Ffurflen

Ffurflen ad-dalu ffi dirprwyaeth

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am ad-daliad ffi dirprwyaeth. Llenwch ffurflen ar-lein neu gopi caled a’i hanfon drwy’r post neu fel atodiad e-bost, ynghyd â'ch tystiolaeth.

This publication was withdrawn on

The information on this page is out of date and it is no longer possible to claim a deputyship fee refund.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Dogfennau

Gwneud cais am ad-daliad ffioedd dirprwy (OPG108)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch customerservices@publicguardian.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gallwch wneud cais am ad-daliad ar gyfer ffioedd dirprwyaeth a dalwyd i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2015.

Os ydych chi’n ddirprwy yn gweithredu o dan orchymyn llys presennol, does dim angen i chi wneud cais am ad-daliad. Byddwch yn cael un yn awtomatig os gwnaeth eich cleient dalu gormod o ffioedd.

Ffurflen rydych chi’n ei llenwi â llaw

I ddefnyddio’r PDF yma:

  1. argraffwch y ffurflen

  2. llenwch hi â llaw

  3. llofnodwch hi

  4. anfonwch hi drwy’r post gyda’ch tystiolaeth

Ffurflen rydych chi’n ei llenwi ar y sgrin

Gallwch lenwi’r ffurflen hon a’i chadw gan ddefnyddio Adobe Reader XI. Os byddwch yn ei chadw ar eich cyfrifiadur, does dim rhaid i chi lenwi’r ffurflen i gyd ar unwaith.

I ddefnyddio’r PDF rhyngweithiol yma:

  1. cadwch y ffurflen ar eich cyfrifiadur

  2. llenwch hi

  3. cadwch hi ar eich cyfrifiadur a’i hanfon fel atodiad e-bost gyda’ch tystiolaeth, neu argraffwch y ffurflen wedi’i llenwi a’i phostio gyda’ch tystiolaeth.

Gwneud cais drwy e-bost

Anfonwch y ffurflen a’ch tystiolaeth fel atodiadau e-bost i: DeputyshipFeeRefunds@justice.gov.uk

Bydd angen i chi atodi copïau wedi’u sganio neu luniau clir o ddogfennau gwreiddiol. Ni allwch anfon e-bost mwy na 10MB, ond gallwch anfon mwy nag un e-bost.

Rhowch ‘Cais am ad-daliad ffi dirprwyaeth’ fel pwnc yr e-bost.

Gwneud cais drwy’r post

Postiwch y ffurflen a’ch tystiolaeth i:

Deputyship fee refunds
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
PO Box 10796
Nottingham
NG2 9WF

Fformatau amgen

I gael dogfen mewn print bras, anfonwch e-bost i: customerservices@publicguardian.gov.uk. Cofiwch roi eich cyfeiriad.

Gwybodaeth bersonol

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ymroddedig i drin eich data personol mewn ffordd gyfrifol a’i gadw’n ddiogel.

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac mae’n cael ei ddiogelu yn y gyfraith gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).

Gwybodaeth am sut mae OPG yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Gorffennaf 2025 show all updates
  1. Updated crown logo and version date

  2. Contact centre, Relay and international numbers updated

  3. Updated the opening times for the Contact centre

  4. Added translation

  5. Added translation

Argraffu'r dudalen hon