Skip to main content
Canllawiau

Cyfres gwiriadau cydymffurfio — CC/FS7A

Diweddarwyd 21 Gorffennaf 2026

Cosbau am anghywirdebau mewn Ffurflenni Treth a dogfennau

Mae’r daflen wybodaeth hon yn esbonio’r cosbau y gallwn eu codi os ydych wedi anfon ffurflen anghywir neu ddogfen arall atom.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.

Rhagor o wybodaeth am wiriadau cydymffurfio

Mae rhagor o wybodaeth a help ar gael ar-lein, gan gynnwys: 

  • cysylltiadau i’n cyfres fideo
  • canllawiau cam wrth gam ar gyfer ein gwiriadau cydymffurfio

Ewch i www.gov.uk/guidance/get-help-if-hmrc-contacts-you-about-a-compliance-check.cy

Pryd y gallwn godi cosb arnoch am anghywirdeb

Gallwn godi cosb arnoch os byddwch yn anfon ffurflen neu ddogfen arall atom sy’n cynnwys anghywirdeb, ac mae’r anghywirdeb:

  • yn arwain at dreth heb ei thalu, treth wedi’i thanddatgan neu’i gor-hawlio
  • yn esgeulus, yn fwriadol neu’n fwriadol a chudd (rydym yn cyfeirio at y rhain fel ‘ymddygiadau’. Mae ‘ymddygiadau’ yn cael eu hesbonio nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon)

Os byddwch yn gofyn i rywun arall, megis cyflogai neu ymgynghorydd, wneud rhywbeth ar eich rhan, mae’n rhaid i chi wneud popeth y gallwch yn rhesymol i atal unrhyw anghywirdebau. Os na wnewch hyn, mae’n bosibl y codwn gosb arnoch.

Pryd na fyddwn yn codi cosb arnoch am anghywirdeb

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am anghywirdeb os ydych wedi cymryd gofal rhesymol i wneud pethau’n gywir, ond roedd eich ffurflen neu’ch dogfen yn anghywir o hyd. Mae rhai o’r ffyrdd y gallwch ddangos eich bod wedi cymryd gofal rhesymol yn cynnwys y canlynol:

  • cadw cofnodion cywir
  • gwirio gydag ymgynghorydd treth neu gyda ni os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth

Datgelu anghywirdeb cyn i ni ddod o hyd iddo

Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am anghywirdeb cyn bod gennych unrhyw reswm i gredu ein bod wedi ei ddarganfod, neu ar fin ei ddarganfod, rydym yn galw hyn yn ‘datgeliad heb ei ysgogi’. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am anghywirdeb ar unrhyw adeg arall, rydym yn ei alw’n ‘datgeliad wedi’i ysgogi’.

Unwaith y byddwn wedi dechrau gwiriad, dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gall datgeliad fod heb ei ysgogi:

  • mae’n ymwneud ag anghywirdeb amherthnasol
  • nid oedd gennych reswm i gredu y byddem yn dod o hyd iddo yn ystod ein gwiriad

Mae’r gosb isaf ar gyfer datgeliad heb ei ysgogi yn is na’r gosb isaf ar gyfer datgeliad wedi’i ysgogi.

Os byddwch yn anfon ffurflen neu ddogfen atom yr ydych yn credu ei bod yn gywir ond yn ddiweddarach yn canfod ei bod yn cynnwys anghywirdeb diofal, mae’n bosibl y byddwn yn lleihau’r gosb i ddim. Dim ond os byddwch yn gwneud datgeliad heb ei ysgogi y gallwn wneud hyn.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Bydd y swyddog yn eich helpu hyd eithaf ei allu. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra support’.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu aelod o’r teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Rhagor o wybodaeth am wiriadau cydymffurfio

Mae rhagor o wybodaeth a help ar gael ar-lein, gan gynnwys: 

  • cysylltiadau i’n cyfres fideo
  • canllawiau cam wrth gam i’n gwiriadau cydymffurfio

Ewch i Gwiriadau cydymffurfio CThEF: help a chymorth.

Adegau pan y gallwn godi cosb arnoch am anghywirdeb

Gallwn godi cosb arnoch os byddwch yn anfon Ffurflen Dreth neu ddogfen arall atom sy’n cynnwys anghywirdeb, a bod yr anghywirdeb:

  • yn arwain at dreth heb ei thalu, treth wedi’i thanddatgan neu’i gor-hawlio
  • yn esgeulus, yn fwriadol neu’n fwriadol a chudd (rydym yn cyfeirio at y rhain fel ‘ymddygiadau’. Mae ‘ymddygiadau’ yn cael eu hesbonio nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon)

Os gofynnwch i rywun arall, fel cyflogai neu ymgynghorydd, wneud rhywbeth ar eich rhan, mae’n rhaid i chi wneud cymaint ag y gallwch i wneud yn siŵr nad oes anghywirdeb yn codi. Os na wnewch hyn, mae’n bosibl y codwn gosb arnoch.

Adegau pan na fyddwn yn codi cosb arnoch am anghywirdeb

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am anghywirdeb os cymeroch ofal rhesymol i wneud yn siŵr eich bod yn cael popeth yn iawn, ond roedd eich Ffurflen Dreth neu ddogfen arall yn dal i fod yn anghywir. Mae rhai o’r ffyrdd y gallwch ddangos eich bod wedi cymryd gofal rhesymol yn cynnwys y canlynol:

  • cadw cofnodion cywir
  • gwirio gydag ymgynghorydd treth neu gyda ni os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth

Datgelu anghywirdeb cyn i ni ddod o hyd iddo

Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am anghywirdeb cyn bod gennych unrhyw reswm i gredu ein bod wedi ei ddarganfod, neu ar fin ei ddarganfod, rydym yn galw hyn yn ‘datgeliad heb ei ysgogi’. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am anghywirdeb ar unrhyw adeg arall, rydym yn ei alw’n ‘datgeliad wedi’i ysgogi’.

Unwaith y byddwn wedi dechrau gwiriad, dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gall datgeliad fod heb ei ysgogi:

  • mae’n ymwneud ag anghywirdeb amherthnasol
  • nid oedd gennych reswm i gredu y byddem yn dod o hyd iddo yn ystod ein gwiriad

Mae’r gosb isaf ar gyfer datgeliad heb ei ysgogi yn is na’r gosb isaf ar gyfer datgeliad wedi’i ysgogi.

Os byddwch yn anfon ffurflen neu ddogfen atom yr ydych yn credu ei bod yn gywir ond yn ddiweddarach yn canfod ei bod yn cynnwys anghywirdeb diofal, mae’n bosibl y byddwn yn lleihau’r gosb i ddim. Dim ond os byddwch yn gwneud datgeliad heb ei ysgogi y gallwn wneud hyn.

Yr hyn y gallwch ei wneud i leihau unrhyw gosb y gallwn ei chodi

Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni pan fyddwch yn gwneud datgeliad. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.

Mae enghreifftiau o wneud datgeliad yn cynnwys:

  • dweud wrthym fod rhywbeth o’i le, neu gytuno bod rhywbeth o’i le, a sut a pham y digwyddodd
  • rhoi gwybod i ni am bopeth y gallwch am faint yr anghywirdeb cyn gynted ag y byddwch yn ymwybodol ohono
  • rhoi gwybod i ni a’n helpu drwy ateb ein cwestiynau’n llawn
  • ein helpu i ddeall eich cyfrifon neu’ch cofnodion
  • ein helpu drwy ateb ein llythyrau’n brydlon
  • ein helpu drwy gytuno i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, neu ymweliadau, ar amser sy’n gyfleus i bawb
  • ein helpu drwy wirio’ch cofnodion eich hun i ganfod maint yr anghywirdeb
  • ein helpu drwy ddefnyddio’ch cofnodion preifat i ganfod gwerthiannau neu incwm nad ydynt wedi’u cynnwys yn eich Ffurflen Dreth
  • rhoi mynediad i ni at y dogfennau rydym wedi gofyn amdanynt heb oedi diangen
  • rhoi mynediad i ni at ddogfennau nad ydym efallai’n gwybod amdanynt, yn ogystal â’r rhai yr ydym yn gofyn i’w gweld

Byddwn yn lleihau’r gosb i’r graddau mwyaf posibl os ydych yn:

  • rhoi gwybod i ni am bopeth y gallwch am unrhyw anghywirdeb cyn gynted ag y byddwch yn ymwybodol ohono neu pan rydych yn credu ein bod ar fin ei ganfod
  • yn gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro

Os byddwch yn oedi cyn gwneud datgeliad, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd y gostyngiad hwnnw yn llai.

Os nad oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnom oddi wrthych, byddwn yn rhoi rhywfaint o ostyngiad i chi am ‘ddweud, helpu a rhoi’.

Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig

Os oes unrhyw amgylchiadau arbennig yr ydych yn credu y dylai’r swyddog sy’n ymdrin â’r gwiriad eu hystyried wrth gyfrifo’r gosb, dylech roi gwybod iddynt ar unwaith.

Sut rydym yn cyfrifo swm y gosb

Mae 8 cam i’w cymryd wrth gyfrifo swm unrhyw gosb. Caiff pob cam ei esbonio’n fanylach isod.

1. Cyfrifo swm y PLR (y refeniw a gollwyd o bosibl)

Mae’r gosb yn ganran o’r PLR. PLR yw’r swm sy’n codi:

  • o ganlyniad i anghywirdeb mewn Ffurflen Dreth neu ddogfen
  • ad-daliad anghywir
  • hawliad anghywir

Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn esbonio sut y cyfrifir hwn. Mae yna reolau gwahanol am gyfrifo’r PLR pan fo materion yn ymwneud â rhyddhad grŵp, colledion, ad-daliadau neu amseru cyfrifyddu yn arwain at dreth wedi’i hoedi. Os oes angen i chi wybod rhagor, cysylltwch â’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad.

2. Pennu ein barn am yr ‘ymddygiad’

Pan fo anghywirdeb, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn canfod beth wnaeth ei achosi. Rydym yn cyfeirio at hwn fel yr ‘ymddygiad’. Bydd y math o ymddygiad yn effeithio ar p’un a fyddwn yn codi cosb a swm y gosb. Mae 4 math gwahanol o ymddygiad.

Gofal rhesymol

Mae gan bawb gyfrifoldeb i gymryd gofal rhesymol am eu materion treth. Bydd yr hyn a gaiff ei ystyried yn ‘gofal rhesymol’ yn dibynnu ar allu ac amgylchiadau pob cwsmer.

Os oedd unrhyw beth am eich iechyd neu’ch amgylchiadau personol a oedd yn ei gwneud hi’n anodd i chi gymryd gofal rhesymol, rhowch wybod i’r swyddog sy’n ymdrin â’r gwiriad. Bydd rhoi gwybod i’r swyddog yn ei alluogi i gymryd hyn i ystyriaeth wrth ystyried a wnaethoch gymryd gofal rhesymol.

Os gwnaethoch gymryd gofal rhesymol i wneud pethau’n gywir ond bod eich ffurflen neu’ch dogfen yn dal i gynnwys anghywirdeb, ni fyddwn yn codi cosb arnoch.

Mae rhai o’r ffyrdd y gallwch gymryd gofal rhesymol yn cynnwys:

  • cadw digon o gofnodion i lenwi Ffurflenni Treth yn gywir
  • cadw’r cofnodion hynny’n ddiogel
  • gwirio gydag ymgynghorydd treth neu gyda ni os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth, a dilyn unrhyw gyngor a roddir

Esgeulus

Dyma pan wnaethoch fethu â chymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn.

Bwriadol

Dyma pan oeddech yn gwybod bod Ffurflen Dreth neu ddogfen yn cynnwys anghywirdeb pan wnaethoch ei chyflwyno i ni. Mae enghreifftiau o anghywirdebau bwriadol yn cynnwys gwneud y canlynol yn fwriadol:

  • gorddatgan eich treuliau busnes
  • tanddatgan eich incwm
  • talu cyflogau heb roi cyfrif am gyfraniadau Yswiriant Gwladol a Thalu Wrth Ennill

Anghywirdebau bwriadol a chudd

Dyma pan oeddech yn gwybod bod Ffurflen Dreth neu ddogfen yn cynnwys anghywirdeb a gwnaethoch gymryd camau i guddio’r anghywirdeb oddi wrthym, naill ai cyn neu ar ôl i chi ei hanfon atom. Un enghraifft o gymryd camau i guddio anghywirdeb yw creu anfoneb ffug ar gyfer prynu stoc nad yw’n bodoli.

3. Pennu a oedd y datgeliad yn un heb ei annog neu wedi’i annog

Mae hyn yn pennu canran isaf bosibl y gosb y gallwn ei chodi. Mae hyn yn cael ei esbonio’n fanylach yn yr adran ‘Datgelu anghywirdeb cyn i ni ddod o hyd iddo’ yn y daflen wybodaeth hon.

4. Penderfynu ar ystod y gosb

Mae canran y gosb yn syrthio i mewn i un o 6 ystod. Mae’r ystod y mae’n syrthio iddo’n dibynnu ar y math o ymddygiad, ac a oedd y datgeliad ‘wedi’i annog’ neu ‘heb ei annog’. Mae’r tabl canlynol yn dangos y 6 ystod cosb.

Math o ymddygiad Datgeliad heb ei annog Datgeliad wedi’i annog
Gofal rhesymol Dim cosb Dim cosb
Esgeulus 0% i 30% 15% i 30%
Bwriadol 20% i 70% 35% i 70%
Bwriadol a chudd 30% i 100% 50% i 100%

5. Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgelu (a elwir hefyd yn ‘dweud, helpu a rhoi’)

Mae’r gostyngiad a rown yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni. Ar gyfer:

  • dweud, rydym yn rhoi hyd at 30%
  • helpu, rydym yn rhoi hyd at 40%
  • rhoi mynediad at gofnodion, rydym yn rhoi hyd at 30%

Wrth ystyried ansawdd y datgeliad, byddwn hefyd yn ystyried pa mor hir y mae wedi ei gymryd i chi ddatgelu’r anghywirdeb. Os byddwch yn cymryd amser hir (er enghraifft, 3 blynedd neu fwy) i wneud datgeliad, fel arfer byddwn yn cyfyngu ar y gostyngiad mwyaf ar gyfer ansawdd y datgeliad. Byddwn yn ei gyfyngu i 10 pwynt canran uwchlaw isafswm yr ystod cosb. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn elwa ar y ganran cosb isaf sydd fel arfer ar gael.

6. Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y gosb a’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad.

Enghraifft

Gwelsom anghywirdeb diofal nad oedd y cwsmer wedi rhoi gwybod i ni amdano cyn i ni ddechrau ein gwiriad. Pan wnaethom roi gwybod iddo am yr anghywirdeb, gwnaeth y cwsmer gytuno â ni. Roedd hwn yn ddatgeliad wedi’i annog.

Ystod y gosb am anghywirdeb esgeulus gyda datgeliad wedi’i annog yw 15% i 30% o’r PLR.

Roedd y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn 70%.

Camau Enghraifft o gyfrifiad
I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf rydym yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfradd ganrannol isaf ac uchaf y gosb. 30% llai 15% = 15
Byddwn wedyn yn tynnu canran y gostyngiad o ganran uchaf y gosb y gallwn ei chodi. 15 × 70% = 10.5%
Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni. 30% llai 10.5% = 19.5%

7. Cyfrifo swm y gosb

I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r PLR â chyfradd ganrannol y gosb. Yn yr enghraifft uchod, £3,000 yw’r PLR. Mae hyn yn golygu taw £585 yw’r gosb (£3,000 x 19.5% = £585).

8. Ystyried gostyngiadau eraill

Ar ôl cyfrifo swm y gosb, byddwn wedyn yn ystyried unrhyw ostyngiadau eraill sy’n angenrheidiol. Mae hyn yn rhoi swm y gosb y byddwn yn ei chodi.

Sut y gallwn ohirio cosb

Gallwn ohirio cosb am anghywirdeb esgeulus os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydym yn gallu gosod amodau i’ch helpu i osgoi cosbau yn y dyfodol
  • rydym o’r farn y gallwch fodloni’r amodau hyn

Gallwn ohirio cosb am hyd at uchafswm o 2 flynedd. Fel arfer, bydd y cyfnod gohirio mor fyr â phosibl er mwyn eich galluogi i fodloni’r amodau. Os byddwn yn ohirio eich cosb, ni fydd yn rhaid i chi ei thalu os byddwch yn bodloni’r amodau, oni bai eich bod yn agored i gosb arall am anghywirdeb yn ystod y cyfnod ohirio.

Yn ystod y cyfnod ohirio, mae’n rhaid i chi sicrhau na fyddwch yn anfon unrhyw ffurflenni eraill atom sy’n cynnwys anghywirdebau. Os gwnewch hyn, gallech fod yn agored i gosb arall am anghywirdeb yn ystod y cyfnod gohirio. Os ydych yn dod yn agored i gosb arall am anghywirdeb yn ystod y cyfnod gohirio, bydd yn rhaid i chi dalu’r gosb a ohiriwyd yn flaenorol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn ein taflen wybodaeth CC/FS10, ‘Gwiriadau cydymffurfio: Gohirio cosbau am wallau esgeulus mewn Ffurflenni Treth neu mewn dogfennau’. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS10’. Ni allwn ohirio cosbau am unrhyw fath arall o ymddygiad.

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod faint yw’r gosb a sut rydym wedi’i chyfrifo. Os oes unrhyw beth am y gosb nad ydych yn cytuno ag ef, neu os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth nad ydym eisoes wedi’i hystyried, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.

Ar ôl cymryd i ystyriaeth yr hyn y gwnaethoch roi gwybod i ni amdano, byddwn wedyn yn gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch
  • eich gwahodd i ymrwymo i gontract gyda ni i dalu’r gosb, ynghyd â’r dreth a’r llog

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y gosb os nad ydych yn ei thalu mewn pryd.

Pryd y gall swyddog cwmni orfod talu rhan neu’r cyfan o gosb cwmni am anghywirdeb bwriadol

Gall swyddog cwmni orfod talu rhan neu’r cyfan o gosb y cwmni os yw’r gosb oherwydd ei weithredoedd, ac os yw un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae wedi, neu wedi ceisio, elwa’n bersonol o anghywirdeb bwriadol
  • bod y cwmni, neu ein bod yn credu ei fod, ar fin mynd yn ansolfent – hyd yn oed os na enillodd y swyddog yn bersonol o’r anghywirdeb bwriadol

Os yw’r cwmni’n talu’r gosb, ni fyddwn yn gofyn i’r swyddogion unigol ei thalu.

Mae swyddog cwmni yn gyfarwyddwr, cyfarwyddwr cysgodol, ysgrifennydd y cwmni neu reolwr y cwmni, neu’n aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol, megis:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu ar bapur
  • os ydych wedi cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt

Rheoli diffygdalwyr difrifol

Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’. Ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem a chwilio am ‘CC/FS14’.

Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol

Efallai y byddwn yn cyhoeddi’ch manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, ond ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS13, ‘Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’. Ewch i GOV.UK a chwiliwch am ‘CC/FS13’.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘anghytuno â phenderfyniad treth neu ddirwy’.

Eich hawliau os ydym yn ystyried cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi rhai hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn berthnasol, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylwn godi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â rhoi ateb
  • mae faint o gymorth a rowch i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau yn fater i chi benderfynu yn ei gylch yn llwyr
  • wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol – yn enwedig os nad oes un gennych eisoes
  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r cosbau y credwn eu bod yn ddyledus, gallwch apelio
  • mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
  • mae gennych hawl i gael mater cosbau yn cael ei drin heb oedi afresymol

Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn am yr hawliau hyn yn ein taflen wybodaeth CC/FS9 ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.
Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS9’.

Y trethi a chyfnodau treth y mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol iddynt

Mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol ar gyfer y trethi canlynol o ran Ffurflenni Treth neu ddogfennau y dylai fod wedi’u hanfon atom ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009 ac sy’n ymwneud â chyfnod treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008:

  • Treth Enillion Cyfalaf

  • Cynllun y Diwydiant Adeiladu

  • Treth Gorfforaeth

  • Treth Incwm (gan gynnwys Hunanasesiad)

  • Yswiriant Gwladol Dosbarthiadau 1 a 4

  • Talu Wrth Ennill (TWE)

  • TAW

Mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol ar gyfer y trethi canlynol o ran Ffurflenni Treth neu ddogfennau y dylai fod wedi’u hanfon atom ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010 ac sy’n ymwneud â chyfnod treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009:

  • Ardoll Agregau

  • Toll Teithwyr Awyr

  • Toll Alcohol

  • Toll Trwydded Peiriannau Diddanu (hyd at 31 Ionawr 2013)

  • Treth Cyflogres Banc

  • Toll Bingo

  • Ardoll Newid yn yr Hinsawdd

  • Tollau Ecseis (Daliad a Symudiadau)

  • Toll Hapchwarae

  • Toll Olewau Hydrocarbon

  • Treth Etifeddiant

  • Treth Premiwm Yswiriant

  • Treth Dirlenwi

  • Toll y Loteri

  • Treth Refeniw Petroliwm

  • Toll Cronfa Fetio

  • Toll Hapchwarae o Bell

  • Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn (o 6 Ebrill 2018 ymlaen)

  • Treth Dir y Tollau Stamp

  • Treth Tollau Stamp Wrth Gefn

  • Treth Tybaco

Mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol ar gyfer y trethi canlynol o ran Ffurflenni Treth neu ddogfennau sy’n ymwneud â’r cyfnodau canlynol:

  • Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer P11D(b) (Ffurflenni Treth ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2011 a blynyddoedd hwyrach)

  • Toll Peiriannau Hapchwarae (ar gyfer cyfnodau treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2013)

  • Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu (ar gyfer cyfnodau treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2013)

  • Ardoll Brentisiaethau (ar gyfer blynyddoedd treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017)

  • Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn (ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2018)

  • Treth Gwasanaethau Digidol (ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020)

  • Treth Deunydd Pacio Plastig (ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2022)

  • Toll Cynhyrchion Fepio (o 1 Hydref 2026)

  • Cynllun Stampiau’r Doll Fepio (o 1 Hydref 2026)

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Bydd y swyddog yn eich helpu hyd eithaf ei allu. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘cael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch’.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni siarad neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol ynghylch rhai pethau o hyd. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Gwybodaeth ychwanegol

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwiliwch am ‘HMRC Privacy Notice’.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.