Adroddiad corfforaethol

Cynllun Blynyddol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd 2022 i 2023

Mae Cynllun Blynyddol y CMA ar gyfer 2022 i 2023 yn gosod ein strategaeth a’n gweledigaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Dogfennau

Manylion

Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yw prif awdurdod cystadleuaeth a phrynwyr y Deyrnas Unedig.

Mae ein Cynllun Blynyddol yn esbonio sut y byddwn yn amddiffyn prynwyr, yn meithrin cystadleuaeth ac yn cefnogi twf carbon isel ledled y DU. Bydd hyrwyddo cystadleuaeth yn bwysicach nag erioed gan fod y DU yn wynebu cynnydd sylweddol mewn costau byw a bydd y CMA yn parhau i ddatblygu dealltwriaeth well o effaith hyn ar fusnesau a phrynwyr, yn enwedig y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Daw hyn wrth i’r CMA barhau i ddatblygu a sefydlu ein cyfrifoldebau newydd sylweddol, gan gynnwys:

  • Swyddfa’r Farchnad Fewnol (OIM)
  • Uned Marchnadoedd Digidol (DMU)
  • paratoadau ar gyfer yr Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau (SAU)

Bydd y CMA yn parhau i ehangu ei bresenoldeb yng nghenhedloedd a rhanbarthau’r DU.

Cyhoeddwyd ar 24 March 2022