Adroddiad corfforaethol

Cynllun Blynyddol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd 2023 to 2024.

Mae cynllun blynyddol y CMA ar gyfer 2023 i 2024 yn amlinellu strategaeth newydd y CMA a'r meysydd y bydd yn canolbwyntio arnynt dros y 12 mis nesaf.

Dogfennau

Cynllun Blynyddol yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd 2023 to 2024.

Manylion

Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (y CMA) yw prif awdurdod cystadleuaeth a defnyddwyr y DU. Mae’r CMA yn defnyddio dull gweithredu newydd ar gyfer ei Gynllun Blynyddol eleni. Yn wahanol i’r gorffennol, rydym yn gosod y Cynllun Blynyddol ar gyfer 2023/24 mewn dau gyfnod amser: ein huchelgais a’n blaenoriaethau tymor canolig ar gyfer y 3 blynedd nesaf, a’r meysydd allweddol y mae’r CMA yn bwriadu canolbwyntio arnynt yn ystod y 12 mis nesaf.

Rydym yn amlinellu diben y CMA yn gyntaf – helpu pobl, busnesau ac economi’r DU drwy hyrwyddo marchnadoedd cystadleuol a mynd i’r afael ag ymddygiad annheg – a sut mae’r diben hwn yn ffurfio ein huchelgais. Yn ail, rydym yn esbonio ein huchelgais yn nhermau’r canlyniadau rydym eisiau helpu i’w cyflawni dros y tymor canolig a’r hirdymor:

  • gall pobl fod yn hyderus eu bod yn cael dewisiadau gwych a bargeinion teg

  • gall busnesau cystadleuol, sy’n bargeinio’n deg, arloesi a ffynnu

  • gall economi gyfan y DU dyfu’n gynhyrchiol ac yn gynaliadwy.

Yn drydydd, mae ein Cynllun Blynyddol yn mynd ati i amlinellu ein blaenoriaethau tymor canolig ar gyfer y tair blynedd nesaf a’n meysydd ffocws penodol ar gyfer 2023 to 2024.

Cyhoeddwyd ar 23 March 2023