Skip to main content
Canllawiau

Gwybodaeth gyffredinol am wiriadau cydymffurfio i fusnesau mawr a chymhleth — CC/FS1c

Diweddarwyd 29 Medi 2026

Mae’r daflen wybodaeth hon yn sôn am wiriadau cydymffurfio i fusnesau mawr a chymhleth.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.

Sut yr ydym yn gweithio gyda busnesau mawr a chymhleth

Yr adran Busnesau Mawr yn CThEM sy’n gofalu am faterion treth y busnesau mwyaf eu maint a mwyaf cymhleth. Caiff Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid ei neilltuo i bob busnes, a hynny oherwydd eu maint neu gymhlethdod eu materion treth. Mae’r Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid yn rheoli gweithgarwch cydymffurfio CThEM, a’r berthynas rhwng y busnes a CThEM o ran yr holl drethi a thollau. Mae ein Rheolwyr Cydymffurfiad Cwsmeriaid yn gweithio gyda’r busnesau mawr hyn i nodi, gwirio a rheoli’r risg treth.

Ein nod yw meithrin perthynas agored ac ymddiriedus gyda’r busnesau hyn. Er mwyn gwneud hyn, byddwn:

  • yn agored ac yn dryloyw wrth ymwneud â chi
  • yn disgwyl i chi gydweithio’n agored ac yn dryloyw â ni
  • yn gweithio gyda chi i archwilio risgiau treth yr ydym ni, neu yr ydych chi, yn eu nodi
  • yn trafod y risgiau hynny â chi yn y lle cyntaf, cyn ystyried defnyddio pwerau ffurfiol

Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni ddefnyddio ein pwerau ffurfiol neu anfon hysbysiad o asesiad o dan amgylchiadau penodol. Er enghraifft:

  • os ydych yn ffafrio dull ffurfiol
  • pan fo terfyn amser ar gyfer cynnal asesiad yn agosáu
  • os nad ydym wedi llwyddo i ddatrys problem, a bod angen i ni wneud cais ffurfiol am wybodaeth gennych
  • os yw’r mater yn debygol o gael ei gyflwyno gerbron tribiwnlys apelio annibynnol ar gyfer penderfyniad

Beth yw gwiriadau cydymffurfio?

Rydym yn cynnal gwiriadau ar Ffurflenni Treth neu ddogfennau eraill i wneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid yn gwneud y canlynol:

  • yn talu’r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir
  • yn cael y lwfansau a’r rhyddhadau treth cywir

‘Gwiriadau cydymffurfio’ yw’r enw a roddwn ar y gwiriadau hyn.

Os byddwn yn dechrau gwiriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth rydym yn ei wirio. Byddwn yn gofyn i chi roi unrhyw wybodaeth neu ddogfennau y gallai fod eu hangen arnom. Os nad ydych yn sicr pam rydym yn gofyn am rywbeth, rhowch wybod i ni a byddwn yn egluro pam y mae ei angen arnom.

Rhowch wybod i ni os na allwch wneud yr hyn a ofynnwn, neu os ydych yn meddwl bod rhywbeth rydym wedi gofyn amdano’n afresymol neu’n amherthnasol i’r gwiriad. Byddwn yn ystyried eich rhesymau’n ofalus, ac os ydym yn dal i feddwl bod ei angen arnom, byddwn yn egluro pam.

Y manteision o’n helpu gyda gwiriad

Os byddwch yn ein helpu gyda’r gwiriad cydymffurfio, gallwn:

  • ei gwblhau yn gyflym a lleihau unrhyw anghyfleustra i chi
  • gostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le

Os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le, byddwn yn gweithio gyda chi i’w unioni ac yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi dalu:

  • treth ychwanegol a llog am dalu’n hwyr
  • cosbau

Os ydym yn ystyried codi cosb arnoch, byddwn yn ystyried faint o gymorth rydych wedi’i roi i ni yn ystod y gwiriad. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.

Rydym yn mesur ansawdd y datgeliad drwy ystyried:

  • faint yr ydych yn ei ddweud wrthym am yr hyn sydd o’i le
  • faint yr ydych yn ein helpu i fynd at wraidd yr hyn sydd o’i le
  • faint o fynediad rydych yn ei roi i ni at yr wybodaeth neu’r dogfennau sydd eu hangen arnom i gwblhau’r gwiriad

Os oes ffyrdd y gallwch ein helpu gyda’r gwiriad, ond eich bod yn penderfynu peidio â gwneud hynny, bydd hyn yn effeithio ar ein barn am ansawdd y datgeliad. Er enghraifft, os byddwn yn gofyn:

  • am gael ymweld â’ch safle busnes i archwilio’ch cofnodion busnes, eich asedion neu’ch adeiladau, neu i gynnal prisiad, ond nad ydych yn caniatáu i ni wneud hynny
  • am wybodaeth neu ddogfennau, ond nad ydych yn rhoi popeth i ni yr ydym wedi gofyn amdano

Sut i gael y gostyngiad mwyaf posibl ar gyfer y gosb os oes rhywbeth o’i le

Os oes rhywbeth o’i le a’ch bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i’n cynorthwyo, byddwn yn gostwng y gosb gan y swm mwyaf posibl.

Os ydych yn gwybod neu’n amau ​​bod rhywbeth o’i le, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • rhoi cymaint o fanylion i ni ag y gallwch amdano ar unwaith
  • gweithio gyda ni i gyfrifo’r swm cywir o dreth

Os gwelwn rywbeth o’i le nad oeddech yn gwybod amdano, mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud y canlynol er mwyn cael y gostyngiad mwyaf posibl:

  • rhoi cymaint o gymorth ag yr oedd ei angen arnom, hyd at y pwynt gwnaethom ganfod bod rhywbeth o’i le
  • dweud wrth y swyddog sy’n delio â’r gwiriad bopeth amdano ar unwaith, gan adael iddo weld unrhyw gofnodion y mae’n gofyn amdanynt a’i helpu i gyfrifo’r swm cywir o dreth

I gyfrifo ansawdd y datgeliad, rydym hefyd yn ystyried faint o amser yr ydych wedi’i gymryd i roi gwybod i ni am unrhyw beth sydd o’i le. Os ydych wedi cymryd cryn amser, er enghraifft 3 blynedd neu fwy, rydym fel arfer yn cyfyngu uchafswm y gostyngiad a roddwn ar gyfer ansawdd y datgeliad i 10 pwynt canrannol uwchben isafswm ystod y gosb. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn elwa ar y ganran isaf y gosb sydd fel arfer ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth am gosbau, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’ a dewis ‘Penalties’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal ymchwiliad troseddol, ac yn eich erlyn, os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol. Er enghraifft, os ydych wedi gwneud y canlynol:

  • os ydych wedi rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
  • os ydych wedi cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt

Rheoli diffygdalwyr difrifol

Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS14’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol

Mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi eich manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS13, ‘Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS13’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni. Yn y rhan fwyaf o achosion sy’n ymwneud â Busnesau Mawr, dylech ddisgwyl i’r Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid weithio gyda chi i ddatrys anghydfodau.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Bydd gennych 3 opsiwn. Gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at eich Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid, a gofyn iddo’i hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater

Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad ein llythyr. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘disagree with a tax decision or penalty’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Eich prif hawliau ac ymrwymiadau

Mae gennych y canlynol:

  • yr hawl i gael eich cynrychioli — gallwch benodi unrhyw un i weithredu ar eich rhan
  • dyletswydd i gymryd gofal rhesymol dros gael pethau’n iawn — os oes gennych ymgynghorydd, mae’n rhaid i chi gymryd gofal rhesymol o hyd er mwyn sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth, dogfennau neu fanylion eraill mae’r ymgynghorydd yn eu hanfon atom ar eich rhan yn gywir

Mae ‘Siarter CThEF’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Charter’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol

Eich hawliau os byddwn yn ystyried cosbau

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes rhywbeth o’i le a’n bod yn ystyried cosbau. I gael gwybod pa hawliau sydd gennych pan fyddwn yn ystyried cosbau, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS9’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Defnyddio deunydd cod agored yn ystod gwiriad cydymffurfio

Gallwn arsylwi ar ddata’r rhyngrwyd, sydd ar gael i bawb, yn ogystal â monitro, cofnodi a chadw’r data hynny. Gelwir hwn yn ddeunydd ‘cod agored’, ac mae’n cynnwys adroddiadau newyddion, gwefannau’r rhyngrwyd, cofnodion Tŷ’r Cwmnïau a’r Gofrestrfa Tir, blogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol lle nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd wedi’u defnyddio.

Gwiriadau cydymffurfio y mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â nhw

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â gwiriadau cydymffurfio i unrhyw un o’r canlynol:

  • Ardoll Agregau                                                              
  • Toll Teithwyr Awyr                                                         
  • Tollau Gwirodydd Alcoholaidd                                        
  • Toll Trwydded Peiriannau Diddanu                                 
  • Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu                 
  • Ardoll Brentisiaethau (ar gyfer yr Ardoll Brentisiaethau, mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â Ffurflenni Treth ar gyfer blynyddoedd treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017)                                                
  • Treth Cyflogres Banc                                                    
  • Toll Bingo                                                                     
  • Treth Enillion Cyfalaf                                                     
  • Ardoll Newid yn yr Hinsawdd                                         
  • Cynllun y Diwydiant Adeiladu                                         
  • Treth Gorfforaeth                                                          
  • Treth Gwasanaethau Digidol (ar gyfer Treth Gwasanaethau Digidol, mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â Ffurflenni Treth ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020)                                
  • Treth Ailgyfeirio Elw                                                      
  • Tollau Ecséis (Daliad a Symudiadau)                             
  • Toll Hapchwarae                                                           
  • Toll Fetio Gyffredinol                                                     
  • Toll Olewau Hydrocarbon                                              
  • Treth Incwm
  • Treth Etifeddiant
  • Treth Premiwm Yswiriant
  • Treth Dirlenwi
  • Toll y Loteri
  • Toll Peiriannau Hapchwarae
  • Yswiriant Gwladol Dosbarthiadau 1, 1a* a 4 (ar gyfer Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, mae’r daflen wybodaeth hon ond yn ymwneud â datganiadau P11D(b) ar gyfer y blynyddoedd treth a ddechreuodd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010)
  • Talu Wrth Ennill (TWE)
  • Treth Refeniw Petroliwm
  • Treth Deunydd Pacio Plastig
  • Toll Cronfa Fetio
  • Toll Hapchwarae o Bell
  • Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn
  • Treth Dir y Tollau Stamp
  • Tollau Stamp Wrth Gefn
  • Toll Cynhyrchion Tybaco
  • Cynllun Stampiau’r Doll Fepio
  • Toll Cynhyrchion Fepio
  • TAW

Rhagor o wybodaeth ar-lein am wiriadau cydymffurfio

Ewch i GOV.UK a chwiliwch am ‘Cael help os yw CThEF yn cysylltu â chi ynglŷn â gwiriad cydymffurfio’ i gael rhagor o wybodaeth a help ar-lein. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • cysylltiadau i’n cyfres fideo
  • canllawiau cam wrth gam ar gyfer ein gwiriadau cydymffurfio

Gwybodaeth ychwanegol

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’ ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i’r person y buoch yn delio ag ef neu’r swyddfa y buoch yn delio â hi. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.