Canllawiau

Beth mae ar gymdeithasau masnach angen gwybod am gyfraith cystadleuaeth?

Cyhoeddwyd 25 September 2014

Gwybodaeth y mae ar gymdeithasau masnach angen gwybod am gyfraith cystadleuaeth.

Mae cymdeithasau masnach yn chwarae rhan bwysig o ran hyrwyddo buddiannau eu haelodau. Fodd bynnag, os defnyddir cymdeithas fasnach fel ffordd i greu neu annog trosedd ar gyfraith cystadleuaeth, yna gallai’r gymdeithas a’i haelodau wynebu golygiadau difrifol.

Pethau y dylech eu gwneud

  • cofio y gall y gymdeithas ei hun fod yn atebol o ran toriadau cyfraith cystadleuaeth, ac y gall hyn arwain at oblygiadau ariannol ac enw da i’r gymdeithas
  • sefydlu polisi cydymffurfiad cystadleuaeth i’r gymdeithas, a sicrhau bod aelodau yn gyfarwydd â hyn
  • gofyn i aelodau adael, ac i adrodd i’r gymdeithas neu’r CMA am unrhyw gyfarfodydd gyda chystadleuwyr ble trafodir gwybodaeth sy’n gystadleuol sensitif
  • sicrhau bod unrhyw amodau a thelerau contract safonol a ddatblygir gan y gymdeithas yn glir, hawdd i’w deall, mewn iaith blaen ac yn deg i ddefnyddwyr
  • sicrhau bod rheolau a meini prawf mynediad i’r gymdeithas yn dryloyw, cymesur, anwahaniaethol ac yn seiliedig ar safonau gwrthrychol
  • sicrhau bod y gofynion ar gyfer unrhyw gynlluniau ardystio ansawdd mae’r gymdeithas yn eu gweithredu yn deg, rhesymol ac ar gael i bob busnes sy’n eu bodloni

Pethau na ddylech eu gwneud

  • cael rheolau sy’n atal yr aelodau rhag gwneud penderfyniadau masnachol annibynnol
  • gadael i’r gymdeithas fod yn sianel ar gyfer, neu hwyluso mewn unrhyw ffordd, rhannu gwybodaeth gystadleuol sensitif rhwng aelodau am brisio, cwsmeriaid neu gynlluniau allbwn
  • caniatáu i aelodau drafod gwybodaeth gystadleuol sensitif yn neu o amgylch digwyddiadau’r gymdeithas, yn cynnwys mewn ‘cyfarfodydd answyddogol’ neu mewn digwyddiadau cymdeithasol
  • cyhoeddi argymhellion prisio neu allbwn ffurfiol nac anffurfiol i aelodau
  • datblygu rheolau neu arferion y gymdeithas sy’n cyfyngu aelodau rhag hysbysu eu prisiau neu ostyngiadau, ceisio sicrhau busnes neu gystadlu fel arall gydag aelodau eraill
  • gofyn i aelodau ddarparu’r gymdeithas â gwybodaeth gystadleuol sensitif, fel gwybodaeth am brisio ac/neu fwriadau allbwn
  • cyhoeddi negeseuon yn awgrymu bod prisiau is yn golygu ansawdd is
  • sefydlu rheolau amherthnasol neu fympwyol ar gyfer derbyn aelodau newydd
  • mabwysiadu rheolau sy’n cyfyngu arferion busnes hysbysebu a hyrwyddo aelodau, tu hwnt i sicrhau fod yr arferion yn gyfreithlon, gwir ac nad ydynt yn camarwain
  • atal aelodau rhag defnyddio gwahanol amodau cytundebol i unrhyw amodau safonol a ddatblygwyd gan y gymdeithas, os dymunant wneud hynny

Beth yw gwybodaeth gyda sensitifrwydd cystadleuol?

Mae gwybodaeth gyda sensitifrwydd cystadleuol yn cwmpasu unrhyw wybodaeth strategol nad yw’n gyhoeddus am bolisi masnachol busnes. Mae’n cynnwys, ond nid wedi ei gyfyngu i, gynlluniau prisio ac allbwn yn y dyfodol. Mae gwybodaeth fasnachol hanesyddol yn llawer llai tebygol o fod yn gystadleuol sensitif, yn arbennig os na ellir adnabod gweithgareddau masnachol busnesau unigol.

Am ragor o wybodaeth ar gydymffurfio a thrugaredd: https://www.gov.uk/cartels-price-fixing/report-anticompetitive-activity

Nid yw’r deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.