Papur polisi

Polisi Tŷ’r Cwmnïau ar yr amgylchedd 2023

Diweddarwyd 17 May 2024

Asiantaeth Weithredol o fewn yr Adran Busnes a Masnach (DBT) yw Ty’r Cwmnïau. Mae ganddo dair prif swyddogaeth:

  • orffori, ailgofrestru a diddymu cwmnïau
  • ofrestru dogfennau y mae’n rhaid eu ffeilio o dan ofynion y Ddeddf Cwmnïau
  • arparu gwybodaeth am gwmnïau i’r cyhoedd

Mae Tŷ’r Cwmnïau’n cydnabod yr angen i fusnesau weithredu mewn modd mwy cynaliadwy, gan roi sylw i ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Nod yr Asiantaeth yw gweithredu mewn ffordd gynaliadwy fel bod yr ystyriaethau hyn yn dod yn rhan annatod a sylfaenol o’i gweithrediadau busnes.

Mae Tŷ’r Cwmnïau’n gwybod bod ei weithrediadau o ddydd i ddydd yn cael effaith ar yr amgylchedd naturiol. Eir i’r afael â’r effeithiau hyn trwy weithredu’r system reoli amgylcheddol a gydnabyddir yn rhyngwladol, sef ISO 14001:2015. Mae cwmpas y system rheoli amgylcheddol yn cwmpasu’r holl weithgareddau a gwasanaethau yn Ffordd y Goron, Caerdydd.

Caiff holl effeithiau amgylcheddol sylweddol gweithrediadau’r Asiantaeth eu hasesu a chaiff amcanion a thargedau eu gosod a’u hadolygu, er mwyn hybu gwelliant parhaus ein perfformiad amgylcheddol.

Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n:

  • diogelu’r amgylchedd a sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei gyfathrebu a’i weithredu ar bob lefel yn y gweithlu
  • cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw achos o lygredd yn cael ei atal a bod diogelwch yr amgylchedd naturiol yn cael ei ddiogelu
  • fel isafswm, cydymffurfio â phob rhwymedigaeth cydymffurfio ac adolygu’r gofrestr cydymffurfio yn flynyddol
  • darparu adnoddau priodol a’r hyfforddiant angenrheidiol i staff a chontractwyr os yn berthnasol, i sicrhau y gallant gyflawni’r ymrwymiad a roddir yn y polisi hwn
  • lleihau’r ynni, dŵr a deunyddiau a ddefnyddir, a’r gwastraff a gynhyrchir o holl weithrediadau’r Asiantaeth, adrodd am ein Hymrwymiadau Llywodraeth Werdd i DBT bob chwarter
  • hybu rhan weithredol yn y gwaith o gynorthwyo’r gymuned leol a gwella ein hamgylchedd lleol
  • gweithio ar y cyd ag Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth a darparwr Rheoli Cyfleusterau Cyflawn ar y safle dwy roi mesurau rheoli ar waith i atal llygredd o’n gweithgareddau

Mae’r ddogfen bolisi hon ar gael o wneud cais i unrhyw bartïon allanol sydd â diddordeb.

Cymeradwywyd ac arwyddwyd y ddogfen bolisi hon ar 13 Mai 2024 gan Louise Smyth, Prif Weithredydd Tŷ’r Cwmnïau a Chofrestrydd Cwmnïau Cymru a Lloegr.