd y gallwn gyhoeddi manylion y bobl hynny sy’n cael eu materion treth yn anghywir yn fwriadol.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres. I weld rhestr lawn o daflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Yr hyn a olygwn gan ‘ddiffygdalwyr bwriadol’

Er bod y mwyafrif o bobl yn ceisio talu’r swm cywir o dreth, mae rhai pobl yn cael eu materion treth yn anghywir yn fwriadol. Rydym yn galw’r bobl hyn yn ‘ddiffygdalwyr bwriadol’.

Pam yr ydym yn cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol

O dan rai amgylchiadau, gallwn gyhoeddi manylion am berson, cwmni neu fath arall o sefydliad sy’n ddiffygdalwr bwriadol.

Sylweddolwn fod cyhoeddi yn fater difrifol iawn ac rydym am sicrhau ein bod yn cyhoeddi manylion dim ond pan fydd yn iawn gwneud hynny. Fodd bynnag, rydym hefyd yn ei ystyried yn fater difrifol pan fo pobl yn cael eu materion treth yn anghywir yn fwriadol.

Credwn y bydd y posibilrwydd o gyhoeddi eu manylion yn atal pobl rhag mynd yn ddiffygdalwyr bwriadol. Rydym hefyd yn credu y bydd hyn yn annog diffygdalwyr bwriadol i gwympo ar eu bai a rhoi trefn ar eu materion treth. Drwy gwympo ar eu bai, efallai y gall diffygdalwyr bwriadol osgoi cael eu manylion wedi’u cyhoeddi. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon.

Y ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i ni gyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol yw adran 94 o Ddeddf Cyllid 2009.

Yr hyn sy’n digwydd pan fyddwn yn cynnal ymchwiliad

Mae ymchwiliad yn cynnwys unrhyw fath o wiriad i faterion treth person gan un o swyddogion Cyllid a Thollau EM (CThEM). Yn y daflen wybodaeth hon defnyddiwn y term ‘gwiriad cydymffurfio’ i ddisgrifio ymchwiliad.

Rydym yn cynnal gwiriadau cydymffurfio er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn talu’r swm cywir o dreth ar yr amser iawn, a’u bod yn cael y lwfansau a’r rhyddhad treth cywir.

Yn ystod gwiriad, yn ogystal â sicrhau’r rhwymedigaeth treth gywir a swm unrhyw log am ‘daliad hwyr’, gallwn hefyd godi cosb.

Byddwn yn codi cosb ar ddiffygdalwr bwriadol am y canlynol:

  • gweithred fwriadol neu fwriadol a chudd o ran
    • anghywirdeb mewn Ffurflen Dreth neu ddogfen arall
    • methiant i hysbysu (methu â rhoi gwybod i ni am rai amgylchiadau penodol sy’n effeithio ar y rhwymedigaeth i dreth)
    • camwedd TAW neu Ecséis
  • rhoi gwybodaeth anwir yn fwriadol i, neu gadw gwybodaeth yn ôl oddi wrth, berson gyda’r bwriad y byddai Ffurflen Dreth y person hwnnw yn anghywir

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gosbau a gostyngiadau yn ein taflenni gwybodaeth. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am wiriadau cydymffurfio yn y daflen wybodaeth gyffredinol berthnasol. Ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Sut i osgoi cael eich manylion wedi’u cyhoeddi

Cyn i ni ddechrau gwiriad

Os nad oes gennych unrhyw reswm dros gredu ein bod eisoes wedi sylwi ar eich diffyg cydymffurfio, neu ein bod ar fin sylwi ar hynny, a’ch bod yn rhoi gwybod i ni eich bod yn ddiffygdalwr bwriadol (gweler hyn yn ‘gwneud datgeliad heb ei annog’), ni allwn gyhoeddi’ch manylion os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydym yn penderfynu nad oes angen i ni ddechrau gwiriad oherwydd ein bod yn derbyn yr hyn rydych wedi’i ddweud wrthym
  • rydym yn penderfynu dechrau gwiriad ac yn canfod eich bod eisoes wedi dweud wrthym bopeth y mae angen i ni ei wybod a’i fod yn gywir

Os na fyddwch yn rhoi digon o wybodaeth i ni gyfrifo cosbau pan fyddwch yn dweud wrthym eich bod yn ddiffygdalwr bwriadol, efallai y bydd yn rhaid i ni ddechrau gwiriad. Os byddwn yn dechrau gwiriad, ni fyddwn yn gallu cyhoeddi’ch manylion am y ddau reswm canlynol:

  • rydych yn rhoi popeth sydd ei angen arnom cyn gynted ag y gallwch
  • rydym yn canfod nad ydych wedi gwneud dim byd arall o’i le yn fwriadol

Fodd bynnag, os canfyddwn eich bod heb ddweud wrthym am bethau eraill yr ydych wedi’u gwneud yn fwriadol anghywir, efallai y byddwn yn gallu cyhoeddi manylion amdanoch chi a’r pethau eraill hynny. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwn ei chyhoeddi, gweler yr adran ‘Pa wybodaeth y gallwn ei chyhoeddi’.

Ar ôl i ni ddechrau gwiriad

Os ydych yn ddiffygdalwr bwriadol, gallwch osgoi cael eich manylion wedi’u cyhoeddi os byddwch yn gwneud y canlynol:

  • dweud wrthym bopeth yr ydych yn ei wybod am yr hyn a wnaethoch o’i le yn fwriadol cyn gynted ag y byddwn yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi dechrau gwiriad cydymffurfio
  • ein cynorthwyo drwy gydol ein gwiriad drwy roi mynediad i ni at eich cofnodion a thrwy ein helpu i gyfrifo’r rhwymedigaeth treth gywir

Os cytunwn eich bod wedi rhoi gwybod yn brydlon i ni am bopeth a wnaethoch o’i le yn fwriadol a’ch bod wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i’n cynorthwyo, efallai y rhown y gostyngiad mwyaf posibl i chi.

Os rhown y gostyngiad mwyaf posibl i chi, ni allwn gyhoeddi’ch manylion.

Fodd bynnag, os oedd eich diffygdalu yn gysylltiedig â materion alltraeth neu drosglwyddiadau alltraeth, mae’n bosibl na fyddai modd i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi oni bai eich bod wedi gwneud datgeliad heb ei annog.

1. A yw hon yn gosb berthnasol?

Mae cosb berthnasol yn gosb ar gyfer unrhyw un o’r canlynol:

  • anghywirdeb bwriadol mewn Ffurflen Dreth neu ddogfen arall
  • methiant bwriadol i hysbysu
  • camwedd TAW neu Ecséis bwriadol

2. A yw’r gosb berthnasol hon yn ymwneud â chyfnod sydd wedi’i gwmpasu gan y rheolau ar gyfer cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol?

Dyma’r rheolau ar gyfer cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol:

  • rhaid i’r Ffurflen Dreth neu’r ddogfen sy’n cynnwys yr anghywirdeb ymwneud â chyfnod sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010
  • rhaid bod y methiant i hysbysu, neu’r camwedd TAW neu Ecséis, wedi digwydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010

3. A godwyd y gosb berthnasol hon o ganlyniad i ymchwiliad CThEM?

Mae ymchwiliad yn cynnwys unrhyw fath o wiriad i faterion treth person gan un o swyddogion CThEM.

4. A yw’r gosb berthnasol hon yn ‘gosb berthnasol gymwys’?

Mae cosb berthnasol gymwys yn gosb berthnasol nad ydych wedi cael y gostyngiad mwyaf posibl arni. O ran cosbau sy’n gysylltiedig â materion alltraeth a throsglwyddiadau alltraeth, mae’n gosb lle nad oedd datgeliad heb ei annog. Os oes mwy nag un gosb yn codi o wiriad cydymffurfio, byddwn yn ystyried pob cosb berthnasol ar wahân er mwyn gweld a roddwyd y gostyngiad mwyaf posibl.

5. A yw cyfanswm y refeniw cymwys a gollwyd o bosibl ar gyfer yr holl gosbau perthnasol cymwys yn fwy na £25,000?

Y refeniw a gollwyd o bosibl (PLR) yw’r swm sy’n codi o ganlyniad i unrhyw un o’r canlynol:

  • anghywirdeb mewn Ffurflen Dreth neu ddogfen
  • methiant i hysbysu
  • camwedd TAW neu Ecséis

Rydym yn cyfrifo cyfanswm y PLR cymwys drwy ychwanegu’r PLR ar gyfer pob cosb berthnasol gymwys at ei gilydd.

Os yw’r ateb i’r 5 cwestiwn cyhoeddi yn gadarnhaol, gallwn gyhoeddi’ch manylion.

Yr hyn a fydd yn digwydd unwaith y byddwn wedi penderfynu y gallwn gyhoeddi’ch manylion

Ar ddiwedd y gwiriad, bydd y swyddog yn cyfrifo swm unrhyw dreth ychwanegol ac unrhyw log am dalu’n hwyr. Bydd hefyd yn dweud wrthych swm unrhyw gosbau sy’n ddyledus – gan gynnwys cosbau am yr hyn a wnaethoch o’i le yn fwriadol.

Os nad ydych yn cytuno â’r dreth neu’r gosb, efallai y gallwch apelio yn erbyn y penderfyniadau hyn cyn pen 30 diwrnod o ddyddiad y penderfyniadau. Mae rhagor o wybodaeth am apeliadau yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM – beth i’w wneud os anghytunwch’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’. Daw cosbau yn derfynol pan fyddwch naill ai yn cytuno â nhw, pan fyddwch yn penderfynu peidio â gweithredu ymhellach neu pan fydd tribiwnlys yn gwneud penderfyniad yn eu cylch.

Cyn gynted ag y bydd y cosbau’n rhai terfynol, bydd y swyddog yn cyfeirio’ch achos at y tîm arbenigol sy’n gyfrifol am gyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol. Ni fydd y tîm wedi bod yn gysylltiedig â’ch gwiriad cydymffurfio. Bydd y tîm yn penderfynu a allwn gyhoeddi’ch manylion.

Wedyn bydd aelod o’r tîm yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych ba fanylion rydym yn bwriadu eu cyhoeddi. Bydd yn gofyn i chi a ydych yn credu bod unrhyw reswm pam na ddylem gyhoeddi’r manylion hynny. Fel arfer bydd gennych 30 diwrnod i ateb. Bydd Uwch Was Sifil yn rhoi ystyriaeth ofalus i bopeth a ddywedwch cyn penderfynu’n derfynol a ddylid cyhoeddi’ch manylion. Bydd yn rhoi gwybod i chi ynglŷn â’r penderfyniad cyn gynted â phosibl.

Er mwyn bod yn deg ac yn gyson, anelwn at gyhoeddi manylion pob person, cwmni neu fath arall o sefydliad pan fo’r atebion i bob un o’r 5 cwestiwn cyhoeddi yn gadarnhaol. Byddwn ond yn penderfynu peidio â chyhoeddi mewn amgylchiadau eithriadol.

Pa wybodaeth y gallwn ei chyhoeddi

Gallwn gyhoeddi:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad (busnes neu breifat)
  • swm y cosbau yr ydym wedi’u codi arnoch
  • y dreth ychwanegol y seilir y cosbau hynny arni
  • natur eich busnes os oes un gennych
  • y cyfnodau y buoch yn osgoi treth
  • unrhyw fanylion eraill y credwn eu bod yn angenrheidiol i ddangos yn glir pwy ydych

Byddwn yn cyhoeddi cyn lleied o wybodaeth ag sydd ei hangen i ddangos pwy ydych a swm y dreth a gafodd ei hosgoi.

Ble y byddwn yn cyhoeddi’ch manylion ac am ba hyd

Byddwn yn cyhoeddi’ch manylion ar-lein yn www.gov.uk/government/publications/publishing-details-of-deliberate-tax-defaulters-pddd.

Mae’r rhestr bresennol yno. Bydd eich manylion yn aros ar-lein am hyd at 12 mis o’r dyddiad y cânt eu cyhoeddi gyntaf.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.